Ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegol Llywodraeth Cymru: ymateb
Crynodeb o'r ymatebion a gafwyd ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig i ystadegau Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Wrth i’r galw am ddata amserol o ansawdd uchel barhau i dyfu, rydym am sicrhau bod ein hystadegau yn parhau i fod yn:
- gynaliadwy
- hygyrch
- ymaebol i anghenion ein ddefnyddiwr
Rydym felly wedi adolygu ein hallbynnau ystadegol i sicrhau bod adnoddau yn canolbwyntio lle maent yn ychwanegu gwerth mwyaf.
Roedd yr ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i allbynnau ystadegol yn holi barn ar ystod o newidiadau arfaethedig, gan gynnwys:
- byrhau rhai datganiadau
- addasu pa mor aml y cyhoeddir deunyddiau
- newid fformat
- rhoi'r gorau i allbwn lle mae data eisoes ar gael o sefydliadau ystadegau swyddogol eraill
Noder, ni fydd y rhan fwyaf o’r cynigion a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad lleihau’r data a fydd ar gael i ddefnyddwyr. Yn hytrach, bwriad y cynigion yw hwyluso:
- proses fwy effeithlon o greu ystadegau
- mwy o hyblygrwydd i ystadegwyr i flaenoriaethu anghenion defnyddwyr
- lleihau dyblygu lle mae data cyfatebol eisoes ar gael o ffynonellau swyddogol eraill
Lle mae newidiadau yn effeithio ar allbynnau penodol, rydym wedi ceisio deall yr effaith bosibl ar ddefnyddwyr ac i sicrhau bod anghenion data yn parhau i gael eu cyflawni.
Y nod oedd:
- cynnwys defnyddwyr a deall yr effaith bosibl arnynt
- cynnal ymddiriedaeth a safonau tryloywder yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
- cefnogi dull mwy effeithlon o gynhyrchu ystadegau
Gwahoddwyd sylwadau yn ystod ymgynghoriad 12 wythnos rhwng 19 Tachwedd 2025 ac 11 Chwefror 2026. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar ein wefan, roedd yn cynnwys cwestiynau ynghylch y cynigion. Gellid cyflwyno ymatebion ar-lein, drwy e-bost neu drwy'r post, yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rhannwyd y ddolen i'r ymgynghoriad yn eang â rhanddeiliaid, gan gynnwys cyrff cyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, grwpiau cynrychiadol, sefydliadau'r sector ac awdurdodau lleol.
Ymatebion a themâu trawsbynciol
Cafwyd cyfanswm o 59 o ymatebion i’r prif ymgynghoriad. Mae'r holl ymatebion wedi'u dadansoddi a'u hystyried.
Ceir rhestr o'r ymatebwyr, ac eithrio'r rhai a oedd am fod yn ddienw, yn Atodiad A.
Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn deall yr angen i flaenoriaethu adnoddau a lleihau dyblygu, ac roedd llawer yn cefnogi cynigion lle byddai data yn parhau i fod ar gael o ffynonellau eraill. Fodd bynnag, pwysleisiodd defnyddwyr yn gyson bwysigrwydd ystadegau hawdd cael gafael arnynt, sy'n benodol i Gymru; cyfeiriadau clir at wybodaeth; a'r angen am ddigon o sylwebaeth neu arweiniad i allu dehongli'r data yn gywir.
Ar draws yr holl themâu, tynnodd yr ymatebwyr sylw at y canlynol:
- mae cadw data amserol yn parhau i fod yn bwysig ar gyfer gwaith monitro, craffu a chynllunio gwasanaethau
- gallai datganiadau data yn unig gynyddu'r baich dadansoddol ar sefydliadau llai
- mae parhau i ddarparu cyfresi amser ar lefel Cymru a chyfeirio dibynadwy at wybodaeth yn hanfodol
- mae angen cyfathrebu'n glir ynghylch unrhyw leihau ar adroddiadau, a darparu amser pontio digonol
Roedd hwylustod mynediad, cydraddoldeb a gwasanaeth data agored StatsCymru yn codi yn aml yn adborth yr ymatebwyr.
Hwylustod mynediad
Tynnodd ymatebwyr sylw at yr angen i ddiogelu hwylustod mynediad a sicrhau nad yw adroddiadau byrrach neu sylwebaeth fwy cryno yn ei gwneud yn anoddach i ddefnyddwyr annhechnegol ddeall y tueddiadau, yn enwedig lle mae angen mewnwelediad i brofiadau grwpiau penodol.
Rydym yn gweithio'n barhaus i'w gwneud yn haws i bobl gael gafael ar ein cyhoeddiadau, ac ar yr un pryd yn canolbwyntio ein sylwebaeth ar y mannau hynny lle mae'n ychwanegu gwerth go iawn. Yn achos llawer o'n defnyddwyr, mae'r dystiolaeth yn dangos nad ydynt yn darllen adroddiadau hir yn llawn, ac felly rydym am ddarparu naratif clir, cryno sy'n sicrhau dealltwriaeth heb swmp diangen.
Cydraddoldeb
Pwysleisiodd ymatebwyr bwysigrwydd cadw digon o destun esboniadol i'w gwneud yn bosibl monitro ystyriaethau anghydraddoldeb a chydraddoldeb statudol mewn ffordd ystyrlon. Mae Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgymryd â rhaglen eang o waith i wella ansawdd a manylder data a thystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig, yn ogystal â darparu mwy o'r data a'r dystiolaeth hon a'i gwneud yn haws cael gafael arnynt.
StatsCymru
Codwyd pryderon ynglŷn â defnyddioldeb platfform StatsCymru. Gofynnodd sawl ymatebydd am well metadata, arweiniad cliriach a chefnogaeth ymarferol i ddefnyddwyr nad ydynt yn arbenigwyr.
Rydym yn parhau i wella ein platfform StatsCymru newydd drwy ddull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, i sicrhau bod data yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n gyson ac yn hwylus i bob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion mynediad. Bellach, gall defnyddwyr greu a gweld data ar fformat tabl, sef un o'r gwelliannau a awgrymwyd fwyaf ers lansio'r gwasanaeth, yn enwedig ymhlith defnyddwyr nad ydynt yn arbenigwyr. Ymhlith y gwelliannau eraill sydd wedi'u cynllunio mae cryfhau'r canllawiau ar ddefnyddio platfform newydd StatsCymru a'i Ryngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) yn ogystal â gwella cysondeb y wybodaeth dechnegol a ddarperir gyda phob set ddata.
