Neidio i'r prif gynnwy

Mae rheolwyr tir yn rhoi cynnig ar ein hofferyn drafft i amcangyfrif cost rheoli rhedyn yn seiliedig ar fanylion y safle (er enghraifft arwynebedd a llethr).

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Amcangyfrif cost opsiynau ar gyfer rheoli rhedyn (beta) , math o ffeil: XLSB, maint ffeil: 147 KB

XLSB
147 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Mae'r offeryn hwn yn caniatáu i reolwyr tir amcangyfrif cost ystod o opsiynau rheoli rhedyn ar gyfer safle penodol. Mae ADAS wedi creu'r offeryn hwn ar ran Llywodraeth Cymru. Os oes gennych unrhyw adborth, anfonwch e-bost at: pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru.

Ymwadiad

Bydd yr offeryn hwn yn helpu i gefnogi eich penderfyniadau ynghylch rheoli rhedyn. Bydd yn eich helpu i ystyried eich opsiynau rheoli. Ond nid yw'n darparu argymhellion pendant. Nid yw'n disodli'r angen ichi arfer eich barn eich hun. Chi sy’n gyfrifol am:

  • benderfynu sut i ddehongli allbynnau'r offeryn a'u rhoi ar waith
  • sicrhau bod unrhyw gamau a gymerwyd yn briodol i'w hamgylchiadau
  • sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu yn cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol

Nid yw Llywodraeth Cymru ac ADAS yn derbyn unrhyw atebolrwydd am:

  • benderfyniadau neu gamau gweithredu a wneir ar sail allbynnau'r offeryn yn unig, neu 
  • unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o'i ddefnyddio neu ei gamddefnyddio