Hoffem glywed eich barn ar newidiadau arfaethedig i ffi’r drwydded gocos ar gyfer tymor trwyddedu 2026-2027.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynnydd arfaethedig yn y ffi drwyddedu ar gyfer pysgota am gocos yng Nghymru o £350 i £600. Mae hyn yn gyfystyr ag adennill 71% o’r costau amcangyfrifol sy’n gysylltiedig â rheoli pysgodfa.
O dan y cynnig hwn, byddem:
- yn talu 29% o’r costau rhwng 2026 a 2027
- sefydlu cyfnod pontio fel y gall deiliaid trwyddedau addasu i’r cynnydd
Dogfennau ymgynghori
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 9 Chwefror 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
E-bost
Anfonwch eich sylwadau at pysgodfeydd@llyw.cymru.
Post
Anfonwch eich sylwadau at:
Yr Is-adran Pysgodfeydd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
