Cynllun Hawliau Pobl Anabl 2025 i 2035
Ein cynllun 10 mlynedd i wella hawliau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y gweinidog
Rydym yn falch o gyflwyno’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl hwn i Gymru, a fydd yn ein helpu i hybu hawliau a chyfleoedd pobl anabl i gael gwared ar rwystrau, ac i herio’r rhagfarn a gwahaniaethu maen nhw’n eu hwynebu. Mae bywyd i bobl anabl yn aml yn anodd, yn llawn heriau o ddydd i ddydd a rhwystrau systemig sy’n amharu ar eu gallu i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Mae’r heriau hyn yn cyfyngu ar gyfleoedd pobl anabl ac yn gallu chwalu eu hymdeimlad o berthyn a chynhwysiant.
Ar 15 Mai, fe wnaethom lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft. Drwy gydol y broses hon, cawsom adborth hollbwysig, gan dynnu sylw at feysydd yn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl a gafodd dderbyniad da yn ogystal ag eraill lle gellid cryfhau'r Cynllun hwn. Roedd y rhain yn cynnwys yr angen am fesuradwyedd clir o ran effaith; yr angen am fwy o bwyslais ar gynhwysiant digidol pobl anabl; mwy o gydnabyddiaeth o rolau rhieni a gofalwyr; a phwysigrwydd cyd-gynhyrchu cadarn gyda phobl anabl.
Mae’r cynllun hwn yn nodi ein huchelgais ar gyfer Cymru lle gall pobl anabl fwynhau hawliau, cynhwysiant a chyfranogiad cyfartal. Wrth wraidd ein dull gweithredu mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy’n ein helpu i ddeall sut gall pobl anabl gael eu dal yn ôl gan y byd o’u cwmpas, a sut gallwn ei gwneud hi’n haws i bawb gymryd rhan yn y byd. Rydym hefyd yn cael ein harwain gan egwyddorion a rhwymedigaethau Confensiwn y Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn gallu cynnwys adeiladau anhygyrch, gwasanaethau nad ydynt yn cael eu haddasu i fodloni eu hanghenion, ac agweddau rhai pobl atynt. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i gael gwared ar y rhwystrau hyn er mwyn creu cymdeithas gynhwysol a hygyrch i bawb. Mae ein hymrwymiadau wedi’u hamlinellu mewn dwy ddogfen allweddol:
- Mae’r cynllun deng mlynedd hwn, sy’n nodi ein huchelgeisiau hirdymor, a hefyd
- Ein camau gweithredu tymor byr y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw nawr.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu’r cynllun hwn drwy’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a’i weithgorau, ac i’r Athro Debbie Foster am ei harweinyddiaeth fel cyd-gadeirydd y Tasglu. Mae’r Tasglu wedi gweithio’n helaeth i ystyried yr heriau a nodwyd yn yr adroddiad ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’, ac mae ei argymhellion wedi dylanwadu’n helaeth ar y Cynllun hwn.
Dim ond os bydd sefydliadau a phobl ledled Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i’w gyflawni y bydd y Cynllun hwn yn llwyddo. Byddwn yn sefydlu Bwrdd Ymgynghorol Allanol i ddarparu cyngor a chymorth ynghylch gweithredu, cyflawni ac effaith y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Mae cyflawni ein huchelgais o Gymru lle gall pobl anabl fyw, gweithio a ffynnu fel dinasyddion cyfartal yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth drwy gael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl a herio’r gwahaniaethu a’r rhagfarn y mae pobl anabl yn parhau i’w hwynebu bob dydd. Drwy gynnal hawliau pobl anabl a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’n bod yn gweithredu arnynt, gyda’n gilydd gallwn ni greu cymdeithas gynhwysol.
Eluned Morgan AS
Prif Weinidog Cymru.
Jane Hutt AS.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a’r Prif Chwip.
1. Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cymdeithas lle mae amrywiaeth yn cael ei chroesawu a’i gwerthfawrogi am yr effaith gadarnhaol y mae’n ei chael. Mae gan bobl anabl wahanol safbwyntiau, sgiliau ac arbenigedd, ac mae’n bwysig eu gwerthfawrogi, eu cydnabod a’u cryfhau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r Cynllun hwn, sy'n cael ei ddylanwadu gan bob maes polisi ac yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Cynllun hwn yn nodi ein fframwaith 10 mlynedd trawslywodraethol sy’n mynegi ein huchelgais a’r canlyniadau rydym eisiau eu cyflawni, i sicrhau bod pobl anabl yn gallu ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas Cymru, ac i herio gwahaniaethu a rhagfarn. Mae angen i bob sefydliad ledled Cymru, a ninnau fel pobl, weithio gyda’i gilydd i wireddu’r uchelgais hon.
Yn 2021, roedd cyfran y bobl yng Nghymru yn 21% (670,000 o bobl.) Roedd cyfran y bobl anabl yn y boblogaeth yn cynyddu gydag oedran, ac roedd merched yn fwy tebygol na dynion o ddweud eu bod yn anabl. Rydym yn gwybod bod pobl anabl yn wynebu nifer o fathau o wahaniaethu ac allgáu a hynny ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd, tai, trafnidiaeth a mwy.
O’r boblogaeth oedran gweithio yn 2024, roedd pobl anabl (15%) yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau na phobl nad ydynt yn anabl (5%). Mae Cyfradd cyflogaeth pobl anabl rhwng 16 a 64 oed 29 pwynt canran yn is na phobl nad ydynt yn anabl (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025). Roedd un o bob saith o bobl anabl neu bobl â salwch hirdymor cyfyngol yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol, o’i gymharu ag un o bob deg o bobl nad oeddent yn anabl (2024 i 2025) (Arolwg Cenedlaethol Cymru).
Tasglu Hawliau Pobl Anabl
Roedd pandemig COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pobl ar draws y byd, gan ddwysáu anghydraddoldebau ac anfanteision economaidd-gymdeithasol. Cafodd Covid effaith anghymesur ar rai cymunedau yng Nghymru.
Ym mis Gorffennaf 2021, roedd yr adroddiad ‘Drws ar glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’ wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau sy’n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas. Un o’r ymatebion i’r adroddiad oedd sefydlu’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl – partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid, wedi’i gyd-gadeirio gan Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, a’r Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd ac awdur yr adroddiad ‘Drws ar glo’.
Ffurfiodd y Tasglu ddeg gweithgor thematig i argymell camau gweithredu a fyddai’n gwella bywydau pobl anabl, sef:
- gwreiddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ar draws Cymru)
- mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
- byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol
- byw’n annibynnol: iechyd
- teithio
- cyflogaeth ac incwm
- tai fforddiadwy a hygyrch
- plant a phobl ifanc
- mynediad at gyfiawnder
- llesiant (ar ffurf gweithdy)
Roedd y Tasglu’n gweithredu ar sail yr egwyddor cydgynhyrchu. Gweithiodd dros 350 o randdeiliaid allanol a 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru gyda’i gilydd i ddatblygu argymhellion gyda’r nod o wella canlyniadau a sicrhau bod hawliau pobl anabl yng Nghymru yn cael eu gwireddu’n llawn. Roedd pobl anabl yn arweinwyr a phartneriaid gweithredol ym mhroses y Tasglu, gan rannu gwybodaeth a phrofiadau uniongyrchol sydd wedi llywio camau gweithredu i roi sylw i hawliau pobl anabl ac i chwalu’r rhwystrau presennol. Mae’r egwyddor “pwysigrwydd cynnwys pobl anabl mewn unrhyw benderfyniadau” yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn cymryd rhan weithredol mewn materion sy’n effeithio ar eu bywydau.
Mae argymhellion y Tasglu, a gafodd eu cydgynhyrchu, wedi cael eu defnyddio i lywio camau gweithredu a chanlyniadau’r cynllun pwysig hwn. Bydd yr argymhellion hyn yn parhau i fod yn adnodd pwysig y gall Llywodraeth Cymru ddychwelyd ato yn y dyfodol i nodi ei chamau gweithredu tymor canolig i hirdymor er mwyn cyflawni’r uchelgais a’r canlyniadau ar gyfer pobl anabl yn y cynllun deng mlynedd hwn.
Ar gyfer pwy mae’r Cynllun hwn?
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sy'n ceisio amddiffyn pobl anabl rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr, darparwyr addysg, darparwyr gwasanaethau ac eraill wahaniaethu yn erbyn person anabl oherwydd rhywbeth sy'n codi o ganlyniad i'w gwahaniaeth, eu hamhariad neu eu cyflwr iechyd.
Rhan sylweddol o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw'r gofyniad i gyflogwyr, darparwyr gwasanaethau ac eraill wneud 'addasiadau rhesymol' ar gyfer pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i gael gwared ar rwystrau a allai atal unigolion anabl rhag cael mynediad at gyflogaeth, addysg neu wasanaethau. Mae'r Ddeddf hefyd yn amddiffyn pobl rhag cael eu trin yn annheg oherwydd eu bod yn ofalwr neu'n weithiwr cymorth i berson anabl.
Mae cyfraith achosion wedi dangos bod y gair 'Anabl' yn gallu cynnwys pobl sydd â:
- anableddau dysgu (ee Syndrom Down)
- gwahaniaethau / amhariad corfforol (ee pobl a allai ddefnyddio cymhorthion symud fel ffrâm gerdded neu gadair olwyn).
- gwahaniaethau / amhariadau ar y synhwyrau (ee gwahaniaethau yn y golwg, pobl sy'n ddall ac yn fyddar)
- cyflyrau iechyd hirdymor (ee diabetes, asthma, clefyd Crohn)
- anawsterau dysgu penodol (ee dyslecsia)
- cyflyrau iechyd meddwl (ee iselder, gorbryder)
- cyflyrau iechyd sy'n gwaethygu (ee dementia, canser, clefyd Parkinson), a hefyd
- pobl niwrowahanol (ee anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd)
Mae'n bwysig cydnabod, er bod yr enghreifftiau uchod yn dangos rhai o'r ffyrdd y gellir ystyried pobl yn anabl o dan y gyfraith, na fydd pawb sydd â'r profiadau neu'r amodau hyn yn ystyried eu hunain yn anabl. Mae hunaniaeth yn cael ei siapio gan ddewisiadau ac amgylchiadau unigol.
Gall pobl anabl sydd â chyflyrau iechyd cyfnewidiol neu ddeinamig wynebu rhwystrau ychwanegol o ran cael gafael ar gymorth cyson, addasiadau priodol i'r gweithle, a chyfranogiad cymdeithasol llawn. Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn gofyn am ddulliau hyblyg ac ymatebol ar draws gwasanaethau, gweithleoedd a chymdeithas i sicrhau bod eu hawliau a'u hanghenion yn cael eu diwallu.
Ein huchelgais gyffredinol
Byddwn yn gwneud Cymru yn genedl gynhwysol a hygyrch lle gall pobl anabl fynnu, gorfodi a chael mynediad at eu hawliau. Byddwn yn sicrhau bod pobl anabl yn gallu cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd Cymru, heb gyfyngiadau na gwahaniaethu. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn i wneud pob agwedd ar fywyd Cymru yn hygyrch, gan gynnwys iechyd, addysg, cyflogaeth, tai a theithio. Rydym yn benderfynol o arwain y ffordd o ran cynhwysiant digidol, gyda'n huchelgais i gefnogi dinasyddion, os ydynt yn dymuno, i gyrraedd y safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol, gan sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl. Gyda'n gilydd, byddwn yn gweithio gyda phobl anabl, rhieni a gofalwyr i gael gwared ar rwystrau, cynnal hawliau unigol a chyfunol, a meithrin cymdeithas lle mae cryfderau personol pawb, hunaniaethau sy'n plethu â'i gilydd a chyfraniadau'n cael eu deall, eu gwerthfawrogi a'u dathlu.
2. Llywodraethiant, monitro a gwerthuso
Cyflwyniad
Nod y Cynllun Hawliau Pobl Anabl yw cyflawni'r uchelgais o ddod yn Gymru lle gall pobl anabl fyw, gweithio a ffynnu fel dinasyddion cyfartal. Wrth fynd ar drywydd yr uchelgais hwn, mae'r Cynllun yn nodi ei fwriad i sicrhau newid gwirioneddol a mesuradwy ar draws amrywiaeth o feysydd polisi sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl anabl yng Nghymru.
Mae'r adran hon yn amlinellu'r trefniadau monitro, gwerthuso a llywodraethiant a fydd yn cael eu sefydlu i ddangos tystiolaeth o'r newid hwn ac i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Cynllun (gweler Atodiad 1 am ragor o wybodaeth). Bydd pob un yn cael ei ddatblygu a'i gyflawni yn unol ag egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd, gan ymgorffori profiad uniongyrchol ar bob cam i sicrhau bod anghenion a lleisiau pobl anabl yn cael eu cynrychioli'n deg ac yn gywir drwy gydol y broses gyfan.
Bwrdd Cynghori Allanol
Er mwyn sicrhau goruchwyliaeth gadarn ac arweiniad ystyrlon drwy gydol y gwaith o weithredu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, byddwn yn sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol dylanwadol ac annibynnol. Bydd y Bwrdd hwn yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio cyfeiriad, monitro cynnydd, a chynyddu effaith y Cynllun, gan weithredu fel cyswllt hanfodol rhwng pobl anabl, llunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau. Bydd ei gyfrifoldebau'n cynnwys cynghori ar gyflawni, nodi heriau sy'n dod i'r amlwg, argymell gwelliannau, a sicrhau bod lleisiau ac anghenion pobl anabl yn parhau i fod yn ganolog i bob gweithgaredd a phenderfyniad.
Daw aelodau'r Bwrdd Cynghori Allanol o amrywiaeth eang o unigolion, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o anabledd a chynrychiolwyr allweddol o sefydliadau pobl anabl, a rhanddeiliaid perthnasol eraill ledled Cymru. Bydd y dull cynhwysol hwn yn sicrhau bod y Bwrdd yn adlewyrchu ehangder y profiad a'r arbenigedd sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r materion cymhleth ac esblygol sy'n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas.
Bydd y Bwrdd yn cael ei sefydlu yn 2026 a bydd yn gweithredu yn unol ag egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd, gan sicrhau bod yr holl drafodaethau ac argymhellion yn seiliedig ar realiti bywydau pobl anabl. Ceisir mewnbwn y Bwrdd ar bob cam allweddol, o gynllunio strategol i werthuso, i sicrhau bod y Cynllun yn cyflawni newid gwirioneddol a pharhaol a bod yr holl gamau gweithredu'n dryloyw, yn atebol ac yn ymatebol i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu.
Drwy wreiddio'r Bwrdd Cynghori Allanol wrth galon ein strwythur llywodraethiant, rydym yn gwneud ymrwymiad clir i wneud penderfyniadau cyfranogol, cydweithio a gwella'n barhaus. Bydd hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth, sbarduno arloesedd ac, yn y pen draw, cefnogi'r uchelgais o greu Cymru lle gall pobl anabl fyw, gweithio a ffynnu fel dinasyddion cyfartal.
Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd Llywodraeth Cymru: sut y byddwn yn mesur newid
Mae'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd, sef tîm o broffesiwn Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am oruchwylio'r trefniadau monitro a gwerthuso ar gyfer y Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Mae hyn yn cynnwys mesur cynnydd parhaus y Cynllun yn erbyn camau gweithredu unigol, yn ogystal ag asesiad ehangach o'r effaith gyffredinol a wnaed yn erbyn ei ganlyniadau arfaethedig yn y tymor hirach.
Amlinellu'r broses ar gyfer newid
Er mwyn mesur newid, rhaid deall y broses ar gyfer sut y caiff ei gyflawni yn gyntaf. Gwneir hyn drwy ddatblygu 'Damcaniaethau Newid', neu 'fodelau rhesymeg', ar gyfer pob rhan o'r Cynllun. Bydd Llywodraeth Cymru yn mapio pob cam yn y ffordd y mae'r Cynllun yn ceisio cyflawni'r newid a ddymunir, o fewnbwn i weithgareddau, allbynnau, canlyniadau ac effeithiau.
Bydd y camau hyn yn helpu i lywio sut mae cynnydd a llwyddiant y Cynllun yn cael eu mesur. Yn y tymor byr i ganolig, bydd trefniadau monitro a gwerthuso yn canolbwyntio ar gyflwyno tystiolaeth yn erbyn camau gweithredu a chanlyniadau drwy fframwaith mesur a gwerthuso prosesau.
Fframwaith mesur
Yn unol â'r Damcaniaethau Newid, sy'n nodi sut mae'r Cynllun yn bwriadu cyflawni ei amcanion, mae fframwaith mesur cyffredinol yn cael ei ddatblygu i ddangos cynnydd a dangos cyfeiriad y newid ar draws meysydd allweddol y Cynllun. Bydd y fframwaith hwn, a fydd yn cael ei gwblhau yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, yn cynnwys dangosyddion ar gyfer pob maes a fydd, o'u hystyried gyda'i gilydd, yn rhoi darlun cyfannol o'r effaith y mae'r Cynllun yn ei chael yn gyffredinol.
Mae'r dangosyddion hyn yn cael eu dewis yn ofalus i roi'r darlun mwyaf cywir a chynhwysfawr posibl o'r Cynllun, mewn ffordd sy'n diwallu anghenion ein rhanddeiliaid. Fodd bynnag, mae'n debygol na fydd yr holl ddata ar gael. Bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd yn targedu'r bylchau hyn yn y data lle bo hynny'n bosibl, er mwyn gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth cydraddoldeb yn y dyfodol.
Gwerthuso'r prosesau
Bydd gwerthusiad proses yn dechrau yn 2026 i ddeall sut mae'r Cynllun yn cael ei roi ar waith drwy ganfod beth sy'n gweithio'n dda, nodi rhwystrau rhag cyflawni, a gwneud argymhellion ar gyfer gwella yn y dyfodol. Bydd yr ymchwil hwn yn canolbwyntio ar y cyfnod cychwynnol o'r dyddiad y cyhoeddir y Cynllun hyd at 2027 a bydd yn cael ei ddylunio o amgylch egwyddorion y Model Cymdeithasol, gan ymgorffori profiad uniongyrchol ar bob cam i sicrhau bod pobl anabl yn parhau i fod wrth galon y gwerthusiad.
Bydd yr ymchwil yn defnyddio gwahanol fathau o ddata i asesu gweithrediad y Cynllun. Bydd data rhifol 'meintiol' yn cael ei ddefnyddio i fonitro allbynnau gweithredoedd yn y tymor byr i ganolig. Er enghraifft, gellir defnyddio data monitro i ddangos nifer y bobl anabl yr ymgysylltwyd â nhw wrth ddatblygu polisi neu nifer y darparwyr gwasanaethau sydd wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Model Cymdeithasol o Anabledd.
Bydd safbwyntiau a barn pobl hefyd yn cael eu casglu drwy ddefnyddio dulliau data 'ansoddol', fel cyfweliadau neu grwpiau ffocws. Bydd y dulliau hyn yn cael eu defnyddio i archwilio newidiadau'n fanylach, gan helpu i ddeall pam mae newid wedi digwydd a sut mae wedi effeithio ar bobl. Byddant yn helpu i gynrychioli barn pawb sy'n ymwneud â'r Cynllun yn gywir, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â'i gyflawni, ac yn bwysicaf oll, y bobl anabl y mae'n ceisio gwella eu bywydau.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cam hwn o'r ymchwil yn cael ei ddilyn gan 'werthusiad effaith', a fydd yn canolbwyntio ar asesu llwyddiant y Cynllun o ran cyflawni ei ganlyniadau yn y tymor canolig i'r tymor hir. Bydd yr ail gam hwn o'r ymchwil yn defnyddio data a gasglwyd dros gyfnod hirach, ac ar brofiadau'r bobl anabl y mae'r Cynllun yn effeithio arnynt, i asesu ei effaith gyffredinol.
Ein gweithredoedd
Mae llawer o'r camau gweithredu a nodir yn y ddogfen 'Camau Gweithredu' eisoes ar waith, gan adlewyrchu ymrwymiad i weithredu amcanion y Cynllun yn amserol a dangos blaenoriaeth y Llywodraeth i hawliau pobl anabl. Disgwylir i'r camau gweithredu tymor byr cychwynnol gael eu cwblhau erbyn 2027 neu cyn hynny, gan wasanaethu fel sylfaen ar gyfer cyflawni uchelgeisiau 10 mlynedd y Cynllun.
Bydd camau gweithredu ychwanegol yn y tymor canolig a'r tymor hir, y bwriedir eu cyflawni erbyn 2031 a 2035 yn y drefn honno, yn cael eu llywio gan argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, gan weithio mewn partneriaeth â phobl anabl, sefydliadau pobl anabl a Llywodraeth Cymru. Bydd y dull cyfranogol hwn yn sicrhau bod blaenoriaethau a phrofiadau uniongyrchol pobl anabl yn parhau i fod yn ganolog i gyflawni'r Cynllun. Bydd cynnydd yn erbyn y camau hyn yn cael ei fonitro a'i fesur drwy'r dull gwerthuso a amlinellir yn y Cynllun hwn, a'r Bwrdd Cynghori Allanol.
