Ymgynghoriad ar rianta corfforaethol: cod ymarfer rhan 6 ar blant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya
Rydym yn ceisio eich barn ar newidiadau i'r cod ymarfer rhan 6 ar blant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya. Mae hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer pennod newydd ar rianta corfforaethol o fewn y cod.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio barn ar newidiadau arfaethedig i god ymarfer rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys:
- cyflwyno pennod benodol ar rianta corfforaethol sy'n rhoi arweiniad i awdurdodau lleol i'w cefnogi yn eu rôl fel rhieni corfforaethol
- cryfhau pwysigrwydd llais y plentyn, yn benodol o fewn penodau'r cod ar gynllunio gofal a chymorth a lleoliadau
- cryfhau'r canllawiau ar symud lleoliadau a chyfarfodydd adolygu
- diweddaru'r derminoleg a’r ddeddfwriaeth ers i'r cod gael ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Ebrill 2018
Bydd adolygiad llawn o'r cod ymarfer yn cael ei gynnal yn gynnar yn nhymor y Senedd nesaf (ar ôl mis Mai 2026).
Cyflwyniad
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gam cyntaf adolygiad o'r cod.
Prif ddiben yr adolygiad hwn yw cynnwys pennod newydd benodol ar rianta gorfforaethol a chryfhau pa mor bwysig yw llais plant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn adolygu'r derminoleg drwy'r cod, a fydd yn golygu ei diweddaru ers yr adolygiad diwethaf yn 2018.
Bydd y cam cyntaf hefyd yn cynnwys diweddariadau mewn perthynas â maethu, mabwysiadu a gofal gan berthynas. Bydd ymgynghoriad ar wahân yn cael ei gynnal ar yr agweddau hyn, gan eu bod yn gysylltiedig â rheoliadau. Mae'r ymgynghoriad ar yr agweddau eraill hyn hefyd ar gael ar ein gwefan. Bydd y fersiwn derfynol o'r cod yn cyfuno'r newidiadau o'r ddau ymgynghoriad mewn un cod ymarfer wedi'i ddiweddaru, a fydd yn cael ei osod gerbron y Senedd.
Bydd ail gam yr adolygiad o’r cod yn cael ei gynnal ddechrau tymor y Senedd nesaf a bydd yn cynnwys diweddariadau ar dai a digartrefedd, a'r rhai sy’n gadael gofal.
Y cefndir
Dyroddir y cod o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("y ddeddf"). Cafodd y cod ei ddiweddaru a'i ailddyroddi ddiwethaf ym mis Ebrill 2018.
Mae'r cod yn cynnwys canllawiau ar arfer cyfrifoldebau awdurdod lleol o dan y ddeddf am y canlynol:
- cynlluniau gofal a chymorth mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, gan gynnwys addysg ac iechyd
- y ffyrdd y mae plant sy'n derbyn gofal i'w lletya a'u cynnal, gan gynnwys lleoliadau plant sy'n derbyn gofal
- cyswllt ac ymweliadau â phlant sy'n derbyn gofal a phlant a arferai dderbyn gofal, gan gynnwys ymwelwyr annibynnol
- trefniadau ar gyfer gadael gofal, cynghorwyr personol, cynlluniau ac asesiadau llwybrau, llety addas a chymorth ar gyfer addysg uwch
- llety diogel
- plant sy'n cael eu lletya mewn mathau eraill o sefydliadau (gan awdurdodau iechyd ac addysg, neu mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol)
Polisi rhianta corfforaethol yng Nghymru
Mewn ymateb i ymrwymiad y rhaglen lywodraethu i gryfhau rhianta corfforaethol yng Nghymru, lansiwyd y siarter rhianta corfforaethol yn swyddogol ar 22 Medi 2023. Mae'r siarter yn cynnwys 11 egwyddor a 9 addewid mewn perthynas â rhianta corfforaethol sydd wedi'u datblygu mewn cydweithrediad â phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Mae ymuno â'r siarter yn wirfoddol, a gall pob corff yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector wneud hynny.
