Neidio i'r prif gynnwy

Nid yw'r gwasanaeth hawlio hwn ar gael ar-lein eto. 

Yn y cyfamser, gallwch gysylltu â'n desg gymorth i gyflwyno eich hawliad.

Hawlio ad-daliad o Dreth Trafodiadau Tir (LTT) a dalwyd ar y gyfradd uwch os ydych chi wedi lesio eich eiddo i awdurdod lleol yng Nghymru (megis Cynllun Prydlesu Cymru).

Pwy sy’n gallu hawlio ad-daliad

Gallwch hawlio ad-daliad os:

  • prynwyd yr eiddo rhwng 13 Chwefror 2026 a 31 Mawrth 2031
  • yw’r eiddo werth £400,000 neu lai
  • cafodd y les ei throsglwyddo i o awdurdodau lleol Cymru:
    • o fewn 18 mis i’r pryniant gwreiddiol
    • cyn 31 Mawrth 2031
  • cafodd pryniant yr eiddo ei gofnodi a TTT ei thalu ar y gyfradd uwch
  • oes gan yr eiddo les sy’n para rhwng 5 ac 20 mlynedd
  • yw’r rhent am logi’r eiddo yn llai nag uchafswm y Lwfans Tai Lleol (LHA)

Rhaid i’r hawliad:

  • gael ei wneud o fewn 12 mis i’r dyddiad pan roddwyd y les i awdurdod lleol yng Nghymru 
  • gael ei gyflwyno ar ffurf hawliad am ad-daliad yn hytrach na diwygiad i ffurflen dreth

Bydd y brif gyfradd TTT dal yn berthnasol.

Fel arfer mae'n cymryd 15 i 20 diwrnod gwaith i brosesu eich cais. Gall gymryd mwy o amser os bydd angen mwy o wybodaeth arnom.

Os byddwch yn diweddu’r les gyda'r awdurdod lleol yn gynnar

Os gwnaethoch hawlio ad-daliad a’ch bod yn dod â'r les i ben gydag awdurdod lleol yng Nghymru o fewn 5 mlynedd i ddyddiad dechrau'r les, mae’n rhaid i chi:

  • gyflwyno ffurflen dreth arall i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a thalu unrhyw TTT sy'n ddyledus

Bydd swm y TTT sy'n ddyledus yr un fath â swm yr ad-daliad a hawliwyd yn wreiddiol.

Cyn i chi ddechrau

Gwnewch yn siŵr fod yr wybodaeth ganlynol gennych cyn dechrau. 

Manylion y trafodiad gwreiddiol

Bydd angen i chi ddarparu:

  • eich manylion personol neu fanylion eich cwmni, gan gynnwys:
    • enw llawn
    • cyfeiriad
    • rhif ffôn
    • cyfeiriad e-bost 
  • Cyfeirnod Unigryw y Trafodiad (CUT) 12 digid sydd ar eich ffurflen dreth
  • manylion am yr eiddo, gan gynnwys: 
    • cyfeiriad
    • dyddiad y prynwyd yr eiddo 
  • tystiolaeth eich bod wedi lesio eich eiddo i awdurdod lleol yng Nghymru (copïau electronig o gontractau dyddiedig wedi'u llofnodi) 
  • swm yr ad-daliad rydych yn ei hawlio:
    • sef y TTT cyfradd uwch rydych wedi'i dalu minws y brif gyfradd ar gyfer eich eiddo
    • gallwch ei gyfrifo gan ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth
  • manylion banc ar gyfer derbyn yr ad-daliad: 
    • enw deiliad y cyfrif 
    • rhif y cyfrif 
    • cod didoli

Os gwnaethoch hawlio Rhyddhad Anheddau Lluosog (MDR) ar yr eiddo, bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth ychwanegol, darllenwch ein canllawiau technegol.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Cymorth

Os oes angen help arnoch neu os hoffech gael y ffurflen hon mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.