Mecanweithiau ymgysylltu
Bydd y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, sy'n cael ei gadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, yn parhau i ddod â phobl anabl, llunwyr polisïau, darparwyr gwasanaethau, ymchwilwyr a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd. Bydd y Fforwm hefyd yn parhau i weithredu fel llwyfan i rannu arferion da, dysgu oddi wrth ei gilydd a meithrin cynghreiriau ar draws gwahanol grwpiau a diddordebau.
Mae Sefydliadau Pobl Anabl yn cynrychioli gwahanol leisiau a buddiannau pobl anabl, a bydd ganddynt rôl bwysig yn casglu safbwyntiau gan bobl anabl, unigolion a sefydliadau ar lawr gwlad ledled Cymru, a chyflwyno eu hadborth, eu pryderon a’u hawgrymiadau i’r fforwm i’w trafod a’u herio.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru a'n Gweithgor Cyflogaeth Pobl Anabl. Mae’r Grŵp hwn, dan gadeiryddiaeth yr Hyrwyddwyr, mewn sefyllfa dda i adolygu ein cynnydd o ran cynhwysiant a mynediad at waith a phrentisiaethau.
Byddwn yn cwrdd yn rheolaidd â’n Harweinwyr Cydraddoldeb ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun trawslywodraethol hwn yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl anabl.
Byddwn yn gweithio'n agos gyda Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Anableddau Dysgu a Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Niwrowahaniaeth.
Bydd y Cynllun hwn yn defnyddio strategaethau presennol a rhai sy’n datblygu ar draws Llywodraeth Cymru fel dulliau o newid ein tirwedd. Mae prif ffrydio’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar draws polisïau yn golygu bod pob polisi a strategaeth yn cynnwys pobl anabl, eu hanghenion a’u dewisiadau, a bod cydraddoldeb i bobl anabl yn rhan annatod o’r holl brosesau gwneud penderfyniadau.
3. Dulliau cyffredinol o ddatblygu’r cynllun hwn
Ochr yn ochr â gwaith pwysig ac argymhellion y Tasglu, mae’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun hwn wedi cael ei lywio gan ystyriaethau, egwyddorion, rhwymedigaethau ac amcanion ehangach, sydd wedi’u nodi isod.
Gweithio gyda phobl anabl
Mae gweithio gyda phobl anabl yn hanfodol er mwyn datblygu cymdeithas gynhwysol, deg a ffyniannus. Mae cydweithio â phobl anabl i fynd i’r afael â’r problemau a’r heriau go iawn maen nhw’n eu hwynebu yn sicrhau bod polisïau’n effeithiol, ac yn fwy tebygol o gyflawni’r canlyniad a fwriedir sy’n parchu hawliau a chyfraniad pobl anabl.
Mae gan Sefydliadau Pobl Anabl ledled Cymru rôl strategol yn hybu hawliau pobl anabl yng Nghymru. Rydym yn parhau i ariannu Anabledd Cymru, sef y gymdeithas genedlaethol o Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru. Mae arbenigedd a gwerth Sefydliadau Pobl Anabl yn cefnogi Llywodraeth Cymru a’i gwaith o ddatblygu polisïau.
Byw’n annibynnol
Mae byw’n annibynnol yn golygu bod gan bob person anabl yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill, a hynny gartref, yn y gwaith, mewn addysg ac yn y gymuned. Nid yw’n golygu gorfod byw ar eich pen eich hun na gwneud popeth drosoch eich hun. Mae’n golygu hawliau i gymorth a chefnogaeth ymarferol i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar yr un sail â phobl eraill, yn ogystal â llais, dewis a rheolaeth dros sut caiff hyn ei ddarparu. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl o bob oed ac o bob cymuned yn gallu mwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pan a sut mae ei angen arnynt.
Ategir hyn gan erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, a gafodd ei gadarnhau gan y DU yn 2009, sy’n nodi bod gan bobl anabl yr hawl i fyw yn y gymuned gyda’r un dewisiadau â phobl eraill. Mae hyn yn cynnwys y cyfle i ddewis eu man preswylio a chyda phwy maen nhw’n byw, heb orfod byw mewn trefniant penodol. Hefyd, rhaid i wasanaethau a chyfleusterau cymunedol sydd ar gael i’r boblogaeth gyffredinol fod yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion pobl anabl hefyd.
Cydraddoldeb
Mae deall sut mae agweddau ar hunaniaeth unigolyn, fel rhyw, hil, ac anabledd yn cyfuno i greu profiadau gwahaniaethu unigryw yn gwella’r gwaith o ddatblygu polisïau. Mae'n galluogi llunwyr polisïau i gydnabod a mynd i'r afael â natur gymhleth a rhyng-gysylltiedig hunaniaethau a phrofiadau personol unigolion.
Mae Deddf Cydraddoldeb (2010) yn mynnu bod cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau’n gwneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar yr anfanteision y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Mae’r ddyletswydd hon yn sicrhau bod unigolion anabl yn cael yr un mynediad at wasanaethau, cyflogaeth a swyddogaethau cyhoeddus. Efallai y bydd peidio â gwneud yr addasiadau hyn yn cael ei ystyried yn wahaniaethu anghyfreithlon.
Fel rhan o’n dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae gan Lywodraeth Cymru 7 o Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol, sef:
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1: Byddwn yn creu Cymru lle mae pawb yn cael cyfleoedd i ffynnu yn unol â'n nod sefydliadol i leihau tlodi.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o'u hawliau dynol, lle cânt eu diogelu, eu hybu a lle maen nhw’n sail i bob polisi cyhoeddus.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o wasanaethau cyhoeddus o safon uchel a chael mynediad cyfartal atynt.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4: Byddwn yn creu Cymru sy'n atal gwahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu, cam-drin, troseddau casineb a/neu fwlio yn erbyn pawb.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb o'r amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cael eu lleisiau wedi'u clywed, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arwain.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6: Byddwn yn creu Cymru â chyfleoedd teg a chyfartal i gael swydd ac sy'n sicrhau triniaeth deg a chyfartal yn y gweithle, gan gynnwys cyflog ac amodau teg.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 7: Byddwn yn creu Cymru sy'n amgylcheddol gynaliadwy gyda'r gallu i sicrhau bod ein taith i sero net yn deg a'n bod yn ymateb i effeithiau annheg newid yn yr hinsawdd.
Mae angen newid systemig a diwylliannol er mwyn gwreiddio dulliau cydraddoldeb a hawliau dynol yng ngwaith Llywodraeth Cymru, a bydd hynny’n cymryd amser. Drwy ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol a'n Datganiad Hawliau Dynol, mae'r cynllun hwn yn cyflwyno fframwaith cydlynol ar gyfer cynllunio a chyflawni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldeb ar draws cymdeithas, gan weithredu drwy ein cynlluniau cydraddoldeb, gan gynnwys Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau: cynllun gweithredu. Mae ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru, gyda'i gilydd, yn bwriadu gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr erbyn 2030. Mae ein Cynllun Gweithredu i Gymru ar gyfer LHDTC+ yn nodi sut rydym yn cefnogi cymunedau Pobl LHDTC+ yng Nghymru.
Gall pobl anabl wynebu anghydraddoldebau sy'n gorgyffwrdd oherwydd ffactorau fel hil, rhywedd, oedran a statws economaidd-gymdeithasol. Gelwir hyn yn aml yn groestoriadedd. Mae croestoriadedd yn gysylltiedig â’r ffordd y mae gwahanol fathau o wahaniaethu (hynny yw, trin unigolyn yn annheg oherwydd ei nodweddion gwarchodedig) yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi diben cyffredin sy’n rhwymo’n gyfreithiol – y saith nod llesiant – ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodol eraill. Mae’n rhoi manylion sut mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodol weithio a chydweithio i wella llesiant Cymru. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi Nodau Llesiant:
- Cymru Lewyrchus
- Cymru Gydnerth
- Cymru Iachach
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- Cymru o Gymunedau Cydlynus
- Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu
- Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang
Newid hinsawdd Cymru a chyfrifoldeb byd-eang
Mae adroddiad llawn, ‘Uwchgynhadledd Anabledd Byd-eang 2025, sef 'Accelerating Disability Inclusion in a Changing and Diverse World', yn pwysleisio effaith ddwys newid yn yr hinsawdd ar bobl anabl ledled y byd. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr angen dybryd am weithredu ar newid yn yr hinsawdd a thechnoleg hygyrch. Mae'n galw am bolisïau cynhwysol mewn atebion lliniaru ac addasu i'r hinsawdd, ac am gynnwys pobl anabl mewn prosesau cyd-ddylunio, er mwyn creu cymunedau mwy gwydn sy'n fwy parod i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau eraill.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRDP)
Cadarnhaodd y DU y Confensiwnhwn yn 2009, er mwyn cynnal a hybu hawliau pobl anabl. Drwy gydol y cynllun hwn rydym yn cyfeirio at y confensiwn fel y ‘Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau’, yn hytrach na’r enw a roddwyd iddo, sef Y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau, er mwyn adlewyrchu ein hymrwymiad i’r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy’n cael ei drafod yn fanylach isod.
Canfu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn ei adroddiad ‘A yw Cymru'n Decach?’ fod llawer o bobl anabl yng Nghymru yn parhau i brofi anghydraddoldebau sylweddol ym meysydd iechyd, addysg, cyflogaeth, tai, trafnidiaeth a mynediad at gyfiawnder. Mae'r Cynllun hwn i wella cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru yn amlinellu'r canlyniadau manwl a lefel uchel rydym yn ceisio eu cyflawni yn y meysydd hyn.
Mae Traciwr Hawliau Dynol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dangos bylchau presennol a hanesyddol yn ein gwaith o gyflawni hawliau o dan y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau, yn enwedig ynghylch byw'n annibynnol, mynediad at gyfiawnder a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Drwy ymdrechion Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru,, mae gwaith yn parhau ar adolygiad manwl o erthyglau'r Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod a’r Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl i ystyried dulliau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol posibl o ymgorffori o dan bwerau datganoledig. Canlyniad eu gwaith fydd adroddiad yn rhoi argymhellion clir ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru.
Roedd adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn 2024 ar ‘Hawliau Pobl Anabl’ yn tanlinellu nifer o feysydd hollbwysig lle mae’n rhaid i’r DU wella bywydau unigolion anabl. Roedd yr adroddiad yn argymell strategaethau cynhwysfawr i fynd i’r afael â phrinder llafur mewn gwasanaethau anabledd ac iechyd meddwl, ac yn tynnu sylw at yr angen am gymorth personol, cymorth hamdden a thrafnidiaeth hygyrch digonol. Roedd hefyd yn pwysleisio’r angen i wella trefniadau nawdd cymdeithasol, gan gynnwys asesiadau manwl ac addasiadau i fudd-daliadau i dalu am gostau sy’n gysylltiedig ag anabledd. Roedd yn galw am gymorth wedi’i dargedu i grwpiau ar y cyrion i sicrhau eu bod yn gallu byw’n annibynnol ac yn tanlinellu pa mor bwysig yw atal pobl anabl rhag cael eu sefydliadoli oherwydd cymorth cymunedol annigonol.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am feysydd datganoledig fel iechyd, addysg a rhai agweddau ar deithio, ond mae nawdd cymdeithasol yn dal yn un o gyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Mae angen ymdrech drawslywodraethol unedig i ddatrys rhai o’r problemau trawsbynciol ar gyfer holl bobl anabl y DU.
Mae’r gwaith i wneud y grantiau a’r buddion sy’n cael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru (a elwir weithiau’n fudd-daliadau Cymru) mor hawdd eu hawlio â phosibl yn creu potensial cadarnhaol i bobl anabl yng Nghymru. Roedd cyflwyno Siarter Budd-daliadau Cymru ym mis Ionawr 2024, sydd wedi cael ei fabwysiadu gan bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, yn arwydd o newid diwylliant tuag at ddylunio a darparu budd-daliadau a grantiau Cymru sy’n fwy cydlynol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n seiliedig ar hawliau. Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio ar y cyd â’i phartneriaid, yn cyflawni ymrwymiadau’r Siarter, a fydd yn sicrhau bod pawb yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deg, heb wahaniaethu, a bod pob partner yn dilyn y model cymdeithasol o anabledd wrth weinyddu budd-daliadau Cymru.
Y Model Cymdeithasol o Anabledd a Hygyrchedd
Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach nag amhariadau, gan eirioli dros yr un hawliau i bobl anabl â’u cyfoedion. Mae’r Model yn rhoi’r cyfrifoldeb ar gymdeithas, gan alw am gael gwared ar rwystrau, strwythurol, diwylliannol a gwahaniaethu, sy’n cyfyngu ar gyfranogiad pobl anabl. Mae rhwystrau strwythurol yn cynnwys adeiladau anhygyrch. Mae rhwystrau diwylliannol yn deillio o agweddau, credoau ac arferion mewn cymdeithas sy’n arwain at allgáu, gwahaniaethu a rhagfarn sy’n ffafrio pobl nad ydynt yn anabl. Drwy herio’r safbwyntiau hyn, gall cymdeithas ddangos nad rhywbeth negyddol yw bod yn anabl, a bod cymdeithas a chymunedau’n gryfach ac yn fwy cydlynol gydag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl anabl. Mae’r model hwn yn grymuso pobl anabl i arfer eu hawliau ac yn dathlu eu hamrywiaeth a’u cyfraniadau.
Mae mynediad i'r byd yn hanfodol i bobl anabl. Boed hynny'n wefannau hygyrch, fformatau gwahanol i ddogfennau, llythyrau apwyntiad ysbyty mewn print bras neu braille, darparu dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain mewn digwyddiadau, neu sicrhau bod peiriannau arian parod ac adeiladau ffisegol ar gael i bawb eu defnyddio, a mwy; mae'r mesurau hyn yn hanfodol ar gyfer cynhwysiant. Mae tystiolaeth ddiweddar o adroddiad Llywodraeth y DU, sef The lived experience of disabled people in the UK: a review of evidence yn dangos bod pobl anabl yn y DU yn parhau i wynebu nifer o rwystrau sy’n plethu i'w gilydd ar draws pob agwedd o fywyd. Er bod deddfwriaeth ac ymwybyddiaeth wedi gwella, mae llawer o waith i'w wneud o hyd i sicrhau gwir gydraddoldeb, hygyrchedd a chynhwysiant.
Yn ôl dadansoddiad gan Project Nemo ac AlixPartners, amcangyfrifir y bydd economi'r DU yn colli hyd at £70 biliwn bob blwyddyn oherwydd diffyg atebion talu hygyrch. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o bobl anabl yn wynebu rhwystrau wrth wneud taliadau, ar-lein ac wyneb yn wyneb, mynediad corfforol, a diffyg cymorth gan staff, sy'n cyfyngu ar gynhwysiant pobl anabl mewn bywyd economaidd. Mae'r heriau hyn nid yn unig yn effeithio ar bobl anabl ond hefyd yn arwain at golli cyfleoedd busnes a llai o wariant gan ddefnyddwyr, gan danlinellu'r angen brys am systemau talu mwy cynhwysol.
Gwahaniaethu a rhagfarn
Mae pobl anabl yn aml yn wynebu gwahaniaethu sy’n ffafrio pobl nad ydynt yn anabl, mae llawer yn ei alw’n ableddiaeth. Gall hyn fod yn amlwg mewn methiant i gynnig seilwaith hygyrch fel rampiau a thoiledau hygyrch, gwybodaeth a chyfathrebu hygyrch, fel llythyrau print bras. Ar ben hynny, mae rhai pobl anabl yn wynebu gwahaniaethu bwriadol, fel allgáu a sarhau. Mae gwahaniaethu’n gallu arwain at ganlyniadau dwys i bobl anabl, gan gynnwys teimlo’n ynysig, llai o gyfleoedd mewn bywyd, a niwed emosiynol. Mae angen newidiadau cymdeithasol i fynd i’r afael â’r problemau hyn, gan gynnwys dylunio mannau cynhwysol, lledaenu ymwybyddiaeth, a sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Mae Iaith Arwyddion Prydain yn iaith unigryw gyda gramadeg, cystrawen a geirfa unigryw, a hon yw’r iaith gyntaf neu’r iaith o ddewis i lawer o bobl fyddar yng Nghymru.
Cafodd Iaith Arwyddion Prydain ei chydnabod fel un o ieithoedd Cymru yn 2004 gan Lywodraeth y Cynulliad ar y pryd, ac rydym yn dal wedi ymrwymo i sicrhau bod y gymuned Iaith Arwyddion Prydain fyddar yn cael ei chynnwys a’i grymuso’n llawn ym mhob agwedd ar gymdeithas yng Nghymru. Mae cydnabod BSL fel iaith yn hanfodol i lesiant y gymuned fyddar, ond mae gwir gynhwysiant yn gofyn am fwy na chydnabyddiaeth - mae'n mynnu gwasanaethau hygyrch, cyfranogiad cyfartal, a pharch at Iaith Arwyddion Prydain fel rhan greiddiol o hunaniaeth a diwylliant. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod y rhwystrau sy’n wynebu pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a’r angen i oresgyn y rhain er mwyn atal rhagfarn ac allgáu.
Mae’r Cynllun hwn yn pwysleisio’r angen am gyfraniad gan y llywodraeth a chan gymuned fyddar Iaith Arwyddion Prydain wrth ddylunio, darparu a gwerthuso polisïau a gwasanaethau perthnasol. Sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Rhanddeiliad Iaith Arwyddion Prydain ym mis Ionawr 2025 i ddatblygu cyfres o argymhellion i lywio gwaith Llywodraeth Cymru o gynhyrchu ‘trywydd’ ar gyfer polisi Iaith Arwyddion Prydain. Bydd y trywydd yn darparu fframwaith strategol sy'n nodi'r camau blaenoriaeth allweddol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo a hwyluso Iaith Arwyddion Prydain ac i wella canlyniadau ar gyfer cymuned Iaith Arwyddion Prydain fyddar Cymru. Bydd y trywydd yn cynrychioli'r camau cyntaf tuag at wireddu ein huchelgais o greu Cymru sy'n parchu, yn hyrwyddo ac yn hwyluso Iaith Arwyddion Prydain.
Y Gymraeg
Mae Cymraeg 2050, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, yn anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050. Rydym yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, lle bynnag rydym ar ein taith Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn fwy na dim ond mater o hunaniaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth. Mae’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol a chydraddoldeb hefyd.
Rydym yn cydnabod bod iaith ac anabledd yn croestorri. Mwy na Geiriau yw cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac mae'n cyd-fynd â nodau Cymraeg 2050. Mae Mwy na Geiriau yn cydnabod bod cyfathrebu effeithiol yn ofyniad allweddol mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a bod ystyried iaith unigolyn yn hanfodol i roi gofal diogel, o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rydym hefyd wedi sicrhau cysondeb rhwng ein blaenoriaethau ar gyfer cofnodi, olrhain a rhannu gwybodaeth am y Gymraeg (sy'n ganolog i gyflawni blaenoriaethau Mwy na Geiriau, a Safonau Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch Cymru Gyfan, a gyhoeddwyd fis Medi 2025.
Mae siaradwyr Cymraeg anabl yn gallu wynebu rhwystrau ychwanegol wrth geisio cael gafael ar wasanaethau, addysg a chyflogaeth yn Gymraeg. Mae technoleg yn gallu helpu pobl ag anghenion penodol i ddefnyddio’r Gymraeg. Gallai hyn gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, pobl ag anghenion dysgu ychwanegol, neu bobl ag anghenion sy’n deillio o driniaeth feddygol neu amhariad gwybyddol neu gorfforol. Nid dim ond mater o ddefnyddio’r Gymraeg yw hyn, mae’n ymwneud â galluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, heb unrhyw gamau ychwanegol, a heb achosi heriau ychwanegol iddynt. Yn unol ag egwyddor y Cynnig Rhagweithiol yn ein cynllunMwy na geiriau:cynllun y Gymraeg mewn iechyd a gofal Cymdeithasol ar gyfer gwreiddio’r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae’r cyfrifoldeb ar ddarparwyr iechyd a gofal i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, yn hytrach na bod y claf neu’r defnyddiwr gwasanaeth yn gorfod gofyn amdanynt.
Yn ein datganiad polisi ar dechnoleg iaith Gymraeg (mis Ionawr 2025), roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio i helpu pawb i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg sydd ganddynt mewn adnoddau lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei chefnogi i raddau digonol, ee mewn meddalwedd penodol ar gyfer pobl anabl.
Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd ar gyfer technoleg i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg a gwneud iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy hygyrch, yn unol â’n blaenoriaethau yn Mwy na geiriau.
Mae sicrhau bod terminoleg briodol a chyfredol yn bodoli yn y Gymraeg yn hanfodol i siaradwyr Cymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Diweddarwyd terminoleg safonol Gymraeg yn y maes hwn, fel y'i cyhoeddwyd yng nghronfa dermau ar-lein TermCymru Llywodraeth Cymru a phorth terminoleg Porth Termau gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, yn ddiweddar yn unol â'r Model Cymdeithasol o Anabledd. Bydd parhau i brif ffrydio'r fframwaith hwn yn helpu i sicrhau cysondeb ac ymwybyddiaeth o'r termau hyn. Bydd terminoleg Gymraeg yn y maes hwn yn parhau i gael ei diweddaru'n rhagweithiol i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Rydym hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau bod ein mannau cyfrwng Cymraeg, fel Eisteddfodau, ein gweithgareddau sy’n cael arian grant a gwyliau diwylliannol yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob person anabl.
