Neidio i'r prif gynnwy

Yr wybodaeth y mae angen i gleientiaid, prif ddylunwyr, prif gontractwyr a phersonau cyfrifol ei chadw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pam mae gofyn i chi gadw gwybodaeth am adeilad

Rhaid i chi gadw cofnod digidol o wybodaeth am adeilad os ydych chi:

  • yn gleient ar brosiect sy'n cynnwys gwaith ar adeilad risg uwch
  • yn berson sy'n gyfrifol am adeilad risg uwch

Yn y dyfodol, bydd hyn yn debygol o gynnwys person atebol neu brif berson atebol pan ddaw deddfwriaeth i rym ar gyfer rheoli risgiau i ddiogelwch adeilad pan fydd adeilad wedi’i feddiannu.

Y llinyn aur yw'r enw a ddefnyddir weithiau ar gyfer yr wybodaeth hon. Bydd ei chadw yn eich helpu i:

  • gydymffurfio â'ch dyletswyddau cyfreithiol
  • rheoli diogelwch adeiladau

Gall cyrff eraill fel y Gwasanaethau Tân ac Achub hefyd ddefnyddio'r wybodaeth, pan fo hynny’n briodol.

Adeiladau risg uwch

Mae adeilad risg uwch yn adeilad sydd ag o leiaf:

  • 7 llawr neu sydd o leiaf 18 metr o uchder
  • 1 uned breswyl neu sy'n ysbyty, cartref gofal neu gartref plant

Mae rhai mathau o adeiladau wedi'u heithrio o fod yn adeilad risg uwch, fel gwestai, sefydliadau preswyl diogel a barics milwrol neu lety arall y Weinyddiaeth Amddiffyn. 

Darllenwch y canllaw ynghylch pryd yr ystyrir bod adeiladau yn adeiladau risg uwch yn ystod gwaith adeiladu adeilad newydd neu wrth gynnal gwaith adeiladu ar adeiladau sy’n bod.

Rheoli a storio'r wybodaeth

Rhaid i chi reoli a storio gwybodaeth am adeilad, fel ei bod:

  • yn cael ei chadw'n electronig 
  • modd ei throsglwyddo’n electronig i bobl eraill heb golli na llygru’r data, gwybodaeth neu ddogfennau
  • yn gywir ac yn gyfoes 
  • yn ddiogel rhag i neb heb awdurdod allu ei gweld
  • ar gael mewn fformat darllenadwy pan fydd rhywun angen y wybodaeth
  • yn cael ei chyflwyno mewn ffordd y gall rhywun ei ddefnyddio
  • yn unig ffynhonnell gwirionedd yr adeilad
  • yn hygyrch, trwy ddarparu'r wybodaeth mewn fformat syml sy'n hawdd ei ddeall, mewn Saesneg/Cymraeg clir
  • yn cydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Wrth ddylunio ac adeiladu adeilad risg uwch

Cyfrifoldebau'r cleient

Fel y cleient, rhaid i chi gadw gwybodaeth sy'n disgrifio'r adeilad ac yn dangos sut mae'n cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. I wneud hyn, rhaid i chi gadw cofnod o:

  • sut mae'r bobl sy'n gyfrifol am y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â'u dyletswyddau
  • sut y byddwch chi'n rheoli'r gwaith, fel eich bod yn adeiladu'r hyn roeddech chi'n bwriadu ei adeiladu

Rhaid i chi rannu gwybodaeth am yr adeilad gyda phob dylunydd a chontractwr ar y prosiect. 

Er mwyn storio gwybodaeth am yr adeilad yn electronig, rhaid i chi ddarparu system cadw cofnodion. Dylai fod modd rheoli fersiynau ar eich system er mwyn i ddefnyddwyr allu gweld newidiadau. Rhaid i chi nodi'ch polisïau a gweithdrefnau, i wneud yn siŵr bod eich system yn:

  • ddiogel
  • ar gael i'r rheini sydd ag awdurdod i'w gweld

Bydd eich system cadw cofnodion yn eich helpu gyda'r wybodaeth y bydd angen i chi ei pharatoi pan fyddwch chi'n gwneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.

Er enghraifft:

  • lluniadau a phlaniau
  • declarasiwn cymhwysedd
  • cynllun rheolaeth adeiladu
  • cynllun a log rheoli newid
  • datganiad cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu
  • ffeil tân ac argyfwng
  • awdurdodiad gan y Cleient
  • plan o’r safle/lleoliad
  • cynllun adroddiadau gorfodol ar ddigwyddiadau
  • datganiad cynllunio
  • strategaeth cwblhau rhannol

Ar ddiwedd y cyfnod adeiladu

Pan fydd y gwaith adeiladu wedi'i orffen, rhaid i chi, y cleient, wneud cais am dystysgrif cwblhau.

