Neidio i'r prif gynnwy

Safonau gofal y mae'n rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd eu bodloni er mwyn gofalu am blant o dan 12 oed.

Cyhoeddwyd gyntaf: 18 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Gorffennaf 2026

Cynnwys

Cynulleidfa i trosolwg

Cynulleidfa

Darparwyr gwarchod plant a gofal dydd

Pawb sydd â diddordeb mewn gwarchod plant a gofal dydd, rhieni a gofalwyr, awdurdodau lleol a sefydliadau yn y sector gwarchod plant a gofal dydd.

Trosolwg

Mae 2 ran wahanol i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol:

  • Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed: canllawiau statudol.
  • Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol. 

Mae’r ddogfen hon yn disodli’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023. 

Caiff y safonau yn y ddogfen hon eu defnyddio i benderfynu p'un a yw lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd yn darparu gofal digonol i blant hyd at 12 oed. Darperir y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Chwarae Mynediad Agored ar wahân.

Canllawiau statudol yw'r Safonau a gyhoeddwyd o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd). Lluniwyd y Safonau yn unol ag adran 30(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, a'u nod yw helpu darparwyr a lleoliadau i fodloni'r rheoliadau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu. 

Maent i'w darllen yng nghyd-destun Rhan 2 (Gwarchod Plant a Gofal Dydd i Blant) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016 a rheoliadau cysylltiedig, Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd). 

Arolygiaeth Gofal Cymru yw'r corff rheoleiddio sy'n gyfrifol am gofrestru ac arolygu lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd yng Nghymru. 

Camau i'w cymryd

Rhaid i ddarparwyr gwarchod plant a gofal dydd cofrestredig gadw at y safonau hyn. Bydd graddau'r cydymffurfio â'r Safonau yn cael ei ystyried gan y rheoleiddiwr wrth asesu p'un a yw darparwr yn cydymffurfio â'r gofynion rheoliadol perthnasol.

Rhagor o wybodaeth

Dylid anfon unrhyw gwestiynau i’r cyfeiriad canlynol:

Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

e-bost: gofalplantachwarae@llyw.cymru

Dogfennau cysylltiedig

Cynulleidfa i trosolwg

Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Mae'r adrannau Cyflwyniad, Gwarchod Plant a Gofal Dydd a Reoleiddir ac Eithriadau o ganllawiau statudol y Safonau yn darparu gwybodaeth i helpu lleoliadau cofrestredig i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei ystyried wrth ofalu am blant. Yna mae'r ddogfen ganllaw yn nodi'r holl Safonau, ynghyd â chanllawiau atodol mewn Atodiadau perthnasol a Geirfa ddefnyddiol.

Mae pob Safon yn dechrau gyda Llais y Plentyn a Deilliant Lles cysylltiedig, ac yna nodir y gofynion penodol.

Mae pob Safon yn cynnwys dolenni i'r prif reoliad(au) sydd fwyaf perthnasol i'r gofynion a ddisgrifir o fewn y Safon honno. 

Nid yw'r rhestr o Reoliadau sy'n berthnasol i bob safon yn hollgynhwysfawr, a chyfrifoldeb y person cofrestredig o hyd yw sicrhau y cydymffurfir â'r holl ofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol yng nghyd-destun eu lleoliad.

Mae dolenni i Mwy o Arweiniad a Help hefyd wedi'u cynnwys drwy gydol y ddogfen. 

Rhoddir y Safonau ar waith mewn gwahanol ffyrdd yn ôl natur y gwasanaeth neu'r lleoliad dan sylw, ond rhaid i bob person cofrestredig roi sylw i'r Safonau a bodloni'r gofynion rheoliadol sy'n berthnasol i'w gwasanaeth. Rhaid i bersonau cofrestredig hefyd gydymffurfio ag unrhyw amodau cofrestru a darparu eu gwasanaeth yn unol â'r Datganiad o Ddiben ar gyfer y gwasanaeth.

Y safonau mwyaf sylfaenol o safbwynt cofrestru a darparu gofal plant o ansawdd yw'r Safonau. Y disgwyliad cyffredinol yw bod personau cofrestredig yn gweithio tuag at ragori ar y safonau hyn.

Cynulleidfa i trosolwg

Crynodeb o'r prif newidiadau

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn yn disodli dogfen Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023. Mae canllawiau ar gyfer Safonau Gofynnol Cenedlaethol annibynnol ar wahân wedi'u cyhoeddi ar gyfer darparwyr chwarae mynediad agored a reoleiddir.

Mae'r newidiadau yn disgyn i ddau brif gategori: y rhai a wnaed yn dilyn adolygiad o'r Safonau ac ymgynghoriad cyhoeddus, a diweddariadau arferol a wneir i sicrhau bod y Safonau yn gydnaws â pholisïau a deddfwriaeth gyfredol.

Newidiadau yn sgil yr ymgynghoriad

Darpariaeth chwarae mynediad agored

Mae set benodol o Safonau Gofynnol Cenedlaethol annibynnol ar gyfer darpariaeth chwarae mynediad agored wedi'i chreu i adlewyrchu natur unigryw'r math hwn o ofal dydd. Tynnwyd y cyfeiriadau at chwarae mynediad agored o'r canllawiau hyn. Ewch i Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir Chwarae Mynediad Agored i blant 5 i 12 oed: canllawiau statudol.

Strwythur a chynllun y Safonau

Cyflwynir canllawiau'r Safonau ar ffurf HTML, ac ychwanegwyd fersiwn y gellir ei hargraffu i sicrhau bod y canllawiau yn gydnaws â safonau www.Llyw.Cymru, ac i wella'r strwythur, y cynllun a phrofiad y defnyddiwr.

Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Mae'r paragraff "Sut i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol" wedi'i ddiweddaru. Mae pob safon yn cynnwys datganiad Llais y Plentyn a datganiad Deilliant Lles, ac yna nodir y safonau perthnasol, y rheoliadau cysylltiedig a dolenni i ganllawiau pellach.

Darpariaeth o ansawdd uchel

Mae'r adran hon wedi'i chynnwys i gryfhau'r wybodaeth a'r gofynion o ran ansawdd, gan ymgorffori meddylfryd sy'n hyrwyddo hawliau plant.

Diffiniad o chwarae mynediad agored

Nodir diffiniad diwygiedig yn dilyn argymhelliad 11.3 o Adroddiad yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae i adolygu a diweddaru'r diffiniad o chwarae mynediad agored. 

Safon 11 Meddyginiaeth a'r Atodiad Chategol: Canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad cofrestredig

Mae Safon 11 Meddyginiaeth wedi'i diweddaru i ddarparu safonau cliriach ac i wahaniaethu rhwng meddyginiaeth ar bresgripsiwn a meddyginiaeth nad yw ar bresgripsiwn. Mae Atodiad Ch yn rhoi eglurder ar weinyddu parasetamol hylifol nad yw ar bresgripsiwn yn yr amgylchiadau a ddisgrifir.

Defnyddio staff mewn Gofal Dydd: Safon 13 (GD) Person addas (Gofal Dydd)

Ychwanegwyd Safon 13.4 (GD) a Safon 13.5 (GD) i roi eglurder ar sut y defnyddir staff ar draws y lleoliad. Mae'r Safonau yn darparu arweiniad mewn achosion lle mae lleoliad yn cynnwys staff ychwanegol efallai, uwchlaw'r cymarebau oedolion: plant gofynnol i helpu i ddiwallu anghenion unigol plant.

Cynorthwywyr gwarchodwyr plant ac atodiad a (cynorthwywyr gwarchodwyr plant): Safon 13 (GP) Person addas

Mae'r newidiadau yn rhoi eglurder ynghylch rôl cynorthwy-ydd gwarchodwr plant. Mae Safon 13 (GP) Person addas, 13.4 (GP), wedi'i diweddaru i roi eglurder ynghylch yr amgylchiadau pan all cynorthwy-ydd gwarchodwr plant ddechrau gweithio tra bydd yn cwblhau cymhwyster cynorthwy-ydd gwarchodwr plant. 

Mae Atodiad A wedi'i ddiweddaru i ddarparu arweiniad ynghylch y cyfnod y gall cynorthwy-ydd gwarchodwr plant gael ei adael ar ei ben ei hun i ofalu am blant.

Cymarebau gwarchodwyr plant: Safon 15 (GP) cymarebau staffio

Mae Safonau 15.1 (GP), 15.2 (GP) a 15.3 (GP) wedi newid i adlewyrchu nifer y plant y gall gwarchodwyr plant ofalu amdanynt, yn enwedig plant dan 5 oed, ac i gefnogi darpariaeth gwarchodwyr plant sy'n hyblyg ac yn gynaliadwy.

Newidiadau yn sgil y drefn arferol

Y bennod ragarweiniol

Mae'r bennod ragarweiniol wedi'i diweddaru. Mae'r cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth am ofal plant o ansawdd uchel ac yn pwysleisio hawliau plant, lles, cydberthnasau, datblygiad emosiynol a phrofiad bywyd. Mae dolenni wedi'u diweddaru i bolisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ynghyd â dolenni i sefydliadau perthnasol. 

Gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir

Mae hyn wedi'i ddiweddaru i gynnwys enghreifftiau newydd o ddarpariaeth gofal dydd.

Eithriadau: amgylchiadau pan nad oes angen cofrestru

Mae hyn wedi'i ddiweddaru i gyflwyno newidiadau sydd i gael eu gwneud yn y dyfodol o safbwynt eithriadau, ac mae'n esbonio'r cyfnod pontio (o Ebrill 2027 i Fawrth 2028) ar gyfer darparwyr na fyddant efallai wedi'u heithrio bellach rhag gorfod cofrestru.

Newidiadau polisi allweddol

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru cyfeiriadau allweddol at ddeddfwriaeth a/neu bolisi yng nghanllawiau'r Safonau, gan gynnwys newid geiriad, er mwyn cryfhau safonau penodol. Dyma rai o’r newidiadau pwysig: 

  • Safon 6: Gweithio mewn partneriaeth â rhieni, Safon 6.11, diweddaru cyfeiriad deddfwriaethol.
  • Safon 7: Cyfleoedd i chwarae a dysgu, cysoni ag egwyddorion Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a chyfeiriadau at y Cwricwlwm i Gymru.
  • Safon 10: Gofal iechyd, safonau gwrth-smygu a fepio.
  • Safon 20: Diogelu.
  • Safon 24: Diogelwch, safonau risg tân.
  • Geirfa: mae termau newydd wedi'u hychwanegu at yr eirfa.

Argymhellir bod darparwyr yn ymgyfarwyddo â'r fersiwn ddiwygiedig hon o'r Safonau a'u bod yn cael gwared ar unrhyw gopïau papur blaenorol.

Cynulleidfa i trosolwg

Cyflwyniad

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gwneud Cymru yn lle gwych i bobl dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo. Mae ein profiadau fel plant, yn dda a drwg, yn cyflawni rôl bwysig wrth lywio ein bywyd i'r dyfodol. Fel darparwr lleoliad cofrestredig, rydych chi a'ch staff yn chwarae rôl allweddol wrth ofalu bod plant yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. 

Mae sicrhau perthynas gadarnhaol gyda'r staff, lle mae lles plant yn cael ei feithrin, yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae'r rhyngweithio hwn, ochr yn ochr â'r rhyngweithio â rhieni a gofalwyr, yn helpu plant i deimlo'n ddiogel, a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u deall. Drwy feithrin ymddiriedaeth, empathi a gwydnwch emosiynol, mae gweithwyr gofal plant a gwaith chwarae proffesiynol yn cyfrannu at adeiladu sylfeini cryf, sy'n cefnogi lles plant heddiw a'u gallu yn y dyfodol i fyw bywydau hapus, iach a boddhaol. 

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn eich cefnogi chi a'ch staff i ddylanwadu'n gadarnhaol ar blant a'u teuluoedd mewn llawer o ffyrdd. Yn ogystal â'ch helpu i gydymffurfio â gofynion rheoliadol, mae eich ymrwymiad i gynnal a gwella ar y safonau hyn yn cyfrannu at fynd i'r afael â thlodi plant, a'u helpu i oresgyn mathau eraill o adfyd, trawma ac anghydraddoldeb. Drwy gydberthynas â'r plant sy'n meithrin eu lles, a gofal sy'n ymateb iddynt yn emosiynol, gall eich rôl gyfrannu at ysgogi eu gwydnwch a darparu sefydlogrwydd sy'n hyrwyddo eu lles heddiw a'u datblygiad hirdymor.

Ar gyfer babanod a phlant ifanc, efallai mai eich lleoliad chi fydd eu profiad cyntaf o ofal y tu allan i gartref y teulu. Mae hwn yn gyfle i'ch lleoliad wneud argraff gydol oes ar fywyd babi a phlentyn ifanc. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag ymarferwyr gofal plant, addysg feithrin a gwaith chwarae i ddatblygu cyfres o adnoddau, megis Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar, i gefnogi datblygiad, ein plant ieuengaf 0 i 5 oed, y gofal a roddir iddynt a'u profiad dysgu. Mae'r adnoddau hyn yn disgrifio'r egwyddorion cyffredin a ddylai lywio pob lleoliad/ysgol ac ymarferydd, a gellir eu defnyddio fel sail i gefnogi plant hŷn.

Mae'r sector gofal plant a gwaith chwarae yn esblygu'n barhaus, ac mae'n rhaid iddo fod yn barod i ymateb i heriau newydd a newidiadau. Mae hyn yn cynnwys gofalu am blant ag amrywiol anghenion a phrofiadau i sicrhau cyfle cyfartal (Safon 16: Cyfle cyfartal) i bob plentyn yn eich gofal.

Y cyd-destun ehangach

Gan adeiladu ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, rhoddir gwybodaeth isod am ganllawiau ehangach sy'n ymwneud â phlant ac adnoddau darllen pellach i gefnogi darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys materion, cyngor a deddfwriaeth newydd ac sy'n datblygu y dylai ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae eu hystyried wrth ofalu am blant. O ddefnyddio'r wybodaeth hon ochr yn ochr â'r Safonau, darperir dull holistaidd o gefnogi darpariaeth gwarchod plant a gofal dydd o ansawdd uchel sydd â buddion uniongyrchol i blant, eu rhieni a'r gweithlu gofal plant a chwarae.

Darpariaeth o ansawdd uchel

Mae darpariaeth o ansawdd uchel ym maes gwarchod plant a gofal dydd yn mynd y tu hwnt i fodloni'r gofynion sylfaenol. Mae'n creu amgylcheddau cynnes, diddorol a myfyrgar lle mae babanod a phlant yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael eu cefnogi i ffynnu. Yn ganolog iddi mae'r plentyn a'i hawliau, sy'n sicrhau bod anghenion, diddordebau a llais pob plentyn yn llywio eu profiadau.

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn sail i'r meddylfryd hwn drwy sicrhau:

  • Diogelwch ac amddiffyniad rhag niwed (Erthygl 19). 
  • Parch at farn y plentyn: Pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant, mae gan blant yr hawl i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd, ac i’w barn gael ei hystyried (Erthygl 12). 
  • Bod plant mewn addysg gynnar yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu personoliaeth a'u doniau yn gyflawn. Bod plant yn cael eu hannog i barchu hawliau dynol, yn ogystal â'u rhieni, eu diwylliant nhw a diwylliannau eraill, a'r amgylchedd. (Erthygl 29).
  • Bod gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol ac artistig a gweithgareddau hamdden eraill (Erthygl 31).
  • Bod gan bob plentyn yr hawl i'r gofal iechyd, lles a maeth gorau posibl (Erthygl 24).

Elfennau allweddol o ddarpariaeth o ansawdd uchel

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn canolbwyntio ar y plentyn, yn gynhwysol ac yn ymateb i'r sefyllfa, a hynny drwy:

  • Oedolion sy'n Galluogi Dysgu sy'n adeiladu cydberthnasau cryf sy'n ymateb i'r unigolyn, ac yn creu gofod lle gall plant fod yn chwilfrydig a chwarae yn ôl eu dewis, gan eu cefnogi i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a gwydnwch.
  • Amgylcheddau effeithiol sy'n annog plant i archwilio, ac yn cynnig gofod i ymlacio, annibyniaeth, ac ymdeimlad o berthyn.
  • Profiadau sy'n Ennyn Diddordeb sy'n meithrin cyfleoedd i chwarae, darganfod a datrys problemau mewn ffordd ystyrlon yn ôl lefel y plentyn.

Nodweddion darpariaeth o ansawdd uchel

Mae gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd yn arddangos darpariaeth o ansawdd uchel drwy:

  • Fynd y tu hwnt i'r gofynion sylfaenol drwy ystyried a gwella'n barhaus.
  • Ymgorffori arferion gorau sy'n cefnogi datblygiad holistaidd plant.
  • Sicrhau canlyniadau cryf mewn arolygiadau sy'n cydnabod eu hymrwymiad i ansawdd. 

Defnyddio fframweithiau a gymeradwywyd gan y sector fel Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0 i 5 oed, a fframwaith sicrhau ansawdd Chwarae Cymru, Chwarae o Safon, gan gydnabod pwysigrwydd Egwyddorion Gwaith Chwarae wrth gefnogi profiadau chwarae o ansawdd ym mhob lleoliad gwaith chwarae, mewn Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol a lleoliadau Chwarae Mynediad Agored.

Yn ymarferol mae hyn yn golygu bod:

  • Oedolion sy'n galluogi dysgu yn creu cydberthnasau sy'n cynnig diogelwch, lle mae babanod a phlant yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi, gan feithrin hyder a'r gallu i ddatrys problemau.
  • Amgylcheddau effeithiol yn cefnogi anghenion corfforol ac emosiynol, gan ysbrydoli chwarae, creadigrwydd ac archwilio.
  • Profiadau sy'n ennyn diddordeb yn cael eu llywio gan ddiddordebau babanod a phlant, gan ganiatáu iddynt chwarae mewn ffordd benagored a darganfod drostynt eu hunain.

Ystyried a gwella'n barhaus

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn ddeinamig ac yn esblygu drwy ystyried ac ymgysylltu'n barhaus â babanod, plant a theuluoedd. Dylai Oedolion sy'n Galluogi Dysgu asesu'n rheolaidd:

  • Sut mae cydberthnasau a rhyngweithio yn cefnogi ymdeimlad o ddiogelwch emosiynol, dysgu a hunanfynegiant.
  • Ffyrdd o greu amgylcheddau cynhwysol, lle ymatebir i'r unigolyn, gan adlewyrchu diddordebau a diwylliannau plant.
  • Strategaethau i ymestyn dysgu drwy chwarae, iaith ac archwilio.
  • Sut i sicrhau bod llais plant yn llywio eu profiadau.

Egwyddorion arweiniol: ein 7 nod craidd ar gyfer plant yng Nghymru

Mae'r 7 Nod Craidd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru, sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn llywio darpariaeth o ansawdd uchel:

  • Dechrau cryf mewn bywyd a'r sylfaen orau o ran lles.
  • Mynediad at brofiadau dysgu ystyrlon, cyfoethog.
  • Iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da.
  • Cyfleoedd ar gyfer chwarae, creadigrwydd, a hunanfynegiant.
  • Gwrandawiad, gwerthfawrogiad a pharch.
  • Tyfu mewn cymunedau diogel, sy'n eu meithrin.
  • Cymorth i oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â thlodi ac anghydraddoldeb.

Drwy ymgorffori Oedolion sy'n Galluogi Dysgu, Amgylcheddau Effeithiol a Phrofiadau sy'n Ennyn Diddordeb i arferion bob dydd, mae ymarferwyr yn helpu i sicrhau bod pob babi a phlentyn yn cael eu grymuso i ffynnu, chwarae a thyfu mewn hyder.

Cefnogi gwella ansawdd

Mae Safon Ofynnol Genedlaethol 18 a Rheoliad 16 o'r Rheoliadau yn nodi'r disgwyliadau i adolygu ansawdd y gofal a ddarperir. Mae adnoddau gwella ansawdd yn helpu ymarferwyr i ystyried, mireinio a gwella eu darpariaeth, gan sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y gofal a'r profiadau sydd o'r ansawdd uchaf.

Adnoddau i wella ansawdd.

Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau'r plentyn

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yw sail holl bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer plant, ac mewn perthynas â phlant. Yr hyn sy'n ganolog i uchelgais Llywodraeth Cymru yw rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a sicrhau eu bod yn mynd ymlaen i fyw'r bywyd y maen nhw'n dymuno ei fyw. Ers 2011, mae hawliau plant wedi'u hymgorffori yng nghyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy, wrth arfer eu swyddogaethau, i hawliau penodedig o dan y Confensiwn. 

Mae gan bawb sy'n gofalu am blant a phobl ifanc ac yn gweithio gyda nhw rôl i'w chyflawni o ran parchu, amddiffyn a gwireddu hawliau plant. 

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu'r fframwaith statudol ar gyfer mynd i'r afael â gwahaniaethu ac anghydraddoldeb ac mae'n cwmpasu'r nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • Hil / ethnigrwydd.
  • Rhywedd.
  • Ailbennu rhywedd / hunaniaeth rhywedd.
  • Anabledd.
  • Oedran.
  • Crefydd a chred.
  • Beichiogrwydd / mamolaeth.
  • Rhyw.
  • Cyfeiriadedd rhywiol.
  • Priodas a phartneriaeth sifil.

Mae Safon 16 yn cwmpasu Cyfle Cyfartal a rhaid i ddarparwyr roi tystiolaeth glir o sut y maent yn bodloni'r safonau a'r dyletswyddau hyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Byddwch am ystyried sut y byddai eich gwasanaethau yn effeithio ar y grwpiau canlynol o blant a phobl ifanc: y rhai sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a/neu adfyd a thrawma ehangach yn ystod eu plentyndod; plant ag anghenion dysgu ychwanegol; plant anabl; plant niwrowahanol; plant sy'n byw mewn tlodi; plant Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol; plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr; plant mudol; plant ceiswyr lloches; plant ffoaduriaid; siaradwyr Cymraeg; plant â phrofiad o fod mewn gofal; plant LHDTC +. 

Nid yw'r rhestr hon yn cwmpasu pob plentyn a pherson ifanc o fewn eich lleoliad, gan na fydd profiadau dau berson byth yn union yr un fath. Mae'n darparu enghreifftiau o sut y gall plant rannu nodweddion gwarchodedig gwahanol, gan arwain at anghenion gwahanol a phenodol.

Fel darparwr cofrestredig, bydd angen i chi a'ch staff fod yn gyfarwydd â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 ac ystyried sut mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu hyrwyddo a'u hymgorffori o fewn eich lleoliad, a sut mae eich lleoliad yn cefnogi darpariaeth gynhwysol a hygyrch i blant, eu teuluoedd a staff.

Cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu cymdeithas gynhwysol a theg i holl bobl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol Cymru wedi'i nodi yn y fersiwn ddiwygiedig o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae pecyn cymorth wedi'i ddatblygu i gefnogi'r sector gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar i ystyried camau y gallent eu cymryd i helpu i fowldio Cymru i fod yn wlad wrth-hiliol. Mae amrywiol adnoddau wedi'u datblygu, gan gynnwys map twib a fydd yn helpu unigolion ar bob lefel i nodi adnoddau a hyfforddiant priodol.

Darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Y Gymraeg a Cymraeg 2050

Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cryfhau ein gallu i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050; pasiwyd y Ddeddf gan y Senedd ym mis Mai 2025. 

Prif nod y Ddeddf yw sicrhau bod pob disgybl, erbyn 2050, yn cyrraedd diwedd eu cyfnod gorfodol yn yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus, o leiaf. 

Mae'r Ddeddf yn sefydlu cyfres glir o fesurau i gefnogi patrwm o ddysgu mwy a mwy o'r Gymraeg gydol oes, ac mae pwyslais arbennig ar gefnogi teuluoedd a phlant oedran cyn-ysgol i ddysgu'r Gymraeg cyn gynted â phosibl.

Pwysigrwydd Chwarae

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar chwarae ac ar ei bwysigrwydd i fywydau plant yn ein cymdeithas. Credwn fod gan blant hawl sylfaenol i allu chwarae, a bod chwarae’n rhan annatod o’u mwynhad mewn bywyd ac yn cyfrannu at eu lles. Credwn fod chwarae yn hanfodol i ddatblygiad gwybyddol; corfforol; cymdeithasol ac emosiynol plant. I'r plant eu hunain, chwarae yw un o'r agweddau pwysicaf ar eu bywydau. Gall cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i bob plentyn gyfrannu at liniaru effeithiau negyddol tlodi ar fywydau plant a helpu i adeiladu eu gwydnwch. Er mwyn i blant gael cyfleoedd chwarae digonol, mae angen iddynt gael amser i chwarae, lle i chwarae a chydnabyddiaeth gan oedolion bod gan bob plentyn yr hawl hon. Mae'r ffilm fer hon a gynhyrchwyd gan Chwarae Cymru yn dathlu chwarae plant a'i bwysigrwydd Ffilm Chwarae Cymru.

Adolygiad Gweinidogol o gyfleoedd chwarae

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad manwl a chydweithredol o'i gwaith polisi ar chwarae, ac ystyriodd y cynnydd a wnaed o ran cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae. Gwnaeth yr adolygiad argymhellion allweddol, gan awgrymu cerrig milltir i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth adeiladu ar y cynnydd a wnaed i fod yn wlad lle mae cyfle i chwarae, sy'n rhoi cyfleoedd digonol i blant a phobl ifanc chwarae. 

Croesawodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Terfynol Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, a chyhoeddodd ymateb yn amlinellu'r camau y bydd yn eu cymryd er mwyn cyflawni'r argymhellion. Roedd hyn yn cynnwys adolygu'r Safonau, gan ganolbwyntio ar chwarae mynediad agored, ac mewn cydweithrediad â'r sector mae wedi datblygu canllawiau statudol annibynnol ar gyfer Safonau gofal dydd chwarae mynediad agored.

Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma

Un o'r ffyrdd y gallwn gefnogi'r rhai sydd wedi profi adfyd a thrawma yn ystod eu plentyndod yw gweithio mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma. Mae dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma yn un sy'n cydnabod ac yn deall y ffaith bod trawma yn bodoli, sy'n deall ei arwyddion a'i effaith, ac sy'n helpu pobl i ddod dros eu trawma, adeiladu eu gwydnwch, ac osgoi ail drawma. Mae Cymru sy'n Ystyriol o Drawma: Dull Cymdeithasol o Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd (neu Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma) wedi sefydlu pum egwyddor ymarfer, a ddylai fod yn sail i'r holl ymarfer yr ymgymerir ag ef yng Nghymru sy'n ystyriol o drawma; a phedair lefel ymarfer, sy'n adlewyrchu'r gwahanol rolau a all fod gan bobl a sefydliadau wrth gefnogi'r rhai y mae trawma wedi effeithio arnynt.

Mae Hyb ACE Cymru wedi datblygu ystod eang o adnoddau a all gefnogi sefydliadau ac unigolion ar eu taith i ddysgu am drawma, Adnoddau Hyb ACE Cymru, gan gynnwys pecyn cymorth i sefydliadau ar fod yn ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod TrACE Hyb ACE Cymru.

Cwricwlwm i Gymru

Cyhoeddwyd Fframwaith Cwricwlwm i Gymru fel rhan o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

O dan y ddeddfwriaeth, rhaid i leoliadau meithrin cofrestredig nas cynhelir, a gymeradwywyd ac a ariennir gan yr awdurdod lleol i ddarparu addysg feithrin, fabwysiadu cwricwlwm.

Er mwyn helpu gyda'r gofyniad cyfreithiol hwn, aeth Llywodraeth Cymru ati i weithio gydag arbenigwyr ac ymarferwyr ym maes addysg a gofal plant i ddatblygu cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, a threfniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, i leoliadau ac ysgolion eu mabwysiadu, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Mae addysg feithrin o ansawdd uchel yn hanfodol i ddatblygiad plentyn. Uchelgais y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yw ennyn ymagweddau cadarnhaol tuag at ddysgu ymhlith plant, a fydd, os cânt eu meithrin, yn para am oes ac yn rhoi'r sylfaen gadarn sydd ei hangen ar bob plentyn i'w helpu i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru. 

Mae Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, yn grymuso pob lleoliad i gynnig cwricwlwm cynhwysol sy'n cefnogi pob dysgwr. Ei nod yw meithrin ymdeimlad o falchder ac o berthyn ymhlith ymarferwyr a phlant, gan ddathlu diwylliant amrywiol y Gymru fodern. Anogir lleoliadau nas ariennir hefyd i ymgorffori i'w harferion y dulliau addysgu a dysgu sy'n briodol yn ddatblygiadol sy'n sail i'r Cwricwlwm i Gymru.

Dysgwch ragor am y Cwricwlwm i Gymru.

Ffynonellau arweiniad, cyngor a gwybodaeth eraill

Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu safonau uchel ar draws gweithlu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae'n ceisio sicrhau bod gan y gweithlu yng Nghymru y sgiliau a'r cymwysterau iawn i weithio i safon broffesiynol uchel, a'i fod yn gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel. 

Mae CWLWM, consortiwm o bum partner gofal plant a chwarae, yn cefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae drwy arweiniad ac aelodaeth, gan hyrwyddo lleoliadau cynaliadwy o ansawdd:

  • Mae'r Mudiad Meithrin yn arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg i'r blynyddoedd cynnar.
  • Mae Coram PACEY Cymru yn darparu cymorth i weithwyr gofal plant proffesiynol sy'n gweithio yn y cartref, gan gynnwys gwarchodwyr plant a nanis. 
  • Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant penodol ar redeg meithrinfa yng Nghymru. 
  • Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gofal, addysg a dysgu dwyieithog cyn-ysgol drwy chwarae ledled Cymru. 
  • Nod Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yw helpu cymunedau yng Nghymru drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol sy'n fforddiadwy, yn hygyrch ac o ansawdd uchel. 

Mae Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant, yn rhoi cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn chwarae plant, neu sy'n gyfrifol am ddarparu ar ei gyfer. Mae Chwarae Cymru yn cefnogi'r gwaith o weinyddu a datblygu Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru).

Mae PETC Cymru yn bodoli i ddarparu fforwm i'r sector i drafod materion o bwys strategol ar bob agwedd ar addysg, hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a PETC UK.

Comisiynydd Plant Cymru 

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn diogelu ac yn cefnogi hawliau plant a phobl ifanc. Mae'r Comisiynydd hefyd yn adolygu penderfyniadau cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. 

Dysgwch am "Y Ffordd Gywir" fframwaith egwyddorol ac ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant. 

Plant yng Nghymru 

Gall Plant yng Nghymru ddarparu cymorth i ymarferwyr y blynyddoedd cynnar. Maent yn rhedeg Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar i greu cysylltiadau rhwng ymarfer, polisi ac ymchwil. Maent hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ar hawliau plant a'u cynnwys sy'n targedu ymarferwyr sy'n gweithio gyda babanod a phlant ifanc.

Mae'r Geirfa yn darparu esboniad ar gyfer termau cyffredin a ddefnyddir yn y ddogfen hon.

Cynulleidfa i trosolwg

Gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir

Mae'n ofynnol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd gofrestru yn unol â darpariaethau Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (y Mesur) a'r rheoliadau cysylltiedig. Canllawiau statudol yw'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, a wneir o dan adran 30(3) o'r Mesur a rheoliad 14 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (y Rheoliadau), sy'n berthnasol i warchodwyr plant a darparwyr gofal dydd cofrestredig ar gyfer plant hyd at 12 oed.

Nod y Safonau yw helpu darparwyr cofrestredig i fodloni'r Rheoliadau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Rhaid i bersonau cofrestredig roi sylw i'r Safonau sy'n ymwneud â’r math o ofal a ddarperir. 

Bwriad y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yw caniatáu dull hyblyg er mwyn i ddarparwyr allu datblygu darpariaeth o safon, a honno wedi'i theilwra i anghenion plant, rhieni a chymunedau lleol. Maent wedi’u bwriadu i adlewyrchu anghenion plant o’r adeg y cânt eu geni nes eu bod yn 12 oed, ac i fod yn gymesur o ran y ffordd y cânt eu cymhwyso. 

Drwy gydol y ddogfen hon, mae pob cyfeiriad at Reoliadau yn cyfeirio at Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).

Ym mhob achos, y person cofrestredig (sef y gwarchodwr plant cofrestredig neu ddarparwr cofrestredig y gofal dydd) sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau y cydymffurfir â'r rheoliadau, gan roi sylw i'r Safonau perthnasol. Mae hyn yn wir bob amser, er yn ymarferol efallai y caiff y cyfrifoldeb ei ddirprwyo o ddydd i ddydd i reolwr, y person â chyfrifoldeb neu aelod dynodedig o staff. Lle darperir gofal dydd gan sefydliad (corff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig), rhaid i unigolyn cyfrifol sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gofal dydd a ddarperir o ddydd i ddydd gael ei benodi gan y sefydliad hwnnw. 

Os yw'r sefydliad yn gorff corfforaethol, rhaid i'r person a benodir i fod yn gyfrifol fod yn gyfarwyddwr, yn rheolwr, yn ysgrifennydd neu'n swyddog arall o fewn y sefydliad. Os yw'r sefydliad yn gymdeithas anghorfforedig, rhaid i'r unigolyn cyfrifol fod yn swyddog neu'n aelod o'i gorff llywodraethu.

Rhaid i'r unigolyn cyfrifol fodloni'r gofynion rheoliadol o ran eu haddasrwydd ar gyfer y swyddi (fel y’u nodir yn rheoliad 6(3)(b)(iii) neu (iv) o'r Rheoliadau). 

Yn gyffredinol, disgwylir i'r unigolyn sy'n gyfrifol ddangos bod y ddarpariaeth gofal dydd yn cydymffurfio â gofynion amrywiol y Rheoliadau hyn, gan roi ystyriaeth i'r safonau perthnasol. 

Rhaid penodi person i fod yn gyfrifol os mai sefydliad yw'r person cofrestredig, ac nad yr unigolyn cyfrifol sydd â gofal llawn bob dydd am y ddarpariaeth gofal plant, neu os yw'r person cofrestredig yn unigolyn nad yw â gofal llawn bob dydd. Mae'r gofynion cyfreithiol ar gyfer penodi person i fod â chyfrifoldeb i'w gweld yn Rhan 3 o'r Rheoliadau. 

Mae unrhyw gyfeiriad at bersonau cofrestredig yn cynnwys gwarchodwyr plant.

Mae unrhyw gyfeiriad at riant/rhieni yn cynnwys gofalw(y)r a'r sawl nad ydynt yn rhieni, ond sydd â chyfrifoldeb rhieni.

Mae cyfeiriadau at staff yn cynnwys cynorthwywyr gwarchodwyr plant a staff neu wirfoddolwyr di-dâl.

Fframwaith deddfwriaethol

Mae'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yng Nghymru yn amlinellu swyddogaethau Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cofrestru. Cyflawnir y swyddogaethau hyn ar ran Gweinidogion Cymru gan Arolygiaeth Gofal Cymru. 

Yng Nghymru, caiff gwarchod plant a gofal dydd i blant hyd at 12 oed ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru, arolygu a chymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau a reoleiddir er lles pobl Cymru. 

Mae gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yn cwmpasu ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth, sy'n ddarostyngedig i safonau gofynnol cenedlaethol. Mae'r safonau yn y ddogfen hon ar gyfer Gwarchod Plant a Gofal Dydd a Reoleiddir (ac eithrio Chwarae Mynediad Agored). Mae safonau gwahanol ar gyfer gwasanaethau Chwarae Mynediad Agored.

Rhaid i unigolion a sefydliadau sy'n gwneud cais i gofrestru fodloni'r prawf statudol o dan adran 26 o'r Mesur, sef nad ydynt wedi'u hanghymhwyso rhag cofrestru, a'u bod yn bodloni ac yn debygol o barhau i fodloni'r gofynion addasrwydd a nodir yn y Rheoliadau. 

Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru i ddarparu gwasanaeth ar gael Cofrestrwch i ddarparu gwasanaeth Arolygiaeth Gofal Cymru.

Ariennir rhai lleoliadau gofal cofrestredig gan awdurdodau lleol i ddarparu addysg feithrin i blant 3 i 4 mlwydd oed yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru (a amlinellir yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021). Arolygir y rhain gan Estyn i sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni safonau addysgol.

Mae pob darparwr cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn parhau i fodloni'r gofynion cofrestru. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gyfathrebu'n rheolaidd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, a rhoi gwybodaeth gyson iddynt am eu gwasanaeth. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn arolygu'r holl ddarpariaeth gwarchod plant a gofal dydd cofrestredig.

Mae rhagor o wybodaeth am yr arolygiadau ar gael yma Ein harolygiadau | Arolygiaeth Gofal Cymru.

Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol cofrestru gofal i blant 12 oed neu hŷn o dan y Mesur, ond gall lleoliad sydd wedi'i gofrestru o dan y Mesur i ddarparu gofal i blant o dan 12 oed ofalu am blant 12 oed a hŷn. Gellir rhannu gofal plant a reoleiddir yn ddau gategori: 

Gwarchod plant

Gofal plant a ddarperir gan un neu fwy o bobl i blant o'u geni hyd at 12 oed mewn mangre ddomestig nad yw'n gartref i’r plentyn ei hun am fwy na dwy awr y dydd am dâl. 

Gall gwarchodwyr plant gynnig: 

  • Gofal dydd llawn a gofal rhan-amser gan gynnwys darpariaeth cyn ac ar ôl ysgol, ac oriau annodweddiadol e.e. darpariaeth gyda'r nos, ar benwythnos a thros nos.
  • Gofal cofleidiol darpariaeth gofal plant sy’n cefnogi rhieni sydd â’u plant mewn addysg a ariennir drwy ehangu'r ddarpariaeth i ddiwrnod ysgol llawn.

Darpariaeth gwyliau ysgol 

  • Lleoedd addysg feithrin a ariennir lleoedd addysg feithrin i blant 3 a 4 oed, am ran o’r diwrnod ysgol.
  • Lleoedd gofal plant a ariennir gofal plant sydd ar gael drwy raglenni a gyllidir megis Dechrau’n Deg a/neu raglenni neu fentrau eraill Llywodraeth Cymru.

Rhaid cofrestru unrhyw un sydd am weithredu fel gwarchodwr plant gydag Arolygiaeth Gofal Cymru oni bai ei fod wedi'i eithrio rhag gorfod cofrestru o dan Ran 2 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. 

Ni ddylai person sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant fod wedi'i anghymhwyso rhag cofrestru.

Ni ddylai unrhyw un sy'n gweithio neu'n byw yn y fangre sy'n dod i gysylltiad rheolaidd â'r plant fod wedi'i anghymhwyso chwaith.

Gofal dydd 

Mae person yn darparu gofal dydd i blant os yw’r plant, ar unrhyw adeg, yn derbyn gofal mewn mangre annomestig.

Rhaid i unrhyw un sy'n cynnig darparu gofal dydd i blant fod wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru heblaw ei fod wedi'i eithrio rhag gorfod cofrestru o dan Ran 3 o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’i diwygiwyd). 

Mae gofal dydd mewn mangre annomestig yn cynnwys amrywiol fathau o ddarpariaeth, ac mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru darparwyr gofal dydd o dan y categorïau canlynol:

Gofal dydd llawn

Gofal dydd llawn i blant o'u geni hyd at 12 oed a ddarperir am gyfnod parhaus o bedair awr neu fwy mewn unrhyw ddiwrnod, mewn mangre annomestig. 

Gall gynnwys meithrinfeydd dydd, canolfannau plant, a rhai canolfannau teuluoedd sy'n cynnig gofal dydd, gan gynnwys darpariaeth cyn ac ar ôl ysgol, darpariaeth gofal cofleidiol yn ystod gwyliau ysgol, lleoedd addysg feithrin a ariennir a lleoedd gofal plant a ariennir. 

Gall hefyd gynnwys lleoliadau sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal sesiynol yn ystod y diwrnod hwnnw. Gall y rhain gynnwys cylchoedd chwarae, Cylchoedd Meithrin, gofal cofleidiol, lleoedd addysg feithrin a ariennir a lleoedd gofal plant a ariennir.

Enghreifftiau o ofal dydd llawn:

Meithrinfa ddydd

Darparwr gofal plant sy'n cynnig gofal drwy'r flwyddyn i blant rhwng 6 wythnos a 12 oed. Dim ond ar gyfer gofal plant y defnyddir y fangre ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 7.30am a 6,00pm. Darperir amrywiaeth o wasanaethau gofal gan gynnwys gofal dydd llawn i blant 0 i 3 oed, sesiynau cynnar yn y bore ac ar ôl ysgol, a gwasanaethau gollwng/casglu o'r ysgol. Mae gofal dydd llawn hefyd ar gael i blant oedran ysgol yn ystod gwyliau ysgol.

Darpariaeth gymysg ar yr un safle gan yr un darparwr

Darparwr gofal dydd sy'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal plant rhan-amser i blant rhwng 2 a 5 oed. Mae'n cynnig sesiwn rhwng 9.00am a 11.30am, ynghyd ag opsiwn i aros am ginio tan 12.30pm. Yna, mae sesiwn arall ar gael rhwng 1.00pm a 4.00pm, gan gynnwys opsiwn i gasglu plant o'r ysgol leol am 12.30pm. Mae hefyd yn cynnig gwasanaethau a gofal plant a ariennir gan Dechrau'n Deg. 

Gofal dydd sesiynol 

Gofal plant i blant rhwng 2 a 5 oed mewn mangre annomestig am gyfnod llai na phedair awr yn olynol mewn unrhyw un diwrnod.

Lle y caiff dwy sesiwn eu cynnig mewn unrhyw un diwrnod, ni ddylai plant fynychu mwy na phum sesiwn yr wythnos. Rhaid bod cyfnod rhwng y sesiynau pan na fydd unrhyw blant ar y safle yn cael gofal gan y darparwr. 

Gall gynnwys cylchoedd chwarae, Cylchoedd Meithrin, lleoedd addysg a ariennir, a lleoedd gofal plant a ariennir.

Enghreifftiau o ofal dydd sesiynol:

Cylch Meithrin neu Gylch Chwarae sy'n cynnig un sesiwn y dydd

Darparwr sy'n cynnig sesiynau gofal plant rhwng 9.00am a 11.30am i blant rhwng 2 a 5 oed. Mae'n cynnig sesiynau o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn bennaf yn ystod y tymor ysgol.

Cylch Meithrin neu Gylch Chwarae sy'n cynnig dwy sesiwn y dydd

Darparwr sy'n cynnig sesiwn fore i blant rhwng 2.5 a 4 oed, o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor, rhwng 9.00am a 11.30am. Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys oriau a ariennir ar gyfer addysg ac oriau a ariennir gan Dechrau'n Deg. Mae'r gwasanaeth yn cau am ginio rhwng 11.30am a 12.30 pm ac nid oes unrhyw blant yn bresennol yn ystod y cyfnod hwn. Yn y prynhawn, mae sesiwn ar wahân ar gael i blant gwahanol yn yr un ystod oedran, sef 2.5 i 4 oed. Cynhelir y sesiwn hon rhwng 12.30pm a 3.00pm, ac mae'n cynnwys oriau a ariennir gan Dechrau'n Deg.

Darpariaeth gofal cofleidiol: prynhawn yn unig

Darparwr sy'n gweithredu rhwng 12.30pm a 4.00pm ar gyfer plant 3 a 5 oed. Mae'n casglu plant o'r ysgol gynradd leol am 12.30pm ac yn gofalu amdanynt tan 4.00pm.

Gofal plant y tu allan i oriau ysgol

Gofal plant a ddarperir mewn mangre annomestig y tu allan i ddiwrnod ysgol y plentyn, a gall gynnwys gofal a ddarperir cyn ysgol, ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol. Nid yw'n cynnwys gofal cofleidiol na chynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd.

Enghreifftiau o ofal plant y tu allan i oriau ysgol:

Ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau

Gwasanaeth sy'n gweithredu mewn canolfan gymunedol ac yn darparu sesiynau rhwng 3.15pm a 6.00pm ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn ystod y tymor. Yn ystod y gwyliau, mae'r gwasanaethau yn gweithredu rhwng 9.30am a 4.00pm am dridiau bob wythnos. 

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu ar safle ysgol ac nid yw'r ddarpariaeth gofal yn gysylltiedig â darpariaeth addysg. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu rhwng 3pm a 5.15pm ar ddydd Mawrth a dydd Iau yn ystod y tymor a rhwng 9.30am a 3.30pm ar ddydd Mawrth a dydd Iau yn ystod gwyliau ysgol.

Yn ystod gwyliau ysgol yn unig

Gwasanaeth sy'n gweithredu mewn canolfan hamdden, adeilad cymunedol neu ysgol. Mae'n darparu amrywiaeth o weithgareddau a gofal ac yn gweithredu rhwng 8.00am a 6pm bob dydd yn ystod gwyliau chwe wythnos yr haf. 

Ar ôl ysgol yn unig

Gwasanaeth sy'n gweithredu ar safle ysgol neu mewn adeilad cymunedol, ac nid yw'r ddarpariaeth gofal yn gysylltiedig â darpariaeth addysg. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu rhwng 3.00pm a 5.45pm bob dydd yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor yn unig. 

Crèches

Gofal dydd achlysurol i blant o'u geni hyd at 12 oed mewn mangre annomestig. Mae rhai mewn mangreoedd parhaol ac yn gofalu am blant tra bo’u rhieni'n cymryd rhan mewn gweithgareddau (ee hyfforddiant, siopa neu chwaraeon). Mae eraill yn cael eu sefydlu dros dro i ofalu am blant tra bo'u rhieni yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n para am gyfnod penodol (ee cynhadledd neu arddangosfa).

Enghreifftiau o Crèches 

Darparwr gofal plant sy'n hwyluso gwasanaethau gofal plant tra bo'r rhieni yn manteisio ar weithgaredd mewn canolfan hamdden neu'n mynd i ganolfan siopa. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg rhwng 7am a 7pm ac yn cynnig gofal i blant rhwng 12 mis a 12 oed.

Darpariaeth chwarae mynediad agored

Mae darpariaeth gwaith chwarae â staff yn briodol i blant o bob oedran. 

At ddibenion rheoleiddio, mae darpariaeth chwarae mynediad agored â staff ar gyfer plant 5 i 12 oed. Gall fod yn ddarpariaeth barhaol neu dros dro; gall fod wedi'i lleoli mewn amrywiol leoliadau; gall weithredu â mangre neu heb fangre; nid oes unrhyw drefniant ymlaen llaw gyda'r person cofrestredig i ddarparu gofal dydd. Nid yw'n ofynnol i blant gael eu hebrwng gan riant neu berson cyfrifol arall i'r fangre berthnasol ac oddi yno. Ni chyfyngir ar symudiadau’r plant, heblaw pan fydd materion diogelwch yn gofyn
am hynny. 

I ddarllen rhagor am y diffiniad o chwarae, gweler canllawiau statudol Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae.

Darperir y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir, Chwarae Mynediad Agored ar wahân, ac maent ar gael [yma].

Enghreifftiau o chwarae mynediad agored

Safle sefydlog: ar ôl ysgol, penwythnosau a gwyliau

Gwasanaeth sy'n gweithredu ar faes chwarae antur. Mae'r gwasanaeth ar agor bob prynhawn o'r wythnos rhwng 3.00pm a 5.30pm, ar ddydd Sadwrn rhwng 10.00am a 3.00pm, ac yn ystod gwyliau ysgol rhwng 10.00am a 3.00pm. 

Safle sefydlog: gwyliau ysgol yn unig

Gwasanaeth sy'n gweithredu o adeilad cymunedol a'i diroedd. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu am dair wythnos yn ystod gwyliau haf ysgolion ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 9.00am a 4.00pm.

Safle symudol: gwyliau ysgol yn unig

Darpariaeth chwarae dros dro ar 4 safle ar draws ardal yr awdurdod lleol yn ystod gwyliau haf chwe wythnos ysgolion.

  • Safle 1, Tiroedd canolfan gymunedol, Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 9.30am a 12.00pm.
  • Safle 2, Parc, Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 12.30pm a 3.00pm.
  • Safle 3, Coetir, Dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 12.30pm a 3.00pm.
  • Safle 4, Ardal laswellt mewn stad dai, Dydd Gwener rhwng 10.00am a 2.00pm. 

Eithriadau: amgylchiadau pan nad oes angen cofrestru

Eithriadau: cyn Ebrill 2027

Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (Gorchymyn 2010) yn pennu’r amgylchiadau pan nad oes angen i ddarparwyr gofrestru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd ar hyn o bryd. Mae'r eithriadau wedi'u hamlinellu isod: 

Eithriadau o ran gwarchod plant

  • Nid yw'n ofynnol i'r person gofrestru fel gwarchodwr plant i ofalu am ei blentyn ei hun, ei blentyn maeth, plentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant amdano na phlentyn y mae'n byw gydag ef.
  •  Os yw person yn darparu ei wasanaeth am union 2 awr neu lai y dydd, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel gwarchodwr plant.
  • Os yw person yn cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan rieni hyd at ddau deulu i ofalu am eu plant, ac mae'r gofal yn cael ei ddarparu yng nghartref y naill deulu neu'r llall, nid yw'n ofynnol i'r person gofrestru fel gwarchodwr plant. 
  • Os yw person ond yn gofalu am blant rhwng 6.00pm a 2.00am y diwrnod wedyn, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel gwarchodwr plant. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel gwarchodwr plant lle mae'r person yn gofalu am blant ar sail cyfeillgarwch, a lle nad oes taliad (boed drwy arian neu werth ariannol) yn cael ei wneud am y gwasanaeth.

