Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ionawr i Mawrth 2026.

Dyma'r cyhoeddiad olaf yn y gyfres hon.

Dyfodol y cyhoeddiad hwn

Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi data cynnyrch domestig gros (GDP) chwarterol ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr sy'n debyg yn gysyniadol i ddangosyddion allbynnau tymor-byr (STOI). Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd y SYG eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol oherwydd bod y diwygiadau'n fwy nag a ragwelwyd.

Oherwydd hyn, rydym wedi parhau â'n datganiad STOI tra bod y SYG yn gweithio i adfer eu datganiad GDP rhanbarthol chwarterol.

Yn ddiweddar, mae’r SYG wedi cyhoeddi cynllun i gyhoeddi erthygl ddata sy'n cynnwys amcangyfrifon GDP rhanbarthol chwarterol gyda'r prisiau cyfredol wedi'u diweddaru ar 31 Gorffennaf 2026 gyda'n crynodeb byr o'r prif ganlyniadau i Gymru ar 3 Awst 2026. Dyma'r cam nesaf yn nghynlluniau’r SYG i gyflwyno GDP rhanbarthol chwarterol yn llawn yn 2027.

O ganlyniad, bydd yr allbwn hwn o ddata STOI yn y cyhoeddiad olaf yn y gyfres hon.

Yn y dyfodol, bydd defnyddwyr yn gallu defnyddio amcangyfrifon GDP chwarterol rhanbarthol y SYG, a byddwn yn parhau i gyhoeddi crynodeb byr o'r prif ganlyniadau ar gyfer Cymru.

Adroddiadau

Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Ionawr i Mawrth 2026 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 675 KB

PDF
Saesneg yn unig
675 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Ystadegau Economaidd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.