Ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i ganllawiau ar gyfer strategaethau VAWDASV lleol
Rydym am eich barn ar newidiadau arfaethedig i ganllawiau ar baratoi strategaethau lleol ar gyfer mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDSAV).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cydweithio i fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)
Rydym yn diweddaru ein canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol sydd â dyletswydd o dan Adran 5 o Ddeddf VAWDASV 2015 i baratoi strategaethau lleol ar gyfer mynd i'r afael â VAWDASV.
Nod ein dull gweithredu wedi'i ddiweddaru yw:
- cyhoeddi'r Canllawiau o dan Adran 15 o Ddeddf VAWDASV 2015, a fydd yn rhoi sail statudol i'r canllawiau, pa gyrff o dan adran 17 o'r Ddeddf sydd â dyletswydd i'w dilyn
- darparu strwythur clir ar gyfer paratoi strategaethau lleol
- egluro'r atebolrwydd am weithredu’r strategaethau lleol
- egluro rolau a chyfrifoldebau sefydliadau sy'n ymwneud â pharatoi a weithredu’r strategaeth
- cryfhau'r trefniadau partneriaeth a chydweithredu rhwng sefydliadau
- darparu arweiniad ar bwysigrwydd rhannu data wrth baratoi strategaethau
- darparu templedi ar gyfer Asesiadau o Anghenion a'r strategaethau lleol i gefnogi cysondeb ac eglurder ledled Cymru
Mae eich llais yn bwysig
Gwyddom fod ein partneriaid ledled Cymru yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau i fynd i'r afael â VAWDASV. Mae Deddf VAWDASV 2015 yn rhoi dyletswyddau clir ar Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau perthnasol eraill. Ond mae mynd i'r afael â VAWDASV yn gyfrifoldeb i grŵp llawer ehangach o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau arbenigol yn y trydydd sector.
Dyna pam mae angen i ni glywed gennych chi. Beth bynnag fo'ch rôl neu'ch cyfrifoldeb o ran darparu gwasanaethau sy'n mynd i'r afael â VAWDASV, bydd eich safbwyntiau’n helpu i lunio'r canllawiau hyn.
Diolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu'r canllawiau hyd yma. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn helpu i ddarparu gwasanaethau sy'n mynd i'r afael â VAWDASV ledled Cymru, nawr ac yn y dyfodol.
Trosolwg
Pam yr ydym yn gwneud newidiadau
Cyhoeddwyd Canllawiau ar gyfer Strategaethau Lleol yn 2018. Pwrpas y canllawiau hyn oedd cynorthwyo Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol a'u partneriaid i ddatblygu strategaethau lleol a oedd yn cydymffurfio â gofynion a dibenion y Ddeddf. Ni chyhoeddwyd y canllawiau o dan Adran 15 o Ddeddf VAWDASV 2015 ac felly nid oedd sail statudol iddynt. Mae hyn yn golygu, er y cynghorwyd awdurdodau perthnasol i ddilyn y canllawiau, nad oedd unrhyw ddisgwyliad statudol iddynt wneud hynny. O ganlyniad, paratowyd strategaethau gyda lefelau ymgysylltu amrywiol gan rai o'r partneriaid allweddol.
Mewn trafodaeth â'r sector, mae'n amlwg nad oedd y canllawiau eu hunain yn ddigon clir ynghylch yr hyn a ddisgwylid gan Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac nad oeddent yn rhoi digon o eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau sefydliadau eraill a oedd yn ymwneud â darparu gwasanaethau VAWDASV.
Yr hyn rydym ni eisiau ei newid
Ein nod yw:
- cyhoeddi'r canllawiau o dan Adran 15 o Ddeddf VAWDASV 2015. Bydd hyn yn rhoi sail statudol i’r canllawiau ac yn helpu i egluro'r hyn a ddisgwylir gan yr awdurdodau perthnasol a'u partneriaid wrth ddatblygu'r strategaethau a darparu gwasanaethau
- cryfhau ac egluro'r atebolrwydd dros weithredu er mwyn i sefydliadau ddeall yn well yr hyn a ddisgwylir ganddynt
- egluro rolau a chyfrifoldebau awdurdodau perthnasol a'u partneriaid fel bod sefydliadau'n deall sut y gallant gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r strategaethau lleol a darparu gwasanaethau
- gwella'r canllawiau sy'n ymwneud â chasglu data ac Asesiadau o Anghenion
- darparu templedi a fydd yn helpu i gefnogi cysondeb ledled Cymru
Yr hyn sy'n cael sylw yn yr ymgynghoriad hwn
Er mwyn gwneud hyn yn hawdd ei ddeall, mae'r ddogfen ymgynghori hon yn edrych ar bob un o benodau'r canllawiau blaenorol, ac oddi tanynt rydym yn egluro pa newidiadau rydym yn bwriadu eu gwneud, a lle byddant yn eistedd yn y canllawiau newydd.
Rydym yn cynnig cyflwyno'r canllawiau newydd mewn pedair adran:
- Bydd Pennod 1 yn cynnwys pwrpas y canllawiau a'r cyd-destun deddfwriaethol ar gyfer eu cyhoeddi.
