Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa a Trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.
Ar y dudalen hon
Safon 1: gwybodaeth (am y lleoliad)
Llais y plentyn
Mae'n hawdd imi ddarganfod sut le ydyw, er mwyn imi wybod ei fod yn rhywle dw i eisiau mynd iddo a chwarae yno.
Deilliant lles
Bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yno i'r rhieni a'r plant er mwyn gwneud dewis gwybodus ynghylch y ddarpariaeth chwarae mynediad agored sydd ar gael.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
1.1 Bod Datganiad o Ddiben wedi'i lunio fel y nodir yn y Rheoliadau. Bod digon o wybodaeth ar gael i ddarpar rieni a phlant am y gwasanaeth mewn fersiwn electronig neu bapur, er mwyn iddynt wneud penderfyniad gwybodus am y gwasanaeth.
1.2. Bod y Datganiad o Ddiben a'r wybodaeth ychwanegol yn cynnwys:
- nodau ac amcanion y gwasanaeth
- niferoedd, oed a rhyw y plant a fydd yn derbyn gofal
- ystod anghenion y plant perthnasol a gaiff eu diwallu
- oriau agor, staffio a gwybodaeth gyswll
- manylion llawn y ddarpariaeth, gan gynnwys:
- y cyfleusterau sydd ar gael
- y gwasanaethau a gynigir
- y gweithgareddau a gynigir
- yr iaith/ieithoedd a ddefnyddir
- telerau ac amodau darparu gofal
- manylion y trefniadau i adolygu'r Datganiad o Ddiben a rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am newidiadau i'r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod cyn i'r newidiadau ddod i rym, lle bo'n bosibl
- trefniadau ar gyfer delio â chwynion a phryderon
- trefniadau ar gyfer delio ag unrhyw argyfwng
1.3 Bod rhieni yn ymwybodol y gallant ddarllen yr adroddiad arolygu diweddaraf ar-lein ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr
Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau cysylltiedig
Mwy o arweiniad a help
- Arolygiaeth Gofal Cymru: Canllaw ar lunio Datganiad o Ddiben.