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud nesaf
Roedd yr ymatebion yn pwysleisio pwysigrwydd cyfeiriadau clir at ystadegau a gynhyrchir gan sefydliadau heblaw Llywodraeth Cymru. Byddwn yn cefnogi defnyddwyr drwy gyhoeddi canllaw i lle i ddod o hyd i ystadegau am Gymru. Byddwn hefyd yn gweithio gyda chynhyrchwyr ystadegau eraill ledled y DU i sicrhau eu bod yn deall anghenion defnyddwyr Cymru ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i wella eu hadroddiadau ystadegol.
Wrth inni weithredu'r newidiadau a nodir yn yr ymateb hwn i'r ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd camau i sefydlu patrwm mwy cyson bob mis wrth gynhyrchu cyhoeddiadau i gefnogi'r capasiti a gwella profiad y defnyddiwr. Yn gyffredinol, caiff datganiadau blynyddol ac untro eu cyhoeddi yn hanner cyntaf y mis, a datganiadau misol neu chwarterol yn yr ail hanner, gan gytuno ar eithriadau lle bo angen.
Mae'r adrannau sy'n dilyn yn rhoi trosolwg o'r adborth a ddaeth i law ar draws pob maes pwnc, a'r penderfyniadau yr ydym wedi'u gwneud o ganlyniad ynghylch allbynnau ystadegol i'r dyfodol. Fodd bynnag, nid rhywbeth sy'n digwydd unwaith yw newid. Byddwn yn parhau i addasu ein hallbynnau ystadegol mewn ymateb i adborth defnyddwyr, gan sicrhau bod ein dull yn berthnasol ac yn ddefnyddiol. Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn hefyd yn ystyried y ffordd orau o ymateb i'r anghenion ystadegol hynny sy'n flaenoriaeth i'r llywodraeth nesaf, gan gydbwyso'r gofynion sy'n datblygu â'r adnoddau sydd ar gael.
Trafnidiaeth
Yr hyn a gynigiwyd gennym
Holwyd barn ar newidiadau arfaethedig i 8 o'n hallbynnau ystadegol ym maes trafnidiaeth.
- Trafnidiaeth awyr: lleihau'r allbwn i grynodeb byr a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol (cytuno: 7, anghytuno: 1)
- Defnydd o orsafoedd rheilffyrdd: stopio'r adroddiad a diweddariadau StatsCymru, a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol (cytuno: 7, anghytuno: 4)
- Trafnidiaeth rheilffyrdd: stopio'r adroddiad a diweddariadau StatsCymru, a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol (cytuno: 8, anghytuno: 4)
- Troseddau moduro: stopio'r adroddiad a diweddariadau StatsCymru, a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol (cytuno: 7, anghytuno: 3)
- Cerbydau gwasanaeth cyhoeddus (bysiau a thacsis): byrhau'r adroddiad ond cadw'r data ar StatsCymru (cytuno: 9, anghytuno: 4)
- Traffig ffyrdd: lleihau'r allbwn i grynodeb byr a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol (cytuno: 9, anghytuno: 4)
- Trafnidiaeth môr: byrhau'r adroddiad ond cadw'r data ar StatsCymru (cytuno: 8, anghytuno: 2)
- Cludo nwyddau ar ffyrdd: stopio'r adroddiad a diweddariadau StatsCymru (cytuno: 4, anghytuno: 5)
Yr hyn a ddywedodd yr ymatebwyr wrthym
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno â mwyafrif y cynigion. Roedd llawer yn teimlo y byddai cyfeirio defnyddwyr at ddata'r ffynhonnell wreiddiol yn cyflawni eu hanghenion, cyn belled â bod y cyfeiriadau yn glir, yn fanwl ac yn benodol.
Tynnodd ymatebwyr sylw at y canlynol hefyd:
- bwysigrwydd cadw rhywfaint o destun esboniadol sy'n benodol i Gymru (gan gynnwys crynodebau byr), yn enwedig lle gall data'r ffynhonnell fod yn gymhleth.
- ymatebion cymysg mewn perthynas â throseddau moduro, trafnidiaeth rheilffyrdd, defnydd o orsafoedd rheilffyrdd, a chludo nwyddau ar ffyrdd; nododd rhai eu bod yn dibynnu ar y testun esboniadol a'r dadansoddi a ddarperir ar hyn o bryd.
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud nesaf
- Trafnidiaeth awyr
Byddwn yn stopio'r adroddiad ar drafnidiaeth awyr a setiau data cysylltiedig StatsCymru. Cedwir crynodeb byr o'r prif bwyntiau, gan ddarparu cyfeiriadau clir at ddata'r ffynhonnell wreiddiol. Mae hyn yn adlewyrchu'r gefnogaeth a fynegwyd gan y rhan fwyaf o'r ymatebwyr, a'r data cyfatebol sydd ar gael mewn mannau eraill. Daw'r newid hwn i rym o fis Mehefin 2026.
- Defnydd o orsafoedd rheilffyrdd
Byddwn yn stopio'r adroddiad ar y defnydd o orsafoedd rheilffyrdd a diweddariadau StatsCymru, ac yn cyfeirio defnyddwyr at y ffynonellau data sylfaenol. Er bod rhai ymatebwyr wedi dweud wrthym fod y sylwebaeth yn ddefnyddiol, roedd y mwyafrif yn cefnogi'r cynnig. Gan fod yr allbwn hwn eisoes wedi dod i ben dros dro, mae'r newid yn dod i rym ar unwaith. Wrth gyhoeddi'r hysbysiad canslo, byddwn yn cyfeirio defnyddwyr at y ffynonellau data sylfaenol.
- Trafnidiaeth rheilffyrdd
Byddwn yn stopio'r adroddiad ar drafnidiaeth rheilffyrdd a setiau data StatsCymru, ac yn cyfeirio defnyddwyr at y ffynonellau data sylfaenol. Er bod rhai ymatebwyr wedi dweud wrthym fod y sylwebaeth yn ddefnyddiol, roedd y mwyafrif yn cefnogi'r cynnig. Gan fod yr allbwn hwn eisoes wedi dod i ben dros dro, mae'r newid yn dod i rym ar unwaith. Wrth gyhoeddi'r hysbysiad canslo, byddwn yn cyfeirio defnyddwyr at y ffynonellau data sylfaenol.
