Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Defnyddir Dangosyddion coetiroedd i Gymru (CiG) i olrhain cynnydd tuag at Strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o’r strategaeth yn 2018 ac y mae’n gosod allan 20 o ddeilliannau lefel-uchel sy’n ymwneud â choed, coetiroedd a choedwigoedd yng Nghymru. Bydd dyfodol y strategaeth yn ddibynnol ar adolygiad gan y Llywodraeth newydd.

Cyhoeddwyd ar argraffiad diwethaf o’r dangosyddion Coetiroedd i Gymru yn 2019 ac adroddodd am ystod o fetrigau a ffynonellau data ar draws 23 o benodau oedd yn ymwneud a’r deilliannau a restrir yn y Strategaeth CiG. Mae’r rhan fwyaf o’r dangosyddion cyfredol wedi eu llunio o sawl mesur, ac y mae a wnelo nifer o’r rhain â mwy nag un o’r deilliannau lefel-uchel.

Dangosyddion Coetiroedd i Gymru 2026

Ail-strwythurwyd y fersiwn hon o’r dangosyddion CiG a’i mireinio er mwyn gweld yn fwy eglur sut y mae dangosyddion unigol yn mesur yn uniongyrchol gynnydd tuag at gyrraedd nod y strategaeth. Adroddir am y dangosyddion mewn 5 pennod ar wahân sydd yn cyfateb i’r rhai yn strategaeth CiG.

  • Coetiroedd a choed Cymru
  • Ymateb i newid hinsawdd
  • Coetiroedd i bobl
  • Sector coedwigoedd cystadleuol a chynaliadwy 
  • Ansawdd yr amgylchedd

Nod y rownd hon o adrodd yw sicrhau y gwneir defnydd o’r data mwyaf perthnasol, ailadroddadwy a dibynadwy i greu dangosyddion sydd yn olrhain yn uniongyrchol bob un o ddeilliannau’r strategaeth fel ei bod yn haws cymharu dros amser. Mae’n gyfle hefyd i gydnabod deilliannau Coedwig Genedlaethol i Gymru, a’u hymgorffori mewn adroddiadau. Golyga’r adolygu hwn ar y dangosyddion nad yw’n wastad yn bosib cymharu cynnydd yn uniongyrchol yn erbyn yr hyn yr adroddwyd amdano yn 2018, ond lle bo hyn yn bosib, adroddir am dueddiadau tymor-byr ar gyfer pob un o’r dangosyddion.

Yr ydym wedi ceisio adrodd am ddangosydd ar gyfer pob un o ddeilliannau’r strategaeth. Fodd bynnag, yr ydym yn cydnabod fod nifer o’r dangosyddion ond yn cynrychioli’n rhannol y deilliannau y ceisiwn eu mesur. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn casglu data perthnasol a manwl gywir ac i fireinio dadansoddi er mwyn gwella mwy ar y dangosyddion hyn. Lle bo dangosyddion yn berthnasol i fwy nag un o ddeilliannau  strategaeth CiG, cyfeirir y darllenwyr at yr adran lle trafodir y dangosyddion perthnasol.

Strategaeth deilliannau, dangosyddion a thueddiadau

Mae canlyniadau strategaeth CiG, y dangosyddion cysylltiedig a’r tueddiadau dymunol a’r rhai a  welwyd yn cael eu crynhoi yma, fesul pennod.

Pennod 1: coetiroedd a choed Cymru

Deilliant 1: cynnydd mewn coetiroedd yng Nghymru

Prif ddangosyddion

1a. Ardal o goetir

1b. Coed y tu allan i goetir (CAG)

Tueddiadau a ddymunir

1a. Cynnydd yng nghyfanswm arwynebedd coetiroedd a choed

1b. Cynnydd yn ardal CAG

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

1a. Ardal o goetir: sefydlog

1b. CAG: data o ffynhonnell newydd

Deilliant 2: mwy o goetiroedd a choed yn cael eu rheoli’n gynaliadwy

Prif ddangosyddion

2. Ardal o goetir ardystiedig

Tueddiadau a ddymunir

2. Cynnydd yng nghyfanswm arwynebedd coetir ardystiedig

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

2. Sefydlog

Deilliant 3: ecosystemau coetiroedd yn iach a gwydn

Prif ddangosyddion

3a. Gwytnwch: cyflwr ecolegol coetiroedd

3b. Iechyd coed: arwynebedd newydd dan Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol (HIPS)

Tueddiadau a ddymunir

3a. Mwy o goetiroedd mewn cyflwr ffafriol

3b. Gostyngiad yn yr arwynebedd newydd dan HISP

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

3a. Data gwaelodlin wedi’i adrodd

3b. Gwella

Deilliant 4: coetiroedd wedi eu haddasu’n well i gyflwyno ystod lawn o fanteision

Prif ddangosyddion

4. Gwerth blynyddol gwasanaethau ecosystem coetiroedd

Tueddiadau a ddymunir

4. Cynnydd mewn gwerth blynyddol

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

4. Dirywio

Deilliant 5: rheoli coetiroedd a choed yn fwy cysylltiedig â defnydd tir arall

Prif ddangosyddion

5. Coetiroedd ffermydd dan reolaeth

Tueddiadau a ddymunir

5. Cynnydd yn yr arwynebedd dan reolaeth

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

5. Dangosydd wrthi’n cael ei ddatblygu (dim tuedd)

Deilliant 6: coetiroedd a choed trefol yn cyflwyno ystod lawn o fanteision

Prif ddangosyddion

6a. Gorchudd canopi coed trefol

6b. Canfyddiad o fanteision coed trefol

Tueddiadau a ddymunir

6a. Cynnydd mewn gorchudd canopi

6b. Cynnydd mewn ymatebwyr yn nodi manteision

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

6a. Dim data newydd

6b. Dirywio

Pennod 2: ymateb i newid hinsawdd

Deilliant 7: coetiroedd Cymru yn cyfrannu at leihau ôl troed carbon Cymru

Prif ddangosyddion

7a. Symud carbon trwy goedwigaeth

7b. Gwerth rheoleiddio NTG

Tueddiadau a ddymunir

7a. Cynnydd mewn symud carbon

7b. Cynnydd mewn gwerth rheoleiddio

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

7a. Sefydlog

7b. Gwella

Pennod 3: coetiroedd i bobl

Deilliant 8: mwy o gymunedau’n ymwneud â’u coetiroedd ac yn cael budd ohonynt

Prif ddangosyddion

8a. Ymweliadau â choetiroedd

8b. Canfyddiad o fanteision ac anfanteision

Tueddiadau a ddymunir

8a. Cynnydd mewn ymweliadau

8b. Cynnydd mewn manteision, gostyngiad mewn anfanteision

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

8a. Gwella

8b. Dirywio

Deilliant 9: mwy o bobl yn manteisio ar gyfleoedd addysg a dysgu

Prif ddangosyddion

9. Mynychu gweithgareddau dysgu

Tueddiadau a ddymunir

9. Cynnydd mewn mynychu

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

9. Gwella

Deilliant 10: mwy o bobl yn byw bywydau iachach

Prif ddangosyddion

10a. Gwerth manteision iechyd

10b. Mynediad heb gar

Tueddiadau a ddymunir

10a. Cynnydd mewn gwerth

10b. Mwy o fynediad

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

10a. Sefydlog

10b. Dirywio

Deilliant 11: mwy o bobl yn elwa o fentrau a chyflogaeth

Heb ei asesu’n uniongyrchol, gweler pennod 4 am ddata cyflogaeth a sgiliau.

Pennod 4: sector coedwigaeth cystadleuol a chynaliadwy

Deilliant 12: mwy o bren yn cael ei dyfu, ei brosesu a’i ddefnyddio

Prif ddangosyddion

12a. Cynhyrchu pren

12b. Rhagolygon argaeledd pren

Tueddiadau a ddymunir

12a. Cynnydd mewn cynhyrchu

12b. Cynnydd mewn argaeledd

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

12a. Sefydlog

12b. Aros am ragolygon newydd

Deilliant 13: sector yn gystadleuol a chynaliadwy

Prif ddangosyddion

13a. Gwerth gros ychwanegol (GVA)

13b. Cyfrifon busnes

Tueddiadau a ddymunir

13a. Cynnydd mewn GVA

13b. Cynnydd mewn cyfrifon

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

13a. Gwella

13b. Gwella

Deilliant 14: mwy o ddefnydd o bren fel adnodd adnewyddadwy

Prif ddangosyddion

14. Defnydd o bren mewn adeiladwaith (wrthi’n cael ei ddatblygu)

Tueddiadau a ddymunir

14. Cynnydd yn y defnydd

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

14. Dan ddatblygiad (dim tuedd)

Deilliant 15: gweithlu medrus a ffyniannus

Prif ddangosyddion

15a. Niferoedd gweithwyr

15b. Sgiliau a galluedd

Tueddiadau a ddymunir

15a. Cynnydd mewn niferoedd

15b. Cynnydd mewn sgiliau

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

15a. Cynnydd yn y defnydd

15b. Cynnydd yn y defnydd

Pennod 5: ansawdd yr amgylchedd

Deilliant 16: rheolaeth coetiroedd o safon uchel

Prif ddangosyddion

Heb ei asesu’n uniongyrchol, gweler pennod 1, rheoli coetir.

Deilliant 17: coetiroedd o werth cadwriaethol yn cael eu gwarchod

Prif ddangosyddion

17a. Arwynebedd mewn safleoedd dynodedig

17b. Cyflwr cynefinoedd

Tueddiadau a ddymunir

17a. Dim newid disgwyliedig

17b. Cynnydd mewn cyflwr ffafriol

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

17a. Data newydd (dim tuedd)

17b. Data newydd (dim tuedd)

Deilliant 18: bioamrywiaeth coetiroedd yn cael ei gefnogi

Prif ddangosyddion

18. Bioamrywiaeth coetiroedd

Tueddiadau a ddymunir

18. Cynnydd mewn cyfoeth rhywogaethau

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

18. Dan ddatblygiad (dim tuedd gyffredinol)

Deilliant 19: cyfraniad at dirwedd a diwylliant

Prif ddangosyddion

19. Arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol

Tueddiadau a ddymunir

19. Cynnydd mewn arwynebedd pwysig

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

19. Sefydlog

Deilliant 20: cyfraniad at reoli dŵr a phridd

Prif ddangosyddion

20a. Cyflwr pridd

20b. Cyfraniad i lifogydd

Tueddiadau a ddymunir

20a. Gwelliannau mewn mynegeion

20b. Cynnydd mewn gwerth

Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf

20a. Tueddiadau cymysg

20b. Data newydd (dim tuedd)

Dadansoddiad o dueddiadau

Gweithiwyd tueddiadau allan ar gyfer y dangosyddion gan ddefnyddio’r meini prawf a osodir allan yn Nhabl 1. Caiff y rhain eu harddangos ar ddechrau pob pennod am y dangosyddion yr adroddir amdanynt yn y bennod.

Tabl 1: disgrifiad o ddadansoddiad tueddiadau ar gyfer Dangosyddion Coetiroedd i Gymru
CategoriSymbolTrothwy
Gwella>3% newid positif ers y dangosyddion CiG diwethaf
Sefydlog (h.y.,fawr ddim neu ddim newid yn gyffredinol)=≤3% newid ers y dangosyddion CiG diwethaf 
Dirywio >3% newid negyddol ers y dangosyddion CiG diwethaf
Heb ei asesu am nad oedd digon o ddata i gymharuD/GDdim yn gymwys

Lle mae data priodol ar gael, cymerir y pwynt data mwyaf diweddar â’r gwerth o’r adroddiad dangosyddion CiG diwethaf (neu ddata o’r cyfnod hwnnw o amser lle nad adroddwyd am hyn o’r blaen), wedi ei lyfnhau gan ddefnyddio cyfartaledd tair-blynedd. 

Er enghraifft, byddai pwynt data o 2025 yn cael ei gymharu â’r cyfartaledd tair-blynedd o amgylch 2018 (2017, 2018 a 2019). Diben hyn yw lleihau effaith debygol anghysonderau blynyddol unigol.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Ymchwil Coedwigaeth ar y cyd a'r Gangen Coed a Phriddoedd

Arweiniwyd y gwaith o gynhyrchu’r dangosyddion hyn gan Ymchwil Coedwigaeth, ar ran Llywodraeth Cymru. Safbwyntiau’r ymchwilydd sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad hwn ac nid o reidrwydd safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cangen Coed a Phriddoedd
Hinsawdd a Chynaliadwyedd Amgylcheddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: PolisiCoedwigaeth.ForestryPolicy@llyw.cymru

ISBN digidol: 978-1-83745-704-5