I wneud cais am dystysgrif cwblhau, rhaid i chi ddangos eich bod wedi rhoi'r wybodaeth am yr adeilad i'r Person Cyfrifol am yr adeilad.

Mae'r wybodaeth am yr adeilad y mae'n rhaid i chi ei throsglwyddo yn cynnwys:

  • yr holl wybodaeth a ddefnyddiwyd gennych i wneud cais am eich cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu
  • yr holl wybodaeth a roddwyd gennych ar gyfer y cais am dystysgrif gwblhau
  • tystysgrif cwblhau'r adeilad
  • mynediad at wybodaeth yr adeilad a’i rheoli
  • yr wybodaeth berthnasol am ddiogelwch tân

Rhaid i'r person rydych chi'n rhoi'r wybodaeth iddo gadarnhau fod yr wybodaeth wedi cyrraedd a'i bod mewn fformat y gall ei ddefnyddio.

Cyfrifoldebau'r prif ddylunydd

Fel y prif ddylunydd, mae'n rhaid i chi gasglu’r holl wybodaeth ddylunio a'i chadw'n gyfredol. 

Rhaid i chi weithio gyda'r prif gontractwr i:

  • wneud yn siŵr eich bod yn cofnodi'r gwaith dylunio yn ystod y cyfnod adeiladu
  • helpu'r cleient i ddarparu gwybodaeth i unrhyw un sydd ei hangen
  • rhannu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwaith adeiladu

Rhaid bod gennych brosesau ar waith i helpu:

  • dylunwyr i gyfathrebu â'i gilydd
  • i gasglu a rhannu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwaith adeiladu

Cyfrifoldebau'r prif gontractwr

Fel y prif gontractwr, rhaid i chi ddefnyddio'r system cadw cofnodion a ddarperir gan y cleient i sicrhau bod gwybodaeth am yr adeilad yn gyfredol.

Rhaid ichi:

  • helpu'r cleient i ddarparu gwybodaeth i unrhyw un sydd ei hangen
  • gweithio â'r prif ddylunydd i rannu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwaith adeiladu
  • feddu ar brosesau i helpu contractwyr i gyfathrebu â'i gilydd
  • cadw tystiolaeth bod y gwaith adeiladu yn bodloni'r rheoliadau adeiladu
  • gweithio gyda'r tîm dylunio i reoli newidiadau

Sut i adnabod y person cyfrifol am yr adeilad

Ar hyn o bryd mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, y "Gorchymyn Diogelwch Tân", yn berthnasol i bron pob adeilad yng Nghymru nad yw'n annedd preifat sengl (fel tai cyffredin a byngalos). O dan y Gorchymyn Diogelwch Tân, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r "person sy'n gyfrifol" am safle gymryd camau i leihau'r risg o dân ar y safle hwnnw. Mae hynny'n cynnwys cynnal asesiad risg tân rheolaidd a gweithredu ar y canfyddiadau.

Gall y person cyfrifol fod yn berson unigol neu (yn amlach) yn endid corfforaethol fel cwmni, elusen neu gorff cyhoeddus. Efallai na fydd hi wastad yn hawdd gwybod pwy yw'r person cyfrifol, ond yn y bôn y person cyfrifol:

  • O safbwynt gweithle, yw’r cyflogwr, os yw'r gweithle i unrhyw raddau o dan ei reolaeth. O ran safleoedd nad ydynt yn bodloni’r uchod:
    • y person sy'n rheoli'r safle at ddibenion busnes neu ymgymeriad, (megis landlord neu berson hunangyflogedig)
    • perchennog y safle, lle nad oes gan y person sy’n rheoli’r safle reolaeth ar fasnach, busnes neu ymgymeriad arall y person hwnnw 

Pasiwyd y Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 gan y Senedd ym mis Mawrth 2026. Disgwylir iddo ddod i rym yn ystod y blynyddoedd nesaf. Weithiau, bydd i bob pwrpas yn  cymryd lle'r Gorchymyn Diogelwch Tân ar gyfer adeiladau sy'n cynnwys dwy neu fwy o unedau preswyl, er enghraifft blociau fflatiau pwrpasol, eiddo wedi'i droi'n fflatiau a'r rhan fwyaf o dai amlfeddiannaeth. 

O dan y Deddf, bydd y dyletswyddau i asesu a rheoli risgiau diogelwch tân, tebyg i rai'r person cyfrifol o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân, yn gyfrifoldeb "person atebol" a “phrif berson atebol” yn lle hynny (gweler adrannau 8 a 9 y Deddf).