Ochr yn ochr ag ymrwymo i'r gwaith o ddatblygu'r siarter, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gryfhau'r canllawiau ar rianta corfforaethol yn y cod. Diben y bennod newydd yw adeiladu ar y canllawiau mewn perthynas ag arfer y dyletswyddau hynny ar awdurdodau lleol a nodir yn y fersiwn bresennol o'r cod, a nodi arferion da ar gyfer awdurdodau lleol yn eu rôl fel rhieni corfforaethol.
Llais y plentyn a'r person ifanc
Mae deall profiadau bywyd plant a phobl ifanc mewn gofal, a sut mae hyn yn cael effaith ar eu bywydau, yn rhan annatod o bopeth rydym wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud, drwy'r rhaglen trawsnewid gwasanaethau plant.
Rydym wedi gweithio’n agos gyda Voices from Care Cymru i drefnu cyfres o uwchgynadleddau ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Mae’r rhain wedi rhoi cyfle i Weinidogion Cymru glywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu profiadau o ofal a’u barn ar ba newidiadau sydd angen eu gwneud. Canlyniad yr uwchgynadleddau yw datganiad, uwchgynhadledd diwygio radical: datganiad a ddatblygwyd rhwng y llysgenhadon Ifanc, sy'n cynrychioli plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru, a'r Gweinidogion.
Mae cryfhau llais y plentyn yn y cod yn adlewyrchu dull gweithredu Llywodraeth Cymru. Bydd adrannau ychwanegol yn cael eu cynnwys i adlewyrchu meysydd y mae plant a phobl ifanc wedi'u codi, er enghraifft sut y caiff eiddo personol ei bacio a'i drin yn ystod y broses o symud lleoliad.
Newidiadau arfaethedig: rhaglith a phennod 1 - cynllunio gofal a chymorth
Rhaglith
Yn y rhaglith agoriadol, rydym yn bwriadu dileu'r cyfeiriad at:
- strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal, gan fod y strategaeth wedi dod i ben yn 2019
Yn rhaglith agoriadol y Cod (tudalen 5), rydym yn bwriadu ychwanegu'r canlynol at yr adran ar amcan a chwmpas y Cod a'r adran ar ganlyniadau llesiant:
- rôl awdurdodau lleol fel rhieni corfforaethol a gwrando ar lais plant a phobl ifanc
Pennod 1: cynllunio gofal a chymorth
Mae pennod 1 yn cynnwys canllawiau ar ddyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth rhan 6. Mae'r newidiadau arfaethedig i'r bennod hon yn cynnwys:
Gwaith amlasiantaethol
Yn yr adran "diben" o'r bennod hon (tudalen 10), ychwanegir cyfeiriad mewn perthynas â phwysigrwydd gwaith amlasiantaethol. Mae hyn yn unol â'r fframwaith cenedlaethol ar ymarfer amlasiantaethol ar gyfer gwasanaethau plant.
Cryfhau llais y plentyn
Drwy gydol y bennod, bydd y cyfeiriad at bwysigrwydd gwrando ar lais y plentyn yn cael ei gryfhau.
Er enghraifft, yn yr adran "proses gynllunio gofal" (tudalennau 14 i 15), mae'r ddeddf yn canolbwyntio ar gynllunio a gofal sy'n canolbwyntio ar y person fel egwyddor graidd. Mae'r cod yn cyfeirio at bwysigrwydd casglu a chynnwys dymuniadau a theimladau'r plentyn. Bydd y newidiadau arfaethedig i'r adran hon yn pwysleisio y dylid sicrhau bod y plentyn neu'r person ifanc yn cael ei gynnwys ac y gwrandewir arno fel rhan o'r broses.
Amser teulu
Yn adran "stability", bydd y newidiadau a gynhelir yn pwysleisio gwrando ar lais y plentyn a darparu cefnogaeth barhaol i deuluoedd.