- Bydd Pennod 2 yn rhoi manylion ynghylch sut rydym yn disgwyl i strategaethau lleol gael eu paratoi, y rolau a'r cyfrifoldebau rydym yn disgwyl i sefydliadau ymgymryd â nhw, a'r strwythurau atebolrwydd rydym yn disgwyl eu gweld ar waith.
- Bydd Pennod 3 yn rhoi manylion am weithredu ac atebolrwydd.
- Bydd Pennod 4 yn cynnwys templedi, rhestrau gwirio ac adnoddau ychwanegol a fydd ar gael i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt baratoi eu strategaethau.
Argymhellir eich bod yn darllen y ddogfen ymgynghori hon ynghyd â'r canllawiau presennol a'r ddogfen canllawiau statudol newydd.
Sut bydd eich adborth yn cael ei ddefnyddio
Bydd eich ymatebion yn ein helpu i greu canllawiau cadarn i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i gefnogi'r gwaith o baratoi strategaethau VAWDASV lleol.
Sut y gwnaethom ddatblygu'r canllawiau hyn
Gwnaed y penderfyniad i adolygu ac ailddrafftio'r canllawiau gan Weithgor y Ffrwd Waith Dull Cynaliadwy ar Draws Systemau, sy'n rhan o Ddull Glasbrint ar gyfer VAWDASV a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a Phlismona yng Nghymru.
Datblygwyd y canllawiau diwygiedig ymhellach gyda chymorth Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a oedd yn cynnwys aelodau o Weithgor y Ffrwd Waith Dull Cynaliadwy ar Draws Systemau, a thrafodaethau gyda Chynghorwyr Rhanbarthol VAWDASV.
Y canllawiau presennol
1. Cyflwyniad a Phwrpas y canllawiau
Rydym wedi ehangu'r adran hon i egluro pwrpas y canllawiau statudol ymhellach.
2. Dyletswyddau Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol o dan y Ddeddf
Rydym wedi cyfuno dechrau'r adran hon gyda'r un flaenorol , ac wedi ehangu'r cyd-destun cyfreithiol i'w gwneud yn gliriach ar ba sail y mae'r canllawiau'n cael eu cyhoeddi. Rydym wedi dileu'r cyfeiriad at Becyn Cymorth Sefydliad Banc Lloyds gan nad yw'n bodoli mwyach.
3. Ymgysylltu a chyfranogiad
Rydym wedi ehangu'r adran hon a'i hymgorffori ym Mhennod 2, lle rydym wedi cynnwys rhagor o fanylion am sut i ymgysylltu, gyda phwy i ymgysylltu, a sut gall gweithio mewn partneriaeth gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r strategaethau.
4. Cynnwys Strategaethau Lleol
Rydym wedi cynnwys llawer o'r adran hon yn y canllawiau diwygiedig ac wedi ychwanegu mwy o bwyslais ar rannu data a'r craffu sy'n ofynnol ar y strategaethau.
5. Rhaglenni Gwaith Cenedlaethol
Nid ydym wedi cynnwys yr adran hon yn y canllawiau diwygiedig. Ers cyhoeddi'r canllawiau blaenorol, mae'r ddealltwriaeth a'r wybodaeth sydd ar gael am y meysydd gwaith hyn wedi gwella ac maent wedi'u hen sefydlu. Mae trefniadau rhanbarthol bellach ar waith ledled Cymru gyda chylchoedd gwaith clir o'u mewn ar arferion gweithio rhanbarthol a lleol..
6. Monitro a Gweithredu
Rydym wedi cryfhau'r disgwyliadau monitro a gwerthuso yn y canllawiau diwygiedig ac wedi cynnig mesurau atebolrwydd mwy cadarn.
7. Rôl Ymgynghorwyr Cenedlaethol
Nid ydym wedi newid yr adran hon.
Atodiadau
Rydym wedi dileu'r cyfeiriad at Sefydliad Banc Lloyds, gan nad yw'n bodoli mwyach.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Pennod 1
Cwestiwn 1
Ydych chi'n cytuno â'r newidiadau rydym wedi'u hawgrymu i'r meysydd ym Mhennod 1 sy'n ymwneud â phwrpas y canllawiau a'r dyletswyddau a amlinellir yn y Ddeddf?
Pennod 2
Datblygu eich strategaeth
Rydym wedi diweddaru'r canllawiau i nodi'r camau pwysig y bydd angen i chi eu dilyn wrth ddatblygu eich strategaeth i sicrhau bod yr holl awdurdodau perthnasol a phartïon sydd â diddordeb wedi cyfrannu at y strategaeth a'i bod yn cael ei chymeradwyo gan yr unigolyn perthnasol.
Cwestiwn 2
O ystyried y rhestr o gamau sydd wedi'u cynnwys i ddatblygu strategaeth, sut ydych chi'n teimlo y gallem wella'r adran hon i sicrhau ei bod yn nodi'r broses ar gyfer paratoi a chyhoeddi strategaethau lleol yn glir?
