Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Ym mis Medi 2023, newidiodd y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd preswyl a ffyrdd anghyfyngedig i 20mya. Effeithiodd y newid ar rai cefnffyrdd.
Ym mis Gorffennaf 2024, fe wnaethom gyhoeddi adolygiad o derfynau cyflymder 20mya a 30mya ar ffyrdd y maent yn gyfrifol amdanynt.
Ar gyfer cefnffyrdd, y rhain oedd Llywodraeth Cymru, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA). Gwahoddwyd y cyhoedd hefyd i ddweud eu dweud.
Mae canlyniad yr adolygiad hwn wedi'i gyhoeddi ar ein gwefan heddiw.
Rydym yn cynnig newidiadau i rai terfynau cyflymder 20mya a 30mya ac yn ystyried cyflwyno terfynau cyflymder clustogi mewn rhai ardaloedd. Bydd angen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig newydd ar gyfer pob newid o ran terfyn cyflymder. Gall y broses gyfreithiol gymryd 9 mis, felly bydd newidiadau yn digwydd ar lawr gwlad o ddechrau 2027 ymlaen.
Mae gwaith arall wedi'i gynllunio i wella cydymffurfiaeth â therfynau cyflymder a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr.
