Canllawiau ar gyfer rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 9: ffioedd y safle
Canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol ynghylch rheoli safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.
Ar y dudalen hon
Ffioedd lleiniau a chostau eraill
Rhaid i ffioedd lleiniau fod yn gymesur â maint y llain a’r gwasanaethau a ddarperir ar y safle. Er mai’r awdurdod lleol fydd yn pennu lefel y ffi am y llain, cyfrifoldeb rheolwr y safle yw sicrhau bod preswylwyr yn cael gwerth am arian.
Dim ond gyda chytundeb y preswylydd neu gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl y gellir newid ffioedd lleiniau safleoedd preswyl os yw naill ai’r awdurdod lleol neu breswylydd wedi gwneud cais am newid. Rhaid adolygu ffioedd lleiniau yn flynyddol, ar yr un dyddiad bob blwyddyn (“y dyddiad adolygu”), a rhaid darparu manylion y ffi newydd arfaethedig i breswylwyr 28 diwrnod cyn y bwriedir i’r newid ddechrau.
Os bydd y preswylydd yn gwrthod cytuno â'r newid arfaethedig i’r ffi am y llain, bydd y ffi gyfredol yn parhau i fod yn daladwy tra bo'r awdurdod lleol yn gwneud cais am benderfyniad gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl. Os yw’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn cytuno â’r ffi newydd am y llain a gynigir gan yr awdurdod lleol, rhaid i’r preswylydd dalu’r ffi newydd am y llain o’r dyddiad adolygu ymlaen.
Fodd bynnag, rhaid rhoi 28 diwrnod i’r preswylydd ar ôl penderfyniad y Tribiwnlys Eiddo Preswyl i dalu’r diffyg cyn yr ystyrir bod ganddynt ôl-ddyledion.
Wrth benderfynu ar swm unrhyw ffi newydd am y llain, bydd awdurdodau lleol yn ystyried yn benodol unrhyw gostau a ysgwyddwyd ers yr adolygiad diwethaf o'r ffi am y llain:
- a oedd er budd y preswylwyr
- a oedd yn amodol ar yr ymgynghori gofynnol
- nad oedd y rhan fwyaf o’r preswylwyr wedi anghytuno’n ysgrifenedig â nhw
Rhaid i’r awdurdod lleol hefyd ystyried unrhyw ostyngiad yn amwynder y safle ac effaith unrhyw ddeddfau a allai fod wedi dod i rym ers yr adolygiad diwethaf o'r ffi am y llain.
Rhaid i’r awdurdod lleol beidio ag ystyried y costau canlynol wrth benderfynu ar y newid yn y ffi am y llain:
- unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag ehangu’r safle, fel ffioedd dylunio neu gynllunio
- ni ddylid cynnwys unrhyw gostau a ysgwyddodd y perchennog mewn perthynas ag achosion dan Ddeddf 2013, megis costau sy’n gysylltiedig â chyhoeddi cytundebau ysgrifenedig, gwneud cais i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl neu gymryd camau cyfreithiol yn erbyn preswylwyr
Oni bai y byddai’n afresymol yn sgil ystyried y pethau uchod, mae rhagdybiaeth y bydd y ffi am y llain yn cynyddu neu’n gostwng gan ganran nad yw’n fwy na’r newid yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ers yr adolygiad diwethaf o’r ffi am y llain.
Pan fydd rheolaeth safle’n cael ei chontractio i sefydliad allanol, rhaid i ffioedd lleiniau gael eu pennu gan yr awdurdod lleol o hyd, a all gysylltu â’r sefydliad rheoli fel y dymunant.
Dylai pob preswylydd gael llyfr rhent neu ddull addas arall o gofnodi taliadau ffioedd am y llain a wneir i’r awdurdod lleol.
Mae’n hysbys bod lefelau uchel o dlodi ymhlith rhai cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Os yw preswylydd yn cael trafferth talu’r ffi am y llain, dylid eu hannog i gysylltu â rheolwr y safle neu staff yr awdurdod lleol cyn gynted ag y bo modd, a dylent geisio eu helpu i ddatrys hyn neu eu cyfeirio at sefydliadau a allai ddarparu cymorth, gan gynnwys mynediad at fudd-daliadau.
Rhaid i reolwr y safle roi sicrwydd i’r preswylydd y bydd eu gwybodaeth ariannol bersonol yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol. Dylai rheolwyr safleoedd hefyd fod yn gydymdeimladol a gochelgar wrth drafod materion personol gyda phreswylwyr.
Credyd Cynhwysol / Budd-dal Tai
Mae Budd-dal Tai, wrth gwrs, yn ddull derbyniol o dalu am ffioedd lleiniau, ond cyfrifoldeb y preswylwyr yw trefnu hyn. Fodd bynnag, gall rheolwr y safle dynnu sylw preswylwyr at hyn fel opsiwn posibl iddynt ei ystyried.
Gall rheolwr y safle hefyd helpu’r preswylydd (os bydd angen) i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Fodd bynnag, rhaid i’r ymgeisydd barhau i fod yn gyfrifol am gywirdeb y cais ac nid yw’n trosglwyddo i reolwr y safle.
Lle bo’n ymarferol, dylai rheolwr y safle atgoffa’r preswylwyr i roi gwybod i’r awdurdodau neu’r adrannau perthnasol am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eu budd-daliadau.
