Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 27 Hydref 2025.

Cyfnod ymgynghori:
4 Awst 2025 i 27 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 342 KB

PDF
342 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio eich barn ar newidiadau i'r cod ymarfer rhan 6 ar blant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer pennod newydd ar rianta corfforaethol o fewn y cod.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y newidiadau arfaethedig i god ymarfer rhan 6 (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae'r newidiadau yn cynnwys:

  • pennod benodol ar rianta corfforaethol, a fydd yn ehangu ar y canllawiau ar rôl yr awdurdodau lleol fel rhieni corfforaethol
  • cryfhau llais y plentyn yn y broses o gynllunio gofal a chymorth a hefyd mewn perthynas â lleoliadau
  • argymhellion gan blant â phrofiad o fod mewn gofal ar symud lleoliadau a chyfarfodydd adolygu
  • diweddaru'r derminoleg a’r ddeddfwriaeth yn y fersiwn bresennol o’r cod a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2018

Bydd ail gam yr adolygiad o’r cod yn cael ei gynnal ddechrau tymor y Senedd nesaf a bydd yn cynnwys diweddariadau ar dai a digartrefedd, a'r rhai sy’n gadael gofal.

Help a chymorth

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.