Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Mawrth 2026.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 578 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn ymgynghori ar ddiwygiadau i'r codau presenoldeb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar ddiweddaru'r codau i:
- roi mwy o eglurder a data i awdurdodau lleol ac ysgolion ar y rhesymau y tu ôl i ddiffyg presenoldeb
- sicrhau bod ein dull o gofnodi presenoldeb yn cael ei gymhwyso'n gyson ledled Cymru a chryfhau dealltwriaeth, a cefnogi monitro presenoldeb yn effeithiol ledled Cymru
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb penodol i bartneriaid gan gynnwys ysgolion a gynhelir ac ysgolion annibynnol, Unedau Cyfeirio Disgyblion, ysgolion arbennig, awdurdodau lleol, cymdeithasau proffesiynol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, o ystyried natur dechnegol y codau presenoldeb. Fodd bynnag, rydym yn croesawu ymatebion gan bawb.
Nodyn
Mae fersiwn Gymraeg y ddogfen ymgynghori wedi cael ei diwygio i gywiro gwallau a nodwyd yn rhai o’r cwestiynau. Gallwn gadarnhau nad yw hyn yn effeithio ar y testun Saesneg ac nad yw honno yn wahanol i’r fersiwn a gyhoeddwyd yn wreiddiol.
