Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl sy'n cael trafferth gwresogi eu cartrefi yng Nghymru i dderbyn cymorth ariannol ychwanegol wrth i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol barhau i gynyddu prisiau tanwydd byd-eang.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd pobl ar incwm isel sy'n defnyddio olew gwresogi neu nwy petrolewm hylifol (LPG) yn gymwys i gael taliad untro o £200 os ydynt ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Daw'r cyllid hwn o £3.8 miliwn a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ar 16 Mawrth 2026. Bydd awdurdodau lleol yn cysylltu ag aelwydydd cymwys yn uniongyrchol ac yn eu gwahodd i wneud cais. Bydd angen i bobl gadarnhau eu math o danwydd gwresogi a darparu manylion banc, gyda thaliadau yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrifon banc. Mae chwe mis o adeg lansio'r cynllun i hawlio.

Gall y rhai mewn caledi ariannol difrifol nad ydynt yn gymwys wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol. Mae'r dyfarniad uchaf ar gyfer olew gwresogi wedi'i gynyddu o £500 i £750, a gall pobl bellach wneud cais hyd at ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis, gan gydnabod y gallai rhai aelwydydd a gafodd gymorth yn gynharach yn y gaeaf gael trafferth eto gan fod prisiau yn parhau i fod yn uchel. Gellir gwneud ceisiadau drwy awdurdodau lleol a phartneriaid cronfeydd eraill fel cymdeithasau tai a sefydliadau'r trydydd sector fel Cyngor ar Bopeth.

O fis Medi 2026 ymlaen, bydd cynllun peilot Cynhesrwydd ar Bresgripsiwn yn cael ei gynnal yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a ddarperir gan yr elusen ynni Hafren Gwy. Bydd y cynllun peilot dau aeaf yn cefnogi pobl â chyflyrau cronig fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), asthma, a chlefyd cardiofasgwlaidd sy'n cael eu gwaethygu gan gartrefi oer, llaith, gan ddarparu £500 i 100 o aelwydydd a fydd yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'w cyflenwr ynni. Bydd cyfranogwyr yn cael eu hadnabod a'u hatgyfeirio trwy'r bwrdd iechyd yn hytrach na thrwy geisiadau unigol. Bydd y cynllun peilot yn darparu tystiolaeth werthfawr ynghylch a yw cadw cartrefi yn gynhesach yn gwella canlyniadau iechyd ac yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau'r GIG.

Mae'r mesurau hyn yn adeiladu ar y cymorth sydd eisoes yn bodoli. Mae'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a'r cynllun Nyth: Cartrefi Clyd gyda'i gilydd yn darparu mwy na £130 miliwn y flwyddyn ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i aelwydydd incwm isel, gan gynnwys gwaith uwchraddio inswleiddio a gwresogi i helpu i leihau biliau yn y tymor hir.

Yn ogystal â'r cymorth argyfwng sydd ar gael drwy DAF, ers 2022, mae dros 230,000 o bobl ledled Cymru wedi cael ynni ychwanegol a chyflenwadau tanwydd trwy gronfa genedlaethol y Sefydliad Banc Tanwydd sy'n cynnig talebau tanwydd a gwres mewn argyfwng.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Mae costau byw yn parhau i roi pwysau ar lawer o aelwydydd ledled Cymru, ac mae'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol yn cynyddu prisiau, gan ychwanegu at y pryder y mae llawer o bobl eisoes yn ei deimlo ynghylch talu eu biliau a gwresogi eu cartrefi.

“Mae cefnogi pobl yn ystod y cyfnod hwn o bwysau yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu'r rhai sydd ei angen fwyaf. Bydd cyhoeddiadau heddiw yn darparu cymorth ychwanegol ar unwaith i'r rhai sydd â'r angen mwyaf, ac yn adeiladu ar y gefnogaeth sylweddol yr ydym eisoes wedi'i rhoi ar waith.

“P'un a ydych chi'n ceisio ymdopi â chostau dydd i ddydd, yn rheoli dyled neu'n ansicr pa gymorth sydd ar gael, mae Advicelink Cymru yno i'ch helpu i hawlio'r cymorth y mae gennych hawl iddo.

“Os ydych chi'n cael trafferth gwresogi eich cartref yn fforddiadwy, cysylltwch â Nyth am gyngor a chefnogaeth, ac i wirio a ydych yn gymwys ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim.”    

Gall Advicelink Cymru roi cyngor clir a chyfrinachol i'r rhai sy'n delio â phryderon ariannol neu'n ansicr pa gymorth y maent yn gymwys i'w gael: 0800 702 2020.

Mae'r cynllun Nyth: Cartrefi Clyd yn cynnig cyngor a gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i aelwydydd incwm isel yng Nghymru: 0808 808 2244.