Digidol a thechnoleg
Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru (Mawrth 2021), un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethiant, yn nodi’n glir sut y byddwn yn defnyddio digidol, data a thechnoleg i wella bywydau pobl yng Nghymru. Mae'r strategaeth yn nodi gweledigaeth i greu cymdeithas ddigidol gynhwysol lle gall pawb fwynhau manteision technoleg ddigidol.
Mae Ail Genhadaeth y strategaeth, sef Cynhwysiant Digidol, yn nodi’n glir mai ein nod yw helpu pawb i gael y cymhelliant, yr hyder a’r sgiliau digidol sylfaenol sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, a dewis sut maent yn cymryd rhan yn ein byd sy’n fwy a mwy digidol. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cynhwysiant digidol yn fater allweddol o ran cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb ac mae wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw ddinesydd yn cael ei adael ar ôl wrth i ni gofleidio dull gweithredu digidol yn gyntaf (yn hytrach na digidol yn ddiofyn) a bydd egwyddorion allweddol cynhwysiant digidol wrth galon popeth a wnawn.
Gwyddom fod bwlch digidol yn dal i fodoli, sy'n golygu nad oes gan rai unigolion fynediad cyfartal at fanteision technolegau a gwasanaethau digidol modern, boed hynny o ddewis neu oherwydd rhwystrau ehangach.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y gallu i gymryd rhan mewn technoleg ddigidol yn ymestyn y tu hwnt i ddefnydd personol o'r rhyngrwyd ac mae wedi bod wrthi'n archwilio mesur drwy'r gwaith ar y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yng Nghymru. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu dau gam ymchwil i ddatblygu diffiniad sy'n canolbwyntio ar ddinasyddion ar gyfer isafswm ac mae wedi cyflawni amrywiaeth eang o brosiectau gyda chymdeithasau tai, sefydliadau pobl hŷn a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ddeall sut y gall gefnogi'r uchelgais.
Mae'r Safon hwn yn feincnod sy'n canolbwyntio ar y dinesydd sy'n diffinio'r nwyddau, y gwasanaethau a'r sgiliau digidol hanfodol sydd eu hangen ar unigolion ac aelwydydd i gymryd rhan lawn mewn bywyd modern.
- Nwyddau a Gwasanaethau Digidol: Band eang dibynadwy yn y cartref, data symudol, dyfeisiau (ee ffonau clyfar, gliniaduron), a mynediad at gynnwys a gwasanaethau digidol.
- Hyder a Sgiliau Digidol: Y gallu i gyfathrebu, cysylltu ac ymgysylltu'n ddiogel ac yn gyfreithiol, ac yn hyderus.
Mae'r safon hon yn uchelgeisiol, i'w pherchnogi ar draws amrywiaeth o sectorau, ac mae'n fframwaith i lywio polisi ac ymarfer tuag at gynhwysiant digidol cyffredinol. Bydd cysoni polisi ac ymyriadau i'r lleiafswm yn helpu i sicrhau ein bod yn creu ecosystem ddigidol gydlynol a chynhwysol sy'n cefnogi llesiant holl bobl Cymru.
Nid rôl i'r Llywodraeth yn unig yw gweithio tuag at yr uchelgais o gefnogi dinasyddion i fodloni'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Rhaid i ni fabwysiadu dull traws-sector, gan gyd-gynhyrchu ymyriadau gyda phob sector, cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, a chyda dinasyddion, gan sicrhau perchnogaeth glir gan bawb.
4. Canlyniadau lefel uchel
Mae’r Cynllun hwn wedi’i strwythuro yn erbyn pedwar maes gweithredu cyffredinol, sy’n cyd-fynd ag un o’r saith Nod Llesiant Cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):
- Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth.
- Cyflogaeth, incwm ac addysg.
- Byw'n annibynnol, iechyd a gofal cymdeithasol.
- Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol.
Ar gyfer pob un o’r pedwar maes, mae’r cynllun hwn yn nodi ein canlyniadau lefel uchel cyffredinol a’r canlyniadau mwy manwl rydym am eu cyflawni dros y deng mlynedd nesaf. Disgrifir y canlyniadau manwl yn yr adrannau canlynol. Mae’r camau tymor byr y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd tuag at gyflawni’r canlyniadau lefel uchel a mwy manwl wedi’u nodi yn y cynllun yn cael eu hamlinellu yn y ddogfen ‘Cynllun Hawliau Pobl Anabl, Cymru: Ein camau gweithredu tymor byr’.
Mater i lywodraethau’r dyfodol fydd ystyried y canlyniadau lefel uchel a mwy manwl a’r ffordd orau o’u cyflawni dros y cyfnod hwn. Bydd llywodraethau’r dyfodol yn pennu’r camau gweithredu tymor canolig i dymor hir y byddant yn eu cymryd i gyflawni’r uchelgais a’r canlyniadau ar gyfer pobl anabl sydd wedi’u nodi yn y cynllun deng mlynedd hwn.
Mae’r Cynllun hwn yn disodli cynllun gweithredu 2019 Llywodraeth Cymru, Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol. Er bod llawer o gamau cadarnhaol wedi cael eu cymryd drwy’r cynllun hwn, rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau i bobl anabl yng Nghymru.
Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth
Dyma'r canlyniadau lefel uchel cyffredinol ar gyfer Cymdogaethau, Lleoedd a Thrafnidiaeth:
- System drafnidiaeth hygyrch, ddiogel, groesawgar a chynhwysol sy'n hwyluso annibyniaeth, yn cynnig cysylltiadau â chyflogaeth, gofal iechyd, cyfranogiad cymdeithasol, ac yn chwarae rhan yn y gwaith o leihau arwahanrwydd cymdeithasol, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Mae pobl anabl yn rhan o fecanweithiau llywodraethiant effeithiol i helpu gweithredwyr trafnidiaeth i ddeall y rhwystrau a gwella gwasanaethau sy'n galluogi pobl anabl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hyderus ac yn rhwydd.
- Mae system dai hygyrch yn cyfuno datblygu polisïau cynhwysol â darparu gwasanaethau a gwybodaeth ddi-dor, gan leihau’r rhwystrau i dai hygyrch a diogelu hawliau ac anghenion preswylwyr anabl o bob cefndir.
- Mae cymunedau hygyrch yn sicrhau bod pobl anabl yn gallu defnyddio amwynderau a mannau cyhoeddus heb rwystrau, ac yn mynd ati i hybu cyfranogiad llawn pobl anabl yn y gymuned leol drwy gymorth cydlynol gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Defnyddir technoleg ddigidol fel arf i helpu i gyflawni hyn.
Cyflogaeth, incwm (arian) ac addysg
Dyma'r canlyniadau lefel uchel cyffredinol ar gyfer Cyflogaeth, Incwm ac Addysg:
- Mae agwedd gynhwysol at gyflogaeth, gwirfoddoli, incwm a chaffael cyhoeddus yn helpu pobl anabl i gael mynediad cyfartal at waith teg a boddhaus drwy fabwysiadu arferion recriwtio a gweithio cynhwysol, rhagor o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau, a gwell mynediad at gymorth hunangyflogaeth.
- Mae plant a phobl ifanc anabl yn gallu arfer eu hawl i addysg a theimlo’n ddiogel ac wedi’u cynnwys yn eu lleoliadau addysgol, lle mae eu hanghenion addysgol yn cael eu nodi a’u bodloni, yn ogystal â drwy ddysgu sy’n adlewyrchu anghenion, profiadau a hawliau pobl anabl.
Byw'n annibynnol, iechyd a gofal cymdeithasol
Dyma'r canlyniadau lefel uchel cyffredinol ar gyfer Byw'n Annibynnol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
- Llai o anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ymysg pobl anabl, gan gynnwys mynediad at fudd-daliadau lles sy’n galluogi pobl anabl i fyw’n annibynnol ac i dalu costau byw.
- Mae pobl anabl yn byw bywydau llawn, yn mwynhau hawliau llesiant a byw'n annibynnol. Mae systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hygyrch ac mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd wedi’i wreiddio ar draws darparwyr a chomisiynwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu bodloni, a hawliau’n cael eu diogelu.
Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol
Dyma’r canlyniadau lefel uchel cyffredinol ar gyfer Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol:
- Mae gan bobl anabl yr ymreolaeth i fynegi eu hunain a chymryd rhan mewn profiadau cyfoethogi yn eu cymunedau lleol ac ochr yn ochr â’u cyfoedion, gan wneud hynny yn yr iaith o’u dewis heb ofni rhwystrau neu allgáu diangen.
- Mae pobl anabl yn cael eu grymuso drwy fynediad teg at adnoddau digidol a heb fod yn ddigidol, technolegau cynorthwyol, a llwyfannau hygyrch sydd wedi'u dylunio o amgylch anghenion defnyddwyr. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar gymdeithas mewn ffyrdd o'u dewis.
- Mae rhwystrau rhag ymgysylltu digidol yn cael sylw drwy ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a darparu sianeli eraill (ee nad ydynt yn ddigidol), gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw berson anabl yn cael ei adael ar ôl mewn byd sy'n dod yn fwyfwy digidol.
- Mae profiadau pobl anabl o’r systemau cyfreithiol a chyfiawnder, sifil a throseddol, yn cael eu gwella drwy wasanaethau wedi’u cyd-drefnu’n well, gwybodaeth am hawliau, cymorth ymatebol i oroeswyr camdriniaeth, a gwelliannau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Mae hawliau a phrofiadau pobl anabl yn cael eu hybu a’u cefnogi gan Sefydliadau Pobl Anabl, gwasanaethau cyhoeddus cynhwysol, a Llywodraeth Cymru sy’n gwerthfawrogi ac yn ymgorffori eu hawliau mewn polisi a’r gyfraith, er mwyn creu cymdeithas wirioneddol gynhwysol.
- Mae profiadau pobl anabl o’r systemau cyfreithiol a chyfiawnder, sifil a throseddol, yn cael eu gwella drwy wasanaethau wedi’u cyd-drefnu’n well, gwybodaeth am hawliau, cymorth ymatebol i oroeswyr camdriniaeth, a gwelliannau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
5. Cymdogaethau, lleoedd a thrafnidiaeth
Er mwyn cyflawni’r uchelgais cyffredinol hirdymor, a’r canlyniadau lefel uchel ar gyfer Cymdogaethau, Lleoedd a Thrafnidiaeth sy’n cael eu disgrifio ym Mhennod 4, mae’r adran hon yn nodi’r canlyniadau manwl rydym yn disgwyl eu gweld dros gyfnod o ddeng mlynedd o ganlyniad i’r camau rhaid i bob un ohonom eu cymryd i sicrhau bod ein cymdogaethau, lleoedd a’n trafnidiaeth yn gynhwysol, er mwyn i bobl anabl allu ffynnu. Mae Cymdogaethau, Lleoedd a Thrafnidiaeth yn cynnwys y themâu canlynol: teithio, tai a’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Teithio
Canlyniad 1: gwasanaethau trafnidiaeth hygyrch
Mae gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith teithio yn gynhwysol, yn rhyng-gysylltiedig ac yn cefnogi hawl pobl anabl i gymryd rhan lawn yn y cymunedau lle maen nhw’n byw ac mewn cymdeithas yn ehangach.
Canlyniad 2: cefnogi staff
Mae hyfforddiant ac adnoddau ar gael i’r rhai sy’n rhan o bob lefel o gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth er mwyn deall a bodloni anghenion teithio pobl anabl, a chyflawni yn erbyn eu rhwymedigaethau eu hunain o dan gyfraith cydraddoldeb ac yn unol â’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Canlyniad 3: polisi cynhwysol
Wrth lunio polisïau, mae pobl anabl yn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddylunio a darparu rhwydweithiau trafnidiaeth Cymru, gan sicrhau bod anghenion pob person anabl yn cael eu gwreiddio ar draws dulliau teithio a darparwyr trafnidiaeth yn y camau cynharaf.
Canlyniad 4: gwybodaeth hygyrch
Mae gwybodaeth teithio ar gael mewn amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, ac mae wedi’i chynllunio i alluogi pobl anabl i gynllunio, archebu a mynd ar eu taith heb rwystrau, ac i warchod eu hawl i gael gwybodaeth.
Canlyniad 5: llywodraethiant effeithiol
Sefydlu trefniadau llywodraethiant effeithiol sy’n canolbwyntio ar ddarparu dulliau teithio cynhwysol a hygyrch i bobl yng Nghymru, gan sicrhau bod eu profiadau bywyd yn cael eu gwerthfawrogi ac yn arwain at weithredu, a hynny drwy weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant ac ar draws dulliau teithio.
Canlyniad 6: newid hinsawdd a theithio
Nid yw pobl anabl dan anfantais nac yn cael eu heithrio gan bolisïau sy'n cefnogi sero net. Mae'r holl bolisïau perthnasol yn cael eu cyd-ddylunio gyda phobl anabl i sicrhau bod eu hanghenion a'u lleisiau'n cael eu cynnwys.
Canlyniad 7: cynhwysiant digidol a thechnoleg
Mae llwyfannau digidol, technoleg ac arloesi fel gwefannau, apiau a thechnoleg cymorth yn gwbl hygyrch a chynhwysol ar draws pob math o drafnidiaeth i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael gafael ar wybodaeth teithio amser real yn annibynnol ac archebu a mynd ar deithiau heb rwystrau.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 9 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, sy’n nodi bod angen i wledydd gymryd camau priodol i sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad, ar sail gyfartal â phobl eraill, at yr amgylchedd ffisegol, at drafnidiaeth, at wybodaeth a chyfathrebu, gan gynnwys technoleg a systemau gwybodaeth a chyfathrebu, ac at gyfleusterau a gwasanaethau eraill sy’n agored neu’n cael eu darparu i’r cyhoedd, a hynny mewn ardaloedd trefol a gwledig.
Mae'r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 20 o’r Confensiwn sy'n nodi bod angen i wledydd gymryd camau effeithiol i sicrhau symudedd personol i bobl anabl, gan gynnwys hwyluso mynediad at wahanol fathau o drafnidiaeth, cymhorthion symudedd a thechnolegau cynorthwyol, yn ogystal â chynnig hyfforddiant ac annog dylunio cynhwysol mewn atebion symudedd.
Mae teithio anhygyrch yn dal yn broblem sylweddol i bobl anabl, sy’n aml yn wynebu nifer o heriau o ran trafnidiaeth gynhwysol, fel rhwystro llwybrau ac mewn safleoedd bysiau, yn enwedig y safleoedd hynny lle mae’r bws yn tynnu i mewn ac mae diffyg cyrbiau isel, a lifftiau diffygiol mewn gorsafoedd rheilffordd. Mae hyn yn cael ei gydnabod yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r Cynllun Cyflawni sy’n tynnu sylw at y diffyg trafnidiaeth fforddiadwy neu gyfagos sydd ar gael fel rhwystr i waith, gwasanaethau a hamdden i rai unigolion, yn enwedig pobl hŷn a phobl anabl a allai hefyd fod angen gwasanaeth o ddrws i ddrws.
Mae’r ansicrwydd hwn yn gallu effeithio ar hyder ac ymddiriedaeth pobl anabl wrth symud o gwmpas cymunedau. Mae oedolion anabl neu bobl â salwch hirdymor cyfyngol yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn cerdded yn eu hardal leol neu’n teithio (60%) na phobl nad ydynt yn anabl (73%) yn 2024 i 2025. Mewn byd sy’n dod yn fwy a mwy digidol, rhaid gwneud mwy na chanolbwyntio ar fannau ffisegol i sicrhau teithio hygyrch. Nawr, rhaid i unigolion hefyd ddefnyddio llwyfannau ar-lein a systemau tocynnau digidol i fynd o le i le. Rhaid gwella’r broses hygyrch a chynhwysol o gynllunio teithiau o’r dechrau i’r diwedd, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae mynediad at drafnidiaeth yn aml yn waeth.
Mae pobl anabl yn aml yn teimlo bod eu hanghenion yn cael eu hanghofio pan fydd seilwaith trafnidiaeth yn cael ei ddylunio. Gall hyn gynnwys lonydd beiciau yn agos at fannau cerdded, er enghraifft. Mae Ymchwil ddiogelwch pobl anabl, sy’n tynnu sylw at yr angen i ddylunio seilwaith trafnidiaeth gwell a chynhwysol, a chynllunio i hybu teithio llesol gan osgoi’r risgiau hyn a gwella mynediad i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella teithio i bobl anabl yng Nghymru a bydd yn dechrau gweithio i sefydlu ei phanel teithio aml-ddull cynhwysol cyntaf ar gyfer pobl anabl yn ystod 2025-26. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod hawliau a lleisiau pobl anabl yn rhan ganolog o lunio polisïau trafnidiaeth. Drwy integreiddio eu safbwyntiau a’u harbenigedd, ein nod yw creu seilwaith trafnidiaeth cynhwysol sy’n parchu ac yn cynnal hawliau pob person anabl.
Mae rhai cynlluniau ‘cymorth i deithwyr’ yn annigonol ac yn methu cydnabod anghenion pobl anabl. Mae gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) ran hollbwysig i’w chwarae o ran sicrhau teithio cynhwysol a hygyrch i’r holl bobl anabl sy’n defnyddio ei wasanaethau rheilffyrdd. Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda TrC i wreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd (gan roi’r pwyslais ar gael gwared ar unrhyw rwystrau) yn ei ddiwylliant a’i wasanaethau, drwy sicrhau bod yr holl staff rheng flaen yn cael hyfforddiant a gwybodaeth am y model.
Mae gwasanaethau bysiau, tacsis a cherbydau llogi preifat i gyd yn hanfodol i gefnogi mynediad pobl anabl at weithgareddau hanfodol gan gynnwys gwaith, apwyntiadau iechyd a hamdden. Yn aml, tacsis a cherbydau llogi preifat yw’r unig ffordd y mae llawer o bobl anabl yn gallu symud o amgylch eu trefi a’u dinasoedd oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus gwbl hygyrch. Rydym am gael system drwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat sy’n addas ar gyfer Cymru fodern, sy’n hybu diogelwch teithwyr a gyrwyr, sy’n cyfrannu at amgylchedd glanach, sy’n gwella profiad y cwsmer ac sy’n hygyrch i bawb. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phobl anabl i ddeall y ddarpariaeth bresennol o drafnidiaeth gymunedol yn well ac i nodi unrhyw fylchau mewn gwasanaethau trafnidiaeth i bobl anabl.
Mae symud o gwmpas ar ein system drafnidiaeth yng Nghymru i ymweld â ffrindiau a theulu, mynd i'r gwaith, neu gael gofal iechyd, addysg a gweithgareddau hamdden yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi amrywiaeth o bolisïau, fframweithiau a mentrau ar waith i hyrwyddo teithio diogel ac annibyniaeth i bobl ag anableddau dysgu, sydd ei angen. Ar gyfer teithiau trên, rydym yn cynnig y rhaglen Cymorth i Deithwyr Genedlaethol, sy'n helpu i gynllunio a mynd ar deithiau, yn ogystal â cherdyn bws rhatach ar gyfer teithio ar fysiau.
Mae ein Cynllun Waled Oren ar gyfer unrhyw un a allai ei chael hi'n anodd cyfleu eu hanghenion wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac a fyddai'n hoffi cael cymorth i gyfathrebu â staff wrth deithio ar fws neu drên. Nod ein Dull Teithio i Bawb yw gwella gwybodaeth amser real a sicrhau ei bod yn gwbl hygyrch, ac rydym yn gweithio ar draws y llywodraeth i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cynrychioli yn ein fframweithiau llywodraethiant.
Bydd sicrhau pontio teg o'r economi tanwydd ffosil bresennol i ddyfodol carbon isel yn golygu datblygu dealltwriaeth glir o effeithiau posibl newid a sicrhau bod yr effeithiau hyn yn cael eu dosbarthu'n deg ar draws cymdeithas.
Mae dull Llywodraeth Cymru o gynllunio ar gyfer pontio teg yn gysylltiedig iawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ein helpu i sicrhau bod gwaith datgarboneiddio a gwrthsefyll yr hinsawdd yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n osgoi creu neu waethygu anghydraddoldebau ac sy'n cefnogi dull systemau o ddeall a mynd i'r afael â risgiau a chyfleoedd.
Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi Fframwaith Pontio Teg i helpu datblygwyr polisi a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ystyried effeithiau a chyfleoedd ehangach eu cynlluniau. Mae'r fframwaith yn cyflawni hyn drwy gyflwyno set o egwyddorion arweiniol, a thrwy annog gweithredu i ddadansoddi effeithiau, ysgogi rhanddeiliaid, ac integreiddio ystyriaethau pontio teg i brosesau gwneud penderfyniadau.
