Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol - Cynulleidfa i trosolwg
Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.
Ar y dudalen hon
Geirfa
Anghenion cymorth ychwanegol
Mae anghenion cymorth ychwanegol yn cyfeirio at y gefnogaeth ychwanegol neu wahanol y gall fod ei hangen ar blentyn neu berson ifanc ar unrhyw adeg i chwarae, cymryd rhan, dysgu, datblygu, a ffynnu ochr yn ochr â'u cyfoedion.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Plant a phobl ifanc anabl neu ag anawsterau dysgu sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu.
Y corff rheoleiddio sy’n gyfrifol am sicrhau bod rheoliadau gofal plant a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn cael eu bodloni, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.
Asesu Risg-Budd
Proses asesu risg er mwyn penderfynu a yw manteision gweithgaredd penodol yn gorbwyso'r risg o niwed.
Asiantaeth Safonau Bwyd
Sefydliad sy’n diogelu iechyd y cyhoedd ac yn amddiffyn buddiannau cwsmeriaid mewn perthynas â bwyd.
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Y rheoleiddiwr cenedlaethol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Blynyddoedd Cynnar
Yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru, y cyfnod rhwng 0 a 7 oed ym mywyd plentyn.
Categorïau o leoliadau gofal plant a chwarae, gan gynnwys gwarchod plant; gofal dydd llawn; gofal sesiynol; crèches; clybiau y tu allan i oriau ysgol a darpariaeth chwarae mynediad agored
Gweler yr adran Gwarchod Plant a Gofal Dydd a Reoleiddir o'r ddogfen hon am fanylion llawn.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy'n nodi hawliau plant.
Hawliau'r Plentyn
Y rhesymeg dros CCUHP yw bod angen ystyriaeth benodol ar hawliau plant oherwydd y gofal a’r amddiffyniad arbennig y mae plant a phobl ifanc yn aml eu hangen. Mae'n rhestr o hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc.
Cwlwm
Consortiwm o bum partner gofal plant a chwarae, sy’n cefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae drwy gynnig arweiniad ac aelodaeth, gan annog lleoliadau cynaliadwy o safon. Y partneriaid yw:
- Mudiad Meithrin sy'n arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
- Coram PACEY Cymru sy'n hyrwyddo arfer gorau ac yn cefnogi gwarchodwyr plant.
- Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru (NDNA Cymru) sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant penodol ar redeg meithrinfa yng Nghymru.
- Blynyddoedd Cynnar Cymru sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi gofal cyn-ysgol, addysg a darpariaeth dysgu drwy chwarae dwyieithog ledled Cymru.
- Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs (CPCKC) sy'n helpu cymunedau yng Nghymru drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol sy'n fforddiadwy, yn hygyrch ac o safon uchel.
Cwricwlwm i Gymru
Cwricwlwm statudol i blant a phobl ifanc tair i un ar bymtheg oed, yn nodi yr hyn sy’n bwysig o ran darparu addysg eang a chytbwys yng Nghymru.
Cymdeithas anghorfforedig
Cymdeithas nad oes ganddi bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân i'w haelodau.
Chwarae
Ymddygiadau, gweithgareddau neu brosesau a gaiff eu hysgogi, eu rheoli a'u strwythuro gan blant yn wirfoddol, ar sail cymhelliad y plentyn, yn hytrach nag er mwyn cyflawni rhywbeth, ac sy'n cynnwys nodweddion allweddol sbort a sbri, ansicrwydd, her a hyblygrwydd, heb arwain at gynhyrchiant.
Chwarae Cymru
Elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant sy’n darparu cyngor ac arweiniad i helpu pawb sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb dros ddarpariaeth chwarae plant.
Chwarae o Safon
Chwarae o Safon yw marc ansawdd gwaith chwarae Chwarae Cymru. Y bwriad yw defnyddio Chwarae o Safon mewn lleoliadau gwaith chwarae heb eu rheoleiddio, yn ogystal â lleoliadau a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae hefyd yn berthnasol i'r rhai sy'n ymwneud â gwaith chwarae mewn lleoliadau nad ydynt yn benodol ar gyfer gwaith chwarae.
Darpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar
Mae hyn yn cyfeirio at y ddarpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a ddarperir gan y lleoliad gofal plant neu chwarae neu'r addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol. Dyma'r ddarpariaeth i fabanod a phlant bach 0-5 oed. Gweler rhestr adnoddau ECPLC am ragor o fanylion.
Darpariaeth ddysgu ychwanegol
Ystyr darpariaeth ddysgu ychwanegol i berson sy'n dair oed neu'n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy'n ychwanegol at yr hyn, neu sy'n wahanol i'r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o'r un oedran. Yn achos plentyn sy'n iau na thair oed, mae darpariaeth ddysgu ychwanegol yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath.
