Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 7 Ebrill 2026.

Cyfnod ymgynghori:
10 Chwefror 2026 i 7 Ebrill 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio eich barn ar y newidiadau arfaethedig i ddau god ymarfer unigol: y Cod Ymarfer Rhan 6 ar blant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya, a’r Cod Ymarfer ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y geiriad newydd arfaethedig ar gyfer y Cod Ymarfer Rhan 6 o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Cod Ymarfer ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig. Mae’r newidiadau yn cryfhau’r disgwyliadau ar draws trefniadau rhianta corfforaethol, mabwysiadu, maethu a gofal gan berthynas i wella eglurder, cysondeb a chymorth i blant a theuluoedd yng Nghymru.

Dogfennau ymgynghori

Rhan 6 Cod Ymarfer (Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n Derbyn Lletya): Fel y'i diwygiwyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Rhan 6 Cod Ymarfer (Plant sy'n Derbyn Gofal ac sy'n Derbyn Lletya): Fel y'i diwygiwyd gyda newidiadau wedi'u tracio , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig: Fel y'u diwygiwyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig: Fel y'i diwygiwyd gyda newidiadau wedi'u tracio , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwybodaeth ychwanegol

Nodyn: Anonymeiddio ymatebion

Mae'r ffurflen ymateb i’w lawrlwytho, a gyhoeddwyd yn rhan o'r ymgynghoriad hwn, yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ar anonymeiddio ymatebion. Ers hynny, mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin yn ddienw oni bai bod yr ymatebydd yn nodi’n wahanol. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.

Bydd y dull hwn wedi’i ddiweddaru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, waeth sut y cânt eu cyflwyno.

Help a chymorth

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.