Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir - Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa a Trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr chwarae mynediad agored eu bodloni er mwyn gofalu am blant 5 i 12 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Geirfa
| Term | Diffiniad |
|---|---|
| Anghenion cymorth ychwanegol | Mae anghenion cymorth ychwanegol yn cyfeirio at y gefnogaeth ychwanegol neu wahanol y gall fod ei hangen ar blentyn neu berson ifanc ar unrhyw adeg i chwarae, cymryd rhan, dysgu, datblygu, a ffynnu ochr yn ochr â'u cyfoedion. |
| Anghenion Dysgu Ychwanegol | Plant a phobl ifanc anabl neu ag anawsterau dysgu sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu. |
| Arolygiaeth Gofal Cymru | Y corff rheoleiddio sy’n gyfrifol am sicrhau bod rheoliadau gofal plant a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn cael eu bodloni – mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. |
| Asesu Risg-Budd | Proses asesu risg er mwyn penderfynu a yw manteision gweithgaredd penodol yn gorbwyso'r risg o niwed. |
| Asiantaeth Safonau Bwyd | Sefydliad sy’n diogelu iechyd y cyhoedd ac yn amddiffyn buddiannau cwsmeriaid mewn perthynas â bwyd. |
| Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch | Y rheoleiddiwr cenedlaethol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle. |
| Blynyddoedd Cynnar | Yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru, y cyfnod rhwng 0 a 7 oed ym mywyd plentyn. |
| Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn | Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy'n nodi hawliau plant. Y rhesymeg dros CCUHP yw bod angen ystyriaeth benodol ar hawliau plant oherwydd y gofal a’r amddiffyniad arbennig y mae plant a phobl ifanc yn aml eu hangen. Mae'n rhestr o hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc. |
| Cwlwm | Consortiwm o bum partner gofal plant a chwarae, sy’n cefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae drwy gynnig arweiniad ac aelodaeth, gan annog lleoliadau cynaliadwy o safon. Y partneriaid yw: Mudiad Meithrin sy'n arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar; Coram PACEY Cymru sy'n hyrwyddo arfer gorau ac yn cefnogi gwarchodwyr plant; Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru (NDNA Cymru) sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant penodol ar redeg meithrinfa yng Nghymru; Blynyddoedd Cynnar Cymru sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi gofal cyn-ysgol, addysg a darpariaeth dysgu drwy chwarae dwyieithog ledled Cymru; Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs (CPCKC) sy'n helpu cymunedau yng Nghymru drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol sy'n fforddiadwy, yn hygyrch ac o safon uchel. |
| Cymdeithas anghorfforedig | Cymdeithas nad oes ganddi bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân i'w haelodau. |
| Chwarae | Ymddygiadau, gweithgareddau neu brosesau a gaiff eu hysgogi, eu rheoli a'u strwythuro gan blant yn wirfoddol, ar sail cymhelliad y plentyn, yn hytrach nag er mwyn cyflawni rhywbeth, ac sy'n cynnwys nodweddion allweddol sbort a sbri, ansicrwydd, her a hyblygrwydd, heb arwain at gynhyrchiant. |
| Chwarae Cymru | Elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant sy’n darparu cyngor ac arweiniad i helpu pawb sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb dros ddarpariaeth chwarae plant. |
| Chwarae o Safon | Chwarae o Safon yw marc ansawdd gwaith chwarae Chwarae Cymru. Y bwriad yw defnyddio Chwarae o Safon mewn lleoliadau gwaith chwarae heb eu rheoleiddio, yn ogystal â lleoliadau a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae hefyd yn berthnasol i'r rhai sy'n ymwneud â gwaith chwarae mewn lleoliadau nad ydynt yn benodol ar gyfer gwaith chwarae. |
| Darpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar | Mae hyn yn cyfeirio at y ddarpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a ddarperir gan y lleoliad gofal plant neu chwarae neu'r addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol. Dyma'r ddarpariaeth i fabanod a phlant bach 0-5 oed. |