Yn ogystal â lleihau ein hallyriadau a chyrraedd sero net, mae angen i ni hefyd sicrhau ein bod yn addasu'n llwyddiannus i'n hinsawdd sy'n newid a'n bod yn barod ar gyfer yr effeithiau dwys sy'n cael eu hachosi gan newid hinsawdd. Cyhoeddwyd ein Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd i Gymru ym mis Hydref 2024 ac mae'n nodi'r hyn rydym yn ei wneud ar draws portffolios Llywodraeth Cymru i ymateb i'r newid hinsawdd. Mae'r Strategaeth yn ailddatgan ein hymrwymiad i fynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb, gan gynnwys sicrhau bod timau ar draws Llywodraeth Cymru yn ystyried lleisiau pobl anabl ar draws ein holl waith ar y cyd ar addasu i'r hinsawdd, fel y dylent ym mhob maes polisi a chyflawni. Mae portffolios ar draws Llywodraeth Cymru yn gweithio i gyflawni'r camau gweithredu yn y Strategaeth.
Tai
Canlyniad 1: gwybodaeth ac ymwybyddiaeth
Mae pobl anabl yn ymwybodol o’u hawliau tai a’r dewisiadau sydd ar gael iddynt o ran tai hygyrch a gwasanaethau cymorth.
Canlyniad 2: cyflenwad ac argaeledd tai hygyrch
Mae rhagor o dai addas a hygyrch ar gael, sy’n fforddiadwy, wedi’u dodrefnu a’u lleoli’n briodol i fodloni anghenion preswylwyr anabl, ac mae digon o dai o safon ar gael i helpu i ateb y galw a lleihau amseroedd aros.
Canlyniad 3: gwasanaethau tai hygyrch
Gwasanaethau tai mwy hygyrch, gan gynnwys prosesau ymgeisio, sy’n ddi-dor ac yn dryloyw, gan weithredu o dan ddull cyfannol, system gyfan i leihau rhwystrau i dai i breswylwyr anabl a sicrhau diogelwch i’r grwpiau mwyaf agored i niwed (ee pobl ddigartref neu bobl sy’n ffoi rhag trais).
Canlyniad 4: polisi cynhwysol
Mae strategaeth dai a pholisïau cysylltiedig yn cael eu datblygu drwy gynnwys pobl anabl ac ystyried anghenion croestoriadol.
Canlyniad 5: llywodraethiant effeithiol
Mae gwasanaethau tai a chymorth i bobl anabl yn cael eu llywodraethu’n dda ac yn cael eu dal yn atebol drwy’r trefniadau monitro, rheoleiddio, gorfodi a chasglu data perthnasol.
Canlyniad 6: staff cefnogol
Mae pawb sy’n rhan o’r gwaith o ddatblygu a darparu materion sy’n ymwneud â thai hygyrch, gan gynnwys swyddogion etholedig, gweithwyr yn y sector cyhoeddus, darparwyr tai a landlordiaid yn meddu ar wybodaeth briodol am y Model Cymdeithasol o Anabledd ac anghenion pobl anabl.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 28 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, sy’n nodi hawliau pobl anabl i safon byw ddigonol a diogelwch cymdeithasol. Mae’n cydnabod hawliau pobl anabl i safon byw ddigonol iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd, gan gynnwys tai digonol, a mynediad at raglenni tai cyhoeddus i bobl anabl.
Mae cael gwybodaeth hygyrch am dai yn hanfodol i bobl anabl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella mynediad pobl anabl at wybodaeth am dai, gan gynnwys pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Drwy ddarparu gwybodaeth hygyrch a chynhwysol, gallwn rymuso pobl anabl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch ble a sut maen nhw’n byw, a gwella mynediad teg at gyfleoedd tai. Mae’r dull hwn yn helpu i atal pobl rhag teimlo’n unig ac yn ynysig, yn hybu llesiant ac annibyniaeth, ac yn helpu pobl anabl i gymryd rhan lawn yn y gymuned.
Mae sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael gafael ar dai addas yn hanfodol er mwyn iddynt allu byw’n annibynnol a gwella ansawdd eu bywyd. Mae darparu cartrefi hygyrch o safon i bobl anabl yn gwella iechyd a llesiant, yn cefnogi gwell cyrhaeddiad addysgol, yn ogystal â manteision eraill. Mae diffyg tai fforddiadwy a hygyrch yn cyfyngu ar y dewisiadau sydd ar gael i bobl anabl, gan ei gwneud yn anodd iddynt ddod o hyd i lety sy’n cefnogi eu hannibyniaeth (Tai a Phobl Anabl: Argyfwng Cudd Prydain | Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol).
Gall addasu eiddo presennol i’w gwneud yn hygyrch fod yn rhy ddrud. Mae llawer o bobl anabl yn wynebu heriau ariannol ac mae cost uchel addasiadau angenrheidiol yn ychwanegu baich ychwanegol. Gall mynd i’r afael â’r rhwystrau ariannol hyn drwy grantiau, cymorthdaliadau a pholisïau tai cynhwysol helpu i sicrhau bod unigolion anabl yn cael mynediad cyfartal at amgylcheddau byw diogel, cyfforddus ac addas.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl anabl i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Os oes angen i bobl anabl wneud newidiadau i’w cartrefi, maen nhw’n gallu gwneud cais am gymorth gan y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl neu HWYLUSO: Cynllun Cymorth i Fyw'n Annibynnol. Mae’r cynllun HWYLUSO yn helpu pobl anabl gyda grantiau ar gyfer addasiadau fel canllawiau cydio a chanllawiau grisiau, cadeiriau codi ac adeiladu estyniad. Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gydag Awdurdodau Lleol i wella hygyrchedd a chydlynu’r gwaith o gyflwyno addasiadau tai a chyflenwi offer.
Mae byw mewn llety anaddas yn gallu achosi i lesiant meddyliol pobl anabl ddirywio’n sylweddol . Mae diffyg llety diogel yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd meddwl a llesiant corfforol, gan arwain at ragor o anawsterau o ran cael gwaith a chynnal perthnasoedd. Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar roi Terfyn ar Ddigartrefedd yn nodi bod angen cymorth ar bobl anabl i leihau’r risg o ddigartrefedd. Gan adeiladu ar y Papur Gwyn, cyflwynwyd y Bil Digartrefedd a Dyraniadau Tai Cymdeithasol (Cymru) i'r Senedd ar 19 Mai 2025.
Pan nad yw’n ddiogel iddynt aros yn eu cartref eu hunain, mae angen i bobl anabl a’u plant sy’n wynebu trais domestig ddianc o amgylchedd peryglus, yn ogystal â sicrhau llety sy’n cadw’r teuluoedd sy’n ffoi gyda’i gilydd ac sy’n bodloni eu gofynion hygyrchedd unigryw. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod pa mor bwysig yw gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i wella’r ddarpariaeth o lety hygyrch i bobl anabl, eu gofalwyr a’u plant wrth ffoi rhag trais.
Gall diffyg llety hygyrch a fforddiadwy gael effaith negyddol ar bobl anabl o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr er enghraifft, gan gyfyngu ar eu hannibyniaeth a chyfrannu at ganlyniadau iechyd gwaeth ac ansawdd bywyd is. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â phob cymuned i ddeall a mynd i’r afael â rhwystrau penodol mewn cysylltiad â thai.
Gwreiddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd
Canlyniad 1: mynediad at wasanaethau cyhoeddus
Mae hawl pobl anabl i fyw yn y gymuned yn cael ei harfer drwy waith cynllunio a dylunio cynhwysol, gan sicrhau mynediad cyfartal at amwynderau, cyfleusterau a mannau cyhoeddus, heb rwystrau.
Canlyniad 2: cymunedau cynhwysol a chydlynol
Mae pobl anabl yn cael eu cynrychioli a’u galluogi i gymryd rhan lawn yn eu cymunedau lleol, gyda chydweithrediad y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan sicrhau bod unrhyw gyfleusterau a gwasanaethau newydd sy’n agored i’r cyhoedd yn adlewyrchu pob agwedd ar hygyrchedd i bobl anabl a’u rhwydweithiau cymorth.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 9 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, sy’n nodi bod angen i wledydd gymryd camau priodol i sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad, ar sail gyfartal â phobl eraill, at yr amgylchedd ffisegol, at drafnidiaeth, ac at wybodaeth a chyfathrebu.
Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn dangos ffordd wahanol o feddwl am anabledd a rhwystrau i gynhwysiant. Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn cydnabod bod gan bobl anabl brofiadau gwahanol oherwydd y rhwystrau sy’n cael eu creu gan gymdeithas, drwy amgylcheddau anhygyrch, agweddau a gwerthoedd pobl, er enghraifft. O dan y model hwn, a thrwy ddileu’r rhwystrau hynny, gall pobl anabl gymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar sail gyfartal, ac mae cymdeithas yn elwa o gynhwysiant llawn pobl anabl.
Mae hyn yn cyferbynnu â’r Model Meddygol o Anabledd sy’n dweud nad yw pobl anabl yn gallu cymryd rhan mewn cymdeithas oherwydd eu hamhariadau neu eu gwahaniaethau. Gall y safbwynt hwn effeithio’n negyddol, nid yn unig ar fywyd pobl anabl ond ar sut mae rhai pobl anabl yn gweld eu hunain, sy’n gallu gwneud pobl anabl yn llai tebygol o herio eu heithriad o gymdeithas prif ffrwd.
Mae arddel y Model Cymdeithasol o Anabledd yn helpu i greu cymdeithas deg lle mae hawliau a chyfraniadau pobl anabl yn cael eu gwerthfawrogi. Drwy fabwysiadu’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar draws cymdeithas, gellir trawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu amgylcheddau cynhwysol a hygyrch i bob person anabl, gall sefydliadau addysgol sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal i ddysgu a ffynnu, a gall cyflogwyr greu gweithleoedd hygyrch a chynhwysol sy’n defnyddio sgiliau a doniau gweithwyr anabl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r Model Cymdeithasol o Anabledd ac i sicrhau bod pobl anabl yn rhan o’r gwaith o ddylunio, gweithredu a monitro polisïau, arferion a gweithdrefnau newydd a gwell perthnasol, sydd ddim yn creu rhwystrau i bobl anabl. Drwy wreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ein rhaglenni hyfforddi ac mewn arferion bob dydd, rydym yn herio gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl ac yn meithrin cymdeithas gynhwysol a theg. Rydym eisoes wedi rhoi hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd i dros 200 o aelodau’r Tasglu a’r gweithgorau, sydd ers hynny wedi integreiddio’r wybodaeth hon yn eu meysydd polisi, eu sefydliadau a’u harferion o ddydd i ddydd.
Mae hyfforddiant Model Cymdeithasol o Anabledd ar gael drwy Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru a Chynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru. Mae modiwl e-ddysgu ar gyfer busnesau ar gael ar wefan Busnes Cymru ac mae cynlluniau ar y gweill i ddarparu modiwl e-ddysgu ar gyfer holl weithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru.
Mae Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella argaeledd, ansawdd a manylder y dystiolaeth am unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig i’n helpu i ddeall a yw ein huchelgais yn cael ei chyflawni ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl. Mae’r Unedau Tystiolaeth yn dylunio ac yn profi cwestiynau arolwg safonol sy’n adlewyrchu’r Model Cymdeithasol o Anabledd, y gellid ei ymgorffori mewn gwaith casglu data ac ymchwil gymdeithasol yn y dyfodol. Mae pobl anabl wedi mynd ati i gymryd rhan weithredol ym mhob cam o'r ymchwil.
6. Cyflogaeth, incwm (arian), ac addysg
Er mwyn cyflawni’r uchelgais cyffredinol hirdymor, a’r canlyniadau lefel uchel ar gyfer Cyflogaeth, Incwm ac Addysg a ddisgrifir yn adran 4, mae’r bennod hon yn nodi’r canlyniadau rydym yn disgwyl eu gweld dros gyfnod o ddeng mlynedd, o ganlyniad i’r camau rhaid i bob un ohonom eu cymryd i sicrhau bod pobl anabl yn cael mwynhau safon byw dda drwy gyflogaeth ac incwm teg. Mae Addysg, Incwm a Chyflogaeth yn cynnwys y themâu canlynol: cyflogaeth ac incwm; ac addysg i blant a phobl ifanc.
Cyflogaeth, incwm (arian), ac addysg
Canlyniad 1: cymorth cyflogaeth a busnes
Mae pobl anabl yn gallu cael gafael ar gyngor a gwasanaethau datganoledig prydlon a chydlynol sy’n wybodus ac yn hygyrch, er mwyn eu galluogi i gael mynediad teg at gyfleoedd gwirfoddoli / profiad gwaith cyflogedig a di-dâl, hunangyflogaeth, a chyfleoedd gwaith/gyrfaoedd hirdymor.
Canlyniad 2: polisïau ac ymarfer cynhwysol
Mae gan bobl anabl fynediad at arferion recriwtio, cadw a datblygu cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r pwrs cyhoeddus i feithrin ymddygiadau sy’n cefnogi gweithlu cynhwysol, cael gwared ar rwystrau, a chreu amgylchedd cefnogol lle mae pobl anabl yn gallu ffynnu yn eu gyrfaoedd.
Canlyniad 3: cyflogwyr hygyrch
Mae pobl anabl yn cael eu cynrychioli ar bob lefel yng ngweithlu Cymru. Mae cyflogwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol a hawliau cyflogaeth gweithwyr anabl. Mae cyflogwyr yn cael eu hannog i fabwysiadu arferion cynhwysol i ddileu rhagfarn a gwahaniaethu yn y gweithle a hybu prosesau recriwtio, cadw a datblygu teg ar gyfer gweithwyr anabl, gan ddeall mai triniaeth wahanol, drwy ddarparu addasiadau rhesymol, yw’r ffordd o sicrhau tegwch o ran canlyniadau cyflogaeth yn aml.
Canlyniad 4: datblygu sgiliau
Mae ceiswyr gwaith a gweithwyr anabl o bob oed yn deall eu hawliau cyflogaeth ac yn gallu eu harfer, gan gynnwys drwy weithredu cadarnhaol i sicrhau cyfleoedd cyfartal ar gyfer dysgu gydol oes. Nid yw pobl anabl dan anfantais yn y farchnad swyddi oherwydd rhwystrau i addysg, hyfforddiant neu gymorth recriwtio. Mae gan bobl anabl fynediad at wybodaeth, cyngor, cymorth ac arweiniad gyrfaoedd a chyflogadwyedd proffesiynol, diduedd, personol.
Canlyniad 5: mynd i’r afael â’r rhwystrau i Incwm
Mae safbwyntiau pobl anabl yn cael eu hystyried wrth drafod â Llywodraeth y DU ynghylch diwygiadau i’r system budd-daliadau sydd heb ei datganoli.
Canlyniad 6: llai o anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol
Mae canlyniadau economaidd-gymdeithasol pobl anabl yn gwella, a’r anghydraddoldebau’n lleihau, drwy weithredu cadarnhaol a chyflawni’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Canlyniad 7: addysg i oedolion a dysgu gydol oes
Gan weithio gyda Medr a phartneriaid yn y sector, hyrwyddir manteision dysgu gydol oes a phennir targedau i gynyddu cyfranogiad, yn enwedig ymhlith y rhai a dangynrychiolir mewn addysg drydyddol a allai wynebu rhwystrau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu sefydliadol i ddysgu.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 27 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, sy’n nodi hawl pobl anabl i fyw’n annibynnol a chymryd rhan yn y gymuned. Rhaid i wledydd gymryd camau i wahardd gwahaniaethu ym mhob mater cyflogaeth a sicrhau amodau gwaith teg a ffafriol, gan gynnwys amddiffyn pobl rhag aflonyddu a’r hawl i gwyno. Dylid cymryd camau hefyd i hybu cyfleoedd cyflogaeth, datblygiad gyrfa a hunangyflogaeth i bobl anabl, yn ogystal â darparu addasiadau rhesymol yn y gweithle.
Mae'r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 24 Y Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau sy'n nodi hawl pobl anabl i gael mynediad at addysg drydyddol gyffredinol, hyfforddiant galwedigaethol, addysg oedolion a dysgu gydol oes heb wahaniaethu ac ar sail gyfartal ag eraill.
Mae llawer o bobl anabl sydd eisiau gwaith yn methu cael mynediad ato; mae’r rhwystrau’n cynnwys diffyg gweithleoedd hygyrch a chymorth yn y gwaith, sy’n eu hatal rhag ennill cyflog teg a chael boddhad o’u swydd. Er gwaethaf y gofynion cyfreithiol a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae llawer o gyflogwyr yn dal i fethu â deall yr addasiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gefnogi pobl anabl i gael gwaith. Mae’r hyfforddiant Cyflwyniad i Niwroamrywiaeth yn y Diwydiannau Creadigol, gan gwmni Unquiet Media, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, yn un o'r rhaglenni rydym yn eu cefnogi sy'n ceisio mynd i'r afael â hyn. Mae hyfforddiant i gyflogwyr ar wneud addasiadau rhesymol i weithwyr niwrowahanol hefyd ar gael gan Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru.
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025, y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 52%, a’r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru oedd 81%. Hefyd, mae gweithwyr anabl yn aml yn canfod eu hunain mewn swyddi sy’n talu llai. Mae Adroddiad Llesiant Cymru: 2025 yn dangos y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl heb anabledd yng Nghymru yn £1.18 (8%) yn 2024. Mae cerrig milltir cenedlaethol yn gosod y targed hirdymor i ddileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050.
Ymhlith oedolion o oedran gweithio, mae 27% o unigolion sy’n byw mewn teulu lle mae unigolyn anabl yn byw mewn tlodi incwm cymharol o’u cymharu â 18% o’r rhai mewn teuluoedd lle nad oes neb sy’n ystyried ei hun yn anabl tlodi incwm cymharol. Yn 2024-25, roedd un o bob saith o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngol hirdymor (14%) yn byw mewn cartref mewn amddifadedd materol o’i gymharu â 10% o bobl nad oeddent yn anabl, Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mewn blynyddoedd arolwg blaenorol, roedd tua un o bob pedwar neu bump o bobl anabl neu bobl â salwch hirdymor cyfyngol yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol. Roedd sampl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2024-25 yn cynnwys llai o bobl o ardaloedd incwm isel. Gallai hyn fod wedi effeithio ar yr amcangyfrifon ar gyfer amddifadedd materol. Mae’r niferoedd hyn yn tynnu sylw at wahaniaeth sy’n peri pryder sy’n gwbl annerbyniol mewn cymdeithas deg a chyfiawn.
Mae sicrhau bod safon byw pobl anabl yn deg, drwy incwm a gwaith teg, yn hanfodol i hybu cymdeithas gynhwysol lle gall pawb gyfrannu’n ystyrlon. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod annog ceisiadau am swyddi gan bobl anabl yn dda i fusnesau, gan roi mantais gystadleuol i sefydliadau. Gall helpu i gynyddu nifer yr ymgeiswyr o ansawdd uchel a chreu gweithlu sy’n adlewyrchu ei gymuned leol.
Mae’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn fenter ledled y DU a sefydlwyd i helpu cyflogwyr i fanteisio i’r eithaf ar y doniau y gall pobl anabl eu cynnig yn y gweithle. Fodd bynnag, mae nifer isel o sefydliadau sector cyhoeddus yn ennill y statws Lefel 3 Uchaf o ran Arweinydd ac ymddiriedaeth yn y cynllun gan bobl anabl. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU wrth iddi gynnal ei hadolygiad o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd, i fynd i'r afael â'r materion hyn. Rydym hefyd am gynyddu nifer y cyflogwyr yng Nghymru sy'n ennill statws arweinydd. I gyflawni hyn, rydym yn sefydlu Fforwm Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd yng Nghymru. Bydd hyn yn dod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd â chyflogwyr sydd wedi ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd lefel 3 i rannu a lledaenu arferion da a defnyddio dysgu gan gymheiriaid i annog sefydliadau eraill yng Nghymru i ymuno â'r cynllun a symud ymlaen i statws Arweinydd. Rydym hefyd yn galw ar ein partneriaid yn y sector cyhoeddus i arwain drwy esiampl ac ymrwymo i ddod yn Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd lle nad yw hyn eisoes yn wir.
Mae ein Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn mynd ati i gefnogi cyflogwyr ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus i gyflawni’r nod hwn. Caiff hyn ei ategu gan waith Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru sy’n helpu Busnesau Bach a Chanolig i wella eu harferion cyflogaeth, a thrwy adnoddau digidol sydd ar gael drwy Busnes Cymru. Rydym hefyd yn gweithio i wella ein perthynas â Chynghorwyr Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn ein galluogi i gydweithio’n fwy strategol yn ein hymdrechion i gynyddu nifer y sefydliadau sy’n symud ymlaen i ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Ar ben hynny, rydym wedi gweithio gydag aelodau'r Tasglu Hawliau Pobl ag Anableddau i gydgynhyrchu tystiolaeth a fydd yn profi dichonoldeb cynllun penodol i Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyd-gynhyrchu Ymchwil sy'n edrych ar y Cynllun Hyderus o ran Anabledd, dan arweiniad pobl anabl yng Nghymru. Mae canfyddiadau'r ymchwil hwn yn cynrychioli safbwyntiau rhanddeiliaid.
Busnes Cymru yw prif wasanaeth cymorth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru i ficrofusnesau a Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a darpar entrepreneuriaid o bob oed.
Mae Llywodraeth Cymru’n cyflogi pum Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl, sy’n dod â phrofiad bywyd ac arbenigedd i’w rolau, fel aelodau parhaol o staff. Mae’r Hyrwyddwyr hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl sy’n gweithio’n fewnol ac yn allanol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu cynhwysiant a hawliau pobl anabl drwy annog sefydliadau a busnesau ledled Cymru i benodi hyrwyddwyr penodol i wella mynediad pobl anabl at waith.
