Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio barn ar y geiriad newydd a gynigir ar gyfer Cod Ymarfer Rhan 6 o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r Cod Ymarfer ar Orchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig.

Cynhaliwyd ymgyngoriadau blaenorol ar y newidiadau polisi arfaethedig a daethant i ben ar 27 Hydref 2025.  Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i ddatblygu ar sail yr ymatebion a ddaeth i law a'r adborth gan randdeiliaid. 

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 12 wythnos tan 7 Ebrill 2026.  Mae'r cyfnod yn fyrrach er mwyn osgoi gorgyffwrdd â'r cyfnod cyn-etholiadol yng Nghymru ac mae'n adlewyrchu'r ffaith fod y newidiadau allweddol i'r Cod wedi'u hystyried o'r blaen drwy'r ymgyngoriadau 12 wythnos a gynhaliwyd rhwng 4 Awst 2025 a 27 Hydref 2025. 

Iaith

Er mwyn cyd-fynd â'r termau a ddefnyddir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, wrth gyfeirio at blant a phobl ifanc sydd mewn gofal neu sydd â phrofiad o fod mewn gofal, byddwn yn defnyddio'r termau "plant sy'n derbyn gofal" a "y rhai sy'n gadael gofal". 

Rydym yn cydnabod bod termau eraill yn cael eu defnyddio hefyd. 

Wrth gyfeirio at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, defnyddir "y Ddeddf".  Yn ogystal, wrth gyfeirio at y Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n Cael eu Lletya), defnyddir "y Cod".

Asesiadau Effaith 

Byddwn yn adolygu ac yn diwygio'r asesiadau effaith perthnasol i gefnogi'r gwaith o ddiweddaru'r Cod Ymarfer, gan gynnwys asesiad effaith rheoleiddiol.  

Cyflwyniad

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar eiriad diwygiedig ar gyfer dau God Ymarfer sy'n bodoli'n barod. Mae'r diwygiadau hyn yn dilyn ymgynghoriad cynharach a gynhaliwyd yn 2025 ar y newidiadau polisi arfaethedig. Y ddau God Ymarfer dan sylw yw:  

  • y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 6 (plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a 
  • y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig a ddyroddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

Rydym yn gofyn am adborth ynghylch a yw'r geiriad diwygiedig yn adlewyrchu'r newidiadau polisi arfaethedig yn gywir ac yn rhoi eglurder i ymarferwyr. 

Rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfle i adolygu'r Codau Ymarfer i wirio am ddiweddariadau fel bod y testun yn cyd-fynd yn agosach â'r gofynion deddfwriaethol ac i ddiweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth a gofynion cyfreithiol pan fo deddfwriaeth newydd wedi'i chyflwyno ers i'r Codau gael eu hadolygu ddiwethaf yn 2018.  Bydd swyddogion yn mynd ati i wneud newidiadau o ran fformadu a therminoleg yn ystod y cyfnod ymgynghori. 

Y cefndir

Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

Cynhaliwyd dau ymgynghoriad yn 2025 ar newidiadau arfaethedig i God Ymarfer Rhan 6.  Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyntaf rhwng 4 Awst a 27 Hydref 2025 a gofynnwyd am farn ar newidiadau arfaethedig gan gynnwys:  

  • cyflwyno pennod benodol ar rianta corfforaethol sy'n rhoi canllawiau i awdurdodau lleol i'w cefnogi yn eu rôl fel rhieni corfforaethol; 
  • cryfhau pwysigrwydd llais y plentyn, yn benodol o fewn penodau'r Cod ar gynllunio gofal a chymorth a lleoliadau; 
  • cryfhau'r canllawiau ar symud lleoliadau a chyfarfodydd adolygu; 
  • diweddaru'r derminoleg a’r ddeddfwriaeth ers i'r Cod gael ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Ebrill 2018. 

Gellir cysylltu ag ymgynghoriad 2025 a chrynodeb o'r ymatebion ar Llyw.Cymru.

