Diweddariad o ran recriwtio myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer cyrsiau AGA yn 2026 a'u cefnogi: asesiad effaith integredig
Asesiad o effaith y diweddariad o ran Recriwtio myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer cyrsiau AGA yn 2026 a'u cefnogi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gweithredoedd a rhesymu Llywodraeth Cymru
Mae'r cynnig hwn yn cefnogi cyhoeddi'r diweddariad o ran Recriwtio myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer cyrsiau AGA yn 2026 a'u cefnogi. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Cymru i fod yn wlad wrth-hiliol. Mae'r diweddariad hwn yn gydnaws â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Mae'r diweddariad o ran Recriwtio myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer cyrsiau AGA yn 2026 a'u cefnogi yn amlinellu dull strategol, aml-sector Llywodraeth Cymru o gynyddu amrywiaeth ethnig yn y gweithlu addysgu. Pwrpas diweddariad AGA 2026 yw:
- adeiladu ar ymdrechion blaenorol
- sicrhau recriwtio cynaliadwy, gwrth-hiliol
- cefnogi darpar athrawon ethnig leiafrifol ledled Cymru
3 thema allweddol y diweddariad
- Hyrwyddo addysgu fel gyrfa ymhlith cymunedau ethnig leiafrifol drwy farchnata cynhwysol, estyn allan a chymhellion.
- Cymorth i fyfyrwyr drwy wasanaethau eirioli, arweiniad wedi'i deilwra, paneli recriwtio cynhwysol, a lleoliadau sy'n sensitif i ddiwylliant.
- Datblygu polisi sy'n canolbwyntio ar ymgorffori arferion gwrth-hiliol mewn rhaglenni AGA, dad-drefedigaethu'r cwricwlwm, a sicrhau newid systemig.
Mae Llywodraeth Cymru a'i rhanddeiliaid AGA allweddol, gan gynnwys partneriaethau AGA, Addysgwyr Cymru a Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliaeth (DARPL) am ymgymryd â'r dasg o gydymdrechu i:
- adolygu cynlluniau recriwtio a gwella gwasanaethau cymorth
- hyrwyddo hyfforddiant gwrth-hiliol a gwella'r data a gesglir ar ddigwyddiadau hiliol
Mae partneriaethau AGA wedi datblygu cynlluniau recriwtio sydd wedi'u teilwra i unigolion, sy'n gydnaws â'r diweddariad hwn ac â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Maent yn cynnwys targedau, camau gweithredu ac adolygiadau penodol sy'n ganolog i yrru'r newid hwn yn ei flaen ar lawr gwlad ym mhob partneriaeth AGA.
Tangynrychiolaeth ymhlith athrawon
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: diweddariad 2024 yn diwygio ac yn adeiladu ar y nodau a'r camau gweithredu a amlinellir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2022). Mae diweddariad 2026 yn ymrwymo Llywodraeth Cymru a'r sefydliadau y mae gennym gyfrifoldeb uniongyrchol drostynt i weithredu i sicrhau bod staff ethnig leiafrifol yn cael eu cynrychioli yn holl feysydd y gweithlu ar lefel sy'n cyfateb i'r gymdeithas yr ydym yn ei gwasanaethu. Er nad yw athrawon ysgol yng Nghymru yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, mae'r ymrwymiad i sector cyhoeddus cynrychioliadol yn ymestyn i weithlu addysgu ysgolion. Mae hyn yn ychwanegol at ein nod addysg-benodol o gynyddu'r athrawon a recriwtir o gymunedau ethnig leiafrifol, gan ganolbwyntio'n benodol ar recriwtio i raglenni addysg gychwynnol athrawon.
Ym mis Tachwedd 2024, roedd 1.3% o'r gweithlu addysgu yng Nghymru yn nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd, o ethnigrwydd Cymysg neu ethnigrwydd Arall.
Mae canlyniadau Cyfrifiad Ysgolion Ionawr 2025 yn dangos cynnydd i 15% yn nysgwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cymru.
Mae data cyfredol HESA yn dangos bod 16% o'r cofrestriadau ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig nad ydynt yn rhai AGA yng Nghymru gan fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o gymharu â dim ond 6% ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig AGA.