Mae opsiynau gweithio hybrid neu hyblyg yn arbennig o bwysig i lawer o bobl anabl; gall trefniadau gweithio hybrid fod o fudd i gyflogwyr a gweithwyr anabl. Rhaid i drefniadau priodol fod ar gael pan fydd pobl anabl yn cael eu cyflogi er mwyn eu helpu i gyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau ac i sicrhau bod cyflogwyr yn gweithio o fewn y fframweithiau cyfreithiol.
Mae angen cefnogaeth ar gyfer addysg uwch ar ôl ysgol, datblygu sgiliau a phrentisiaethau ar gyfer pobl ifanc anabl a’r rhai sy’n hŷn ac sy’n ystyried ailsgilio, gan gefnogi grymuso, annibyniaeth a chydraddoldeb. Drwy gefnogi polisïau ac arferion cynhwysol, gall Cymru osod meincnod ar gyfer creu cymdeithas lle mae pawb yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial a chyfrannu mewn ffordd ystyrlon.
Mae pobl anabl yn aml yn cael eu hystyried yn bobl sy'n derbyn gwasanaethau fel gofal a chymorth yn oddefol. Mewn gwirionedd, mae pobl anabl yn arweinwyr economaidd, yn entrepreneuriaid ac yn gyflogwyr. Mae economeg gynhwysol, lle mae pobl anabl yn dod â phrofiad uniongyrchol, ac arbenigedd yn cefnogi'r economi i sicrhau Cymru fwy ffyniannus.
Mae Medr yn ariannu’r e-Hwb Cyflogadwyedd, sef adnodd ar-lein a ddatblygwyd i helpu myfyrwyr o grwpiau sy'n llai tebygol yn ystadegol o fynd i'r brifysgol i ddod o hyd i’w llwybr gyrfa. Gall helpu dysgwyr anabl i feithrin sgiliau a hyder mewn gyrfa wrth chwilio am waith.
Mae Gofod Myfyrwyr, sy'n cael ei ariannu ar y cyd gan Medr, yn cynnig gwybodaeth arbenigol, gwasanaethau cymorth, ac amrywiaeth eang o adnoddau dwyieithog ar-lein sy'n cael eu creu gyda myfyrwyr, i helpu gyda heriau bywyd prifysgol. Mae hyn yn cynnwys adnoddau a chyngor i fyfyrwyr anabl.
Addysg i blant a phobl ifanc
Canlyniad 1: mynediad at addysg
Bydd y gwaith o ddatblygu polisi addysg ac iechyd yn nodi, yn ystyried ac yn ymateb i anghenion addysgol ac iechyd plant a phobl ifanc anabl.
Canlyniad 2: polisi addysg cynhwysol
Mae dysgwyr a staff anabl yn gallu cyfrannu’n ystyrlon at ddatblygu polisi addysg drwy ddull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau, ac yn cael llais yn y gwaith o gynllunio a darparu’r cymorth maen nhw’n ei gael ar draws yr holl sefydliadau addysg, gan gynnwys lle addysg sy’n cael ei darparu gartref.
Canlyniad 3: darparwyr addysg cefnogol
Mae gan ddarparwyr addysg yr adnoddau a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i ymgorffori’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn llawn ac i wreiddio hawliau dysgwyr anabl, fel plant a phobl ifanc ac fel pobl anabl, gan gynnwys drwy recriwtio staff addysgu anabl a darparu hyfforddiant ac offer arbenigol.
Canlyniad 4: arolygu, rheoleiddio a chydymffurfio
Mae addysg gynhwysol a hygyrch yn cael ei darparu ar gyfer dysgwyr anabl, gyda threfniadau cadarn ar gyfer rheoleiddio, arolygu a gorfodi wedi’u hategu gan raglen effeithiol o fonitro a gwerthuso sy’n adlewyrchu profiadau dysgwyr anabl, ac sy’n nodi ac yn hybu enghreifftiau o arferion da.
Canlyniad 5: lleoliadau addysgol hygyrch
Mae lleoliadau addysgol a sefydliadau academaidd eraill yn hygyrch o ran eu dyluniad ac o ran eu seilwaith ffisegol ategol, gan alluogi pobl anabl i ddysgu gyda’u cyfoedion ac yn eu cymunedau lleol.
Canlyniad 6: mynediad at addysg bellach ac uwch
Mae dysgwyr anabl yn profi trosglwyddiad llyfn i addysg bellach neu uwch drwy gynllunio effeithiol ar gyfer pontio, arferion cynhwysol, ac amgylcheddau dysgu cefnogol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthyglau 7 a 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
Mae Erthygl 7 yn nodi’r gofyniad i wledydd gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod plant anabl yn mwynhau eu hawliau dynol a’u rhyddid sylfaenol yn llawn yr un fath â phlant eraill.
Mae Erthygl 24 yn cydnabod hawl pobl anabl i addysg, gan orfodi system gynhwysol ar bob lefel. Rhaid i wledydd sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys mewn addysg gyffredinol, darparu addasiadau rhesymol, a chefnogi dysgu effeithiol. Mae hyn yn cynnwys dysgu Braille ac Iaith Arwyddion Prydain i bobl, cyflogi athrawon cymwysedig, a sicrhau mynediad at addysg uwch a dysgu gydol oes heb wahaniaethu. Mae cynhwysiant mewn lleoliadau prif ffrwd yn annog ymdeimlad o berthyn a chymuned, sy’n hanfodol i lesiant cymdeithasol ac emosiynol pob plentyn a pherson ifanc. Mae addysg plant anabl, ac yn enwedig plant dall, byddar neu ddall fyddar, yn cael ei chyflwyno yn yr ieithoedd a'r dulliau mwyaf priodol o gyfathrebu ar gyfer yr unigolyn, ac mewn amgylcheddau sy'n sicrhau'r datblygiad academaidd a chymdeithasol gorau posibl.
Mae cynhwysiant a mynediad i blant anabl yn ystod eu blynyddoedd cynnar a thrwy gydol eu bywyd ysgol yn hanfodol er mwyn iddynt gyflawni eu potensial. Mae cynnwys plant a gadael iddynt gymryd rhan yn gynnar yn sicrhau bod plant yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn a hunan-werth, sy’n sylfaenol ar gyfer eu datblygiad cyffredinol. Fodd bynnag, mae eu profiadau’n amrywio yn dibynnu ar argaeledd y gefnogaeth briodol a mynediad at brofiadau a chyfleoedd chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar.
Mae mynediad at y mathau cywir o adnoddau a chefnogaeth i blant anabl i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae ac addysgol yn hanfodol i ddatblygiad plant. Wrth iddynt symud ymlaen drwy’r ysgol, mae cynhwysiant parhaus a mynediad at gyfleoedd addysgol wedi’u teilwra yn eu helpu i feithrin sgiliau hanfodol, hyder ac annibyniaeth. Nid yn unig mae'r amgylchedd cefnogol hwn yn gwella eu cyflawniadau academaidd, mae hefyd yn paratoi plant a phobl ifanc ar gyfer dyfodol llwyddiannus a boddhaus, gan eu grymuso i gyfrannu'n ystyrlon at gymdeithas.
Mae plant a phobl ifanc anabl yn aml yn wynebu heriau ychwanegol y mae’n rhaid iddynt eu goresgyn os ydynt yn dymuno cymryd rhan lawn mewn cymdeithas a byw bywyd ar eu telerau eu hunain Mae gwella hygyrchedd a chefnogaeth yn hanfodol i sicrhau bod plant a phobl ifanc anabl yn cael y dechrau gorau. Efallai y bydd angen mwy o help ar rai plant a phobl ifanc yn yr ysgol i gyflawni eu potensial llawn. Mae’n bwysig cydnabod nad oes gan bob plentyn a pherson ifanc anabl anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gallai’r cymorth sydd ei angen fod yn fynediad gwell i adeilad, neu ardal dawelach yn yr ysgol, er enghraifft.
Mae rhai rhieni a gofalwyr yn dweud bod rhai plant ag ADY yn parhau i wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at addysg. Yn 2024 i 2025, dyfarnwyd gradd A* i C i 32% o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu harholiadau TGAU (i lawr o 34% yn 2023/24) (Canlyniadau arholiadau). O flwyddyn academaidd 2024 i 2025, roedd 3,014 o ddisgyblion yng Nghymru yn cael rhyw fath o addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Yn 2024 i 2025, yn ôl cyfran, roedd cryn dipyn yn fwy o ddisgyblion ag ADY yn cael eu haddysgu’n bennaf y tu allan i’r ysgol na’r boblogaeth gyffredinol o ddisgyblion.
Mae Llywodraeth Cymru’n dal wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn gallu arfer ei hawl i addysg waeth beth fo’i wahaniaethau, a chael addysg gynhwysol o ansawdd uchel a’r cyfle i lwyddo. Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf) yn nodi dyletswydd i hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn ac ar hawliau pobl anabl. Rhaid i ysgolion a lleoliadau eraill hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ddau gonfensiwn ymysg y rhai sy’n dysgu ac yn addysgu mewn perthynas â chwricwlwm eu hysgol neu leoliad. Mae Hwb Llywodraeth Cymru’n darparu amrywiaeth o gynnwys ac offer digidol i leoliadau addysg yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o drawsnewid arferion dysgu ac addysgu digidol, gan gynnwys canllawiau ar y ddau gonfensiwn. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod rhaglenni hyfforddi’n cael eu darparu i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc anabl.
Gall plant ag ADY sy’n siarad Cymraeg wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gael mynediad at addysg. Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wella’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio’r gweithlu gyda’r sector anghenion dysgu ychwanegol. Caiff hyn ei fonitro drwy Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Canllawiau i gefnogi athrawon wrth gynllunio a rhoi cymorth i ddysgwyr sydd ag amhariad ar eu clyw a/neu ar eu golwg, awtistiaeth ac ADHD. Mae’r rhain yn adeiladu ar yr Asesiadau Tystiolaeth Cyflym, sy'n edrych ar effeithiolrwydd ymyriadau addysgol i gefnogi'r dysgwyr hyn.
Gall digwyddiadau fel diwrnodau blasu gydag oriau tawel, teithiau ar-lein, ysgolion haf, diwrnodau cadw mewn cysylltiad a ffeiriau gyrfaoedd pwrpasol helpu dysgwyr i bontio'n ddidrafferth i addysg bellach ac uwch. Gall myfyrwyr gysylltu â'u tîm Gwasanaethau Myfyrwyr am gyngor pan fydd angen cefnogaeth arnynt. Gallai hyn gynnwys trafodaethau ar gymorth ariannol neu addasiadau rhesymol. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr anabl.
Mae'r Cynllun Braenaru ADY wedi'i gynllunio i helpu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i bontio'n llwyddiannus o'r ysgol i addysg bellach. Gyda'i gilydd mewn partneriaeth â cholegau ledled Cymru, mae'r adnodd yn cefnogi dysgwyr ADY a'u teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus wrth iddynt gynllunio eu camau nesaf. Mae'r wefan wedi cael ei datblygu gan ddefnyddio cyllid grant Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru a'i chefnogi gan ColegauCymru.
Mae rhaglen Ymestyn yn Ehangach sy'n cael ei hariannu gan Medr, yn gydweithrediad rhwng colegau, prifysgolion a phartneriaid addysg eraill. Mae'n cynnig gweithgaredd ehangu mynediad i annog dysgwyr ysgolion a cholegau i ystyried eu dyheadau ar gyfer y dyfodol ac addysg, yn ogystal â meithrin sgiliau academaidd a mentora. Mae'n helpu grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys dysgwyr anabl. Mae'n codi dyheadau a sgiliau addysgol ac yn creu cyfleoedd astudio arloesol a llwybrau dysgu i addysg uwch.
Mae gan bob coleg a phrifysgol Gynlluniau Cydraddoldeb Strategol ar waith ac maent yn cydweithio i gyflawni ymrwymiadau gan gynnwys hyrwyddo mynediad cyfartal a chyfle cyfartal. Mae Medr yn adolygu eu cynlluniau, sy'n nodi sut y byddant yn cyflawni dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae Medr yn cynhyrchu Amodau Rheoleiddio ac Ariannu, gan gynnwys amodau ar 'Cyfle Cyfartal' a 'Lles Staff a Myfyrwyr', sy'n gosod disgwyliadau ar golegau a phrifysgolion, gan gynnwys ar gefnogi myfyrwyr anabl.
Mae plant a phobl ifanc ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) fel arfer yn ei chael hi'n anodd canolbwyntio a thalu sylw mewn lleoliadau addysgol. Gall hyn arwain at berfformiad a phresenoldeb academaidd gwael, yr angen am ddarpariaeth addysg arbennig, mewn rhai achosion, gwaharddiad o'r ysgol, a'i gwneud yn llai tebygol iddynt fynd ymlaen i addysg bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr ag ADHD ac mae wedi cyhoeddi Canllawiau, yn seiliedig ar asesiad o astudiaethau ymchwil, sydd wedi ystyried effeithiolrwydd dulliau o gefnogi plant a phobl ifanc ag ADHD. Nod y canllaw yw cefnogi ymarferwyr wrth gynllunio a chynnig cymorth amserol ac effeithiol i blant a phobl ifanc ag ADHD.
Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod pob plentyn anabl yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Mae darpariaeth blynyddoedd cynnar cynhwysol yn gosod sylfeini cryf ar gyfer datblygiad plentyn. Dylai gofal plant y blynyddoedd cynnar fod yn gwbl hygyrch i blant anabl. Rydym ni wedi ymrwymo i adolygu sut mae’r Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar yn cefnogi hygyrchedd yr amgylchedd ffisegol ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae cofrestredig cynhwysol.
Mae un neu ddau o fabanod o bob 1,000 yn cael eu geni gydag amhariad ar y clyw, a allai effeithio ar ddatblygiad eu hiaith a’u lleferydd. Mae sgrinio clyw babanod newydd-anedig yn helpu i ddod o hyd i’r babanod hynny ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth o’r dechrau. Os canfyddir bod plentyn yn fyddar neu ag amhariad ar y clyw ar unrhyw oedran, bydd anghenion cyfathrebu ac iaith yn cael eu hystyried ar y cam cynharaf gan Awdiolegwyr yng Nghymru.
Os canfyddir angen cyfathrebu, yna bydd yn cael ei atgyfeirio at Athrawon Cymwysedig plant byddar y Therapyddion Iaith a Lleferydd. Gall y dewisiadau gynnwys iaith lafar, Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg gyda Chymorth Arwyddion, Makaton neu gyfuniad o iaith lafar ac iaith arwyddion, gan gynnwys dwyieithrwydd, yn dibynnu ar beth sy’n cael ei ystyried orau i’r plentyn yn dilyn asesiad a chydweithio rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Caiff canlyniadau atgyfeiriadau eu monitro yng Nghynllun Rheoli Cleifion Unigol yr Adran Awdioleg. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau hygyrch, ymatebol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy’n bodloni anghenion holl bobl ddall fyddar Cymru.
Mae’n hanfodol bod pob baban yn caffael iaith. Dylid rhoi cyfle i rieni a babanod/plant byddar ddysgu Iaith Arwyddion Prydain a chael mynediad at fodelau rôl Iaith Arwyddion Prydain byddar. Mae cymorth asesu cynnar a mynediad at iaith i fabanod a phlant byddar yn hanfodol i’w datblygiad gwybyddol ac ieithyddol. Mae cyfathrebu cadarn ac effeithiol drwy BSL yn cefnogi perthnasoedd iach a chadarnhaol rhwng rhieni / gofalwyr a’u plant. Byddwn yn parhau i weithio i wella’r gwaith o asesu a chefnogi babanod a phlant byddar yn gynnar.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gefnogi Iaith Arwyddion Prydain ac i hybu defnyddio’r iaith yng Nghymru, a gwybodaeth am yr iaith ac arbenigedd ynddi. Ein bwriad yw dylunio a datblygu polisïau sy’n sicrhau’r effaith gadarnhaol fwyaf i gymuned arwyddion Iaith Arwyddion Prydain Cymru, gan wneud darpariaethau i hybu a hwyluso defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a’i ffurfiau cyffyrddol a chael gwared â’r rhwystrau iaith presennol. Mae Iaith Arwyddion Prydain wedi’i hintegreiddio yn y cymhwyster Sgiliau Bywyd newydd, a fydd ar gael ym mhob ysgol o fis Medi 2027 ymlaen. Mae’r newid hwn yn caniatáu ar gyfer dull cynhwysfawr, gan fynd i’r afael â’r angen am athrawon cymwysedig a chroesawu gwahaniaethau mewn tafodieithoedd rhanbarthol mewn Iaith Arwyddion Prydain.
7. Byw'n annibynnol, iechyd a gofal cymdeithasol
Er mwyn cyflawni’r uchelgais cyffredinol hirdymor, a’r canlyniadau lefel uwch ar gyfer Byw'n Annibynnol a ddisgrifir yn adran 4, mae’r adran hon yn nodi’r canlyniadau rydym yn disgwyl eu gweld dros gyfnod o 10 mlynedd, o ganlyniad i’r camau y mae’n rhaid inni gyd eu cymryd i sicrhau bod pobl anabl yn cael yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill gartref, yn y gwaith, ym myd addysg ac yn y gymuned. Mae Byw’n Annibynnol yn cynnwys y themâu canlynol: llesiant ac iechyd, gofal a chymorth.
Llesiant
Canlyniad 1: mynediad at brofiadau llesiant
Mae gan bobl anabl yr un cyfle a hawliau i ddarparu a mwynhau profiadau buddiol ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a diwylliant. Maen nhw’n cael eu helpu i wneud hynny gan weithluoedd a sefydliadau sy’n gwerthfawrogi cyfraniad pobl anabl ac sy’n deall eu rôl yn gwarchod hawl pobl anabl i gymryd rhan mewn bywyd diwylliannol a chwaraeon.
Canlyniad 2: chwarae ac adloniant cynhwysol
Gall pobl anabl, o’u plentyndod ymlaen, gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden hygyrch lleol ochr yn ochr â’u cyfoedion, gan gynnwys drwy ddigwyddiadau sy’n benodol i unigolion anabl, gyda’r offer a’r cyfarwyddyd angenrheidiol i oresgyn rhwystrau rhag cyfranogi.
Canlyniad 3: cyfathrebu a mynegi cyfartal
Gall pobl anabl ddefnyddio gwasanaethau lleol a mynegi eu hunain yn rhydd yn yr iaith o’u dewis, a hynny ar lafar ac yn ddieiriau. Maen nhw’n cael eu galluogi drwy ddarpariaeth o adnoddau a hyfforddiant i gael mynediad at dechnolegau sy’n cefnogi pob math o gyfathrebu, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain a’r Gymraeg.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 30 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, sy’n nodi bod gan bobl anabl yr hawl i gymryd rhan mewn bywyd diwylliannol, hamdden, adloniant a chwaraeon ar sail gyfartal ag eraill. Hefyd, o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) sy’n berthnasol i bob plentyn, mae Erthygl 15 yn nodi’r hawl i blant gwrdd ac ymuno â grwpiau, ac Erthygl 31 yn nodi’r hawl i chwarae. Mae llesiant a chynnwys pobl anabl mewn digwyddiadau diwylliannol, treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon, hamdden a chwarae yn allweddol er mwyn cael cymdeithas fywiog a chynhwysol. Drwy gael gwared ar rwystrau a hybu hygyrchedd, rydym yn gwneud bywydau pobl anabl yn well ac yn creu cymunedau lle gall pawb gymryd rhan a chyfrannu. Fodd bynnag, mae pobl anabl yn dal i wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at weithgareddau diwylliannol, treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon, hamdden a chwarae. Mae rhwystrau ffisegol, polisi’r hyrwyddwr/lleoliad, tocynnau ar sail gyfrannol, diffyg gwybodaeth, a hyfforddiant annigonol i staff yn broblemau cyffredin. Tynnir sylw hefyd at fynediad at fanciau neu gymdeithasau adeiladu fel rhwystr i lawer o bobl anabl.
Gall cyfleusterau hamdden a manwerthu hygyrch helpu’r economi leol drwy ddenu mwy o gwsmeriaid. Yn ogystal, mae cyfleusterau chwarae, hamdden a manwerthu hygyrch yn gwella cynhwysiant, cydraddoldeb ac ymgysylltiad y gymuned. Fodd bynnag, canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016 i 2017 mai’r math mwyaf cyffredin o adeilad yr oedd pobl anabl yn cael trafferth mynd i mewn iddo a’i ddefnyddio oedd siopau (45% o bobl anabl) ac yna ysbytai (38%). O’r rhai a oedd yn cael trafferth cael mynediad i adeiladau cyhoeddus, dywedodd 41% fod eu hanhawster yn ymwneud â ‘symud o gwmpas yr adeilad’, dywedodd 25% fod ‘problemau parcio’ yn peri anhawster iddynt a dywedodd 22% bod ‘lifftiau annigonol’ a ‘chyfleusterau toiled annigonol’ yn broblemau. Drwy wneud arddangosfeydd a pherfformiadau yn hygyrch drwy ddarpariaethau fel Iaith Arwyddion Prydain, disgrifiadau sain ac amgylcheddau sy’n ystyriol o bobl niwrowahanol, mae cymdeithas yn helpu i sicrhau bod pobl anabl yn gallu ymgysylltu â’n treftadaeth ddiwylliannol amrywiol a chyfrannu at y gwaith o’i gwarchod a’i dathlu.