Roedd yr ail ymgynghoriad ar God Ymarfer Rhan 6, a gynhaliwyd rhwng 4 Awst a 27 Hydref 2025, yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • cryfhau'r canllawiau mabwysiadu drwy gysoni'r fframwaith mabwysiadu yn Rhan 6 a'r fframweithiau cynllunio gofal yn Rhan 4, gan hefyd ddarparu cyfeiriad cliriach, gyda ffocws ar ymarfer, ynglŷn â meysydd fel sefydlogrwydd cynnar, cynadleddau grwpiau teulu a chyfrifoldebau ymarferwyr, er mwyn hybu proses gyson o gynllunio ac adolygu mabwysiadu. 
  • galluogi trefniadau adolygu ac ymweld mwy hyblyg ar gyfer lleoliadau maethu gan berthynas, er mwyn lleihau ymyrraeth ddiangen ond gan gynnal proses ddiogelu gref a goruchwyliaeth briodol. 
  • ychwanegu canllawiau cliriach fel y gall gofalwyr maeth prif ffrwd, gofalwyr sy'n berthnasau sydd wedi'u cymeradwyo'n llawn, a gofalwyr sy'n berthnasau sydd wedi'u cymeradwyo dros dro, ddeall sut y gallant gael mynediad at y lwfans maethu uwch, gan hybu mwy o dryloywder a chysondeb ledled Cymru. 

Gellir cysylltu ag ymgynghoriad 2025 a chrynodeb o'r ymatebion ar Llyw.Cymru.

Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig a ddyroddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Fel rhan o'r ail ymgynghoriad, gofynnodd Llywodraeth Cymru hefyd am farn ar y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig a ddyroddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant‑(Cymru) 2014. Gwahoddwyd adborth ar gynigion i gryfhau ymarfer a lleihau'r amrywiadau presennol yn y cymorth i deuluoedd Gwarcheidiaeth Arbennig ar draws Cymru drwy gyflwyno gofyniad statudol i bob awdurdod lleol ddefnyddio'r templedi Cynllun Cymorth Gwarcheidiaeth Arbennig cenedlaethol.

Y camau i’w cymryd:

Wrth ymateb i'r cwestiynau ymgynghori isod, dylid darllen y ddogfen hon ochr yn ochr â'r fersiynau o'r ddau God Ymarfer sydd ar gael ar dudalen we yr ymgynghoriad.  Er hwylustod, ar y dudalen mae fersiwn o bob Cod Ymarfer sy'n dangos testun newydd mewn ffont coch a'r testun sydd wedi'i ddileu mewn ffont coch gyda llinell drwyddo.  Mae fersiwn lân o'r ddau God gyda'r holl newidiadau wedi'u derbyn ar gael hefyd.

Ymgynghoriad Cwestiynau

Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

Rhianta Corfforaethol 

The proposed changes to the Part 6 Code of Practice aim to provide a dedicated corporate parenting section which provides guidance for local authorities to support their role as corporate parents. These changes can be found in the preamble to the Code.

Cwestiwn 1

Ydych chi'n cytuno â'r geiriad newydd ar rianta corfforaethol sydd wedi'i gynnwys yn y Cod? Os nad ydych chi, wnewch chi esbonio pa ddiwygiadau eraill sydd eu hangen?

Cynllunio Gofal a Chymorth

dych chi'n cytuno â'r geiriad newydd ynglŷn â chynllunio gofal a chymorth sydd wedi'i gynnwys yn y Cod?  Os nad ydych chi, wnewch chi esbonio pa ddiwygiadau eraill y mae angen eu gwneud? 

Cwestiwn 2

Ydych chi'n cytuno â'r geiriad newydd ynglŷn â chynllunio gofal a chymorth sydd wedi'i gynnwys yn y Cod?  Os nad ydych chi, wnewch chi esbonio pa ddiwygiadau eraill y mae angen eu gwneud? 