- Troseddau moduro
Byddwn yn stopio'r adroddiad ar droseddau moduro a setiau data StatsCymru, ac yn cyfeirio defnyddwyr at y ffynonellau data sylfaenol. Er bod y datganiad yn ddefnyddiol i rai ymatebwyr, roedd y mwyafrif yn cefnogi'r cynnig. Gan fod yr allbwn hwn eisoes wedi dod i ben dros dro, mae'r newid yn dod i rym ar unwaith, gan ddarparu cyfeiriadau gwell i ddefnyddwyr.
- Cerbydau gwasanaeth cyhoeddus (bysiau a thacsis)
Byddwn yn stopio cynhyrchu'r adroddiad llawn, ac yn hytrach yn cyhoeddi crynodeb byr o'r prif bwyntiau, gan sicrhau bod y setiau data yn dal i fod ar gael ar StatsCymru. Er bod rhai ymatebwyr wedi dweud wrthym fod y sylwebaeth yn ddefnyddiol, roedd y mwyafrif yn cefnogi'r cynnig. Daeth y newid hwn i rym ar gyfer cyhoeddiad Mawrth 2026, ac rydym yn awyddus i gael adborth ar y newid.
- Traffig ffyrdd
Byddwn yn stopio'r datganiad llawn ar draffig ffyrdd a setiau data cysylltiedig StatsCymru. Bydd crynodeb byr o'r prif bwyntiau yn parhau i gael ei gyhoeddi, gan ddarparu cyfeiriadau clir at ffynonellau data. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cefnogi'r newid. Gan fod yr allbwn hwn eisoes wedi'i leihau, mae'r newid yn dod i rym ar unwaith. Rydym yn awyddus i gael adborth defnyddwyr ar yr allbwn mwy cryno hwn.
- Trafnidiaeth môr
Byddwn yn byrhau'r datganiad ar drafnidiaeth môr, gan gadw'r setiau data ar StatsCymru. Mae hyn yn adlewyrchu'r gefnogaeth eang i gadw mynediad at y data wrth inni leihau lefel y sylwebaeth. Caiff y datganiad byrrach ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2026.
- Cludo nwyddau ar ffyrdd
Byddwn yn cyhoeddi crynodeb byr o'r prif ganfyddiadau ar gyfer Cymru ac yn rhoi'r gorau dros dro i ddiweddariadau StatsCymru tra byddwn yn gwneud ymholiadau ynghylch p'un a allai Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi'r data yn uniongyrchol. Roedd barn gymysg ymhlith yr ymatebwyr ar y cynnig hwn, ond roedd y nifer a oedd wedi darllen yr allbwn diwethaf a gyhoeddwyd yn isel iawn, felly byddwn yn cadw llygad arno. Mae'r newid hwn wedi'i gynllunio ar gyfer Hydref 2026.
Yr economi, masnach, y farchnad lafur a sgiliau
Yr hyn a gynigiwyd gennym
Holwyd barn ar newidiadau arfaethedig i 6 o'n hallbynnau ystadegol ym meysydd yr economi, masnach, y farchnad lafur a sgiliau.
- Ymchwil a datblygu (busnes): stopio’r adroddiad a setiau data StatsCymru, a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol (cytuno: 15, anghytuno: 1)
- Ymchwil a datblygu (gros): stopio diweddariadau i StatsCymru, cyfeirio defnyddwyr at ddata tarddiadol, a chadw crynodeb byr o'r prif bwyntiau i Gymru (cytuno: 15, anghytuno: 0)
- Demograffeg busnes: stopio'r adroddiad, gan barhau i ddarparu'r setiau data ar StatsCymru (cytuno: 12, anghytuno: 2)
- Masnach nwyddau rhyngwladol (blynyddol): stopio'r cyhoeddiad blynyddol, gan barhau â'r crynodeb chwarterol byr o'r prif bwyntiau i Gymru (cytuno: 13, anghytuno: 2)
- Trosolwg o'r farchnad lafur: byrhau'r adroddiad, gan gadw'r setiau data ar StatsCymru (cytuno: 16, anghytuno: 1)
- Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET): lleihau amlder yr adroddiad o chwarterol i naill ai blynyddol neu chwemisol (cytuno: 14, anghytuno: 1)
Yr hyn a ddywedodd yr ymatebwyr wrthym
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno â mwyafrif y cynigion. Roedd llawer yn teimlo y byddai cyfeirio defnyddwyr at ddata'r ffynhonnell wreiddiol yn cyflawni eu hanghenion, cyn belled â bod y cyfeiriadau yn glir, yn fanwl ac yn benodol.
Tynnodd ymatebwyr sylw at y canlynol hefyd:
- cyfeiriadau clir a chynhwysfawr at ddata ar gyfer Cymru yn hanfodol, yn enwedig lle bydd defnyddwyr yn dibynnu ar adrannau llywodraethol eraill.
- cadw'r prif destun esboniadol sy'n canolbwyntio ar Gymru yn bwysig i ddefnyddwyr annhechnegol, yn enwedig ar gyfer meysydd cymhleth fel ymchwil a datblygu a'r farchnad lafur.
- cyfresi amser sefydlog, hawdd eu defnyddio yn hanfodol gyda defnyddwyr yn bwysleisio bwysigrwydd osgoi mynediad amldro ar draws sawl taenlen.
- ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur, dadleuodd rhai ymatebwyr y gallai byrhau'r adroddiad leihau'r naratif cyd-destunol sydd ei angen i ddehongli symudiadau ar lefel Cymru.
- ar gyfer ystadegau NEET, roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cefnogi eu cyhoeddi'n llai aml, ond gan fynegi y byddai'n llawer gwell ganddynt adroddiadau chwemisol nag adroddiadau blynyddol a thynnodd rhai defnyddwyr lleol sylw at heriau o ran dadansoddi rhanbarthol a samplau bach.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cefnogi'r cynigion ar gyfer demograffeg busnes, masnach nwyddau rhyngwladol, a'r trosolwg o'r farchnad lafur. Fodd bynnag, pwysleisiodd rhai defnyddwyr bwysigrwydd y dadansoddiad presennol o safbwynt briffio a datblygu polisi.