Mae gwaith ymchwil gan Gomisiynydd Plant Cymru yn 2023, Adroddiad Sbotolau: 'Cymerwch y peth o ddifri': Profiadau Plant o Hiliaeth mewn Ysgolion Uwchradd yn darparu tystiolaeth bellach ar yr angen i gynyddu amrywiaeth y gweithlu addysgu a gwella profiadau pob plentyn a pherson ifanc mewn ysgolion.
Dywedodd plant y bydden nhw’n hoffi gweld athrawon mwy amrywiol eu cefndir ethnig, a fyddai’n deall gwahanol ddiwylliannau ethnig yn well, yn ogystal â chydymdeimlo’n fwy â’u profiadau o hiliaeth." (Comisiynydd Plant Cymru, 2023:31)
Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil yn cyfeirio yn adroddiad 2024 Concluding observations on the combined twenty-fourth to twenty-sixth periodic reports of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland at ei bryderon ynghylch tangynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ymhlith athrawon yn y system ysgolion, gan argymell cymryd camau effeithiol i gynyddu'r gynrychiolaeth er mwyn adlewyrchu'n well y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Yn ei adroddiad, A Flying Start: Improving Initial Teacher Preparation Systems (2019)(OECD):
...nododd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD): "In many OECD countries, the increasingly diverse student population does not match with a teacher workforce that is largely homogeneous (Nusche, 2009[20])." "This is particularly important given the growing literature on the positive effect of same-race teachers on ethnic-minority students in terms of performance, role-modelling, motivation and the overall educational experience of not only ethnic minority students, but of low-income students of both sexes. (Gershenson et al., 2017[21]).
Yn 2019, comisiynodd Llywodraeth Cymru Gyngor y Gweithlu Addysg i gynnal adolygiad aml-gam o'r dystiolaeth o amrywiaeth ethnig yng ngweithlu ysgolion. Roedd y data a gasglwyd ar y pryd yn cadarnhau adroddiad yr OECD, ac yn dangos diffyg cynrychiolaeth difrifol o bobl ethnig leiafrifol yn y gweithlu addysgu. Dim ond 3% o athrawon yng Nghymru ar gofrestr Cyngor y Gweithlu Addysg a oedd yn ystyried eu hunain yn unigolion ethnig leiafrifol o gymharu â 12% ymhlith dysgwyr (Cyngor y Gweithlu Addysg, 2020:11) (yn 2025, mae'r ffigur wedi codi i 15%). Roedd data'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion ym mis Tachwedd 2021 yn dangos mai dim ond 1.1% o athrawon oedd o ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu ethnigrwydd Arall. Yn 2024 mae hyn bellach yn 1.3%.
Nododd casgliadau'r cyntaf o adroddiadau Cyngor y Gweithlu Addysg (2020: 50) fod y diffyg amrywiaeth ethnig yng ngweithlu ysgolion wedi'i nodi'n gyson fel problem y dylid mynd i'r afael â hi yng Nghymru (CACC, 2003. Evans, 2013. Betteley, 2017. Wiegand a Cifuentes, 2018). Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, ym mis Gorffennaf 2020 comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Athro Charlotte Williams i gadeirio Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd. Cafodd adroddiad terfynol y grŵp hwn ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2021. Roedd yn cynnwys argymhellion, yn seiliedig ar y data recriwtio a oedd ar gael, yn galw am wneud mwy i ddenu rhagor o ymgeiswyr i raglenni AGA o leiafrifoedd ethnig. Derbyniwyd yr argymhellion hyn gan y Gweinidog Addysg blaenorol.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru hefyd adroddiad drwy Brifysgol Metropolitan Caerdydd i archwilio'r sefyllfa o ran yr athrawon o gefndiroedd ethnig leiafrifol sy'n cael eu recriwtio a'u cadw yng Nghymru. Yn 2021 cyhoeddwyd Recriwtio a Chadw Athrawon Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru, Astudiaeth Ymchwil Ansoddol. Roedd yn tynnu ar safbwyntiau dysgwyr 14 oed ac yn hŷn, myfyrwyr ac athrawon o gefndiroedd ethnig leiafrifol. Roedd yn canolbwyntio ar ganfyddiad unigolion a'r diffyg amrywiaeth yn y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae gwaith ymchwil pellach yn cael ei wneud i archwilio effaith newidiadau a weithredwyd yn dilyn cyhoeddi'r astudiaeth ymchwil ansoddol hon.
