Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa a Trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Safon 18: Cyfarpar
Llais y Plentyn: Mae yna bethau i chwarae gyda nhw sy'n ddiogel, yn hwyl ac yn fy helpu i ddefnyddio fy nychymyg.
Deilliant Lles: Bod plant yn mwynhau adnoddau penagored, diddorol sy'n ysbrydoli chwarae, dychymyg ac arbrofi.
Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:
18.1 Bod dodrefn, cyfarpar a theganau yn cael eu darparu sy'n briodol i'r diben ac sy'n helpu i greu amgylchedd hygyrch sy'n ysgogi'r plant. Eu bod o ddyluniad a chyflwr addas, yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Teganau (Diogelwch) perthnasol lle bo'n gymwys.
18.2 Bod digon o deganau a deunyddiau chwarae addas ar gael er mwyn darparu gweithgareddau sy’n ysgogi’r plant a chyfleoedd chwarae ym mhob maes chwarae. Rhaid i'r rhain fod yn briodol ar gyfer oedrannau ac anghenion datblygu unigol y plant sy'n mynychu, a rhaid iddynt hyrwyddo eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol a chyfleoedd cyfartal.
18.3 Os defnyddir mannau chwarae cyhoeddus, nad yw'r plant yn defnyddio cyfarpar diffygiol. Eu bod o ddyluniad a chyflwr addas ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda.
18.4 Y rhoddir ystyriaeth i ddiogelwch plant wrth ymgymryd â gweithgareddau, gan gynnwys cyfarpar ychwanegol y gallai fod ei angen e.e. ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chwaraeon. Bod digon o offer achub bywyd a chymorth hynofedd ar gael pan gynhelir chwaraeon dŵr.
Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.
Rheoliadau Cysylltiedig
Mwy o Arweiniad
Canllawiau Statudol i gefnogi Rheoliadau Teganau (Diogelwch) 2011 - GOV.UK
Hybu gweithgarwch corfforol trwy chwarae'r tu allan
Datblygu a rheoli mannau chwarae
Creu mannau chwarae hygyrch - pecyn cymorth
Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae: Datganiad Sefyllfa
Rheoli Risg mewn Darpariaeth Chwarae:Canllaw Gweithredu
Ffurflen Asesu Risg-Budd - Gwag
Ffurflen Asesu Risg-Budd - Esiampl wedi'i Chwblhau
Pwyso a mesur risgiau a buddiannau mewn chwarae plant
Canllaw gweithiwr chwarae i risg
Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau
Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau - Diogelwch Teganau