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud nesaf
1. Ymchwil a datblygu (busnes)
Byddwn yn stopio'r adroddiad Ymchwil a Datblygu busnes a setiau data cysylltiedig StatsCymru, gan ddarparu cyfeiriadau clir at ddata tarddiadol y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cefnogwyd y bwriad hwn gan fwyafrif sylweddol o'r ymatebwyr. Daw'r newid hwn i rym ar unwaith.
2. Ymchwil a datblygu (gros)
Byddwn yn stopio diweddaru setiau data StatsCymru, ac yn hytrach yn cyhoeddi crynodeb byr sy'n canolbwyntio ar Gymru, gan gyfeirio defnyddwyr at ddata'r ffynhonnell. Cefnogwyd y bwriad hwn gan fwyafrif sylweddol o'r ymatebwyr. Daw’r newid i rym ar unwaith.
3. Demograffeg busnes
Byddwn yn stopio cynhyrchu'r adroddiad ar ddemograffeg busnes, gan gadw'r setiau data ar StatsCymru. Cefnogwyd y bwriad hwn gan fwyafrif sylweddol o'r ymatebwyr. Caiff y newid ei weithredu ar gyfer y datganiad nesaf tua diwedd 2026.
4. Masnach nwyddau rhyngwladol (blynyddol)
Rydym wedi stopio'r cyhoeddiad blynyddol a byddwn yn parhau â'r crynodeb chwarterol o'r prif bwyntiau i Gymru. Mae dangosfwrdd rhyngweithiol masnach nwyddau rhyngwladol yn parhau i ddarparu'r data diweddaraf ac yn ymgorffori'r holl ddiwygiadau i ddata hanesyddol. Nododd rhai ymatebwyr fod yr adroddiad blynyddol yn cynnwys dangosyddion ychwanegol, yr ydym wedi'u hymgorffori (lefelau, gwerthoedd allforio'r DU) yn y cyhoeddiadau chwarterol. Daw'r newid hwn i rym ar unwaith.
5. Trosolwg o'r farchnad lafur
Byddwn yn byrhau'r trosolwg o'r farchnad lafur drwy dynnu rhai adrannau a byrhau eraill, gan gadw'r setiau data a gyhoeddir ar StatsCymru ar hyn o bryd. Roedd yr ymatebion yn gymysg, a phwysleisiodd rhai defnyddwyr bwysigrwydd dadansoddi o fewn cyd-destun. Byddwn felly yn sicrhau bod yr adroddiad byrrach yn parhau i dynnu sylw at y prif dueddiadau sy'n benodol i Gymru, a'r angen am ofal wrth ddehongli'r data. Caiff y fformat mwy cryno ei gyflwyno o fis Mai 2026.
6. Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)
Yn sgil cefnogaeth eang i gyhoeddiadau llai aml, a'r ffaith bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o blaid diweddariadau chwemisol, byddwn yn symud o gyhoeddiad chwarterol i chwemisol.
Bydd ein cyhoeddiad ar 29 Ebrill 2026 (sy'n cwmpasu data ar gyfer 2025) yn cynnwys hysbysiad yn cadarnhau'r newid a'r amserlen newydd. Bydd y datganiad nesaf a fydd yn sefydlu'r patrwm cyhoeddi newydd yn cwmpasu'r flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mehefin 2026.
Iechyd a gofal
Yr hyn a gynigiwyd gennym
Holwyd barn ar newidiadau arfaethedig i 11 o'n hallbynnau ystadegol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
- Tueddiadau yn ngweithgarwch gofal a gynlluniwyd y GIG: byrhau'r adroddiad, gan gadw'r data ar StatsCymru (cytuno: 6, anghytuno: 12)
- Tueddiadau yng ngweithgarwch gofal brys y GIG: byrhau'r adroddiad, gan gadw'r data ar StatsCymru (cytuno: 10, anghytuno: 9)
- Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: byrhau'r adroddiad, gan gadw'r data ar StatsCymru (cytuno: 10, anghytuno: 5)
- Gweithlu practis cyffredinol: byrhau'r adroddiad blynyddol, cynnal tablau cyfredol StatsCymru, a lleihau amlder yr adroddiad chwarterol (cytuno: 10, anghytuno: 8)
- Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG: byrhau'r adroddiad blynyddol, cadw'r data ar StatsCymru, lleihau amlder cyhoeddi, a chyfuno'r adroddiad ag ystadegau absenoldeb salwch a swyddi gwag (cytuno: 8, anghytuno: 9)
- Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG: byrhau'r adroddiad, cadw'r data ar StatsCymru, lleihau amlder cyhoeddi, a chyfuno'r adroddiad ag ystadegau staff a gyflogir a swyddi gwag (cytuno: 9, anghytuno: 9)
- Ystadegau swyddi gwag y GIG: byrhau'r adroddiad, cadw'r data ar StatsCymru, lleihau amlder cyhoeddi, a chyfuno'r adroddiad ag ystadegau staff a gyflogir ac absenoldeb salwch (cytuno: 8, anghytuno: 8)
- Cyllidebau rhaglen wariant y GIG: stopio'r adroddiad; cyhoeddi'r data ar fformat gwahanol, yn ôl pob tebyg gan sefydliad arall (cytuno: 6, anghytuno: 11)
- Cleifion mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl: byrhau'r adroddiad ac adolygu sut mae'r allbwn hwn yn cael ei ddefnyddio (cytuno: 8, anghytuno: 11)
- Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl: byrhau'r adroddiad, gan ehangu faint o ddata sydd ar StatsCymru (cytuno: 10, anghytuno: 7)
- Fframwaith canlyniadau cenedlaethol gwasanaethau cymdeithasol: adroddiadau blynyddol – byrhau'r adroddiad, gan gadw'r nifer presennol o ddangosyddion (cytuno: 10, anghytuno: 7)
Yr hyn a ddywedodd yr ymatebwyr wrthym
Roedd yr ymatebion yn gymysg. Roedd llawer yn cefnogi adroddiadau byrrach os oedd setiau data llawn am barhau i fod ar gael, a chyfeiriadau clir ar StatsCymru. Pwysleisiodd eraill fod angen cyd-destun a thestun esboniadol penodol i Gymru yn achos rhai allbynnau, at ddibenion craffu, cynllunio a chyflawni dyletswyddau statudol. Rhoddodd rhai ymatebwyr adborth ar bynciau nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn, a byddwn yn ymateb i'r bobl a'r sefydliadau hynny ar wahân.