Cefndir
Roedd synergedd clir ar draws canfyddiadau, tystiolaeth ac argymhellion annibynnol y gwahanol adroddiadau ochr yn ochr â'r angen i fynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys, a dyna oedd man cychwyn y gwaith hwn. O ganlyniad, cyhoeddwyd Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon ar 21 Hydref 2021 i fwrw ymlaen â'r argymhellion a wnaed o dan yr adroddiadau a nodwyd, a chynyddu amrywiaeth y gweithlu addysgu drwy gamau gweithredu tymor byr a chanolig penodol. Mae camau gweithredu fersiwn gyntaf y cynllun recriwtio AGA wedi'u cwblhau. Mae'r cynnig hwn, gan gynnwys y fersiwn newydd (y mae'r cynnig hwn yn ei chefnogi), yn dod o dan waith ac ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i Gymru wrth-hiliol, ac yn ei ategu.
Mynd i'r afael ag anoddefgarwch hiliol, ethnig a chrefyddol, sy'n systemig a sefydliadol, yw un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru wrth symud tuag at Gymru wrth-hiliol. Mae'n ffurfio rhan o'r gwaith ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu i sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol fyw mewn Cymru amrywiol, ddiogel a chydlynus. Datblygwyd argymhellion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol mewn perthynas ag addysg gyda chymorth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Darparwyd adolygiadau o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru ynghylch Gwella Cydraddoldeb Hiliol ym maes Addysg (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, 2021) a Gwella Cydraddoldeb Hiliol ym maes Cyflogaeth ac Incwm (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, 2021). Roedd adroddiad addysg Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi cyfres o argymhellion ar gyfer recriwtio gweithlu addysgu amrywiol ac ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol. Roedd y rhain hefyd yn bwydo i mewn i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac yn cyd-fynd i raddau helaeth â'r syniadau polisi a'r argymhellion a amlinellir yn adroddiadau Cyngor y Gweithlu Addysg.
Fel y mae Asesiad Effaith Cymru Wrth-hiliol: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn ei nodi:
Mae gwreiddiau anghydraddoldeb yn aml i’w canfod yn ystod plentyndod a bydd hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn gwella cyfleoedd bywyd plant heddiw ac yfory. Mae addysg yn faes polisi canolog o fewn y Cynllun ac mae rhai o’r nodau a’r camau gweithredu yn cynnwys, ...cynyddu cynrychiolaeth Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithlu a chynyddu’r sylw at eu cyfraniadau yn y cwricwlwm. Bydd y nodau a’r camau gweithredu hyn, ynghyd ag eraill mewn gwahanol feysydd polisi oll o fudd uniongyrchol i bob plentyn a pherson ifanc, yn enwedig plant
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Mae ein hymrwymiad i Gymru Wrth-hiliol yn cynnwys cynyddu nifer yr athrawon o gymunedau ethnig leiafrifol a gaiff eu recriwtio i'r sector Addysg, gan gynnwys y nifer a gaiff eu recriwtio i raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon, ac mae'r cynllun yn nodi:
Nid yw diffyg cynrychiolaeth mewn rolau ymarferwyr ac arweinwyr, gan gynnwys ar gyrff llywodraethu, yn gwneud dim i fagu uchelgais ymhlith ein plant a’n pobl ifanc, y mae angen iddynt adnabod eu hunain a’u profiadau eu hunain ymhlith eu harweinwyr.
Mae'r cynnig hwn i gynyddu niferoedd yr athrawon amrywiol a gaiff eu recriwtio drwy AGA yn parhau o dan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Diweddariad 2024. Mae'r cynnig hefyd yn gydnaws â nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i greu Cymru sy'n fwy cyfartal, lle mae gan bawb:
- y cyfle i gymryd rhan
- cyflawni eu potensial
- cyfrannu'n llawn at eu dysgu a'u datblygiad eu hunain, gan alluogi Cymru i fod yn fwy llewyrchus ac arloesol
Gan mai'r effaith ar ddysgwyr fydd eu bod yn gweld mwy o athrawon o leiafrifoedd ethnig yn y dosbarth, bydd hyn yn cefnogi dysgwyr o leiafrifoedd ethnig o ran cynrychiolaeth. Fodd bynnag, bydd hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth pob dysgwr o'r amrywiaeth ddiwylliannol a hiliol sy'n bodoli o fewn cymdeithas Cymru (Llywodraeth Cymru 2021). Fel y mae CACC (2003) yn ei nodi:
Mae angen sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn dod i gysylltiad ag unigolion o gefndiroedd ethnig a diwylliannol gwahanol. Yn ogystal â bod yn athrawon rhagorol, gall unigolion o wahanol gefndiroedd ethnig a diwylliannol helpu i ddatblygu dealltwriaeth ymhlith disgyblion o anghenion unigolion o wahanol gefndiroedd.