Mae hefyd yn cael ei gynnig y bydd y cynnwys canlynol yn cael ei gynnig fel paragraff ychwanegol:
Gall plant a phobl ifanc newid eu teimladau am gyswllt yn ôl eu hoedran, eu datblygiad a'u hamgylchiadau ehangach, a dylai'r bobl sy'n gweithio gyda nhw gydnabod cymhlethdod perthnasoedd teuluol. Tra bydd plentyn yn derbyn gofal, mae'n hanfodol y gwrandewir ar ei farn am gyswllt ac amser teulu, ac yr adolygir hynny'n rheolaidd. Efallai y bydd angen gwneud hyn gyda chefnogaeth oedolyn y gellir ymddiried ynddo neu eiriolwr y plentyn.
Cynllunio gofal a chymorth mewn perthynas ag addysg
Fel yr amlinellir yn y newidiadau arfaethedig i'r rhaglith rydym yn bwriadu dileu unrhyw gyfeiriadau at strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal, gan fod y strategaeth wedi dod i ben yn 2019.
Cynlluniau addysg personol
Yn y rhan o'r cod sy'n ymdrin â chynlluniau addysg personol ar dudalen 22, cyfeirir at y canllawiau arferion da a ddatblygwyd.
Cyfarfodydd adolygu
Yn ystod yr uwchgynadleddau ar gyfer y rhai â phrofiad o fod mewn gofal, dywedodd plant sy'n derbyn gofal fod cyfarfodydd cynlluniau addysg personol neu gyfarfodydd adolygu gofal yn aml yn tarfu ar eu gwersi. Cynigir cynnwys adran i gyd-fynd â chanllawiau eraill yn y maes hwn sy'n esbonio, lle bo hynny'n bosibl, y dylid cynnal cyfarfodydd y tu allan i oriau gwersi. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid darparu ystafell briodol er mwyn sicrhau preifatrwydd ar gyfer y cyfarfod.
Newidiadau arfaethedig: pennod 2 - lleoliadau
Cryfhau llais y plentyn
Drwy gydol y bennod, bydd y cyfeiriad at bwysigrwydd gwrando ar lais y plentyn yn cael ei gryfhau.
Symud lleoliadau
Cynigir cynnwys adran yn y bennod hon ar ganllawiau ar gyfer symud lleoliadau, gan roi sylw i ymdrin ag eiddo personol plant sy'n derbyn gofal.
Dylid trin eiddo plant sy'n derbyn gofal gyda'r parch mwyaf a dylid darparu bagiau addas i bob plentyn sy'n derbyn gofal ar gyfer ei eiddo, ond ni ddylid fyth ddefnyddio bagiau bin. Mae gan nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru fagiau wedi'u prynu ymlaen llaw ar gyfer cadw eiddo plant sy'n derbyn gofal yn ystod yr adegau hynny pan fyddant yn symud. Yn ogystal, mae ymgyrch Pethau Pwysig i Mi ("My Things Matter") y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol wedi datblygu partneriaeth gyda Madlug, sef brand bagiau sydd wedi'i leoli yn Iwerddon, i ddarparu bagiau am ddim i bobl ifanc.
Ceir adegau, yn bennaf o dan amgylchiadau brys, pan na fo bagiau a brynwyd ymlaen llaw wedi'u defnyddio. Os bydd adegau pan na ellir defnyddio bagiau addas, dylai awdurdodau lleol ystyried sut y gellid osgoi hynny yn y dyfodol, trafod y mater gyda'r plentyn sy'n derbyn gofal, a sicrhau bod ei lais yn llywio datblygiadau o ran eu harferion wrth symud eiddo personol.
Rhianta corfforaethol
Beth yw rhianta corfforaethol?
