Neidio i'r prif gynnwys

Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Awst 2026

Cynnwys

Cynulleidfa a Trosolwg

Cynulleidfa

Darparwyr chwarae mynediad agored

Pawb sydd â diddordeb mewn Chwarae Mynediad Agored, yn enwedig sefydliadau yn y sector Chwarae Mynediad Agored, awdurdodau lleol, rhieni a gofalwyr.

Trosolwg

Mae 2 ran wahanol i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. 

  • Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol.
  • Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir, Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol. 

Mae’r ddogfen hon yn disodli’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023. 

Caiff y safonau yn y ddogfen hon eu defnyddio i benderfynu p'un a yw lleoliadau chwarae mynediad agored yn darparu gofal digonol i blant pump i ddeuddeg oed. Darperir y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gwarchod plant a gofal dydd ar wahân.

Canllawiau statudol yw'r Safonau a gyhoeddwyd o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd). 

Lluniwyd y Safonau yn unol ag adran 30(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a'u nod yw helpu darparwyr a lleoliadau i fodloni'r Rheoliadau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu.

Maent i'w darllen yng nghyd-destun Rhan 2 (Gwarchod Plant a Gofal Dydd i Blant) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016; a rheoliadau cysylltiedig, Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd). 

Arolygiaeth Gofal Cymru yw'r corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am gofrestru ac arolygu lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru.

Camau i'w cymryd

Rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored cofrestredig gadw at y safonau hyn. Bydd graddau'r cydymffurfio â'r Safonau yn cael ei ystyried gan y rheoleiddiwr wrth asesu p'un a yw darparwr yn cydymffurfio â'r gofynion rheoliadol perthnasol.

Rhagor o wybodaeth 

Dylid anfon unrhyw gwestiynau i’r cyfeiriad canlynol: 

Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ 

e-bost: gofalplantachwarae@llyw.cymru 

Dogfennau cysylltiedig 

Cynulleidfa a Trosolwg

Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Mae'r adrannau Cyflwyniad, Gofal Dydd a Reoleiddir, Chwarae Mynediad Agored ac Eithriadau o ganllawiau statudol y Safonau yn darparu gwybodaeth i helpu lleoliadau cofrestredig i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei ystyried wrth ofalu am blant. Yna mae'r ddogfen ganllaw yn nodi'r holl Safonau, ynghyd â chanllawiau atodol mewn Atodiadau perthnasol a Geirfa ddefnyddiol.

Mae pob Safon yn dechrau gyda Llais y Plentyn a Deilliant Lles cysylltiedig, ac yna nodir y gofynion penodol. 

Mae pob Safon yn cynnwys dolenni i'r prif reoliad(au) sydd fwyaf perthnasol i'r gofynion a ddisgrifir o fewn y Safon honno. 

Nid yw'r rhestr o Reoliadau sy'n berthnasol i bob safon yn hollgynhwysfawr, a chyfrifoldeb y person cofrestredig o hyd yw sicrhau y cydymffurfir â'r holl ofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol yng nghyd-destun eu lleoliad.

Mae dolenni i Mwy o Arweiniad a Help hefyd wedi'u cynnwys drwy gydol y ddogfen. 

Rhoddir y Safonau ar waith mewn gwahanol ffyrdd yn ôl natur y gwasanaeth neu'r lleoliad dan sylw, ond rhaid i bob person cofrestredig roi sylw i'r Safonau a bodloni'r gofynion rheoliadol sy'n berthnasol i'w gwasanaeth. Rhaid i bersonau cofrestredig hefyd gydymffurfio ag unrhyw amodau cofrestru a darparu eu gwasanaeth yn unol â'r Datganiad o Ddiben ar gyfer y gwasanaeth. 

Y safonau mwyaf sylfaenol o safbwynt cofrestru a darparu gofal plant o ansawdd yw'r Safonau. Y disgwyliad cyffredinol yw bod personau cofrestredig yn gweithio tuag at ragori ar y safonau hyn. 

Cynulleidfa a Trosolwg

Crynodeb o'r prif newidiadau 

Ar gyfer lleoliadau chwarae mynediad agored, mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn yn disodli dogfen Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023. 

Mae'r newidiadau yn disgyn i ddau brif gategori: y rhai a wnaed yn dilyn adolygiad o'r Safonau ac ymgynghoriad cyhoeddus, a diweddariadau arferol a wneir i sicrhau bod y Safonau yn gydnaws â pholisïau a deddfwriaeth gyfredol.

Newidiadau yn sgil yr ymgynghoriad 

Safonau gwahanol ar gyfer Chwarae Mynediad Agored

Mewn ymateb i argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, datblygwyd safonau annibynnol ar gyfer gwasanaethau chwarae mynediad agored cofrestredig. Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn yn set benodol o safonau a grëwyd i fynd i'r afael ag agweddau unigryw y sector gofal dydd hwn, Chwarae Mynediad Agored.

Strwythur a chynllun y safonau

Cyflwynir y Safonau ar ffurf HTML, ac ychwanegwyd fersiwn y gellir ei hargraffu i sicrhau bod y canllawiau yn gydnaws â safonau www.Llyw.Cymru, ac i wella'r strwythur, y cynllun a phrofiad y defnyddiwr.

Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol 

Mae'r paragraff "Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol" wedi'i ddiweddaru. Mae pob safon yn cynnwys datganiad Llais y Plentyn a datganiad Deilliant Lles, ac yna nodir y safonau perthnasol, y Rheoliadau cysylltiedig a dolenni i ganllawiau pellach. 

Darpariaeth o ansawdd uchel

Mae'r adran hon wedi'i chynnwys i gryfhau'r wybodaeth a'r gofynion o ran ansawdd, gan ymgorffori meddylfryd sy'n hyrwyddo hawliau plant.

Diffiniad o chwarae mynediad agored

Nodir diffiniad diwygiedig yn dilyn argymhelliad 11.3 o Adroddiad yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae i adolygu a diweddaru'r diffiniad o waith chwarae mynediad agored. 

Safon 7: Hyfforddiant Cymorth Cyntaf, Chwarae Mynediad Agored

Wedi'i diweddaru i amlinellu y dylai o leiaf un person sydd â chymhwyster cymorth cyntaf llawn fod yn bresennol bob amser mewn mangre chwarae mynediad agored, a sicrhau bod trefniadau wrth gefn i allu galw ar fwy o staff a hyfforddwyd, yn seiliedig ar asesiad risg sy'n adlewyrchu'r mathau o weithgareddau yr ymgymerir â nhw, y lleoliad a nifer y plant sy'n mynychu. 

Safon 8 Meddyginiaeth a'r Atodiad B ategol: canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad cofrestredig

Mae Safon 8 Meddyginiaeth wedi'i diweddaru i ddarparu safonau cliriach ac i wahaniaethu rhwng meddyginiaeth ar bresgripsiwn a meddyginiaeth nad yw ar bresgripsiwn. Mae Atodiad B yn rhoi eglurder ar weinyddu parasetamol hylifol nad yw ar bresgripsiwn yn yr amgylchiadau a ddisgrifir. 

Safon 10: Cymwysterau eraill staff

Wedi'i diweddaru i amlinellu, yn ogystal â'r person lefel 3 sydd â chyfrifoldeb, fod yn rhaid i o leiaf 50% o'r staff eraill feddu ar gymhwyster gwaith chwarae lefel 2, ac na chaniateir mwy na 50% o staff sydd heb gymhwyso neu sy'n staff gwirfoddol (gan gynnwys y rhai sy'n gweithio tuag at gymwysterau o'r fath). Mae hyn hefyd yn cynnwys y gwiriadau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig/unigolyn cyfrifol eu sefydlu ar gyfer staff sydd heb gymhwyso/sy'n wirfoddol.

Newidiadau yn sgil y drefn arferol 

Y bennod ragarweiniol

Mae'r bennod ragarweiniol wedi'i diweddaru. Mae'r cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth am ansawdd uchel ac yn pwysleisio hawliau plant, lles, cydberthnasau, datblygiad emosiynol a phrofiad bywyd. Mae dolenni wedi'u diweddaru i bolisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ynghyd â dolenni i sefydliadau perthnasol. 

Gofal dydd a reoleiddir 

Mae enghreifftiau o ddarpariaeth Gofal Dydd, Chwarae Mynediad Agored wedi'u cynnwys.

Eithriadau: amgylchiadau pan nad oes angen cofrestru

Mae hyn wedi'i ddiweddaru i gyflwyno newidiadau sydd i gael eu gwneud yn y dyfodol o safbwynt eithriadau, ac mae'n esbonio'r cyfnod pontio (o Ebrill 2027 i Fawrth 2028) ar gyfer darparwyr na fyddant efallai wedi'u heithrio bellach rhag gorfod cofrestru.

Newidiadau i safonau

  • Mae Safon Gweithio gyda Rhieni wedi'i dileu; mae'r gofynion o fewn y safon hon wedi'u hymgorffori mewn safonau eraill ac o fewn y ddogfen ganllaw.
  • Mae Safonau Cyfle Cyfartal a Diwallu Anghenion Unigol wedi'u cyfuno.
  • Mae Cyfleoedd i chwarae a dysgu wedi'i ailenwi'n Cyfleoedd i chwarae, ac mae'n adlewyrchu egwyddorion gwaith chwarae.
  • Mae Safon Trefniadaeth a Safon Cymarebau Staffio wedi'u cyfuno a'i ailenwi'n Safon Trefniadaeth a Staffio.
  • Mae Safon Gofal Dros Nos wedi'i dileu gan nad yw'n berthnasol i chwarae mynediad agored. 
  • Mae Safon Maeth a Lles wedi'i hailenwi'n Safon Hyrwyddo Hawliau a Lles.
  • Dylid nodi bod newid i rifau'r safonau blaenorol yng ngoleuni'r newidiadau uchod.

Newidiadau polisi allweddol 

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru cyfeiriadau allweddol at ddeddfwriaeth a/neu bolisi yn y Safonau, gan gynnwys newid geiriad, er mwyn cryfhau safonau penodol; dyma rai o'r newidiadau:

  • Safon 7 Gofal iechyd safonau gwrth-smygu a fepio.
  • Safon 15 Diogelu.
  • Safon 19 Diogelwch safonau risg tân.
  • Geirfa mae termau newydd wedi'u hychwanegu at yr eirfa.

Argymhellir bod darparwyr cofrestredig yn ymgyfarwyddo â'r fersiwn ddiwygiedig hon o'r canllawiau statudol ar Safonau gofal dydd a reoleiddir, chwarae mynediad agored, a'u bod yn dileu unrhyw fersiynau blaenorol o ganllawiau ar y Safonau.

Cynulleidfa a Trosolwg

Cyflwyniad

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gwneud Cymru yn lle gwych i bobl dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo. Mae ein profiadau fel plant, yn dda a drwg, yn cyflawni rôl bwysig wrth lywio ein bywyd i'r dyfodol. Fel darparwr lleoliad cofrestredig, rydych chi a'ch staff yn chwarae rôl allweddol wrth ofalu bod plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Mae sicrhau perthynas gadarnhaol gyda'r staff, lle mae lles plant yn cael ei feithrin, yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae'r rhyngweithio hwn, ochr yn ochr â'r rhyngweithio â rhieni a gofalwyr, yn helpu plant i deimlo'n ddiogel, a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u deall. Drwy feithrin ymddiriedaeth, empathi a gwydnwch emosiynol, mae gweithwyr gofal plant a gwaith chwarae proffesiynol yn cyfrannu at adeiladu sylfeini cryf, sy'n cefnogi lles plant heddiw a'u gallu yn y dyfodol i fyw bywydau hapus, iach a boddhaol.

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn eich cefnogi chi a'ch staff i ddylanwadu'n gadarnhaol ar blant a'u teuluoedd mewn llawer o ffyrdd. Yn ogystal â'ch helpu i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, mae eich ymrwymiad i gynnal a gwella ar y safonau hyn yn cyfrannu at fynd i'r afael â thlodi plant, a'u helpu i oresgyn mathau eraill o adfyd, trawma ac anghydraddoldeb. Drwy gydberthynas â'r plant sy'n meithrin eu lles, a gofal sy'n ymateb iddynt yn emosiynol, a rhoi cyfleoedd iddynt chwarae, gall eich rôl gyfrannu at ysgogi eu gwydnwch a darparu sefydlogrwydd sy'n hyrwyddo eu lles heddiw a'u datblygiad hirdymor.

Mae'r sector gwaith chwarae yn esblygu'n barhaus, ac mae'n rhaid iddo fod yn barod i ymateb i heriau newydd a newidiadau. Mae hyn yn cynnwys gofalu am blant ag amrywiol anghenion a phrofiadau i sicrhau cyfle cyfartal (Safon 2: Cyfle cyfartal a diwallu anghenion unigol) ar gyfer pob plentyn yn eich gofal.

Y Cyd-destun Ehangach

Gan adeiladu ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, rhoddir gwybodaeth isod am ganllawiau ehangach sy'n ymwneud â phlant ac adnoddau darllen pellach. Mae hyn yn cynnwys materion, cyngor a deddfwriaeth newydd ac sy'n datblygu y dylai ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae eu hystyried wrth ofalu am blant. O ddefnyddio'r wybodaeth hon ochr yn ochr â'r Safonau, darperir dull holistaidd o gefnogi darpariaeth gofal plant a chwarae o ansawdd uchel sydd â buddion uniongyrchol i blant, eu rhieni a'r gweithlu gofal plant a chwarae.

Pwysigrwydd chwarae

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar chwarae ac ar ei bwysigrwydd i fywydau plant yn ein cymdeithas. Credwn fod gan blant hawl sylfaenol i allu chwarae, a bod chwarae’n rhan annatod o’u mwynhad mewn bywyd ac yn cyfrannu at eu lles. Credwn fod chwarae yn hanfodol i ddatblygiad gwybyddol; corfforol; cymdeithasol ac emosiynol plant. I'r plant eu hunain, chwarae yw un o'r agweddau pwysicaf ar eu bywydau. Gall cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i bob plentyn gyfrannu at liniaru effeithiau negyddol tlodi ar fywydau plant a helpu i adeiladu eu gwydnwch. Er mwyn i blant gael cyfleoedd chwarae digonol, mae angen iddynt gael amser i chwarae, lle i chwarae a chydnabyddiaeth gan oedolion bod gan bob plentyn yr hawl hon. Mae'r ffilm fer hon a gynhyrchwyd gan Chwarae Cymru yn dathlu chwarae plant a'i bwysigrwydd Ffilm - Chwarae Cymru.

Adolygiad gweinidogol o gyfleoedd chwarae

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad manwl a chydweithredol o'i gwaith polisi ar chwarae, ac ystyriodd y cynnydd a wnaed o ran cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae. Gwnaeth yr adolygiad argymhellion allweddol, gan awgrymu cerrig milltir i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth adeiladu ar y cynnydd a wnaed i fod yn wlad lle mae cyfle i chwarae, sy'n rhoi cyfleoedd digonol i blant a phobl ifanc chwarae. 

Croesawodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Terfynol Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, a chyhoeddodd ymateb yn amlinellu'r camau y bydd yn eu cymryd er mwyn cyflawni'r argymhellion. Roedd hyn yn cynnwys adolygu'r Safonau, gan ganolbwyntio ar chwarae mynediad agored, ac mewn cydweithrediad â'r sector mae wedi datblygu canllawiau statudol annibynnol ar gyfer Safonau gofal dydd, chwarae mynediad agored. 

Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau'r plentyn

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yw sail holl bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer plant, ac mewn perthynas â phlant. Yr hyn sy'n ganolog i uchelgais Llywodraeth Cymru yw rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a sicrhau eu bod yn mynd ymlaen i fyw'r bywyd y maen nhw'n dymuno ei fyw. Ers 2011, mae hawliau plant wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy, wrth arfer eu swyddogaethau, i hawliau penodol o dan y Confensiwn.

Mae'r hawl i chwarae yn cael ei derbyn yn gyffredinol, ac fe'i nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae'r Confensiwn yn rhestru'r 42 o hawliau sydd gan blant a phobl ifanc yn eu harddegau (o dan 18 oed).

Yn ôl Erthygl 31 o'r Confensiwn: Mae gan blant yr hawl i orffwys ac ymlacio, ac i ymuno
mewn gweithgareddau chwarae ac adloniadol sy’n briodol i oedran y plentyn, ac i gymryd rhan yn rhydd ac yn rhwydd mewn bywyd diwylliannol ac yn y celfyddydau.

Mae'r Cenhedloedd Unedig yn ystyried chwarae plant yn bwysig iawn ac, felly, mabwysiadodd Sylw Cyffredinol rhif 17 ar Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Datganiad swyddogol yw Sylw Cyffredinol sy'n ymhelaethu ar ystyr agwedd ar y Confensiwn lle mae angen dehongliad neu bwyslais pellach. Nod y Sylw Cyffredinol hwn, a luniwyd gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yw egluro pwysigrwydd Erthygl 31. Bwriedir iddo hefyd gynyddu atebolrwydd ymhlith gwledydd sydd wedi ymrwymo i'r Confensiwn.

Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn diffinio chwarae: fel ymddygiadau, gweithgareddau neu brosesau a gaiff eu hysgogi, eu rheoli a'u strwythuro gan blant. Bydd chwarae yn digwydd pryd bynnag a lle bynnag y bydd cyfle yn codi. 

