Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch Gwybodaeth - gweinidogion – Microsoft 365 a dyfeisiau symudol

Mae dyfeisiau symudol, e.e. ffonau a gliniaduron, yn eiddo i Lywodraeth Cymru, a chânt eu darparu at ddefnydd gwaith. Nid ydynt i ddisodli dyfeisiau personol.

  • Defnydd – at eich defnydd chi yn unig y mae'r dyfeisiau symudol a'r gliniaduron. Ni chewch eu rhoi ar fenthyg na'u trosglwyddo i unrhyw un arall e.e. cydweithiwr, contractwr, ffrind neu aelod o'r teulu. Chi sy'n gyfrifol am yr holl weithgaredd sy'n digwydd ar y ddyfais, ac ni ddylech rannu'ch cyfrinair na'ch PIN ag unrhyw un arall.
  • Colli / dwyn – os bydd y ddyfais yn cael ei cholli neu ei dwyn, rhaid ichi roi gwybod ar unwaith i'ch Swyddfa Breifat a fydd yn rhoi gwybod i'r Gwasanaethau TG. Mae'n bosibl y bydd y Gwasanaethau TG yn dileu'r holl wybodaeth sydd ar y ddyfais o bell os nad yw mewn lleoliad diogel.

Monitro

Mae'r nodwedd "gwasanaethau lleoliad" ("location services") yn weithredol er mwyn i Lywodraeth Cymru allu olrhain y ddyfais os caiff ei cholli neu ei dwyn. Nid yw data lleoliad yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, ac mae protocolau ar waith ar gyfer cael mynediad at yr wybodaeth honno os oes angen.

Dramor

Os byddwch yn teithio dramor, gofynnwch am gyngor gan yr Uned Ddiogelwch Adrannol cyn teithio gyda'ch dyfais. Nid oes gan wledydd eraill yr un fframweithiau cyfreithiol â'r DU, a phan fyddwch dramor bydd eich dyfais yn destun bygythiadau seiber gwahanol. Mae'r rhain yn amrywio'n sylweddol, yn dibynnu ar y wlad yr ymwelir â hi.

Y Prif Swyddog Diogelwch, Chwefror 2024