Mae hyn yn cyd-fynd â'r nodau ar gyfer Cymru Wrth-hiliol ac, yn anuniongyrchol, mae'n cefnogi'r Nod Llesiant o greu Cymru o gymunedau cydlynus a diogel.
Mae gweithredu'r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn creu heriau penodol i ni, gan gynnwys sicrhau gweithlu o faint, ansawdd ac arbenigedd digonol i:
- ddatblygu ac addysgu'r cwricwlwm
- sicrhau effeithiau cadarnhaol i holl ddysgwyr Cymru, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015)
Mae llwyddiant sawl un o strategaethau'r Llywodraeth ac Ymrwymiadau Gweinidogol yn sylfaenol ddibynnol ar sicrhau cyflenwad digonol o athrawon a denu pobl i'r proffesiwn addysgu.
Y cyd-destun presennol
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal ail astudiaeth ar recriwtio a chadw athrawon ethnig leiafrifol yng Nghymru. Ei nod yw asesu'r sefyllfa bresennol, nodi unrhyw gynnydd a wnaed, archwilio effaith newidiadau a thynnu sylw at heriau sy'n parhau ers yr ymchwil ansoddol yn 2021. Caiff canfyddiadau'r ymchwil a'r adroddiadau, ynghyd ag unrhyw effeithiau, eu hystyried pan fyddant ar gael.
Roedd adroddiad Cyngor y Gweithlu Addysg (2020) yn dangos, yn y data a oedd ar gael gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar y pryd, fod cyfran y graddedigion a oedd yn dod o bob un o'r grwpiau ethnig leiafrifol yn uwch nag a oedd yn mynd i mewn i AGA yng Nghymru, gan danlinellu i ba raddau y mae'r rhai sy'n mynd i'r proffesiwn addysgu yn llai amrywiol na'r garfan gyffredinol o bobl sy'n gadael prifysgolion Cymru (2020:24). Mae data cyfredol HESA (gweler yr adran ar y cyd-destun presennol) yn dynodi, er bod ein canran o ddarpar athrawon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi cynyddu (i 6% o 5% yn 2021 i 2022) fel cyfran o gyfanswm cofrestriadau AGA, fod cofrestriadau gan fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn is ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig AGA o gymharu â chyrsiau ôl-raddedig nad ydynt yn rhai AGA.
Mae data HESA yn dangos bod yr angen yn dal yno i ddenu graddedigion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i ystyried addysgu fel gyrfa drwy raglenni AGA. Er bod gwelliannau i'w gweld yn y data recriwtio i gyrsiau AGA, a allai fod i'w briodoli i weithredu Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn 2021 (ochr yn ochr â gweithredu Cynllun Cymhelliant AGA i Bobl Ethnig Leiafrifol, 2022), mae data'r gweithlu yn parhau i ddangos lefelau isel o amrywiaeth o gymharu ag amrywiaeth gynyddol ein dysgwyr yng Nghymru.
Er mwyn denu mwy o athrawon o gymunedau ethnig leiafrifol, mae angen i gamau bwriadol gael eu cymryd ym mhob rhan o'r sector addysg, a hynny gan amrywiaeth eang o sefydliadau, dros gyfnod o sawl blwyddyn. Cydnabyddir bod gwahanol sectorau yn y system addysg yn gweithredu'n anghyson â'i gilydd. Mae angen i bob sector ledled Cymru weithio gyda'i gilydd i gefnogi unigolion yn llawn ac i gynyddu amrywiaeth ethnig yn y gweithlu addysgu. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ym maes AGA dros yr ychydig flynyddoedd dan sylw i gefnogi ymdrechion recriwtio i'r proffesiwn addysgu, ond rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio â rhanddeiliaid ar draws pob maes addysgol i sicrhau cysondeb o ran y wybodaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael ar draws y sector addysg cyfan, ynghyd â'r ymwybyddiaeth ohoni.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i symud ymlaen mewn ffordd ystyrlon a chynaliadwy i gefnogi unigolion ethnig leiafrifol wrth iddynt fynd i mewn i AGA a dechrau eu gyrfaoedd addysgu. Mae'r cynnig hwn i gyhoeddi'r diweddariad o ran Recriwtio myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer cyrsiau AGA yn 2026 a'u cefnogi yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma. Mae'n nodi amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector AGA dros y blynyddoedd nesaf i fynd i'r afael â'r diffyg amrywiaeth a welir yn gyson yn y gweithlu addysgu, ac i ddarparu cefnogaeth gadarn i'r rhai sy'n ymuno â'r proffesiwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro data a thystiolaeth er mwyn llywio a chryfhau'r gwaith o recriwtio i AGA.