Tynnodd ymatebwyr sylw at y canlynol hefyd:
- grynodebau byr yn help i bobl nad ydynt yn arbenigwyr i ddehongli tueddiadau mewn perthynas â gofal a gynlluniwyd a gofal brys, mamolaeth, y gweithlu a iechyd meddwl, gan leihau'r risg o gamddehongli.
- safbwyntiau cryf yn erbyn lleihau pa mor aml y cyhoeddir ystadegau’r gweithlu (gan gynnwys ym maes ymarfer cyffredinol). Gofynnodd rhai defnyddwyr am ddata amlach ar y gweithlu ac absenoldeb salwch er mwyn helpu prosesau goruchwylio ymarferol.
- ddiogelu parhad cyfresi amser, gwella'r cydlynu â gwledydd eraill y DU (e.e., diffiniadau yn ymwneud ag atgyfeirio cleifion am driniaeth) a sicrhau adrodd tryloyw ar ofal trawsffiniol yn bwysig.
- ddadansoddiad ychwanegol (yn hytrach na lleihau dadansoddi ystadegol ar weithlu'r GIG) mewn perthynas â meysydd gwaith penodol, megis y gweithlu iechyd plant, er mwyn llywio'n well drefniadau cynllunio'r gweithlu, briffiadau, a monitro pwysau staffio.
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud nesaf
- Gweithgarwch gofal a gynlluniwyd gan y GIG
Byddwn yn cadw'r adroddiad ar ei fformat presennol. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr naill ai'n anghytuno â'i fyrhau neu heb farn, a thynnodd sawl un sylw at bwysigrwydd cyfresi amser manwl, gwaith dadansoddi a naratif. Bydd yr adroddiad yn parhau i gael ei gynhyrchu ar ei batrwm presennol, a disgwylir y cyhoeddiad nesaf ym mis Medi 2026.
- Gweithgarwch gofal brys y GIG
Byddwn yn cadw'r adroddiad ar ei fformat presennol. Fel yn achos gofal a gynlluniwyd, roedd llawer o'r ymatebwyr yn anghytuno neu heb farn, a phwysleisiodd defnyddwyr werth y manylion presennol. Bydd yr adroddiad yn parhau i gael ei gynhyrchu ar ei batrwm presennol, a disgwylir y cyhoeddiad nesaf ym mis Medi 2026.
- Ystadegau mamolaeth a genedigaethau
Byddwn yn parhau i gyhoeddi bwletin ystadegol byrrach, gan gadw'r holl eitemau data ar StatsCymru. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno â'r cynnig hwn. Roedd y bwletin eisoes yn fwy cryno ar gyfer data 2024, a bydd rhifynnau i ddod yn adolygu p'un a oes angen i'r sylwebaeth gael ei hailgyflwyno yn unrhyw fan lle mae'r tueddiadau wedi newid. Caiff data 2025 ei gyhoeddi ym mis Awst 2026.
- Gweithlu practis cyffredinol
Rydym yn cydnabod yr anghytundeb cryf â chyhoeddi'r wybodaeth hon yn llai aml, ac felly byddwn yn parhau i gyhoeddi ystadegau ar weithlu practis cyffredinol bob chwarter. Fodd bynnag, gan fod llai o anghytundeb ynghylch torri ar hyd y datganiadau ystadegol, byddwn yn byrhau'r cyhoeddiad blynyddol ar sail y gwe-ddata ac adborth y defnyddwyr. Bydd yr holl dablau data yn parhau i fod ar gael ar StatsCymru. Mae'r datganiad nesaf yn debygol o gael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2026, yn amodol ar gael data wedi'i ddilysu o'r System Wybodaeth ar y Gweithlu Gofal Sylfaenol sydd newydd ei sefydlu.
- Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG
- Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG
- Ystadegau swyddi gwag y GIG
Rydym yn cydnabod yr anghytundeb cryf â chyhoeddi'r ystadegau hyn yn llai aml, ac felly byddwn yn parhau i'w cyhoeddi bob chwarter. Roedd yr ymatebwyr yn cytuno â chyfuno allbynnau'r tri maes hyn, a threialwyd un datganiad ystadegol cyfun ym mis Chwefror 2026. Cafwyd adborth cadarnhaol, ac mae'r diweddariad nesaf wedi'i drefnu ar gyfer Mai 2026, a fydd yn aros fel datganiad cyfun. Nododd defnyddwyr fod sylwebaeth ystadegol yn help wrth ddehongli'r ystadegau hyn, a byddwn yn ei chadw ar gyfer adrannau sy'n cael eu darllen yn rheolaidd neu eu nodi'n adrannau hanfodol gan ddefnyddwyr.
- Cyllidebau rhaglen wariant y GIG
Byddwn yn stopio cyhoeddi'r adroddiad hwn gan mai data ariannol sy'n sail iddo yn hytrach na data ystadegol. Cydnabyddir bod y data yn cael ei ddefnyddio'n helaeth, a'r cynllun yw i Perfformiad a Gwella GIG Cymru ei gyhoeddi yn y dyfodol. Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru eisoes wedi darparu'r set ddata sylfaenol, a nhw fydd yn penderfynu ar amseru a fformat y cyhoeddiad.
- Cleifion mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl
Roedd yr adborth yn dynodi pryder cryf am fyrhau'r adroddiad. Cyn y cyhoeddiad nesaf (tua Hydref 2026), byddwn yn mynd ati i weithio gyda defnyddwyr i ddeall yn fanylach sut maent yn defnyddio'r adroddiad, fel y gallwn gadw'r lefel iawn o sylwebaeth, wrth inni symleiddio'r adroddiad. Bob blwyddyn, byddwn yn adolygu p'un a oes angen i'r sylwebaeth gael ei hailgyflwyno yn unrhyw fan lle mae'r tueddiadau wedi newid. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gweithio i gynyddu'r data sydd ar gael yn ôl ethnigrwydd a chyhoeddi mwy o ddata ar StatsCymru.
- Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl
Roedd defnyddwyr yn cefnogi ehangu'r data sylfaenol ar StatsCymru, yn benodol i sicrhau dadansoddi gwell. Byddwn yn mynd ati i weithio gyda defnyddwyr i ddeall sut mae'r adroddiad yn cael ei ddefnyddio a pha rannau o'r sylwebaeth sydd fwyaf defnyddiol, er mwyn ein galluogi i fyrhau'r adroddiad ochr yn ochr â chadw'r lefel iawn o sylwebaeth. Disgwylir y datganiad nesaf tua Rhagfyr 2026.
- Fframwaith canlyniadau cenedlaethol gwasanaethau cymdeithasol
Byddwn yn parhau â'r dangosyddion presennol ac yn byrhau'r adroddiad. Byddwn hefyd yn cyflwyno adolygiad 3 i 4 blynedd o ffynonellau data er mwyn ymateb i sefyllfaoedd lle nad oes data ffynhonnell ar gael, a lle mae angen data newydd i gadw dangosydd o fewn yr adroddiad. Mae datganiad Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol 2026 yn debygol o gael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2027.
Tai
Yr hyn a gynigiwyd gennym
Holwyd barn ar newidiadau arfaethedig i 3 o'n hallbynnau ystadegol ym maes tai.
- Peryglon tai: byrhau'r adroddiad, gan barhau i gyhoeddi'r data sylfaenol ar StatsCymru (cytuno: 10, anghytuno: 5)
- Cymorth ar gyfer gwelliannau tai: byrhau'r adroddiad a stopio cyhoeddi data sy'n ymwneud yn benodol â gweithgarwch adnewyddu'r sector preifat; byddai'r holl ddata arall yn parhau ar StatsCymru (cytuno: 8, anghytuno: 6)
- Trwyddedu tai amlfeddiannaeth: stopio'r adroddiad hwn (cytuno: 3, anghytuno: 11)
Yr hyn a ddywedodd yr ymatebwyr wrthym
Roedd llawer o ymatebwyr yn cefnogi adroddiadau byrrach os oedd data sylfaenol am barhau i fod ar gael, yn enwedig ynghylch peryglon tai a chymorth ar gyfer gwelliannau tai. Fodd bynnag, tynnodd eraill sylw at bwysigrwydd cadw rhywfaint o destun esboniadol sy'n benodol i Gymru, yn enwedig lle mae'r data yn gymhleth neu ddim ar gael mewn mannau eraill.
Tynnodd ymatebwyr sylw at y canlynol hefyd:
- yr angen i ddata barhau i fod yn hawdd cael gafael arno, gan ddarparu cyfeiriadau clir, yn enwedig yn dilyn newidiadau diweddar i StatsCymru
- pryderon cryf ynghylch stopio'r adroddiad ar drwyddedu tai amlfeddiannaeth, ac roedd llawer yn pwysleisio bod y tai hyn yn gwestiwn polisi cynyddol a bod y data presennol eisoes yn gyfyngedig
- pwysigrwydd cadw tystiolaeth gadarn ar gyfer datblygu polisi, ceisiadau cyllid a chynllunio gwasanaethau, yn enwedig lle mae amodau tai yn effeithio ar iechyd, annibyniaeth a diogelwch
- materion ehangach o ran y data amserol sydd ar gael ar beryglon tai, adnewyddu'r sector preifat ac addasiadau i dai, ac roedd rhai yn nodi y gallai cwtogi ar yr adrodd waethygu'r bylchau data presennol
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud nesaf
- Peryglon tai
Byddwn yn cyhoeddi adroddiad byrrach, gan gadw'r holl eitemau data ar StatsCymru. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno â'r cynnig hwn. Caiff y newid hwn ei adlewyrchu yn y datganiad nesaf a ddisgwylir ym mis Mai 2026.
- Cymorth ar gyfer gwelliannau tai
Byddwn yn byrhau'r adroddiad i eithrio gwybodaeth am wariant adnewyddu mewn ardaloedd penodol, gan nad oedd unrhyw ddefnyddwyr wedi nodi bod angen y wybodaeth hon. Byddwn yn parhau i ddarparu naratif ar bob agwedd arall ar weithgarwch adnewyddu'r sector preifat, yn unol â chyhoeddiadau blaenorol i gefnogi anghenion defnyddwyr. Byddwn hefyd yn parhau i gyhoeddi'r holl setiau data ar StatsCymru. Caiff fformat diwygiedig yr adroddiad ei gyflwyno yn y datganiad nesaf a ddisgwylir ym mis Mai 2026.
- Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth
Byddwn yn parhau i gyhoeddi'r ystadegau ar drwyddedu tai amlfeddiannaeth. Mynegwyd adborth cryf ar bwysigrwydd yr allbwn hwn ar gyfer datblygu polisi a monitro amodau tai. Bydd crynodeb byr yn parhau i gyd-fynd â'r data. Disgwylir yr adroddiad nesaf ym mis Mai 2026.
Addysg
Yr hyn a gynigiwyd gennym
Holwyd barn ar newidiadau arfaethedig i 4 o'n hallbynnau ystadegol ym maes addysg.
- Addysg gychwynnol athrawon: byrhau'r adroddiad (cytuno: 7, anghytuno: 2)
- Grantiau dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach): byrhau'r adroddiad, gan gadw'r data ar StatsCymru (cytuno: 8, anghytuno: 1)
- Lwfansau Cynhaliaeth Addysg a ddyfarnwyd yng Nghymru: byrhau'r adroddiad, gan gadw'r data ar StatsCymru (cytuno: 8, anghytuno: 1)
- Gwaith ieuenctid: byrhau'r adroddiad, gan gadw'r data ar StatsCymru (cytuno: 8, anghytuno: 3)
Yr hyn a ddywedodd yr ymatebwyr wrthym
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno â'r cynigion ac nid oeddent yn rhagweld unrhyw effaith yn sgil adroddiadau byrrach, yn enwedig os byddai'r setiau data sylfaenol am barhau i fod ar gael ar StatsCymru.