Lleoliadau

Mae'r newidiadau arfaethedig i God Ymarfer Rhan 6 yn cynnwys geiriad newydd y bwriedir iddo gryfhau ymarfer wrth symud lleoliadau, gan roi sylw penodol i'r ffordd y mae eiddo personol plant sy'n derbyn gofal yn cael ei drin. Mae hwn i'w weld ym mhennod 2.

Cwestiwn 3

Ydych chi'n cytuno â'r geiriad newydd ynglŷn â symudiadau sydd wedi'i gynnwys yn y Cod? Os nad ydych chi, a wnewch chi esbonio pa ddiwygiadau eraill y mae angen eu gwneud?

Adolygu achosion 

Mae'r newidiadau arfaethedig i God Ymarfer Rhan 6 yn cynnwys geiriad newydd i roi eglurder ynghylch rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol a'r broses adolygu.   Mae hwn i'w weld ym mhennod 4.

Cwestiwn 4

Ydych chi'n cytuno â'r geiriad newydd ynglŷn â rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol a'r broses adolygu sydd wedi'i gynnwys yn y Cod? Os nad ydych chi, a wnewch chi esbonio pa ddiwygiadau eraill y mae angen eu gwneud? 

Cysoni Fframwaith Rhan 6 (Mabwysiadu) a Fframwaith Rhan 4 (Cynllunio Gofal) 

Nod y newidiadau arfaethedig i God Ymarfer Rhan 6 yw darparu canllawiau cliriach a manylach i weithwyr cymdeithasol a swyddogion adolygu pan fydd cynllun gofal plentyn yn ymwneud â mabwysiadu.  Maent yn dwyn ynghyd y ddeddfwriaeth, y dyletswyddau rheoleiddio a'r fframweithiau arferion da perthnasol i sicrhau bod y broses o gynllunio mabwysiadu yn gyson ac yn seiliedig ar wybodaeth - o'r cynadleddau parhad cynnar a'r grwpiau teuluol hyd at gynllunio gofal, lleoli, adolygu a chymorth ar ôl mabwysiadu.  Mae'r newidiadau hyn i'w gweld ym mhenodau 1, 2 a 3.

Cwestiwn 5

A yw'r adrannau diwygiedig yn esbonio'n glir sut mae prosesau Rhan 6 (mabwysiadu) yn cyd-fynd â'r gofynion cynllunio gofal yn Rhan 4? Os nad ydych chi, a wnewch chi esbonio pa ddiwygiadau eraill y mae angen eu gwneud? 

Cwestiwn 6

A yw'r adrannau diwygiedig yn ddigonol i gefnogi proses gyson o gynllunio ac adolygu mabwysiadu ledled Cymru? Os nad ydyn nhw, a wnewch chi esbonio pa ddiwygiadau pellach y mae angen eu gwneud?

Cwestiwn 7

A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar y geiriad arfaethedig ar gyfer cynnwys Fframwaith Sefydlogrwydd Cynnar Cymru yn rhan o'r Cod Ymarfer, gan gynnwys a yw'n glir, yn gywir, ac yn helpu i sicrhau gweithredu effeithiol yn ymarferol? 

Gofynion Adolygu ac Ymweld ar gyfer Lleoliadau Maethu gan Berthnasau

Bwriad y newidiadau hyn yw rhoi mwy o hyblygrwydd i ofalwyr maeth sy'n berthnasau sydd wedi'u cymeradwyo'n llawn, drwy ganiatáu i drefniadau adolygu ac ymweld gael eu teilwra i anghenion pob plentyn a phob teulu. Mae'r newidiadau i'w gweld ym mhenodau 3 a 4

Cwestiwn 8

A yw'r drafft diwygiedig yn rhoi esboniad digon clir o'r trefniadau adolygu ac ymweld newydd ar gyfer lleoliadau maethu gan berthnasau? Os nad yw'n gwneud hynny, a wnewch chi esbonio pa ddiwygiadau eraill y mae angen eu gwneud?

Cwestiwn 9

A yw'r geiriad yn rhoi digon o eglurder ynghylch sut y dylid defnyddio hyblygrwydd yn ymarferol, gan barhau i gynnal proses ddiogelu a goruchwylio briodol?

