Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi tystiolaeth am y rhwystrau i addysg uwch yng Nghymru. Mae'n rhan o becyn gwaith 2 o dan y Cynllun Gwerthuso Diwygiadau Diamond i Gyllid Myfyrwyr 2024 ar ehangu mynediad a chyfranogiad.
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi tystiolaeth am y rhwystrau i addysg uwch yng Nghymru. Mae'n rhan o becyn gwaith 2 o dan y Cynllun Gwerthuso Diwygiadau Diamond i Gyllid Myfyrwyr 2024 ar ehangu mynediad a chyfranogiad.
Prif ganfyddiadau
- Nid yw lefel y cymorth ariannol ar draws pob un o wledydd y DU yn cyrraedd safon byw sy’n ofynnol ar gyfer myfyrwyr. Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio’n negyddol ar y mwyafrif helaeth o fyfyrwyr ar ryw lefel ar draws y DU.
- Mae angen i lawer o fyfyrwyr weithio ynghyd ag astudio, a hynny o reidrwydd ariannol. Ni chafodd cyrsiau addysg uwch eu cynllunio ar gyfer gwneud hyn yn wreiddiol.
- Mae bwlch cyfranogiad sy’n ehangu rhwng y myfyrwyr lleiaf breintiedig a’r rhai mwyaf breintiedig. Yng Nghymru, mae pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn llawer llai tebygol o fynd i’r brifysgol.
- Mae cyrhaeddiad blaenorol isel mewn sgiliau allweddol yn gynnar yn yr ysgol yn un o’r rhwystrau rhag cael mynediad at addysg uwch.
- Gall dysgwyr mewn ardaloedd gwledig wynebu rhwystrau ymarferol rhag cael mynediad at addysg drydyddol. Gall nifer cyfyngedig o ddosbarthiadau chweched a darpariaeth addysg bellach yn lleol effeithio ar lwybrau i’r brifysgol.
- Mae menywod yn fwy tebygol o fynd i’r brifysgol na dynion. Dynion ifanc gwyn difreintiedig sy’n lleiaf tebygol o fynd i’r brifysgol.
- Mae niferoedd y myfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi bod yn cynyddu.
- Mae cyfran y myfyrwyr anabl gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru wedi cynyddu hefyd. Fodd bynnag, gallai hyn fod oherwydd y cynnydd o ran cofnodi anabledd.
- Mae gan boblogaethau mwy amrywiol o fyfyrwyr anghenion sy’n amrywio ac maent yn wynebu heriau costau byw sy’n golygu bod y model astudio llawnamser traddodiadol yn anhygyrch neu’n hynod heriol.
- Mae effaith COVID-19 ar addysg a deilliannau i’w gweld o hyd, gyda’r effeithiau ar gyrhaeddiad, iechyd meddwl a llesiant yn parhau i ddatblygu.
- Mae’r farchnad swyddi i raddedigion yn newid ac mae honiadau bod AI yn rhannol gyfrifol am ostyngiad mewn rolau ar lefel graddedigion.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 362 KB
Cyswllt
Cangen Ymchwil Addysg a Sgiliau ôl-16
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