Casgliad
Mynd i'r afael ag anoddefgarwch hiliol, ethnig a chrefyddol yw un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru wrth symud tuag at Gymru wrth-hiliol. Mae'n ffurfio rhan o'r gwaith ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu i sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol fyw mewn Cymru amrywiol, ddiogel a chydlynus. Mae'r cynnig hwn yn ymwneud ag ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo newid systematig yn y sector addysg drwy sicrhau bod ein gweithlu addysg yn ddiwylliannol amrywiol, yn cynrychioli ein poblogaeth ddisgyblion ac yn creu Cymru fwy cyfartal.
Mae'r gwaith o alinio'r canfyddiadau, y dystiolaeth a'r argymhellion annibynnol o sawl adroddiad wedi golygu gwaith ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid. Cynhaliwyd cyfarfodydd, cyfweliadau, a grwpiau ffocws.
Roedd y rhain yn cynnwys:
- pobl sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- siaradwyr Cymraeg a grwpiau arbenigol y Gymraeg
- pobl eraill a allai gael eu heffeithio gan y cynnig
Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon (2021), a'r diweddariad hwn, wedi cynnwys y rhai sy'n ymwneud â darparu AGA ynghyd â chynrychiolwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol.
Gweithwyr addysg proffesiynol oedd yn cynrychioli safbwyntiau plant yn bennaf. Fodd bynnag, mae adroddiadau fel Adroddiad Sbotolau Comisiynydd Plant Cymru, 'Cymerwch y peth o ddifri', yn canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â hiliaeth mewn addysg. Cafodd dysgwyr dros 14 oed eu cynnwys yng ngwaith ymchwil Prifysgol Metropolitan Caerdydd 2021. Mae enillwyr Gwobr MBE Betty Campbell am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2022, sy'n mynychu Ysgol Uwchradd Llanwern, wedi sefydlu Clwb Amrywiaeth ar y cyd â dysgwyr Ysgol Glantaf. Dechreuodd y Clwb Amrywiaeth ar brosiect i gynhyrchu 6 ffilm unigryw i annog unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i fynd i faes addysgu yng Nghymru.
Mae'r fideos hyn wedi'u rhannu â rhanddeiliaid ac mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio rhai o'r delweddau o ddysgwyr fel rhan o ymgyrch recriwtio Addysgu Cymru. Nid yw ffilmiau'r Clwb Amrywiaeth wedi'u cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, ond fe'u defnyddiwyd yn y digwyddiad lansio ac fel rhan o Becyn Rhanddeiliaid ym mis Ebrill 2023. Bydd y caniatâd i rannu ffilmiau'r Clwb Amrywiaeth yn dod i ben ym mis Ebrill 2026.
Effeithiau mwyaf y cynnig fydd yr effeithiau cadarnhaol uniongyrchol ar gymunedau ethnig leiafrifol a'u plant. Bydd y cynnydd yn y staff addysgu o leiafrifoedd ethnig yn hyrwyddo'r proffesiwn (y gellir ei ystyried yn broffesiwn gwaith teg) fel un deniadol a chynhwysol, gan sicrhau mwy o gynrychiolaeth o fewn y sector addysg ar yr un pryd. Yr effaith ar ddysgwyr fydd eu bod yn gweld mwy o athrawon o leiafrifoedd ethnig yn y dosbarth. Bydd hyn yn cefnogi dysgwyr o'r cymunedau hynny, o ran gallu eu gweld eu hunain yn y proffesiwn, a thrwy gynyddu ymwybyddiaeth pob dysgwr o'r amrywiaeth ddiwylliannol a hiliol sy'n bodoli o fewn ysgolion a chymdeithas Cymru.