Amcanion Sylw Cyffredinol rhif 17 yw:

  • cynyddu dealltwriaeth o bwysigrwydd Erthygl 31, er lles a datblygiad plant, ac er mwyn hwyluso'r broses o wireddu hawliau eraill y Confensiwn
  • rhoi eglurder ar y darpariaethau a'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig ag Erthygl 31
  • darparu arweiniad ar y mesurau deddfwriaethol, barnwrol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol sydd eu hangen i roi Erthygl 31 ar waith i bob plentyn yn ddiwahân

Mae Sylw Cyffredinol rhif 17 yn rhestr fuddiol o nodweddion allweddol chwarae:

  • hwyl
  • ansicrwydd
  • her
  • hyblygrwydd
  • gweithgaredd nad yw'n arwain at gynhyrchiant

Mae cyfrifoldeb ar bawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc ac yn gweithio gyda nhw i barchu, amddiffyn a gwireddu hawliau plant.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer mynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghydraddoldeb ac mae'n cwmpasu'r nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • hil / ethnigrwydd
  • rhywedd
  • ailbennu rhywedd / hunaniaeth rhywedd
  • anabledd
  • oedran crefydd a chred
  • beichiogrwydd / mamolaeth
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil 

Mae Safon 2 yn cwmpasu Cyfle Cyfartal a rhaid i ddarparwyr roi tystiolaeth glir o sut y maent yn bodloni'r safonau a'r dyletswyddau hyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Byddwch am ystyried sut y byddai eich gwasanaethau yn effeithio ar y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc: y rhai sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a/neu adfyd a thrawma ehangach yn ystod eu plentyndod; plant ag anghenion dysgu ychwanegol; plant anabl; plant niwrowahanol; plant sy'n byw mewn tlodi; plant Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol; plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr; plant mudol; plant ceiswyr lloches; plant ffoaduriaid; siaradwyr Cymraeg; plant â phrofiad o fod mewn gofal; plant LHDTC +. Nid yw'r rhestr hon yn cwmpasu pob plentyn, ac o fewn eich lleoliadau ni fydd yr un profiad yn union yr un fath â phrofiad plentyn arall, ond maent yn enghreifftiau o nodweddion gwarchodedig gwahanol, ac anghenion gwahanol a phenodol. 

Nid yw'r rhestr hon yn cwmpasu pob plentyn a pherson ifanc o fewn eich lleoliad, gan na fydd profiadau dau berson byth yn union yr un fath. Mae'n darparu enghreifftiau o sut y gall plant rannu nodweddion gwarchodedig gwahanol, gan arwain at anghenion gwahanol a phenodol.

Fel darparwr cofrestredig, bydd angen i chi a'ch staff fod yn gyfarwydd â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 ac ystyried sut mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu hyrwyddo a'u hymgorffori o fewn eich lleoliad, a sut mae eich lleoliad yn cefnogi darpariaeth gynhwysol a hygyrch i blant, eu teuluoedd a staff. 

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu cymdeithas gynhwysol a theg i'n holl bobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru wedi'i nodi yn y fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae pecyn cymorth wedi'i ddatblygu i gefnogi'r sector gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar i ystyried camau y gallent eu cymryd i helpu i fowldio Cymru i fod yn wlad wrth-hiliol. Mae amrywiol adnoddau wedi'u datblygu, gan gynnwys map Twib, a fydd yn helpu unigolion ar bob lefel i nodi adnoddau a hyfforddiant priodol..

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Y Gymraeg a Cymraeg 2050

Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cryfhau ein gallu i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050; pasiwyd y Ddeddf gan y Senedd ym mis Mai 2025. 

Prif nod y Ddeddf yw sicrhau bod pob disgybl, erbyn 2050, yn cyrraedd diwedd eu cyfnod gorfodol yn yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus, o leiaf. 

Mae'r Ddeddf yn sefydlu cyfres glir o fesurau i gefnogi patrwm o ddysgu mwy a mwy o'r Gymraeg gydol oes, ac mae pwyslais arbennig ar gefnogi teuluoedd a phlant oedran cyn-ysgol i ddysgu'r Gymraeg cyn gynted â phosibl.

Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma

Un o'r ffyrdd y gallwn gefnogi'r rhai sydd wedi profi adfyd a thrawma yn ystod eu plentyndod yw gweithio mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma. Mae dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma yn un sy'n cydnabod ac yn deall y ffaith bod trawma yn bodoli, sy'n deall ei arwyddion a'i effaith, ac sy'n helpu pobl i ddod dros eu trawma, adeiladu eu gwydnwch, ac osgoi ail drawma. Mae Cymru sy'n Ystyriol o Drawma:Dull Cymdeithasol o Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd (neu Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma) wedi sefydlu pum egwyddor ymarfer, a ddylai fod yn sail i'r holl ymarfer yr ymgymerir ag ef yng Nghymru sy'n ystyriol o drawma; a phedair lefel ymarfer, sy'n adlewyrchu'r gwahanol rolau a all fod gan bobl a sefydliadau wrth gefnogi'r rhai y mae trawma wedi effeithio arnynt.

Mae Hyb ACE Cymru wedi datblygu ystod eang o adnoddau a all gefnogi sefydliadau ac unigolion ar eu taith i ddysgu am drawma Adnoddau - Hyb ACE Cymru, gan gynnwys pecyn cymorth i sefydliadau ar fod yn ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod TrACE - Hyb ACE Cymru 

Darpariaeth o ansawdd uchel

Mae darpariaeth gofal dydd o ansawdd uchel yn mynd y tu hwnt i fodloni gofynion sylfaenol. Mae'n creu amgylcheddau cynnes, diddorol a myfyrgar lle mae plant yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael eu cefnogi i ffynnu. Yn ganolog iddi mae'r plentyn a'i hawliau, sy'n sicrhau bod anghenion, diddordebau a llais pob plentyn yn llywio eu profiadau. 

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn sail i'r meddylfryd hwn drwy sicrhau: 

  • diogelwch ac amddiffyniad rhag niwed (Erthygl 19)
  • parch at farn y plentyn: Pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant, mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd, ac i’w barn gael ei hystyried (Erthygl 12)
  • bod plant mewn addysg gynnar yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu personoliaeth a'u doniau yn gyflawn. Bod plant yn cael eu hannog i barchu hawliau dynol, yn ogystal â'u rhieni, eu diwylliant nhw a diwylliannau eraill, a'r amgylchedd. (Erthygl 29)
  • bod gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol ac artistig a gweithgareddau hamdden eraill (Erthygl 31)
  • bod gan bob plentyn yr hawl i'r gofal iechyd, lles a maeth gorau posibl (Erthygl 24)

Elfennau Allweddol o Ddarpariaeth o Ansawdd Uchel 

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn canolbwyntio ar y plentyn, yn gynhwysol ac yn ymateb i'r sefyllfa, a hynny drwy: 

  • oedolion sy'n galluogi dysgu: sy'n adeiladu cydberthnasau cryf sy'n ymateb i'r unigolyn, ac yn creu gofod lle gall plant fod yn chwilfrydig a chwarae yn ôl eu dewis, gan eu cefnogi i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a gwydnwch 
  • amgylcheddau effeithiol sy'n annog plant i archwilio, ac yn cynnig gofod i ymlacio, annibyniaeth, ac ymdeimlad o berthyn
  • profiadau sy'n ennyn diddordeb sy'n meithrin cyfleoedd i chwarae, darganfod a datrys problemau mewn ffordd ystyrlon yn ôl lefel y plentyn

Nodweddion darpariaeth o ansawdd uchel 

Mae darparwyr gofal dydd yn arddangos darpariaeth o ansawdd uchel drwy: 

  • fynd y tu hwnt i'r gofynion sylfaenol drwy ystyried a gwella'n barhaus 
  • ymgorffori arferion gorau sy'n cefnogi datblygiad holistaidd plant 
  • sicrhau canlyniadau cryf mewn arolygiadau sy'n cydnabod eu hymrwymiad i ansawdd
  • defnyddio fframweithiau a gymeradwywyd gan y sector fel Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0 i 5 oed, a fframwaith sicrhau ansawdd Chwarae Cymru, Chwarae o Safon, gan gydnabod pwysigrwydd Egwyddorion Gwaith Chwarae wrth gefnogi profiadau chwarae o ansawdd ym mhob lleoliad gwaith chwarae

Yn ymarferol mae hyn yn golygu bod: 

  • oedolion sy'n Galluogi Dysgu yn creu cydberthnasau sy'n cynnig diogelwch, lle mae plant yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi, gan feithrin hyder a'r gallu i ddatrys problemau 
  • amgylcheddau Effeithiol yn cefnogi anghenion corfforol ac emosiynol, gan ysbrydoli chwarae, creadigrwydd ac archwilio 
  • profiadau sy'n Ennyn Diddordeb yn cael eu llywio gan ddiddordebau plant, gan ganiatáu iddynt chwarae mewn ffordd benagored a darganfod drostynt eu hunain. 
  • ystyried a Gwella'n Barhaus 

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn ddeinamig ac yn esblygu drwy ystyried ac ymgysylltu'n barhaus â phlant a theuluoedd. Dylai Oedolion sy'n Galluogi Dysgu asesu'n rheolaidd: 

  • sut mae cydberthnasau a rhyngweithio yn cefnogi ymdeimlad o ddiogelwch emosiynol, dysgu a hunanfynegiant
  • ffyrdd o greu amgylcheddau cynhwysol, lle ymatebir i'r unigolyn, gan adlewyrchu diddordebau a diwylliannau plant
  • strategaethau i ymestyn dysgu drwy chwarae, iaith ac archwilio
  • sut i sicrhau bod llais plant yn llywio eu profiadau

Egwyddorion arweiniol: ein 7 nod craidd ar gyfer plant yng Nghymru

Mae'r Saith Nod Craidd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru, sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn llywio darpariaeth o ansawdd uchel: 

  1. Dechrau cryf mewn bywyd a'r sylfaen orau o ran lles. 
  2. Mynediad at brofiadau dysgu ystyrlon, cyfoethog. 
  3. Iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da. 
  4. Cyfleoedd ar gyfer chwarae, creadigrwydd, a hunanfynegiant. 
  5. Cael eu gwrando, eu gwerthfawrogi a'u parchu. 
  6. Tyfu mewn cymunedau diogel, sy'n eu meithrin. 
  7. Cymorth i oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â thlodi ac anghydraddoldeb. 

Drwy ymgorffori Oedolion sy'n Galluogi Dysgu, Amgylcheddau Effeithiol, a Phrofiadau sy'n Ennyn Diddordeb i arferion bob dydd, mae ymarferwyr yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn cael eu grymuso i ffynnu, chwarae a thyfu mewn hyder. Mae'r egwyddorion hyn yn cyd-fynd â meddylfryd gwaith chwarae.

Egwyddorion gwaith chwarae

Mae gwaith chwarae yn ddull unigryw o weithio gyda phlant o bob oed mewn amrywiol leoliadau. Prif bwrpas y gweithiwr chwarae yw cefnogi a hwyluso chwarae fel y'i disgrifir yn Egwyddorion Gwaith Chwarae (Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Chwarae, 2026).

Mae'r Egwyddorion yn sefydlu'r fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae, ac felly mae'n rhaid iddynt gael eu hystyried yn eu cyfanrwydd. Maent yn disgrifio'r hyn sy'n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn darparu persbectif gwaith chwarae i'r rheini sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae'r Egwyddorion yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth y bydd gallu plant a phobl ifanc i ddatblygu'n gadarnhaol yn cynyddu o gael mynediad at yr ystod ehangaf o amgylcheddau a chyfleoedd chwarae.

  1. Mae angen i bob plentyn a pherson ifanc gael chwarae. Mae'r awydd i chwarae yn reddfol. Mae chwarae yn rheidrwydd biolegol, seicolegol a chymdeithasol, ac mae'n sylfaenol i ddatblygiad iach a lles unigolion a chymunedau.
  2. Mae chwarae yn broses a gaiff ei dewis o wirfodd, ei chyfeirio'n bersonol a'i chymell gan y plentyn. Hynny yw, mae plant a phobl ifanc yn rheoli ac yn penderfynu ar gynnwys a bwriad eu chwarae drwy ddilyn eu greddfau, eu syniadau a'u diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain am eu rhesymau eu hunain.
  3. Prif ffocws a hanfod gwaith chwarae yw cefnogi a hwyluso'r broses chwarae, a dylai hyn fod yn sail i ddatblygiad polisi, strategaeth, hyfforddiant ac addysg chwarae.
  4. Mae gweithwyr chwarae yn rhoi blaenoriaeth i'r broses chwarae ac yn hyrwyddo chwarae wrth ymwneud ag agendâu a arweinir gan oedolion.
  5. Rôl y gweithiwr chwarae yw cynorthwyo pob plentyn a pherson ifanc i greu man lle y gall chwarae.
  6. Mae ymateb y gweithiwr chwarae i blant a phobl ifanc sy'n chwarae yn seiliedig ar wybodaeth gadarn a chyfoes o'r broses chwarae, ac ymarfer meddylgar.
  7. Mae gweithwyr chwarae yn cydnabod eu heffaith eu hunain ar y man chwarae a hefyd effaith chwarae plant a phobl ifanc ar y gweithiwr chwarae.
  8. Mae gweithwyr chwarae yn dewis arddull ymyrraeth sy'n galluogi plant a phobl ifanc i ymestyn eu chwarae. Rhaid i bob ymyrraeth gan weithiwr chwarae gydbwyso risg â budd datblygiadol a lles y plant.

Cefnogi gwella ansawdd

Mae Safon Ofynnol Genedlaethol 13 ar gyfer chwarae mynediad agored a rheoliad 16 o'r Rheoliadau yn nodi'r gofynion i adolygu ansawdd y gofal a ddarperir.

Mae adnoddau gwella ansawdd yn helpu ymarferwyr i ystyried, mireinio a gwella eu darpariaeth, gan sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y gofal a'r profiadau sydd o'r ansawdd uchaf. 

Mae Chwarae Cymru wedi datblygu fframwaith hunanasesu a thystiolaeth sy'n gweithredu fel adnodd sicrhau ansawdd Chwarae o Safon gan asesu ansawdd arferion gwaith chwarae mewn lleoliadau yng Nghymru.

Gweithio mewn partneriaeth â rhieni/gofalwyr

Anogir lleoliadau chwarae mynediad agored cofrestredig i feithrin partneriaeth agos â rhieni/gofalwyr, gan gydnabod mai rhieni/gofalwyr sydd â'r cyfrifoldeb pennaf am eu plant. Disgwylir i staff weithio'n agos gyda theuluoedd i gefnogi anghenion pob plentyn fel unigolyn, yn ogystal ag fel rhan o grŵp ehangach. Rhoddir gwybodaeth i deuluoedd am y gwasanaeth, a chânt wybodaeth reolaidd am faterion perthnasol neu bwysig sy'n effeithio ar brofiad eu plentyn yn y lleoliad. Bydd yr holl bolisïau a gweithdrefnau, ynghyd â'r canllawiau perthnasol, ar gael i rieni bob amser, gan sicrhau tryloywder, a chan gryfhau'r ymddiriedaeth rhwng y lleoliad a phob teulu ar yr un pryd.

Ffynonellau arweiniad, cyngor a gwybodaeth eraill

Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru

Mae Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru yn grŵp sy'n trafod materion o bwysigrwydd strategol i bob agwedd ar addysg, hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru. Mae'r grŵp hefyd yn gwneud argymhellion i Gyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae y DU. Mae Chwarae Cymru yn cefnogi'r gwaith o redeg Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru.

Ymhlith ei swyddogaethau mae:

Chwarae Cymru

Mae Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant, yn rhoi cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn chwarae plant, neu sy'n gyfrifol am ddarparu ar ei gyfer. 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu safonau uchel ar draws gweithlu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae'n ceisio sicrhau bod gan y gweithlu yng Nghymru y sgiliau a'r cymwysterau iawn i weithio i safon broffesiynol uchel, a'i fod yn gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel. 

CWLWM

Mae CWLWM, consortiwm o bum partner gofal plant a chwarae, yn cefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae drwy arweiniad ac aelodaeth, gan hyrwyddo lleoliadau cynaliadwy o ansawdd.

  • Mae'r Mudiad Meithrin yn arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg i'r blynyddoedd cynnar.
  • Mae Coram PACEY Cymru yn darparu cymorth i weithwyr gofal plant proffesiynol sy'n gweithio yn y cartref, gan gynnwys gwarchodwyr plant a nanis.
  • Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant penodol ar redeg meithrinfa yng Nghymru. 
  • Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gofal, addysg a dysgu dwyieithog cyn-ysgol drwy chwarae ledled Cymru. 
  • Nod Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yw helpu cymunedau yng Nghymru drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol sy'n fforddiadwy, yn hygyrch ac o ansawdd uchel. 

Comisiynydd Plant Cymru

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn diogelu ac yn cefnogi hawliau plant a phobl ifanc. Mae'r Comisiynydd hefyd yn adolygu penderfyniadau cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Dysgwch am "Y Ffordd Gywir" fframwaith egwyddorol ac ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant.

Plant yng Nghymru

Plant yng Nghymru yw'r corff ambarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Maent hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar hawliau plant a'u cynnwys sy'n targedu ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae’r Eirfa yn esbonio termau sy’n codi yn y ddogfen hon.

Cynulleidfa a Trosolwg

Gofal Dydd a Reoleiddir – Chwarae Mynediad Agored

Mae'n ofynnol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd gofrestru yn unol â darpariaethau Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (y Mesur) a'r rheoliadau cysylltiedig. Canllawiau statudol yw'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, a wneir o dan adran 30(3) o'r Mesur a rheoliad 14 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (y Rheoliadau), sy'n berthnasol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd cofrestredig ar gyfer plant hyd at 12 oed.

Nod y Safonau yw helpu darparwyr cofrestredig i fodloni'r Rheoliadau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Rhaid i bersonau cofrestredig roi sylw i'r Safonau sy'n ymwneud â’r math o ofal a ddarperir. 