Tynnodd ymatebwyr sylw at y canlynol hefyd:
- fod cyfeiriadau clir at ddata ffynhonnell yn parhau i fod yn bwysig, yn enwedig ar gyfer addysg gychwynnol athrawon - pwysleisiodd defnyddwyr fod yr angen am fynediad at ddata sylfaenol yn parhau yn y cyd-destun hwn
- werth sylwebaeth fer er mwyn deall gwahaniaethau ar lefel awdurdodau lleol, yn enwedig ar gyfer grantiau dysgu Llywodraeth Cymru, Lwfansau Cynhaliaeth Addysg a gwaith ieuenctid
- bwysigrwydd ystadegau gwaith ieuenctid ar gyfer cynllunio lleol, gan gynnwys datblygu strategaethau gwaith ieuenctid newydd sy'n cyd-fynd ag ymrwymiadau deddfwriaethol
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud nesaf
- Addysg gychwynnol athrawon
Byddwn yn byrhau'r adroddiad ar addysg gychwynnol athrawon, gan gadw crynodeb byr o'r prif bwyntiau, a darparu cyfeiriadau clir at y data sylfaenol. Mae hyn yn adlewyrchu'r gefnogaeth eang i symleiddio'r ddarpariaeth, ochr yn ochr â'r angen i sicrhau bod data ffynhonnell ar gael yn hawdd i ddefnyddwyr. Caiff y fformat diwygiedig ei gyflwyno yn y datganiad nesaf yng ngwanwyn 2027.
- Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach)
Byddwn yn byrhau'r adroddiad hwn ac yn parhau i gyhoeddi'r data ar StatsCymru. Byddwn yn parhau i ddarparu crynodeb byr er mwyn helpu i ddehongli'r wybodaeth, yn enwedig i ddefnyddwyr sy'n dibynnu ar gymariaethau ar draws awdurdodau lleol. Daw'r newid hwn i rym ar gyfer y cyhoeddiad nesaf a ddisgwylir ddechrau 2027.
- Lwfansau Cynhaliaeth Addysg a ddyfarnwyd yng Nghymru
Byddwn yn byrhau'r adroddiad, gan gadw'r setiau data ar StatsCymru. Bydd crynodeb byr o'r prif bwyntiau yn parhau i gael ei ddarparu. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cefnogi'r bwriad hwn. Caiff y fformat mwy cryno ei weithredu ar gyfer y datganiad nesaf ddechrau 2027.
- Gwaith ieuenctid
Byddwn yn byrhau'r adroddiad ar waith ieuenctid, gan gadw'r wybodaeth sydd ar gael ar StatsCymru a'i hehangu lle bo modd. Mynegodd ymatebwyr gefnogaeth gref i gadw'r allbwn hwn. Caiff y fformat diwygiedig ei gyflwyno ar gyfer cyhoeddiad hydref 2026.
Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
Yr hyn a gynigiwyd gennym
Holwyd barn ar newidiadau arfaethedig i 7 o'n hallbynnau ystadegol ym meysydd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.
- Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth: cyfuno'r wybodaeth â phynciau cydraddoldeb eraill mewn un adroddiad pan fydd data ar gael o'r Arolwg Llafurlu Trawsffurfiedig (cytuno: 8, anghytuno: 4)
- Cyfeiriadedd rhywiol: cyfuno'r wybodaeth â phynciau cydraddoldeb eraill mewn un adroddiad, gan ddefnyddio data'r Arolwg Llafurlu Trawsffurfiedig (cytuno: 8, anghytuno: 3)
- Ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol: cyfuno'r wybodaeth â phynciau cydraddoldeb eraill mewn un adroddiad, a lleihau amlder cyhoeddi o chwarterol i flynyddol (cytuno: 8, anghytuno: 4)
- Y Gronfa Cymorth Dewisol: lleihau amlder cyhoeddi o chwarterol i chwemisol (cytuno: 3, anghytuno: 5)
- Dangosfwrdd rhyngweithiol cyfiawnder ieuenctid: stopio'r allbwn hwn a chyfeirio defnyddwyr at y data tarddiadol (cytuno: 4, anghytuno: 3)
- Cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr: lleihau amlder y datganiadau (cytuno: 6, anghytuno: 3)
- Tanau bwriadol a thanau glaswelltir: byrhau'r adroddiad, gan gadw'r data ar StatsCymru (cytuno: 7, anghytuno: 0)
Yr hyn a ddywedodd yr ymatebwyr wrthym
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno â mwyafrif y cynigion, gan gynnwys cyfuno allbynnau cysylltiedig ym maes cydraddoldeb. Fodd bynnag, roedd pryderon ynghylch colli manylion ac y gallai data ar nodweddion gwarchodedig fod yn llai amlwg. Roedd y pryderon hyn yn ymwneud yn arbennig â'r meysydd lle mae bylchau tystiolaeth eisoes yn creu heriau mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau statudol, cynnal asesiadau effaith cydraddoldeb a monitro anghydraddoldebau.
Tynnodd ymatebwyr sylw at y canlynol hefyd:
- pwysigrwydd cyfeiriadau clir at ddata ffynhonnell, yn enwedig wrth i'r Arolwg Llafurlu Trawsffurfiedig ddisodli data'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
- pryderon y gallai cyhoeddiadau llai aml (yn enwedig ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol, ac ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol) gyfyngu ar y gallu i fonitro pwysau yn ystod cyfnodau o newid economaidd neu gymdeithasol cyflym
- yr angen i ddata cydraddoldeb barhau i fod yn hawdd cael gafael arno, i gael ei ddadelfennu ac i fod yn amserol, er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth statudol, gwaith cynllunio lleol a gwaith monitro anghydraddoldebau
- safbwyntiau cymysg ar gael gwared ar y dangosfwrdd cyfiawnder ieuenctid; roedd rhai yn croesawu'r symleiddio, ac eraill yn gwerthfawrogi fformat gweledol ar ddata
- i rai defnyddwyr, efallai na fyddai cyhoeddi cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr yn llai aml yn broblem, ond pwysleisiodd eraill bwysigrwydd y set ddata ar gyfer penderfyniadau cyllido a monitro canlyniadau
- cefnogaeth eang i fyrhau'r adroddiad ar danau bwriadol a thanau glaswelltir, lle mae data sylfaenol yn parhau i fod ar gael
Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud nesaf
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth; cyfeiriadedd rhywiol; ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol
Byddwn yn mynd ati i gyfuno'r 3 phwnc cydraddoldeb hwn mewn un adroddiad blynyddol wrth i'r Arolwg Llafurlu Trawsffurfiedig gael ei gyflwyno. Mae hyn yn adlewyrchu'r gefnogaeth gyffredinol i symleiddio'r ddarpariaeth, ac yn gyfle i ddod â thystiolaeth gysylltiedig ynghyd mewn un lle. Byddwn yn sicrhau bod yr adroddiad cyfunol yn parhau i ddarparu dadansoddiad digon manwl a chyfeiriadau clir at y data gwreiddiol, yn ogystal â thynnu sylw at unrhyw gyfyngiadau yn nata'r Arolwg Llafurlu Trawsffurfiedig. Fel rhan o'r broses, byddwn yn ymgysylltu â defnyddwyr ar strwythur a chynnwys yr adroddiad newydd. Daw'r newid i rym unwaith y bydd data'r Arolwg Llafurlu Trawsffurfiedig ar gael gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad yr Arolwg Llafurlu Trawsffurfiedig i'w gweld ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
- Y Gronfa Cymorth Dewisol
Byddwn yn lleihau pa mor aml y cyhoeddir gwybodaeth y Gronfa Cymorth Dewisol i batrwm chwemisol. Roedd yr ymatebion yn gymysg; roedd rhai defnyddwyr yn pwysleisio pwysigrwydd mewnwelediad amserol yn ystod cyfnodau o ansicrwydd economaidd, ac eraill yn pwysleisio'r angen am fwy o fanylion. Er mwyn cefnogi defnyddwyr, byddwn yn darparu canllawiau cliriach ar y data sydd ar gael, ac yn sicrhau bod y datganiadau chwemisol yn parhau i nodi'r tueddiadau cyffredinol. Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn yn ailgydio mewn patrwm cyhoeddi amlach, pan fydd angen data mwy amserol. Caiff y newid hwn ei gyflwyno ar gyfer y cyhoeddiad nesaf ym mis Mai 2026.
