Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ym mis Hydref, rhoddais ddatganiad llafar ynghylch y camau rwyf wedi’u rhoi ar waith i gyflawni ein huchelgais ar gyfer sicrhau GIG mwy atebol, agored a thryloyw. Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth bwysig ddiweddaraf am sut rydym yn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn fwy atebol i’r cyhoedd y mae’n ei wasanaethu ac yn sicrhau bod data ystyrlon a thryloyw am wasanaethau ar gael yn fwy hwylus a hygyrch.
Yn ddiweddar, cwblheais y rownd gyntaf o gyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus gyda holl sefydliadau’r GIG. Cafodd pob un o’r rhain eu ffrydio’n fyw, gan alluogi pobl, am y tro cyntaf, i wylio Llywodraeth Cymru yn dwyn byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig i gyfrif ynghylch eu cynlluniau, cyllid, gwasanaethau, perfformiad, ansawdd a diogelwch. Mae’r recordiadau o’r cyfarfodydd hyn, ynghyd â’r llythyrau a anfonwyd ar ôl y cyfarfodydd, ar gael ar-lein. Byddwn yn cyhoeddi'r pecynnau tystiolaeth a ddarparwyd gan bob sefydliad yr wythnos hon.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi sicrhau bod mwy o ddata nag erioed o’r blaen ar gael ynglŷn â pherfformiad y GIG. Mae’r Fframwaith Perfformiad newydd ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans Brys yn golygu bod data mwy ystyrlon ar gael ynghylch canlyniadau cleifion a sut y mae’r gwasanaeth ambiwlans yn perfformio. Mae cyflwyno’r fframwaith wedi symud Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y tu hwnt i ddim ond un mesur amser ymateb i ddarlun mwy tryloyw o daith gyfan y claf, o ymdrin â galwadau i ganlyniadau clinigol.
Mae cyhoeddi’r set ehangach hon o fesurau yn caniatáu i bobl weld sut y mae’r gwasanaeth ambiwlans – a’u partneriaid – yn darparu gofal ble, a phryd, y mae’n fwyaf pwysig. Er enghraifft, mae cyhoeddi data am gyfraddau cylchrediad digymell wedi dychwelyd yn galluogi clinigwyr a’r gwasanaeth ambiwlans i ganolbwyntio ar wella canlyniadau pobl ar ôl cyfnod o ataliad y galon. Mae hyn oherwydd ei fod yn trosi gofal ataliad y galon o broses glinigol gudd i system fesuradwy, y gellir dysgu ohoni ac sy’n canolbwyntio ar y gadwyn oroesi a rôl y gymdeithas ehangach o ran ei chyflawni.
Nododd y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru, a gynhaliodd adolygiad trylwyr o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, bod yr amgylchedd atebolrwydd yng Nghymru yn gymhleth, yn seiliedig ar nifer mawr o ddata, yn feichus i sefydliadau’r GIG, yn brin o dryloywder ac nad yw’n sbarduno gwelliant.
Rwy’n ddiolchgar am safbwyntiau a chymorth y Grŵp ac rwyf wedi rhoi camau ar waith i wella’r sefyllfa. O fis Ebrill ymlaen, bydd y fframwaith gweithredu ac atebolrwydd ar gyfer GIG Cymru yn cael ei symleiddio, gan wneud y system yn gydnaws ag argymhellion y Grŵp ynghylch cynhyrchiant a pherfformiad i wella atebolrwydd. Bydd y GIG yn symud i ddull goruchwylio symlach, sy’n seiliedig ar risg gan gynnwys arweinyddiaeth glinigol gryfach a chanlyniadau cliriach ar gyfer achosion o beidio â chyflawni. Bydd hyn yn symleiddio’r system ac yn sicrhau bod prosesau atebolrwydd yn gliriach, gan hefyd wella’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dwyn y GIG yng Nghymru i gyfrif. Mae’n cryfhau gweithdrefnau goruchwylio Gweinidogol, yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na phrosesau, ac yn hybu diwylliant o ymyrraeth gynnar a gwella.
Bydd y trefniadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn ystod chwarter cyntaf 2026/27. Byddant yn lleihau nifer y rhyngwynebau uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau'r GIG gyda Pherfformiad a Gwella GIG Cymru yn darparu rhyngwyneb sicrwydd gweithredol. Bydd set ddata a naratif sengl, wedi'i reoli yn cael ei rannu ar gyfer adrodd sicrwydd a pherfformiad. Bydd amlder cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar lefel uwchgyfeirio'r sefydliad, sy'n golygu y bydd ymreolaeth yn cael ei ennill ar gyfer y rhai sydd ar lefelau uwchgyfeirio is.
Yn gam cychwynnol tuag at wella atebolrwydd, mae holl fframweithiau uwchgyfeirio’r byrddau iechyd bellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn nodi’r camau gweithredu disgwyliedig ar gyfer gwella a meini prawf isgyfeirio ar gyfer pob bwrdd iechyd sy’n destun gweithdrefnau uwchgyfeirio. Ym mis Chwefror, rhoddwyd proses isgyfeirio awtomatig ar waith ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda pan wnaethant fodloni’r gofynion cyflawni o ran perfformiad canser, a nodwyd yn eu fframweithiau eu hunain.
Yn olaf, mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd fis diwethaf, nodais y camau rydym yn eu rhoi ar waith i wella cynhyrchiant y GIG. Mae hyn hefyd yn ymateb i argymhelliad y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant GIG Cymru ynghylch datblygu mesur cyfannol o gynhyrchiant system.
Rydym wedi ymrwymo i gryfhau tryloywder ac atebolrwydd yn y GIG a byddwn yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i ddefnyddio data a gwybodaeth i wella a thrawsnewid gwasanaethau i’r cyhoedd.