Bwriad y canllawiau statudol hyn ar gyfer Safonau chwarae mynediad agored a reoleiddir yw caniatáu dull hyblyg er mwyn i ddarparwyr allu datblygu darpariaeth o ansawdd, a honno wedi'i theilwra i anghenion plant, rhieni a chymunedau lleol. Maent wedi’u bwriadu i adlewyrchu anghenion plant 5 i 12 oed, ac i fod yn gymesur o ran y ffordd y cânt eu cymhwyso. 

Drwy gydol y ddogfen hon, mae pob cyfeiriad at Reoliadau yn cyfeirio at Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).

Noder: Ym mhob achos, y person cofrestredig , sef darparwr cofrestredig y gofal dydd (chwarae mynediad agored), sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau, gan roi sylw i'r Safonau perthnasol. Mae hyn yn wir bob amser, er yn ymarferol efallai y caiff y cyfrifoldeb ei ddirprwyo o ddydd i ddydd i reolwr, y person â chyfrifoldeb neu aelod dynodedig o staff. Lle darperir gofal dydd gan sefydliad (corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig), rhaid i unigolyn cyfrifol sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gofal dydd a ddarperir o ddydd i ddydd gael ei benodi gan y sefydliad hwnnw. 

Os yw'r sefydliad yn gorff corfforaethol, rhaid i'r person a benodir i fod yn gyfrifol fod yn gyfarwyddwr, yn rheolwr, yn ysgrifennydd neu'n swyddog arall o fewn y sefydliad. Os yw'r sefydliad yn gymdeithas anghorfforedig, rhaid i'r unigolyn cyfrifol fod yn swyddog neu'n aelod o'i gorff llywodraethu.

Rhaid i'r unigolyn cyfrifol fodloni'r gofynion rheoliadol o ran eu haddasrwydd ar gyfer y swyddi (fel y’u nodir yn rheoliad 6(3)(b)(iii) neu (iv) o'r Rheoliadau). 

Yn gyffredinol, disgwylir i'r unigolyn sy'n gyfrifol ddangos bod y ddarpariaeth gofal dydd yn cydymffurfio â gofynion amrywiol y Rheoliadau, gan roi ystyriaeth i'r safonau perthnasol. 

Rhaid penodi person i fod â chyfrifoldeb os mai sefydliad yw'r person cofrestredig, ac nad yr unigolyn cyfrifol sydd â gofal llawn bob dydd am y ddarpariaeth gofal dydd - chwarae mynediad agored, neu os yw'r person cofrestredig yn unigolyn nad yw â gofal llawn bob dydd. Mae'r gofynion cyfreithiol ar gyfer penodi person i fod â chyfrifoldeb i'w gweld yn Rhan 3 o'r Rheoliadau. 

Mae unrhyw gyfeiriad at riant/rhieni yn cynnwys gofalw(y)r a'r sawl nad ydynt yn rhieni, ond sydd â chyfrifoldeb rhieni.

Mae cyfeiriadau at staff yn cynnwys staff neu wirfoddolwyr di-dâl.

Fframwaith Deddfwriaethol

Mae'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gofal dydd a reoleiddir yng Nghymru yn amlinellu swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cofrestru. Cyflawnir y swyddogaethau hyn ar ran Gweinidogion Cymru gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Yng Nghymru, caiff gwarchod plant a darpariaeth gofal dydd i blant hyd at 12 oed ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru, arolygu a chymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau a reoleiddir er lles pobl Cymru. 

Mae gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yn cwmpasu ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth, sy'n ddarostyngedig i safonau gofynnol cenedlaethol. Mae'r safonau yn y ddogfen hon ar gyfer gwasanaethau Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored. Nid yw chwarae mynediad agored yn cynnwys gofal dros nos. Mae gwarchod plant a gwasanaethau gofal dydd eraill yn ddarostyngedig i safonau gwahanol.

Rhaid i unigolion a sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru fodloni'r prawf statudol o dan adran 26 o'r Mesur, sef nad ydynt wedi'u hanghymhwyso rhag cofrestru, a'u bod yn bodloni ac yn debygol o barhau i fodloni'r gofynion addasrwydd a nodir yn y Rheoliadau. 

Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru i ddarparu gwasanaeth ar gael - Cofrestrwch i ddarparu gwasanaeth | Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae pob darparwr cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn parhau i fodloni'r gofynion cofrestru. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gyfathrebu'n rheolaidd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, a rhoi gwybodaeth gyson iddynt am eu gwasanaeth. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn arolygu'r holl ddarpariaeth gwarchod plant, gofal dydd a chwarae cofrestredig.

Mae rhagor o wybodaeth am yr arolygiadau ar gael yma - Ein harolygiadau | Arolygiaeth Gofal Cymru.

Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol cofrestru gofal i blant 12 oed neu hŷn o dan y Mesur, ond gall lleoliad sydd wedi'i gofrestru o dan y Mesur i ddarparu gofal i blant o dan 12 oed ofalu am blant 12 oed a hŷn.

Mae gofal plant a reoleiddir yn syrthio i ddau gategori: Gwarchod plant a Gofal dydd.

Gofal dydd – mynediad agored

Mae person yn darparu gofal dydd i blant os yw’r plant, ar unrhyw adeg, yn derbyn gofal mewn mangre annomestig.

Rhaid i unrhyw un sy'n cynnig darparu gofal dydd i blant fod wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru heblaw ei fod wedi'i eithrio rhag gorfod cofrestru o dan Ran 3 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’i diwygiwyd). 

Mae gofal dydd mewn mangre annomestig yn cynnwys amrywiol fathau o ddarpariaeth, ac mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru darparwyr gofal dydd o dan y categorïau canlynol: Gofal dydd llawn, gofal dydd sesiynol, gofal y tu allan i oriau ysgol, crèche a chwarae mynediad agored. 

Mae'r Rheoliadau yn diffinio darpariaeth chwarae mynediad agored fel darpariaeth gofal dydd pan nad yw'n ofynnol—

a) trefnu ymlaen llaw gyda'r person cofrestredig i ddarparu gofal o'r fath; neu

b) bod y plant yn cael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall i'r fangre berthnasol ac oddi yno.

At ddibenion cofrestru o dan y Mesur, mae 'mangre' yn cynnwys unrhyw ardal neu gerbyd. 

Ystyr darpariaeth chwarae mynediad agored yw darpariaeth gwaith chwarae â staff, sy'n briodol i blant o bob oedran. At ddibenion rheoleiddio, mae darpariaeth chwarae mynediad agored â staff ar gyfer plant 5 i 12 oed. Gall fod yn ddarpariaeth barhaol neu dros dro, wedi'i lleoli mewn amrywiol leoliadau, a gall fod ganddi fangre sefydlog neu beidio. Ni wneir trefniant ymlaen llaw â'r person cofrestredig i ddarparu gofal plant. Nid yw'n ofynnol i blant gael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall i'r fangre berthnasol ac oddi yno. Ni chyfyngir ar symudiadau’r plant, heblaw pan fydd materion diogelwch yn gofyn
am hynny. 

I gael rhagor o wybodaeth am y diffiniad o chwarae, gweler canllawiau statudol 'Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae' i awdurdodau lleol - Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae | LLYW. CYMRU.

Darperir y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer pob math arall o warchod plant a gofal dydd ar wahân. Ewch i Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol

Rhai Enghreifftiau o Ddarpariaeth Chwarae Mynediad Agored

Safle sefydlog – ar ôl ysgol, penwythnosau a gwyliau

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu ar faes chwarae antur neu ganolfan chwarae. Mae'r gwasanaeth ar agor bob prynhawn o'r wythnos rhwng 3pm a 5.30pm, ar ddydd Sadwrn rhwng 10am a 3pm, ac yn ystod gwyliau ysgol rhwng 10am a 3pm. 

Safle sefydlog – gwyliau ysgol yn unig

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o adeilad cymunedol a'i diroedd. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu am dair wythnos yn ystod gwyliau haf ysgolion ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 9am a 4pm.

Safle symudol – gwyliau ysgol yn unig 

Darpariaeth chwarae dros dro ar 4 safle ar draws ardal yr awdurdod lleol yn ystod gwyliau haf chwe wythnos ysgolion.

Safle 1 – Tiroedd canolfan gymunedol – Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 9.30am a 12pm

Safle 2 – Parc – Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 12.30pm a 3pm 

Safle 3 – Coetir – Dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 12.30pm a 3pm 

Safle 4 – Ardal laswellt mewn stad dai – Dydd Gwener rhwng 10am a 2pm. 

Eithriadau: Amgylchiadau pan nad oes angen cofrestru

Eithriadau - cyn Ebrill 2027

Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (Gorchymyn 2010) yn pennu’r amgylchiadau pan nad oes angen i ddarparwyr gofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd ar hyn o bryd. Mae'r eithriadau wedi'u hamlinellu isod: 

Eithriadau o ran gwarchod plant

  • Nid yw'n ofynnol i'r person gofrestru fel gwarchodwr plant i ofalu am ei blentyn ei hun, ei blentyn maeth, plentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant amdano na phlentyn y mae'n byw gydag ef.
  • Os yw person yn darparu ei wasanaeth am union 2 awr neu lai y dydd, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel gwarchodwr plant.
  • Os yw person yn cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu i ofalu am eu plant, ac mae'r gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y naill deulu neu'r llall, nid yw'n ofynnol i'r person gofrestru fel gwarchodwr plant. 
  • Os yw person ond yn gofalu am blant rhwng 6pm a 2am y diwrnod wedyn, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel gwarchodwr plant. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel gwarchodwr plant lle mae'r person yn gofalu am blant ar sail cyfeillgarwch, a lle nad oes taliad (boed drwy arian neu werth ariannol) yn cael ei wneud am y gwasanaeth.

Eithriadau o ran gofal dydd:

  • Os yw'r gwasanaeth yn gweithredu mewn lleoliad penodol am 5 diwrnod neu lai mewn unrhyw flwyddyn galendr, nid yw'n ofynnol cofrestru fel darparwr gofal dydd. Bydd angen i'r darparwr hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru am y dyddiadau y mae'n bwriadu rhedeg y gwasanaeth, cyn y diwrnod cyntaf o weithredu yn y flwyddyn honno.
  • Os yw person yn darparu ei wasanaeth am union 2 awr neu lai y dydd, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn cartref gofal, llety diogel neu ganolfan breswyl i deuluoedd a gofrestrwyd eisoes i ddarparu gofal o dan Ddeddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn ysbyty i glaf (p'un a yw'r gofal hwnnw'n cael ei ddarparu gan ddarparwr y sefydliad yn uniongyrchol neu gan berson a gyflogir ar ran y darparwr).
  • Os yw person ond yn gofalu am blant rhwng 6pm a 2am y diwrnod wedyn, ac mae'r gofal yn cael ei ddarparu mewn gwesty, gwesty bach, neu sefydliad tebyg arall ar gyfer plentyn sy'n aros yno, ac mae'r person sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny ar gyfer dim mwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd, nid oes angen iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd pan fydd yn gofalu am blant mewn ysgol, ac mae'r gofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu'r addysg. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 11 oed o leiaf, mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid, ac mae'r taliad am y gwasanaeth hwn yn nominal, os oes taliad o gwbl. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru os yw'n cynnig darpariaeth coetsio neu ddysgu mewn dim mwy na dau o'r mathau canlynol o weithgareddau: 

    - Chwaraeon
    - Celfyddydau perfformio
    - Celf a chrefft
    - Cymorth gydag astudiaethau ysgol neu waith cartref
    - Astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol

Gall y darparwr wneud unrhyw nifer o weithgareddau ym mhob maes gweithgaredd, ar yr amod mai'r ffocws yw hyfforddiant neu wersi'r plant, ac mai rhywbeth cysylltiedig â hynny yw unrhyw ofal a roddir. Os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 5 oed neu'n hŷn, nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd. Fodd bynnag, os yw'n darparu gwasanaeth hyfforddiant a gwersi i blant o dan 5 oed ac maent yn bresennol am fwy na 4 awr y dydd, rhaid iddo gofrestru.

Gellir darllen y canllawiau ar yr eithriadau hyn yma: Cofrestru fel darparwr gofal plant: eithriadau | LLYW.CYMRU

Eithriadau - o Ebrill 2027

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o Orchymyn 2010 ac, o ganlyniad, bydd nifer o newidiadau yn cael eu gwneud i'r eithriadau yng Ngorchymyn 2010. Mae'r newidiadau hynny wedi'u nodi yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 (Gorchymyn 2026) a fydd yn disodli ac yn dirymu Gorchymyn 2010. 

Daw Gorchymyn 2026 i rym ar 1 Ebrill 2027; bydd angen i ddarparwyr ystyried eu darpariaeth yn erbyn Gorchymyn 2026 i asesu p'un a ydynt wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yng Nghymru. 

Yn ystod cyfnod pontio o flwyddyn, rhwng Ebrill 2027 ac Ebrill 2028, bydd yn ofynnol i ddarparwyr nad ydynt bellach wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru oherwydd y newidiadau a gyflwynir gan Orchymyn 2026 wneud cais i gofrestru. Bydd gan ddarparwyr tan 31 Mawrth 2028 i gyflwyno eu cais cofrestru i Arolygiaeth Gofal Cymru. Ar ôl y dyddiad hwn, gellir cymryd camau gorfodi lle canfyddir bod darparwr yn gweithredu heb fod wedi bodloni'r gofyniad i gofrestru. 

Yn sgil y newid hwn yn y gyfraith, mae'n bwysig cysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru am gyngor pellach i drafod eich darpariaeth, ac a oes angen ichi gofrestru. 

Caiff canllawiau ar yr eithriadau newydd eu cyhoeddi yn hydref 2026. Bydd y rhain ar gael ar wefannau Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 1: gwybodaeth (am y lleoliad)

Llais y plentyn

Mae'n hawdd imi ddarganfod sut le ydyw, er mwyn imi wybod ei fod yn rhywle dw i eisiau mynd iddo a chwarae yno.

Deilliant lles

Bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yno i'r rhieni a'r plant er mwyn gwneud dewis gwybodus ynghylch y ddarpariaeth chwarae mynediad agored sydd ar gael. 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

1.1 Bod Datganiad o Ddiben wedi'i lunio fel y nodir yn y Rheoliadau. Bod digon o wybodaeth ar gael i ddarpar rieni a phlant am y gwasanaeth mewn fersiwn electronig neu bapur, er mwyn iddynt wneud penderfyniad gwybodus am y gwasanaeth.

1.2. Bod y Datganiad o Ddiben a'r wybodaeth ychwanegol yn cynnwys: 

  • nodau ac amcanion y gwasanaeth
  • niferoedd, oed a rhyw y plant a fydd yn derbyn gofal
  • ystod anghenion y plant perthnasol a gaiff eu diwallu 
  • oriau agor, staffio a gwybodaeth gyswll
  • manylion llawn y ddarpariaeth, gan gynnwys: 
    • y cyfleusterau sydd ar gael
    • y gwasanaethau a gynigir 
    • y gweithgareddau a gynigir 
    • yr iaith/ieithoedd a ddefnyddir
  • telerau ac amodau darparu gofal
  • manylion y trefniadau i adolygu'r Datganiad o Ddiben a rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am newidiadau i'r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod cyn i'r newidiadau ddod i rym, lle bo'n bosibl
  • trefniadau ar gyfer delio â chwynion a phryderon
  • trefniadau ar gyfer delio ag unrhyw argyfwng 

1.3 Bod rhieni yn ymwybodol y gallant ddarllen yr adroddiad arolygu diweddaraf ar-lein ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 2: cyfle cyfartal a diwallu anghenion unigol

Llais y plentyn

Pwy bynnag ydw i, dw i bob amser yn teimlo bod croeso imi yma. Mae pobl yn gwrando arna i, yn sylwi beth sy'n gwneud chwarae yn hwyl i mi, ac yn fy helpu i ymuno pan fydd angen hynny arna i, fel y galla i fwynhau chwarae yn fy ffordd fy hun.

Deilliant lles

Y cynllunnir ac y darperir ar gyfer anghenion unigol plant. Bod pob plentyn yn profi tegwch, ac yn cael eu cynnwys a'u parchu, gan leihau'r rhwystrau, fel y gall pawb gymryd rhan yn llawn.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau: 

2.1 Eu bod nhw a'u staff yn dangos eu bod yn gallu diwallu anghenion pob plentyn sy'n mynychu, gan gynnwys plant anabl, plant ag anghenion cymorth ychwanegol a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol, a bod camau yn cael eu cymryd i hyrwyddo lles a datblygiad pob plentyn. 

2.2. Bod ganddyn nhw a'u staff y sgiliau a'r profiad i ddiwallu anghenion unigol plentyn a darparu'r hyn sydd orau ganddo.

2.3 Bod lles a chyfleoedd chwarae pob plentyn yn cael eu hyrwyddo drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Bod camau pwrpasol yn cael eu cymryd i holi plant am eu barn, a bod eu barn wedyn yn cael ei hystyried a'i hymgorffori mewn penderfyniadau.

2.4 Bod preifatrwydd yn cael ei barchu pan ddarperir gofal personol iawn.

2.5 Bod tystiolaeth ar gael o drefniadau staffio sy'n diwallu anghenion pob plentyn sy'n mynychu. 

2.6. Bod camau priodol yn cael eu cymryd os canfyddir bod gan blentyn, neu os yw’n bosibl bod gan blentyn anghenion cymorth ychwanegol. Gall hyn gynnwys trafodaethau gyda rhieni, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill. 

2.7. Os yw darparwr yn credu bod gan blentyn angen dysgu ychwanegol, lle bynnag y bo'n bosibl, bod hyn yn cael ei drafod gyda'i riant. Gall naill ai'r darparwr neu'r rhiant dynnu sylw’r awdurdod lleol at y ffaith bod gan y plentyn, neu y gallai fod gan y plentyn angen dysgu ychwanegol. Wrth ymateb, rhaid i’r awdurdod lleol ddilyn y gofynion a'r canllawiau a nodir yng Nghod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru. 