Mae’r celfyddydau’n ffordd wych i bobl fynegi eu hunain a chymryd rhan yn y gymuned leol. Mae rhaglenni celfyddydol cynhwysol a lleoliadau hygyrch yn rhoi cyfle i artistiaid anabl arddangos eu sgiliau a’u doniau a rhannu eu barn, herio stereoteipiau a hybu cynhwysiant. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi Hijinx - cwmni theatr proffesiynol sy’n gweithio i arloesi, cynhyrchu a hybu cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth greu cynyrchiadau theatr a ffilm.
Roedd y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025 yn nodi blaenoriaethau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau, y celfyddydau a'r amgylchedd hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys Dyhead Un 'Gwneud Diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol', sy'n flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn gyntaf o weithredu. I bobl anabl, mae hyn yn cynnwys gwneud lleoliadau diwylliannol yn fwy hygyrch i bobl anabl sy'n ymweld, yn gweithio ac yn gwirfoddoli, gwneud lleoliadau'n fwy cynrychioliadol o bobl anabl a galluogi pobl anabl a gofalwr neu gydymaith i fynd yno a chymryd rhan.
Dyfarnwyd dros £3 miliwn o grantiau cyfalaf yn ddiweddar i sefydliadau diwylliannol ledled Cymru i ymgymryd â phrosiectau gwella cyfalaf, gan gynnwys gwelliannau hygyrchedd i leoliadau diwylliannol ar gyfer pobl anabl. Mae'r rhaglen grant cyfalaf Trawsnewid yn cefnogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd i wella adeiladau, gan gynnwys gwella hygyrchedd.
Mae cynllun Hynt yn gweithio ar draws sector celfyddydau Cymru gyda theatrau a lleoliadau celfyddydol i roi cynnig cyson i ymwelwyr sydd ag amhariad neu ofyniad hygyrchedd penodol a'u Gofalwyr neu eu Cynorthwywyr Personol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn rhedeg y Rhaglen Ariannu Camau Creadigol sy'n cefnogi unigolion a sefydliadau gan gynnwys grwpiau/unigolion byddar, anabl a niwrowahanol i oresgyn rhwystrau rhag cael gafael ar gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Cadw yn cynnig Aelodaeth i Berson Anabl sy'n caniatáu i berson anabl a chydymaith gael mynediad am ddim i holl safleoedd Cadw sydd â staff. Mae Canllawiau Mynediad hefyd ar gyfer pob eiddo Cadw i helpu pobl anabl i gynllunio eu hymweliad. Mae Cadw wedi bod yn gwella mynediad i'w eiddo i bobl anabl. Mae hyn yn cynnwys gosod pont yng Nghastell Harlech, pontydd a lifft i roi mynediad i holl loriau Porth y Brenin yng Nghastell Caernarfon, ac eleni rhoddwyd rampiau a llwybrau newydd yng Nghastell Caerffili. Mae dolenni sain wedi'u gosod ym mhob un o ganolfannau ymwelwyr Cadw hefyd.
Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chwaraeon yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol, llesiant meddyliol a pherthnasoedd. Mae cyfleusterau chwaraeon hygyrch a rhaglenni cynhwysol yn helpu pobl anabl i fwynhau manteision ffordd egnïol o fyw. Mae chwaraeon hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith tîm a chreu ymdeimlad o berthyn a chydgefnogaeth, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru, sy'n ceisio creu sector chwaraeon cynhwysol.
Fel rhan o ddyletswyddau awdurdodau lleol o ran digonolrwydd cyfleoedd chwarae, mae'n ofynnol asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae sy'n gynhwysol ac yn hygyrch ac sy'n annog pob plentyn i chwarae a chwrdd â'i gilydd os yw'n dymuno gwneud hynny.
Mae'n cydnabod bod pobl ag anabledd yn anabl o ganlyniad i'r rhwystrau sy'n bodoli'n gyffredin mewn cymdeithas. Mae'r rhwystrau hyn yn cynnwys agweddau negyddol yn ogystal â rhwystrau corfforol a sefydliadol, sy'n gallu atal plant rhag cymryd rhan yn yr amrywiaeth o gyfleoedd chwarae yn eu hardal.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyfleoedd chwarae plant i wella ansawdd mannau chwarae a meysydd chwarae. Mae gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i brynu eitemau ar raddfa fawr i wella ansawdd mannau chwarae, adnewyddu meysydd chwarae a chefnogi'r gwaith o greu mannau chwarae cynhwysol a hygyrch.
Rydym yn cymryd camau rhagweithiol i gynyddu nifer yr arddangosfeydd, y perfformiadau, y gemau a’r digwyddiadau hygyrch sydd ar gael, ac i wella eu hansawdd, gan sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn gynhwysol. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion i gael gwared ar rwystrau ffisegol, gyda pholisïau tocynnau gwahaniaethol yn dangos yn glir bod Iaith Arwyddion Prydain, disgrifiadau sain/perfformiadau addas ar gyfer awtistiaeth yn cael eu darparu.
Iechyd, gofal a chymorth
Canlyniad 1: gofal prydlon a chydlynol
Mae pobl anabl o bob oed yn cael eu grymuso i arfer eu hawl i’r safon iechyd uchaf posibl drwy fynediad cydlynol, di-dor a phrydlon at y gofal a’r cymorth priodol, sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau presennol ac yn goresgyn rhwystrau presennol, gan gynnwys y rhai a wynebir wrth drosglwyddo rhwng darparwyr neu wasanaethau sy’n gysylltiedig ag oedran.
Canlyniad 2: lleoliadau gofal hygyrch
Mae pobl anabl yn cael gofal a chymorth mewn lleoliadau gofal cymdeithasol (wyneb yn wyneb neu o bell) sy’n hygyrch, ac sydd â’r cyfleusterau a’r swyddogaethau i sicrhau bod yr holl anghenion mynediad yn cael eu bodloni ar draws pob oed. Mae gan bobl anabl ymreolaeth i ddewis sut a ble maen nhw’n cael eu gofal a’u cymorth.
Canlyniad 3: polisi gofal sy’n canolbwyntio ar hawliau ac ar yr unigolyn
Mae pobl anabl yn cyfrannu at lunio polisïau sy’n ymwneud â’u gofal a’u cymorth drwy ddulliau cynhwysol a chydweithredol. Nod y polisïau a’r canllawiau a roddir i Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, Contractwyr Gofal Sylfaenol a Chyrff GIG Cymru yw adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd a chwalu rhwystrau sy’n cyfyngu ar opsiynau byw'n annibynnol pobl anabl. Mae’r ymrwymiad hwn yn hybu hawliau pobl anabl ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a byw’n annibynnol.
Canlyniad 4: darparwyr gofal cefnogol
Mae gan bobl anabl fynediad cyfartal at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gan ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth yr adnoddau priodol i fodloni anghenion amrywiol a chroestoriadol plant ac oedolion anabl, gyda gweithluoedd sy’n deall hawliau pobl anabl, y Model Cymdeithasol o Anabledd, a’u rhwymedigaethau eu hunain o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, sy’n cydweithio ar draws sefydliadau i wella ansawdd mewn gofal.
Canlyniad 5: llai o anghydraddoldebau mewn gofal
Mae pobl anabl yn cael eu cynrychioli yn y gwaith o lywodraethu iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio o’r newydd ar ddileu gwahaniaethu a hybu arferion rhagweithiol a hygyrch i wella safonau gwasanaeth ar gyfer pob person anabl, gan gynnwys y rhai ag anghenion croestoriadol.
Canlyniad 6: cyfathrebu tryloyw mewn gofal
Mae pobl anabl yn deall eu hawliau i gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol ac maen nhw’n cael eu grymuso drwy’r Safonau Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch i Gymru Gyfan (2025), a chynnig gweithredol y Gymraeg yn Mwy Na Geiriau i gyfathrebu’n rhydd â’u darparwyr gofal a’u rhwydweithiau cymorth gan ddefnyddio’r fformatau a’r ieithoedd sy’n diwallu eu hanghenion eu hunain orau.
Canlyniad 7: gofalwyr di-dâl
Mae gofalwyr di-dâl pobl anabl yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi fel partneriaid allweddol yng nghynlluniau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysgol y person y rhoddir gofal iddo.
Canlyniad 8: gofalwyr di-dâl
Mae gofalwyr di-dâl yn cael mynediad amserol at wybodaeth ac yn ymwybodol o'u hawliau i gael cymorth.
Canlyniad 9: newid hinsawdd mewn gofal iechyd
Mae pobl anabl yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio polisïau ac arferion sy'n mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd. Mae eu profiadau bywyd yn sail i ddatblygu strategaethau lliniaru ac addasu hygyrch, gan sicrhau bod ymatebion i risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yn gynhwysol, yn deg ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd presennol.
Canlyniad 10: cynllunio at argyfyngau
Mae pobl anabl yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio polisïau ac arferion sy'n ymwneud â chynllunio, ymateb ac adfer i argyfyngau iechyd y cyhoedd. Mae eu profiadau bywyd yn arwain y gwaith o ddatblygu strategaethau ymateb ac adfer hygyrch, gan sicrhau bod mesurau brys yn gynhwysol, yn deg, ac yn helpu i leihau'r anghydraddoldebau iechyd presennol y mae pobl anabl yn eu hwynebu.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthyglau 25 ac 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
Mae Erthygl 25 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn nodi hawl cyfartal pobl anabl i fwynhau’r safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd heb wahaniaethu ar y sail eu bod yn berson anabl.
Mae Erthygl 19 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn nodi hawl pobl anabl i fyw’n annibynnol a chymryd rhan yn y gymuned. Mae’n gofyn am fesurau gan wledydd i ganiatáu iddynt fwynhau’r hawl hon yn llawn, gan ganiatáu i unigolion ddewis ble a chyda phwy maen nhw’n byw heb gael eu gorfodi i wneud trefniadau byw penodol.
Mae Erthygl 11 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn darparu ar gyfer sefyllfaoedd o risg ac argyfyngau dyngarol. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i wledydd gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu hamddiffyn a'u bod yn ddiogel mewn sefyllfaoedd o risg, gan gynnwys argyfyngau dyngarol a thrychinebau naturiol.
Yng Nghyfrifiad 2021, roedd cyfran y bobl yng Nghymru a ddywedodd eu bod yn anabl yn 21%. Roedd Arolwg Cenedlaethol ystadegau ac ymchwil 2019 yn dangos bod 38% o bobl anabl yn dweud eu bod yn cael anawsterau cael mynediad i ysbytai. O’r rhai a roddodd wybod am anawsterau cael mynediad i unrhyw adeiladau cyhoeddus, nododd 44% broblemau gyda ‘symud o amgylch yr adeilad (grisiau, drysau, coridorau cul)’, ‘problemau parcio’ (38%), ‘lifftiau neu risiau symudol annigonol’ (26%).
Gall mynediad at ofal iechyd fod yn arbennig o heriol i bobl anabl, ac mae tystiolaeth yn dangos canlyniadau iechyd gwaeth i bobl anabl. Roedd adroddiad trosolwg o farwolaethau ymhlith pobl ag anabledd dysgu yn dangos bod gwahaniaeth o tua dau ddegawd yn yr oedran marw nodweddiadol o gymharu â’r boblogaeth ehangach.
I’r rhai ag amhariad o ran symudedd, mae cyfleusterau parcio annigonol, clinigau anhygyrch ac ysbytai yn gallu ei gwneud hi’n anodd mynd i apwyntiadau. Gall methu cynnig gwasanaethau dehongli i bobl anabl, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain neu drwy'r Llawlyfr Dall Fyddar, er enghraifft, atal neu gymhlethu mynediad at wasanaethau gofal iechyd i bobl fyddar a phobl sydd ag amhariad ar eu synhwyrau, fel pobl ddall fyddar a phobl ddall neu rannol ddall. Gall y rhwystrau hyn arwain at fethu apwyntiadau, triniaethau’n cael eu gohirio, a chanlyniadau iechyd gwaeth. Er mwyn darparu gofal iechyd cynhwysol mae gofyn darparu cyfleusterau hygyrch, gan gynnwys parcio, a chymorth cyfathrebu effeithiol i sicrhau bod yr holl bobl anabl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.
Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun deng mlynedd strategol cenedlaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sef Cymru Iachach. Mae Cymru Iachach yn nodi gweledigaeth i bawb yng Nghymru gael bywydau hirach, iachach a hapusach, a gallu parhau i fod yn egnïol, yn annibynnol ac yn eu cartrefi eu hunain am gyn hired â phosibl, gyda chymorth system iechyd a gofal integredig.
Er mwyn sicrhau bod y camau gweithredu a gymerir o dan Cymru Iachach dros y blynyddoedd nesaf yn dal i fod y rhai cywir, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 35 o gamau gweithredu diwygiedig ym mis Rhagfyr 2024. Mae’r camau hyn wedi’u cynllunio o amgylch sut beth ddylai system iechyd a gofal effeithiol fod. Rydym wedi dewis egwyddorion craidd sy’n adlewyrchu ein huchelgeisiau; un sy’n rhoi sylw i ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn lle rydym am i’n dull gweithredu ganolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn i bobl allu cael y gofal priodol sydd ei angen arnynt ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn; ac un sy’n ceisio lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy sicrhau mynediad cyfartal at y system iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau canlyniadau cyfartal. O dan yr egwyddor graidd o roi gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, un o'n camau gweithredu penodol yw sicrhau bod pob dinesydd yn gallu cael gwasanaethau iechyd a gofal amserol yn deg, ni waeth beth yw'r iaith neu'r fformat cyfathrebu sydd ei angen arnynt.
Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o sicrhau bod mynediad a chynhwysiant yn cael eu hystyried yn llawn o gychwyn cyntaf taith gofal iechyd pob person anabl. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau, sy’n cynnwys hygyrchedd 111 ac Ap GIG Cymru, cyfleusterau parcio addas a chynwysoldeb gwasanaethau dan gontract gofal sylfaenol meddygfeydd meddygon teulu, gan gynnwys meddygon teulu ac ysbytai.
Mae’r Cynllun Gweithredu Strategol ar Anabledd Dysgu yn cyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn y rhaglen Gwella Bywydau, gan geisio gwella canlyniadau drwy well dealltwriaeth o wahaniaethau o ran marwolaethau uwch, gan gynnwys tynnu sylw at farwolaethau y mae modd eu hosgoi, cynyddu mynediad at archwiliadau iechyd blynyddol a chynnal hyfforddiant anableddau dysgu Paul Ridd i staff iechyd.
Nod Safonau Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch Cymru Gyfan (y Safonau) yw sicrhau bod pobl sy'n fyddar, wedi colli eu clyw neu'n drwm eu clyw, pobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall, pobl sy'n ddall ac yn fyddar, pobl sydd â rhwystrau mynediad iaith a chyfathrebu sy'n deillio o amhariad (gan gynnwys dementia, anableddau dysgu a chyflyrau iechyd meddwl), pobl sydd â rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o niwrowahaniaeth, yn cael cymorth cyfathrebu priodol wrth gael gafael ar wasanaethau gofal iechyd. Mae'r Safonau hyn yn disgwyl i ddarparwyr gofal iechyd fynd ati'n rhagweithiol i gynnig gwybodaeth mewn fformatau hygyrch i sicrhau mynediad cyfartal i bawb.
Yn 2023, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ehangu ac adnewyddu’r Safonau i sicrhau eu bod yn cynrychioli pobl sydd â mathau eraill o amhariadau. Bydd effeithiolrwydd y Safonau estynedig hyn, pan gânt eu gweithredu, yn cael ei adolygu’n rheolaidd i hybu gofal iechyd cynhwysol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys staff iechyd carchardai) yn wybodus o ran deall y Model Cymdeithasol o Anabledd a’u bod yn ei wreiddio yn eu hymarfer, drwy hyfforddiant cynhwysfawr i’r holl staff gofal iechyd ar anghenion amrywiol pobl anabl.
Mae prosesau rhyddhau prydlon a chydlynol o’r ysbyty yn cefnogi llesiant ac adferiad pobl anabl. Gall aros yn yr ysbyty am gyfnodau hir arafu’r broses o wella, cynyddu’r risg o ddal heintiau sy’n cael eu dal yn yr ysbyty, ac arwain at broblemau iechyd meddwl fel gorbryder. Weithiau, mae anghydbwysedd yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae cyfleoedd yn cael eu colli i atal ymyrryd yn gynnar yn y gymuned. Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Ryddhau o’r Ysbyty yn rhoi cyngor ar safonau Rhyddhau o’r Ysbyty ar gyfer partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a phartneriaid yn y sector annibynnol yng Nghymru.
Canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cyfraddau uwch o bobl anabl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad, yng Nghymru a Lloegr, na phobl nad ydynt yn anabl. Nod Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Llywodraeth Cymru 2024 i 2034 yw gwella a diogelu iechyd meddwl a llesiant meddyliol pobl yng Nghymru. Mae’r Strategaeth yn cydnabod bod pobl anabl a phobl niwrowahanol mewn perygl penodol o ddioddef iechyd meddwl a llesiant meddyliol gwael. Mae’r strategaeth yn cydnabod yr angen i gydnabod hawliau penodol unigolion, fel bod gwasanaethau ar gael ar sail deg. Mae’r Strategaeth Atal Hunanladdiad ac Atal Hunan-niwed hefyd yn dilyn dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau ac yn cyfeirio at yr angen i wreiddio hawliau plant a hawliau pobl anabl yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.
Rhaid i weithwyr gofal iechyd proffesiynol adnabod ac ymateb i amhariadau mewn babanod yn brydlon er mwyn cefnogi eu datblygiad a’u llesiant. Mae ymyrraeth gynnar yn sicrhau bod plant yn cael y gofal a’r adnoddau angenrheidiol i ffynnu, gan leihau effaith unrhyw heriau y gallent eu hwynebu. Mae'r Rhaglen Plant Iach Cymru wedi cael ei chreu yn dilyn adolygiad o dan arweiniad GIG Cymru o’r ffordd rydym yn cefnogi teuluoedd sydd â phlant ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod plant ac oedolion anabl yn cael mynediad di-dor at ofal iechyd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl. Rydym wedi ymrwymo i hybu trefniadau pontio cadarnhaol hygyrch a chynhwysol i wasanaethau oedolion.
Nid yw hygyrchedd yn ymwneud â chydymffurfio yn unig - mae hefyd yn ymwneud â chreu amgylchedd digidol cynhwysol i bawb. Mae gobaith mawr y bydd Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gwella mynediad at ofal iechyd i bobl anabl, os caiff ei ddarparu mewn ffordd ddiogel, gyfrifol a moesegol. Bydd angen ystyried sut mae technolegau deallusrwydd artiffisial yn cael eu rhoi ar waith a dylid eu gwerthuso’n barhaus i sicrhau cydraddoldeb mewn gofal iechyd i bobl anabl. Rydym wedi creu rhai egwyddorion lefel uchel i helpu i lywio sut mae’r sector cyhoeddus yn defnyddio deallusrwydd artiffisial yng Nghymru er mwyn sicrhau ei fod: yn foesegol, yn ddibynadwy, ac yn cyd-fynd â gwerthoedd a buddiannau pobl Cymru, yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn fuddiol i bawb, yn enwedig i’r rhai sydd fwyaf difreintiedig, yn arloesol, yn gydweithredol ac yn gefnogol i’n hecosystem Ymchwil a Datblygu, ac yn dryloyw, yn atebol ac yn ddarostyngedig i’r trefniadau llywodraethiant a goruchwylio cywir.
Cyhoeddodd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ei ganllawiau ‘Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Gwaith’, sy’n tynnu sylw at ystyriaethau moesegol defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y gweithle. Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ehangach, traws-sector ar ddefnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi canllawiau ar yr angen i ystyried Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o’r cychwyn cyntaf mewn unrhyw gynlluniau deallusrwydd artiffisial.
Mae’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn uwch grŵp cynghori o arbenigwyr ac arweinwyr, sy’n cynrychioli’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd. Mae’r Comisiwn yn gweithio ar y cyd ar draws y sector a chyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i gynghori a rhoi cyfarwyddyd ar reoleiddio a mabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn modd diogel, cyfrifol a moesegol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae dadansoddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol o farwolaethau sy'n gysylltiedig â'r Coronafeirws (COVID-19) yn ôl 'statws anabledd', Cymru a Lloegr: 2 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020 yn dangos bod pobl anabl yng Nghymru yn cyfrif am bron i 7 o bob 10 (68%) o’r holl farwolaethau cysylltiedig â COVID-19 yn ystod y cyfnod hwn. Roedd yr Adroddiad ‘Drws ar Glo’ yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle roedd effaith anghymesur ar bobl anabl yn ystod y pandemig; a gallai llawer ohonynt fod wedi cyfrannu at fwy o risgiau iechyd fel mynediad at ofal iechyd, tai, incwm, cyflogaeth ac allgáu cymdeithasol. Mae ymgorffori ystyriaethau moesegol mewn gofal iechyd yn hanfodol, yn enwedig wrth gyflawni anghenion a hawliau pobl anabl. Mae sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau gofal iechyd yn hybu tegwch a chynhwysiant.