Ymgorffori VAWDASV yn y ffordd mae eich sefydliad yn gweithio
Rydym wedi cynnwys gwybodaeth yn y canllawiau am bwysigrwydd ymgorffori VAWDASV yn eich sefydliad.
Cwestiwn 3
Beth allem ni ei ychwanegu at yr adran 'ymgorffori VAWDASV yn y ffordd y mae eich sefydliad yn gweithio' i'w gwneud yn glir beth a ddisgwylir gan Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol wrth ymgorffori VAWDASV yn eu gweithluoedd?
Partneriaethau a chydweithredu
Rydym wedi cynnwys rhestr o'r sefydliadau a'r grwpiau rydym yn argymell eich bod yn gweithio gyda nhw wrth baratoi eich strategaeth leol.
Cwestiwn 4
Pa sefydliadau neu grwpiau, os o gwbl, sydd ar goll o'r rhestr hon yn yr adran partneriaethau a chydweithredu?
Rolau a chyfrifoldebau
Rydym wedi cynnwys ffeithlun ac arweiniad ar rolau a chyfrifoldebau sefydliadau sydd â rhan i'w chwarae wrth ddatblygu strategaethau effeithiol.
Cwestiwn 5
Beth sydd angen ei ychwanegu at yr adran hon i egluro rolau a chyfrifoldebau'r awdurdodau a'r partneriaid perthnasol yn effeithiol?
Gofyn am safbwyntiau
Yn yr adran hon, rydym wedi cynnwys rhestr o'r grwpiau o bobl y dylech sicrhau eich bod yn ymgysylltu â nhw ac yn ymgynghori â nhw wrth baratoi eich strategaeth.
Cwestiwn 6
Pa grwpiau o bobl, os o gwbl, sydd ar goll o'r rhestr ac y dylid eu cynnwys, a pham?
Asesiadau o anghenion
Yn yr adran hon rydym wedi cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gwahanol Asesiadau o Anghenion y gellir eu cyrchu i roi cyngor ar ddatblygu strategaethau lleol, ond nid ydym wedi pennu'n union beth y dylid ei gynnwys mewn Asesiad o Anghenion.
Cwestiwn 7
Pa mor uniongyrchol ddylen ni fod wrth nodi'r hyn rydym ni'n disgwyl ei weld mewn Asesiad o Anghenion?
Cwestiwn 8
A fyddai'r canllawiau'n elwa o gynnwys templed ar gyfer Asesiadau o Anghenion?
Rhannu data
Yn yr adran hon rydym wedi cynnwys rhai o'r gwasanaethau casglu data rydym yn gwybod sydd ar gael.
Cwestiwn 9
Beth ddylem ei gynnwys yn yr adran hon i fynd ymhellach a / neu i gymell sefydliadau i rannu gwybodaeth yn fwy effeithiol? Sut allwn ni wneud hyn?
Craffu
Rydym wedi cynnwys canllawiau mwy cadarn ar sut y dylid craffu ar strategaethau lleol.
Cwestiwn 10
Beth arall ddylem ei gynnwys yn yr adran hon i annog ymgynghori, ymgysylltu a herio priodol wrth ddatblygu strategaethau lleol?
Monitro a gwerthuso
Rhaid i ni gael prosesau monitro a gwerthuso effeithiol ar waith i sicrhau bod strategaethau a gwasanaethau lleol sy'n targedu VAWDASV yn cael eu darparu.
Cwestiwn 11
Pa drefniadau y mae angen i'r canllawiau eu cynnwys i fonitro a gwerthuso eich strategaethau lleol yn effeithiol?
Pennod 3
Atebolrwydd
Rydym wedi awgrymu cyflwyno mesurau atebolrwydd mwy cadarn mewn strategaethau lleol.
Cwestiwn 12
Pa fesurau atebolrwydd ydych chi'n meddwl y dylem eu hychwanegu i sicrhau bod hyn yn ddigon cadarn?
Cwestiwn 13
A ddylai pob strategaeth leol gael tudalen 'datganiad' sydd wedyn yn cael ei llofnodi gan Brif Weithredwyr a Chadeiryddion y sefydliadau cyfrifol (Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol)?
Cwestiwn 14
A fyddai'r canllawiau'n elwa o gynnwys templed ar gyfer strategaethau lleol i gefnogi mwy o gysondeb ledled Cymru?
Cysylltiadau perthnasol
Cwestiwn 15
Pa gysylltiadau fyddai'n ddefnyddiol eu cynnwys yn y canllawiau?
Iaith Gymraeg
Cwestiwn 16
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y [mater, argymhelliad, opsiwn, cynnig, polisi, deddfwriaeth ac ati] ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Cwestiwn 17
Yn eich barn chi, a ellid fformiwleiddio neu newid y [mater, argymhelliad, opsiwn, cynnig, polisi, deddfwriaeth ac ati] er mwyn:
- Cael effeithiau cadarnhaol, neu effeithiau mwy cadarnhaol, ar ddefnyddio'r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- Liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg, ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Arall
Cwestiwn 18
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y gofod hwn i'w nodi:
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 30 Ebrill 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost vawdasv@llyw.cymru
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
VAWDASV
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG53675
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