2.8 Bod staff yn cynnig amgylchedd, cyfleusterau a gweithgareddau cynhwysol i sicrhau bod pob plentyn yn gallu manteisio ar yr holl gyfleoedd chwarae a ddarperir. 

2.9 Bod cyfle cyfartal ac arferion nad ydynt yn gwahaniaethu rhwng unigolion yn cael eu hyrwyddo yn y lleoliad. 

2.10 Bod polisi cyfle cyfartal, amrywiaeth a chynhwysiant wedi'i sefydlu, sy'n gyson â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau presennol, a'i fod yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Bod yr holl staff a gwirfoddolwyr yn deall ac yn gweithredu'r polisi hwn, a'i fod ar gael i rieni.

2.11 Y deëllir anghenion a dewisiadau pob plentyn mewn perthynas â iaith/ieithoedd eu cartref, a'u harferion cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol, ac y darperir ar eu cyfer. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 3: cofnodion

Llais y plentyn

Mae pawb yn cadw gwybodaeth bwysig amdana i'n ddiogel. 

Deilliant lles

Bod gwybodaeth a phrosesau cadw cofnodion cywir yn sicrhau bod plant yn cael cymorth unigol sy'n cynyddu eu diogelwch a'u lles. 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau: 

3.1 Bod cofnodion yn cael eu cadw a'u cynnal fel sy'n ofynnol gan Reoliad 30 ac Atodlen 3 o Reoliadau 2010.

Cofnodion i'w cadw a'u cynnal

Cofnodion busnes 

3.2 Enw, cyfeiriad a rhif ffôn y canlynol: 

  • y person cofrestredig 
  • yr unigolyn cyfrifol, os yw’n gymwys 
  • pob person arall sy'n byw, sy'n gweithio neu a gyflogir yn y fangre lle cynigir y ddarpariaeth 
  • unrhyw berson arall a fydd mewn cyswllt rheolaidd gyda'r plant perthnasol heb eu goruchwylio
  • enw, cyfeiriad a rhif ffôn pob aelod cyfredol o'r pwyllgor neu'r corff llywodraethu os mai cymdeithas anghorfforedig yw'r ymgeisydd

Cofnodion y plant

3.3 Bod trefniadau wedi'u sefydlu i gasglu:

  • enw, cyfeiriad cartref, dyddiad geni a rhyw pob plentyn perthnasol
  • enw, cyfeiriad a rhif ffôn rhiant/gofalwr pob plentyn perthnasol
  • enw, cyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig pob plentyn perthnasol
  • unrhyw anghenion deietegol neu iechyd arbennig neu alergedd unrhyw blentyn perthnasol

3.4 Bod cofnod dyddiol o enwau'r plant perthnasol, yr oriau y buont yno ac enwau'r sawl a ofalodd amdanynt.

3.5. Bod cofnodion am blant unigol yn cael eu cadw am gyfnod o dair blynedd o leiaf ar ôl y dyddiad olaf pan fynychodd y plant. Gallai gofynion yswiriant person cofrestredig olygu bod angen cadw'r cofnodion am gyfnod hirach.

3.6. Bod cofnodion am blant unigol yn cael eu rhannu â rhiant y plentyn, os gofynnir am eu gweld, ac eithrio lle byddai hyn yn peryglu lles y plentyn.

3.7. Bod cofnodion am blant unigol yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol, a'u bod ar gael bob amser i Arolygiaeth Gofal Cymru eu harolygu yn ôl y gofyn.

Cofnodion digwyddiadau

Bod cofnod o'r damweiniau, y salwch difrifol a'r digwyddiadau pwysig eraill yn y fangre berthnasol yn cael eu cadw, gan gynnwys:

  • 3.8 bod staff yn sicrhau bod rhieni/gofalwyr yn cael gwybod am unrhyw ddamweiniau/digwyddiadau
  • 3.9 bod datganiad ar gael o'r weithdrefn i'w dilyn yn achos tân neu ddamwain
  • 3.10 bod datganiad ar gael o'r weithdrefn i'w dilyn lle mae gan riant neu blentyn gŵyn am y gwasanaeth a ddarparwyd gan y person cofrestredig
  • 3.11 bod datganiad ar gael o'r trefniadau ar gyfer diogelu'r plant perthnasol, gan gynnwys trefniadau i warchod y plant rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso a'r gweithdrefnau i'w dilyn yn achos honiadau o gam-drin neu esgeuluso
  • 3.12 bod datganiad ar gael o'r gweithdrefnau i'w dilyn os bydd plentyn perthnasol yn mynd ar goll

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 4: cyfleoedd i chwarae

Llais y plentyn

Dw i'n gallu dewis sut dw i'n chwarae a chael hwyl. Mae gen i lawer o le ac amser i roi cynnig ar bethau yn fy ffordd fy hun.

Deilliant lles

Bod plant yn arfer eu Hawl i Chwarae drwy weithgareddau heb strwythur, dan arweiniad plant, gan elwa o brofiadau a ddewisir o'u gwirfodd sy'n cefnogi eu datblygiad cyffredinol, eu gwydnwch, eu lles a'u mwynhad. 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

4.1 Bod anghenion unigol y plentyn yn cael eu diwallu, a bod ei les yn cael ei hyrwyddo wrth ddarparu cyfleoedd chwarae.

4.2 Bod cyfleoedd chwarae cynhwysol ar gael i bob plentyn, sy'n gwella eu lles.

Bod amrywiaeth o weithgareddau, cyfleoedd chwarae ac adnoddau ar gael sy'n briodol i oedran, galluoedd a diddordebau'r plant sy'n mynychu.

4.3. Bod plant yn cael cyfle i fod yn egnïol, o dan do a/neu yn yr awyr agored, ynghyd ag amser i ymlacio.

4.4 Y gwneir pob ymdrech i ddarparu cyfleoedd cytbwys ar gyfer chwarae dan do ac awyr agored, yn amodol ar gapasiti staffio a chyfyngiadau eraill.

4.5 Bod staff yn dilyn Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc wrth eu gwaith.

4.6 Bod staff yn darparu adnoddau i gefnogi plant a phobl ifanc i greu gofod lle gallant chwarae yn y foment ac adeiladu ar eu chwilfrydedd naturiol.

4.7 Bod staff yn arsylwi ar chwarae'r plant ac yn darparu cyfleoedd i wella ac ymestyn eu profiadau fel y bo'n briodol.

4.8 Y deëllir egwyddorion gwaith chwarae a'u bod yn cael eu rhoi ar waith.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 5: hyrwyddo hawliau a lles plant

Llais y plentyn

Dw i'n teimlo'n saff i fod yn fi fy hun. Mae staff yno pan fydda i eu hangen, ond maen nhw'n gadael imi chwarae'n rhydd.

Deilliant lles

Bod plant yn profi cydberthnasau cynnes, lle ymatebir iddynt, gan feithrin ymdeimlad o berthyn, hyder, lles emosiynol a gwydnwch.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

5.1 Bod gan staff wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a'i oblygiadau i'w gwaith a'u rhyngweithio â'r plant, a'u bod yn ei gefnogi, gan helpu'r plant i ddechrau deall eu hawliau.

5.2. Bod polisïau'r lleoliad ac arferion y staff yn hyrwyddo perthynas gynnes rhwng unigolion, ymdeimlad o ddiogelwch, hunan-werth, annibyniaeth a hyder i blant mewn amgylchedd sy'n ymateb iddynt ac yn eu meithrin.

5.3. Y cyfathrebir mewn ffordd gadarnhaol, yr anogir y plant ac y gwrandewir arnynt. Bod y staff yn edrych i lygaid y plant a bod y cyfathrebu ar lefel y plentyn yn gyffredinol.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 6: ymddygiad

Llais y plentyn

Dw i'n cael fy nhrin â pharch, a dw i'n dysgu trin eraill â pharch hefyd.

Deilliant lles

Bod plant yn cael eu cefnogi i ddatblygu empathi, sgiliau rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol a'r gallu i reoli eu hemosiynau.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

6.1 Bod oedolion sy'n gofalu am blant yn y ddarpariaeth wedi'u hyfforddi'n briodol ac yn gallu ymateb i ystod eang o elfennau o ymddygiad plant, sicrhau hawliau plant a hyrwyddo eu lles, yn unol â'u polisi rheoli ymddygiad.

6.2 Bod polisi rheoli ymddygiad ysgrifenedig yn cael ei lunio a'i weithredu sy'n nodi i ba raddau y bydd camau rheoli, cyfyngu a disgyblu yn cael eu defnyddio, ac sy'n dangos sut caiff ymddygiad priodol ei hyrwyddo yn unol ag egwyddorion gwaith chwarae. Bod camau yn cael eu cymryd yn barhaus i adolygu'r polisi a bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am unrhyw ddiwygiad o fewn 28 diwrnod.

6.3 Ei bod yn glir pwy sy'n gyfrifol am y polisi rheoli ymddygiad. Bod gan y person hwnnw’r sgiliau i gefnogi unrhyw staff eraill a'i fod yn gallu troi at gyngor arbenigol os nad yw'r dulliau arferol yn effeithiol gyda phlentyn penodol.

6.4 Bod yr ymatebion i ymddygiad yn gyson a phriodol o ran datblygiad, gan barchu lefel dealltwriaeth ac aeddfedrwydd pob plentyn unigol.

6.5 Bod oedolion yn modelu ymddygiad cadarnhaol, gan roi canmoliaeth ac anogaeth, a meithrin perthynas dda rhwng yr oedolion a'r plant. Bod ymddygiad amhriodol, gan gynnwys bwlio, yn cael ei reoli ac yr eir i'r afael ag ef.

6.6 Bod oedolion sy'n darparu cyfleoedd chwarae yn ymwybodol o unrhyw fwlio ac yn annog y plant i sôn am unrhyw bryderon.

6.7 Na ddefnyddir cosbau corfforol, megis ysgwyd neu daro plentyn byth, na'u bygwth.

6.8 Na wnaiff oedolion ddefnyddio unrhyw fath o ymyrraeth gorfforol, ee dal gafael yn y plant neu eu dal yn ôl yn gorfforol rhag gwneud rhywbeth, oni bai bod angen diogelu’r plentyn, plant eraill neu oedolyn rhag cael anaf, neu atal niwed difrifol i eiddo. Gweler y Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol. 

6.9 Na chaiff plant eu bychanu, eu dychryn na'u cywilyddio ac na fydd unrhyw un yn gweiddi arnynt.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 7: gofal iechyd

Llais y plentyn

Os ydw i'n teimlo'n sâl, mae pobl yn fy helpu ac yn gwneud yn siŵr fy mod i'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arna i.

Deilliant lles

Bod anghenion iechyd corfforol ac emosiynol plant yn cael eu deall a bod y plant yn cael cefnogaeth mewn ffordd sy'n hyrwyddo lles ac arferion iechyd cadarnhaol, gan fynd i'r afael yn briodol â'r anghenion ochr yn ochr â rhieni/gofalwyr.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

7.1 Bod iechyd y plant yn cael ei hyrwyddo a chamau cadarnhaol yn cael eu cymryd i atal haint rhag lledaenu drwy fesurau priodol mewn achosion o salwch.

7.2 Na dderbynnir unrhyw blentyn os ymddengys ei fod yn sâl. Os bydd plant yn mynd yn sâl yn ystod eu hamser yn y lleoliad, y cymerir gofal i atal heintio plant eraill ac y rhoddir gwybod i'r rhieni/gofalwyr cyn gynted â phosibl.

7.3 Y rhoddir gwybod i rieni/gofalwyr eraill os bydd plentyn sy'n mynd i'r lleoliad, neu unrhyw un arall yn y fangre (ee aelod o staff neu o'r teulu) wedi cael diagnosis o afiechyd heintus difrifol (ee. brech yr ieir, impetigo) gan sicrhau cyfrinachedd unigolion fel y bo'n briodol.

7.4 Bod rhieni/gofalwyr yn gwybod bod yn rhaid iddynt roi gwybod i'r darparwr cofrestredig am anghenion gofal iechyd eu plentyn. Gan ymgynghori â rhieni/gofalwyr y plentyn, bod sylw yn cael ei roi i anghenion iechyd unigol plant, bod yr anghenion yn cael eu hystyried ac y cynllunnir ar eu cyfer, a bod y darparwr cofrestredig yn cymryd unrhyw gamau sy'n angenrheidiol.

7.5 Y ceir caniatâd ysgrifenedig gan y rhiant cyn ceisio cyngor neu driniaeth feddygol frys.

7.6 Bod y staff yn cael gwybodaeth am bwysigrwydd arferion hylendid da ac yn ymwybodol ohonynt er mwyn atal haint rhag lledaenu. 

7.7 Bod y plant yn cael eu hannog i ddysgu am hylendid personol da, ac ymarfer hynny, drwy'r arferion a ddilynir bob dydd. 

7.8 Bod systemau ar waith i sicrhau bod unrhyw anifeiliaid yn ddiogel i fod yn agos at blant, ac nad ydynt yn peri risg i iechyd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol.

7.9 Bod amgylcheddau chwarae yn glir rhag haint a deunyddiau peryglus, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol. Bod pyllau tywod yn cael eu gwarchod rhag cael eu heintio a bod y tywod yn lân.

Hylendid bwyd

7.10 Bod y staff sy'n gyfrifol am baratoi a delio â bwyd yn gwbl ymwybodol o'r rheoliadau sy'n ymwneud â diogelwch bwyd a hylendid, ac yn cydymffurfio â nhw.

Gofal personol

7.11 Lle darperir gofal i blant, bod polisi gofal personol wedi'i lunio y mae'r staff yn gyfarwydd ag ef. Dylai'r polisi ymwneud â materion hylendid ac arferion diogelwch da.

Polisi gwrth-smygu a fepio

7.12 Bod ardaloedd dan do ac awyr agored y fangre lle darperir gofal dydd yn ddi-fwg. Fodd bynnag, dim ond pan ddefnyddir y fangre i ddarparu gofal dydd y bydd yn ofynnol i’r ardaloedd awyr agored fod yn ddi-fwg. Rhaid cadw unrhyw ddeunyddiau smygu a fepio y tu hwnt i gyrraedd plant bob amser. Ni chaniateir smygu ym mhresenoldeb y plant sy'n derbyn gofal mewn lleoliad gofal dydd. Mae hyn yn berthnasol i ardaloedd dan do ac awyr agored y fangre lle darperir gofal dydd. Mae canllawiau ar y gofynion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

7.13 Bod arwyddion 'Dim Smygu' yn ardaloedd dan do y fangre. Nid yw'n ofynnol gosod arwyddion 'Dim Smygu' mewn mangreoedd awyr agored gan mai yn ysbeidiol yn unig y defnyddir llawer ohonynt neu cânt eu rhannu ag eraill. Fodd bynnag, ceir gosod arwyddion 'Dim Smygu' mewn ardaloedd awyr agored, ac mae templed o arwydd 'Dim Smygu' ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

7.14 Bod y person sy'n rheoli'r lleoliad gofal dydd, er mwyn cyflawni gofynion y ddeddfwriaeth ddi-fwg, yn cymryd camau rhesymol i atal unrhyw un rhag smygu yn y fangre. Mae canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar sut i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth ddi-fwg. 

7.15 Mewn perthynas â fepio, mae'r ddeddfwriaeth ddi-fwg sydd ar waith ar hyn o bryd yn cwmpasu smygu tybaco yn unig, ac nid yw'n cynnwys e-sigaréts/fepio. Felly, os bydd unigolyn yn defnyddio e-sigarét/fepio mewn lleoliad y mae’n ofynnol iddo fod yn lleoliad di-fwg, ni fydd yr unigolyn hwnnw’n cyflawni trosedd. Fodd bynnag, anogir darparwyr lleoliadau gofal dydd cofrestredig i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts/fepio yn eu lleoliad. 

Cymorth cyntaf

7.16 Bod blwch cymorth cyntaf sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau perthnasol, a bod y cynnwys yn cael ei archwilio'n gyson gan ychwanegu ato yn ôl yr angen. Lle bo'n briodol, dylid dynodi aelod o staff i fod yn gyfrifol am hyn. Dylai'r blwch cymorth cyntaf fod ar gael i staff, ond y tu hwnt i gyrraedd plant. 

7.17 Bod lleoliadau chwarae mynediad agored yn cydymffurfio â gofynion cyffredinol hyfforddiant cymorth cyntaf yn y gweithle a amlinellir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â'u gweithwyr. 

7.18 Bod gan unigolion sydd wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf gymhwyster “addas”. Rhaid i gynnwys cyrsiau Cymorth Cyntaf Pediatrig fod yn gyson â'r meini prawf a nodir yng Nghanllawiau Atodol y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig yn atodiad a.

7.19 Mewn lleoliadau chwarae mynediad agored, bod o leiaf un unigolyn sydd â chymhwyster cymorth cyntaf (cymorth cyntaf pediatrig llawn) yn bresennol bob amser, a bod trefniadau wrth gefn i sicrhau mwy o staff sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf, i'w defnyddio yn ôl y risg o ran amgylchiadau'r lleoliad a'r mathau o weithgareddau yr ymgymerir â nhw, y lleoliad daearyddol a nifer y plant sy'n mynychu.

7.20 Bod pob tystysgrif cymorth cyntaf yn cael ei diweddaru’n gyson a’i hadnewyddu bob 3 blynedd. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 8: meddyginiaeth

Llais y plentyn

Os oes angen meddyginiaeth arna i, mae'n cael ei roi yn ddiogel a dim ond pan fo ei angen.