Mae gan fesurau economeg iechyd rôl bwysig o ran ein helpu i ddeall a chymharu effaith gwahanol driniaethau a chyflyrau iechyd. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar rai adnoddau, fel blynyddoedd bywyd wedi’u haddasu yn ôl ansawdd, a allai or-symleiddio profiadau bywyd pobl anabl yn rhifau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gofal iechyd yn cael ei ddarparu’n deg i bobl anabl yng Nghymru, drwy ei rhwydwaith i gefnogi safonau a swyddogaethau cyson ar gyfer grwpiau cynghori ar foeseg glinigol ar draws GIG Cymru.
Mae gan bobl anabl yr hawl i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cynhwysol, ond gall fod yn anodd cael mynediad atynt. Gall gwella seilwaith a thechnoleg gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â helpu’r gweithlu i ddeall y Model Cymdeithasol o Anabledd, wella mynediad i bobl anabl. Gall llawer o bobl anabl barhau i fyw’n annibynnol, gyda’r cymorth priodol. Mae sefydliadau pobl anabl yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses hon, gan ddarparu cymorth ac eiriolaeth amhrisiadwy. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi egwyddorion llais, dewis a rheolaeth i bobl sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys pobl anabl.
Mae recriwtio a chadw staff yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn dal yn heriol, yn enwedig o ran sicrhau bod pobl anabl yn cael cymorth cyson o ansawdd uchel sydd wedi'i deilwra i'w hanghenion. Mae hyn hyd yn oed yn fwy amlwg mewn cymunedau gwledig ac ymysg poblogaethau sy'n siarad Cymraeg, lle gall mynediad at staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol fod yn gyfyngedig. Heb weithlu cadarn sydd wedi'i gefnogi'n dda, bydd unigolion anabl yn wynebu rhwystrau sylweddol rhag byw'n annibynnol a chymryd rhan lawn ym mywyd y gymuned. Mae mynd i'r afael â'r bylchau hyn yn y gweithlu yn hanfodol er mwyn cynnal hawliau, urddas a llesiant pobl anabl ledled Cymru.
Mae recriwtio a chadw staff mewn gwasanaethau cartref yn ffactor pwysig sy'n ymwneud â sicrhau bod digon o ofal cartref ar gael. Yn gyffredinol, bu gwelliant yn y capasiti gofal cartref yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod amrywiadau rhanbarthol o hyd ac mae rhai rhannau o Gymru, yn enwedig yr ardaloedd mwy gwledig, yn parhau i brofi problemau capasiti sy'n effeithio ar restrau aros am wasanaeth. Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n dod ag undebau llafur, cyflogwyr gofal cymdeithasol a'r llywodraeth at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth, gyda'r nod o wella cyflogau, a thelerau ac amodau ein gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r Fforwm yn goruchwylio nifer o raglenni gwaith sy'n ceisio denu mwy o bobl i ofal cymdeithasol.
Ers 2022 rydym wedi bod yn ariannu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'n gweithwyr gofal cymdeithasol, ac mae hyn yn dal yn flaenoriaeth oherwydd bod cyflog teg yn sylfaen i weithlu gwerthfawr. Wrth edrych i'r dyfodol, rydym am wella cyflogau ymhellach ac rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i ddarparu Cytundebau Cyflog Teg i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy Fil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â sefydlu Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol sy'n datblygu Modelau gwirfoddol o Arfer Gorau ar y cyd i gyflogwyr yn y sector annibynnol, gyda'r nod o sicrhau cysondeb i delerau ac amodau ar draws gofal cymdeithasol. Rydym hefyd yn datblygu Fframwaith Tâl a Dilyniant ar gyfer gofal cymdeithasol a fydd yn rhoi llwybr gyrfa clir i'n gweithwyr gofal cymdeithasol, gan gynnig a thynnu sylw at y cyfleoedd go iawn i symud ymlaen yn eu gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.
Gwyddom fod llawer o ofalwyr di-dâl yn cefnogi'r sector gofal cymdeithasol. Bydd strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl yn cael ei chyhoeddi yn ystod 2026. Dyma flaenoriaethau'r Strategaeth bresennol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl: nodi a gwerthfawrogi gofalwyr di-dâl, mynediad at wybodaeth a chyngor, cymorth ar gyfer bywyd ochr yn ochr â gofalu (gan gynnwys mynediad at seibiant) a chefnogi gofalwyr di-dâl mewn addysg a chyflogaeth. Mae'r meysydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaethau yn y strategaeth newydd.
Mae Gweledigaeth Strategol y Prif Swyddog Nyrsio yn amlinellu llwybr pum mlynedd sy'n uno'r proffesiynau, yn grymuso gweithredu, ac yn dangos eu heffaith drawsnewidiol ar draws y system iechyd a gofal. Wedi'i siapio gan leisiau nyrsys, bydwragedd, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid, mae'n diffinio sut bydd y proffesiynau'n arwain, yn arloesi ac yn dylanwadu ar bob lefel. Wedi'i sbarduno gan chwe thema drawsnewidiol, sef grymuso'r gweithlu, arweinyddiaeth, rhagoriaeth, gofal sy'n canolbwyntio ar y boblogaeth, arloesi a phartneriaethau byd-eang, mae'r weledigaeth yn hyrwyddo gweithredu, yn cryfhau hunaniaeth broffesiynol, ac yn gwreiddio cynaliadwyedd yn ymarferol. Gan adeiladu ar ein huchelgais i gael Cymru sy'n gyfartal ac yn deg lle mae ein gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yn adlewyrchu'r poblogaethau rydym yn eu gwasanaethu a lle mae nyrsys a bydwragedd yn taflu goleuni ar yr anghydraddoldebau sy'n llesteirio bywydau ein cymunedau amrywiol ac yn mynd i'r afael â nhw.
Rydym am sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth ychwanegol yn cael cymorth yn y gymuned, a lle mae angen cymorth arbenigol, mae derbyniadau i wasanaethau arbenigol i gleifion mewnol yn brin, yn agos at adref ac mae cynlluniau rhyddhau ar waith. Rydym yn gweithredu, yn gwella'r gwaith o gasglu data, ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gwasanaethau cymorth cymunedol priodol. Byddwn yn gweithio i gyflawni gofynion diwygio'r Ddeddf Iechyd Meddwl, lle na fydd awtistiaeth ac anabledd dysgu bellach yn sail ar gyfer cadw unigolion o dan Adran 3 y Ddeddf Iechyd Meddwl oni bai fod cyflwr iechyd meddwl sy'n cyd-ddigwydd. Nod y newid hwn yw atal unigolion nad oes ganddynt salwch meddwl y gellir ei drin rhag cael eu cadw'n amhriodol yn y tymor hir.
Yn 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru Raglen Gwella Niwrowahaniaeth tair blynedd a oedd yn rhedeg tan 25 Mawrth, gyda chymorth £12m o gyllid. Nod y Rhaglen oedd gwella mynediad cynnar at wybodaeth, cyngor a chymorth, ni waeth beth fo'r diagnosis, a gwella'r ddarpariaeth o gymorth ôl-ddiagnosis gan ddefnyddio dull system gyfan, yn ogystal â mynd i'r afael ag amseroedd aros. Mae'r Rhaglen hon wedi cael ei hymestyn i fis Mawrth 2027, mewn ymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau niwroddatblygiadol ac i fynd i'r afael â phwysau brys ac amseroedd aros hir ar gyfer asesiadau niwrowahaniaeth plant. Y brif flaenoriaeth yw arosiadau tair blynedd erbyn mis Mawrth 2027. Fodd bynnag, mae gan y Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth bedair blaenoriaeth arall sef trawsnewid Gwasanaeth Niwrowahaniaeth Plant, trawsnewid Gwasanaethau Oedolion, newidiadau ehangach i'r system o safbwynt niwrowahaniaeth a datblygu Cod Ymarfer Niwrowahaniaeth newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Rydym yn bwrw ymlaen â gwaith ar olynydd y Cynllun Gweithredu Dementia ac rydym yn defnyddio'r gwerthusiad a gyhoeddwyd o'r Cynllun Gweithredu Dementia i lywio ein dull gweithredu ar gyfer y gwaith hwn. Rydym wedi ymrwymo i gydgynhyrchu'r cynllun newydd, ac i gynnwys partneriaid a phobl sydd â phrofiad uniongyrchol drwyddo draw. Mae'r gwaith hwn yn parhau ac mae wedi cynnwys nifer o ddigwyddiadau a holiadur cyhoeddus, sy'n cael ei ddefnyddio i lunio ein gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer y Cynllun Gweithredu Dementia olynol.
Mae Cod Ymarfer Rhan 2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r angen i awdurdodau lleol hybu llesiant a gwarchod unigolion. Mae’n canolbwyntio ar atal yr angen am ofal a chymorth drwy hybu llesiant a rhoi cymorth i bobl anabl a gofalwyr. Mae Awdurdodau Lleol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ataliol, yn cynnig gwybodaeth am wasanaethau llesiant cymunedol, ac yn rhoi cyngor ar daliadau uniongyrchol a thaliadau gofal. Mae hyn yn helpu pobl i gynllunio ar gyfer eu hanghenion gofal yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae awdurdodau’n sicrhau bod ymarferwyr ac unigolion yn cydweithio fel partneriaid cyfartal i gynllunio a darparu gofal a chymorth.
Mae cefnogi llais, dewis a rheolaeth ac annibyniaeth pobl anabl yn gofyn am seilwaith cadarn mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, cyflogaeth a Thaliadau Uniongyrchol. Mae Taliadau Uniongyrchol yn arian a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r taliadau wedi’u hanelu at bobl waeth beth fo’u hamhariadau, ond gallant gynnwys plant ac oedolion anabl. Ar 31 Mawrth 2024, roedd gan 48,519 o oedolion gynllun gofal a chymorth, ac roedd gan 13% ohonynt gynllun gofal a chymorth yn cael ei gefnogi gan Daliad Uniongyrchol.
Mae taliadau uniongyrchol ar gael ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol a gallant wella annibyniaeth yn sylweddol, ac o ganlyniad, ansawdd bywyd pobl anabl, a’r rhai ag anghenion gofal tymor hir drwy ddarparu mwy o lais, dewis a rheolaeth. Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mawrth, yn cynnwys darpariaeth i gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n cyfrannu at gydgynhyrchu Ymchwil i archwilio’r cysyniad o sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol o dan arweiniad pobl anabl yng Nghymru. Mae canfyddiadau’r ymchwil hwn yn cynrychioli safbwyntiau rhanddeiliaid ar amrywiaeth o agweddau ar gyfer Canolfan Genedlaethol, gan gynnwys y galluogwyr posibl, nodau, swyddogaethau ac ystyriaethau ymarferol.
Yn ystod Hydref 2021, lansiwyd Cymru O Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio, ac mae’n nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i baratoi ar gyfer y dyfodol. Mae'n ystyried y llu o bethau sy'n dylanwadu ar sut rydym yn heneiddio, fel iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a hyd yn oed y ffordd rydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am bobl eraill ac mae'n nodi ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru sy’n oed-gyfeillgar sy'n cefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda.
Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ategol ym mis Ebrill 2022 sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Cynhyrchwyd y Strategaeth ar y cyd â phobl hŷn a'u cynrychiolwyr; Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio a lywiodd ddatblygiad y strategaeth ac mae'n parhau i fonitro cynnydd.
I gefnogi'r broses weithredu, dyrennir £1.1 miliwn y flwyddyn i awdurdodau lleol, £50,000 yr un, i ariannu swydd benodol oed-gyfeillgar. Mae'r cyllid yn cefnogi awdurdodau lleol i ymaelodi â Rhwydwaith Dinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, sy'n aelod cyswllt o Rwydwaith Sefydliad Iechyd y Byd. Gall cymunedau oed-gyfeillgar gefnogi pob person hŷn i heneiddio'n dda a darparu amgylcheddau a chymunedau sy'n cefnogi pobl anabl hŷn i barhau i fod yn annibynnol ac i ymgysylltu.
Ein gweledigaeth yw Cymru sydd o blaid pobl hŷn, sy’n dathlu oedran ac, yn unol ag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, cenedl sy’n cynnal annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac urddas pobl hŷn bob amser.
Cydnabyddir bod newid hinsawdd yn bryder ynglŷn ag iechyd. Mae Asesiad o'r Effaith ar Iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai pobl anabl yn debygol o wynebu mwy o risg o effeithiau negyddol ar eu hiechyd corfforol neu feddyliol o ganlyniad i newid hinsawdd. Gall hyn fod drwy duedd anghymesur i gael niwed, dod i gysylltiad anghymesur â niwed, llai o allu i addasu os bydd niwed, neu gyfuniad o'r ffactorau hyn.
Mae Fframwaith Diogelu Iechyd Llywodraeth Cymru yn disgrifio sut y bydd y system diogelu iechyd yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn lleihau niwed, achub bywydau a hyrwyddo llesiant i bobl Cymru. Un o'i brif amcanion yw bod “gwasanaethau a swyddogaethau rhagorol yn cael eu darparu'n ddiogel, yn deg ac mewn ffordd amserol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n lleihau anghydraddoldebau.” Mae'r Fframwaith yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a sut y dylai'r system gyfan weithio gyda'i gilydd ar draws atal, parodrwydd, ymateb ac adferiad mewn ffordd sy'n ceisio gwella tegwch iechyd y boblogaeth yn barhaus.
8. Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol
Er mwyn cyflawni’r uchelgais cyffredinol hirdymor, a’r canlyniadau lefel uchel ar gyfer Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol a ddisgrifir yn adran 4, mae’r adran hon yn nodi’r canlyniadau rydym yn disgwyl eu gweld dros gyfnod o ddeng mlynedd, o ganlyniad i’r camau rydym yn eu cymryd i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael mynediad at gyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol. Mae cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol yn cynnwys y themâu canlynol: mynediad at gyfiawnder ac amgylcheddau hygyrch a chefnogol.
Mynediad at gyfiawnder
Canlyniad 1: dylanwad ar bwerau a gedwir yn ôl
Mae profiadau pobl anabl o swyddogaethau a gedwir yn ôl y systemau cyfreithiol a chyfiawnder yn gwella diolch i ymgysylltu parhaus â Llywodraeth y DU i hybu hawliau pobl anabl, gwasanaethau cymorth yn cael eu cydlynu’n well, a mynd ar drywydd canlyniadau gwell i’r rhai sy’n rhyngweithio ar bob cam o’r broses.
Canlyniad 2: mynediad effeithiol at gyfiawnder sifil a throseddol
Mae pobl anabl yng Nghymru yn cael eu haddysgu am eu hawliau mewn perthynas â chyfiawnder, boed hynny fel hawlydd, dioddefwr trosedd neu droseddwr. Maen nhw hefyd yn cael mynediad at gyngor cyfreithiol a gweithdrefnau cwyno priodol a lleol sy’n gallu bodloni eu hanghenion gofal cymunedol, addysg, tai, mewnfudo a lloches, a budd-daliadau lles, lle bynnag maen nhw yng Nghymru.
Canlyniad 3: trais, cam-drin rhywiol a thrais domestig
Mae gan bobl anabl sy’n ddioddefwyr/goroeswyr trais, cam-drin rhywiol a cham-drin domestig fynediad at wasanaethau ymatebol a chroestoriadol, o ansawdd uchel, sy’n cael eu harwain gan anghenion ac sy’n seiliedig ar gryfderau ledled Cymru.
Canlyniad 4: deddfwriaeth sy’n cynrychioli
Mae’r hawliau sydd wedi’u hymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn cael eu cydnabod mewn polisi a, lle bo hynny’n briodol ac yn bosibl, deddfwriaeth sy’n seiliedig ar yr adolygiad parhaus o’r ddeddfwriaeth bresennol.
Canlyniad 5: tystiolaeth
Drwy ymchwil annibynnol, dadansoddi data presennol, ac ymgysylltu ag asiantaethau partner, mae canlyniadau a phrofiadau pobl anabl o’r systemau cyfreithiol a chyfiawnder yn cael eu deall yn well, ac mae sylfaen dystiolaeth gadarn yn cael ei darparu i gefnogi’r achos dros system hygyrch a chynhwysol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 5 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, sy’n nodi bod pob unigolyn yn gyfartal gerbron y gyfraith a bod ganddo hawl i warchodaeth a buddion cyfartal heb wahaniaethu. Mae’n mynnu bod gwledydd yn gwahardd gwahaniaethu ar sail anabledd ac yn sicrhau gwarchodaeth gyfreithiol gyfartal i bobl anabl.
Mae troseddau casineb yn dal yn broblem sylweddol i bobl anabl ledled y DU, yn bennaf oherwydd rhagfarnau cymdeithasol parhaus a chamsyniadau am anabledd. Yn aml, nid yw unigolion yn rhoi gwybod am y troseddau hyn, yn rhannol oherwydd y gallai dioddefwyr ofni na fydd unrhyw un yn eu cymryd o ddifrif, neu efallai nad oes ganddynt hyder yn y systemau cymorth sydd ar gael. Ar ben hynny, weithiau, pobl sy’n agos at y dioddefwr sy’n gyfrifol am droseddau casineb yn erbyn pobl anabl, gan gymhlethu’r prosesau adrodd ac erlyn. Er bod troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru, lle roedd anabledd yn ffactor ysgogol wedi gostwng o 752 yn 2023 i 2024 i 739 yn 2024 i 2025, (Hate Crime), mae nifer y troseddau hyn yn dal yn annerbyniol o uchel.
Yn ôl Prif Erlynydd y Goron ac Arweinydd Cenedlaethol Troseddau Casineb mewn Ymchwilio i Droseddau Casineb yn erbyn Pobl Anabl a'u Herlyn (Hate Crime: Best Practice CPS):
"Mae troseddau casineb anabledd yn un o'r mathau mwyaf treiddiol o droseddau casineb nad ydynt yn cael eu cofnodi'n ddigonol. Mae’n drosedd ddichellgar sy’n gallu amlygu ei hun mewn trais amlwg neu weithredoedd rhagfarnllyd sy’n targedu sy’n gallu bod yn gynnil ond yn niweidiol iawn. Mae effaith hyn ar unigolion a chymunedau yn parhau i fod yn bellgyrhaeddol ac yn ddwys.”
Rhaid inni barhau i gymryd camau i fynd i’r afael â’r troseddau erchyll hyn a’u hatal, gan sicrhau bod pobl anabl yn cael eu gwarchod a’u cefnogi ar bob lefel o gymdeithas.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i herio’r camsyniadau hyn ac eirioli dros hawliau a diogelwch pobl anabl. Er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o droseddau casineb, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â Sefydliadau Pobl Anabl i sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch, yn enwedig i bobl ag anableddau dysgu, ac i sicrhau bod pobl anabl yn gwybod beth yw troseddau casineb, yn gwybod sut i roi gwybod am y troseddau hyn, ac yn deall ble i gael cymorth. Ar ben hynny, bydd ymgyrch Llywodraeth Cymru, Mae Casineb yn Brifo Cymru 2025 i 2027 yn canolbwyntio ar droseddau yn erbyn pobl anabl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl anabl sydd wedi dioddef ac wedi goroesi troseddau yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau ymatebol o ansawdd uchel ledled Cymru. Rydym hefyd wedi ymrwymo i eirioli dros well mynediad at ddata ar y boblogaeth anabl mewn carchardai, gan gynnwys merched o Gymru sydd yn y carchar yn Lloegr. Mae’r ymdrech hon yn hanfodol er mwyn deall a mynd i’r afael ag anghenion pobl anabl mewn carchardai.
Rydym yn gwybod bod pobl anabl, yn enwedig y rhai sy’n niwrowahanol, yn cael eu gorgynrychioli yn y system cyfiawnder troseddol. Mae hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd i staff yn bwysig er mwyn meithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol i unigolion anabl yn y system gyfiawnder. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod carcharorion yn cael eu hasesu’n briodol ac yn gynnar er mwyn sicrhau mynediad cyfartal at addysg yng Nghymru.
Rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o gyflawni’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig a Thrais Rhywiol i roi cymorth a chyngor i ddioddefwyr ar hyd a lled Cymru drwy gyllid grant rhanbarthol. Ar ben hynny, bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth ar gyfer pobl anabl sydd wedi goroesi camdriniaeth yng Nghymru drwy ffrwd waith y Dull System Gyfan Cynaliadwy ar gyfer atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Byddwn yn parhau i weithio gyda grŵp rhanddeiliaid Iaith Arwyddion Prydain a grwpiau pobl anabl i lywio'r gwaith o ddatblygu/cyfieithu adnoddau diogelu yn unol â negeseuon/pynciau/deunyddiau allweddol y maent wedi'u dynodi'n flaenoriaeth iddynt. Bob tair blynedd, bydd y camau hyn yn cael eu hadolygu a'u diweddaru fel eu bod yn adlewyrchu'r cynnydd sy'n cael ei wneud a'r dysgu sy'n codi.
