Neidio i'r prif gynnwy
David o Sir Gaerfyrddin

Datrysiad lloeren arloesol ar gyfer cartref ecogyfeillgar yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.

Am flynyddoedd, roedd band eang araf yn broblem i David Hedges a'i bartner yn eu cartref ecogyfeillgar yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Fel un sy'n gweithio gartref, roedd hyn yn aml yn effeithio ar ei gyfarfodydd rhithwir a'i weminarau. Roedd hefyd yn golygu bod y gwasanaeth ffrydio i'w deledu yn annibynadwy. 

Aeth David ati i archwilio'r opsiwn o ddatrysiad band eang lloeren ar gyfer ei gartref. Er bod gan systemau lloeren cynnar enw am fod yn araf ac yn ddrud, canfu David fod systemau mwy newydd sy'n defnyddio lloerennau orbit isel o amgylch y ddaear (LEO) yn gyflymach ac yn fwy cystadleuol o ran pris. Roedd yn ymwybodol o gynllun grant Allwedd Band Eang Cymru (ABC) Llywodraeth Cymru a sylwodd ei fod yn gymwys i wneud cais. 

Disgrifiodd David effaith 'amhrisiadwy' cynllun ABC ar eu bywydau.

Dywedodd David:

"Mae ein cyflymderau lawrlwytho bellach yn cyrraedd rhwng 150 a 450 Mbps yn rheolaidd. Cyn defnyddio'r lloerennau, roeddem ni'n ffodus i gael 30 Mbps trwy gysylltiad 4G, gan nad oedd band eang ffeibr ar gael i ni. 

"Mae mynediad i'r rhyngrwyd yn rhan mor ganolog o'n bywydau fel bod cael gwasanaeth cyflym, dibynadwy wedi cael gwared ar gymaint o rwystrau o ran archebu nwyddau a gwasanaethau, gwneud apwyntiadau, gallu cael galwadau ffôn di-dor a'r holl fanteision y mae pobl mewn trefi a dinasoedd yn eu cymryd yn ganiataol.

"Fe wnaethom ni osod y system ein hunain a oedd ychydig yn gymhleth gan fod ein cartref ecogyfeillgar wedi'i gynllunio i fod yn aerglos. Roedd yn rhaid i ni osod dysgl lloeren yn uchel hefyd, i sicrhau ei bod uwchben y coed cyfagos, ond i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr eraill mater o osod y ddysgl lloeren i'w heiddo a rhedeg cebl yn uniongyrchol trwy wal fyddai'r broses.

"Bellach, mae gyda ni gysylltiad sefydlog cyflym, ac nid oes unrhyw darfu ar gyfarfodydd, gweminarau, ffrydio na galwadau ffôn. Mae'n darparu cysylltiad llawer cyflymach a gwell gwasanaeth nag yr oeddwn i'n ei ddisgwyl.

"Mae'r Cynllun ABC wedi helpu'n fawr oherwydd ei fod wedi helpu gyda chost sefydlu'r gwasanaeth lloeren a all fod yn gost a gwariant sylweddol. Nid yw'r broses o wneud cais yn gymhleth ac mae porth ar y we syn hawdd ei ddefnyddio. Byddwn yn annog pobl i ystyried cynllun grant ABC a system loeren os ydyn nhw eisiau gwasanaeth dibynadwy a chyflym."

Cael band eang cyflymach

Mae band eang yn ffordd o gysylltu â’r rhyngrwyd. Ni waeth pa gyflymderau sydd eu hangen arnoch chi, mae opsiynau a chymorth ar gael ichi.