Deilliant lles

Bod iechyd plant yn cael ei ddiogelu drwy roi'r feddyginiaeth sydd ei hangen arnynt, pan fydd ei hangen arnynt, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau meddyginiaeth y lleoliad. 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau: 

8.1 Bod y safonau hyn yn cael eu darllen ochr yn ochr â Safon 7: Gofal iechyd a chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer atal a rheoli heintiau. 

8.2 Bod polisi meddyginiaeth clir, a ddeëllir ac a weithredir gan bawb o'r staff, ynghylch storio a gweinyddu unrhyw feddyginiaeth (ragnodedig neu nas rhagnodwyd). Bod y polisi yn cydymffurfio â thelerau yswiriant y person cofrestredig.

8.3 Bod y polisi meddyginiaeth yn cael ei rannu â rhieni ac yn nodi'r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi gweinyddu meddyginiaeth ragnodedig ac nas rhagnodwyd yn ddiogel. Bod y polisi yn cynnwys y weithdrefn ar gyfer delio ag argyfyngau meddygol a phan fydd plant yn mynd yn sâl yn y lleoliad. 

8.4 Bod y rhiant yn rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw cyn i unrhyw feddyginiaeth (ragnodedig/nas rhagnodwyd) gael ei rhoi. 

8.5 Os rhoddir meddyginiaeth i blentyn, bod yna ddealltwriaeth o sgil-effeithiau posibl y feddyginiaeth. Os yw’r plentyn yn cymryd ei feddyginiaeth ei hun, bod hyn yn digwydd yn unol â chanllawiau ysgrifenedig gan y rhiant a chyda dealltwriaeth o sgil-effeithiau posibl y feddyginiaeth. Rhaid goruchwylio plant perthnasol sy'n cymryd eu meddyginiaeth eu hunain.

8.6 Os yw'n berthnasol, yr holir y person sy'n dod â'r plentyn i'r lleoliad pryd yn union y gweinyddwyd y feddyginiaeth ddiwethaf. 

8.7 Na weinyddir meddyginiaethau presgripsiwn oni bai bod meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall wedi'u rhagnodi ar gyfer y plentyn hwnnw.

8.8 Os yw gweinyddu meddyginiaethau presgripsiwn yn galw am wybodaeth dechnegol neu feddygol, bod hyfforddiant unigol yn cael ei roi gan weithiwr iechyd proffesiynol cymwys. Bod yr hyfforddiant yn benodol i'r plentyn unigol dan sylw.

8.9 Nad yw unrhyw feddyginiaeth a dderbynnir yn y lleoliad, y ceir gafael arni gan y lleoliad ac a weinyddir gan y lleoliad yn hen. 

8.10 Bod pob meddyginiaeth yn cael eu storio yn eu cynhwysydd gwreiddiol. Bod meddyginiaeth a ragnodwyd wedi'i labelu'n glir gydag enw'r plentyn.

8.11 Bod pob meddyginiaeth yn cael ei storio'n ddiogel yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, ac nad oes modd i'r plant gael gafael arnynt. 

8.12 Bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw o bob meddyginiaeth a weinyddir i blant, a bod rhieni yn llofnodi'r llyfr cofnod i'w chydnabod. 

8.13 Os ydych yn derbyn parasetamol hylifol, yn ei storio ac yn ei weinyddu pan fydd plentyn yn mynd yn sâl yn eich lleoliad: dilynwch y canllawiau yn atodiad b: Canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 9: bwyd a diod

Llais y plentyn

Os cynigir byrbrydau neu ddiodydd, maen nhw'n iach ac yn addas i mi, ac mae'r staff yn gwirio beth sydd ei angen arna i.

Deilliant lles

Lle darperir bwyd a diodydd iach i blant, bod dognau digonol yn cael eu darparu ar gyfer eu hanghenion, gan sicrhau eu bod yn cael eu paratoi'n iawn a'u bod yn faethlon. 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

9.1 Os darperir byrbrydau a diodydd iach, bod y person cofrestredig yn gofyn am wybodaeth gan rieni am unrhyw ofynion deietegol arbennig sydd gan y plentyn, gan gynnwys gofynion diwylliannol a chrefyddol, yr hyn sydd orau ganddynt ac alergeddau. Os nodir manylion fel hyn, bod y person cofrestredig yn gwneud cofnod ac yn sicrhau y cydymffurfir â hynny.

9.2 Bod y person cofrestredig yn sicrhau bod unrhyw fwyd a diod y mae plant yn ei gael yn cael ei baratoi'n ddiogel, yn gytbwys o ran maeth, o ansawdd da, ac yn briodol o ran dogn, yn unol ag argymhellion Canllawiau Bwyd a Maeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau gofal plant. Yn unol ag Egwyddorion Gwaith Chwarae, bod y budd a'r risg yn ystyriaethau wrth ddefnyddio bwyd ar gyfer chwarae.

9.3 Bod dŵr yfed ffres ar gael bob amser i'r plant.

9.4 Bod bwyd yn cael ei storio'n ddiogel. Os yw rhieni yn darparu bwyd, eu bod yn cael gwybod beth gellir ei storio'n ddiogel.

9.5 Os darperir bwyd, bod cegin â chyfarpar digonol i ddarparu prydau a byrbrydau i'r plant a'r staff yn y fangre. Os nad yw hyn ar gael, bod y person cofrestredig yn gallu dangos sut y gwneir trefniadau digonol i ddarparu bwyd a diod i'r plant yn ddiogel. 

9.6 Nad yw'r plant yn cael mynd i'r gegin oni bai ei bod yn cael ei defnyddio’n unswydd ar gyfer gweithgaredd plant dan oruchwyliaeth.

9.7 Y cydymffurfir â gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Iechyd Amgylcheddol.

9.8 Mewn lleoliadau lle mae amseroedd penodol ar gyfer prydau bwyd a diodydd, eu bod wedi'u trefnu i gynnig cyfleoedd cymdeithasol. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 10: person addas

Llais y plentyn

Mae'r staff yma yn garedig, yn gyfeillgar, ac yn deall sut i gefnogi chwarae plant.

Deilliant lles

Bod plant yn mwynhau profiadau chwarae, cydberthnasau diogel ac sy'n eu cyfoethogi, gydag oedolion y maent yn ymddiried ynddynt, sy'n fedrus a meddylgar, ac sy'n ymrwymedig i ymarfer o ansawdd uchel.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

10.1 Eu bod yn dal i fod yn addas i weithredu fel person cofrestredig ac addasrwydd eu staff a'u gwirfoddolwyr. 

10.2 Bod yr holl staff yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n cwmpasu polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch ac amddiffyn plant yn ystod wythnos gyntaf eu cyflogaeth. 

10.3 Y rhoddir sylw i anghenion hyfforddi parhaus y staff ac y darperir ar eu cyfer yn rheolaidd. 

10.4 Bod prosesau ar waith i oruchwylio a gwerthuso'r holl staff yn rheolaidd, gan annog ymarfer meddylgar a chyfleoedd i godi pryderon. 

10.5 Bod darparwyr chwarae mynediad agored, ac unrhyw staff a gyflogir ganddynt, yn addas i ofalu am blant hyd at 12 oed, a bod ganddynt y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau priodol i ddiwallu anghenion y plant. 

10.6 Bod y staff yn abl yn feddyliol ac yn gorfforol i ofalu am blant. 

10.7 Bod darparwyr chwarae mynediad agored, ac unrhyw staff a gyflogir ganddynt, ac unrhyw unigolion eraill 16 oed neu'n hŷn sy'n gweithio (gan gynnwys gwaith gwirfoddol) neu sydd am reswm arall yn bresennol yn y fangre berthnasol, ac sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â’r plant, neu sy'n debygol o wneud hynny, wedi mynd drwy broses wirio sy'n cydymffurfio â'r Rheoliadau ac yn cynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bod pob archwiliad yn cael ei gwblhau cyn i'r unigolion hyn ddechrau gweithio gyda phlant neu ddod i gysylltiad rheolaidd â nhw heb oruchwyliaeth. 

Y person â chyfrifoldeb 

10.8 Cyn ei benodi, rhaid bod gan berson sydd â chyfrifoldeb (rheolwr) am ddarpariaeth chwarae mynediad agored i blant 5 i 12 oed: 

10. 9 Bod yna ddirprwy penodedig sy'n gallu cymryd cyfrifoldeb yn absenoldeb y person â chyfrifoldeb.

Cymwysterau staff eraill

10.10 Ar gyfer lleoliadau gwaith chwarae mynediad agored:

  • bod gan o leiaf 50% o’r holl “staff eraill” gymhwyster gwaith chwarae lefel 2, a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli), sy’n briodol i’r swydd
  • nad yw'r nifer sydd heb gymhwyso, sy'n gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 neu'n aelodau staff gwirfoddol yn fwy na 50% o gyfanswm y staff

10.11 Ei fod yn fodlon bod pob aelod staff sydd heb gymhwyso / sy'n gweithio tuag at gymwysterau / sy'n gwirfoddoli:

  • yn gymwys ac yn gyfrifol
  • yn cael ei oruchwylio'n briodol gan aelod o staff cymwysedig
  • wedi ymgymryd â'r gwiriadau addasrwydd angenrheidiol 
  • wedi cwblhau hyfforddiant sefydlu sy'n berthnasol i'w rôl
  • yn gweithio ochr yn ochr â staff sy’n gymwysedig i’r lefel 
    ofynnol

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 11: trefniadaeth a staffio

Llais y plentyn

Mae yna ddigon o staff bob amser i gefnogi pawb a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu chwarae'n ddiogel.

Deilliant lles

Y cyfrennir at les y plant drwy wasanaeth sydd wedi'i drefnu'n dda, lle mae nifer yr oedolion yn diwallu eu hanghenion yn unol â'r gofynion.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

11.1 Bod cynllun gweithredol yn cael ei ddatblygu a'i adolygu'n rheolaidd. Rhaid sicrhau bod y cynllun hwn ar gael i rieni. Nod y cynllun yw sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio a'i drefnu'n dda a'i gwneud yn bosibl trefnu'r ddarpariaeth mewn ffordd mor hyblyg â phosibl gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael ac anghenion y plant a'r teuluoedd. 

Bydd cynnwys y cynllun yn amrywio yn dibynnu ar y math o ddarpariaeth, ond gallai gynnwys: 

  • manylion y strwythur cyfundrefnol 
  • cyfrifoldebau rheolwyr llinell
  • strwythur staffio sy’n nodi cyfrifoldebau arwain a rheoli 
  • manylion y fangre a'r cyfleusterau a sut y cânt eu defnyddio 
  • cynlluniau hyfforddi
  • gwybodaeth am ddatblygiad y gwasanaeth
  • cynlluniau gweithredu

11.2 Bod y cynllun gweithredol yn nodi'n glir sut y caiff y mannau chwarae dan do ac awyr agored eu rhannu a'u defnyddio i ddarparu gweithgareddau ar gyfer grwpiau o blant, a sut y caiff staff eu defnyddio ynddynt. Mae disgwyl y bydd angen i'r trefniadau hyn fod yn hyblyg ac y byddant yn amrywio yn ôl y gweithgaredd ac anghenion y grŵp y gofelir amdano.

11.3 Bod staff yn cael eu defnyddio'n effeithiol o fewn y ddarpariaeth i sicrhau diogelwch a lles y plant.

11.4 Bod plant yn cael y cyfle i ryngweithio â'r oedolion sy'n gofalu amdanynt. Rhaid i staff fynd ati i geisio datblygu perthynas dda â'r plant a rhoi cyfle i grwpiau bach o blant ryngweithio a chwarae gyda'i gilydd.

11.5 Bod yna ddirprwy penodedig sy'n gallu cymryd cyfrifoldeb yn absenoldeb y person â chyfrifoldeb.

Gweithgareddau arbenigol 

11.6 Bod darpariaeth chwarae mynediad agored sy'n cynnig gweithgareddau arbenigol yn cynnal a chadw gweithdrefnau ysgrifenedig ar gyfer pob rhaglen o weithgareddau arbenigol. 

Rhaid i'r gweithdrefnau hyn: 

  • fod yn briodol i'r safle a lefel y gweithgareddau a gynhelir
  • diffinio'r cymwyseddau, y cymwysterau a/neu'r profiad sy'n ofynnol gan y staff sy'n ymgymryd â gwahanol lefelau o gyfrifoldeb
  • bod yn gyson â Chanllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, lle bo'n briodol; Canllawiau Pwyllgor Cynghori Canolfannau Gweithgareddau, lle maent wedi'u sefydlu; a Chanllawiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, lle maent yn berthnasol o ran cynnal y gweithgareddau yn ddiogel ar y lefel yr ymgymerir â hi

11.7 Bod gan bob aelod o staff sy'n gyfrifol am reoli gweithgaredd y cymwyseddau, y cymwysterau a'r profiad y mae eu hangen i wneud hynny. Mae angen trwydded weithgareddau os yw hynny'n berthnasol.

Cymarebau staffio 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

11.8 Bod y gymhareb oedolion:plant ofynnol yn cael ei bodloni.

11.9 Nad yw unrhyw ofal a ddarperir ar gyfer plant dros 12 oed yn cael effaith andwyol ar y gofal a ddarperir ar gyfer plant hyd at 12 oed, ac fel arall.

11.10 Y gymhareb staffio ofynnol mewn darpariaeth chwarae mynediad agored yw 1 oedolyn i 13 o blant o dan 8 oed. 

11.11 Ei fod yn cynnal asesiad risg i ystyried trefniadau addas ar gyfer achlysuron pan fydd plant yn gadael y fangre chwarae mynediad agored, gan ystyried lleoliad daearyddol y safle, oedran y plant ac anghenion unigol. 

11.12 Yn achos plant 8 i 12 oed, dylai’r gymhareb staffio fod yn ddigonol ac yn gymesur, a dylai gyfrannu at sicrhau amgylchedd cadarnhaol i’r plant. Dylai cymarebau staffio adlewyrchu amgylchiadau’r lleoliad, gan gynnwys y safle a’r gweithgareddau a wneir, sut y rheolir risgiau, profiad a chymwysterau staff, cyd-destun cymunedol, oedran a gallu’r plant, a dylid paratoi cynlluniau ar gyfer achosion brys. 

11.13 Os cynhelir darpariaeth chwarae dan do, bod ganddo system sy'n ei gwneud yn bosibl iddo wybod pa blant sy'n bresennol yn y fangre.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 12: Gweithdrefnau ariannol

Llais y plentyn

Mae fy nheulu yn gwybod bod y lle hwn yn cael ei redeg yn iawn ac fy mod i'n cael gofal.

Deilliant lles

Bod plant yn profi parhad a sefydlogrwydd oherwydd bod y lleoliad yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn cael ei reoli'n dda.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

  • 12.1 Bod gweithdrefnau ariannol effeithiol yn cael eu gweithredu.
  • 12.2 Bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol wedi'i drefnu, yn ogystal ag yswiriant ar gyfer unrhyw gerbydau a gyrwyr a ddefnyddir. 
  • 12.3 Bod cofnodion yr holl drafodion ariannol a'r yswiriant mewn perthynas â'r gofal a ddarperir i blant perthnasol ar gael i Arolygiaeth Gofal Cymru ar gais.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help:

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 13: ansawdd

Llais y plentyn

Mae fy lleoliad yn ceisio gwella'n barhaus ac yn gwrando ar yr hyn rydyn ni'n ei feddwl.

Deilliant lles

Bod y plant a'u rhieni yn elwa ar wasanaeth o safon sy'n cael ei fonitro'n effeithiol.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

13.1 Bod systemau a phrosesau effeithiol yn cael eu defnyddio i fonitro, adolygu a gwella ansawdd pob agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir yn barhaus, mewn ffordd sy’n bodloni gofynion Rheoliad 16: Adolygu Ansawdd y Gofal.

13.2 Hunanwerthusiad o'ch gwasanaeth yw 'Ansawdd y gofal'. Mae system ar waith i gynnal adolygiad yn flynyddol a chynhyrchu adroddiad a ddarperir mewn fformat priodol i rieni/gofalwyr, awdurdod lleol sy'n trefnu gofal dydd i blentyn perthnasol, staff a Gweinidogion Cymru ar gais. (Gellir darparu'r adroddiad i Arolygiaeth Gofal Cymru fel rhan o Ddatganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS)).

13.3 Bod yr Adolygiad o Ansawdd y Gofal yn cynrychioli cylch gwella parhaus ac yn rhan o ddiwylliant o wella ansawdd. Mae monitro ac adolygu'r gwasanaeth yn helpu i sbarduno gwelliannau. Dylid cynnwys yr holl staff yn yr adolygiad.

13.4 Bod yr adroddiad yn cynnwys barn plant, rhieni, staff a gweithwyr proffesiynol eraill (lle bo'n briodol). Y gofynnir am farn y plant a'u rhieni, staff ac ymarferwyr/gweithwyr proffesiynol eraill yn rheolaidd ynghylch pa welliannau y gellid eu gwneud, ac y rhoddir ystyriaeth i’r farn honno. Bod hyn yn cael ei ymgorffori fel rhan o’r prosesau i fesur llwyddiant y gwasanaeth.

13.5 Bod unrhyw gynlluniau sicrhau ansawdd eraill, megis fframwaith hunanasesu sicrwydd ansawdd Chwarae o Safon, yn bwydo i mewn i adroddiad Ansawdd y Gofal.

13.6 Bod cyngor ac argymhellion Arolygiaeth Gofal Cymru ac unrhyw gyrff proffesiynol y mae’r lleoliadau yn gysylltiedig â nhw yn cael eu hystyried.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help:

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 14: cwynion

Llais y plentyn

Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, mae'r staff yn gwrando ac yn helpu i ddatrys y peth.