Fel rhan o strwythur cyflawni'r strategaeth, mae gennym Grŵp Cynghori Dioddefwyr a Goroeswyr a Grŵp Cynghori Plant a Phobl Ifanc, a byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol i roi cyhoeddusrwydd i gyfleoedd i ymuno â'r grwpiau hyn neu i ymgysylltu mewn ffyrdd eraill i sicrhau bod plant ac oedolion anabl yn cael eu cynrychioli a bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
Mae Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru (IAQF) wedi’i ddylunio i helpu aelodau o’r cyhoedd i ddewis ffynonellau cymorth drwy roi sicrwydd bod gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn cynnig ymyriadau o ansawdd uchel. Mae’r Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Cymru yn canolbwyntio’n benodol ar bynciau cyngor lles cymdeithasol sy’n cefnogi’r nodau hyn yn uniongyrchol. Yn bwysicaf oll: budd-daliadau lles, cynhwysiant ariannol gan gynnwys cyngor ar ddyled ac arian, tai a digartrefedd, cyflogaeth, mewnfudo a gwahaniaethu. Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Cymru i sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi fframwaith strategol o wasanaethau cyngor lles cymdeithasol ledled Cymru sy’n targedu grwpiau allweddol o’r boblogaeth, gan gynnwys pobl anabl, gan wella eu mynediad at gyngor lles cymdeithasol diduedd gyda sicrwydd ansawdd.
Amgylcheddau hygyrch a chefnogol
Canlyniad 1: cymdeithas heb wahaniaethu
Mae bwlio plant anabl mewn ysgolion, agweddau niweidiol a gwahaniaethol at bobl anabl, gan gynnwys stereoteipiau, yn cael eu herio ar lefel gymdeithasol, gan sicrhau cyd-ddealltwriaeth o hawliau, profiadau, anghenion a hanes pobl anabl i ysgogi diwylliant cynhwysol, sy’n cael ei feithrin ledled y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i wella canlyniadau i bawb.
Canlyniad 2: cefnogaeth i sefydliadau pobl anabl
Mae gan Sefydliadau Pobl Anabl ledled Cymru rôl strategol yn eirioli dros hawliau pobl anabl ac maen nhw’n cael eu cefnogi drwy’r cyllid, y capasiti a’r sicrwydd ariannol sy’n angenrheidiol i hybu eu heffaith gadarnhaol. Adlewyrchir eu gwerth a’u harbenigedd yn y gefnogaeth a’r cyfleoedd a gânt gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, a’u rhan yn datblygu polisïau a gwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Canlyniad 3: gwasanaethau cyhoeddus cynhwysol
Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi cynyddu adnoddau, dealltwriaeth a phrofiad bywyd ar bob lefel i ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd a chynnal hawliau pobl anabl. Maen nhw hefyd yn cael eu dwyn i gyfrif yn erbyn Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gan gyrff arwain a chraffu sy'n sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynrychioli’n deg.
Canlyniad 4: gwleidyddiaeth gynhwysol
Mae pobl anabl yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus, sy’n cyfoethogi’r broses ddemocrataidd, gan arwain at Gymru fwy cyfiawn a theg.
Canlyniad 5: Llywodraeth Cymru
Mae pobl anabl yng Nghymru yn cael eu cynrychioli gan lywodraeth sy’n eu gwerthfawrogi, yn eu deall ac yn eu parchu, gan ymgorffori hawliau pobl anabl mewn polisïau ac yn y gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio profiadau uniongyrchol wrth arwain a thrwy’r sefydliad i gyd, ac mae’n gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau newid cymdeithasol sylweddol.
Canlyniad 6: cynhwysiant digidol
Mae gan bawb yng Nghymru fynediad at yr offer digidol, y sgiliau digidol sylfaenol a'r cysylltedd sydd eu hangen arnynt i gyrraedd safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol. Maen nhw'n cael eu grymuso i ddewis sut maen nhw'n defnyddio ac yn ymgysylltu â thechnoleg ddigidol mewn ffyrdd sy'n ystyrlon iddyn nhw. Mae hyn yn galluogi cyfranogiad llawn mewn cymdeithas, yn gwella llesiant, ac yn cefnogi Cymru sy'n fwy cynhwysol, teg a hyderus yn ddigidol.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthyglau 9 ac 8 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
Mae Erthygl 9 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau sy'n canolbwyntio ar hygyrchedd, gan bwysleisio'r angen i wledydd sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael gafael ar wybodaeth, dosbarthu systemau a thechnolegau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch yn gynnar, er mwyn i'r technolegau a'r systemau hyn fod ar gael am y gost isaf a gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaeth electronig.
Mae Erthygl 8 y Confensiwn yn nodi bod angen i wledydd godi ymwybyddiaeth y gymdeithas o bobl anabl, mynd i’r afael â stereoteipiau a rhagfarnau, a hybu parch at eu hawliau a’u hurddas. Mae’r mesurau’n cynnwys ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, mentrau addysg, canllawiau ar gyfer y cyfryngau, a rhaglenni hyfforddi i feithrin canfyddiadau cadarnhaol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.
Yn ein byd cynyddol ddigidol, mae allgáu pobl anabl oherwydd diffyg technoleg hygyrch yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i gydraddoldeb. Nid yw hygyrchedd wedi’i ystyried wrth gynllunio llawer o raglenni, ac mae hynny’n arwain at anawsterau o ran mynediad at drafnidiaeth, gwaith a hamdden. Mae tua 7% o oedolion yng Nghymru yn dal i gael eu hallgáu’n ddigidol, ac mae’r newid i gymdeithas heb arian parod yn parhau i greu rhwystr i lawer o bobl anabl. Mae Mencap Cymru’n dymuno gweld arian parod a chardiau yn cael eu derbyn mewn siopau a bwytai, er mwyn sicrhau nad yw pobl anabl a phobl hŷn yn cael eu hallgáu a bod neb yn gwahaniaethu yn eu herbyn.
Mae’r diffyg technoleg hygyrch hwn yn rhwystro pobl anabl rhag gallu cymryd rhan lawn mewn gwahanol agweddau ar fywyd bob dydd. Fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, rhaid gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad cyfartal at y technolegau hyn. Fodd bynnag, heb dechnoleg hygyrch, mae potensial offer digidol i wella annibyniaeth a chynhwysiant yn cael ei golli, ac mae’r cylchoedd o allgáu ac anghydraddoldeb yn parhau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo drwy ei Chynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anabledd Dysgu i adolygu’r defnydd priodol o dechnoleg ac opsiynau digidol er mwyn ymgysylltu cymaint â phosibl a meithrin a gwella cysylltiadau i bobl ag anableddau dysgu.
Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio i sicrhau bod meddalwedd gynorthwyol Gymraeg briodol, gan gynnwys adnabod llais a synthesis dwyieithog, ar gael yn rhwydd i wella llesiant pobl anabl.
Mae gan newyddiaduraeth, y cyfryngau cymdeithasol a’r diwydiant cyfryngau rôl hollbwysig yn y gwaith o lunio canfyddiadau ac agweddau’r cyhoedd at bobl anabl. Gall portreadau negyddol gyfrannu at ymyleiddio pobl anabl, gan atgyfnerthu agweddau negyddol a chreu rhwystrau rhag cynhwysiant. Mae angen dull gweithredu gwybodus a chynhwysol, sy’n tynnu sylw at gyflawniadau, hawliau a chyfraniadau pobl anabl er mwyn gwella canlyniadau i bobl anabl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o wahaniaethu yn erbyn pobl anabl, i hybu agweddau cadarnhaol at bobl anabl, ac i gydweithio â rhanddeiliaid i sicrhau bod polisïau’n gynhwysol. Nod Llywodraeth Cymru yw parhau i integreiddio barn ac arbenigedd pobl anabl ym mhob agwedd ar gymdeithas, gan gynnwys strwythurau democrataidd lleol a chenedlaethol. Mae’n bwysig bod profiad uniongyrchol unigolion yn gallu llywio trafodaeth, a chanlyniadau, a bod hyn yn arwain at amgylchedd gwell a mwy cynhwysol i bobl anabl gymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Mae ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol a chefnogi mentrau ehangach sy’n ceisio cynyddu cynrychiolaeth pobl anabl mewn gwleidyddiaeth yn allweddol i sicrhau’r cyfranogiad gweithredol hwn, sy’n cael ei sbarduno gan barch rhwng y naill a’r llall.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y Senedd a llywodraeth leol yn fwy amrywiol ac yn fwy cynrychioliadol o’r bobl maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae pobl anabl yn debygol o wynebu costau uwch wrth geisio swyddi etholiadol oherwydd eu namau. Un o gamau allweddol ein rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth oedd cyflwyno ein cynllun peilot Y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig yng Nghymru. Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol o’r trefniadau, a daeth yr adroddiad i’r casgliad fod cefnogaeth aruthrol i’r gronfa ac y dylid ei chadw. Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn adeiladu ar ein gwaith hyd yma ac yn cynnwys amrywiaeth o fesurau sydd â’r nod o greu amgylchedd gwleidyddol mwy cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal cronfa i gefnogi ymgeiswyr anabl gyda’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â sefyll mewn etholiad.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynnal y trefniadau hyn. Rydym wedi ymgynghori’n ddiweddar ar ganllawiau drafft i helpu pleidiau gwleidyddol cofrestredig yng Nghymru i wneud y canlynol:
- datblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymreig, a’u hadolygu’n rheolaidd
- casglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth am ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd ac Aelodau etholedig
- ystyried camau y gallant eu cymryd mewn perthynas â chwotâu gwirfoddol ar gyfer merched
9. Geirfa
Rhwystrau
Mae rhwystrau yn atal pobl rhag cael gafael ar wasanaethau neu obeithion i'r dyfodol. Gallant fod yn gorfforol, fel grisiau a dim rampiau, neu’n gymdeithasol, fel rhagfarn a gwahaniaethu.
Cydgynhyrchu
Mae cydgynhyrchu’n ymwneud â chydweithio â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau i ddylunio a darparu’r gwasanaethau hynny. Mae’n rhoi gwerth i gyfraniad pawb yn gyfartal.
Pwerau datganoledig a phwerau a gedwir yn ôl
Diffinnir y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a Chymru gan system o bwerau datganoledig a phwerau a gedwir yn ôl. Pwerau datganoledig yw’r rhai sy’n cael eu trosglwyddo o Senedd y DU i Senedd Cymru, ac yn caniatáu i Gymru ddeddfu ar feysydd fel iechyd, addysg a llywodraeth leol. Mae pwerau a gedwir yn ôl yn parhau o dan reolaeth Senedd y DU ac yn cynnwys materion fel amddiffyn, materion tramor, lles a mewnfudo.
Croestoriadedd
Mae hyn yn gysylltiedig â’r ffordd y mae gwahanol fathau o wahaniaethu (hynny yw, trin unigolyn yn annheg oherwydd ei nodweddion gwarchodedig) yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd.
Profiad uniongyrchol
Mae hyn yn cyfeirio at yr wybodaeth a’r arbenigedd sy’n deillio o brofiadau pobl eu hunain. Mae’n cael ei ddefnyddio’n aml fel sail i wasanaethau a pholisïau, ac i’w gwella.
Model cymdeithasol o anabledd
]Mae’r model hwn yn ystyried anabledd o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas, yn hytrach nag amhariad neu gyflwr iechyd yr unigolyn. Mae’n canolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau hyn i sicrhau bod pobl yn gallu cymryd rhan lawn mewn cymdeithas.
Llesiant
Mae llesiant yn ymwneud â phrofiad person ei hun o deimlo’n dda mewn bywyd. Mae'n cynnwys llesiant meddyliol, corfforol, emosiynol a diwylliannol.
Atodiad 1
Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd Llywodraeth Cymru: Sut y byddwn yn mesur newid
Fel rhan o’i swyddogaeth craidd, mae Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd yn gyfrifol am oruchwylio'r trefniadau monitro a gwerthuso ar gyfer y Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Mae hyn yn cynnwys mesur cynnydd parhaus y Cynllun yn erbyn camau gweithredu unigol, yn ogystal ag asesiad ehangach o'r effaith gyffredinol a wnaed yn erbyn ei ganlyniadau arfaethedig yn y tymor hirach.
Mae'r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd yn cynnwys Ymchwilwyr Cymdeithasol y Llywodraeth a fydd yn gwerthuso'r Cynllun yn unol â'r egwyddorion ar gyfer gwerthuso a monitro a nodir yn y Llyfr Magenta a’r Llyfr Gwyrdd. Mae proffesiwn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n annibynnol ar dimau polisi. Fe'i harweinir gan y Cod GSR, sydd wedi'i gynllunio i sicrhau uniondeb dadansoddol a sicrhau bod yr holl ymchwil yn ddiduedd, yn fethodolegol gadarn, ac yn rhydd o ddylanwad gormodol.
Amlinellu'r broses ar gyfer newid
Er mwyn mesur newid, rhaid deall y broses ar gyfer sut y caiff ei gyflawni yn gyntaf. Gwneir hyn drwy ddatblygu 'Damcaniaethau Newid', neu 'fodelau rhesymeg', ar gyfer pob maes eang o'r Cynllun. Bydd y modelau rhesymeg hyn yn mapio pob cam yn y ffordd y mae'r Cynllun yn ceisio cyflawni'r newid a ddymunir, o fewnbwn i weithgareddau, allbynnau, canlyniadau ac effeithiau fel y'u diffinnir isod.
Mewnbynnau
Mewnbynnau yw'r hyn y mae angen ei 'roi ar waith' i sicrhau bod y Cynllun yn gallu cyflawni ei gamau gweithredu. Er enghraifft, gall hyn fod yn gyllid, capasiti, arbenigedd, neu unrhyw adnodd arall sydd ei angen i sicrhau newid.
Gweithgaredda
Mae gweithgareddau'n grwpio'r gwahanol gamau gweithredu a ffrydiau gwaith a fydd yn cael eu gwneud i gyflawni'r canlyniadau a'r effeithiau a ddymunir. Dyma'r camau sy'n cael eu cymryd i gyflawni'r newid a ddymunir.
Allbynnau
Allbynnau yw canlyniadau uniongyrchol a thymor byr pob gweithgaredd. Mae cynnydd yn erbyn y rhain yn aml yn cael ei olrhain drwy ddata monitro ond nid ydynt fel arfer yn ddigon ar eu pen eu hunain i ddangos a yw newid yn cael ei gyflawni.
Canlyniadau
Mae canlyniadau'n cymryd golwg fwy cyfannol ar newid yn y tymor canolig, gyda nifer o gamau gweithredu ac allbynnau fel arfer yn cyfrannu at un canlyniad. Fel arfer, maent yn cael eu mesur gan ddefnyddio 'dangosyddion', sy'n edrych ar y cynnydd tuag at nodau cyffredinol Cynllun ar lefel uwch.
Effeithiau
Effeithiau yw'r newidiadau tymor hirach y mae'r Cynllun yn ceisio eu cyflawni'n gyffredinol. Ni ellir eu priodoli i unrhyw un gweithgaredd, allbwn na chanlyniad ond maent yn cynrychioli effeithiau cyfun y Cynllun yn ei gyfanrwydd dros gyfnod estynedig o amser.
Bydd pob un o’r camau hyn yn helpu i lywio sut mae cynnydd a llwyddiant y Cynllun yn cael eu mesur. Yn y tymor byr i ganolig, bydd trefniadau monitro a gwerthuso yn canolbwyntio ar gyflwyno tystiolaeth yn erbyn camau gweithredu a chanlyniadau drwy fframwaith mesur a gwerthuso prosesau.
Fframwaith mesur
Yn unol â'r Damcaniaethau Newid, sy'n nodi sut mae'r Cynllun yn bwriadu cyflawni ei amcanion, bydd fframwaith mesur cyffredinol yn cael ei ddatblygu i ddangos cynnydd a dangos cyfeiriad y newid ar draws meysydd allweddol y Cynllun. Bydd hyn yn cynnwys rhwng 5 a 10 dangosydd ar gyfer pob maes polisi a fydd, o'u hystyried gyda'i gilydd, yn rhoi darlun cyfannol o'r effaith gyffredinol y mae'r Cynllun yn ei chael.
Mae nifer o ffactorau i'w hystyried i nodi pa ddangosyddion fydd yn rhoi'r darlun mwyaf cywir a chynhwysfawr o'r Cynllun; er enghraifft, ansawdd y data a gyflwynir, a yw ar gael ar y raddfa a'r amlder angenrheidiol, ac a yw'n cyd-fynd â nodau'r Cynllun. Mae angen i'r dangosyddion hyn ategu ei gilydd hefyd a rhaid iddynt allu cyfleu tystiolaeth yn glir mewn ffordd sy'n diwallu anghenion rhanddeiliaid y Cynllun.
Yn ogystal, ni fydd yr holl ddata ar gael ar gyfer pob rhan o'r Cynllun ac yn y broses o ddatblygu'r fframwaith, bydd bylchau yn y dystiolaeth yn sicr o ddod i'r amlwg. Yn unol â chenhadaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd, bydd yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd yn targedu'r bylchau hyn lle bo hynny'n bosibl, gyda'r nod o wella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth cydraddoldeb nawr a thrwy ei Chynllun gwaith yn y dyfodol.
Gwerthuso prosesau ac effaith
Er y bydd y fframwaith mesur yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth, nid yw dangosyddion yn unig yn ddigon i bennu achosiaeth nac i ddangos yn llawn pam mae newid wedi digwydd. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, bydd y fframwaith yn cael ei gefnogi gan werthusiad proses, i geisio deall sut mae polisi neu ymyriad yn cael ei roi ar waith drwy ganfod beth sy'n gweithio'n dda, nodi rhwystrau rhag cyflawni, a gwneud argymhellion ar gyfer gwella yn y dyfodol.
Bydd y gwerthusiad proses yn defnyddio gwahanol fathau o ddata i asesu gweithrediad y Cynllun. Bydd data rhifol 'meintiol' yn cael ei ddefnyddio i fonitro allbynnau gweithredoedd yn y tymor byr i ganolig, fel yr amlinellir yn y Damcaniaethau Newid. Er enghraifft, gellir defnyddio data monitro i ddangos nifer y bobl anabl yr ymgysylltwyd â nhw wrth ddatblygu polisi neu nifer y darparwyr gwasanaethau sydd wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Model Cymdeithasol o Anabledd.
Er ei fod yn debyg i'r defnydd o ddata yn y fframwaith mesur, bydd y data monitro a ddefnyddir wrth werthuso prosesau yn cyd-fynd yn agosach â chamau gweithredu unigol ac yn llai dangosol o newid ehangach yn y tymor hir. Gall y gwerthusiad hefyd ddefnyddio data ychwanegol o arolygon i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau sy'n dod i'r amlwg yn y dystiolaeth ac i roi cipolwg ar brofiadau pobl gyda'r Cynllun.
Lle bydd angen dealltwriaeth ddyfnach, bydd safbwyntiau a barn pobl hefyd yn cael eu casglu drwy ddefnyddio dulliau data 'ansoddol', fel cyfweliadau neu grwpiau ffocws. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i archwilio newidiadau'n fanylach, gan helpu i ddeall y broses ynghylch pam mae newid wedi digwydd a sut mae wedi effeithio ar bobl. Yn y pen draw, mae dulliau ansoddol yn helpu i gynrychioli barn pawb sy'n ymwneud â'r Cynllun yn gywir, gan gynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am weithredu, sefydliadau partner sy’n ymwneud â'i gyflawni, ac yn bwysicaf oll, y bobl anabl y mae'n ceisio gwella eu bywydau.
O'r herwydd, bydd profiad uniongyrchol yn hanfodol i sicrhau bod pobl anabl yn parhau i fod wrth galon y gwerthusiad. Yn ogystal â phrofiad uniongyrchol ymchwilwyr yn yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd, bydd pobl anabl yn cymryd rhan ym mhob cam i sicrhau bod yr ymchwil yn hygyrch drwy ddyluniad a bod profiadau pobl anabl yn cael eu cynrychioli'n llawn. Bydd gan y Bwrdd Cynghori Allanol rôl allweddol yn hyn o beth. Mae'n hanfodol bod yr ymchwil yn glynu wrth yr egwyddor pwysigrwydd cynnwys pobl anabl mewn unrhyw benderfyniadau, ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd drwyddi draw i sicrhau dull cwbl gynhwysol a chynrychioladol.
Er y bydd y gwerthusiad o'r broses yn canolbwyntio'n bennaf ar weithredu'r Cynllun a mynd i'r afael â'r rhwystrau rhag cyflawni dros y 2 flynedd gyntaf, bydd yn rhoi rhyw arwydd o'r effaith gynnar a'r canlyniadau sy'n dod i'r amlwg ond gan ei bod yn bosibl na fydd yr effeithiau ehangach ar bobl anabl yng Nghymru yn gwbl amlwg tan yn ddiweddarach.
Bydd y cam hwn o'r ymchwil yn cael ei ddilyn gan 'werthusiad effaith', a fydd yn canolbwyntio ar asesu llwyddiant y Cynllun o ran cyflawni ei ganlyniadau yn y tymor canolig i'r tymor hir. Bydd yr ail gam hwn o'r ymchwil yn defnyddio data a gasglwyd dros gyfnod hirach, ac ar brofiadau'r bobl anabl y mae'r Cynllun yn effeithio arnynt, i asesu ei effaith gyffredinol.