Datganiad o ddiben
Datganiad y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i bob darparwr gofal plant cofrestredig ei lunio. Rhaid i’r datganiad gynnwys yr holl wybodaeth o dan Reoliad 15 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 am nodau ac amcanion y gwasanaeth a ddarperir i blant o dan ofal y person cofrestredig, ynghyd â materion perthnasol eraill.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu fframwaith cyfreithiol i amddiffyn pobl rhag achosion o wahaniaethu yn y gweithle ac mewn cymdeithas yn ehangach.
Dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma
Dull gweithredu sy'n cydnabod bod gan bawb rôl i'w chwarae wrth hwyluso cyfleoedd i bobl sydd wedi profi trawma ac adfyd. Mae’n ddull lle mae unigolyn, sefydliad, rhaglen neu system yn sylweddoli effaith eang trawma ac yn deall llwybrau posibl ar gyfer gwella a goresgyn adfyd a thrawma fel unigolyn neu gyda chefnogaeth pobl eraill, gan gynnwys cymunedau a gwasanaethau.
Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol (DARPL)
Mae DARPL yn dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr sydd â phrofiad bywyd a phrofiad proffesiynol. Mae’n cefnogi dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth gwrth-hiliol ar gyfer gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar drwy ganolfan ddysgu ac adnoddau.
Eithriadau (Wedi’u heithrio rhag gorfod cofrestru)
Lleoliadau sydd yn yr amgylchiadau a nodir yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, ac nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Estyn
Yn arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Caiff lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir sy’n darparu addysg feithrin i blant 3 i 4 oed eu harolygu gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru drwy raglen arolygu ar y cyd.
Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar
Mae'r Fframwaith Ansawdd yn llywio ymarfer o ansawdd uchel ac yn disgrifio'r egwyddorion cyffredin y dylai pob lleoliad/ysgol ac ymarferydd sy'n rhoi darpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar waith eu dilyn. Mae hefyd yn cynnwys llwybrau datblygu a threfniadau asesu i blant 0-3 oed, a phecyn cymorth ymarfer myfyriol.
Gofal cofleidiol
Darpariaeth gofal plant sy’n cefnogi rhieni sydd â’u plant mewn addysg feithrin a ariennir drwy ehangu'r ddarpariaeth i ddiwrnod ysgol llawn.
Gofal Cymdeithasol Cymru
Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r corff rheoleiddio ar gyfer gofal cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu gweithlu’r sector gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar gymryd camau i feithrin hyder, ceisio gwelliant a helpu i ddatblygu’r gweithlu. Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n cynnal y fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal plant, gan bennu’r cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym meysydd y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Gofal dydd a reoleiddir
Mae darpariaeth gofal dydd a reoleiddir yn cwmpasu ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth sy’n ddarostyngedig i ofynion statudol a rheoleiddiol, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gofynion cofrestru ac arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru.
Gofal plant o ansawdd uchel
Mae elfennau gofal plant o ansawdd uchel yn cynnwys ansawdd y rhyngweithio rhwng oedolyn a phlentyn; gwybodaeth a dealltwriaeth staff o sut mae babanod a phlant ifanc yn dysgu; cymarebau a maint grwpiau sy’n caniatáu ar gyfer rhyngweithio priodol â phlant; a chefnogi amgylchedd dysgu plant yn y cartref.
Goruchwylio a gwerthuso
Proses reolaidd, wedi'i chynllunio sy'n helpu gweithwyr i ystyried eu gwaith, rheoli cyfrifoldebau a lles, a chynnal arferion diogel ac effeithiol. Mae gwerthusiad yn adolygiad ffurfiol o berfformiad gweithiwr dros gyfnod penodol, a ddefnyddir i gydnabod llwyddiannau, nodi anghenion datblygu a chytuno ar amcanion ar gyfer y dyfodol.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ffordd i gyflogwyr wirio'ch cofnod troseddol, er mwyn eu helpu i benderfynu a ydych yn berson addas i weithio iddynt. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a yw'n addas i chi weithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed.
Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Gweithdrefnau (gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau hanfodol) i ymarferwyr eu dilyn i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion a allai fod yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu sydd mewn perygl o hynny. Mewn perthynas â phlant, mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw fath arall o niwed.
Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cod Ymarfer Diogelu
Canllawiau anstatudol sy'n nodi egwyddorion a safonau clir i unigolion, grwpiau a sefydliadau eu dilyn er mwyn amddiffyn unigolion, yn enwedig plant ac oedolion agored i niwed, rhag niwed a chamdriniaeth. Mae'n rhoi pwyslais ar weithio mewn partneriaeth, atebolrwydd, a phwysigrwydd hyrwyddo lles, gan sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu yn cael eu deall a'u gweithredu'n effeithiol gan bawb sy'n gysylltiedig.