Deilliant lles

Bod y plant a’u rhieni yn hyderus y bydd rhywun yn gwrando ar eu cwynion, yn eu cymryd o ddifrif ac yn gweithredu arnynt yn brydlon.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau: 

14.1 Bod gweithdrefn gwyno ysgrifenedig syml ac eglur, sy’n hwylus i’w defnyddio ac sy'n cydymffurfio â'r Rheoliadau, ar waith. Dylai’r weithdrefn gwyno roi gwybodaeth am sut i gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru (gan gynnwys enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa berthnasol AGC). 

14.2 Yr ymdrinnir â phob cwyn mewn modd sensitif ac yn gyfrinachol. 

14.3 Bod cwynion yn cael eu hystyried, ac os yw'n bosibl, yr ymchwilir iddynt, ac y cânt eu datrys yn lleol. 

14.4 Bod yr achwynydd yn cael gwybod, ar ddu a gwyn, am ganlyniad yr ymchwiliad o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn y gŵyn. Gyda chytundeb yr achwynydd, ceir estyn y cyfnod ar gyfer datrys y gŵyn hyd at 14 diwrnod ychwanegol os oes angen. 

14.5 Bod cofnod ysgrifenedig cywir a manwl o bob cwyn yn cael ei gadw, gan gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • enw'r achwynydd
  • natur y gŵyn
  • dyddiad ac amser y gŵyn
  • y camau a gymerwyd mewn ymateb i'r gŵyn 
  • canlyniad yr ymchwiliad i'r gŵyn 
  • yr wybodaeth a roddwyd i'r achwynydd, gan gynnwys dyddiad yr ymateb

14.6 Y rhoddir gwybod bod hawl ar unrhyw adeg i gwyno wrth yr awdurdod lleol os mai nhw sy'n gyfrifol am drefnu’r ddarpariaeth chwarae mynediad agored ar gyfer plentyn penodol. Rhaid rhoi gwybod hefyd bod hawl ar unrhyw adeg i gwyno wrth Arolygiaeth Gofal Cymru. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help:

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 15: diogelu

Llais y plentyn

Mae'r staff yn gwneud yn siŵr bod hwn yn lle diogel i chwarae ac fy mod i'n cael fy amddiffyn rhag niwed.

Deilliant lles

Bod plant yn cael eu diogelu rhag niwed, cam-drin ac esgeulustod.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau: 

15.1 Mai diogelu’r plentyn yw'r flaenoriaeth gyntaf; bod hyn yn gyfrifoldeb i bawb.

15.2 Bod polisi ysgrifenedig ar ddiogelu plant wedi'i sefydlu. Rhaid i'r polisi ddilyn Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pob unigolyn, grŵp a sefydliad sy'n darparu gweithgareddau i blant ac oedolion yng Nghymru. Dylai pob sefydliad hefyd ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Wrth lunio'r polisi hwn, rhaid i'r person cofrestredig hefyd fod yn gyfarwydd â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar ddiogelu plant o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

15.3 Bod y polisi diogelu plant ar gael i rieni ar gais ac yn nodi'n glir gyfrifoldebau staff i roi gwybod am niwed, cam-drin neu esgeulustod a amheuir. Rhaid sicrhau bod y polisi yn cynnwys enwau a rhifau ffôn cyswllt, y gweithdrefnau i'w dilyn os gwneir honiad yn erbyn aelod o staff neu wirfoddolwr a goblygiadau datgelu gwybodaeth. 

15.4 Bod polisi ynghylch preifatrwydd a chyfrinachedd ar gael i rieni ar gais. Bod unrhyw geisiadau gan drydydd partïon am wybodaeth yn cael eu trafod gyda'r rhieni a bod gwybodaeth amdanynt ond yn cael ei rhannu gyda'u cydsyniad nhw. Gellir gwneud eithriad lle mae'n ofynnol cofnodi pryderon am les neu ddiogelwch y plentyn; er enghraifft, mewn perthynas â diogelu plant. 

15.5 Bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant diogelu sy’n berthnasol i’w rôl. Bod aelod dynodedig o staff wedi dilyn cyrsiau hyfforddi diogelu ac yn gyfrifol am gysylltu â gwasanaethau statudol fel gwasanaethau cymdeithasol mewn unrhyw sefyllfa diogelu plant. 

15.6 Bod unrhyw bersonau sy'n gweithio gyda phlant ac sy'n gofalu am blant yn abl i roi'r polisi ar waith, ac yn ymwybodol o faterion diogelu ac amddiffyn plant, fel y'u nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru, gan gynnwys cam-drin corfforol (sydd yn ei dro yn cynnwys cosbi corfforol), esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol, ac yn abl i gael eu hystyried yn gymwys i weithredu'r gweithdrefnau.

15.7 Bod staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon am ddiogelwch neu les plentyn yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ddi-oed. 

15.8. Os pennir plentyn fel un sydd angen gofal a chymorth (adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), bod y person cofrestredig, gyda chaniatâd y rhieni, yn rhoi'r wybodaeth briodol i asiantaethau cyfeirio.

15.9 Bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant addas ar gyfer eu rôl. Mae Atodiad C, Canllawiau Diogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol: Rolau a Chyfrifoldebau yn manylu ar y mathau o rolau a geir ym maes gwaith chwarae, a’r hyfforddiant diogelu sy’n briodol i wahanol rolau o fewn y sector. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 16: hysbysu am ddigwyddiadau pwysig

Llais y plentyn

Os oes rhywbeth pwysig yn digwydd, mae staff yn dweud wrth fy nheulu a'r bobl sy'n gwirio fy lleoliad. Mae pawb wedyn yn gwybod beth sy'n digwydd ac mae'n helpu i fy nghadw i'n ddiogel. 

Deilliant lles

Bod plant yn cael eu diogelu drwy roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol yn brydlon am ddigwyddiadau pwysig neu newidiadau i'r sefydliad.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau: 

Achosion sy'n codi 

16.1 Bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am y pethau canlynol yn syth, yn unol â’r rheoliadau (Rheoliad 31, Atodlen 4), mewn perthynas â digwyddiadau pwysig:

  • Achos yn y fangre berthnasol o unrhyw glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw feddyg cofrestredig sy'n ymweld â phlentyn neu rywun arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i roi gwybod amdano, neu o unrhyw anaf difrifol, salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre. 
  • Unrhyw honiad o anaf difrifol y mae unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre, wedi'i achosi i blentyn, neu o unrhyw gamdriniaeth yr honnir ei bod wedi digwydd yn y fangre. 
  • Unrhyw ddigwyddiad arall sy'n debygol o effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre i ddod i gysylltiad rheolaidd â phlant. 
  • Unrhyw ddigwyddiad pwysig arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre. 

Achosion gweinyddol 

16.2 Bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am y pethau canlynol yn syth, yn unol â’r rheoliadau: 

  • Enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref unrhyw berson newydd â chyfrifoldeb, unrhyw un newydd sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, unrhyw un newydd sy'n byw yn y fangre honno, neu unrhyw un newydd sy'n gweithio ar yr un pryd ag y gofelir am y plant neu yn yr un rhan o'r fangre. 
  • Os darperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd newydd, neu rywun arall newydd sydd â swydd debyg yn y sefydliad. 
  • Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu unrhyw un o'r unigolion a ddisgrifir uchod. 
  • Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, os mai sefydliad yw'r person cofrestredig.
  • Unrhyw newid yn y cyfleusterau a gaiff eu defnyddio yn y fangre berthnasol, gan gynnwys safleoedd dan do ac awyr agored a newidiadau o ran nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân i weithwyr sy'n oedolion a'r cyfleusterau parcio ceir. 

16.3 Sicrhau bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod os oes newidiadau i'r oriau gweithredu neu os caeir y gwasanaeth yn barhaol. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 17: yr amgylchedd

Llais y plentyn

Dw i'n chwarae mewn gofod sy'n ddiogel, yn ddiddorol, ac yn rhoi llawer o ddewis imi.

Deilliant lles

Bod plant yn cael mynediad at amgylcheddau diogel, sy'n eu symbylu, dan do ac yn yr awyr agored, gan eu cefnogi i archwilio, symud, bod yn greadigol a chwarae.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau: 

17.1 Bod y lleoliad yn groesawgar ac yn gyfeillgar i'r plant a'r rhieni a'i fod yn darparu amgylchedd cyfoethog ar gyfer chwarae. 

17.2 Bod yr amgylchedd ffisegol (dan do ac yn yr awyr agored) yn ddiogel ac yn addas i'r diben. Bod y ddarpariaeth yn rhoi digon o le, mewn lleoliad priodol, ei bod yn groesawgar i'r plant, ac yn eu galluogi i gael gafael ar y cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau sy'n hyrwyddo'u chwarae.

17.3 Bod y mannau chwarae yn ddigon mawr i roi lle i'r plant symud yn rhydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

17.4 Bod gofod ar wahân ar gael i blant sydd eisiau ymlacio neu chwarae'n dawel.

17.5 Bod nifer y plant sy'n derbyn gofal mewn ardal awyr agored yn ystyriaeth glir mewn asesiad risg. Dylai'r asesiad risg nodi faint o blant y gellir gofalu amdanynt yn ddiogel ar unrhyw adeg.

17.6 Mewn sefyllfa eithriadol, os nad oes modd darparu man chwarae awyr agored, yr eir â'r plant yn ddiogel i barciau neu feysydd chwarae lleol, neu rywle tebyg, yn rheolaidd. 

17.7 Bod cynllun gweithredol y gwasanaethau yn nodi'n glir sut y caiff y man chwarae ei ddefnyddio i ddarparu gweithgareddau ar gyfer grwpiau o blant a sut y caiff staff eu defnyddio.

17.8 Bod y lle canlynol, o leiaf, ar gael i bob plentyn yn y man chwarae dan do mewn darpariaeth chwarae mynediad agored: 

  • 3 i 12 oed: 2.3 metr sgwâr.

17.9 Wrth gyfrifo'r lle gofynnol mewn gofod dan do, nad yw'r cyfrifo yn cynnwys toiledau, mannau storio, tramwyfeydd, ardaloedd staff pwrpasol, ystafelloedd cotiau, ystafelloedd adnoddau, na cheginau. 

17.10 Bod mangreoedd dan do sy'n rhan o'r ddarpariaeth yn lân, wedi'u goleuo'n dda â golau naturiol digonol, wedi'u hawyru'n ddigonol, wedi'u cynnal a'u cadw mewn cyflwr da ac wedi'u haddurno'n briodol. 

17.11 Bod ffôn ar gael. 

17.12 Yn unol â'r gwasanaeth a ddarperir, bod trefniadau addas i ddefnyddio toiledau a chyfleusterau golchi dwylo.

17.13 Bod trefniadau ar gyfer cadw gwybodaeth gyfrinachol a chofnodion angenrheidiol yn ddiogel, a lle i staff gael siarad â rhieni yn breifat.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 18: cyfarpar

Llais y plentyn

Mae yna bethau i chwarae gyda nhw sy'n ddiogel, yn hwyl ac yn fy helpu i ddefnyddio fy nychymyg.

Deilliant lles

Bod plant yn mwynhau adnoddau penagored, diddorol sy'n ysbrydoli chwarae, dychymyg ac arbrofi.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau: 

18.1 Bod dodrefn, cyfarpar a theganau yn cael eu darparu sy'n briodol i'r diben ac sy'n helpu i greu amgylchedd hygyrch sy'n ysgogi'r plant. Eu bod o ddyluniad a chyflwr addas, yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Teganau (Diogelwch) perthnasol lle bo'n gymwys. 

18.2 Bod digon o deganau a deunyddiau chwarae addas ar gael er mwyn darparu gweithgareddau sy’n ysgogi’r plant a chyfleoedd chwarae ym mhob maes chwarae. Rhaid i'r rhain fod yn briodol ar gyfer oedrannau ac anghenion datblygu unigol y plant sy'n mynychu, a rhaid iddynt hyrwyddo eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol a chyfleoedd cyfartal.

18.3 Os defnyddir mannau chwarae cyhoeddus, nad yw'r plant yn defnyddio cyfarpar diffygiol. Eu bod o ddyluniad a chyflwr addas ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda. 

18.4 Y rhoddir ystyriaeth i ddiogelwch plant wrth ymgymryd â gweithgareddau, gan gynnwys cyfarpar ychwanegol y gallai fod ei angen e.e. ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chwaraeon. Bod digon o offer achub bywyd a chymorth hynofedd ar gael pan gynhelir chwaraeon dŵr.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Safon 19: diogelwch

Llais y plentyn

Mae staff yn gwirio'r gofod fel y galla i archwilio, cymryd risgiau, a chwarae heb beryglon diangen.

Deilliant lles

Bod plant yn cael gofal a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mewn amgylchedd diogel, gan ddefnyddio dull o gydbwyso budd a risg i hyrwyddo annibyniaeth a gwerth chwarae.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau: 

Hyrwyddo diogelwch a rheoli risgiau 

19.1 Bod diogelwch yn cael ei hyrwyddo yn y lleoliad ac ar dripiau, ac y cymerir y camau priodol i osgoi damweiniau.

19.2 Bod cyn lleied â phosibl o beryglon i blant yn y fangre, dan do ac yn yr awyr agored. Y cydymffurfir â rheoliadau iechyd a diogelwch, a bod y staff wedi'u hyfforddi i ddeall y gofynion iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd y maent yn gweithio ynddo. 

19.3 Bod asesiad risg o'r fangre wedi'i gynnal ac yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn, ac os oes unrhyw newidiadau yn y fangre neu o ran anghenion y plant. Rhaid llunio cynllun gweithredu, ynghyd ag amserlenni, er mwyn nodi'r camau i'w cymryd i leihau peryglon penodol a nodwyd yn yr asesiad risg. 

19.4 Bod rheoli risg gweithgareddau unigol, y man chwarae a chyfleoedd chwarae yn cydbwyso perygl niwed â’r manteision i'r plentyn, er enghraifft, o ran ehangu eu gwybodaeth am y byd a datblygu sgiliau a lles corfforol neu emosiynol. Bod system ar waith ar gyfer rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â phyllau dŵr, draeniau neu unrhyw ddŵr naturiol, fel eu bod yn ddiogel i blant.

19.5 Bod y plant yn cael eu goruchwylio bob amser, a bod gofal ychwanegol yn cael ei gymryd yn ystod gweithgareddau a all fod yn weddol beryglus. 

19.6 Bod system wedi'i sefydlu i reoli mynediad i'r fangre a bod cofnod o ymwelwyr yn cael ei gadw. 

19.7 Bod y gwydr sydd wedi'i osod ar unrhyw ddrws yn wydr diogelwch neu ei fod wedi'i orchuddio â ffilm blastig warchod. 

19.8 Nad oes unrhyw blanhigion gwenwynig neu beryglus y tu mewn lle mae sesiynau chwarae mynediad agored yn cael eu darparu. Dylai planhigion gwenwynig neu beryglus y tu allan fod y tu hwnt i gyrraedd plant.

19.9 Bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol wedi'i drefnu. 

19.10 Mewn darpariaeth sy'n gweithredu mewn parciau cyhoeddus neu fannau cyhoeddus eraill, nad yw'n bosibl i'r cyhoedd niweidio'r plant ac nad ydynt yn denu sylw nad yw’r plentyn ei eisiau. 

Risg tân 

19.11 Bod asesiad risg tân cynhwysfawr yn cael ei gynnal yn rheolaidd ar gyfer y fangre, a gynhelir gan berson cymwys (person sydd â'r sgiliau a'r profiad perthnasol i gynnal asesiad risg tân ar gyfer y fangre dan sylw); gweler Dewis aseswr risg tân cymwys. Bod yr asesiad yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a'i gynnal o'r newydd os oes angen, neu yn dilyn unrhyw newidiadau i'r fangre neu o ran anghenion y plant, a allai newid y risg o dân yn sylweddol. 

19.12 Y cymerir camau digonol i leihau risgiau tân, ac y cydymffurfir ag unrhyw argymhellion gan y Gwasanaeth Tân ac Achub. 

19.13 Bod pob darparwr mewn mangre annomestig yn cydymffurfio â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, a’r canllawiau statudol sy’n cyd-fynd â’r gorchymyn hwnnw. Mae'r canllawiau statudol ar ddiogelwch tân ar gyfer mangreoedd annomestig bach yma: Canllawiau i ddiogelu eich eiddo annomestig bach rhag tân

19.14 Lle bo hynny’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth berthnasol, fod cyfarpar a gosodiadau nwy a thrydanol a rhai sy'n llosgi olew a glo, gan gynnwys systemau gwres canolog a thanau, yn cael eu gwirio’n rheolaidd ac yn ffurfiol gan dechnegydd sydd wedi’i gymeradwyo. Dylai cyfarpar o’r fath gydymffurfio â gofynion diogelwch, dylai gael ei warchod yn briodol ac ni ddylai achosi perygl i blant. Rhaid sicrhau bod tystysgrifau priodol yn cael eu cadw a’u bod ar gael i'w harchwilio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

19.15 Bod gweithdrefnau clir, sy'n hysbys i'r holl staff, ar gyfer gwacáu unrhyw fangre mewn argyfwng, ac sy'n cynnwys darpariaeth briodol ar gyfer symud staff neu blant anabl. Rhaid cynnal ymarferion tân o leiaf unwaith bob 6 mis, gan gydnabod bod plant ifanc yn elwa ar ymarferion mwy rheolaidd. Rhaid cadw cofnodion mewn llyfr log ar gyfer tanau, a gaiff eu gwirio gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, a rhaid cael tystysgrifau diogelwch fel y bo angen. 

19.16 Bod ffyrdd addas o ddianc i staff a phlant o bob llawr, gan gynnwys staff a phlant anabl.

19.17 Nad yw drysau tân wedi'u rhwystro nac yn cael eu cadw ar agor; a bod allanfeydd tân wedi'u nodi'n glir, yn hawdd eu hagor o'r tu mewn heb allwedd, ac yn arwain at le diogel awyr agored sy'n hygyrch i'r gwasanaethau brys. 

