Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r gwerthusiad ar y cyd hwn o Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (SATC 2023) a’r Rhaglen Ôl-osod wedi’i Optimeiddio (ORP 3) yn anelu at ddeall profiadau landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid tai cymdeithasol, ac i ddadansoddi effeithiolrwydd cost ORP 3.

Cefndir

Mae’r SATC yn set o safonau gorfodol ar gyfer yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r ORP yn ddull tŷ cyfan sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddatgarboneiddio stoc tai cymdeithasol presennol yng Nghymru, gan gynnwys ôl-osod.

Mae’r gwerthusiad ar y cyd hwn o SATC 2023 ac ORP3 yn anelu at ddeall profiadau landlordiaid tai cymdeithasol a thenantiaid tai cymdeithasol, gan gynnwys sut y gweithredwyd yr ymyriadau a’u heffaith ganfyddedig. Yn ogystal, cynhaliwyd dadansoddiad Gwerth am Arian (GaA) i asesu effeithiolrwydd cost ORP 3.

Amcanion y prosiect

Ar gyfer SATC 2023 a’r ORP, nod y gwerthusiad oedd:

  • deall profiadau tenantiaid
  • deall profiadau landlordiaid
  • syntheseiddio tystiolaeth ar draws y ddwy raglen

Yn ogystal:

Ar gyfer SATC 2023

  • cynnal gwerthusiad canlyniadau

Ar gyfer yr ORP

  • ymgymryd â dadansoddiad cost a budd cymdeithasol (DCB)
  • asesu i ba raddau y mae’r rhaglen yn cyflawni ei hamcanion fel menter ‘profi a dysgu’

Methodoleg

Arolwg tenantiaid

  • 1,285 o ymatebion ar gyfer SATC a 274 ar gyfer ORP 3.

Cyfweliadau a grwpiau ffocws â thenantiaid

  • Cymerodd 45 o denantiaid ran mewn cyfweliadau neu grwpiau ffocws sy’n ymwneud â’r SATC. Dim ond 4 cyfweliad y cynhaliwyd yn benodol ar gyfer yr ORP.

Arolygon landlordiaid

  • 32 o ymatebion i arolwg gan 27 o landlordiaid cymdeithasol, gan gynnwys ymatebion lluosog gan rai sefydliadau.

Cyfweliadau â landlordiaid

  • Cafodd 15 o sefydliadau landlordiaid cymdeithasol eu cynnwys. Roedd deg o gyfweliadau’n cwmpasu’r ddwy raglen, pedwar yn ymwneud ag ORP yn unig, ac un yn ymwneud â SATC 2023 yn unig.

Dadansoddiad Cost-Buddion

  • Aseswyd costau a buddion Ffotofolteg (PV) a Batris, Mesurau Ffabrig, a chyd gyfuniad o’r ddau, dros gyfnod gwerthuso o 30 mlynedd.

Canfyddiadau

Tenantiaid

  • Roedd ymwybyddiaeth o’r ddau—SATC ac ORP 3—yn gyfyngedig, hyd yn oed ymhlith tenantiaid a oedd wedi derbyn ôl-osod ORP 3.
  • O ran y SATC, mynegodd tenantiaid ddiddordeb cryf mewn gwelliannau ymarferol i’r cartref sy’n cynyddu cynhesrwydd, yn lleihau lleithder ac yn gostwng costau ynni, gan gynnwys cartrefi diogel a sicr ac ystafelloedd ymolchi o ansawdd da. Yr oedd rhai tenantiaid yn parhau i bryderu am y materion hyn yn eu heiddo.
  • O ran ORP 3, roedd barn am y gwaith ôl-osod yn gymysg, ond roedd boddhad cyffredinol â’r gwaith a ariennir yn uchel.

Landlordiaid

  • Ar draws y ddwy raglen, croesawodd landlordiaid gymorth Llywodraeth Cymru, gan amlygu cydweithredu adeiladol a hygyrchedd.
  • Ymhlith y prif gyfyngiadau ar gyfer y SATC a’r ORP 3 roedd pwysau ariannol, ansicrwydd ynghylch cyllid tymor hir a chylchoedd cyllido, prinder personél hyfforddedig ac achrededig, a gofynion gweinyddol cynyddol.
  • Roedd cynnydd wrth weithredu’r SATC yn amrywio.

Gwerthusiad Canlyniadau

  • Mae canlyniadau cyffredinol y gwerthusiad canlyniadau ar gyfer y SATC yn gymysg. Adroddwyd am welliannau ystyrlon ym meysydd amodau tai tenantiaid, cysur, diogelwch a lles. Fodd bynnag, adroddodd landlordiaid fod SATC 2023 yn gosod gofynion sylweddol ar landlordiaid. Gwelwyd targedau tymor hir SAP 92 a Thystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) gradd A gan landlordiaid fel rhai uchelgeisiol.
  • Mae’r dystiolaeth yn dangos bod ORP 3 wedi bod yn effeithiol fel rhaglen ‘profi a dysgu’ wrth gefnogi landlordiaid i adeiladu arbenigedd technegol, gallu sefydliadol, a hyder i arbrofi â chyflawni gwaith ôl-osod. Fodd bynnag, adroddodd rhai landlordiaid eu bod yn teimlo eu bod fwyfwy wedi’u cyfyngu gan bwysau rheoleiddiol, technegol a sefydliadol.

Dadansoddiad Cost-Buddion

Mae canfyddiadau’r DCB yn dangos bod ORP 3 yn darparu gwerth am arian ar draws pob un o’r tri opsiwn ôl-osod canlynol ac o’i gymharu â’r ddau senario gwrth-ffeithiol:

  • Systemau ffotofolteg a batri (Pecyn 2)
  • Mesurau ‘ffabrig yn gyntaf’ (Pecyn 4)
  • Cyflawniad cyfunol o Becyn 2 a Phecyn 4

Mae hyn yn aros yn wir hyd yn oed o dan ragdybiaethau ceidwadol. Mae’r tri opsiwn ôl-osod hyn i gyd yn cyflawni cymarebau budd i gost (BCR) o leiaf 1.9, sy’n golygu bod bob £1 a fuddsoddir yn cynhyrchu o leiaf £1.90 o fuddion. Mae’r dadansoddiad yn nodi bod y buddion ynni, iechyd ac amgylcheddol a ddarperir drwy ORP 3 yn sylweddol fwy na chostau’r rhaglen.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer dyfodol y cynllun.

The report also includes recommendations for the future of the scheme.

Adroddiadau

Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Tim Ymchwil Tai

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.