Bydd cynyddu'r amrywiaeth ymhlith myfyrwyr AGA, ac felly ymhlith y gweithlu addysgu, o dan y Cwricwlwm i Gymru, yn ei gwneud yn bosibl addysgu mewn ffordd fwy amrywiol mewn perthynas ag amrywiaeth diwylliant, treftadaeth a thraddodiadau yng nghymunedau Cymru. Yn ei dro, gallai hyn effeithio'n gadarnhaol ar lefelau cyfranogiad a chyflawniad diwylliannol dysgwyr, i'r dysgwyr hynny o gymunedau amrywiol, a chan helpu i gynyddu ymwybyddiaeth pob dysgwr o'r amrywiaeth ddiwylliannol a hiliol sy'n bodoli o fewn cymdeithas Cymru. Efallai y bydd y cynnig yn cael effaith gadarnhaol anuniongyrchol ar yr iaith Gymraeg. Gallai cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg o Gymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy'n ymuno â'r proffesiwn gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn eu cymuned, ac o bosibl ledaenu'r defnydd i gymunedau newydd neu gymunedau amlieithog.
Bydd y diweddariad yn cefnogi ein hamcanion i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru y cyfle i:
- gymryd rhan
- cyflawni eu potensial
- cyfrannu'n llawn at eu dysgu a'u datblygiad eu hunain
gan alluogi Cymru i fod yn fwy llewyrchus ac arloesol. Bydd hefyd yn cefnogi'r Nod Llesiant o greu Cymru o gymunedau cydlynus a diogel.
Gellir monitro effaith y cynnig drwy gasglu data sydd eisoes yn digwydd ar ddemograffeg dysgwyr a'r gweithlu addysgu, drwy'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion a chyfrifiad blynyddol Cyngor y Gweithlu Addysg o'r gweithlu. Bydd yr ymchwil sydd ar ddod gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn helpu i archwilio effaith newid drwy eu hail astudiaeth ar recriwtio a chadw athrawon ethnig leiafrifol yng Nghymru.
Nod y gwaith ymchwil hwn yw:
- archwilio ac asesu'r sefyllfa bresennol
- nodi unrhyw gynnydd a wnaed
- tynnu sylw at heriau sy'n parhau ers yr ymchwil wreiddiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021
Mae'r dystiolaeth hon yn cael ei hategu gan nifer y cofrestriadau gan fyfyrwyr ethnig leiafrifol ar raglenni AGA, ar sail data HESA.
Hawliau plant
Gallai'r cynnig effeithio'n gadarnhaol ac yn anuniongyrchol ar yr erthyglau canlynol:
- Erthygl 3 (yr hyn sydd orau i bob plentyn) Rhaid i'r hyn sydd orau i'r plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a cham gweithredu sy’n effeithio ar blant.
- Erthygl 29 (amcanion addysg) Rhaid i addysg ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd pob plentyn yn gyflawn. Rhaid iddi annog plant i barchu hawliau dynol, yn ogystal â'u rhieni, eu diwylliant nhw a diwylliannau eraill, a'r amgylchedd.
- Erthygl 30 (plant o grwpiau lleiafrifol neu frodorol) Mae gan bob plentyn yr hawl i ddysgu a defnyddio iaith, arferion a chrefydd eu teuluoedd, p'un a yw'r rhain yn cael eu rhannu gan fwyafrif pobl y wlad lle maent yn byw neu beidio.
Bydd cynyddu cynrychiolaeth pobl o gymunedau ethnig leiafrifol o fewn y gweithlu addysgu mewn ysgolion yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc, fel y'i hamlinellir ac y'i disgrifir yn:
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru (2022 a 2024) a'i sylfaen dystiolaeth ategol (adroddiadau Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru).
- Canfyddiadau adroddiadau 2020 a 2021 Cyngor y Gweithlu Addysg (Cynrychiolaeth i bobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o fewn gweithlu ysgolion yng Nghymru).
Fodd bynnag, mae'r diweddariad hwn yn uniongyrchol gysylltiedig â darpar athrawon. Mae'r effeithiau cadarnhaol a nodwyd uchod, felly, yn fach ac yn anuniongyrchol. Byddant yn cymryd peth amser i gael effaith.