19.18 Bod larymau mwg neu wres, sy'n cydymffurfio â safon Brydeinig 5839, ar gael fel y bo angen. Mae hyn yn cynnwys o leiaf un larwm mwg neu wres ar bob llawr, yn y brif ardal ganolog (hy y cyntedd neu ar ben y grisiau). Bod larwm carbon monocsid yn cael ei osod hefyd ym mhob ystafell lle mae dyfais yn llosgi nwy, olew neu danwydd solet. Rhaid archwilio'r rhain mor rheolaidd ag y nodir gan y gwneuthurwr, a'u cadw mewn cyflwr da.

19.19 Os oes cegin yn y fangre a ddefnyddir i goginio bwyd, mai dim ond staff nad oes ganddynt gyfrifoldeb darparu gofal ar y pryd sy'n ei defnyddio. Os caniateir plant i mewn i'r gegin, y cânt eu goruchwylio gan staff nad oes ganddynt gyfrifoldeb coginio bwyd ar y pryd.

19.20 Pan fydd gwasanaethau allan yn y gymuned ac yn ymgymryd â gweithgareddau tân, bod rhaid bod ganddynt yr adnoddau i ddiffodd y tân.

19.22 Na chaniateir smygu mewn unrhyw ran dan do o'r fangre, yn yr ardal(oedd) chwarae awyr agored (d)dynodedig, nac mewn unrhyw ardal lle darperir sesiynau chwarae mynediad agored. Rhaid cadw unrhyw ddeunyddiau smygu a fepio y tu hwnt i gyrraedd plant bob amser.

Cludiant

19.23 Bod gweithdrefn wedi'i sefydlu ar gyfer sicrhau diogelwch yn ystod unrhyw dripiau. Rhaid cadw cofnodion ynglŷn â pha gerbydau a ddefnyddir i gludo plant, gan gynnwys manylion yr yswiriant a rhestr o yrwyr dynodedig. 

19.24 Bod gan y gyrwyr sy'n defnyddio eu cerbyd eu hunain drwydded yrru ddilys, trwydded ar gyfer y cerbyd, yr yswiriant priodol, ac os oes angen, dystysgrif MOT gyfredol. 

19.25 Bod seddi sy'n briodol i oedran, pwysau a thaldra'r plentyn yn cael eu defnyddio wrth gludo plant mewn cerbyd. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa a Trosolwg

Atodiad a: canllawiau cymorth cyntaf y safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig

Mae'r canllawiau hyn yn rhan bwysig o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed. Maent yn darparu arweiniad a chyngor i alluogi personau cofrestredig a'u staff i fodloni’r gofynion cymorth cyntaf a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn pennu'r gofynion sylfaenol ar gyfer Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn lleoliadau gofal plant a chwarae cofrestredig. Mae darparwyr gofal plant yn gyfrifol am ddod o hyd i ddarparwr hyfforddiant cymwys i gyflwyno eu hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig. Yn achos Cymorth Cyntaf Pediatrig, nid ydym yn nodi cwrs neu gorff dyfarnu penodol i ddarparwyr eu defnyddio, gan y bydd hyn yn amrywio ledled Cymru. Fodd bynnag, darperir cyngor i helpu darparwyr i ddewis cwrs, a bydd angen iddynt sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn, anghenion y lleoliad a'r rhai sy'n ei ddefnyddio. 

Gwyddom fod llawer o leoliadau gofal plant a chwarae yn awyddus i sicrhau bod cynifer o’u staff â phosibl wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf. Bydd annog mwy o staff i gwblhau'r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig llawn yn rhoi mwy o dawelwch meddwl i rieni/gofalwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac yn helpu i sicrhau bod staff â chymwysterau addas ar gael bob amser i gyflenwi pan fydd staff yn absennol yn ddirybudd. Bydd cynyddu nifer y staff sydd wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig hefyd yn codi hyder ynghylch diogelwch, a gallai leihau'r tebygolrwydd o ddamweiniau yn ymwneud â’r plant.

Rydym hefyd yn annog lleoliadau i ystyried nifer y plant a’r staff a chynllun y fangre er mwyn sicrhau bod swyddog cymorth cyntaf pediatrig yn gallu ymateb i argyfyngau'n gyflym.

Dylai darparwyr arddangos tystysgrifau Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn/Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng y staff mewn lle amlwg, neu restr o staff sydd â thystysgrifau cyfredol mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig/Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng (neu sicrhau eu bod ar gael i rieni). 

Dylai darparwyr ystyried a oes angen i swyddogion cymorth cyntaf pediatrig ymgymryd â hyfforddiant gloywi blynyddol, yn ystod unrhyw gyfnod ardystio o dair blynedd i helpu i gynnal eu sgiliau sylfaenol a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i weithdrefnau Cymorth Cyntaf Pediatrig. 

Egwyddorion cyrsiau Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng a Llawn:

  • Mae’r hyfforddiant wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr sy'n gofalu am blant yn absenoldeb eu rhieni/gofalwyr ac mae'n briodol i oedran y plant sy'n derbyn gofal. 
  • Rhaid darparu digon o offer dadebru ac offer arall, gan gynnwys modelau o fabanod a phlant, fel bod yr holl hyfforddeion yn gallu ymarfer a dangos technegau. 
  • Yn dilyn hyfforddiant, mae asesiad o gymhwysedd yn arwain at ddyfarnu tystysgrif. 
  • Rhaid adnewyddu'r dystysgrif bob tair blynedd. 

Dylid dilyn y cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng wyneb yn wyneb a dylai bara am o leiaf 6 awr (heb gynnwys seibiannau) a chwmpasu’r meysydd canlynol:

  • gallu asesu argyfwng a blaenoriaethu’r camau i'w cymryd 
  • helpu plentyn nad yw’n ymateb ond sy’n anadlu’n arferol 
  • helpu plentyn nad yw’n ymateb ac nad yw'n anadlu’n arferol
  • helpu plentyn sy'n cael ffit 
  • helpu plentyn sy'n tagu 
  • helpu plentyn sy'n gwaedu 
  • helpu plentyn sy'n dioddef o sioc yn sgil colli llawer o waed (sioc hypofolemig)

Dylai'r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig llawn bara o leiaf 12 awr (heb gynnwys seibiannau) a chynnwys yr elfennau a restrir isod yn ogystal â'r meysydd a nodir ym mharagraff 5 (dylid cyflwyno'r elfennau o’r hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng a amlinellir ym mharagraff 5 wyneb yn wyneb).

  • Helpu plentyn sy'n dioddef o sioc anaffylactig.
  • Helpu plentyn sydd wedi cael sioc drydanol.
  • Helpu plentyn sydd â llosgiadau neu sgaldiadau. 
  • Helpu plentyn yr amheuir ei fod wedi torri asgwrn. 
  • Helpu plentyn sydd ag anafiadau i'w ben, ei wddf neu ei gefn. 
  • Helpu plentyn yr amheuir ei fod wedi'i wenwyno. 
  • Helpu plentyn sydd â rhywbeth estron yn ei lygad, ei glust neu ei drwyn. 
  • Helpu plentyn sydd ag anaf i'w lygad. 
  • Helpu plentyn sydd wedi’i gnoi neu ei bigo. 
  • Helpu plentyn sy'n dioddef o effeithiau gwres neu oerfel eithafol. 
  • Helpu plentyn sy’n dioddef: argyfwng diabetig; pwl asthma; adwaith alergaidd; llid yr ymennydd; a/neu ffitiau twymyn.
  • Deall rôl a chyfrifoldebau'r swyddog cymorth cyntaf pediatrig (gan gynnwys yr hyn a ddylai fod mewn blwch cymorth cyntaf a'r angen i gofnodi damweiniau a digwyddiadau). 

Lluniwyd yr egwyddorion uchod i adlewyrchu’r rhannau perthnasol o gynnwys Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ac fe’u seiliwyd ar y canllawiau yr arferai’r Awdurdod eu rhoi i ddarparwyr hyfforddiant pan oeddent yn rheoleiddio darparwyr hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yn uniongyrchol. 

Mae wyneb yn wyneb yn golygu bod yr hyfforddwyr yn bresennol yn gorfforol gyda'u hyfforddeion. Mae hyn yn golygu na cheir cynnal y sesiynau hyfforddi penodol hyn ar-lein.

Cynulleidfa a Trosolwg

Atodiad b: canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad cofrestredig

Cyflwyniad 

Mae'r canllawiau canlynol yn cefnogi Safon 7 Gofal iechyd (yn benodol, Safonau 7.1 i 7.5) a Safon 8 Meddyginiaeth. Maent yn ymdrin â rhoi parasetamol hylifol yn achlysurol i blant os ydynt yn mynd yn sâl iawn yn ystod eu hamser yn eich lleoliad. 

Rhaid amddiffyn iechyd a lles plant bob amser ac mae'n ofyniad rheoliadol. 

Ni ddylid caniatáu i blant sydd eisoes yn sâl, sydd â thymheredd uchel neu sy'n heintus ddod i'r lleoliad. Mae'r rheol hon yn ei lle er mwyn diogelu iechyd plant eraill a staff (gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed). 

Rhaid i leoliadau cofrestredig barhau i ddilyn Safon 7.2 Gofal iechyd sy'n nodi:

Na dderbynnir unrhyw blentyn os ymddengys ei fod yn sâl. Os bydd plant yn mynd yn sâl yn ystod eu hamser yn y lleoliad, y cymerir gofal i atal heintio plant eraill ac y rhoddir gwybod i'r rhieni/gofalwyr cyn gynted â phosibl.

Mae Safon 7.2 yn ymwneud ag achlysuron pan fydd plant yn yn mynd yn sâl iawn, yn enwedig os ydynt mewn perygl o gael ffitiau, os oes ganddynt dymheredd uchel neu os ydynt yn heintus. Nid yw hyn yr un peth â phlentyn sy'n torri dannedd neu ag annwyd cyffredin arno neu beswch. 

Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod plentyn yn well ar ôl cael parasetamol hylifol, a dylai rhiant/gofalwr gasglu'r plentyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r plentyn fynd yn sâl.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu canllawiau ymarferol a gwybodaeth gynhwysfawr i ddarparwyr gofal plant ar reoli achosion o glefydau heintus mewn lleoliadau plant a phobl ifanc. Mae gwybodaeth i rieni ar gael ar wefan y GIG ar sut i wneud asesiad a phenderfynu a ddylai eu plentyn fynd i leoliad gofal plant neu'r ysgol. A yw fy mhlentyn yn rhy sâl i fynd i'r ysgol?

Gall plant a chanddynt symptomau anadlol ysgafn fel trwyn yn rhedeg, dolur gwddf, neu beswch bach, ond sy'n iach fel arall ac sydd heb dymheredd uchel, barhau i fynd i'w lleoliad gofal dydd. 

Mae gweinyddu parasetamol hylifol yn rhywbeth i'w gadw ar gyfer sefyllfaoedd brys pan fo'n anymarferol i rieni/gofalwyr plentyn gasglu'r plentyn yn brydlon, a dim ond pan ddilynir y canllawiau isod.

Canllawiau i leoliadau cofrestredig ar gael gafael ar barasetamol hylifol, ei storio a'i weinyddu gan sicrhau bod yr amodau cyffredinol canlynol a'r amodau penodol sy'n ymwneud â pharasetamol hylifol yn cael eu bodloni:

Amodau cyffredinol

  • Bod gan y lleoliad cofrestredig bolisi meddyginiaeth sy'n disgrifio'r amgylchiadau lle gellir gweinyddu parasetamol hylifol i blentyn sy'n dod i'r lleoliad. 
  • Bod y polisi meddyginiaeth wedi cael ei rannu gyda'r rhiant/gofalwr a'i fod yn nodi'r trefniadau a'r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi gweinyddu meddyginiaeth ar bresgripsiwn a heb fod ar bresgripsiwn yn ddiogel, gan gynnwys pan fo angen brys tra bo plentyn yn derbyn gofal yn y lleoliad cofrestredig, er enghraifft, os bydd gan blentyn dymheredd uchel; a
  • Bod rhieni/gofalwyr y plentyn wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i'r lleoliad cofrestredig weinyddu parasetamol hylifol i'r plentyn perthnasol o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y polisi meddyginiaeth.
  • Lle bynnag y bo modd, bydd rhieni/gofalwyr y plentyn yn rhoi caniatâd llafar ar gyfer pob achlysur dilynol pan fydd parasetamol hylifol yn cael ei weinyddu.

Yr amodau sy'n ymwneud â phob tro y gweinyddir parasetamol hylifol

Mewn sefyllfa pan fo plentyn yn mynd yn sâl tra bo yn y lleoliad cofrestredig, y peth mwyaf priodol yw i'r plentyn gael ei gasglu gan riant neu ofalwr. 

Fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle mae rhieni wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw ac nad ydynt yn gallu casglu eu plentyn ar unwaith, byddai'n briodol rhoi parasetamol hylifol ar yr achlysuron canlynol, gan ddilyn yr amodau a amlinellwyd:

Achlysur 1: cysylltwyd â rhiant neu ofalwr y plentyn, ond ni ellir casglu'r plentyn yn syth:

  • mae rhiant neu ofalwr y plentyn wedi rhoi caniatâd llafar i'r dos o barasetamol gael ei roi
  • dim ond os oes cyfnod o 4 awr o leiaf wedi mynd heibio ers rhoi'r dos diwethaf o barasetamol i'r plentyn, ceir rhoi parasetamol hylifol
  • mae'r rhiant neu'r gofalwr wedi trefnu i gasglu'r plentyn o'r lleoliad cofrestredig cyn gynted ag y bo'n ymarferol

Achlysur 2: mae'r lleoliad cofrestredig wedi ceisio cysylltu â rhiant neu ofalwr y plentyn, ond ni ellir cysylltu â nhw:

  • rhaid i'r lleoliad cofrestredig gysylltu â GIG 111, ac mae gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (yn GIG 111) wedi cynghori y byddai'n briodol rhoi dos o barasetamol hylifol
  • yn dilyn hynny, dylai'r lleoliad cofrestredig gysylltu â rhiant neu ofalwr y plentyn i drefnu i'r plentyn gael ei gasglu o'r lleoliad cofrestredig cyn gynted â phosibl/cyn gynted ag y bo'n ymarferol

Storio, gweinyddu a chadw cofnodion

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod darparwyr cofrestredig yn cael gafael ar barasetamol hylifol, ei storio a'i weinyddu o dan yr amgylchiadau cyfyngedig a ddisgrifir yn y canllawiau hyn. 

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell defnyddio pecynnau o barasetamol di-siwgr fel meddyginiaeth hylifol, a phob un yn cynnwys 120mg o barasetamol ym mhob 5mL oherwydd eu bod yn haws eu storio, bod ganddynt labeli yn nodi'r dyddiad pan fydd y cynnwys heibio ei orau, a'u bod yn lleihau'r posibilrwydd o groeshalogi rhwng plant. 

Mae parasetamol hylifol di-siwgr ar gael mewn poteli a phecynnau. Mae pecynnau yn rhoi'r dos cywir ar gyfer rhai plant pan ddefnyddir un neu fwy nag un pecyn, heb fod angen llwy fesur neu chwistrell geg. Fodd bynnag, i rai plant byddai angen defnyddio rhan o becyn. Dylai darparwyr cofrestredig benderfynu ar y ffurf fwyaf priodol o barasetamol hylifol di-siwgr ar gyfer eu lleoliad. Pan ddefnyddir poteli o barasetamol hylifol sy'n cynnwys dosau lluosog, dylai fod gan ddarparwyr cofrestredig drefniadau gofalus ar waith rhag croeshalogi ac i fesur dos yn gywir. Dylai'r rhain gael eu dogfennu a'u gweithredu gan y rheolwr neu'r person â chyfrifoldeb am weinyddu meddyginiaeth. 

Mae angen hefyd i unrhyw un sy'n gyfrifol am weinyddu meddyginiaeth fod wedi cael gwybodaeth am bwysigrwydd dilyn unrhyw gyfarwyddiadau wrth ei defnyddio, fel ysgwyd y botel yn dda cyn ei hagor (er mwyn sicrhau'r dos cywir).

Gellir cael cyngor ar brynu parasetamol hylifol o unrhyw fferyllfa.

Rhaid i'r lleoliad cofrestredig sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer storio a gweinyddu dosau o barasetamol hylifol yn ddiogel, a chadw cofnodion o'r dosau hynny yn unol â'r polisi meddyginiaeth. 

Rhaid gwirio'n rheolaidd y dyddiadau pan fydd pob meddyginiaeth sydd wedi'i storio heibio ei gorau (o leiaf bob tri mis), a chyn gweinyddu pob dos.

Rhaid cofnodi pob dos o barasetamol hylifol a weinyddir i blentyn mewn lleoliad cofrestredig, gan ddilyn y canllawiau hyn, ar adeg ei weinyddu. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofal dydd gadw cofnod ysgrifenedig a hysbysu'r rhiant wrth iddo gasglu'r plentyn.

Rhaid cofnodi pob dos o barasetamol hylifol a weinyddir i blentyn mewn lleoliad cofrestredig, gan ddilyn y canllawiau hyn, ar adeg ei weinyddu. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofal dydd gadw cofnod ysgrifenedig a hysbysu'r rhiant wrth iddo gasglu'r plentyn.

Cynulleidfa a Trosolwg

Atodiad C: Canllawiau Diogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol: Rolau a Chyfrifoldebau

Mae'r Canllawiau hyn yn rhoi manylion am hyfforddiant diogelu sy'n briodol i wahanol rolau yn y sector gofal plant a gwaith chwarae. 