- Dangosfwrdd rhyngweithiol cyfiawnder ieuenctid
Byddwn yn stopio'r dangosfwrdd ac yn cyfeirio defnyddwyr at y ffynonellau data gwreiddiol. Er bod rhai ymatebwyr yn gwerthfawrogi'r fformat gweledol, nododd llawer nad ydynt yn defnyddio'r allbwn hwn yn rheolaidd neu eu bod yn gallu cael gafael ar y data mewn mannau eraill. Darperir cyfeiriadau clir. Daw'r newid hwn i rym ar unwaith.
- Cyfrif carafanau Sipsiwn a Theithwyr
Byddwn yn lleihau pa mor aml y cyhoeddir y datganiad hwn o ddwywaith y flwyddyn i unwaith. Roedd y safbwyntiau yn gymysg, ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd y data hwn ar gyfer penderfyniadau polisi a chyllido. Byddwn felly yn sicrhau bod yr amserlen ddiwygiedig yn cael ei chyfathrebu'n glir ac yn cael ei chefnogi gan gyfeiriadau cadarn at setiau data hanesyddol. Bydd y patrwm cyhoeddi diwygiedig yn weithredol o'r cyhoeddiad nesaf a ddisgwylir yn hydref 2026.
- Tanau bwriadol a thanau glaswelltir
Byddwn yn byrhau'r adroddiad, gan gadw'r holl ddata ar StatsCymru. Mynegodd defnyddwyr gefnogaeth gref i symleiddio'r ddarpariaeth, ac mae'r data am barhau i fod ar gael i'w ddadansoddi'n fwy manwl lle bo angen. Cyflwynwyd y fformat diwygiedig ar 16 Ebrill 2026 yn y datganiad ar danau glaswelltir. Rydym yn awyddus i gael adborth ar y fformat newydd cyn y datganiad nesaf ar danau bwriadol, y mae disgwyl ei ryddhau yng ngaeaf 2026.
Datganiad tryloywder o ran deallusrwydd artiffisial
enghraifft drwy grynhoi gwybodaeth, tynnu sylw at themâu allweddol a drafftio testun. Nid yw AI wedi cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Dim ond fersiwn ddiogel Llywodraeth Cymru o Microsoft Copilot sydd wedi'i defnyddio, ac nid oes unrhyw ddata personol wedi gadael rhwydwaith diogel Llywodraeth Cymru nac wedi'i rannu ag unrhyw offer AI sy'n agored i'r cyhoedd. Mae pob ymateb unigol i’r ymgynghoriad wedi’i ddarllen gan ystadegwyr.
Mae pob dyfarniad a chanlyniad wedi'u penderfynu gan swyddogion, ac unigolion wedi'u hadolygu a'u goruchwylio fel y bo'n briodol ar bob cam. Mae'r dull gweithredu hwn yn adlewyrchu Cynllun AI Llywodraeth Cymru, sy'n pwysleisio tryloywder, atebolrwydd a'r rôl ganolog i bobl a fydd yn parhau wrth ddefnyddio AI mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Atodiad A: rhestr o’r ymatebwyr
Daeth ymatebion i law gan amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys meysydd polisi Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill. Cafodd yr holl ymatebion eu cofnodi a'u dadansoddi yn yr un ffordd, ac ystyriwyd yr adborth ar sail ei gynnwys yn hytrach nag ar sail sefydliad yr ymatebydd.
Mae'r rhestr hon yn nodi enwau'r sefydliadau a ymatebodd i'r ymgynghoriad.
Archwilio Cymru
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cymdeithas Feddygol Prydain
Cyngor Caerdydd
Prifysgol Caerdydd
Gofal a Thrwsio Cymru
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Sir Ddinbych
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Cyngor Sir y Fflint
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Tîm Strategaeth Tai, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Jones the Numbers Cyf
Anabledd Dysgu Cymru
Marie Curie
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Mind Cymru
Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot
Newhaven Research Scotland
Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA)
Optometreg Cymru
Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru
Coleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru
Ymchwil y Senedd
Gofal Cymdeithasol Cymru
Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau
Trafnidiaeth Cymru
Ymatebodd nifer o gydweithwyr o fewn Llywodraeth Cymru y tu allan i'r Is-adran Ystadegau hefyd.
Ymchwil defnyddwyr
Er mwyn gwella ein hallbynnau ystadegol, rydym yn awyddus i gynnal ymchwil defnyddwyr ar gyhoeddiadau penodol. Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost at stats.wefan@llyw.cymru. Bydd eich manylion yn cael eu defnyddio yn unol â' n hysbysiad preifatrwydd.
Manylion cyswllt
KAS Trawsnewid
E-bost: KAS.Trawsnewid@llyw.cymru