Cafodd y cysyniad "rhianta corfforaethol" ei gyflwyno am y tro cyntaf ym mis Medi 1998 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ar y pryd, Frank Dobson, cyn datganoli yng Nghymru. Roedd yn rhan o raglen 5 mlynedd Llywodraeth y DU "quality protects" i sicrhau bod plant mewn angen, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, yn cael y gofal, y diogelwch a'r cyfleoedd mewn bywyd y mae pob plentyn yn eu haeddu. Felly, ar hyn o bryd, nid oes un diffiniad cyfreithiol o rianta corfforaethol sy'n gymwys o ran Cymru.
Awgrymir y diffiniad canlynol sydd wedi cael ei ddefnyddio'n gyffredin i esbonio rôl awdurdodau lleol fel rhieni corfforaethol:
Rhaid i'r awdurdod lleol ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant sy'n derbyn gofal a defnyddio gwasanaethau sydd ar gael i blant fel eu "rhiant corfforaethol". Mae'r cyfrifoldeb cyfunol hwn yn cael ei roi ar yr awdurdod cyfan, gan gynnwys ei aelodau etholedig, ei weithwyr a'i asiantaethau partner, i fod y rhiant gorau y gall fod i'r plentyn neu'r person hwnnw a'i arwain yn ei gymuned. Mae gan yr awdurdod lleol cyfan gyfrifoldeb i weithredu ar ran y plentyn hwnnw yn yr un modd ag y byddai rhiant da yn gweithredu dros ei blentyn ei hun, gan gynnwys pan fydd yn gadael gofal.
Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers lansio'r siarter rhianta corfforaethol i hyrwyddo ei hegwyddorion i sefydliadau ehangach nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol am rianta corfforaethol. Wrth fyfyrio ar y trafodaethau hyn, mae'r term arfaethedig "rhianta cymunedol" yn cael ei ystyried ar gyfer y rhai nad oes ganddynt unrhyw gyfrifoldeb statudol.
Mae'r defnydd o'r term hwn yn pwysleisio bod rhianta yn ymdrech ar y cyd a gellir ei ddefnyddio i esbonio rhianta corfforaethol i'r gymuned ehangach hon. Y bwriad fyddai:
- parhau i ddefnyddio rhianta corfforaethol i esbonio cyfrifoldebau rhianta awdurdodau lleol ochr yn ochr ag eraill sydd â chyfrifoldebau statudol
- defnyddio rhianta cymunedol i ddangos dull gofalu sy'n fwy cyfannol a chynhwysol ac sy'n canolbwyntio mwy ar y plentyn gan y gymuned ehangach
Cynigion ar gyfer y bennod ar rianta corfforaethol
Diben y bennod newydd hon fydd darparu arweiniad i awdurdodau lleol i'w cefnogi i arfer eu dyletswyddau mewn perthynas â'u rôl fel rhieni corfforaethol. Y strwythur arfaethedig ar gyfer y bennod hon yw:
- rhianta corfforaethol: cyflawni, gan gynnwys llais y plentyn
- rhianta corfforaethol: rôl o ran darparu gwybodaeth wrth adael gofal
- rhianta corfforaethol: adrodd
Cyflawni rhianta corfforaethol, gan gynnwys llais y plentyn
Mae adran 6 o'r ddeddf yn nodi'r dyletswyddau cyffredinol a hollgyffredinol sy'n cael eu gosod ar awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal. Mae 2 ddyletswydd sy'n berthnasol i'r adran hon, sef:
- rhaid i awdurdodau lleol, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, ganfod barn, dymuniadau a theimladau’r plentyn neu'r person ifanc a rhoi sylw i’r farn honno, y dymuniadau hynny a’r teimladau hynny
- rhaid i'r awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn ddiogelu a hyrwyddo llesiant y plentyn
Er mwyn galluogi awdurdodau lleol fel rhieni corfforaethol i arfer y dyletswyddau hyn yn effeithiol, ceir enghreifftiau o awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n sefydlu paneli neu grwpiau rhianta corfforaethol. Gall y paneli hyn fod yn fforwm defnyddiol i wrando ar blant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal, a fydd yn helpu i lywio'r gwaith o ddylunio a chyflawni cyfrifoldebau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol.