Eithriadau o ran gofal dydd

  • Os yw'r gwasanaeth yn gweithredu mewn lleoliad penodol am 5 diwrnod neu lai mewn unrhyw flwyddyn galendr, nid yw'n ofynnol cofrestru fel darparwr gofal dydd. Bydd angen i'r darparwr hysbysu Arolygiaeth Gofal Cymru am y dyddiadau y mae'n bwriadu rhedeg y gwasanaeth, cyn y diwrnod cyntaf o weithredu yn y flwyddyn honno.
  • Os yw person yn darparu ei wasanaeth am union 2 awr neu lai y dydd, nid yw'n ofynnol iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn cartref gofal, llety diogel neu ganolfan breswyl i deuluoedd a gofrestrwyd eisoes i ddarparu gofal o dan Ddeddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r gofal yn cael ei ddarparu mewn ysbyty i glaf (p'un a yw'r gofal hwnnw'n cael ei ddarparu gan ddarparwr y sefydliad yn uniongyrchol neu gan berson a gyflogir ar ran y darparwr).
  • Os yw person ond yn gofalu am blant rhwng 6.00pm a 2.00am y diwrnod wedyn, ac mae'r gofal yn cael ei ddarparu mewn gwesty, gwesty bach, neu sefydliad tebyg arall ar gyfer plentyn sy'n aros yno, ac mae'r person sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny ar gyfer dim mwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd, nid oes angen iddo gofrestru fel darparwr gofal dydd.
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd pan fydd yn gofalu am blant mewn ysgol, ac mae'r gofal a ddarperir yn gysylltiedig â darparu'r addysg. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru fel darparwr gofal dydd os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 11 oed o leiaf, mae unrhyw ofal a ddarperir yn gysylltiedig â gwaith ieuenctid, ac mae'r taliad am y gwasanaeth hwn yn nominal, os oes taliad o gwbl. 
  • Nid yw'n ofynnol i berson gofrestru os yw'n cynnig darpariaeth coetsio neu ddysgu mewn dim mwy na dau o'r mathau canlynol o weithgareddau: 
    • chwaraeon
    • celfyddydau perfformio
    • celf a chrefft
    • cymorth gydag astudiaethau ysgol neu waith cartref
    • astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol

Gall y darparwr wneud unrhyw nifer o weithgareddau ym mhob maes gweithgaredd, ar yr amod mai'r ffocws yw hyfforddiant neu wersi'r plant, ac mai rhywbeth cysylltiedig â hynny yw unrhyw ofal a roddir. Os yw'r holl blant sy'n mynychu yn 5 oed neu'n hŷn, nid yw'n ofynnol i'r darparwr gofrestru fel darparwr gofal dydd. Fodd bynnag, os yw'n darparu gwasanaeth hyfforddiant a gwersi i blant o dan 5 oed ac maent yn bresennol am fwy na 4 awr y dydd, rhaid iddo gofrestru.

Gellir darllen y canllawiau ar yr eithriadau hyn yma Cofrestru fel darparwr gofal plant: eithriadau.

Eithriadau: o Ebrill 2027

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o Orchymyn 2010 ac, o ganlyniad, bydd nifer o newidiadau yn cael eu gwneud i'r eithriadau yng Ngorchymyn 2010. Mae'r newidiadau hynny wedi'u nodi yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 (Gorchymyn 2026) a fydd yn disodli ac yn dirymu Gorchymyn 2010. 

Daw Gorchymyn 2026 i rym ar 1 Ebrill 2027; bydd angen i ddarparwyr ystyried eu darpariaeth yn erbyn Gorchymyn 2026 i asesu p'un a ydynt wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yng Nghymru. 

Yn ystod cyfnod pontio o flwyddyn, rhwng Ebrill 2027 ac Ebrill 2028, bydd yn ofynnol i ddarparwyr nad ydynt bellach wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru oherwydd y newidiadau a gyflwynir gan Orchymyn 2026 wneud cais i gofrestru. Bydd gan ddarparwyr tan 31 Mawrth 2028 i gyflwyno eu cais cofrestru i Arolygiaeth Gofal Cymru. Ar ôl y dyddiad hwn, gellir cymryd camau gorfodi lle canfyddir bod darparwr yn gweithredu heb fod wedi bodloni'r gofyniad i gofrestru. 

Yn sgil y newid hwn yn y gyfraith, mae'n bwysig cysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru am gyngor pellach i drafod eich darpariaeth, ac a oes angen ichi gofrestru. 

Caiff canllawiau ar yr eithriadau newydd eu cyhoeddi yn hydref 2026. Bydd y rhain ar gael ar wefannau Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 1: Gwybodaeth (am y lleoliad)

Llais y Plentyn

Yr hyn sydd orau i mi yw gwybodaeth sy'n glir ac yn hawdd i'm rhieni neu fy ngofalwyr ddod o hyd iddi, fel y gallant ddewis y lleoliad iawn i mi.

Deilliant Lles

Bod plant yn profi gofal sy'n ymateb i'w hanghenion, a bod eu lles, eu dysgu a'u chwarae yn cael eu cefnogi am fod y rhieni yn deall digon am y lleoliad i wneud dewisiadau deallus.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

1.1 Bod rhieni yn cael digon o wybodaeth gywir i wneud penderfyniad deallus am y wasanaeth.

1.2 Bod Datganiad o Ddiben wedi'i lunio fel y nodir yn y rheoliadau, a bod gwybodaeth yn ael ei rhoi i ddarpar rieni, ar lafar ac yn ysgrifenedig, am y gwasanaeth a ddarperir. 

1.3 Bod y Datganiad o Ddiben a'r wybodaeth ychwanegol yn cynnwys:

Ar gyfer pob lleoliad

  • Nodau ac amcanion y gwasanaeth.
  • Niferoedd, oed a rhyw y plant a fydd yn derbyn gofal.
  • Ystod anghenion y plant perthnasol a gaiff eu diwallu.
  • Oriau agor.
  • Staffio.
  • Manylion llawn y ddarpariaeth, gan gynnwys: 
    • y cyfleusterau sydd ar gael
    • y gwasanaethau a gynigir
    • y gweithgareddau a gynigir 
    • patrwm y sesiynau
  • Yr iaith/ieithoedd a ddefnyddir.
  • Telerau ac amodau darparu gofal.
  • Y polisi derbyn plant.
  • Sut i gysylltu â ni.
  • Trefniadau ar gyfer delio â chwynion a phryderon.
  • Trefniadau ar gyfer delio ag unrhyw argyfwng.
  • Manylion trefniadau i adolygu'r Datganiad o Ddiben a rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am newidiadau i'r gwasanaeth.
  • Manylion anifeiliaid anwes neu anifeiliaid eraill yn y fangre.

Ar gyfer gwarchodwyr plant yn unig

  • Manylion eu teulu eu hun.
  • A yw’r person cofrestredig yn ofalwr maeth.
  • Trefniadau ar gyfer gweithio gyda chynorthwy-ydd yn unol ag Atodiad A: Canllawiau ar gyfer cynorthwywyr gwarchodwyr plant.

1.4 Bod rhieni yn ymwybodol y gallant ddarllen yr adroddiad arolygu diweddaraf ar-lein ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Arolygiaeth Gofal Cymru: Canllaw ar lunio Datganiad o Ddiben.

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 2: Y Contract

Llais y plentyn

Mae pawb yn cytuno ar y gofal a gaf, gan fy nghynnwys i. 

Deilliant lles

Bod anghenion plant yn cael eu diwallu drwy drefniadau gofal clir, dibynadwy sy'n galluogi arferion sefydlog a chydberthnasau o ymddiriedaeth.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

2.1 Y cytunir ar gontract ysgrifenedig gyda'r rhieni sy'n nodi disgwyliadau'r ddwy garfan o ran gofal y plentyn, y gweithgareddau a ddarperir a'r trefniadau busnes.

2.2. Bod rhaid i'r contract ysgrifenedig gynnwys y telerau a'r amodau, gan gynnwys gwybodaeth am:

  • gyrraedd a chasglu'r plentyn
  • salwch
  • gweinyddu meddyginiaeth
  • gwyliau
  • anghenion deietegol
  • beth i'w wneud mewn argyfwng
  • polisi ar ymddygiad a sancsiynau
  • materion ariannol a ffioedd (os o gwbl)
  • polisi cyfle cyfartal
  • cwynion

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Mae Cwlwm yn gonsortiwm o bum partner gofal plant a gwaith chwarae. Mae'n cynnig templedi, gwybodaeth ac adnoddau dwyieithog y gellir eu lawrlwytho i helpu'r broses o weithredu lleoliadau gwaith chwarae neu ofal plant blynyddoedd cynnar.

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 3: asesu

Llais y plentyn

Mae pawb yn rhoi'r amser i ddod i'm hadnabod; mae pobl yn gwybod beth sydd ei angen arna i a beth dw i'n ei hoffi, er mwyn imi deimlo'n hapus ac yn gyfforddus.

Deilliant lles

Bod cryfderau, diddordebau ac anghenion plant yn cael eu cydnabod yn gynnar, gan ei gwneud yn bosibl i'r gofal a'r cynllunio fod yn addas i'r plentyn unigol, mewn ffordd sy'n cefnogi datblygiad holistaidd a dysgu drwy chwarae.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

3.1 Bod anghenion a dewisiadau plant yn cael eu nodi, hyd y bo'n ymarferol, cyn eu gosod neu cyn iddynt fynychu.

3.2 Bod rhieni a phlant yn cael eu hannog i ymweld â'r ddarpariaeth gofal plant cyn i'r plentyn ddechrau mynychu i sicrhau bod anghenion y plant yn cael eu nodi'n glir.

3.3 Bod rhieni yn cael eu holi'n benodol am ddewisiadau, anghenion a galluoedd eu plentyn, ac am unrhyw wybodaeth arall y mae angen iddynt ei rhannu i sicrhau'r gofal gorau posibl i'r plentyn. Rhoddir ystyriaeth i ddymuniad y plentyn hefyd, naill ai drwy drafod â’r plentyn neu rieni’r plentyn. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw. 

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help:

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 4: diwallu anghenion unigol

Llais y plentyn

Mae pawb yn gwrando arna i a'm teulu. Dw i'n cael fy nghefnogi ac yn cael y gofal sydd ei angen arna i i ffynnu.

Deilliant lles

Y deëllir anghenion unigol plant, ac y cynllunnir ac y darperir ar eu cyfer.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Yn achos pob plentyn:

4.1 Y gallant ddangos eu bod yn gallu diwallu anghenion y plant a osodwyd gyda nhw.

4.2 Bod ganddyn nhw (neu eu staff) y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i gynllunio ar gyfer anghenion a dewisiadau unigol plentyn ac ymateb iddynt.

4.3 Gan gynllunio’r ddarpariaeth mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y plentyn, bod lles a datblygiad pob plentyn yn cael ei hybu. Bod camau pwrpasol yn cael eu cymryd i holi safbwyntiau’r plant a’u teuluoedd, a bod y rheini yn cael eu hymgorffori i’r broses gynllunio a phenderfyniadau. 

4.4 Y deëllir anghenion a dewisiadau plant unigol (gan gynnwys y rheini sydd o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol) mewn perthynas â iaith/ieithoedd eu cartref, y cyfrwng addysg (ee Cymraeg neu Saesneg) y bwriedir ei ddefnyddio a'u harferion cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol, ac y darperir ar gyfer hyn.

4.5 Bod preifatrwydd yn cael ei barchu pan ddarperir gofal personol iawn. 

4.6 Bod y trefniadau staffio yn cael eu cynllunio i ddiwallu anghenion plant unigol sy'n mynychu, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion cymorth ychwanegol.

Yn achos plant anabl a phlant ag anghenion cymorth ychwanegol:

4.7 Os oes gan blentyn, neu os yw’n bosibl bod gan blentyn anghenion cymorth ychwanegol, bod darparwyr a rhieni'n gweithio gyda'i gilydd fel bod camau priodol yn cael eu cymryd i gael cyngor neu gymorth. 

4.8 Bod camau priodol yn cael eu cymryd os canfyddir bod gan blentyn, neu os yw’n bosibl bod gan blentyn anghenion cymorth ychwanegol. 

4.9 Bod plant anabl a phlant ag anghenion cymorth ychwanegol yn gallu manteisio mewn ffordd gyfartal, ynghyd â'u cyfoedion, ar y cyfleusterau, y gweithgareddau a'r cyfleoedd chwarae a ddarperir er mwyn hybu eu lles a'u datblygiad.

4.10 Bod yr amgylchedd ffisegol, hyd y bo'n rhesymol, yn addas i blant anabl a phlant ag anghenion cymorth ychwanegol.

4.11 Lle nodir y gallai fod angen cymorth arbenigol neu gyfarpar, dylai’r lleoliad gysylltu â’r awdurdod lleol.

Yn achos plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY):

4.12 Os yw darparwr yn credu bod gan blentyn angen dysgu ychwanegol, lle bynnag y bo'n bosibl, bod hyn yn cael ei drafod gyda'i riant. Gall naill ai'r darparwr neu'r rhiant dynnu sylw’r awdurdod lleol at y ffaith bod gan y plentyn, neu y gallai fod gan y plentyn angen dysgu ychwanegol. Wrth ymateb, rhaid i’r awdurdod lleol ddilyn y gofynion a'r canllawiau a nodir yng Nghod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru.

4.13 Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i rieni i hawliau o dan y system Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac mae SNAP Cymru yn cynnig cyngor annibynnol a chyfarwyddyd ar y cymorth sydd ar gael i rieni plant y blynyddoedd cynnar sydd ag ADY neu a allai fod ag ADY.

4.14 Bod lleoliadau gofal plant cofrestredig nas cynhelir sydd wedi’u cymeradwyo ac yn cael eu hariannu gan yr awdurdod lleol i ddarparu addysg feithrin: 

  • â rôl o ran cefnogi awdurdodau lleol i nodi anghenion dysgu ychwanegol ac o ran helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol
  • yn gorfod rhoi sylw i’r canllawiau perthnasol yn y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn unol â threfniadau ariannu’r awdurdod lleol

4.15 Bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn gallu manteisio mewn ffordd gyfartal, ynghyd â'u cyfoedion, ar y cyfleusterau, y gweithgareddau a'r cyfleoedd chwarae a ddarperir.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 5: cofnodion

Llais y plentyn

Mae pawb yn cadw gwybodaeth bwysig amdana i'n ddiogel.

Deilliant lles

 Bod anghenion plant yn cael eu diwallu oherwydd bod gwybodaeth gywir yn llywio'r ymarfer, parhad y gofal a chynllunio meddylgar.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

5.1 Bod cofnodion yn cael eu cadw fel sy'n ofynnol gan Reoliad 30 ac Atodlen 3 o'r Rheoliadau. Cofnodion y mae'n rhaid eu cadw yn y fangre tra bo'r plant dan sylw yn derbyn gofal:

Enw, cyfeiriad a rhif(au) ffôn:

  • y person cofrestredig
  • yr unigolyn cyfrifol (os yw’n gymwys)
  • pob person arall sy'n byw, sy'n gweithio neu a gyflogir yn y fangre lle darperir y gofal plant
  • unrhyw berson arall a fydd mewn cyswllt rheolaidd gyda'r plant perthnasol heb eu goruchwylio
  • pob aelod cyfredol o'r pwyllgor neu'r corff llywodraethu os mai cymdeithas anghorfforedig yw'r ymgeisydd

Yr wybodaeth ganlynol am bob plentyn perthnasol:

  • enw
  • cyfeiriad cartref
  • dyddiad geni
  • rhyw
  • alergeddau
  • anghenion deietegol
  • anghenion iechyd

Yr wybodaeth ganlynol am riant pob plentyn perthnasol:

  • enw 
  • cyfeiriad
  • rhif(au) ffôn

Yr wybodaeth ganlynol am ymarferydd meddygol cofrestredig pob plentyn perthnasol:

  • enw
  • cyfeiriad

Cofnod dyddiol o:

  • enwau'r plant perthnasol sy'n mynychu'r lleoliad
  • yr oriau y buont yno
  • enw(au) y person(au) a ofalodd amdanynt

Cofnod cyfredol o unrhyw un o'r canlynol:

  • damweiniau
  • salwch difrifol
  • digwyddiadau pwysig eraill yn y fangre

Datganiadau o'r canlynol:

  • y weithdrefn i'w dilyn yn achos tân neu ddamwain
  • y weithdrefn i'w dilyn lle mae gan riant neu blentyn gŵyn am y gwasanaeth a ddarparwyd gan y person cofrestredig
  • y trefniadau ar gyfer diogelu'r plant perthnasol, gan gynnwys trefniadau i warchod y plant rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso a'r gweithdrefnau i'w dilyn yn achos honiadau o gam-drin neu esgeuluso
  • y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd plentyn perthnasol yn mynd ar goll neu os na chaiff ei gasglu

5.2 Bod y cofnodion efallai yn cynnwys gwybodaeth gyswllt ddefnyddiol arall, megis rhifau ffôn symudol a chyfeiriadau e-bost, neu fanylion rhieni neu ofalwyr eraill i blentyn perthnasol, yn ogystal â'r rhai sy'n ofynnol yn y rheoliadau.

5.3 Bod cofnodion am blant unigol yn cael eu rhannu â rhiant y plentyn, ac eithrio lle byddai hyn yn peryglu lles y plentyn.

5.4 Bod cofnodion am blant unigol yn cael eu cadw am gyfnod o dair blynedd o leiaf ar ôl y dyddiad olaf pan fynychodd y plant. Gallai gofynion yswiriant person cofrestredig olygu bod angen cadw'r cofnodion am gyfnod hirach.

5.5 Bod cofnodion am blant unigol yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol, a'u bod ar gael bob amser i Arolygiaeth Gofal Cymru eu harolygu yn ôl y gofyn.

5.6 Y gofynnir i'r rhiant neu'r oedolyn arall sy'n casglu'r plentyn lofnodi cofnod o unrhyw ddamweiniau i gydnabod y cofnod.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr, amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau Cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 6: gweithio mewn partneriaeth â rhieni

Llais y plentyn

Mae pobl sy'n bwysig imi yn cael gwybodaeth reolaidd am yr hyn dw i'n ei wneud a sut mae pethau arna i.

Deilliant lles

Bod gweithgareddau, cyflawniadau a chynnydd plant yn cael eu rhannu â rhieni neu ofalwyr, a'u bod yn cael gwybodaeth gyflawn am ofal eu plentyn, a'u cynnwys yn llawn yn y broses. 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

6.1 Eu bod nhw a'r staff yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r rhieni i ddiwallu anghenion y plant, yn unigol ac fel grŵp.

6.2 Bod cyfrifoldeb y rhieni, yn anad neb arall, dros eu plant yn cael ei gydnabod a'i barchu. 

6.3 Bod y rhieni yn cael gwybod am yr holl arferion a ddilynir wrth ofalu am eu plant. 

6.4 Bod y polisïau a'r gweithdrefnau ar gael i bob rhiant.

6.5 Bod manylion am yr hyn y mae eu plentyn wedi'i gyflawni yn ystod y dydd, gan gynnwys unrhyw ddigwyddiad pwysig neu newid yn ei ymddygiad, yn cael eu rhannu gyda'r rhieni.

6.6 Wrth ofalu am blant o dan 2 oed, bod system ddyddiol i gyfnewid gwybodaeth rhwng y rhiant a'r gweithiwr allweddol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am anghenion ac arferion datblygu a gofal newidiol y plentyn. 

6.7 Bod gwybodaeth reolaidd yn cael ei rhoi i rieni am weithgareddau; er enghraifft, drwy arddangosfeydd wal, lluniau neu enghreifftiau o waith y plant.

6.8 Bod cofnodion yn cael eu cadw sy'n cynnwys manylion am y plentyn a nodiadau ar ei gynnydd. Bod mynediad i rieni at yr holl gofnodion ysgrifenedig am eu plant (ac eithrio fel y'i nodir yn Safon 6.10 isod).

6.9 Bod plant o dan 8 oed ond yn cael eu rhyddhau o ofal y ddarpariaeth i unigolion a enwir gan y rhieni. Bod plant dros 8 oed ond yn cael eu rhyddhau o ofal y ddarpariaeth o dan drefniadau sydd wedi'u cytuno ymlaen llaw gyda'r rhieni.

6.10 Y bydd y polisi am breifatrwydd a chyfrinachedd ar gael. Bod unrhyw geisiadau gan drydydd partïon am wybodaeth yn cael eu trafod gyda'r rhieni a bod gwybodaeth amdanynt ond yn cael ei rhannu gyda'u cydsyniad nhw. Gellir gwneud eithriad lle mae'n ofynnol cofnodi pryderon am les neu ddiogelwch y plentyn; er enghraifft, mewn perthynas â diogelu plant.

6.11 Os pennir plentyn fel un sydd angen gofal a chymorth (adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), bod y person cofrestredig, gyda chaniatâd y rhieni, yn rhoi'r wybodaeth briodol i asiantaethau cyfeirio.

Mewn Lleoliad Gofal Dydd:

6.12 Bod gwybodaeth yn cael ei rhoi i rieni sy'n cynnwys rôl y rhieni ac unrhyw ddisgwyliadau o ran cymryd rhan ar y pwyllgor rheoli neu fel gwirfoddolwyr. Bod gwybodaeth lawn a chanllawiau yn cael eu rhoi i unrhyw wirfoddolwyr ac aelodau'r pwyllgor am eu rolau a'u cyfrifoldebau.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 7: cyfleoedd i chwarae a dysgu

Nid yw Safonau 7.9 i 7.11 yn berthnasol i ddarpariaeth y tu allan i oriau ysgol, er y dylid ystyried o hyd fod elfennau perthnasol ohonynt yn ddymunol, fel arfer da. 

Llais y plentyn

Dw i'n gallu dewis sut dw i'n chwarae a chael hwyl, wrth ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd sydd o ddiddordeb imi.

Deilliant lles

Bod y plant yn cael hwyl drwy ystod o brofiadau sy'n ennyn diddordeb, gan gynnwys chwarae rhydd, distrwythur a hunan-gyfeiriedig, sy’n cyfrannu at eu datblygiad emosiynol, corfforol, cymdeithasol, deallusol, ieithyddol a chreadigol.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

7.1 Bod anghenion unigol y plentyn yn cael eu diwallu a'i les yn cael ei hybu drwy gynllunio a darparu cyfleoedd chwarae a gweithgareddau i hybu datblygiad emosiynol, corfforol, cymdeithasol, creadigol, ieithyddol a deallusol.

7.2 Bod yr adnoddau, y cyfleoedd chwarae, y profiadau uniongyrchol a'r gweithgareddau a ddarperir yn helpu datblygiad plant ac yn adeiladu ar eu chwilfrydedd naturiol.

7.3 Bod plant yn cael cyfle i fod yn egnïol, o dan do ac yn yr awyr agored, ynghyd ag amser i ymlacio.

7.4 Bod gan blant gyfleoedd i chwarae a dysgu yn yr awyr agored.

7.5 Bod yr amgylchedd yn un effeithiol sy'n annog plant i fod yn hyderus ac annibynnol ac i ddatblygu eu hunan-werth, parchu eraill a datblygu ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n anghywir.

7.6 Bod perthynas dda yn cael ei hadeiladu gyda phlant a'u rhieni i hwyluso dealltwriaeth dda o anghenion unigol ac amgylchiadau yn y cartref.

7.7 Y caiff y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc eu cymhwyso i'r ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu: 

  • Bod oedolion sy'n galluogi dysgu yn gwrando ar yr hyn y mae'r plant yn ei ddweud ac yn ei werthfawrogi, yn siarad â nhw am yr hyn y maent yn ei wneud ac yn cymryd camau i'w hannog i ymchwilio i'w potensial llawn.
  • Bod cyfleoedd yn cael eu hystyried i gynnwys plant mewn penderfyniadau, gwerthuso a chynllunio ar amrywiaeth o lefelau.

7.8 Bod adnoddau yn cael eu trefnu fel eu bod ar gael yn hwylus i blant, a bod staff yn cael eu lleoli i gefnogi chwarae a dysgu ymhlith plant.

7.9 Bod y staff yn arsylwi ar y plant, yn sylwi ar yr hyn y maent yn ei wneud, yn ei ddadansoddi ac yn ymateb iddo, er mwyn helpu i gynllunio'r camau nesaf ar gyfer chwarae, dysgu a datblygiad y plant.

7.10 Wrth ddarparu gofal ar gyfer plant o dan 2 oed:

  • Bod plant yn rhyngweithio â'r un oedolyn yn rheolaidd drwy gydol y dydd. 
  • Bod cynllun clir ar gyfer gweithgareddau i'r babanod.

Lleoliadau a ariennir i ddarparu addysg feithrin

7.11 Bod egwyddorion Cwricwlwm i Gymru wedi'u deall ac yn cael eu gweithredu mewn ffordd gynhwysol, sy'n briodol i ddatblygiad y plant, er mwyn cefnogi datblygiad holistaidd pob plentyn.

Lleoliadau nad ydynt yn cael eu hariannu i ddarparu addysg feithrin

7.12 Anogir lleoliadau nad ydynt yn cael eu hariannu i ymgorffori ethos Cwricwlwm i Gymru yn eu harferion.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 8: maeth a lles

Llais y plentyn

Dw i'n teimlo bod pobl yn gofalu amdana i ac yn gwrando arna i. Dw i'n teimlo y galla i fod yn fi fy hun.

Deilliant lles

Bod plant yn profi cydberthnasau cynnes, lle ymatebir iddynt, gan feithrin ymdeimlad o berthyn, hyder, lles emosiynol a gwydnwch.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

8.1 Bod gan staff wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a'i oblygiadau i'w gwaith a'u rhyngweithio â'r plant, gan helpu'r plant i ddechrau deall eu hawliau.

8.2 Bod polisïau'r lleoliad a'r gofal a roddir yn hyrwyddo perthynas gynnes rhwng unigolion, ymdeimlad o ddiogelwch, hunan-werth, annibyniaeth a hyder i blant mewn amgylchedd sy'n ymateb iddynt ac yn eu meithrin.

8.3 Y cyfathrebir mewn ffordd gadarnhaol, yr anogir y plant ac y gwrandewir arnynt. Bod y staff yn edrych i lygaid y plant a bod y cyfathrebu ar lefel y plentyn yn gyffredinol.

8.4 Bod y plant yn gallu datblygu hyder a hunan-werth yn y lleoliad.

8.5 Bod y broses ymsefydlu’n briodol ar gyfer plant unigol a’u bod yn cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni neu ofalwyr mewn ffordd sy’n cadw gofid y plant i'r lefel isaf bosibl. 