| Datganiad o ddiben | Datganiad y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i bob darparwr gofal plant cofrestredig ei lunio. Rhaid i’r datganiad gynnwys yr holl wybodaeth o dan Reoliad 15 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 am nodau ac amcanion y gwasanaeth a ddarperir i blant o dan ofal y person cofrestredig, ynghyd â materion perthnasol eraill. |
| Deddf Cydraddoldeb 2010 | Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu fframwaith cyfreithiol i amddiffyn pobl rhag achosion o wahaniaethu yn y gweithle ac mewn cymdeithas yn ehangach. |
Diogel
| Mor ddiogel ag y bo'n rhesymol ymarferol mewn man cyhoeddus agored. Caiff hyn ei reoli drwy asesu’r risg a’r budd a chynnal cofnodion ymwelwyr. |
| Dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma | Dull gweithredu sy'n cydnabod bod gan bawb rôl i'w chwarae wrth hwyluso cyfleoedd i bobl sydd wedi profi trawma ac adfyd. Mae’n ddull lle mae unigolyn, sefydliad, rhaglen neu system yn sylweddoli effaith eang trawma ac yn deall llwybrau posibl ar gyfer gwella a goresgyn adfyd a thrawma fel unigolyn neu gyda chefnogaeth pobl eraill, gan gynnwys cymunedau a gwasanaethau. |
| Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol (DARPL) | Mae DARPL yn dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr sydd â phrofiad bywyd a phrofiad proffesiynol. Mae’n cefnogi dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth gwrth-hiliol ar gyfer gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar drwy ganolfan ddysgu ac adnoddau. |
| Eithriadau (Wedi’u heithrio rhag gorfod cofrestru) | Lleoliadau sydd yn yr amgylchiadau a nodir yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, ac nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. |
Gofal Cymdeithasol Cymru
| Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r corff rheoleiddio ar gyfer gofal cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu gweithlu’r sector gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar gymryd camau i feithrin hyder, ceisio gwelliant a helpu i ddatblygu’r gweithlu. Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n cynnal y fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal plant, gan bennu’r cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym meysydd y blynyddoedd cynnar a gofal plant. |
| Gofal dydd a reoleiddir | Mae darpariaeth gofal dydd a reoleiddir yn cwmpasu ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth sy’n ddarostyngedig i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gofynion cofrestru ac arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru. |
| Goruchwylio a gwerthuso | Proses reolaidd, wedi'i chynllunio sy'n helpu gweithwyr i ystyried eu gwaith, rheoli cyfrifoldebau a lles, a chynnal arferion diogel ac effeithiol. Mae gwerthusiad yn adolygiad ffurfiol o berfformiad gweithiwr dros gyfnod penodol, a ddefnyddir i gydnabod llwyddiannau, nodi anghenion datblygu a chytuno ar amcanion ar gyfer y dyfodol. |
| Goruchwylio priodol | Sefyllfa lle mae aelod o staff sydd heb gymhwyso neu aelod staff gwirfoddol yn cael ei oruchwylio gan unigolyn cymwysedig sy'n bresennol ac yn gallu monitro ei ymarfer bob amser. Rhaid i'r person cymwysedig sy’n goruchwylio fod wrth law, bod yn ymwybodol o weithredoedd a chyfrifoldebau'r aelod o staff sydd heb gymhwyso, a gallu ymyrryd neu ddarparu arweiniad pryd bynnag y bo angen i ddiwallu anghenion plant a sicrhau eu diogelwch a'u lles yn y lleoliad. |
| Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd | Mae cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ffordd i gyflogwyr wirio'ch cofnod troseddol, er mwyn eu helpu i benderfynu a ydych yn berson addas i weithio iddynt. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a yw'n addas i chi weithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed. |
| Gweithdrefnau Diogelu Cymru | Rolau a chyfrifoldebau i ymarferwyr eu dilyn i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion a allai fod yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu sydd mewn perygl o hynny. Mewn perthynas â phlant, mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw fath arall o niwed. |
| Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cod Ymarfer Diogelu | Canllawiau anstatudol sy'n nodi egwyddorion a safonau clir i unigolion, grwpiau a sefydliadau eu dilyn er mwyn amddiffyn unigolion, yn enwedig plant ac oedolion agored i niwed, rhag niwed a chamdriniaeth. Mae'n rhoi pwyslais ar weithio mewn partneriaeth, atebolrwydd, a phwysigrwydd hyrwyddo lles, gan sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu yn cael eu deall a'u gweithredu'n effeithiol gan bawb sy'n gysylltiedig. |
| Gweithiwr Chwarae | Aelod o staff sy'n gweithio i hwyluso chwarae plant yn unol ag Egwyddorion Gwaith Chwarae. Gall weithio heb oruchwyliaeth fel rhan o dîm ehangach ac mae ganddo gyfrifoldebau amrywiol o fewn y tîm hwnnw. |
| Gwrth-hiliaeth | Mynd ati i ganfod a chwalu’r systemau, y strwythurau a’r prosesau sy’n arwain at ganlyniadau cwbl wahanol i grwpiau ethnig leiafrifol. Mae’n golygu cydnabod y gallwn ni, hyd yn oed os na chredwn ein bod yn ‘hiliol’, drwy wneud dim byd, fod yn rhan o ganiatáu i hiliaeth barhau. |
| Lles | Cyflwr o fod yn gyfforddus, yn iach neu'n hapus. |
| Man chwarae cynhwysol a hygyrch | Mae man chwarae cynhwysol a hygyrch yn ofod di-rwystr sy'n diwallu anghenion eang ac amrywiol pob plentyn. Bydd pob plentyn yn gallu mwynhau lefel uchel o gyfleoedd i gyfranogi, sydd yr un mor gyfoethog o ran gwerth. |
| Mangre | Mae ‘mangre’ yn cynnwys unrhyw ardal ac unrhyw gerbyd cofrestredig a ddefnyddir i gynnal gwasanaethau gofal dydd. |
| Mesur | Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 |
| Model Cymdeithasol o Anabledd | O dan y model cymdeithasol o anabledd, plentyn anabl yw plentyn sydd ag amhariad neu gyflwr ac sy'n cael ei anablu gan rwystrau mewn cymdeithas, yn hytrach na gan yr amhariad ei hun. |
| Person cofrestredig | Person sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd. |
| Person heb gymhwyso/Gwirfoddolwr | Unigolyn sy'n gweithio mewn lleoliad gofal dydd cofrestredig nad oes ganddo gymhwyster cydnabyddedig sy'n ofynnol ar gyfer y rôl/math o wasanaeth. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn cwmpasu aelodau staff a allai fod yn gweithio tuag at gyflawni'r cymhwyster gofynnol. Gall yr unigolion hyn fod yn gyflogedig neu gyflawni tasgau o fewn y lleoliad ar sail wirfoddol. |
| Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod | Straen cronig ar unigolion yn ystod plentyndod. Mae straen o’r fath yn deillio o gam-drin ac esgeuluso plant ond hefyd o fagwraeth mewn cartrefi lle mae plant yn dod i gysylltiad rheolaidd â materion fel trais domestig neu unigolion â phroblemau camddefnyddio alcohol a sylweddau eraill. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cael eu galw’n Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. |
| Rheoliadau | Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd). |
| Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed | Safonau a ddefnyddir i helpu lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd i fodloni'r gofynion rheoleiddio ar gyfer gofal plant hyd at ddeuddeg oed, ac a gyhoeddwyd o dan reoliad 14 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd). |
| Safonau Hyfforddiant Cenedlaethol (Gofal Cymdeithasol Cymru) | Fframwaith cynhwysfawr ar gyfer hyfforddiant, datblygiad ac addysg barhaus y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r safonau wedi'u cynllunio i sicrhau bod yr holl staff sy'n gweithio o fewn gwasanaethau gofal cymdeithasol yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r gwerthoedd angenrheidiol i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person. |
| Staff | Gweithwyr o fewn y lleoliad gofal dydd dan sylw, boed yn gyflogedig neu'n ddi-dâl, ac mewn nifer o rolau gwahanol (gan gynnwys rolau nad ydynt yn ymwneud â gwaith chwarae). |
| Ymarferwyr | Mae’r term cyffredinol hwn yn cyfeirio at yr unigolion sy’n gweithio gyda phlant, boed yn gyflogedig neu’n ddi-gyflog. |