Gweithiwr Chwarae
Aelod o staff sy'n gweithio i hwyluso chwarae plant yn unol ag Egwyddorion Gwaith Chwarae. Gall weithio heb oruchwyliaeth fel rhan o dîm ehangach ac mae ganddo gyfrifoldebau amrywiol o fewn y tîm hwnnw.
Gwrth-hiliaeth
Mynd ati i ganfod a chwalu’r systemau, y strwythurau a’r prosesau sy’n arwain at ganlyniadau cwbl wahanol i grwpiau ethnig leiafrifol. Mae’n golygu cydnabod y gallwn ni, hyd yn oed os na chredwn ein bod yn ‘hiliol’, drwy wneud dim byd, fod yn rhan o ganiatáu i hiliaeth barhau.
Lleoedd addysg feithrin a ariennir
Lleoedd addysg feithrin a ariennir gan awdurdodau lleol i blant 3 a 4 oed, am ran o’r diwrnod ysgol.
Lleoedd gofal plant a ariennir
Gofal plant a ariennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Weinidogion Cymru drwy grantiau neu gynlluniau eraill y mae cyllid yn cael ei dalu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwyddynt i ddarparwyr gwasanaethau gofal plant er mwyn lleihau cost y gwasanaethau hynny i rieni.
Lleoliadau gofal plant (cofrestredig)
Unrhyw leoliad sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gofal i blant 0 i 12 oed.
Lleoliadau gofal plant cofrestredig a ariennir nas cynhelir
Lleoliadau gofal plant nad ydynt yn perthyn i'r awdurdod lleol, sy'n cael eu cymeradwyo a'u hariannu gan yr awdurdod lleol i ddarparu addysg feithrin ac sydd wedi'u cofrestru fel darpariaeth gofal dydd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.
Lles
Cyflwr o fod yn gyfforddus, yn iach neu'n hapus.
Man chwarae cynhwysol a hygyrch
Mae man chwarae cynhwysol a hygyrch yn ofod di-rwystr sy'n diwallu anghenion eang ac amrywiol pob plentyn. Bydd pob plentyn yn mwynhau lefel uchel o gyfleoedd i gyfranogi, sydd yr un mor gyfoethog o ran gwerth chwarae.
Mangre
Mae ‘mangre’ yn cynnwys unrhyw ardal ac unrhyw gerbyd.
Mesur
Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
Model Cymdeithasol o Anabledd
O dan y model cymdeithasol o anabledd, plentyn anabl yw plentyn sydd ag amhariad neu gyflwr ac sy'n cael ei anablu gan rwystrau mewn cymdeithas, yn hytrach na gan yr amhariad ei hun.
Person cofrestredig
Person sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd.
Person heb gymhwyso/Gwirfoddolwr
Unigolyn sy'n gweithio mewn lleoliad gofal plant cofrestredig nad oes ganddo gymhwyster cydnabyddedig sy'n ofynnol ar gyfer y rôl/math o wasanaeth. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn cwmpasu aelodau staff a allai fod yn gweithio tuag at gyflawni'r cymhwyster gofynnol. Gall yr unigolion hyn fod yn gyflogedig neu gyflawni tasgau o fewn y lleoliad ar sail wirfoddol.
Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
Straen cronig ar unigolion yn ystod plentyndod. Mae straen o’r fath yn deillio o gam-drin ac esgeuluso plant ond hefyd o fagwraeth mewn cartrefi lle mae plant yn dod i gysylltiad rheolaidd â materion fel trais domestig neu unigolion â phroblemau camddefnyddio alcohol a sylweddau eraill. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cael eu galw’n Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
Rheoliadau
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).
Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed
Safonau a ddefnyddir i helpu lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd i fodloni'r gofynion rheoleiddio ar gyfer gofal plant hyd at ddeuddeg oed, ac a gyhoeddwyd o dan reoliad 14 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).
Safonau Hyfforddiant Cenedlaethol (Gofal Cymdeithasol Cymru)
Fframwaith cynhwysfawr ar gyfer hyfforddiant, datblygiad ac addysg barhaus y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r safonau wedi'u cynllunio i sicrhau bod yr holl staff sy'n gweithio o fewn gwasanaethau gofal cymdeithasol yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r gwerthoedd angenrheidiol i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person.
Staff
Gweithwyr o fewn y lleoliad gofal plant, boed yn gyflogedig neu'n ddi-dâl, ac mewn nifer o rolau gwahanol.
Ymarferwyr
Mae’r term cyffredinol hwn yn cyfeirio at yr unigolion sy’n gweithio gyda phlant ar draws y blynyddoedd cynnar, a gall gynnwys gweithwyr gofal plant, athrawon a chynorthwywyr dosbarth.