8.6 Bod y babanod a'r plant ifanc iawn yn gallu datblygu ymlyniad i un gofalwr neu nifer fach o ofalwyr rheolaidd.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 9: ymddygiad

Llais y plentyn

Dw i'n cael fy nhrin â pharch gan bobl sy'n gofalu amdana i, a dw i'n dysgu sut i wneud yr un peth i eraill.

Deilliant lles

Bod plant yn datblygu'r gallu i reoli eu hemosiynau, empathi a sgiliau rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol drwy arweiniad cefnogol, sy'n seiliedig ar hawliau.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

9.1 Bod oedolion sy'n gofalu am blant yn y ddarpariaeth wedi'u hyfforddi'n briodol ac yn gallu ymateb i ystod eang o elfennau o ymddygiad plant, sicrhau hawliau plant a hyrwyddo eu lles, yn unol â'u polisi rheoli ymddygiad.

9.2 Bod polisi rheoli ymddygiad ysgrifenedig yn cael ei lunio a'i weithredu sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn nodi'r dulliau a ddefnyddir i reoli ymddygiad plant. Bod hwn yn cael ei drafod gyda'r rhieni a bod y staff yn ei ddeall yn llawn ac yn ei ddilyn. Bod camau yn cael eu cymryd yn barhaus i adolygu'r polisi a bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am unrhyw ddiwygiad o fewn 28 diwrnod. 

9.3 Ei bod yn glir pwy o fewn y lleoliad sydd â chyfrifoldeb am faterion rheoli ymddygiad. Bod gan y person hwnnw’r sgiliau i gefnogi unrhyw staff eraill a'i fod yn gallu troi at gyngor arbenigol os nad yw'r dulliau arferol yn effeithiol gyda phlentyn penodol.

9.4 Bod ymddygiad yn cael ei reoli mewn ffordd gyson a phriodol o ran datblygiad y plentyn, gan barchu lefel dealltwriaeth ac aeddfedrwydd pob plentyn unigol.

9.5 Bod ymddygiad yn cael ei reoli mewn ffordd gadarnhaol, a bod oedolion yn modelu ymddygiad cadarnhaol, gan ganmol ac annog, a meithrin cydberthnasau da rhwng oedolion a phlant. Bod ymddygiad amhriodol, gan gynnwys bwlio, yn cael ei reoli ac yr eir i'r afael ag ef.

9.6 Bod oedolion sy'n darparu gofal neu gyfleoedd chwarae yn effro i unrhyw fwlio ac yn annog y plant i sôn am unrhyw bryderon.

9.7 Na ddefnyddir cosbau corfforol, megis ysgwyd neu daro plentyn byth, na'u bygwth.

9.8 Na wnaiff oedolion ddefnyddio unrhyw fath o ymyrraeth gorfforol, ee dal gafael yn y plant neu eu dal yn ôl yn gorfforol rhag gwneud rhywbeth, oni bai bod angen diogelu'r plentyn, plant eraill neu oedolyn rhag cael anaf, neu atal niwed difrifol i eiddo. Bod unrhyw ddigwyddiad yn cael ei gofnodi a bod y rhiant yn cael gwybod amdano y diwrnod hwnnw. Gweler y Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol

9.9 Na chaiff plant eu bychanu, eu dychryn na'u cywilyddio ac na fydd unrhyw un yn gweiddi arnynt. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 10: gofal iechyd

Llais y plentyn

Os nad ydw i'n dda, dw i'n derbyn gofal ac mae pawb yn gwneud eu gorau i wneud yn siŵr fy mod i'n cael yr help sydd ei angen arna i. 

Deilliant lles

Bod yna ddealltwriaeth o anghenion iechyd corfforol ac emosiynol y plant a'u bod yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo lles ac arferion iechyd cadarnhaol.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Iechyd

10.1 Bod iechyd y plant yn cael ei hyrwyddo a chamau cadarnhaol yn cael eu cymryd i atal haint rhag lledaenu drwy fesurau priodol mewn achosion o salwch. 

10.2 Na dderbynnir unrhyw blentyn os ymddengys ei fod yn sâl. Os bydd plant yn mynd yn sâl yn ystod eu hamser yn y lleoliad gofal plant neu chwarae, y cymerir gofal i atal heintio plant eraill ac y rhoddir gwybod i'r rhieni cyn gynted â phosibl.

10.3 Y rhoddir gwybod i rieni eraill os bydd plentyn sy'n mynd i'r lleoliad, neu unrhyw un arall yn y fangre (ee aelod o staff neu o'r teulu) wedi cael diagnosis o afiechyd heintus difrifol (ee. brech yr ieir, impetigo) gan sicrhau cyfrinachedd unigolion fel y bo'n briodol.

10.4 Bod y rhieni yn gwybod bod yn rhaid iddynt roi gwybod i'r person cofrestredig neu'r gwasanaeth gofal plant am anghenion gofal iechyd eu plentyn ac - mewn ymgynghoriad â rhiant/rhieni y plentyn - yr eir i'r afael â'r anghenion hynny, gan gymryd unrhyw gamau angenrheidiol.

10.5 Y ceir caniatâd ysgrifenedig gan y rhiant cyn ceisio cyngor neu driniaeth feddygol frys.

10.6 Bod y fangre a'r cyfarpar yn cael eu cadw'n lân ac yn hylan.

10.7 Bod y staff yn cael gwybodaeth am bwysigrwydd arferion hylendid da ac yn ymwybodol ohonynt er mwyn atal haint rhag lledaenu. Bod y staff yn cael gwybod yn rheolaidd am weithdrefnau hylendid da.

10.8 Bod y plant yn cael eu hannog i ddysgu am hylendid personol da, ac ymarfer hynny, drwy'r arferion a ddilynir bob dydd.

10.9 Ei bod yn ddiogel i unrhyw anifeiliaid yn y fangre fod yn agos at y plant ac nad ydynt yn berygl iechyd.

10.10 Bod pyllau tywod yn cael eu gwarchod rhag cael eu heintio a bod y tywod yn lân.

Hylendid bwyd

10.11 Bod y sawl sy'n gyfrifol am baratoi a delio â bwyd yn gwbl ymwybodol o'r rheoliadau sy'n ymwneud â diogelwch bwyd a hylendid ac yn cydymffurfio â nhw.

Newid cewynnau

10.12 Lle darperir gofal i fabanod a phlant mewn cewynnau, bod polisi newid cewynnau wedi'i lunio y mae'r staff yn gyfarwydd ag ef. Dylai'r polisi ymwneud â materion hylendid ac arferion diogelwch da. 

10.13 Bod plant o dan 2 oed yn cael eu bwydo a’u newid gan eu gweithiwr allweddol neu gan yr un oedolyn. 

Polisi gwrth-smygu a fepio

10.14 Bod ardaloedd dan do ac awyr agored y fangre lle darperir gofal plant yn ddi-fwg. Fodd bynnag, dim ond pan ddefnyddir y fangre i ddarparu gofal dydd neu wasanaeth gwarchod plant y bydd yn ofynnol i’r ardaloedd awyr agored fod yn ddi-fwg. Yn achos gwarchodwr plant sy'n darparu gofal yn eu cartref, mae'n ofynnol i'r cartref fod yn ddi-fwg yn y rhannau a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau gwarchod plant am y cyfnod y mae'r plant yng nghartref y gwarchodwr. Mae'n ofynnol i ardaloedd awyr agored cartref gwarchodwyr plant hefyd fod yn ddi-fwg os yw un neu fwy o'r plant yn yr ardal awyr agored. Rhaid cadw unrhyw ddeunyddiau smygu a fepio y tu hwnt i gyrraedd plant bob amser. Ni chaniateir smygu ym mhresenoldeb y plant sy'n derbyn gofal mewn lleoliad gofal plant. Mae hyn yn berthnasol i ardaloedd dan do ac awyr agored y fangre lle darperir gofal plant. Mae canllawiau ar y gofynion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Deddfwriaeth ddi-fwg: canllawiau ar y newidiadau o fis Mawrth 2021. 

10.15 Bod arwyddion 'Dim Smygu' yn ardaloedd dan do y lleoliad gofal plant (oni bai bod y lleoliad hefyd yn annedd, fel cartref gwarchodwr plant, lle nad yw'n ofynnol gosod arwyddion ar gyfer ardaloedd y tu mewn na'r tu allan). Nid yw'n ofynnol chwaith arddangos arwyddion 'Dim Smygu' mewn lleoliadau gofal awyr agored eraill i blant (fel cylch chwarae er enghraifft) gan fod llawer o'r rhain mewn ardaloedd sydd ond yn cael eu defnyddio'n ysbeidiol fel lleoliad gofal plant neu sy'n cael eu rhannu ag achosion eraill. Fodd bynnag, ceir gosod arwyddion 'Dim Smygu' mewn ardaloedd awyr agored, ac mae templed o arwydd 'Dim Smygu' ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

10.16 Bod y person sy'n rheoli lleoliad gofal dydd neu'r gwarchodwr plant cofrestredig sy'n darparu gofal yn eu cartref, er mwyn cyflawni gofynion y ddeddfwriaeth ddi-fwg, yn cymryd camau rhesymol i atal unrhyw un rhag smygu yn y lleoliad. Mae canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar sut i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth ddi-fwg. 

10.17 Mewn perthynas â fepio, mae'r ddeddfwriaeth ddi-fwg sydd ar waith ar hyn o bryd yn cwmpasu smygu tybaco yn unig, ac nid yw'n cynnwys e-sigaréts/fepio. Felly, os bydd unigolyn yn defnyddio e-sigarét/fepio mewn lleoliad y mae’n ofynnol iddo fod yn lleoliad di-fwg, ni fydd yr unigolyn hwnnw’n cyflawni trosedd. Fodd bynnag, anogir darparwyr lleoliadau gofal plant cofrestredig i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts/fepio yn eu lleoliad.

Cymorth cyntaf 

10.18 Bod blwch cymorth cyntaf sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau perthnasol, a bod y cynnwys yn cael ei archwilio'n gyson gan ychwanegu ato yn ôl yr angen. Lle bo'n briodol, dylid dynodi aelod o staff i fod yn gyfrifol am hyn. Dylai'r blwch cymorth cyntaf fod ar gael i staff, ond y tu hwnt i gyrraedd plant. 

10.19 Bod lleoliadau gofal plant a chwarae annomestig hefyd yn cydymffurfio â gofynion cyffredinol hyfforddiant cymorth cyntaf yn y gweithle a amlinellir gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â'u gweithwyr.

10.20 Bod gan unigolion sydd wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf gymhwyster “addas”. Rhaid i gynnwys cyrsiau Cymorth Cyntaf Pediatrig fod yn gyson â'r meini prawf a nodir yng Nghanllawiau'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig yn Atodiad B.

10.21 Bod pob tystysgrif cymorth cyntaf yn cael ei diweddaru’n gyson a’i hadnewyddu bob 3 blynedd. 

10.22 Bod gan o leiaf un person yn y fangre sy’n gofalu am y plant dystysgrif gyfredol o gwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn 12 awr, sy’n briodol ar gyfer oedran y plant y gofelir amdanynt. 

10.23 Bod nifer digonol o staff sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf addas yn y fangre bob amser pan fydd y plant yn bresennol. Bod nifer y staff sydd wedi cael hyfforddiant addas yn ddigonol o ystyried cynllun y fangre, ac i ba raddau y gall yr unigolion hynny ymateb yn gyflym i achosion brys, a chan ganiatáu ar gyfer amgylchiadau lle bydd staff yn absennol neu yn cael eu galw o’r lleoliad yn annisgwyl.

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf: gwarchodwyr plant:

10.24 Bod gwarchodwyr plant, ac unrhyw gynorthwy-ydd y gellid gofyn iddo fod yn gwbl gyfrifol am y plant, yn meddu ar dystysgrif o gwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn 12 awr cyn dechrau gwarchod plant. 

10.25 Os na ofynnir i’r cynorthwy-ydd fod yn gwbl gyfrifol am y plant, bod ganddo dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng. Dylid ymgymryd â'r cwrs 6 awr Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng o fewn tri mis i ddechrau'r gwaith.

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf: Lleoliadau Gofal Dydd (Gofal Dydd)

10.26 Bod o leiaf un oedolyn wedi cael hyfforddiant ar gyfer pob deg plentyn, hynny yw bod ganddynt dystysgrif gyfredol o gwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn 12 awr.

10.27 Bod yr holl staff eraill (gan gynnwys gwirfoddolwyr rheolaidd neu hyfforddeion) sydd wedi'u cynnwys yn y cymarebau staffio oedolion:plant yn dilyn hyfforddiant 6 awr Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng a bod ganddynt dystysgrif gyfredol. 

10.28 Bod dechreuwyr newydd yn ymgymryd â chwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng 6 awr o fewn tri mis i ddechrau'r gwaith, ond gellir eu cynnwys yn y cymarebau staff:plant gofynnol tra bo’r hyfforddiant yn cael ei drefnu, ar yr amod bod pob aelod arall o’r staff wedi cael yr hyfforddiant Cymorth Cyntaf a bod ganddynt y tystysgrifau cyfredol gofynnol. 

10.29 Bod nifer digonol o staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol mewn Cymorth Cyntaf yn mynd gyda’r plant ar unrhyw dripiau.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried y Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 11: meddyginiaeth

Llais y plentyn

Os oes angen meddyginiaeth arna i, mae'n cael ei roi yn ddiogel imi a dim ond pan fydd fy nheulu yn dweud bod hynny'n iawn.

Deilliant lles

Bod iechyd plant yn cael ei ddiogelu drwy roi'r feddyginiaeth sydd ei hangen arnynt, pan fydd ei hangen arnynt, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau meddyginiaeth y lleoliad.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

11.1 Bod y safonau hyn yn cael eu darllen ochr yn ochr â Safon 10: Gofal iechyd a chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer atal a rheoli heintiau.

11.2 Bod polisi meddyginiaeth clir, a ddeëllir ac a weithredir gan bawb o'r staff, ynghylch storio a gweinyddu unrhyw feddyginiaeth (ragnodedig neu nas rhagnodwyd). Bod y polisi yn cydymffurfio â thelerau yswiriant y person cofrestredig. 

11.3 Bod y polisi meddyginiaeth yn cael ei rannu â rhieni ac yn nodi'r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi gweinyddu meddyginiaeth ragnodedig ac nas rhagnodwyd yn ddiogel.  Bod y polisi yn cynnwys y weithdrefn ar gyfer delio ag argyfyngau meddygol a phan fydd plant yn mynd yn sâl yn y lleoliad.

11.4 Bod y rhiant yn rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw cyn i unrhyw feddyginiaeth (ragnodedig/nas rhagnodwyd) gael ei rhoi.

11.5 Os rhoddir meddyginiaeth i blentyn, bod yna ddealltwriaeth o sgil-effeithiau posibl y feddyginiaeth. Os yw’r plentyn yn cymryd ei feddyginiaeth ei hun, bod hyn yn digwydd yn unol â chanllawiau ysgrifenedig gan y rhiant a chyda dealltwriaeth o sgil-effeithiau posibl y feddyginiaeth. Rhaid goruchwylio plant sy'n cymryd eu meddyginiaeth eu hunain. 

11.6 Yr holir y person sy'n dod â'r plentyn i'r lleoliad gofal plant pryd yn union y gweinyddwyd y feddyginiaeth ddiwethaf.

11.7 Na weinyddir meddyginiaethau presgripsiwn oni bai bod meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall wedi'u rhagnodi ar gyfer y plentyn hwnnw. 

11.8 Os yw gweinyddu meddyginiaethau presgripsiwn yn gofyn am wybodaeth dechnegol neu glinigol, bod y person sy'n gweinyddu'r feddyginiaeth wedi'i hyfforddi'n briodol i wneud hynny. Bod yr hyfforddiant yn benodol i'r plentyn unigol dan sylw. 

11.9 Nad yw unrhyw feddyginiaeth a dderbynnir yn y lleoliad, y ceir gafael arni gan y lleoliad ac a weinyddir gan y lleoliad yn hen.

11.10 Bod pob meddyginiaeth yn cael eu storio yn eu cynhwysydd gwreiddiol. Bod meddyginiaeth a ragnodwyd wedi'i labelu'n glir gydag enw'r plentyn.   

11.11 Bod pob meddyginiaeth yn cael ei storio'n ddiogel yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, ac nad oes modd i'r plant gael gafael arnynt.

11.12 Bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw o bob meddyginiaeth a weinyddir i blant, a bod rhieni yn llofnodi'r llyfr cofnod i'w chydnabod.

11.13 Os ydych yn derbyn parasetamol hylifol, yn ei storio ac yn ei weinyddu pan fydd plentyn yn mynd yn sâl yn eich lleoliad, dilynwch y canllawiau yn Atodiad Ch - Canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 12: bwyd a diod

Llais y plentyn

Dw i'n cael bwyd a diodydd iach sy'n iawn i mi, ac mae pawb yn gwirio gyda fy nheulu beth sydd ei angen arna i.

Deilliant lles

Bod digon o ddiodydd a bwyd iach a maethlon yn ôl eu hanghenion deietegol yn cael eu darparu yn gyson i’r plant.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

12.1 Y ceir gwybodaeth gan rieni, a gofnodir, am ofynion deietegol plant unigol, gan gynnwys gofynion diwylliannol a chrefyddol, a deietau therapiwtig ar gyfer alergeddau bwyd y cafwyd diagnosis swyddogol ohonynt, ac y cydymffurfir â nhw. 

12.2 Os yw’r plant yn derbyn prydau a/neu fyrbrydau, eu bod yn cael eu paratoi mewn ffordd ddiogel, yn gytbwys o ran maeth, o ansawdd da ac yn briodol o ran maint, gan ddilyn argymhellion Llywodraeth Cymru yn y Canllawiau bwyd a maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant. Bod y bwyd a'r diod a gynigir yn amrywiol ac yn faethlon ac yn bodloni gofynion crefyddol, diwylliannol a deietegol pob un o'r plant.

12.3 Bod dŵr yfed ffres ar gael yn hwylus i'r plant bob amser.

12.4 Bod bwyd yn cael ei storio'n ddiogel. Os yw rhieni yn darparu bwyd, eu 
bod yn cael gwybod beth gellir ei storio'n ddiogel.

12.5 Y cydymffurfir â gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Iechyd Amgylcheddol. 

12.6 Mewn lleoliadau lle mae amseroedd penodedig ar gyfer prydau bwyd a diodydd, eu bod wedi'u trefnu i gynnig cyfleoedd cymdeithasol, gan ddefnyddio byrddau, seddau, llestri a chyllyll a ffyrc priodol. 

12.7 Os darperir gofal i fabanod a phlant dan 2 oed:

  • bod bwydo a newid cewynnau yn digwydd yn unol ag anghenion y plentyn unigol, ac nid fel rhan o drefn y feithrinfa
  • bod cyfleusterau ar gael i gefnogi mamau sydd am barhau i fwydo ar y fron, ee i storio llaeth y fron yn ddiogel neu i ymweld er mwyn bwydo'u baban ar y fron yn ystod yr amser y gofelir am y plentyn. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle nad yw'r cyfleusterau ar gael yn barhaol, y gwneir trefniadau dros dro yn ôl y gofyn 
  • bod babanod yn cael eu dal wrth eu bwydo o botel, os yn bosibl gan yr un gofalwr neu weithiwr allweddol ar bob achlysur 
  • bod ardal yn cael ei darparu lle mae dŵr yfed ar gael a chyfleusterau i 
    baratoi bwyd babanod mewn ffordd hylan
  • bod cyfarpar sterileiddio addas yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarpar bwydo babanod a dymis 
  • bod cofnodion o'r bwyd a roddir i fabanod yn cael eu cadw, a’u dangos i'r rhiant/rhieni

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 13: person addas

Llais y plentyn

Mae'r bobl sy'n gofalu amdana i'n garedig ac yn gwybod sut i'm cadw i'n ddiogel ac yn hapus.

Deilliant lles

Bod plant yn mwynhau profiadau chwarae, cydberthnasau diogel ac sy'n eu cyfoethogi, gydag oedolion medrus, meddylgar, sy'n ymrwymedig i ddarparu gofal o ansawdd uchel.

Mae'r person cofrestredig ym mhob darpariaeth gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yn gyfrifol am sicrhau:

13.1 Bod pob hyfforddai yn gweithio o dan oruchwyliaeth agos bob amser. 

13.2 Bod yr holl staff yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n cwmpasu polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch ac amddiffyn plant yn ystod wythnos gyntaf eu cyflogaeth. 

13.3 Y rhoddir sylw i anghenion hyfforddi parhaus y staff ac y darperir ar eu cyfer yn rheolaidd.

13.4 Bod yr holl staff cyflogedig yn cael eu goruchwylio’n rheolaidd ar sail un-i-un, gan eu hannog i ystyried ansawdd eu harferion a chodi unrhyw bryderon o ran diogelwch. Eu bod hefyd yn cael eu gwerthuso'n ffurfiol o leiaf unwaith y flwyddyn.

Safon 13 (GP): person addas (gwarchodwr plant)

Gweler Atodiad A: Canllawiau i Gynorthwywyr Gwarchodwyr Plant, i gael gwybod mwy am weithio gyda chynorthwy-ydd.

Mae’r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

13.1 (GP) Bod y gwarchodwr plant, ac unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir ganddo, yn addas i ofalu am blant hyd at 12 oed, ac yn meddu ar y sgiliau, y profiad a'r cymwysterau priodol i ddiwallu anghenion y plant.

13.2 (GP) Bod y gwarchodwr plant, ac unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir ganddo, yn abl yn feddyliol ac yn gorfforol i ofalu am blant. 

13.3 (GP) Bod y gwarchodwr plant wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs cyn-cofrestru priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. 

13.4 (GP) Bod unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir gan warchodwr plant yn meddu ar gymhwyster priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Os nad oes ganddynt gymhwyster priodol adeg eu cyflogi, mae'n ofynnol i gynorthwywyr fod wedi ennill y cymhwyster gofynnol o fewn 6 mis i ddechrau eu cyflogaeth bresennol. Ni ddylid eu gadael ar eu pen eu hunain gyda phlant nes eu bod wedi ennill y cymhwyster.

13.5 (GP) Bod y gwarchodwr plant, unrhyw gynorthwy-ydd, ac unrhyw unigolion eraill 16 oed neu'n hŷn sy'n byw, yn gweithio (gan gynnwys gwaith gwirfoddol) neu sydd am reswm arall yn bresennol yn y fangre berthnasol, ac sy'n dod i gysylltiad rheolaidd â'r plant, neu sy'n debygol o wneud hynny, wedi mynd drwy broses wirio sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn cynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bod pob archwiliad yn cael ei gwblhau cyn i'r gwarchodwr plant ac unrhyw gynorthwy-ydd ddechrau gofalu am blant.

13.6 (GP) Bod y gwarchodwr plant yn rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am ei fwriad i gyflogi neu i weithio gydag unrhyw gynorthwywyr i ofalu am y plant.

13.7 (GP) Fel y person cofrestredig, mai'r gwarchodwr plant sy'n atebol am waith unrhyw gynorthwy-ydd, ac yn gyfrifol am ddiogelwch, lles a datblygiad y plant yn ei ofal. Bod y gwarchodwr plant yn defnyddio’r cynorthwy-ydd mewn ffordd effeithiol ac yn fodlon bob amser bod y cynorthwy-ydd yn gymwys ym mhob rhan o'r gwaith sy'n cael ei wneud. Bod y gwarchodwr plant yn cadw ffeil staff ar gyfer pob cynorthwy-ydd, a fydd yn cynnwys cofnodion sy’n nodi eu henw, eu cyfeiriad, eu rhifau cyswllt, manylion y broses o’u recriwtio, eu sefydlu, eu goruchwylio, eu gwerthuso, eu hyfforddiant a’u cymwysterau. 

13.8 (GP) Bod yr wybodaeth ganlynol yn cael ei chadw o ddydd i ddydd: 

  • enwau'r bobl sy'n bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn y cartref tra bydd y plant yn cael eu gwarchod 
  • enw a chyfeiriad y cynorthwywyr (p'un a ydynt yn gyflogedig neu'n wirfoddolwyr mewn rôl â thâl neu ddi-dâl) 
  • oriau gwaith unrhyw gynorthwy-ydd, gan gynnwys unrhyw oriau pan oeddent yn gweithio ar eu pen eu hunain, ac enwau’r plant yr oeddent yn gyfrifol amdanynt yn ystod yr adegau hyn

Safon 13 (GD): person addas (gofal dydd)

Mae’r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Yr holl staff

13.1 (GD) Bod darparwyr gofal dydd, ac unrhyw staff a gyflogir ganddynt, yn addas i ofalu am blant hyd at 12 oed, ac yn meddu ar y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau priodol i ddiwallu anghenion y plant. 

13.2 (GD) Bod y staff yn abl yn feddyliol ac yn gorfforol i ofalu am blant.

13.3 (GD) Bod darparwyr gofal dydd, ac unrhyw staff a gyflogir ganddynt, ac unrhyw unigolion eraill 16 oed neu'n hŷn sy'n byw, yn gweithio (gan gynnwys gwaith gwirfoddol) neu sydd am reswm arall yn bresennol yn y fangre berthnasol, ac sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â’r plant, neu sy'n debygol o wneud hynny, wedi mynd drwy broses wirio sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac yn cynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bod pob archwiliad yn cael ei gwblhau cyn i'r unigolion hyn ddechrau gweithio gyda phlant neu ddod i gysylltiad rheolaidd â nhw heb oruchwyliaeth. 

13.4 (GD) Bod canrannau staff cymwysedig a staff heb gymhwyso yn cael eu cyfrifo ar sail y lleoliad cyfan, yn hytrach nag ar sail ystafell. Yr ystyrir yn ofalus sut caiff staff eu dosrannu ar draws y lleoliad ac ym mhob ystafell i sicrhau diogelwch, lles a datblygiad y plant bob amser, gan gynnwys plant anabl a phlant ag anghenion cymorth ychwanegol. Bod pob ystafell wedi'i staffio ag unigolion sydd â chymwysterau, sgiliau a phrofiad addas.

13.5 (GD) Bod cymarebau oedolion:plant gofynnol yn cael eu gwarchod.   Gellir defnyddio staff ychwanegol, sy'n mynd â nifer y staff yn uwch na'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y cymarebau o ran staffio a chymwysterau lle nodir bod angen cymorth penodol i ddiwallu anghenion unigol plant, neu i wella ansawdd y gofal. 

Y person â chyfrifoldeb

13.6 (GD) Cyn ei benodi, rhaid bod gan berson sydd â chyfrifoldeb (rheolwr): 

13.7 (GD) Mewn lleoliad gofal dydd i blant rhwng 0 a 12 oed, bod gan y person â chyfrifoldeb: 

13.8 (GD) Mewn lleoliad darpariaeth chwarae i blant rhwng 5 a 12 oed, bod gan y person â chyfrifoldeb o leiaf cymhwyster lefel 3 mewn gwaith chwarae a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli).

13.9 (GD) Mewn lleoliad cynllun chwarae yn ystod y gwyliau, bod gan y person â chyfrifoldeb: 

  • O leiaf cymhwyster lefel 3 mewn gwaith chwarae a nodir yn Rhestr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli).
  • O leiaf cymhwyster lefel 3 mewn sector cysylltiedig.
  • Dyfarniad Rheoli Cynllun Chwarae yn ystod y Gwyliau, a nodir yn Rhestr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli).

Staff eraill (Cymwysterau)

13.10 (GD) Ar gyfer gofal sesiynol:

  • Bod gan o leiaf 40% o'r holl "staff eraill" gymhwyster lefel 2 o leiaf o Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru neu Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n eu disodli), sy'n briodol i'r swydd A bod gan o leiaf hanner y rhain gymhwyster lefel 3.
  • Bod o leiaf 10% yn rhagor o’r holl "staff eraill" yn “gweithio tuag at” gymhwyster lefel 2 neu 3.
  • Nad yw mwy na 50% o’r holl staff heb gymhwyso neu’n wirfoddolwyr.

Mewn lleoliadau gofal sesiynol, rhaid i o leiaf 50% o’r holl “staff eraill” fod wedi cymhwyso neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster.

Ystyrir bod aelod o staff yn "gweithio tuag at" gymhwyster os bodlonir yr holl amodau canlynol:

  • Mae’r Person Cofrestredig yn fodlon bod yr unigolyn yn gymwys ac yn
    gyfrifol.
  • Mae tystiolaeth bendant bod yr unigolyn yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 neu 3 (e.e. tystiolaeth o gofrestru ar gwrs perthnasol), a bod amserlen wedi’i chytuno ar gyfer ennill y cymhwyster gofynnol (hyd at 3 blynedd).
  • Mae’r unigolyn wedi cwblhau hyfforddiant sefydlu sy’n berthnasol i’w rôl, gan gynnwys Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru neu mae wrthi’n ymgymryd â hyfforddiant o’r fath.
  • Mae’r unigolyn yn gweithio ochr yn ochr â staff sy’n gymwys i’r lefel ofynnol.

13.11 (GD) Ar gyfer gofal dydd llawn:

  • Bod gan o leiaf 60% o’r “staff eraill” gymhwyster lefel 2 o leiaf o Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru A bod gan o leiaf hanner y rhain gymhwyster ar lefel 3. (Ar gyfer lleoliadau gofal dydd llawn i blant rhwng 0 a 12 oed, gall fod gofyn i staff fod â chymhwyster a gydnabyddir ar Restr Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru o Gymwysterau Gofynnol (neu unrhyw restr sy'n ei disodli), sy’n briodol i’r swydd.
  • Bod o leiaf 20% yn rhagor o’r holl “staff eraill” yn “gweithio tuag at” gymhwyster lefel 2 neu 3.
  • Nad yw mwy na 20% o’r holl staff heb gymhwyso neu’n wirfoddolwyr.

Mewn lleoliadau gofal dydd llawn, rhaid i o leiaf 80% o’r holl “staff eraill” fod wedi cymhwyso neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster.

Ystyrir bod aelod o staff yn "gweithio tuag at" gymhwyster os bodlonir yr holl amodau canlynol:

  • Mae’r Person Cofrestredig yn fodlon bod yr unigolyn yn gymwys ac yn
    gyfrifol.
  • Mae tystiolaeth bendant bod yr unigolyn yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 neu 3 (e.e. tystiolaeth o gofrestru ar gwrs perthnasol), a bod amserlen wedi’i chytuno ar gyfer ennill y cymhwyster gofynnol (hyd at 3 blynedd).
  • Mae'r unigolyn wedi cwblhau hyfforddiant sefydlu sy'n berthnasol i'w rôl, gan gynnwys Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant neu mae wrthi'n ymgymryd â hyfforddiant o'r fath.
  • Mae’r unigolyn yn gweithio ochr yn ochr â staff sy’n gymwys i’r lefel 
    ofynnol.

Mae Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru yn disgrifio pa gymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol leoliadau gofal plant a staff yn y lleoliadau hyn. 

Mae Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru wedi datblygu siart lif sy'n disgrifio pa gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer gwaith chwarae mewn gwahanol leoliadau, a staff yn y lleoliadau hyn.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, er enghraifft, peidio â chyfrif y Person(au) â Chyfrifoldeb: 

Os oes 14 aelod o staff mewn lleoliad:

  • Bydd angen cymhwyster lefel 2 o leiaf ar 60% o leiaf o’r rhain, yn yr enghraifft hon, 9 aelod staff; a byddai angen i o leiaf hanner y rhain fod â chymhwyster lefel 3 o leiaf, yn yr enghraifft hon, 5 aelod staff.
  • Rhaid i o leiaf 20% o’r holl staff fod yn “gweithio tuag at” gymhwyster lefel 2 neu 3, gan eu cynnwys yng nghymarebau cymwysterau staff, yn yr enghraifft hon, 3 aelod staff 
  • Gwirfoddolwyr neu weithwyr dan hyfforddiant fydd y 2 aelod staff arall, gyda thâl neu’n ddi-dâl.
  • Bydd lleoliadau yn talgrynnu i’r nifer o staff cyfan agosaf.

13.12 (GD) Mewn lleoliadau sy’n gofalu am blant o dan 2 oed:

  • Bod y staff sy'n gofalu am fabanod yn gymwys i wneud hynny.
  • Bod o leiaf hanner y staff sy'n gofalu am fabanod wedi cael hyfforddiant yn y maes penodol hwn.
  • Bod gan y person sydd â chyfrifoldeb am yr ystafell fabanod o leiaf ddwy flynedd o brofiad o weithio gyda phlant o dan 2 oed.
  • Bod y trefniadau staffio'n lleihau nifer yr unigolion sy’n ymwneud â phlentyn unigol (gweler safon 8.6).

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 14: trefniadaeth

Llais y plentyn

Dw i bob amser yn gwybod pwy sy'n gofalu amdana i a beth sy'n digwydd.

Deilliant lles

Y cyfrennir at les y plant drwy wasanaeth sydd wedi'i drefnu'n dda, lle mae nifer yr oedolion yn diwallu eu hanghenion yn unol â'r gofynion.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

14.1 Bod cynllun gweithredol yn cael ei ddatblygu a'i adolygu'n rheolaidd. Rhaid sicrhau bod y cynllun hwn ar gael i rieni. Nod y cynllun yw sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynllunio a'i drefnu'n dda a'i gwneud yn bosibl trefnu'r ddarpariaeth mewn ffordd mor hyblyg â phosibl gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael ac anghenion y plant a'r teuluoedd. Bydd cynnwys y cynllun yn amrywio yn dibynnu ar y math o ddarpariaeth, ond gallai gynnwys:

  • manylion y strwythur cyfundrefnol
  • cyfrifoldebau rheolwyr llinell
  • strwythur staffio sy’n nodi cyfrifoldebau arwain a rheoli
  • manylion y fangre a'r cyfleusterau a sut y cânt eu defnyddio
  • cynlluniau hyfforddi
  • gwybodaeth am ddatblygiad y gwasanaeth
  • cynlluniau gweithredu

14.2 Bod staff yn cael eu defnyddio'n effeithiol o fewn y ddarpariaeth i sicrhau diogelwch, lles a datblygiad plant.

14.3 Bod yna ddirprwy penodedig sy'n gallu cymryd cyfrifoldeb yn absenoldeb y person â chyfrifoldeb. Nid yw hyn yn berthnasol i warchodwyr plant.

14.4 Y gofelir am blant o dan 2 oed mewn grwpiau o ddim mwy na 12. Fel arall, rhaid sicrhau na fydd mwy na 26 o blant mewn grŵp. Gall darpariaeth gynnwys mwy nag un grŵp. Er mai grwpiau allweddol llai gyda staff cyson ddylai fod yn norm, gellir annog plant a staff i symud rhwng grwpiau yn y lleoliad yn ystod y dydd, er mwyn darparu profiad cyfoethocach i'r plant.

14.5 Bod pob plentyn yn cael ei ddyrannu i aelod o staff, a bydd yr unigolyn hwnnw yn weithiwr allweddol i'r plentyn. Y gweithiwr allweddol sy'n bennaf gyfrifol am ei les bob dydd, ac sy'n sicrhau bod gwybodaeth am y plentyn yn cael ei rhannu â'r rhiant.

14.6 Bod plant yn cael y cyfle i ryngweithio â'r oedolion sy'n gofalu amdanynt. Rhaid i staff fynd ati i geisio datblygu perthynas dda â'r plant a rhoi cyfle i grwpiau bach o blant ryngweithio a chwarae gyda'i gilydd.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 15: cymarebau staffio

Llais y plentyn

Mae yna ddigon o bobl bob amser i ofalu amdana i a fy ffrindiau.

Deilliant lles

Bod plant yn derbyn gofal cyfoethog ac ystyrlon a chyfleoedd chwarae oherwydd bod y lefelau staffio yn diwallu eu hanghenion.

Mae'r person cofrestredig ym mhob darpariaeth gwarchod plant a gofal dydd a reoleiddir yn gyfrifol am sicrhau:

15.1 Bod y gymhareb oedolion:plant ofynnol yn cael ei bodloni.

15.2 Nad yw unrhyw ofal a ddarperir ar gyfer plant dros 12 oed yn cael effaith andwyol ar y gofal a ddarperir ar gyfer plant hyd at 12 oed, ac fel arall.

15.3 Na chynhwysir myfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliadau hyfforddi o 12 wythnos neu lai yn y gymhareb oedolion:plant.

Gweithgareddau arbenigol 

15.4 Bod darpariaeth gofal dydd sy'n cynnig gweithgareddau arbenigol yn cynnal a chadw gweithdrefnau ysgrifenedig ar gyfer pob rhaglen o weithgareddau arbenigol. Rhaid i'r gweithdrefnau hyn:

  • fod yn briodol i'r safle a lefel y gweithgareddau a gynhelir
  • diffinio'r cymwyseddau, y cymwysterau a/neu'r profiad sy'n ofynnol gan y staff sy'n ymgymryd â gwahanol lefelau o gyfrifoldeb
  • bod yn gyson â Chanllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, lle bo'n briodol; Canllawiau Pwyllgor Cynghori Canolfannau Gweithgareddau, lle maent wedi'u sefydlu; a Chanllawiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, lle maent yn berthnasol o ran cynnal y gweithgareddau yn ddiogel ar y lefel yr ymgymerir â hi

15.5 Bod gan bob aelod o staff sy'n gyfrifol am reoli gweithgaredd y cymwyseddau, y cymwysterau a'r profiad y mae eu hangen i wneud hynny. Mae angen trwydded weithgareddau os yw hynny'n berthnasol.

Safon 15: cymarebau staffio (gwarchodwr plant)

15.1 (GP) Wrth benderfynu ar nifer y plant y bydd gwarchodwr plant yn cynnig gofal iddynt, mai anghenion gofal a lles y plant yw'r brif ystyriaeth, fel yr amlinellir yn safon 4 - diwallu anghenion unigol.

Y nifer fwyaf o blant y caiff gwarchodwr plant ofalu amdanynt yw: 

  • 10 o blant hyd at 12 oed
  • o'r 10 plentyn hynny, dim mwy na chwech o dan 8 oed
  • o'r chwe phlentyn hynny, dim mwy na phedwar o dan 5 oed
  • o'r pedwar plentyn hynny, dim mwy na thri o dan 2 oed
  • o'r tri phlentyn hynny, fel rheol ni chaiff mwy na dau fod o dan 18 mis oed, er y gall Arolygiaeth Gofal Cymru gytuno ar eithriad yn achos gefeilliaid neu dripledi 

15.2 (GP) Caiff plant sydd i fod i ddechrau addysg statudol amser llawn (blwyddyn dderbyn) ym mis Medi gael eu categoreiddio fel plant dros bump oed yn ystod gwyliau'r haf yn union cyn hyn at ddibenion y cymarebau sy'n berthnasol i warchodwyr plant. Rhaid mai anghenion, gofal a lles y plant yw'r brif ystyriaeth o hyd.

15.3 (GP) Gellir ystyried bod plant 3 a 5 oed sy'n mynychu addysg feithrin, neu gyfuniad o addysg feithrin a gofal plant cofleidiol am 5 awr neu fwy mewn lleoliad arall fel plant dros 5 oed at ddibenion cymarebau gwarchodwyr plant. Rhaid mai anghenion, gofal a lles y plant yw'r brif ystyriaeth o hyd.

15.4 (GP) Mae’r cymarebau yn cynnwys unrhyw blant o dan 12 oed yn y fangre, gan gynnwys plant y gwarchodwr ei hun, ac unrhyw rai eraill y mae’n gyfrifol amdanynt.

15.5 (GP) Os bydd gwarchodwr plant yn cyflogi cynorthwy-ydd, bydd yr un gymhareb oedolion:plant yn berthnasol i’r cynorthwy-ydd, o ran unrhyw blant ychwanegol. Fodd bynnag, gallai'r lle sydd ar gael i blant yn y fangre hefyd effeithio ar nifer y plant y gellir cofrestru'r ddarpariaeth ar eu cyfer.

Safon 15: cymarebau staffio (gofal dydd)

15.1(GD) Mewn gofal dydd, y dilynir y gymhareb staffio ofynnol ganlynol: 

  • Un oedolyn: tri phlentyn o dan 2 oed. 
  • Un oedolyn: pedwar plentyn 2 oed. 
  • Un oedolyn: wyth plentyn 3 a 7 oed. 
  • Un oedolyn: deg plentyn 8 a 12 oed. 

Mae'r cymarebau hyn yn cynnwys unrhyw blant i staff neu wirfoddolwyr ac yn berthnasol i unrhyw weithgarwch, er enghraifft hebrwng a chludo plant. Ceir ystyried gwirfoddolwyr rheolaidd yn y cymarebau staffio arferol.

15.2 (GD) Bod o leiaf ddau aelod o staff ar ddyletswydd bob amser.

15.3 (GD) Bod y lefelau staffio'n cael eu cynnal yn ystod tripiau, ac o dan rai amgylchiadau efallai y bydd angen mwy o staff na hynny. Bod gan staff sy'n goruchwylio plant yn ystod tripiau gymhwyster lefel 3.

15.4 (GD) Bod trefniadau addas wrth gefn wedi'u sefydlu ar gyfer argyfyngau neu pan fydd staff yn absennol yn ddirybudd. Bod digon o staff a gwirfoddolwyr addas ar gael i ystyried egwyliau, gwyliau, hyfforddiant a salwch staff, ac amser y byddant yn ei dreulio gyda rhieni.

15.5 (GD) Bod y gymhareb oedolion:plant yn ymwneud â'r amser sydd gan staff i weithio'n uniongyrchol gyda phlant:

  • Bydd angen staff ac adnoddau rheoli ychwanegol i wneud gwaith rheoli, gan gynnwys, er enghraifft, ymgysylltu â rhieni a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal plant, goruchwylio staff a gofynion rheoliadol, os yw’n effeithio ar y gymhareb ofynnol. 
  • Bydd angen staff ac adnoddau ychwanegol i baratoi prydau bwyd neu fyrbrydau, gwneud gwaith domestig a chynnal a chadw’r mangreoedd a’r cyfarpar os yw'n effeithio ar y gymhareb ofynnol. 

15.6 (GD) Os yw natur y lleoliad gofal dydd yn golygu bod y nifer yn newid (ee yn achos crèche neu ddarpariaeth galw heibio arall), bod digon o staff ar gael i sicrhau bod unrhyw grŵp o blant, sy'n newid yn gyson, yn ddiogel a bod y plant yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt i ymgartrefu. Ceir ystyried gwirfoddolwyr a hyfforddeion rheolaidd yn y cymarebau staffio arferol.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help

Mae Cwlwm yn gonsortiwm o bum partner gofal plant a gwaith chwarae. Mae'n cynnig templedi, gwybodaeth ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho i helpu'r broses o weithredu lleoliadau gwaith chwarae neu ofal plant blynyddoedd cynnar dwyieithog.

Gofal plant Dechrau’n Deg: canllawiau.

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 16: Cyfle cyfartal

Llais y Plentyn

Mae pawb yn cael eu trin yn deg, a galla i ymuno, pwy bynnag ydw i.

Deilliant Lles

Bod pob plentyn yn profi tegwch, ac yn cael eu cynnwys a'u parchu, gan leihau'r rhwystrau, fel y gall pawb gymryd rhan yn llawn.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

16.1 Bod cyfle cyfartal ac arferion nad ydynt yn gwahaniaethu rhwng unigolion yn cael eu hyrwyddo yn y lleoliad.

16.2 Bod polisi cyfle cyfartal wedi'i sefydlu, sy'n gyson â'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau presennol, a'i fod yn cael ei adolygu'n rheolaidd. Bod yr holl staff a gwirfoddolwyr yn deall ac yn gweithredu'r polisi hwn, a'i fod ar gael i rieni. 

16.3 Bod pob plentyn ac oedolyn yn cael eu trin â'r un gofal a bod y person cofrestredig yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r arferion perthnasol o beidio gwahaniaethu ym mhob maes, megis cyflogaeth, hyfforddiant, derbyn plant i ofal dydd a mynediad at yr adnoddau, y gweithgareddau a'r cyfleusterau sydd ar gael.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 17: Gweithdrefnau ariannol

Llais y Plentyn

Mae fy nheulu yn gwybod bod fy lleoliad yn cael ei redeg yn iawn ac fy mod i'n cael gofal da.

Deilliant Lles

Bod plant yn profi parhad a sefydlogrwydd oherwydd bod y lleoliad yn cael ei reoli'n dda.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

17.1 Bod gweithdrefnau ariannol effeithiol yn cael eu gweithredu.

17.2 Bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol wedi'i drefnu, yn ogystal ag yswiriant ar gyfer unrhyw gerbydau a gyrwyr a ddefnyddir. 

17.3 Bod cofnodion yr holl drafodion ariannol a'r yswiriant mewn perthynas â'r gofal a ddarperir i blant perthnasol ar gael i Arolygiaeth Gofal Cymru ar gais.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 18: Ansawdd

Llais y Plentyn

Mae'r bobl sy'n gofalu amdana i yn gwrando arna i a'm teulu, ac maen nhw bob amser yn ceisio bod cystal ag y gallant fod.

Deilliant Lles

Bod y babanod a'r plant a'u rhieni yn elwa ar wasanaeth o safon sy'n cael ei fonitro'n effeithiol.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

18.1 Bod systemau a phrosesau effeithiol yn cael eu defnyddio i fonitro, adolygu a gwella ansawdd pob agwedd ar y gwasanaeth a ddarperir yn barhaus, mewn ffordd sy’n bodloni gofynion Rheoliad 16: Adolygu Ansawdd y Gofal.

18.2 Y gofynnir am farn y plant a'u rhieni, staff ac ymarferwyr/gweithwyr proffesiynol eraill yn rheolaidd ynghylch pa welliannau y gellid eu gwneud, ac y rhoddir ystyriaeth i’r farn honno. Bod hyn yn cael ei ymgorffori fel rhan o’r prosesau i fesur llwyddiant y gwasanaeth.

18.3 Yn dilyn Adolygiad o Ansawdd y Gofal, eu bod, o fewn 28 diwrnod, yn paratoi adroddiad ar yr adolygiad hwnnw, ac yn sicrhau bod copi o'r adroddiad hwnnw ar gael mewn fformat priodol pan ofynnir amdano i rieni/gofalwyr, yr awdurdod lleol sy'n trefnu darpariaeth gwarchod plant neu ofal dydd ar gyfer plentyn penodol, staff a Gweinidogion Cymru. Rhaid gwneud hyn o leiaf unwaith y flwyddyn.

18.4 Bod yr Adolygiad o Ansawdd y Gofal yn cynrychioli cylch gwella parhaus ac yn rhan o ddiwylliant o wella ansawdd. Mae hyn yn golygu defnyddio adnoddau a dulliau yn systematig megis: Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ac adnoddau cysylltiedig); fframwaith hunanasesu a sicrhau ansawdd Chwarae o Safon; neu gynlluniau ansawdd, adnoddau gwella a chanllawiau arfer da a gymeradwywyd gan y sector. 

18.5 Bod cyngor ac argymhellion Arolygiaeth Gofal Cymru ac unrhyw gyrff proffesiynol y mae’r lleoliadau yn gysylltiedig â nhw yn cael eu hystyried.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 19: Cwynion

Llais y Plentyn

Os nad yw rhywbeth yn iawn, bydd pawb yn gwrando ac yn helpu i ddatrys y peth.

Deilliant Lles

Bod y plant a’u rhieni yn hyderus y bydd rhywun yn gwrando ar eu safbwyntiau a'u cwynion, yn eu cymryd o ddifrif ac yn gweithredu arnynt yn brydlon.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

19.1 Bod gweithdrefn gwyno ysgrifenedig syml ac eglur, sy’n hwylus i’w defnyddio ac sy'n cydymffurfio â'r Rheoliadau, ar waith. Dylai’r weithdrefn gwyno roi gwybodaeth am sut i gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru (gan gynnwys enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa berthnasol AGC). 

19.2 Yr ymdrinnir â phob cwyn mewn modd sensitif ac yn gyfrinachol.

19.3 Bod cwynion yn cael eu hystyried, ac os yw'n bosibl, yr ymchwilir iddynt, ac y cânt eu datrys yn lleol.

19.4 Bod yr achwynydd yn cael gwybod, ar ddu a gwyn, am ganlyniad yr ymchwiliad o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn y gŵyn. Gyda chytundeb yr achwynydd, ceir estyn y cyfnod ar gyfer datrys y gŵyn hyd at 14 diwrnod ychwanegol os oes angen.

19.5 Bod cofnod ysgrifenedig cywir a manwl o bob cwyn yn cael ei gadw, gan gynnwys yr wybodaeth ganlynol: 

  • enw'r achwynydd
  • natur y gŵyn
  • dyddiad ac amser y gŵyn
  • y camau a gymerwyd mewn ymateb i'r gŵyn
  • canlyniad yr ymchwiliad i'r gŵyn
  • yr wybodaeth a roddwyd i'r achwynydd, gan gynnwys dyddiad yr ymateb

19.6 Bod achwynwyr yn cael gwybod bod ganddynt ar unrhyw adeg hawl i gwyno wrth yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am drefnu’r ddarpariaeth gwarchod plant neu’r gofal dydd ar gyfer plentyn penodol. Rhaid rhoi gwybod hefyd bod hawl ar unrhyw adeg i gwyno wrth Arolygiaeth Gofal Cymru. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 20: Diogelu

Llais y Plentyn

Mae'r bobl sy'n gofalu amdana i yn gwneud yn siŵr fy mod i'n ddiogel.

Deilliant Lles

Bod plant yn cael eu diogelu rhag niwed, cam-drin ac esgeulustod.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

20.1 Mai diogelu’r plentyn yw'r flaenoriaeth gyntaf; bod hyn yn gyfrifoldeb i bawb.

20.2 Bod polisi ysgrifenedig ar ddiogelu plant wedi'i sefydlu. Rhaid i'r polisi ddilyn Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pob unigolyn, grŵp a sefydliad sy'n darparu gweithgareddau i blant ac oedolion yng Nghymru. Dylai pob sefydliad hefyd ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Wrth lunio'r polisi hwn, rhaid i'r person cofrestredig hefyd fod yn gyfarwydd â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar ddiogelu plant o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

20.3 Bod y polisi diogelu plant yn cael ei rannu â rhieni cyn i blentyn gael ei dderbyn, a'i fod yn nodi'n glir gyfrifoldebau staff i roi gwybod am unrhyw niwed, cam-drin neu esgeulustod a amheuir. Rhaid sicrhau bod y polisi yn cynnwys enwau a rhifau ffôn cyswllt, y gweithdrefnau i'w dilyn os gwneir honiad yn erbyn aelod o staff neu wirfoddolwr a goblygiadau datgelu gwybodaeth.

20.4 Bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant diogelu sy’n berthnasol i’w rôl. Bod aelod dynodedig o staff wedi dilyn cyrsiau hyfforddi diogelu ac yn gyfrifol am gysylltu â gwasanaethau statudol fel gwasanaethau cymdeithasol mewn unrhyw sefyllfa diogelu plant.

20.5 Bod pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant addas ar gyfer eu rôl. Mae Atodiad C, Canllawiau Diogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol: Rolau a Chyfrifoldebau yn manylu ar y mathau o rolau a geir ym maes gofal plant a gwaith chwarae, a’r hyfforddiant diogelu sy’n briodol i wahanol rolau o fewn y sector. 

20.6 Bod unrhyw bersonau sy'n gweithio gyda phlant ac sy'n gofalu am blant yn gallu rhoi'r polisi ar waith, ac yn ymwybodol o faterion diogelu, fel y'u nodir yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru, gan gynnwys cam-drin corfforol (sydd yn ei dro yn cynnwys cosbi corfforol), esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol, ac yn cael eu hystyried yn gymwys i weithredu'r gweithdrefnau.

20.7 Bod staff yn ymwybodol o'u cyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon am ddiogelwch neu les plentyn yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ddi-oed. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 21: Hysbysu am ddigwyddiadau pwysig

Llais y Plentyn

Os oes rhywbeth pwysig yn digwydd, mae'r bobl yn fy lleoliad yn dweud wrth fy nheulu a'r bobl sy'n gwirio fy lleoliad. Mae pawb wedyn yn gwybod beth sy'n digwydd ac mae'n helpu i fy nghadw i'n ddiogel. 

Deilliant Lles

Bod plant yn cael eu diogelu drwy roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol yn brydlon am ddigwyddiadau pwysig neu newidiadau i'r sefydliad. 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Achosion sy'n codi

21.1 Bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am y pethau canlynol yn syth, yn unol â’r rheoliadau (Rheoliad 31, Atodlen 4), mewn perthynas â digwyddiadau pwysig:

  • Achos yn y fangre berthnasol o unrhyw glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw feddyg cofrestredig sy'n ymweld â phlentyn neu rywun arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i roi gwybod amdano, neu o unrhyw anaf difrifol, salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre.
  • Unrhyw honiad o anaf difrifol y mae unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre, wedi'i achosi i blentyn, neu o unrhyw gamdriniaeth yr honnir ei bod wedi digwydd yn y fangre.
  • Unrhyw ddigwyddiad arall sy'n debygol o effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre i ddod i gysylltiad rheolaidd â phlant.
  • Unrhyw ddigwyddiad pwysig arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre.

Achosion gweinyddol

21.2 Bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn cael gwybod am y pethau canlynol yn syth, yn unol â’r rheoliadau (Rheoliad 31, Atodlen 4):

Yn achos gwarchod plant: 

  • Enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref unrhyw berson newydd sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol neu unrhyw berson newydd sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre honno.

Unrhyw newid yn y math o ofal a ddarperir gan berson cofrestredig neu yn yr oriau y darperir gofal ynddynt. 

Yn achos gofal dydd:

  • Enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref unrhyw berson newydd â chyfrifoldeb, unrhyw un newydd sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, unrhyw un newydd sy'n byw yn y fangre honno, neu unrhyw un newydd sy'n gweithio ar yr un pryd ag y gofelir am y plant neu yn yr un rhan o'r fangre.
  • Os darperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, enw llawn, ac enwau blaenorol neu enwau eraill, dyddiad geni a chyfeiriad cartref Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd newydd, neu rywun arall newydd sydd â swydd debyg yn y sefydliad.
  • Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu unrhyw un o'r unigolion a ddisgrifir uchod.
  • Unrhyw newid yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, os mai sefydliad yw'r person cofrestredig.
  • Unrhyw newid yn y cyfleusterau a gaiff eu defnyddio yn y fangre berthnasol, gan gynnwys newidiadau o ran nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân i weithwyr sy'n oedolion a'r cyfleusterau parcio ceir.

Yn achos gwarchod plant a gofal dydd:

21.3 Os oes newidiadau i'r oriau gweithredu fel y'u darparwyd i Arolygiaeth Gofal Cymru neu os yw'r gwasanaeth wedi'i gau'n barhaol. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 22: Yr amgylchedd

Llais y Plentyn

Mae pobl yn gofalu amdana i mewn lle sy'n berffaith i mi.

Deilliant Lles

Bod plant yn cael mynediad at amgylcheddau diogel, sy'n eu symbylu, dan do ac yn yr awyr agored, gan eu cefnogi i archwilio, symud, bod yn greadigol a chwarae.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

22.1 Bod y lleoliad yn groesawgar ac yn gyfeillgar i'r plant a'r rhieni a'i fod yn darparu amgylchedd cyfoethog ar gyfer chwarae. 

22.2 Bod yr amgylchedd ffisegol yn ddiogel ac yn addas i'r diben. Bod y ddarpariaeth yn rhoi digon o le, mewn lleoliad priodol, ei fod yn groesawgar i'r plant, ac yn eu galluogi i gael gafael ar y cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau sy'n hyrwyddo'u datblygiad.

22.3 Bod unrhyw fangreoedd dan do sy'n rhan o'r ddarpariaeth yn lân, wedi'u goleuo'n dda â golau naturiol digonol, wedi'u hawyru'n ddigonol, wedi'u cynnal a'u cadw mewn cyflwr da ac wedi'u haddurno'n briodol. 

22.4 Bod ffôn ar gael. 

22.5 Bod tymheredd ystafelloedd yn cael ei gynnal ar o leiaf 18 gradd Celsius (65 gradd Fahrenheit). 

22.6 Bod y mannau chwarae yn ddigon mawr i roi lle i'r plant symud yn rhydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau. 

22.7 Nad yw'r plant yn cael mynd i'r gegin oni bai ei bod yn cael ei defnyddio’n unswydd ar gyfer gweithgaredd plant dan oruchwyliaeth. 

22.8 Bod y gegin yn cydymffurfio â'r rheoliadau o ran iechyd amgylcheddol a diogelwch bwyd.

22.9 Fel rheol, y darperir man chwarae awyr agored sy'n gysylltiedig â'r fangre. Rhaid iddo fod yn ddiogel ac wedi'i gynnal a'i gadw'n dda, a rhaid mai dim ond y plant sy'n ei ddefnyddio pan fydd y ddarpariaeth ar waith. Mewn sefyllfa eithriadol, os nad oes modd darparu man chwarae awyr agored, yr eir â'r plant yn ddiogel i barciau neu feysydd chwarae lleol, neu rywle tebyg, yn rheolaidd. 

22.10 Y gwneir trefniadau, lle bo angen, i sicrhau bod cyflenwad digonol o ddillad gwely glân, tyweli, dillad sbâr ac unrhyw lieiniau eraill ar gael bob amser. 

Safon 22: Yr amgylchedd (Gwarchodwr Plant)

22.1(GP) Bod y lle canlynol, o leiaf, ar gael i bob plentyn yn y man chwarae dan do: 

  • o dan 2 oed a 3.5 metr sgwâr
  • 2 i 7 oed a 2.5 metr sgwâr
  • 8 i 12 oed a 2.3 metr sgwâr

22.2(GP) Wrth gyfrifo’r lle sydd ei angen ar gyfer pob grŵp oedran, gellir dynodi nifer o ystafelloedd i’w defnyddio yn y fangre (ac eithrio’r toiledau).

Safon 22: Yr amgylchedd (Gofal Dydd)

22.1(GD) Mai dim ond y gwasanaeth dan sylw sy'n cael defnyddio'r fangre lle mae gofal dydd yn cael ei ddarparu yn ystod yr oriau gweithredu.

22.2(GD) Bod y lle canlynol, o leiaf, ar gael i bob plentyn yn y man chwarae dan do mewn gofal dydd: 

  • o dan 2 oed a 3.7 metr sgwâr 
  • 2 oed a 2.8 metr sgwâr
  • 3 i 12 oed a 2.3 metr sgwâr

22.3(GD) Wrth gyfrifo’r lle sydd ei angen ar gyfer pob grŵp oedran, gellir dynodi nifer o ystafelloedd i’w defnyddio yn y fangre. Fodd bynnag, rhaid eithrio’r toiledau, storfeydd, tramwyfeydd, ardaloedd penodol i’r staff, ardaloedd cotiau, ystafelloedd aml-bwrpas, a cheginoedd. 

22.4(GD) Bod y cynllun gweithredol yn nodi'n glir sut y caiff y man chwarae dan do ei rannu a'i ddefnyddio i ddarparu gweithgareddau ar gyfer grwpiau o blant, a sut y caiff staff eu defnyddio ynddo. Mae disgwyl y bydd angen i'r trefniadau hyn fod yn hyblyg ac y byddant yn amrywio yn ôl y gweithgaredd ac anghenion y grŵp y gofelir amdano.

22.5(GD) Os darperir gofal dydd ar gyfer babanod a phlant bach mewn mangre annomestig:

  • bod ystafell ar wahân ar gael i blant o dan 2 oed. Fodd bynnag, dylent allu cael cysylltiad â phlant hŷn, a dylid cynnwys manylion y ffordd y cyflawnir hyn yn y cynllun gweithredol a dylai Arolygiaeth Gofal Cymru gytuno arnynt
  • y darperir cyfleusterau newid cewynnau, sy'n bodloni safonau iechyd yr amgylchedd; ac y darperir mannau tawel er mwyn hwyluso patrymau cysgu unigol

22.6(GD) Lle darperir gofal mewn lleoliadau dan do, y darperir o leiaf un toiled addas i’w ddefnyddio gan y plant y gofelir amdanynt ac un basn ymolchi gyda dŵr poeth a dŵr oer ar gael i bob 10 plentyn dros ddwy flwydd oed. Dylid darparu tyweli papur neu dyweli unigol ar gyfer pob plentyn. Rhaid i’r toiledau roi preifatrwydd i’r plant a bod yn briodol ar gyfer eu hoedran.

22.7(GD) Mewn lleoliadau gofal dydd, bod toiledau ar wahân ar gael i oedolion. Dylai fod gan staff ystafell neu fan i gael seibiant ar wahân i'r mannau y mae'r plant yn eu defnyddio.

22.8(GD) Mewn lleoliadau gofal dydd sydd â mangre adeiledig, bod cegin â chyfarpar digonol i ddarparu prydau a byrbrydau i'r plant a'r staff yn y fangre. Os nad yw hyn ar gael, bod y person cofrestredig yn dangos sut y gwneir trefniadau digonol i ddarparu bwyd a diod i'r plant a'r staff.

22.9(GD) Bod man ar wahân ar gael i'r plant sydd am ymlacio, chwarae yn dawel neu gysgu. Rhaid sicrhau bod dodrefn priodol ar gael yn y man hwn. Ceir trawsnewid man chwarae arferol i’r diben hwn, ond rhaid bod y plant yn cael gorffwys yn ddiogel ynddo heb aflonyddu arnynt. 

22.10(GD) Bod man digonol ar gael ar gyfer storio cyfarpar. 

22.11(GD) Bod man ar gael lle y gellir cadw gwybodaeth gyfrinachol a chofnodion angenrheidiol yn ddiogel a lle y gall staff siarad â rhieni yn breifat. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 23: Cyfarpar

Llais y plentyn

Mae gen i deganau a phethau i chwarae gyda nhw sy'n hwyl, yn ddiogel, ac yn fy helpu i ddysgu.

Deilliant lles

Bod plant yn mwynhau adnoddau penagored, diddorol sy'n ysbrydoli chwarae, dychymyg ac arbrofi. 

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

23.1 Bod dodrefn, cyfarpar a theganau yn cael eu darparu sy'n briodol i'r diben ac sy'n helpu i greu amgylchedd hygyrch sy'n ysgogi'r plant. Eu bod o ddyluniad a chyflwr addas, yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac yn cydymffurfio â safonau diogelwch Prydeinig ac Ewropeaidd neu ofynion Rheoliadau Teganau (Diogelwch) perthnasol lle bo'n gymwys.

23.2 Bod digon o deganau a deunyddiau chwarae addas ar gael er mwyn darparu gweithgareddau sy’n ysgogi’r plant a chyfleoedd chwarae ym mhob maes chwarae, dysgu a datblygu. Rhaid i'r rhain fod yn briodol ar gyfer oedrannau ac anghenion datblygu unigol y plant sy'n mynychu, a rhaid iddynt hyrwyddo eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol a chyfleoedd cyfartal.

23.3 Os defnyddir meysydd chwarae cyhoeddus heb oruchwyliaeth, nad yw'r plant yn defnyddio cyfarpar diffygiol.

23.4 Os darperir lle y tu mewn i adeilad, bod digon o gadeiriau a byrddau o faint plentyn ar gael er mwyn gallu gwneud trefniadau hyblyg i grwpiau o blant chwarae a bwyta gyda'i gilydd.

23.5 Bod cyfarpar digonol ar gael ar gyfer gweithgareddau awyr agored a chwaraeon os yw'n berthnasol.

23.6 Bod digon o offer achub bywyd a chymorth hynofedd ar gael pan gynhelir chwaraeon dŵr.

23.7 Os gofelir am fabanod a phlant eraill o dan 2 oed:

  • bod y gweithgareddau, y teganau a'r cyfarpar yn briodol i oedran y plentyn ac yn rhoi cyfleoedd a phrofiadau synhwyraidd amrywiol y tu mewn a'r tu allan.
  • y darperir rhai dodrefn domestig i helpu'r plant i ddysgu symud ac i barhau â phrofiadau bywyd arferol.
  • bod cotiau neu ddodrefn priodol eraill yn cael eu darparu er mwyn i'r plant gael gorffwys neu gysgu.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 24: Diogelwch

Llais y plentyn

Dw i'n cael fy nghadw'n ddiogel, ac mae pawb ar eu gwyliadwriaeth am beryglon fel nad ydw i'n cael fy niweidio.

Deilliant lles

Bod plant yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus i archwilio oherwydd bod risgiau yn cael eu rheoli'n feddylgar, gan eu galluogi i fynd i'r afael â heriau yn ddiogel.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Hyrwyddo Diogelwch a Rheoli Risgiau

24.1 Bod diogelwch yn cael ei hyrwyddo yn y lleoliad ac ar dripiau, ac y cymerir y camau priodol i osgoi damweiniau.

24.2 Bod cyn lleied â phosibl o beryglon i blant yn y fangre, dan do ac yn yr awyr agored. Y cydymffurfir â rheoliadau iechyd a diogelwch, a bod y staff wedi'u hyfforddi i ddeall y gofynion iechyd a diogelwch yn yr amgylchedd y maent yn gweithio ynddo.

24.3 Bod asesiad risg o'r fangre wedi'i gynnal ac yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn, ac os oes unrhyw newidiadau yn y fangre neu o ran anghenion y plant. Rhaid llunio cynllun gweithredu, ynghyd ag amserlenni, er mwyn nodi'r camau i'w cymryd i leihau peryglon penodol a nodwyd yn yr asesiad risg.

24.4 Bod rheoli risg gweithgareddau a chyfleoedd chwarae unigol yn cydbwyso perygl niwed â’r manteision i'r plentyn, er enghraifft, o ran ehangu eu gwybodaeth am y byd a datblygu sgiliau a lles corfforol neu emosiynol.

24.5 Bod y plant yn cael eu goruchwylio bob amser, a bod gofal ychwanegol yn cael ei gymryd yn ystod gweithgareddau a all fod yn weddol beryglus.

24.6 Bod y plant yn cael eu goruchwylio a'u hamddiffyn rhag perygl er mwyn iddynt allu chwarae y tu allan yn ddiogel.

24.7 Bod system wedi'i sefydlu i reoli mynediad i'r fangre a bod cofnod o ymwelwyr yn cael ei gadw.

24.8 Bod y plant yn cael eu rhoi mewn harneisiau diogelwch mewn cadeiriau uchel neu isel os yw hynny'n briodol.

24.9 Bod aelod o staff yn cadw llygad cyson ar fabanod sy'n cysgu. Bod pob person sy'n darparu gofal yn ymwybodol o'r canllawiau ar fabanod sy'n cysgu.

24.10 Bod y fangre, gan gynnwys unrhyw fannau chwarae awyr agored, yn ddiogel, ac nad oes modd i blant o dan 8 oed adael heb oruchwyliaeth. Dim ond o dan drefniadau a gytunir o flaen llaw gyda’r rhieni y caiff plant 8 oed neu’n hŷn adael. 

24.11 Bod pyllau dŵr, draeniau neu unrhyw ddŵr naturiol yn ddiogel neu y tu hwnt i gyrraedd plant.

24.12 Nad oes unrhyw blanhigion gwenwynig neu beryglus y tu mewn lle mae gofal plant yn cael ei ddarparu. Dylai planhigion gwenwynig neu beryglus y tu allan fod y tu hwnt i gyrraedd plant.

24.13 Bod y gwydr sydd wedi'i osod ar unrhyw ddrws yn wydr diogelwch neu ei fod wedi'i orchuddio â ffilm blastig warchod. 

24.14 Bod yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol wedi'i drefnu.

24.15 Bod cyfarpar a sylweddau sy'n gallu bod yn beryglus yn cael eu hangori a/neu eu storio'n ddiogel y tu hwnt i afael y plant.

Risg Tân

24.16 Bod asesiad risg tân cynhwysfawr yn cael ei gynnal yn rheolaidd ar gyfer y fangre, a gynhelir gan berson cymwys (person sydd â'r sgiliau a'r profiad perthnasol i gynnal asesiad risg tân ar gyfer y fangre dan sylw); gweler Dewis aseswr risg tân cymwys. Bod yr asesiad yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn a'i gynnal o'r newydd os oes angen, neu yn dilyn unrhyw newidiadau i'r fangre neu o ran anghenion y plant, a allai newid y risg o dân yn sylweddol.

 24.17 Y cymerir camau digonol i leihau risgiau tân, ac y cydymffurfir ag unrhyw argymhellion gan yr aseswr risg tân neu'r Gwasanaeth Tân ac Achub.

24.18 Lle bo hynny’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth berthnasol, fod cyfarpar a gosodiadau nwy a thrydanol a rhai sy'n llosgi olew a glo, gan gynnwys systemau gwres canolog a thanau, yn cael eu gwirio’n rheolaidd ac yn ffurfiol gan dechnegydd sydd wedi’i gymeradwyo. Dylai cyfarpar o’r fath gydymffurfio â gofynion diogelwch, dylai gael ei warchod yn briodol ac ni ddylai achosi perygl i blant. Rhaid sicrhau bod tystysgrifau priodol yn cael eu cadw a’u bod ar gael i'w harchwilio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

24.19 Bod gweithdrefnau clir, sy'n hysbys i'r holl staff, ar gyfer gwacáu unrhyw fangre mewn argyfwng, ac sy'n cynnwys darpariaeth briodol ar gyfer symud staff neu blant anabl. Rhaid cynnal ymarferion tân o leiaf unwaith bob 6 mis, gan gydnabod bod plant ifanc yn elwa ar ymarferion mwy rheolaidd. Rhaid cadw cofnodion mewn llyfr log ar gyfer tanau, a gaiff eu gwirio gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, a rhaid cael tystysgrifau diogelwch fel y bo angen.

24.20 Bod ffyrdd addas o ddianc i staff a phlant o bob llawr, gan gynnwys staff a phlant anabl.

24.21 Nad yw drysau tân wedi'u rhwystro nac yn cael eu cadw ar agor; a bod allanfeydd tân wedi'u nodi'n glir, yn hawdd eu hagor o'r tu mewn heb allwedd, ac yn arwain at le diogel awyr agored sy'n hygyrch i'r gwasanaethau brys.

24.22 Bod larymau mwg neu wres, sy'n cydymffurfio â safon Brydeinig 5839, ar gael fel y bo angen. Mae hyn yn cynnwys o leiaf un larwm mwg neu wres ar bob llawr, yn y brif ardal ganolog (hy y cyntedd neu ar ben y grisiau). Bod larwm carbon monocsid yn cael ei osod hefyd ym mhob ystafell lle mae dyfais yn llosgi nwy, olew neu danwydd solet. Rhaid archwilio'r rhain mor rheolaidd ag y nodir gan y gwneuthurwr, a'u cadw mewn cyflwr da.

24.23 Os oes cegin yn y fangre a ddefnyddir i goginio bwyd, mai dim ond staff nad oes ganddynt gyfrifoldeb darparu gofal ar y pryd sy'n ei defnyddio. Os caniateir plant i mewn i'r gegin, y cânt eu goruchwylio gan staff nad oes ganddynt gyfrifoldeb coginio bwyd ar y pryd.

24.24 Na chaniateir smygu mewn unrhyw ran dan do o'r fangre, yn yr ardal(oedd) chwarae awyr agored (d)dynodedig, nac mewn unrhyw ardal lle darperir sesiynau gwarchod plant a gofal dydd. Rhaid cadw unrhyw ddeunyddiau smygu a fepio y tu hwnt i gyrraedd plant bob amser. 

24.25 Nad yw canhwyllau yn cael eu defnyddio ar y safle, ac eithrio canhwyllau bach ar gacennau pen-blwydd. 

Cludiant

24.26 Bod gweithdrefn wedi'i sefydlu ar gyfer sicrhau diogelwch yn ystod unrhyw dripiau. Rhaid cadw cofnodion ynglŷn â pha gerbydau a ddefnyddir i gludo plant, gan gynnwys manylion yr yswiriant a rhestr o yrwyr dynodedig.

24.27 Bod gan y gyrwyr sy'n defnyddio eu cerbyd eu hunain drwydded yrru ddilys, trwydded ar gyfer y cerbyd, yr yswiriant priodol, ac os oes angen, dystysgrif MOT gyfredol.

24.28 Bod seddi sy'n briodol i oedran, pwysau a thaldra'r plentyn yn cael eu defnyddio wrth gludo plant mewn cerbyd. 

Safon 24: Diogelwch (Gwarchodwr Plant)

24.1(GP) Bod gwarchodwyr plant yn cydymffurfio â chanllawiau diogelwch tân Llywodraeth Cymru ar gyfer mangreoedd gwarchod plant sy’n rhoi arweiniad ar sut i’w diogelu eu hunain a’r plant yn eu gofal rhag tân. 

Safon 24: Diogelwch (Gofal Dydd)

24.1(GD) Bod pob darparwr mewn mangre annomestig yn cydymffurfio â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 a'r canllawiau statudol diogelwch tân ar gyfer mangreoedd annomestig bach sy'n cyd-fynd â'r gorchymyn hwnnw: Canllawiau i ddiogelu eich eiddo annomestig bach rhag tân.

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o arweiniad a help

Cynulleidfa i trosolwg

Safon 25: Gofal dros nos

Llais y plentyn

Os ydw i'n aros dros nos, mae gen i bopeth sydd ei angen arna i i deimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel, ac mae fy nheulu yn gwybod ble ydw i a phwy sy'n gofalu amdana i.

Deilliant lles

Bod plant sy'n aros dros nos yn teimlo'n ddiogel, yn gyfforddus a'u bod yn cael eu cefnogi'n emosiynol mewn lleoliad sy'n parchu eu harferion a'u hanghenion.

Mae'r person cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau:

Contract 

25.1 Na dderbynnir unrhyw blentyn i'r ddarpariaeth heb i rifau ffôn mewn argyfwng gael eu darparu. Os nad yw'r rhieni ar gael, bod rhywun arall wedi’i enwi i fod ar gael i gasglu'r plentyn os oes angen. 

25.2 Bod y rhiant yn llofnodi contract yn nodi'r holl fanylion perthnasol am y plentyn a'i ofal, gan gynnwys enw'r unigolyn y gellir cysylltu ag ef mewn argyfwng a chadarnhad o gytundeb yr unigolyn hwnnw i gasglu'r plentyn yn ystod y nos os oes angen. 

Gweithio gyda rhieni 

25.3 Yr ymgynghorir â'r rhieni ynghylch yr holl drefniadau sydd wedi'u sefydlu neu a gaiff eu gwneud i'w plentyn dderbyn gofal dros nos. 

25.4 Y gofynnir i'r rhieni am wybodaeth ynglŷn ag arferion cysgu'r plentyn ac unrhyw broblemau a allai godi yn ystod y nos, ee gwlychu gwely, hunllefau ac ati, gan geisio gweithredu mewn ffordd gyson a sensitif. 

Cymarebau staffio 

25.5 Y cynhelir y cymarebau oedolion:plant perthnasol dros nos (gweler Safon Ofynnol Genedlaethol 15). Mewn lleoliadau annomestig, bod o leiaf ddau aelod o staff gofal plant yn y fangre drwy'r amser yn ystod y nos, a bod un o'r rheini yn effro. 

Y fangre 

25.6 Bod y plant yn cysgu mewn man neu ystafell ar wahân, sydd wedi'i gwresogi'n ddigonol.

25.7 Bod pob plentyn sy'n aros dros nos yn cael gwely neu got addas a dillad gwely glân.

25.8 Bod toiledau a basnau ymolchi digonol ar gael i'r plant. Y perchir preifatrwydd y plant hŷn pan fyddant yn cael bath ac yn newid dillad. 

Diogelwch 

25.9 Nad oes unrhyw beryglon iechyd neu ddiogelwch yn y mannau cysgu. 

25.10 Bod larwm mwg wedi’i osod yn y mannau cysgu a gaiff eu defnyddio gan blant, a bod llwybr penodol i ddianc rhag tân (fel rheol drws sy’n arwain at ardal pen grisiau neu gyntedd sy’n arwain yn uniongyrchol at ddrws allanol). 

