Dilyn y daith: 3 diwrnod Lauren ar Lwybr Coedwig Cymru
Pan lansiwyd darn peilot o Lwybr Coedwig Cymru ym mis Mawrth 2026, Lauren Harwood (@walkingwithlauren) oedd y cyntaf i fynd ati i’w gerdded yn ei gyfanrwydd. Roedd hyn yn fwy na dim ond cerdded 80km – roedd hi'n helpu i ddod â phennod newydd yn stori Coedwig Genedlaethol Cymru yn fyw.
Mae’r llwybr yn ymestyn o Barc Gwledig Porthceri ar arfordir y de yr holl ffordd i Bont Walby yng nghanol y Cymoedd. Dyma dridiau o daith sy’n rhagarweiniad i’r hyn a fydd yn llwybr cenedlaethol a fydd yn cysylltu coetiroedd ledled Cymru.
Dyma hanes ei thaith hi, a sut y gallwch chi ddilyn yn ôl ei throed.
Diwrnod 1: O’r arfordir i ganol y wlad
Porthceri i Hensol: 3.5 awr
Mae’r daith yn dechrau ger y môr ar Lwybr Arfordir Cymru ym Mhorthceri, a buan iawn y bydd y golygfeydd arfordirol yn troi’n llwybrau coediog a chefn gwlad bryniog.
Teithiodd Lauren ar y trên i'r Barri, a cherdded rhan fer o Lwybr Arfordir Cymru hyd at Barc Porthceri. Yno, mae cerflun trawiadol o ddeilen yn dangos ble mae Llwybr Coedwig Cymru yn dechrau.
Uchafbwyntiau’r llwybr:
- Dechrau dramatig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru
- Lonydd tawel a choridorau gwyrdd wrth adael yr arfordir
- Mynd trwy rai o safleoedd cyntaf y Goedwig Genedlaethol, gan gynnwys Coed Whitton a Choedwig Hensol
Hanner ffordd trwy'r dydd, stopiodd Lauren ym mhentref Tresimwn ym Mro Morgannwg i gael seibiant haeddiannol yn y Baffle Haus – rheswm gwych i gofio arafu’ch cam a mwynhau'r daith.
Byddwch yn gorffen y diwrnod ger Hensol, gydag amser i orffwys a pharatoi ar gyfer y dyddiau hirach sydd i ddod.
Ar ddechrau ei thaith, dywedodd Lauren:
"Roeddwn i ar bigau i ddechrau'r antur hon ar hyd Llwybr Coedwig Cymru. Roedd y diwrnod cyntaf yn teimlo fel cael croeso hamddenol i’r daith – dechrau wrth y môr cyn symud yn raddol i goetir tawel. Mae'n gyflwyniad tawel, ond rydych chi'n dal i deimlo eich bod chi'n cychwyn ar rywbeth mawr."
Ar ei noson gyntaf, arhosodd Lauren yn y Vale Resort yn Hensol, lle bu’n hamddena ac yn ymlacio yn y pwll a'r sawna mewn paratoad i’r dyddiau o’i blaen.
Awgrymiadau ar gyfer diwrnod 1:
- Ewch dow-dow – dyma ddiwrnod i ddod i arfer, a bydd y daith yn hirach o lawer ar ddyddiau dau a thri
- Stopiwch am ginio ar y ffordd i dorri'r daith
- Os hoffech wneud llwybr diwrnod 1 ychydig yn hirach, daliwch ati i gerdded i Bont-y-clun. Gallwch aros yng Ngwesty a Sba Lanelay Hall, sy’n agos iawn i’r llwybr. Bydd hyn yn gwneud eich taith yn fyrrach ar yr ail ddiwrnod.
Diwrnod 2: Trwy gymunedau a choetir
Hensol i Nant y Moel: 6 awr
Mae'r ail ddiwrnod yn newid gêr – mwy o bellter, mwy o amrywiaeth yn y dirwedd, a chysylltiad dyfnach â'r fro.
Uchafbwyntiau’r llwybr:
- Rhannau sy’n mynd drwy goetir, gan gynnwys Gellihir a Choedwig Llantrisant
- Golygfeydd o'r dyffryn yn agor wrth i chi gerdded tua'r gogledd
Ar ddiwrnod 2, dywedodd Lauren:
“Roedd heddiw yn teimlo fel calon y llwybr – tipyn o bellter, golygfeydd amrywiol, a theimlad fy mod i’n gwneud cynnydd ar y daith."
Mae digon o gyfleoedd i brynu bwyd a chyflenwadau wrth i chi basio trwy drefi – manteisiwch ar y cyfleoedd hyn cyn mentro ymhellach i'r cymoedd.
Erbyn i chi gyrraedd Nant-y-moel, bydd eich coesau’n dechrau teimlo’r milltiroedd – a byddwch chi’n teimlo eich bod yn cyflawni rhywbeth.
Arhosodd Lauren mewn Airbnb yn Nant-y-moel ar yr ail noson, gan swpera mewn tafarn leol.
