Diwygiadau arfaethedig i Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith i gwmpasu pecynwaith wedi'i daflu'n sbwriel mewn biniau ac ar y stryd yng Nghymru: Asesiad Effaith Rheoleiddiol (Drafft)
Dylid darllen yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft hwn ar y cyd â'r ddogfen ymgynghori.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yr opsiynau
Dyma'r opsiynau a ystyrir:
- Opsiwn 1A. Ffi sbwriel ar gyfradd unffurf i bob cynhyrchydd
- Option 1B. Canolbwyntio ar eitemau sy'n aml yn cael eu taflu'n sbwriel
- Opsiwn 1C. Datrysiad hybrid
- Opsiwn 2. Cadw'r status quo (dim ffioedd sbwriel)
Am ragor o fanylion am yr opsiynau, gweler y ddogfen ymgynghori.
Costau a manteision
Amcangyfrifir y costau a'r manteision yn y tabl isod. Ar gyfer opsiynau 1A ac 1C, mae'r ffigur o £14.7 miliwn yn seiliedig ar ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru gan Raglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP), sy'n nodi cyfanswm y costau casglu sbwriel pecynwaith (sbwriel ar y llawr ac mewn biniau cyhoeddus) i awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r costau ar gyfer opsiwn 1B yn seiliedig ar 64 y cant o gost 1A, sef y gyfran o sbwriel pecynwaith yr amcangyfrifir ei fod yn cynnwys eitemau sy'n cael eu gadael fel sbwriel yn aml.
| Costau blynyddol a manteision | Opsiwn 1A | Option 1B | Opsiwn 1C | Opsiwn 2 |
| Costau i fusnesau | £14.7 miliwn | £9.4m | £14.7 miliwn | £0 |
| Costau i’r sector cyhoeddus | Fawr ddim | Fawr ddim | Fawr ddim | £0 |
| Costau i gymdeithas | - | - | - | - |
| Cyfanswm y costau | £14.7 miliwn | £9.4m | £14.7 miliwn | £0 |
| Manteision i fusnesau | - | - | - | - |
| Manteision i'r sector cyhoeddus | £14.7 miliwn | £9.4m | £14.7 miliwn | £0 |
| Manteision i gymdeithas | Ddim yn hysbys | Ddim yn hysbys | Ddim yn hysbys | - |
| Cyfanswm y manteision | £14.7 miliwn | £9.4m | £14.7 miliwn | £0 |
| Effaith net | £0 | £0 | £0 | £0 |
Ar gyfer opsiynau 1A, 1B ac 1C, mae costau ychwanegol, a'r cynhyrchwyr pecynwaith fyddai'n gyfrifol am y costau hynny a byddai awdurdodau lleol yn elwa ar fanteision ychwanegol. Byddai'r rhain yn gostau a manteision rheolaidd bob blwyddyn. Sero yw effaith net yr holl gostau a manteision ar gyfer pob opsiwn.
Byddai hefyd gost untro i'r sector cyhoeddus o weithredu'r newidiadau, sydd heb ei feintioli ond tybir y bydd y costau yn isel iawn.
Gall manteision posibl i gymdeithas gynnwys gostyngiad mewn pecynwaith wedi'i daflu'n sbwriel, ond nid yw hyn wedi'i feintioli. Bydd angen ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad ynghylch effeithiolrwydd, er mwyn asesu'r manteision i gymdeithas o ran lleihau sbwriel.
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dewis opsiwn eto. Bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei lywio gan ymatebion yr ymgynghoriad.
Asesiad o'r Gystadleuaeth
Bydd y cynnig yn effeithio ar gynhyrchwyr pecynwaith.
Cynhaliwyd asesiad o'r gystadleuaeth a chanfu bod y cynnig yn annhebygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar y gystadleuaeth.
| Cwestiwn | Ateb Ie neu Na |
|---|---|
| C1: Yn y farchnad neu farchnadoedd yr effeithir arnynt gan y rheoliad newydd, a oes gan unrhyw gwmni fwy nag 10% o gyfran y farchnad? | Oes |
| C2: Yn y farchnad neu farchnadoedd yr effeithir arnynt gan y rheoliad newydd, a oes gan unrhyw gwmni fwy nag 20% o gyfran y farchnad? | Nac oes |
| C3: Yn y farchnad neu farchnadoedd yr effeithir arnynt gan y rheoliad newydd, a oes gan y tri chwmni mwyaf gyda'i gilydd o leiaf 50% o gyfran y farchnad? | Nac oes |
| C4: A fyddai costau’r rheoliad yn effeithio ar rai cwmnïau yn fwy o lawer nag eraill? | Bydd |
| C5: A yw’r rheoliad yn debygol o effeithio ar strwythur y farchnad, gan newid nifer neu faint y cwmnïau? | Nac ydy |
| C6: A fyddai’r rheoliad yn arwain at gostau sefydlu busnes uwch i gyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr, sy’n gostau nad oes rhaid i gyflenwyr presennol eu talu? | Na fydd |
| C7: A fyddai’r rheoliad yn arwain at gostau rheolaidd uwch i gyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr, sy’n gostau nad oes rhaid i gyflenwyr presennol eu talu? | Na fydd |
| C8: A yw newid technolegol cyflym yn nodwedd o'r sector? | Nac ydy |
| C9: A fyddai’r rheoliad yn cyfyngu ar allu cyflenwyr i ddewis pris, ansawdd, amrywiaeth neu leoliad eu cynhyrchion? | Na fydd |
9. Adolygiad ar ôl gweithredu
Os yw'n briodol, esboniwch sut y dylid monitro effaith yr is-ddeddfwriaeth ac a fydd a sut y bydd yn cael ei hadolygu.
Mae adolygiad ôl-weithredu yn sefydlu a yw gweithredu'r is-ddeddfwriaeth yn cael yr effaith a fwriadwyd.
Dylid defnyddio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol fel man cychwyn ar gyfer yr adolygiad. Dylai'r adolygiad sefydlu llinell sylfaen a chynnwys y meini prawf llwyddiant y bydd effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth wrth gyflawni'r amcan yn cael ei asesu yn eu herbyn.
Rhaid rhoi syniad o pryd y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei hadolygu i sefydlu'r costau a'r manteision gwirioneddol ac a yw'n cyflawni'r effeithiau a ddymunir. Yn aml mae'n syniad da adolygu ar ôl tair blynedd ond bydd hyn yn dibynnu ar y ddeddfwriaeth.
I'w gwblhau ar ôl gweithredu.