Gall y paneli neu grwpiau hyn gynnwys uwch-aelodau neu uwch-swyddogion sy'n cynrychioli gwasanaethau plant ac oedolion, addysg a thai yn ogystal â meysydd eraill sy'n gysylltiedig â phlant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal.
Byddai'r bennod arfaethedig yn esbonio manteision sefydlu paneli o'r fath fel dulliau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r dyletswyddau a amlinellir uchod. Byddai'r bennod hefyd yn amlinellu opsiynau ar gyfer cefnogi llais a safbwyntiau plant a phobl ifanc wrth ddarparu a chynllunio gwasanaethau, gan roi sylw dyladwy i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Byddai enghreifftiau o arferion da o ran sut y gellir cyflawni hyn hefyd yn cael eu darparu mewn pecyn cymorth rhianta corfforaethol ychwanegol, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wahân ar-lein.
Rôl rhiant corfforaethol o ran darparu gwybodaeth wrth adael gofal
Yn y ddeddf a Rheoliadau Ymadawyr Gofal (Cymru) 2015, mae dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddarparu cymorth a gwybodaeth i bobl ifanc pan fyddant yn gadael gofal, ac i gadw mewn cysylltiad. Mae'r dyletswyddau hyn yn cynnwys penodi cynghorydd personol a chadw mewn cysylltiad â pherson ifanc o dan yr amgylchiadau a ragnodir.
Mae darparu gwybodaeth gyson a hygyrch i bobl ifanc sy'n gadael gofal am yr ystod o gymorth a hawliau sydd ar gael iddynt yn faes a godwyd yn ystod yr uwchgynadleddau ar gyfer y rhai â phrofiad o fod mewn gofal. Mae enghreifftiau da o'r wybodaeth hon yn cael ei darparu ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, ond nid yw'r ddarpariaeth yn gyson.
Er mwyn darparu gwybodaeth hygyrch i'r rhai sy'n gadael gofal a chynorthwyo cynghorwyr personol yn eu rôl, cynigir ystyried adnodd gwybodaeth ar-lein pwrpasol a hygyrch gan awdurdodau lleol. Byddai'r adnodd hwn, megis tudalen we neu ap ar-lein, yn darparu gwybodaeth i bobl ifanc am eu hawliau ar ôl iddynt adael gofal, hyd nes y byddant yn 25 oed.
Adrodd ar rianta corfforaethol
Mae plant a phobl ifanc wedi gofyn i Lywodraeth Cymru sut y bydd yn gwybod a yw awdurdodau lleol yn gwneud yr hyn y dylent fod yn ei wneud fel rhieni corfforaethol. Bydd y bennod yn cynnwys yr awgrymiadau canlynol, er enghraifft:
- y dylai panel neu bwrdd rhianta corfforaethol gynnal cyfarfodydd rheolaidd bob 6 mis gyda phlant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn ei ardal
- y dylid rhannu enghreifftiau o arferion da gyda Llywodraeth Cymru, y gellid eu cyhoeddi fel rhan o gasgliad o arferion da yng Nghymru bob blwyddyn
- y dylid ystyried arferion da drwy gynnwys dulliau clir o fesur cynnydd, megis mesurau perfformiad a data cenedlaethol
Diweddariadau eraill
Diweddaru'r derminoleg i gynnwys anghenion dysgu ychwanegol
Yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021, bydd cyfeiriadau at "anghenion addysgol arbennig" yn cael eu newid i "anghenion dysgu ychwanegol".
Newidiadau arfaethedig: pennod 4 - adolygu achosion
Cryfhau llais y plentyn
Drwy gydol y bennod, bydd y cyfeiriad at bwysigrwydd gwrando ar lais y plentyn yn cael ei gryfhau.
Rôl a swyddogaeth y swyddog adolygu annibynnol
Yn yr adran hon, cynigir cynnwys "gwrando ar ddymuniadau a theimladau'r plentyn a sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried" fel y pwynt cyntaf o dan rôl y swyddog.