Mynediad at y Lwfans Maethu Uwch 

Nod y newidiadau hyn yw darparu canllawiau cliriach a mwy cyson ynglŷn a sut y gall pob math o ofalwr maeth, prif ffrwd, perthnasau a gofalwyr sydd wedi'u cymeradwyo dros dro, gael mynediad at y lwfans maethu uwch. Mae'r newidiadau hyn i'w gweld ym mhennod 2.

Cwestiwn 10

A yw'r drafftio yn esbonio'n ddigonol sut y gall gofalwyr wneud cais am y lwfans neu gael y lwfans?  Os nad yw'n gwneud hyn, nodwch pa eiriad neu esboniad ychwanegol fyddai'n helpu i wneud y broses yn gliriach

Cwestiwn 11

A yw'r termau a'r diffiniadau a ddefnyddir yn yr adran hon yn ddealladwy ac yn gyson?  Os nad ydyn nhw, a wnewch chi esbonio pa ddiwygiadau eraill y mae angen eu gwneud? 

Y Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig a ddyroddwyd o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

Diben y newidiadau yw sicrhau bod cynlluniau cymorth gwarcheidiaeth arbennig yn cael eu datblygu'n gyson ledled Cymru drwy ei gwneud yn ofyniad statudol defnyddio'r templedi cynllun cymorth cenedlaethol. Bydd hyn yn darparu fframwaith cydlynol, seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer asesu angen, cynllunio cymorth ac adolygu trefniadau, gan helpu i leihau'r anghysondebau presennol o ran ymarfer, a sicrhau bod pob gwarcheidwad arbennig, pob plentyn a phob teulu yn cael cynnig clir, strwythuredig a theg o gymorth, ble bynnag y maen nhw'n byw.   Mae'r newidiadau i'w gweld ym mhenodau 9 a 10.

Cwestiwn 12

A yw'r geiriad diwygiedig yn cyfleu'n glir statws statudol a defnydd ymarferol templedi'r cynlluniau cymorth gwarcheidiaeth arbennig cenedlaethol, a sut maent yn cyd-fynd â phrosesau asesu, cynllunio gofal ac adolygu awdurdodau lleol? Os nad ydyn nhw, a wnewch chi esbonio pa ddiwygiadau pellach y mae angen eu gwneud? 

Diwygiadau Mân a Thechnegol i'r Codau Ymarfer

Yn ogystal â'r diwygiadau polisi arfaethedig, rydym hefyd yn ymgynghori ar nifer o fân newidiadau drafftio i'r ddau God Ymarfer. Bwriad y newidiadau hyn yw sicrhau  cydweddiad llawn â'r rheoliadau perthnasol, gwella cysondeb mewnol, a gwella eglurder a darllenadwyedd cyffredinol y Codau. Nid yw'r diwygiadau hyn yn cyflwyno gofynion polisi newydd ond maent wedi'u cynllunio i wneud y dogfennau'n fwy hygyrch ac yn haws i ymarferwyr eu defnyddio.

Cwestiwn 13

Ydych chi'n cytuno â'r mân newidiadau drafftio sydd â'r nod o sicrhau cysondeb agosach rhwng y Codau Ymarfer a'r rheoliadau perthnasol? Os nad ydych chi, esboniwch pa feysydd y mae angen eu diwygio ymhellach yn eich barn chi.

Cwestiynau Eraill

Cwestiwn 14

Yn eich barn chi,  beth fyddai effeithiau tebygol y newidiadau drafftio i'r Codau Ymarfer ar y Gymraeg?  Mae diddordeb penodol gennym mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?

Cwestiwn 15

Yn eich barn chi, a allai'r newidiadau drafftio i'r Codau Ymarfer gael eu llunio neu eu newid  fel eu bod yn:

  • sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; 

    neu

  • lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 7 Ebrill 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Gwella Canlyniadau i Blant  
Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: LIC53832

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.