Neidio i'r prif gynnwy

Fel bod modd sicrhau datrysiad parhaol i'r trawstiau croes ar Bont Menai bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu rhoi ar waith gyda system llif llanw ar gyfer y rhan hon o'r gwaith yn unig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae disgwyl i'r mesurau rheoli traffig fod yn eu lle o 19 Chwefror  am gyfnod o oddeutu wyth diwrnod.

Rhwng 7am a 1pm bydd traffig yn gallu croesi o Ynys Môn i'r tir mawr, a rhwng 1pm a 7pm bydd traffig yn gallu croesi o'r tir mawr i Ynys Môn.  Rhwng 7pm a 7am bydd signalau traffig arferol ar waith.

Fel rhan o raglen ehangach a diwygiedig Cam 2 ni fydd mesurau rheoli traffig ond ar waith am gyfnodau byr er mwyn gallu cwblhau elfennau allweddol.

At ei gilydd mae'r cynlluniau diwygiedig wedi lleihau'n sylweddol yr angen i reoli traffig ar y bont, o'i gymharu â'r cynlluniau cynharach, a thrwy hynny bydd llai o darfu ar drigolion, cymudwyr a busnesau.

Mae gorfodi'r terfyn pwysau 7.5 tunnell yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer cynnal gweithrediad diogel y bont tra bo'r gwaith yn parhau.

Diolch i drigolion, cymudwyr a busnesau am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus.