Bydd angen i chi wneud cais am naill ai dystysgrif gwblhau lawn neu rannol ar ôl cwblhau'r gwaith adeiladu neu gymal o’r gwaith ar adeilad risg uwch.
Cynnwys
Cyflwyniad
Gallwch ofyn i’r awdurdod rheolaeth adeiladu (sef yr awdurdod lleol fel arfer lle saif yr adeilad) am dystysgrif.
Pryd i wneud cais am dystysgrif gwblhau
Rhaid i chi wneud cais am dystysgrif gwblhau pan fydd gwaith adeiladu ar adeilad risg uwch wedi'i gwblhau.
Mae adeilad risg uwch yn adeilad sydd ag o leiaf:
- 7 llawr neu sydd o leiaf 18 metr o uchder
- 1 uned breswyl neu sy'n ysbyty, cartref gofal neu gartref plant
Mae rhai mathau o adeiladau wedi'u heithrio o fod yn adeilad risg uwch, fel gwestai, sefydliadau preswyl diogel a barics milwrol neu lety arall y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Ceir canllawiau sy'n esbonio pryd mae adeilad yn cael ei ystyried yn adeilad risg uwch yn ystod gwaith adeiladu adeiladau newydd ac yn ystod gwaith adeiladu ar adeiladau sy'n bod.
Tystysgrifau cwblhau
Rhaid i chi wneud cais am dystysgrif gwblhau pan fydd:
- prosiect i adeiladu adeilad risg uwch newydd wedi'i gwblhau
- prosiect i wneud gwaith adeiladu ar adeilad risg uwch sy'n bod wedi'i gwblhau
Tystysgrifau cwblhau rhannol
Dim ond os yw'r ddau isod yn berthnasol y gallwch wneud cais am dystysgrif gwblhau rannol:
- rydych wedi cyflwyno strategaeth cwblhau rhannol fel rhan o'ch cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu
- rydych chi'n gwneud cais am dystysgrif gwblhau rannol yn unol â'r strategaeth
Os oes angen i chi newid y strategaeth cwblhau rhannol, rhaid i chi gyflwyno'r newid i'r awdurdod rheolaeth adeiladu. Darllenwch y canllaw am wneud newidiadau i brosiect adeiladu risg uwch. Mae'n esbonio'r broses rheoli newid.
Sut i wneud cais am dystysgrif gwblhau
Bydd angen i chi wneud cais i'r awdurdod rheolaeth adeiladu am dystysgrif gwblhau neu dystysgrif gwblhau rannol. Bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn esbonio i chi sut i gyflwyno cais iddynt.
Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu wrth wneud cais am dystysgrif gwblhau
Rhowch fanylion y cleient, y prif (neu'r unig) gontractwr a'r prif (neu'r unig) ddylunydd.
Cynhwyswch ddatganiad bod y cais yn cael ei wneud o dan reoliad 39 o Reoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025, neu reoliad 44 os ydych yn gwneud cais am dystysgrif gwblhau rannol.
Darparwch ddisgrifiad o'r gwaith gorffenedig a ddaw o dan y dystysgrif gwblhau. Cynhwyswch ddyddiad cwblhau'r gwaith.
Cynhwyswch gopi o'r fersiwn ddiweddaraf o'r dogfennau canlynol y cytunwyd arnynt pan fyddwch yn gwneud cais am dystysgrif gwblhau:
- lluniadau a phlaniau
- cynllun rheolaeth adeiladu
- cynllun rheolaeth newid
- cynllun adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau
- datganiad cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu
- ffeil tân ac argyfwng
- datganiad cydymffurfio â thân os oes gennych un ar gyfer gwaith categori B
Hefyd cynhwyswch gopïau o:
- eich strategaeth cwblhau rhannol, os ydych yn gwneud cais am dystysgrif gwblhau rannol
- cynlluniau sy'n dangos lleoliad draeniau a charthffosydd newydd
- gwybodaeth am y mesurau y byddwch yn eu cymryd i ofalu am ddraeniau os byddwch yn adeiladu ar ben llinell ganol draen, carthffos gyhoeddus neu breifat neu bibell waredu, neu o fewn 3 metr iddynt.
- datganiadau cydymffurfio wedi'u llofnodi gan bob prif ddylunydd a phrif gontractwr ar y prosiect sy'n cadarnhau eu bod wedi gwneud eu dyletswyddau o dan reoliadau adeiladu
- os yw’r cais yn cael ei wneud gan rywun ar ran y cleient, datganiad wedi'i lofnodi gan y cleient, yn cadarnhau hyd eithaf ei wybodaeth, fod y gwaith ar yr adeilad risg uwch yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau adeiladu cymwys.
- eich log rheolaeth newid
Gallwch ddarllen mwy am y dogfennau y mae angen ichi eu lanlwytho yn y canllaw am baratoi gwybodaeth ar gyfer cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.
Darparwch ddatganiad sy'n cadarnhau bod y cleient wedi trosglwyddo gwybodaeth am yr adeilad i'r person cyfrifol o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
- Rhaid i'r datganiad gael ei lofnodi gan y cleient a'r person cyfrifol.
Gallwch ddarllen mwy am y wybodaeth y mae'n rhaid i'r cleient ei rhannu yn y canllaw am gadw gwybodaeth am adeilad risg uwch: y llinyn aur.
Penderfynu ar gais
Er mwyn penderfynu a yw'r gwaith sydd wedi'i gwblhau yn bodloni'r rheoliadau a'r gofynion adeiladu perthnasol, bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu:
- yn asesu'r wybodaeth a'r dogfennau yn eich cais am dystysgrif gwblhau
- yn cymharu'r dogfennau gwreiddiol yn eich cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ag unrhyw ddogfennau sydd wedi'u diweddaru
- adolygu'ch log newid ac unrhyw newidiadau y gwnaethoch eu cyflwyno i’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn ystod y gwaith adeiladu
- archwilio'r gwaith a gwblhawyd
Bydd cais am dystysgrif gwblhau yn cael ei gymeradwyo os yw'r awdurdod rheolaeth adeiladu yn penderfynu:
- bod y gwaith adeiladu sydd wedi'i gwblhau yn cydymffurfio â'r rheoliadau a'r gofynion adeiladu perthnasol
- bod y dogfennau a'r wybodaeth ofynnol ar gyfer y cais yn gyflawn ac yn gywir
- bod yr holl wybodaeth ofynnol am yr adeilad wedi'i throsglwyddo i'r person cyfrifol
Os caiff y cais ei gymeradwyo, byddwch yn cael tystysgrif gwblhau neu dystysgrif gwblhau rannol, yn ôl y gofyn.
Os nad yw'r awdurdod rheolaeth adeiladu yn fodlon bod y cais yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer cymeradwyo, caiff y cais ei wrthod ac ni chaiff tystysgrif gwblhau ei rhoi i chi. Bydd yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn esbonio'r rheswm(au) dros wrthod.