Sefydlodd disgyblion Ysgol Uwchradd Llanwern ac Ysgol Glantaf y Clwb Amrywiaeth gyda'i gilydd. Dechreuodd y Clwb Amrywiaeth ar brosiect lle roedd disgyblion yn cynhyrchu 6 ffilm unigryw i annog unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i fynd i faes addysgu yng Nghymru. Bydd y caniatâd i rannu ffilmiau'r Clwb Amrywiaeth yn dod i ben ym mis Ebrill 2026.
Cafodd pobl ifanc (14 oed ac yn hŷn) eu cyfweld fel rhan o'r ymchwil a arweiniodd at gychwyn y cynnig a'r adroddiadau sy'n sail i'r maes polisi hwn, ond ni ofynnwyd iddynt yn uniongyrchol am y cynnig hwn a'i fanylion.
Nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc (o dan 18 oed) ynglŷn â'r cynnig hwn gan mai ag oedolion sydd â mynediad at raglenni AGA y mae'n ymwneud, ac arnyn nhw y mae'n effeithio'n uniongyrchol.
Mae'r cynnig yn cefnogi gwaith i sicrhau gweithlu addysgu sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, sef y prif gyfrwng ar gyfer addysgu plant a phobl ifanc. Yn aml, mae gweithlu amrywiol yn cyflwyno plant a dosbarth i safbwyntiau ehangach, ac mae eu dylanwad o ran straeon, hanes a diwylliannau yn cyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr o amrywiaeth. Mae hyn yn ei dro yn helpu plant a'u teuluoedd i deimlo bod eu cefndiroedd yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu.
Gall diffyg dealltwriaeth am werth amrywiaeth y gweithlu greu tensiwn neu rwystrau i athrawon a phlant rhag integreiddio. Fodd bynnag, bydd dysgu proffesiynol ynghylch tegwch, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth yn helpu i feithrin diwylliant ysgol mwy cynhwysol a chodi ymwybyddiaeth o sut y dylid ymdrin â sefyllfaoedd sensitif, gan gefnogi darpar athrawon a phlant.
Mae'n gwella hawliau plant drwy:
- Erthygl 3: Mae gweithlu addysgu amrywiol yn gwella'r ymgysylltiad â phlant neu pobl ifanc ac yn eu gwneud yn fwy tebygol o lwyddo. Pan fydd plant yn gweld eu hunaniaeth nhw yn cael ei hadlewyrchu yn eu hathrawon, maent yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a'u parchu, ac maent yn fwy tebygol o ffynnu. Gall athrawon sy'n rhannu cefndiroedd diwylliannol neu ieithyddol gyda phlant feithrin cysylltiadau cryfach â nhw, eu teuluoedd, a'u cymunedau, gan gyfoethogi'r profiad ysgol cyffredinol.
- Erthygl 29: Mae cefnogi amrywiaeth mewn addysg hefyd yn galluogi athrawon sydd â phrofiad personol o hiliaeth i roi gwell cefnogaeth i blant y mae hiliaeth yn effeithio arnynt, a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus, empathig ar bob lefel.
- Erthygl 30: Bydd gwella amrywiaeth ymhlith myfyrwyr AGA yn sicrhau bod gan y gweithlu addysgu y sgiliau a'r wybodaeth, o dan y Cwricwlwm i Gymru, i ddarparu addysg fwy amrywiol a dod â safbwyntiau diwylliannol, treftadaeth, profiadau a thraddodiadau cymunedau a gwerthoedd amrywiol Cymru i'r ystafell ddosbarth. Gall yr amrywiaeth hon feithrin ymgysylltiad dyfnach â phlant a phobl ifanc, gan gynyddu ymwybyddiaeth pob plentyn o'r amrywiaeth ddiwylliannol a hiliol, a hyrwyddo arferion gwrth-hiliol yng nghymdeithas Cymru.
Hawliau Dinasyddion yr UE (hyd at 18 oed)
Mae'r cynnig hwn yn edrych ar wella amrywiaeth o fewn y gweithlu addysgu a bydd yn cael effaith amlhaenog ystyrlon ar blant a phobl ifanc. Gallai hyrwyddo opsiwn addysgu fel gyrfa ymhlith unigolion o gefndiroedd lleiafrifol, a gwella amrywiaeth y gweithlu addysgu yng Nghymru yn gyffredinol, gael effaith gadarnhaol o ran Hawliau Dinasyddion yr UE, yn enwedig i bobl ifanc dan 18 oed, drwy gefnogi eu hawl i driniaeth gyfartal a sicrhau na wahaniaethir yn eu herbyn mewn addysg.