Grŵp A (Lefel 1) – Ymwybyddiaeth o Ddiogelu 

Mae cyrsiau Grŵp A (Lefel 1) – Ymwybyddiaeth o Ddiogelu yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddiogelu plant. Maent yn disgrifio'r mathau gwahanol o gam-drin, sut i'w hadnabod, a sut i ymateb i bryderon. Maent hefyd yn esbonio sut i roi gwybod am bryderon yn y ffordd iawn.

Dylai'r hyfforddiant gorfodol hwn fod yn rhan o broses sefydlu pob aelod o staff a gyflogir. 

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer 

Cyflogeion a fydd o bosibl, ond nid o reidrwydd, yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, ond a fydd o bosibl yn gweithio mewn adeilad lle mae yna ddarpariaeth gofal dydd; neu aelodau o Fwrdd / Pwyllgor sy'n cefnogi darpariaeth gofal dydd.

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn): 

  • Gofalwyr/ Glanhawyr/ Cogyddion 
  • Aelodau o'r Pwyllgor nad ydynt yn gweithio 
  • Ysgrifenyddion/ Gweinyddwyr/ Derbynyddion 
  • Gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth. Os cânt eu gadael ar eu pen eu hunain gyda phlant, byddai hyfforddiant Grŵp B yn fwy priodol.)
  • Gweithwyr chwarae mynediad agored tymhorol - Argymhellir dilyn modiwl E-ddysgu Diogelu Gofal Cymdeithasol Cymru (1 awr)

Math o gwrs ac ystyriaethau: 

  • Cwrs ar-lein – Grŵp A - Diogelu drwy wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Hyd: Hyd at 2-3 awr
  • Argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant bob 3 blynedd (fel y nodir yn y Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu)

Grŵp B (Lefel 2) – Cwrs Diogelu Canolradd 

Mae cyrsiau Diogelu Plant lefel ganolradd yn helpu i gynyddu’r wybodaeth am ddiogelu sydd gan unigolion eisoes, ac yn addysgu mwy am yr hyn y mae’r broses ddiogelu yn ei olygu. Mae'r cwrs yn dangos sut i adnabod camdriniaeth a rhoi gwybod am bryderon, ac mae’n gyfle i ddysgu mwy am y strwythur diogelu, adnabod risgiau a beth sy'n digwydd ar ôl creu adroddiad. 

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer: 

Gweithwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant. 

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn): 

  • Gweithwyr chwarae
  • Gyrwyr
  • Gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth)

Math o gwrs ac ystyriaethau: 

  • Cwrs wyneb yn wyneb, lle bo'n bosibl, neu ddysgu cyfunol.
  • Hyd: 4-6 awr/1 diwrnod/2 sesiwn gyda'r nos 

Argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant yn unol â'r Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu 

Grŵp C (Lefel 3) – Cwrs Diogelu Uwch 

Mae cyrsiau Diogelu lefel uwch yn addysgu mwy am yr hyn y mae'r rôl yn ei olygu, ac yn help i ddeall y broses ddiogelu yn fanylach. Mae'r cwrs yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau ysgrifenedig ac ymarferion rhyngweithiol i helpu i adolygu a datblygu'r gweithdrefnau diogelu yn y lleoliad a sicrhau bod pob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau tuag at ddiogelu plant. Yn cynnwys pynciau sy'n ymwneud â honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ddelio â'r rhain, deall deddfwriaeth a chanllawiau allweddol sy'n sail i bolisi lleoliadau ynghylch diogelwch a lles plant, rolau i'w cyflawni yn y broses amddiffyn plant ar lefel amlasiantaethol gan gynnwys cynadleddau achos a darparu adroddiadau ysgrifenedig. 

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer:

Y rhai sydd mewn cysylltiad â phlant ac sy'n gyfrifol yn y pen draw am gwestiwn diogelu o fewn y ddarpariaeth. Bydd angen i'r ymarferwyr hyn fod â'r holl wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch safonau grwpiau A a B.

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn): 

Ar y safle

  • Rheolwr Gwaith Chwarae
  • Arweinydd y lleoliad 
  • Y person â chyfrifoldeb 

Oddi ar y safle o bosibl 

  • Y person diogelu dynodedig 
  • Unigolion cyfrifol 
  • Y person cofrestredig 

Math o gwrs ac ystyriaethau: 

Cwrs wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl 

Hyd: 2 ddiwrnod 

Argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant yn unol â'r Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu
 
Y person diogelu dynodedig - Defnyddir y term hwn drwy gydol y Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu. Y person diogelu dynodedig yw "y person a nodwyd yn y sefydliad sydd ar gael i drafod pryderon diogelu." Dylid ymgynghori â nhw ynghylch p’un a ddylid codi pryder yn ymwneud â diogelu gyda'r awdurdod lleol, a bydd yn rheoli unrhyw gamau gweithredu y mae angen eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod yr unigolyn sydd mewn perygl yn ddiogel rhag cael ei gam-drin. Dylai pob ymarferydd wybod â phwy yn eu lleoliad i gysylltu am gyngor, ac ni ddylent oedi cyn trafod eu pryderon, ni waeth pa mor ddibwys y maent yn ymddangos.

Yr arweinwyr diogelu dynodedig yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau staff, teuluoedd, gofalwyr a phobl eraill sydd â mynediad at leoliadau, ac felly mae'n hanfodol bod yr wybodaeth am weithdrefnau amddiffyn plant yn fanwl ac yn gyfredol.

Mwy o Arweiniad a Help 

Mae rhagor o wybodaeth am hyfforddiant Diogelu ar gael i ddarparwyr o’r ffynonellau canlynol: 

Sicrhewch fod y cwrs diogelu yr ydych yn cofrestru ar ei gyfer yn adlewyrchu arferion a gweithdrefnau Cymru, nid Lloegr – h.y. ei fod yn adlewyrchu Gweithdrefnau Diogelu Cymru. 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu cwrs Diogelu Grŵp A.

Defnyddir y term 'ymarferwyr' drwy gydol y Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu. Defnyddiwyd hwn fel term cyffredinol i ddisgrifio unrhyw un sydd mewn cyflogaeth â thâl yn ogystal â gwirfoddolwyr di-dâl.

Cynulleidfa a Trosolwg

Geirfa

 

Term Diffiniad
Anghenion cymorth ychwanegol Mae anghenion cymorth ychwanegol yn cyfeirio at y gefnogaeth ychwanegol neu wahanol y gall fod ei hangen ar blentyn neu berson ifanc ar unrhyw adeg i chwarae, cymryd rhan, dysgu, datblygu, a ffynnu ochr yn ochr â'u cyfoedion.
Anghenion Dysgu Ychwanegol Plant a phobl ifanc anabl neu ag anawsterau dysgu sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu.
Arolygiaeth Gofal CymruY corff rheoleiddio sy’n gyfrifol am sicrhau bod rheoliadau gofal plant a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn cael eu bodloni – mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.
Asesu Risg-BuddProses asesu risg er mwyn penderfynu a yw manteision gweithgaredd penodol yn gorbwyso'r risg o niwed.
Asiantaeth Safonau Bwyd Sefydliad sy’n diogelu iechyd y cyhoedd ac yn amddiffyn buddiannau cwsmeriaid mewn perthynas â bwyd.
Awdurdod Gweithredol Iechyd a DiogelwchY rheoleiddiwr cenedlaethol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Blynyddoedd CynnarYn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru, y cyfnod rhwng 0 a 7 oed ym mywyd plentyn.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r PlentynMae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy'n nodi hawliau plant. Y rhesymeg dros CCUHP yw bod angen ystyriaeth benodol ar hawliau plant oherwydd y gofal a’r amddiffyniad arbennig y mae plant a phobl ifanc yn aml eu hangen. Mae'n rhestr o hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc.
Cwlwm 

Consortiwm o bum partner gofal plant a chwarae, sy’n cefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae drwy gynnig arweiniad ac aelodaeth, gan annog lleoliadau cynaliadwy o safon. Y partneriaid yw:

Mudiad Meithrin sy'n arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar; 

Coram PACEY Cymru sy'n hyrwyddo arfer gorau ac yn cefnogi gwarchodwyr plant; 

Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru (NDNA Cymru) sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant penodol ar redeg meithrinfa yng Nghymru;

Blynyddoedd Cynnar Cymru sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi gofal cyn-ysgol, addysg a darpariaeth dysgu drwy chwarae dwyieithog ledled Cymru; 

Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs (CPCKC) sy'n helpu cymunedau yng Nghymru drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol sy'n fforddiadwy, yn hygyrch ac o safon uchel.

Cymdeithas anghorfforedigCymdeithas nad oes ganddi bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân i'w haelodau.
ChwaraeYmddygiadau, gweithgareddau neu brosesau a gaiff eu hysgogi, eu rheoli a'u strwythuro gan blant yn wirfoddol, ar sail cymhelliad y plentyn, yn hytrach nag er mwyn cyflawni rhywbeth, ac sy'n cynnwys nodweddion allweddol sbort a sbri, ansicrwydd, her a hyblygrwydd, heb arwain at gynhyrchiant.
Chwarae CymruElusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant sy’n darparu cyngor ac arweiniad i helpu pawb sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb dros ddarpariaeth chwarae plant.
Chwarae o SafonChwarae o Safon yw marc ansawdd gwaith chwarae Chwarae Cymru. Y bwriad yw defnyddio Chwarae o Safon mewn lleoliadau gwaith chwarae heb eu rheoleiddio, yn ogystal â lleoliadau a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae hefyd yn berthnasol i'r rhai sy'n ymwneud â gwaith chwarae mewn lleoliadau nad ydynt yn benodol ar gyfer gwaith chwarae.
Darpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod CynnarMae hyn yn cyfeirio at y ddarpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a ddarperir gan y lleoliad gofal plant neu chwarae neu'r addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol. Dyma'r ddarpariaeth i fabanod a phlant bach 0-5 oed. 
Datganiad o ddiben Datganiad y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i bob darparwr gofal plant cofrestredig ei lunio. Rhaid i’r datganiad gynnwys yr holl wybodaeth o dan Reoliad 15 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 am nodau ac amcanion y gwasanaeth a ddarperir i blant o dan ofal y person cofrestredig, ynghyd â materion perthnasol eraill.
Deddf Cydraddoldeb 2010Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu fframwaith cyfreithiol i amddiffyn pobl rhag achosion o wahaniaethu yn y gweithle ac mewn cymdeithas yn ehangach.

Diogel 

 

Mor ddiogel ag y bo'n rhesymol ymarferol mewn man cyhoeddus agored. Caiff hyn ei reoli drwy asesu’r risg a’r budd a chynnal cofnodion ymwelwyr.
Dull gweithredu sy’n ystyriol o drawmaDull gweithredu sy'n cydnabod bod gan bawb rôl i'w chwarae wrth hwyluso cyfleoedd i bobl sydd wedi profi trawma ac adfyd. Mae’n ddull lle mae unigolyn, sefydliad, rhaglen neu system yn sylweddoli effaith eang trawma ac yn deall llwybrau posibl ar gyfer gwella a goresgyn adfyd a thrawma fel unigolyn neu gyda chefnogaeth pobl eraill, gan gynnwys cymunedau a gwasanaethau.
Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol (DARPL)Mae DARPL yn dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr sydd â phrofiad bywyd a phrofiad proffesiynol. Mae’n cefnogi dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth gwrth-hiliol ar gyfer gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar drwy ganolfan ddysgu ac adnoddau.
Eithriadau (Wedi’u heithrio rhag gorfod cofrestru)Lleoliadau sydd yn yr amgylchiadau a nodir yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, ac nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Gofal Cymdeithasol Cymru 

 

Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r corff rheoleiddio ar gyfer gofal cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu gweithlu’r sector gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar gymryd camau i feithrin hyder, ceisio gwelliant a helpu i ddatblygu’r gweithlu. Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n cynnal y fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal plant, gan bennu’r cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym meysydd y blynyddoedd cynnar a gofal plant. 
Gofal dydd a reoleiddirMae darpariaeth gofal dydd a reoleiddir yn cwmpasu ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth sy’n ddarostyngedig i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gofynion cofrestru ac arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru.
Goruchwylio a gwerthusoProses reolaidd, wedi'i chynllunio sy'n helpu gweithwyr i ystyried eu gwaith, rheoli cyfrifoldebau a lles, a chynnal arferion diogel ac effeithiol. Mae gwerthusiad yn adolygiad ffurfiol o berfformiad gweithiwr dros gyfnod penodol, a ddefnyddir i gydnabod llwyddiannau, nodi anghenion datblygu a chytuno ar amcanion ar gyfer y dyfodol.
Goruchwylio priodol Sefyllfa lle mae aelod o staff sydd heb gymhwyso neu aelod staff gwirfoddol yn cael ei oruchwylio gan unigolyn cymwysedig sy'n bresennol ac yn gallu monitro ei ymarfer bob amser. Rhaid i'r person cymwysedig sy’n goruchwylio fod wrth law, bod yn ymwybodol o weithredoedd a chyfrifoldebau'r aelod o staff sydd heb gymhwyso, a gallu ymyrryd neu ddarparu arweiniad pryd bynnag y bo angen i ddiwallu anghenion plant a sicrhau eu diogelwch a'u lles yn y lleoliad.
Gwasanaeth Datgelu a GwaharddMae cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ffordd i gyflogwyr wirio'ch cofnod troseddol, er mwyn eu helpu i benderfynu a ydych yn berson addas i weithio iddynt. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a yw'n addas i chi weithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed.
Gweithdrefnau Diogelu CymruRolau a chyfrifoldebau i ymarferwyr eu dilyn i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion a allai fod yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu sydd mewn perygl o hynny. Mewn perthynas â phlant, mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw fath arall o niwed.
Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cod Ymarfer DiogeluCanllawiau anstatudol sy'n nodi egwyddorion a safonau clir i unigolion, grwpiau a sefydliadau eu dilyn er mwyn amddiffyn unigolion, yn enwedig plant ac oedolion agored i niwed, rhag niwed a chamdriniaeth. Mae'n rhoi pwyslais ar weithio mewn partneriaeth, atebolrwydd, a phwysigrwydd hyrwyddo lles, gan sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu yn cael eu deall a'u gweithredu'n effeithiol gan bawb sy'n gysylltiedig.
Gweithiwr ChwaraeAelod o staff sy'n gweithio i hwyluso chwarae plant yn unol ag Egwyddorion Gwaith Chwarae. Gall weithio heb oruchwyliaeth fel rhan o dîm ehangach ac mae ganddo gyfrifoldebau amrywiol o fewn y tîm hwnnw.
Gwrth-hiliaethMynd ati i ganfod a chwalu’r systemau, y strwythurau a’r prosesau sy’n arwain at ganlyniadau cwbl wahanol i grwpiau ethnig leiafrifol. Mae’n golygu cydnabod y gallwn ni, hyd yn oed os na chredwn ein bod yn ‘hiliol’, drwy wneud dim byd, fod yn rhan o ganiatáu i hiliaeth barhau.
LlesCyflwr o fod yn gyfforddus, yn iach neu'n hapus.
Man chwarae cynhwysol a hygyrchMae man chwarae cynhwysol a hygyrch yn ofod di-rwystr sy'n diwallu anghenion eang ac amrywiol pob plentyn. Bydd pob plentyn yn gallu mwynhau lefel uchel o gyfleoedd i gyfranogi, sydd yr un mor gyfoethog o ran gwerth.
MangreMae ‘mangre’ yn cynnwys unrhyw ardal ac unrhyw gerbyd cofrestredig a ddefnyddir i gynnal gwasanaethau gofal dydd.
MesurMesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 
Model Cymdeithasol o Anabledd O dan y model cymdeithasol o anabledd, plentyn anabl yw plentyn sydd ag amhariad neu gyflwr ac sy'n cael ei anablu gan rwystrau mewn cymdeithas, yn hytrach na gan yr amhariad ei hun.
Person cofrestredigPerson sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd. 
Person heb gymhwyso/GwirfoddolwrUnigolyn sy'n gweithio mewn lleoliad gofal dydd cofrestredig nad oes ganddo gymhwyster cydnabyddedig sy'n ofynnol ar gyfer y rôl/math o wasanaeth. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn cwmpasu aelodau staff a allai fod yn gweithio tuag at gyflawni'r cymhwyster gofynnol. Gall yr unigolion hyn fod yn gyflogedig neu gyflawni tasgau o fewn y lleoliad ar sail wirfoddol.
Profiadau Niweidiol yn ystod PlentyndodStraen cronig ar unigolion yn ystod plentyndod. Mae straen o’r fath yn deillio o gam-drin ac esgeuluso plant ond hefyd o fagwraeth mewn cartrefi lle mae plant yn dod i gysylltiad rheolaidd â materion fel trais domestig neu unigolion â phroblemau camddefnyddio alcohol a sylweddau eraill. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cael eu galw’n Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
Rheoliadau Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).
Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed Safonau a ddefnyddir i helpu lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd i fodloni'r gofynion rheoleiddio ar gyfer gofal plant hyd at ddeuddeg oed, ac a gyhoeddwyd o dan reoliad 14 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).
Safonau Hyfforddiant Cenedlaethol (Gofal Cymdeithasol Cymru)Fframwaith cynhwysfawr ar gyfer hyfforddiant, datblygiad ac addysg barhaus y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r safonau wedi'u cynllunio i sicrhau bod yr holl staff sy'n gweithio o fewn gwasanaethau gofal cymdeithasol yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r gwerthoedd angenrheidiol i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person.
StaffGweithwyr o fewn y lleoliad gofal dydd dan sylw, boed yn gyflogedig neu'n ddi-dâl, ac mewn nifer o rolau gwahanol (gan gynnwys rolau nad ydynt yn ymwneud â gwaith chwarae). 
YmarferwyrMae’r term cyffredinol hwn yn cyfeirio at yr unigolion sy’n gweithio gyda phlant, boed yn gyflogedig neu’n ddi-gyflog.