25.11 Bod systemau diogelwch priodol wedi'u sefydlu er mwyn atal rhywun rhag mynd i mewn i'r fangre heb awdurdod. Ni chaiff neb dros 16 oed aros yn y fangre dros nos oni bai bod gan yr unigolyn hwnnw dystysgrif datgeliad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

Iechyd

25.12 Bod pob man cysgu yn lân ac wedi'i addurno'n dda yn gyffredinol.

Bwyd a diod 

25.13 Bod prydau/bwyd/diodydd iach addas ar gael. Y trafodir y gofynion gyda'r rhieni ymlaen llaw. 

Er mwyn cynorthwyo darparwyr

Amlinellir y prif ofynion rheoliadol sy'n sail i'r Safon hon isod, ac yna'r canllawiau perthnasol. Dylai darparwyr nodi nad yw'r naill restr na'r llall yn hollgynhwysfawr, a bod yn rhaid i ddarparwyr ystyried yr holl Safonau sy'n berthnasol i'w gwasanaeth a'r amgylchiadau dan sylw.

Rheoliadau cysylltiedig

Mwy o Arweiniad a Help

Cynulleidfa i trosolwg

Atodiad A: Canllawiau'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Gwarchodwyr Plant

Rhaid i'r gofynion ychwanegol hyn gael eu bodloni gan warchodwyr plant sy'n gweithio gyda chynorthwy-ydd.

Y diffiniad o gynorthwy-ydd

Gall cynorthwy-ydd gwarchod plant fod yn gyflogai neu'n wirfoddolwr mewn rôl â thâl neu ddi-dâl sy'n gweithio gyda phlant o dan warchodwr plant cofrestredig. Nid yw myfyriwr sydd ar leoliad mewn safle gwarchod plant yn gyfystyr â chynorthwy-ydd gwarchod plant.

Darparu gwybodaeth

Rhaid i warchodwyr plant roi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru am eu bwriad i weithio gyda chynorthwy-ydd i ofalu am blant. Rhaid rhoi’r wybodaeth drwy gyfrif ar-lein y gwarchodwr plant gydag Arolygiaeth Gofal Cymru cyn i'r cynorthwy-ydd ddechrau gweithio gydag ef. 

Datganiad o ddiben

Mae angen rhoi gwybod i rieni am y trefniadau ar gyfer gweithio gyda chynorthwy-ydd. Rhaid i’r Datganiad o Ddiben gyfeirio at hyn, gan gynnwys:

  • Cadarnhad nad yw'r cynorthwy-ydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a bod y gwarchodwr plant yn gyfrifol am sicrhau ei addasrwydd ar gyfer y rôl. 
  • Manylion am y cynorthwy-ydd, gan gynnwys cadarnhad bod y gwiriadau o’i addasrwydd, yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd) a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, wedi'u cynnal cyn i'r cynorthwy-ydd ddechrau gweithio.
  • Manylion am gymwysterau a phrofiad y cynorthwy-ydd.
  • Disgrifiad o rolau a chyfrifoldebau'r cynorthwy-ydd.
  • Manylion am hyd yr amser a'r mathau o weithgareddau/tripiau pan fydd plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chynorthwy-ydd. Os na fydd cynorthwy-ydd yn cael ei adael ar ei ben ei hun gyda phlant, dylid nodi hyn hefyd yn y Datganiad.
  • Cadarnhad o niferoedd ac oedrannau'r plant y bydd cynorthwy-ydd yn gofalu amdanynt os cânt eu gadael ar eu pen eu hunain. 
  • Sut y bydd y cynorthwy-ydd yn cael ei oruchwylio a'i fonitro.

Addasrwydd cynorthwywyr

Mae'r gwarchodwr plant yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir ganddo neu sy'n gwirfoddoli i weithio ochr yn ochr ag ef yn addas, yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd) a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, i ofalu am blant hyd at 12 oed, a bod ganddo’r sgiliau, y profiad a'r cymwysterau priodol i ddiwallu anghenion y plant.

Fel yr amlinellir yn Safon 13.4(GP), rhaid i unrhyw gynorthwy-ydd a gyflogir gan warchodwr plant feddu ar gymhwyster priodol a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Os nad oes ganddynt gymhwyster priodol adeg eu cyflogi, mae'n ofynnol i gynorthwywyr fod wedi ennill y cymhwyster gofynnol o fewn 6 mis i ddechrau eu cyflogaeth bresennol. Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod wedi dilyn hyfforddiant mewn cymorth cyntaf pediatrig a meddu ar dystysgrif cymorth cyntaf pediatrig berthnasol sy’n briodol ar gyfer oedran y plentyn/plant sy'n derbyn gofal. Dylai'r dystysgrif cymorth cyntaf pediatrig fod yn gyfredol a dylid ei hadnewyddu bob 3 blynedd.

Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod wedi cwblhau hyfforddiant amddiffyn plant/diogelu, a rhaid iddo allu rhoi'r polisi amddiffyn plant/diogelu ar waith ynghyd â'r gweithdrefnau. Mae hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o faterion diogelu ac amddiffyn plant, gan gynnwys cam-drin corfforol, esgeulustod, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol.

Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod yn ymwybodol o'i gyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ddi-oed.

Recriwtio

Rhaid i'r cynorthwy-ydd ddilyn gweithdrefn fetio sy'n cydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd) ac sy'n cynnwys archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

Rhaid i'r gwarchodwr plant greu ffeil ar gyfer y cynorthwy-ydd fel tystiolaeth bod y gwiriadau addasrwydd gofynnol wedi'u cynnal, er mwyn cydymffurfio â gofynion Rhan 1 Atodlen 2 Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y’u diwygiwyd) (Gwybodaeth am bersonau eraill: staff). Rhaid cwblhau'r ffeil a'r holl wiriadau addasrwydd cyn i'r cynorthwy-ydd ddechrau gofalu am blant.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru: Canllaw ar recriwtio'n dda ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Y broses sefydlu

Rhaid i'r gwarchodwr plant ddarparu hyfforddiant sefydlu i'r cynorthwy-ydd er mwyn sicrhau ei fod yn gwybod sut mae'r gwasanaeth yn rhedeg, a'i fod yn deall ac yn gallu gweithredu'r polisïau a'r gweithdrefnau. Rhaid i'r broses sefydlu hefyd gynnwys gwybodaeth am gyfrifoldebau'r cynorthwy-ydd, ac unrhyw ddisgwyliadau eraill mewn perthynas â'i waith. Dylid cadw cofnod o'r hyfforddiant sefydlu hwn yn ffeil staff y cynorthwy-ydd. 

I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru: Fframwaith sefydlu ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Goruchwylio 

Fel y person cofrestredig, y gwarchodwr plant sy'n atebol am waith unrhyw gynorthwy-ydd, ac yn gyfrifol am ddiogelwch, lles a datblygiad y plant yn ei ofal. Rhaid i'r gwarchodwr plant ddefnyddio'r cynorthwy-ydd mewn ffordd effeithiol a goruchwylio ei waith, gan fonitro ei berfformiad er mwyn parhau i fod yn fodlon bod y cynorthwy-ydd yn gymwys ym mhob un o’i feysydd gwaith. Rhaid i'r gwarchodwr plant gynnal sesiynau goruchwylio un-i-un gyda'r cynorthwy-ydd yn rheolaidd gan ei annog i ystyried ansawdd ei ymarfer. Dylid cadw cofnod o bob sesiwn oruchwylio un-i-un yn y ffeil staff.

Rhaid i’r gwarchodwr plant ddeall ei ddyletswyddau cyfreithiol o ran cyfeirio cynorthwy-ydd i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn yr amgylchiadau sydd wedi’u nodi. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Regulated Activity with Children in England and Wales.

Rhaid i warchodwyr plant, ac unrhyw gynorthwy-ydd a fydd efallai yn gwbl gyfrifol am blant am unrhyw gyfnod o amser, feddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig lawn gyfredol cyn dechrau gwarchod plant. Os na ofynnir i'r cynorthwy-ydd fod yn gwbl gyfrifol am y plant, dylai fod ganddo dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng o fewn tri mis i ddechrau ei rôl. 

Gellir gofyn i gynorthwy-ydd gwarchod plant cymwysedig fod yn gwbl gyfrifol am blant, yn unol â'r cymarebau oedolion: plant, am hyd at ddwy awr ar unrhyw un adeg, a hyd at dair awr i gyd o fewn unrhyw ddiwrnod, ar yr amod y cydymffurfir â holl ofynion safon 13 (GP): Person addas (Gwarchodwr Plant) ac Atodiad A: Canllawiau'r SGC ar gyfer Cynorthwywyr Gwarchodwyr Plant.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru: Goruchwylio effeithiol mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Gwerthuso 

Rhaid i'r gwarchodwr plant gynnal adolygiad rheolaidd (o leiaf unwaith y flwyddyn) i ddadansoddi perfformiad y cynorthwy-ydd yn ffurfiol. Dylid cadw cofnod o'r gwerthusiad hwn yn ffeil staff y cynorthwy-ydd. 

I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau Gofal Cymdeithasol Cymru: Goruchwylio effeithiol mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cofnodion

Dylai cofnodion presenoldeb ddangos yn gywir y diwrnodau a'r amseroedd pan oedd y cynorthwy-ydd yn gweithio. Dylai’r cofnodion hefyd ddangos y diwrnodau a’r amseroedd pan oedd y cynorthwy-ydd yn gweithio ar ei ben ei hun ac enwau'r plant yr oedd yn gyfrifol amdanynt ar yr adegau hyn.

Rhaid i'r gwarchodwr plant gadw ffeil staff ar gyfer pob cynorthwy-ydd. 

Cymarebau staffio

Y nifer fwyaf o blant y caiff gwarchodwr plant ofalu amdanynt yw: 

  • 10 o blant hyd at 12 oed
  • o'r 10 plentyn hynny, dim mwy na chwech o dan 8 oed
  • o'r chwe phlentyn hynny, dim mwy na phedwar o dan 5 oed
  • o'r pedwar plentyn hynny, dim mwy na thri o dan 2 oed
  • o'r tri phlentyn hynny, fel rheol ni chaiff mwy na dau fod o dan 18 mis oed, er y gall Arolygiaeth Gofal Cymru gytuno ar eithriad yn achos gefeilliaid neu dripledi

Mae'r un cymarebau oedolion:plant yn berthnasol i'r cynorthwy-ydd ag i’r gwarchodwr plant. Fodd bynnag, gall y lle chwarae sydd ar gael effeithio ar y niferoedd hyn. 

Os nad yw cynorthwy-ydd yn gweithio, yna rhaid i'r gwarchodwr plant fynd yn ôl i weithio ar sail y cymarebau ar gyfer gweithio ar ei ben ei hun. 

Gweithio mewn partneriaeth â rhieni

Dylai'r contract rhwng y gwarchodwr plant a'r rhieni gynnwys manylion ynghylch pryd y bydd eu plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chynorthwy-ydd, a dylai'r rhieni lofnodi eu cytundeb i hyn. 

Os bydd cynorthwy-ydd yn dechrau gweithio gyda’r gwarchodwr plant ar ôl i'r contract gael ei sefydlu, yna rhaid diwygio'r contract i gynnwys manylion ynghylch pryd y bydd eu plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chynorthwy-ydd, a rhaid i'r rhieni lofnodi i gadarnhau eu bod yn cytuno.

Polisïau a gweithdrefnau

Rhaid diwygio polisïau a gweithdrefnau, lle bo'n berthnasol, i adlewyrchu gweithio gyda chynorthwy-ydd a phryd y bydd plant yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda'r cynorthwy-ydd. Dylai rhieni lofnodi eu bod yn cytuno ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau sy'n cyfeirio at rôl cynorthwy-ydd gwarchod plant.

Y fangre

Ni ddylai gweithio gyda chynorthwy-ydd effeithio ar y lle a'r cyfleusterau sydd ar gael i blant yn y fangre. 

Diogelwch

Rhaid i'r cynorthwy-ydd fod yn ymwybodol o'r weithdrefn i’w dilyn ar gyfer sicrhau bod pawb yn gadael y fangre mewn argyfwng, a beth yw ei rôl ef.

Os yw'r cynorthwy-ydd yn defnyddio ei gerbyd ei hun ar gyfer plant sy'n cael eu gwarchod, rhaid bod ganddo drwydded yrru ddilys, trwydded ar gyfer y cerbyd, yr yswiriant priodol, ac os oes angen, dystysgrif MOT gyfredol.

Yswiriant

Rhaid i'r gwarchodwr plant feddu ar Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr os yw'n cyflogi cynorthwy-ydd/cynorthwywyr, a darparu unrhyw fanylion gofynnol i'w yswiriwr ynghylch rolau a chyfrifoldebau, gan gynnwys yr amser y caiff unrhyw blentyn/plant eu gadael ar eu pen eu hunain gyda'r cynorthwy-ydd, i sicrhau bod yswiriant dilys wedi’i drefnu. 

Tystysgrif gofrestru

Gall gweithio gyda chynorthwy-ydd effeithio ar amodau cofrestru gwarchodwr plant:

  • Os na fydd uchafswm nifer y plant o dan 12 oed yn fwy na 10 wrth weithio gyda chynorthwy-ydd, yna ni fydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ychwanegu amod i’r dystysgrif ynghylch gweithio gyda chynorthwy-ydd.
  • Os bydd uchafswm nifer y plant yn fwy na 10 wrth weithio gyda chynorthwy-ydd, yna bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ychwanegu amod i’r dystysgrif gofrestru i adlewyrchu hyn. Rhaid i warchodwyr plant wneud cais penodol drwy eu cyfrif ar-lein gydag Arolygiaeth Gofal Cymru os ydynt yn bwriadu cynyddu uchafswm nifer y plant a fydd yn derbyn gofal i fwy na 10 wrth weithio gyda chynorthwy-ydd. 

Dolenni

PACEY Cymru (Y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar): Hyfforddiant gofal plant yn y cartref yng Nghymru.

Cysylltwch â PACEY Cymru drwy e-bost: paceycymru@pacey.org.uk neu dros y ffôn: 02920351407 am ragor o wybodaeth a chymorth ar weithio gyda chynorthwy-ydd gwarchod plant yng Nghymru. 

Adnoddau Gofal Cymdeithasol Cymru

Cynulleidfa i trosolwg

Atodiad B: Canllawiau Cymorth Cyntaf y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig

Mae'r canllawiau hyn yn rhan bwysig o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed. Maent yn darparu arweiniad a chyngor i alluogi personau cofrestredig a'u staff i fodloni’r gofynion cymorth cyntaf a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. 

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn pennu'r gofynion sylfaenol ar gyfer Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn lleoliadau gofal plant a chwarae cofrestredig. Mae darparwyr gofal plant yn gyfrifol am ddod o hyd i ddarparwr hyfforddiant cymwys i gyflwyno eu hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig. Yn achos Cymorth Cyntaf Pediatrig, nid ydym yn nodi cwrs neu gorff dyfarnu penodol i ddarparwyr eu defnyddio, gan y bydd hyn yn amrywio ledled Cymru. Fodd bynnag, darperir cyngor i helpu darparwyr i ddewis cwrs, a bydd angen iddynt sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol hyn, anghenion y lleoliad a'r rhai sy'n ei ddefnyddio. 

Mae hyfforddiant ar gael gan ystod eang o ddarparwyr, gan gynnwys y rhai sy'n cynnig cymwysterau a reoleiddir gan Gymwysterau Cymru neu'r Cymdeithasau Cymorth Gwirfoddol (Ambiwlans Sant Ioan Cymru, y Groes Goch Brydeinig a Chymorth Cyntaf Sant Andreas sy’n cael eu cydnabod gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fel rhai sy’n gosod safon i anelu ati o ran ymarfer cymorth cyntaf cymeradwy ar gyfer cyrsiau hyfforddiant cymorth cyntaf yn y gwaith). Gall gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd awdurdod lleol ddarparu rhagor o wybodaeth ar gyrsiau perthnasol yn yr ardal. 

Gwyddom fod llawer o leoliadau gofal plant a chwarae yn awyddus i sicrhau bod cynifer o’u staff â phosibl wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf. Bydd annog mwy o staff i gwblhau'r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig llawn yn rhoi mwy o dawelwch meddwl i rieni/gofalwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac yn helpu i sicrhau bod staff â chymwysterau addas ar gael bob amser i gyflenwi pan fydd staff yn absennol yn ddirybudd. Bydd cynyddu nifer y staff sydd wedi'u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig hefyd yn codi hyder ynghylch diogelwch, a gallai leihau'r tebygolrwydd o ddamweiniau yn ymwneud â’r plant. 

Rydym hefyd yn annog lleoliadau i ystyried nifer y plant a’r staff a chynllun y fangre er mwyn sicrhau bod swyddog cymorth cyntaf pediatrig yn gallu ymateb i argyfyngau'n gyflym. 

Dylai darparwyr arddangos tystysgrifau Cymorth Cyntaf Pediatrig Llawn/Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng y staff mewn lle amlwg, neu restr o staff sydd â thystysgrifau cyfredol mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig/Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng (neu sicrhau eu bod ar gael i rieni).

Dylai darparwyr ystyried a oes angen i swyddogion cymorth cyntaf pediatrig ymgymryd â hyfforddiant gloywi blynyddol, yn ystod unrhyw gyfnod ardystio o dair blynedd i helpu i gynnal eu sgiliau sylfaenol a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i weithdrefnau Cymorth Cyntaf Pediatrig.

Egwyddorion cyrsiau Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng a Llawn: 

  • Mae’r hyfforddiant wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr sy'n gofalu am blant yn absenoldeb eu rhieni/gofalwyr ac mae'n briodol i oedran y plant sy'n derbyn gofal.
  • Rhaid darparu digon o offer dadebru ac offer arall, gan gynnwys modelau o fabanod a phlant, fel bod yr holl hyfforddeion yn gallu ymarfer a dangos technegau.
  • Yn dilyn hyfforddiant, mae asesiad o gymhwysedd yn arwain at ddyfarnu tystysgrif.
  • Rhaid adnewyddu'r dystysgrif bob tair blynedd.

Dylid dilyn y cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng wyneb yn wyneb a dylai bara am o leiaf 6 awr (heb gynnwys seibiannau) a chwmpasu’r meysydd canlynol: 

  • gallu asesu argyfwng a blaenoriaethu’r camau i'w cymryd
  • helpu babi neu blentyn nad yw’n ymateb ond sy’n anadlu’n arferol
  • helpu babi neu blentyn nad yw’n ymateb ac nad yw'n anadlu’n arferol
  • helpu babi neu blentyn sy'n cael ffit
  • helpu babi neu blentyn sy'n tagu
  • helpu babi neu blentyn sy'n gwaedu
  • helpu babi neu blentyn sy'n dioddef o sioc yn sgil colli llawer o waed (sioc hypofolemig) 

Dylai'r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig llawn bara o leiaf 12 awr (heb gynnwys seibiannau) a chynnwys yr elfennau a restrir isod yn ogystal â'r meysydd a nodir ym mharagraff 5 (dylid cyflwyno'r elfennau o’r hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Argyfwng a amlinellir ym mharagraff 5 wyneb yn wyneb). 

  • Helpu babi neu blentyn sy'n dioddef o sioc anaffylactig.
  • Helpu babi neu blentyn sydd wedi cael sioc drydanol.
  • Helpu babi neu blentyn sydd â llosgiadau neu sgaldiadau.
  • Helpu babi neu blentyn yr amheuir ei fod wedi torri asgwrn.
  • Helpu babi neu blentyn sydd ag anafiadau i'w ben, ei wddf neu ei gefn.
  • Helpu babi neu blentyn yr amheuir ei fod wedi'i wenwyno.
  • Helpu babi neu blentyn sydd â rhywbeth estron yn ei lygad, ei glust neu ei drwyn.
  • Helpu babi neu blentyn sydd ag anaf i'w lygad.
  • Helpu babi neu blentyn sydd wedi’i gnoi neu ei bigo.
  • Helpu babi neu blentyn sy'n dioddef o effeithiau gwres neu oerfel eithafol.
  • Helpu babi neu blentyn sy’n dioddef: argyfwng diabetig; pwl asthma; adwaith alergaidd; llid yr ymennydd; a/neu ffitiau twymyn.
  • Deall rôl a chyfrifoldebau'r swyddog cymorth cyntaf pediatrig (gan gynnwys yr hyn a ddylai fod mewn blwch cymorth cyntaf a'r angen i gofnodi damweiniau a digwyddiadau).

Lluniwyd yr egwyddorion uchod i adlewyrchu’r rhannau perthnasol o gynnwys Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ac fe’u seiliwyd ar y canllawiau yr arferai’r Awdurdod eu rhoi i ddarparwyr hyfforddiant pan oeddent yn rheoleiddio darparwyr hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y Gwaith yn uniongyrchol.

Mae wyneb yn wyneb yn golygu bod yr hyfforddwyr yn bresennol yn gorfforol gyda'u hyfforddeion. Mae hyn yn golygu na cheir cynnal y sesiynau hyfforddi penodol hyn ar-lein.

Cynulleidfa i trosolwg

Atodiad C: Canllawiau Diogelu’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol: Rolau a Chyfrifoldebau

Mae'r Canllawiau hyn yn rhoi manylion am hyfforddiant diogelu sy'n briodol i wahanol rolau yn y sector gofal plant a gwaith chwarae.

Grŵp A (Lefel 1): ymwybyddiaeth o ddiogelu

Mae cyrsiau Grŵp A (Lefel 1) ymwybyddiaeth o ddiogelu yn darparu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddiogelu plant. Maent yn disgrifio'r mathau gwahanol o gam-drin, sut i'w hadnabod, a sut i ymateb i bryderon. Maent hefyd yn esbonio sut i roi gwybod am bryderon yn y ffordd iawn. 

Dylai'r hyfforddiant gorfodol hwn fod yn rhan o broses sefydlu pob aelod o staff a gyflogir.

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer

Cyflogeion a fydd o bosibl, ond nid o reidrwydd, yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, ond a fydd o bosibl yn gweithio mewn adeilad lle mae yna ddarpariaeth gofal plant; neu aelodau o Fwrdd / Pwyllgor sy'n cefnogi darpariaeth gofal plant.

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn):

  • gofalwyr/ glanhawyr/ cogyddion
  • aelodau o'r pwyllgor nad ydynt yn gweithio
  • ysgrifenyddion/ gweinyddwyr/ derbynyddion
  • gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth. Os cânt eu gadael ar eu pen eu hunain gyda phlant, byddai hyfforddiant Grŵp B yn fwy priodol.) 

Math o gwrs ac ystyriaethau:

  • cwrs ar-lein Grŵp A: diogelu drwy wefan Gofal Cymdeithasol Cymru 
  • hyd: Hyd at 2 a 3 awr 
  • argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant bob 3 blynedd (fel y nodir yn y Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu)

Grŵp B (Lefel 2): cwrs diogelu canolradd

Mae cyrsiau Diogelu Plant lefel ganolradd yn helpu i gynyddu’r wybodaeth am ddiogelu sydd gan unigolion eisoes, ac yn addysgu mwy am yr hyn y mae’r broses ddiogelu yn ei olygu. Mae'r cwrs yn dangos sut i adnabod camdriniaeth a rhoi gwybod am bryderon, ac mae’n gyfle i ddysgu mwy am y strwythur diogelu, adnabod risgiau a beth sy'n digwydd ar ôl creu adroddiad.

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer:

  • gweithwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn):

  • cynorthwywyr gwarchodwyr plant
  • cynorthwywyr meithrin dan hyfforddiant
  • cynorthwywyr meithrin
  • arweinwyr ystafelloedd meithrin
  • rheolwyr cynorthwyol
  • gweithwyr chwarae
  • gyrwyr
  • gwirfoddolwyr (yn dibynnu ar lefel yr oruchwyliaeth) 

Math o gwrs ac ystyriaethau:

  • cwrs wyneb yn wyneb, lle bo'n bosibl, neu ddysgu cyfunol
  • hyd: 4 a 6 awr/1 diwrnod/2 sesiwn gyda'r nos
  • argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant yn unol â'r Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu.

Grŵp C (Lefel 3): cwrs diogelu uwch

Mae cyrsiau Diogelu lefel uwch yn addysgu mwy am yr hyn y mae'r rôl yn ei olygu, ac yn help i ddeall y broses ddiogelu yn fanylach. Mae'r cwrs yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau ysgrifenedig ac ymarferion rhyngweithiol i helpu i adolygu a datblygu'r gweithdrefnau diogelu yn y lleoliad a sicrhau bod pob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau tuag at ddiogelu plant. Yn cynnwys pynciau sy'n ymwneud â honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ddelio â'r rhain, deall deddfwriaeth a chanllawiau allweddol sy'n sail i bolisi lleoliadau ynghylch diogelwch a lles plant, rolau i'w cyflawni yn y broses amddiffyn plant ar lefel amlasiantaethol gan gynnwys cynadleddau achos a darparu adroddiadau ysgrifenedig.

Y rolau y mae’r hyfforddiant yn ofynnol ar eu cyfer: 

Y rhai sydd mewn cysylltiad â phlant ac sy'n gyfrifol yn y pen draw am gwestiwn diogelu o fewn y ddarpariaeth. Bydd angen i'r ymarferwyr hyn fod â'r holl wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch safonau grwpiau A a B.

Dyma rai enghreifftiau (nid yw hon yn rhestr gyflawn):

Ar y safle

  • Arweinydd y lleoliad.
  • Y rheolwr.
  • Y person â chyfrifoldeb.
  • Gwarchodwyr plant.