Y broses adolygu
Yn yr adran hon, cynigir diwygio paragraff 373 ar dudalen 71 i gynnwys "prif nod" yn hytrach na "materion allweddol". Byddai'r paragraff diwygiedig llawn fel a ganlyn:
- prif nod y broses adolygu yw sicrhau cyfranogiad ac ymwneud y plentyn, gan gynnwys rhoi esboniadau clir i'r plentyn o'r rheswm dros unrhyw newidiadau
Bydd hefyd angen sicrhau bod y broses yn cynnwys:
- cyfranogiad priodol asiantaethau eraill
- gwaith goruchwylio ac arolygu gan reolwyr cyfrifol
- manylion ynghylch i ba raddau y mae cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni'r canlyniadau a nodwyd
Cwestiynau ymgynghoriad
Cwestiwn 1: pennod 2 - lleoliadau
Ydych chi'n cytuno â'r ychwanegiadau a'r diwygiadau arfaethedig i'r adrannau hyn o'r cod? Os nad ydych, a allech chi esbonio pa welliannau eraill sydd eu hangen?
Cwestiwn 2: beth yw rhianta corfforaethol?
Beth yw eich barn chi am y term "rhianta cymunedol"?
Cwestiwn 3: cyflawni rhianta corfforaethol, gan gynnwys llais y plentyn
Beth yw eich barn chi am y cynigion yn yr adran hon o'r bennod ar baneli neu grwpiau rhianta corfforaethol?
Cwestiwn 4: rôl rhiant corfforaethol o ran darparu gwybodaeth wrth adael gofal
Beth yw eich barn chi am y cynigion ar gyfer yr adran hon o'r bennod? Oes unrhyw beth ar goll?
Cwestiwn 5: rôl rhiant corfforaethol o ran darparu gwybodaeth wrth adael gofal
Ydych chi'n meddwl y byddai'r wybodaeth hon wedi'i lleoli'n well ar blatfform cenedlaethol neu leol? Esboniwch.
Cwestiwn 6: adrodd ar rianta corfforaethol
Beth yw eich barn chi am y cynigion ar gyfer yr adran hon o'r bennod? Oes unrhyw beth ar goll?
Cwestiwn 7: adrodd ar rianta corfforaethol
Yn eich barn chi, beth fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o fesur cynnydd mewn perthynas â rhianta corfforaethol?
Cwestiwn 8: pennod 4 - adolygu achosion
Ydych chi'n cytuno â'r ychwanegiadau a'r diwygiadau arfaethedig i'r adrannau hyn o'r cod? Os nad ydych, a allech chi esbonio pa welliannau eraill sydd eu hangen?
Cwestiwn 9
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi.
Cwestiwn 10
Ydych chi'n meddwl y bydd unrhyw un o'r cynigion a amlinellir yn y ddogfen hon yn cael unrhyw ganlyniadau anfwriadol? Os ydych, esboniwch.
Cwestiwn 11
Beth yw eich barn ar effaith debygol y newidiadau arfaethedig i god ymarfer rhan 6 (rhianta corfforaethol) ar grwpiau penodol o bobl, yn enwedig y rhai â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? Beth fyddai’r effeithiau, yn eich barn chi?
Cwestiwn 12
Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r newidiadau arfaethedig i god ymarfer rhan 6 (rhianta corfforaethol) yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 27 Hydref 2025, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- cwblhewch ein ffurflen ar-lein
- llwythwch i lawr, cwblhewch ein ffurflen ymateb ac e-bostiwch at: rhiantacorfforaethol@llyw.cymru
- llwythwch i lawr, cwblhewch ein ffurflen ymateb a'i phostio at:
Gwella Canlyniadau i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod.
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.
Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na 3 blynedd.
Manylion cyswllt
I gyfer gwybodaeth bellach am y ymgynghoriad hwn cysylltwch â:
Gwella Canlyniadau i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: rhiantacorfforaethol@llyw.cymru
Mwy o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG52399
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen.
Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
