Mae rhaglen i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn cael ei lansio wrth i Lywodraeth Cymru dderbyn argymhellion asesiad sylweddol o wasanaethau.
Fe wnaeth yr asesiad sicrwydd annibynnol, a archwiliodd yr holl wasanaethau yng Nghymru, nodi llawer o gryfderau ac fe gafwyd adborth cadarnhaol gan fenywod beichiog a'u partneriaid.
Ond fe wnaeth hefyd dynnu sylw at feysydd lle mae'n rhaid i'r GIG wneud yn well.
Mae'r asesiad cynhwysfawr, a arweiniwyd gan gyn-Gomisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Cynhaliwyd yr asesiad ar ôl yr adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn sgil adolygiadau tebyg yn ymddiriedolaethau GIG Lloegr.
Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion, 7 ohonynt yn llawn ac 1 yn rhannol.
Bydd rhaglen wella 3 blynedd yn:
- cryfhau arweinyddiaeth drwy sefydlu Bwrdd Goruchwylio Strategol Cenedlaethol i ysgogi gwelliannau ledled Cymru
- gweithredu systemau monitro diogelwch amser real
- sefydlu fforwm cenedlaethol i rannu arferion gorau
- gwella canllawiau i fyrddau iechyd i sicrhau bod trafodaeth am enedigaeth yn dod yn rhan arferol o ofal mamolaeth a newyddenedigol
- datblygu manyleb gwasanaeth ar gyfer ysgogi esgor
Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru yn ailddatblygu'r cynlluniau gweithlu amenedigol i sicrhau bod gan fyrddau iechyd lefelau staffio diogel.
A bydd gweithdrefn weithredu safonol glir, sy'n seiliedig ar drawma ac sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn cael ei datblygu i gefnogi byrddau iechyd i ymateb i ddigwyddiadau
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd:
Mae gan bob mam, bob baban a phob teulu yr hawl i gael gofal diogel, o ansawdd uchel.
Fe wnes i gomisiynu'r asesiad sicrwydd cenedlaethol i roi archwiliad annibynnol a gwrthrychol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Mae'n tynnu sylw at feysydd rhagoriaeth, yn nodi lle mae angen gwella, ac yn atgyfnerthu ymroddiad a phroffesiynoldeb ein gweithlu.
Rwyf am ddiolch i'r panel am eu gwaith ac rwy'n ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o'r broses asesu. Mae eu safbwyntiau a'u profiadau wedi bod yn hynod werthfawr, gan sicrhau bod lleisiau menywod, teuluoedd, staff a chymunedau ledled Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad terfynol.
Bydd Llywodraeth Cymru a'r GIG nawr yn bwrw ymlaen â'r argymhellion i sicrhau bod gwelliannau parhaol yn cael eu gwneud i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