Oddi ar y safle o bosibl

  • Y person diogelu dynodedig.
  • Unigolion cyfrifol.
  • Y person cofrestredig.

Math o gwrs ac ystyriaethau:

  • cwrs wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl
  • hyd: 2 ddiwrnod
  • argymhellir: adnewyddu'r hyfforddiant yn unol â'r Safonau a'r Fframwaith Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu

Y person diogelu dynodedig 

Defnyddir y term hwn drwy gydol y Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu. Y person sydd wedi’i nodi o fewn y sefydliad i fod ar gael i drafod pryderon diogelu yw'r person diogelu dynodedig. Dylid ymgynghori â nhw ynghylch p’un a ddylid codi pryder yn ymwneud â diogelu gyda'r awdurdod lleol, a bydd yn rheoli unrhyw gamau gweithredu y mae angen eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod yr unigolyn sydd mewn perygl yn ddiogel rhag cael ei gam-drin. Dylai pob ymarferydd wybod â phwy yn eu lleoliad i gysylltu am gyngor, ac ni ddylent oedi cyn trafod eu pryderon, ni waeth pa mor ddibwys y maent yn ymddangos.

Yr arweinwyr diogelu dynodedig yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer aelodau staff, teuluoedd, gofalwyr a phobl eraill sydd â mynediad at leoliadau, ac felly mae'n hanfodol bod yr wybodaeth am weithdrefnau amddiffyn plant yn fanwl ac yn gyfredol. 

Canllawiau a chefnogaeth pellach

Mwy o arweiniad a help 

Mae rhagor o wybodaeth am hyfforddiant Diogelu ar gael i ddarparwyr o’r ffynonellau canlynol:

Sicrhewch fod y cwrs diogelu yr ydych yn cofrestru ar ei gyfer yn adlewyrchu arferion a gweithdrefnau Cymru, nid Lloegr h.y. ei fod yn adlewyrchu Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu cwrs Grŵp A Diogelu. 

Defnyddir y term 'ymarferwyr' drwy gydol y Safonau Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Cenedlaethol ym maes Diogelu. Defnyddiwyd hwn fel term cyffredinol i ddisgrifio unrhyw un sydd mewn cyflogaeth â thâl yn ogystal â gwirfoddolwyr di-dâl.

Cynulleidfa i trosolwg

Atodiad D: Canllawiau ar gyfer gweinyddu parasetamol hylifol pan fydd plant yn mynd yn sâl mewn lleoliad cofrestredig

Cyflwyniad 

Mae'r canllawiau canlynol yn cefnogi Safon 10 Gofal iechyd (yn benodol, Safonau 10.1 i 10.5) a Safon 11 Meddyginiaeth. Maent yn ymdrin â rhoi parasetamol hylifol yn achlysurol i blant os ydynt yn mynd yn sâl yn ystod eu hamser yn eich lleoliad. 

Rhaid amddiffyn iechyd a lles plant bob amser ac mae'n ofyniad rheoliadol. 

Ni ddylid caniatáu i blant sydd eisoes yn sâl, sydd â thymheredd uchel neu sy'n heintus ddod i'r lleoliad. Mae'r rheol hon yn ei lle er mwyn diogelu iechyd plant eraill a staff (gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed). 

Rhaid i leoliadau cofrestredig barhau i ddilyn Safon 10.2 Gofal iechyd sy'n nodi:

Na dderbynnir unrhyw blentyn os ymddengys ei fod yn sâl. Os bydd plant yn mynd yn sâl yn ystod eu hamser yn y lleoliad, y cymerir gofal i atal heintio plant eraill ac y rhoddir gwybod i'r rhieni/gofalwyr cyn gynted â phosibl.

Mae Safon 10.2 yn ymwneud ag achlysuron pan fydd plant yn yn mynd yn sâl, yn enwedig os ydynt mewn perygl o gael ffitiau, os oes ganddynt dymheredd uchel neu os ydynt yn heintus. Nid yw hyn yr un peth â phlentyn sy'n torri dannedd neu ag annwyd cyffredin arno neu beswch. 

Ni ddylid cymryd yn ganiataol bod plentyn yn well ar ôl cael parasetamol hylifol, a dylai rhiant/gofalwr gasglu'r plentyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r plentyn fynd yn sâl.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu canllawiau ymarferol a gwybodaeth gynhwysfawr i ddarparwyr gofal plant ar reoli achosion o glefydau heintus mewn lleoliadau plant a phobl ifanc. Mae gwybodaeth i rieni ar gael ar wefan y GIG ar sut i wneud asesiad a phenderfynu a ddylai eu plentyn fynd i leoliad gofal plant neu'r ysgol: A yw fy mhlentyn yn rhy sâl i fynd i'r ysgol? GIG.

Gall plant a chanddynt symptomau anadlol ysgafn fel trwyn yn rhedeg, dolur gwddf, neu beswch bach, ond sy'n iach fel arall a heb dymheredd uchel, barhau i fynd i'w lleoliad addysg neu ofal plant. 

Mae gweinyddu parasetamol hylifol yn rhywbeth i'w gadw ar gyfer sefyllfaoedd brys pan fo'n anymarferol i rieni/gofalwyr plentyn gasglu'r plentyn yn brydlon, a dim ond pan ddilynir y canllawiau isod.

Canllawiau i leoliadau cofrestredig ar gael gafael ar barasetamol hylifol, ei storio a'i weinyddu gan sicrhau bod yr amodau cyffredinol canlynol a'r amodau penodol sy'n ymwneud â pharasetamol hylifol yn cael eu bodloni:

Amodau cyffredinol

  • Bod gan y lleoliad cofrestredig bolisi meddyginiaeth sy'n disgrifio'r amgylchiadau lle gellir gweinyddu parasetamol hylifol i blentyn sy'n dod i'r lleoliad.
  • Bod y polisi meddyginiaeth wedi cael ei rannu gyda'r rhiant/gofalwr a'i fod yn nodi'r trefniadau a'r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi gweinyddu meddyginiaeth ar bresgripsiwn a heb fod ar bresgripsiwn yn ddiogel, gan gynnwys pan fo angen brys tra bo plentyn yn derbyn gofal yn y lleoliad cofrestredig, er enghraifft, os bydd gan blentyn dymheredd uchel; a
  • Bod rhieni/gofalwyr y plentyn wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw i'r lleoliad cofrestredig weinyddu parasetamol hylifol i'r plentyn perthnasol o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y polisi meddyginiaeth.
  • Lle bynnag y bo modd, bydd rhieni/gofalwyr y plentyn yn rhoi caniatâd llafar ar gyfer pob achlysur dilynol pan fydd parasetamol hylifol yn cael ei weinyddu.

Yr amodau sy'n ymwneud â phob tro y gweinyddir parasetamol hylifol

Mewn sefyllfa pan fo plentyn yn mynd yn sâl tra bo yn y lleoliad cofrestredig, y peth mwyaf priodol yw i'r plentyn gael ei gasglu gan riant neu ofalwr.

Fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle mae rhieni wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw ac nad ydynt yn gallu casglu eu plentyn ar unwaith, byddai'n briodol rhoi parasetamol hylifol ar yr achlysuron canlynol, gan ddilyn yr amodau a amlinellwyd:

(Achlysur 1) cysylltwyd â rhiant neu ofalwr y plentyn, ond ni ellir casglu'r plentyn yn syth:

  • mae rhiant neu ofalwr y plentyn wedi rhoi caniatâd llafar i'r dos o barasetamol gael ei roi
  • dim ond os oes cyfnod o 4 awr o leiaf wedi mynd heibio ers rhoi'r dos diwethaf o barasetamol i'r plentyn, ceir rhoi parasetamol hylifol
  • mae'r rhiant neu'r gofalwr wedi trefnu i gasglu'r plentyn o'r lleoliad cofrestredig cyn gynted ag y bo'n ymarferol

(Achlysur 2) mae'r lleoliad cofrestredig wedi ceisio cysylltu â rhiant neu ofalwr y plentyn, ond ni ellir cysylltu â nhw:

  • rhaid i'r lleoliad cofrestredig gysylltu â GIG 111, ac mae gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (yn GIG 111) wedi cynghori y byddai'n briodol rhoi dos o barasetamol hylifol
  • yn dilyn hynny, dylai'r lleoliad cofrestredig gysylltu â rhiant neu ofalwr y plentyn i drefnu i'r plentyn gael ei gasglu o'r lleoliad cofrestredig cyn gynted â phosibl/cyn gynted ag y bo'n ymarferol

Storio, gweinyddu a chadw cofnodion

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod darparwyr cofrestredig yn cael gafael ar barasetamol hylifol, ei storio a'i weinyddu o dan yr amgylchiadau cyfyngedig a ddisgrifir yn y canllawiau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn argymell defnyddio pecynnau o barasetamol di-siwgr fel meddyginiaeth hylifol, a phob un yn cynnwys 120mg o barasetamol ym mhob 5mL oherwydd eu bod yn haws eu storio, bod ganddynt labeli yn nodi'r dyddiad pan fydd y cynnwys heibio ei orau, a'u bod yn lleihau'r posibilrwydd o groeshalogi rhwng plant. 

Mae parasetamol hylifol di-siwgr ar gael mewn poteli a phecynnau. Mae pecynnau yn rhoi'r dos cywir ar gyfer rhai plant pan ddefnyddir un neu fwy nag un pecyn, heb fod angen llwy fesur neu chwistrell geg. Fodd bynnag, i blant eraill byddai angen defnyddio rhan o becyn. Dylai darparwyr cofrestredig benderfynu ar y ffurf fwyaf priodol o barasetamol hylifol di-siwgr ar gyfer eu lleoliad. 

Pan ddefnyddir poteli o barasetamol hylifol sy'n cynnwys dosau lluosog, dylai fod gan ddarparwyr cofrestredig drefniadau gofalus ar waith rhag croeshalogi ac i fesur dos yn gywir. Dylai'r rhain gael eu dogfennu a'u gweithredu gan y rheolwr neu'r person â chyfrifoldeb am weinyddu meddyginiaeth. 

Mae angen hefyd i unrhyw un sy'n gyfrifol am weinyddu meddyginiaeth fod wedi cael gwybodaeth am bwysigrwydd dilyn unrhyw gyfarwyddiadau wrth ei defnyddio, fel ysgwyd y botel yn dda cyn ei hagor (er mwyn sicrhau'r dos cywir).

Gellir cael cyngor ar brynu parasetamol hylifol o unrhyw fferyllfa.

Rhaid i'r lleoliad cofrestredig sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer storio a gweinyddu dosau o barasetamol hylifol yn ddiogel, a chadw cofnodion o'r dosau hynny yn unol â'r polisi meddyginiaeth.

Rhaid gwirio'n rheolaidd y dyddiadau pan fydd pob meddyginiaeth sydd wedi'i storio heibio ei gorau (o leiaf bob tri mis), a chyn gweinyddu pob dos.

Rhaid cofnodi pob dos o barasetamol hylifol a weinyddir i blentyn mewn lleoliad cofrestredig, gan ddilyn y canllawiau hyn, ar adeg ei weinyddu. Mae'n ofynnol i'r darparwr gofal plant gadw cofnod ysgrifenedig a hysbysu'r rhiant wrth iddo gasglu'r plentyn.

Cynulleidfa i trosolwg

Geirfa

Anghenion cymorth ychwanegol 

Mae anghenion cymorth ychwanegol yn cyfeirio at y gefnogaeth ychwanegol neu wahanol y gall fod ei hangen ar blentyn neu berson ifanc ar unrhyw adeg i chwarae, cymryd rhan, dysgu, datblygu, a ffynnu ochr yn ochr â'u cyfoedion.

Anghenion Dysgu Ychwanegol 

Plant a phobl ifanc anabl neu ag anawsterau dysgu sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu.

Arolygiaeth Gofal Cymru 

Y corff rheoleiddio sy’n gyfrifol am sicrhau bod rheoliadau gofal plant a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn cael eu bodloni, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.

Asesu Risg-Budd

Proses asesu risg er mwyn penderfynu a yw manteision gweithgaredd penodol yn gorbwyso'r risg o niwed.

Asiantaeth Safonau Bwyd 

Sefydliad sy’n diogelu iechyd y cyhoedd ac yn amddiffyn buddiannau cwsmeriaid mewn perthynas â bwyd.

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Y rheoleiddiwr cenedlaethol ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Blynyddoedd Cynnar

Yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru, y cyfnod rhwng 0 a 7 oed ym mywyd plentyn.

Categorïau o leoliadau gofal plant a chwarae, gan gynnwys gwarchod plant; gofal dydd llawn; gofal sesiynol; crèches; clybiau y tu allan i oriau ysgol a darpariaeth chwarae mynediad agored

Gweler yr adran Gwarchod Plant a Gofal Dydd a Reoleiddir o'r ddogfen hon am fanylion llawn.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy'n nodi hawliau plant. 

Hawliau'r Plentyn

Y rhesymeg dros CCUHP yw bod angen ystyriaeth benodol ar hawliau plant oherwydd y gofal a’r amddiffyniad arbennig y mae plant a phobl ifanc yn aml eu hangen. Mae'n rhestr o hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc.

Cwlwm

Consortiwm o bum partner gofal plant a chwarae, sy’n cefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae drwy gynnig arweiniad ac aelodaeth, gan annog lleoliadau cynaliadwy o safon. Y partneriaid yw:

  • Mudiad Meithrin sy'n arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
  • Coram PACEY Cymru sy'n hyrwyddo arfer gorau ac yn cefnogi gwarchodwyr plant.
  • Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru (NDNA Cymru) sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant penodol ar redeg meithrinfa yng Nghymru.
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi gofal cyn-ysgol, addysg a darpariaeth dysgu drwy chwarae dwyieithog ledled Cymru.
  • Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs (CPCKC) sy'n helpu cymunedau yng Nghymru drwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol sy'n fforddiadwy, yn hygyrch ac o safon uchel.

Cwricwlwm i Gymru

Cwricwlwm statudol i blant a phobl ifanc tair i un ar bymtheg oed, yn nodi yr hyn sy’n bwysig o ran darparu addysg eang a chytbwys yng Nghymru.

Cymdeithas anghorfforedig

Cymdeithas nad oes ganddi bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân i'w haelodau.

Chwarae

Ymddygiadau, gweithgareddau neu brosesau a gaiff eu hysgogi, eu rheoli a'u strwythuro gan blant yn wirfoddol, ar sail cymhelliad y plentyn, yn hytrach nag er mwyn cyflawni rhywbeth, ac sy'n cynnwys nodweddion allweddol sbort a sbri, ansicrwydd, her a hyblygrwydd, heb arwain at gynhyrchiant.

Chwarae Cymru

Elusen genedlaethol ar gyfer chwarae plant sy’n darparu cyngor ac arweiniad i helpu pawb sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb dros ddarpariaeth chwarae plant.

Chwarae o Safon

Chwarae o Safon yw marc ansawdd gwaith chwarae Chwarae Cymru. Y bwriad yw defnyddio Chwarae o Safon mewn lleoliadau gwaith chwarae heb eu rheoleiddio, yn ogystal â lleoliadau a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae hefyd yn berthnasol i'r rhai sy'n ymwneud â gwaith chwarae mewn lleoliadau nad ydynt yn benodol ar gyfer gwaith chwarae.

Darpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar

Mae hyn yn cyfeirio at y ddarpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar a ddarperir gan y lleoliad gofal plant neu chwarae neu'r addysg feithrin a ddarperir mewn ysgol. Dyma'r ddarpariaeth i fabanod a phlant bach 0-5 oed. Gweler rhestr adnoddau ECPLC am ragor o fanylion.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol

Ystyr darpariaeth ddysgu ychwanegol i berson sy'n dair oed neu'n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy'n ychwanegol at yr hyn, neu sy'n wahanol i'r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o'r un oedran. Yn achos plentyn sy'n iau na thair oed, mae darpariaeth ddysgu ychwanegol yn golygu darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

Datganiad o ddiben 

Datganiad y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i bob darparwr gofal plant cofrestredig ei lunio. Rhaid i’r datganiad gynnwys yr holl wybodaeth o dan Reoliad 15 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 am nodau ac amcanion y gwasanaeth a ddarperir i blant o dan ofal y person cofrestredig, ynghyd â materion perthnasol eraill.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu fframwaith cyfreithiol i amddiffyn pobl rhag achosion o wahaniaethu yn y gweithle ac mewn cymdeithas yn ehangach.

Dull gweithredu sy’n ystyriol o drawma

Dull gweithredu sy'n cydnabod bod gan bawb rôl i'w chwarae wrth hwyluso cyfleoedd i bobl sydd wedi profi trawma ac adfyd. Mae’n ddull lle mae unigolyn, sefydliad, rhaglen neu system yn sylweddoli effaith eang trawma ac yn deall llwybrau posibl ar gyfer gwella a goresgyn adfyd a thrawma fel unigolyn neu gyda chefnogaeth pobl eraill, gan gynnwys cymunedau a gwasanaethau.

Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol (DARPL)

Mae DARPL yn dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr sydd â phrofiad bywyd a phrofiad proffesiynol. Mae’n cefnogi dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth gwrth-hiliol ar gyfer gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar drwy ganolfan ddysgu ac adnoddau.

Eithriadau (Wedi’u heithrio rhag gorfod cofrestru)

Lleoliadau sydd yn yr amgylchiadau a nodir yng Ngorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, ac nad yw’n ofynnol iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Estyn 

Yn arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Caiff lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir sy’n darparu addysg feithrin i blant 3 i 4 oed eu harolygu gan Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru drwy raglen arolygu ar y cyd.

Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar

Mae'r Fframwaith Ansawdd yn llywio ymarfer o ansawdd uchel ac yn disgrifio'r egwyddorion cyffredin y dylai pob lleoliad/ysgol ac ymarferydd sy'n rhoi darpariaeth Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar waith eu dilyn. Mae hefyd yn cynnwys llwybrau datblygu a threfniadau asesu i blant 0-3 oed, a phecyn cymorth ymarfer myfyriol.

Gofal cofleidiol

Darpariaeth gofal plant sy’n cefnogi rhieni sydd â’u plant mewn addysg feithrin a ariennir drwy ehangu'r ddarpariaeth i ddiwrnod ysgol llawn. 

Gofal Cymdeithasol Cymru 

Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r corff rheoleiddio ar gyfer gofal cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu gweithlu’r sector gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar gymryd camau i feithrin hyder, ceisio gwelliant a helpu i ddatblygu’r gweithlu. Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n cynnal y fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal plant, gan bennu’r cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym meysydd y blynyddoedd cynnar a gofal plant. 

Gofal dydd a reoleiddir

Mae darpariaeth gofal dydd a reoleiddir yn cwmpasu ystod eang o wahanol fathau o ddarpariaeth sy’n ddarostyngedig i ofynion statudol a rheoleiddiol, y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, a gofynion cofrestru ac arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru.

Gofal plant o ansawdd uchel

Mae elfennau gofal plant o ansawdd uchel yn cynnwys ansawdd y rhyngweithio rhwng oedolyn a phlentyn; gwybodaeth a dealltwriaeth staff o sut mae babanod a phlant ifanc yn dysgu; cymarebau a maint grwpiau sy’n caniatáu ar gyfer rhyngweithio priodol â phlant; a chefnogi amgylchedd dysgu plant yn y cartref.

Goruchwylio a gwerthuso

Proses reolaidd, wedi'i chynllunio sy'n helpu gweithwyr i ystyried eu gwaith, rheoli cyfrifoldebau a lles, a chynnal arferion diogel ac effeithiol. Mae gwerthusiad yn adolygiad ffurfiol o berfformiad gweithiwr dros gyfnod penodol, a ddefnyddir i gydnabod llwyddiannau, nodi anghenion datblygu a chytuno ar amcanion ar gyfer y dyfodol.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ffordd i gyflogwyr wirio'ch cofnod troseddol, er mwyn eu helpu i benderfynu a ydych yn berson addas i weithio iddynt. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a yw'n addas i chi weithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed.

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Gweithdrefnau (gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau hanfodol) i ymarferwyr eu dilyn i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion a allai fod yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu sydd mewn perygl o hynny. Mewn perthynas â phlant, mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw fath arall o niwed.

Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl: Cod Ymarfer Diogelu

Canllawiau anstatudol sy'n nodi egwyddorion a safonau clir i unigolion, grwpiau a sefydliadau eu dilyn er mwyn amddiffyn unigolion, yn enwedig plant ac oedolion agored i niwed, rhag niwed a chamdriniaeth. Mae'n rhoi pwyslais ar weithio mewn partneriaeth, atebolrwydd, a phwysigrwydd hyrwyddo lles, gan sicrhau bod cyfrifoldebau diogelu yn cael eu deall a'u gweithredu'n effeithiol gan bawb sy'n gysylltiedig.

Gweithiwr Chwarae

Aelod o staff sy'n gweithio i hwyluso chwarae plant yn unol ag Egwyddorion Gwaith Chwarae. Gall weithio heb oruchwyliaeth fel rhan o dîm ehangach ac mae ganddo gyfrifoldebau amrywiol o fewn y tîm hwnnw.

Gwrth-hiliaeth

Mynd ati i ganfod a chwalu’r systemau, y strwythurau a’r prosesau sy’n arwain at ganlyniadau cwbl wahanol i grwpiau ethnig leiafrifol. Mae’n golygu cydnabod y gallwn ni, hyd yn oed os na chredwn ein bod yn ‘hiliol’, drwy wneud dim byd, fod yn rhan o ganiatáu i hiliaeth barhau.

Lleoedd addysg feithrin a ariennir

Lleoedd addysg feithrin a ariennir gan awdurdodau lleol i blant 3 a 4 oed, am ran o’r diwrnod ysgol. 

Lleoedd gofal plant a ariennir 

Gofal plant a ariennir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan Weinidogion Cymru drwy grantiau neu gynlluniau eraill y mae cyllid yn cael ei dalu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwyddynt i ddarparwyr gwasanaethau gofal plant er mwyn lleihau cost y gwasanaethau hynny i rieni.

Lleoliadau gofal plant (cofrestredig)

Unrhyw leoliad sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gofal i blant 0 i 12 oed.

Lleoliadau gofal plant cofrestredig a ariennir nas cynhelir

Lleoliadau gofal plant nad ydynt yn perthyn i'r awdurdod lleol, sy'n cael eu cymeradwyo a'u hariannu gan yr awdurdod lleol i ddarparu addysg feithrin ac sydd wedi'u cofrestru fel darpariaeth gofal dydd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Lles

Cyflwr o fod yn gyfforddus, yn iach neu'n hapus.

Man chwarae cynhwysol a hygyrch

Mae man chwarae cynhwysol a hygyrch yn ofod di-rwystr sy'n diwallu anghenion eang ac amrywiol pob plentyn. Bydd pob plentyn yn mwynhau lefel uchel o gyfleoedd i gyfranogi, sydd yr un mor gyfoethog o ran gwerth chwarae.

Mangre

Mae ‘mangre’ yn cynnwys unrhyw ardal ac unrhyw gerbyd.

Mesur 

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Model Cymdeithasol o Anabledd 

O dan y model cymdeithasol o anabledd, plentyn anabl yw plentyn sydd ag amhariad neu gyflwr ac sy'n cael ei anablu gan rwystrau mewn cymdeithas, yn hytrach na gan yr amhariad ei hun.

Person cofrestredig

Person sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i weithredu fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd. 

Person heb gymhwyso/Gwirfoddolwr

Unigolyn sy'n gweithio mewn lleoliad gofal plant cofrestredig nad oes ganddo gymhwyster cydnabyddedig sy'n ofynnol ar gyfer y rôl/math o wasanaeth. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn cwmpasu aelodau staff a allai fod yn gweithio tuag at gyflawni'r cymhwyster gofynnol. Gall yr unigolion hyn fod yn gyflogedig neu gyflawni tasgau o fewn y lleoliad ar sail wirfoddol.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Straen cronig ar unigolion yn ystod plentyndod. Mae straen o’r fath yn deillio o gam-drin ac esgeuluso plant ond hefyd o fagwraeth mewn cartrefi lle mae plant yn dod i gysylltiad rheolaidd â materion fel trais domestig neu unigolion â phroblemau camddefnyddio alcohol a sylweddau eraill. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn cael eu galw’n Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Rheoliadau 

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).

Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed 

Safonau a ddefnyddir i helpu lleoliadau gwarchod plant a gofal dydd i fodloni'r gofynion rheoleiddio ar gyfer gofal plant hyd at ddeuddeg oed, ac a gyhoeddwyd o dan reoliad 14 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 (fel y'u diwygiwyd).

Safonau Hyfforddiant Cenedlaethol (Gofal Cymdeithasol Cymru)

Fframwaith cynhwysfawr ar gyfer hyfforddiant, datblygiad ac addysg barhaus y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r safonau wedi'u cynllunio i sicrhau bod yr holl staff sy'n gweithio o fewn gwasanaethau gofal cymdeithasol yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r gwerthoedd angenrheidiol i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y person.

Staff

Gweithwyr o fewn y lleoliad gofal plant, boed yn gyflogedig neu'n ddi-dâl, ac mewn nifer o rolau gwahanol. 

Ymarferwyr

Mae’r term cyffredinol hwn yn cyfeirio at yr unigolion sy’n gweithio gyda phlant ar draws y blynyddoedd cynnar, a gall gynnwys gweithwyr gofal plant, athrawon a chynorthwywyr dosbarth.