Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Heddiw rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd wrth ymateb i Argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy.
Cyflwynodd y Tasglu Tai Fforddiadwy raglen waith gynhwysfawr, gan wneud 41 o argymhellion sy'n tanlinellu pa mor gymhleth yw hwyluso’r broses o ddarparu tai fforddiadwy. Nid oes un ateb; yn hytrach, mae angen ystod o gamau gweithredu ar draws sectorau.
I gydnabod hyn, fe wnes i ddwyn grŵp gweithredu ynghyd, a'i gadeirio. Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth draws-sector i sicrhau mai'r rhai sydd yn y sefyllfa orau i arwain a chyflawni y camau gweithredu sy’n gwneud hynny.
Rwy'n croesawu’r ffordd y mae aelodau'r grŵp wedi dod ymlaen i arwain ar gamau penodol ac i rannu cyfrifoldeb a pherchnogaeth am weithredu'r argymhellion.
Mae’r Llywodraeth Cymru hon ac ein partneriaid wedi goruchwylio’r cyflawniad cynaliadwy uchaf o dai cymdeithasol yng Nghymru ers tua dau ddegawd - a chyflawni filoedd mwy ar draws deiliadaethau eraill hefyd.
Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud o hyd, ac rwy'n annog y grŵp gweithredu a Llywodraeth nesaf Cymru i barhau â'r momentwm hwn.