Awgrymiadau ar gyfer diwrnod 2:
- Dechreuwch yn gynnar i gyrraedd cyn machlud haul (yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn)
- Prynwch ginio a byrbrydau ar hyd y ffordd
- Ewch i gaffi neu dafarn i ailwefru
- Mae llety sy’n ddigon agos i’r llwybr yn brin yn ardal Nant-y-moel, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu ac yn archebu ymlaen llaw
- Paratowch eich cyflenwadau ar gyfer diwrnod 3 (nid oes siopau ar lwybr diwrnod 3)
Diwrnod 3: Y cam olaf
Nant y Moel i Bont Walby: 7 awr
Y diwrnod anoddaf – ond yr un sy’n cynnig y mwyaf.
Dyma lle mae'r llwybr yn gwireddu ei addewid: coetir i ymgolli ynddo, darnau anghysbell, a’r teimlad o ddianc rhag prysurdeb bywyd.
Uchafbwyntiau’r llwybr:
- Coedwig Nant-y-moel a choetir eang Llywodraeth Cymru
- Darnau hir a thawel o dan ganghennau’r coed
- Diweddglo dramatig ger Pont Walby
Dywedodd Lauren:
"Dyma'r diwrnod anoddaf, heb os – ond fy ffefryn hefyd. Roedd yn teimlo'n wyllt, yn dawel, ac fe wnes i ymgolli’n llwyr."
Mae llai o gyfleusterau ar y diwrnod hwn, a mwy o bellter rhwng seibiannau, felly mae paratoi yn allweddol. Ond mae'r ymdrech yn werth chweil: dyma lle mae'r weledigaeth o lwybr sy’n cysylltu coedwigoedd yn cael ei wireddu.
Arhosodd Lauren yn Sgwd Gwladys Lodge yng Nglyn-nedd. Gallwch gerdded yno yn hawdd o Bont Walby, sef diwedd llwybr peilot Llwybr Coedwig Cymru.
Awgrymiadau ar gyfer diwrnod 3:
- Dechreuwch yn gynnar (cyn 9am os byddwch yn cerdded ym misoedd yr hydref/gaeaf)
- Cariwch eich holl fwyd a dŵr am y diwrnod cyfan – does unlle i stopio am luniaeth ar y llwybr.
- Mae hi’n her gorfforol – rheolwch eich cyflymder
- Cadwch lygad am arwyddion sy’n eich dargyfeirio, a allai ddigwydd os bydd coed yn cwympo neu broblemau eraill a all effeithio ar goetiroedd
Beth sy'n gwneud y llwybr hwn yn arbennig?
Mae Llwybr Coedwig Cymru yn fwy na dim ond llwybr cerdded hir arall. Mae’n gam cyntaf ar weledigaeth fawr.
- Rhwydwaith o lwybrau a fydd yn cysylltu coetiroedd ledled Cymru
- Wedi'i chynllunio i'ch cadw'n agos at goed a natur ar hyd y daith
- Cysylltu cymunedau, tirweddau a safleoedd Coedwigoedd Cenedlaethol ar hyd a lled Cymru
Cynllunio eich taith gerdded eich hun?
Ydych chi'n ystyried rhoi cynnig arni? Dyma ddylech chi ei wybod:
- Llwybr llinol oddeutu 80km o hyd
- Lefel cymedrol hyd at heriol (yn enwedig ar ddiwrnod 3)
- Mae arwyddion ar hyd y llwybr i ddangos y ffordd, ond dewch â map digidol o’r llwybr neu un wedi’i argraffu
- Gall y llwybr gael ei ddargyfeirio dros dro mewn ambell i le
Dylech bacio:
- Dillad glaw a haenau (gall y tywydd newid yn gyflym)
- Digonedd o fyrbrydau a dŵr
- Gwefrydd symudol ac offer cyfeirio
- Gofal ar gyfer pothelli (blisters) a phecyn cymorth cyntaf sylfaenol
- Gwnewch yn siŵr y gallwch gario popeth y byddwch ei angen am y 3 diwrnod yn gyfforddus ar eich cefn
Pethau i’w cofio:
- Mae rhai cymalau’n mynd trwy drefi – sy’n golygu bod ailgyflenwi’n hawdd
- Mae cymalau eraill yn anghysbell – cynlluniwch ymlaen llaw
- Dilynwch egwyddorion Gadael Dim Byd Ar Ôl trwy’r adeg
Gallwch deithio’r holl lwybr mewn tridiau fel y gwnaeth Lauren, neu ei thorri’n dalpiau byrrach dros gyfnod hirach. Mae Llwybr Coedwig Cymru Trail yn cynnig ffordd newydd o ddarganfod Cymru: un goedwig ar y tro.
Y llwybr – yr holl wybodaeth angenrheidiol:
- Lawrlwythwch lwybrau Llwybr Coedwig Cymru ar ffurf ffeiliau GPX. Gallwch ychwanegu’r ffeiliau hyn ar ddyfeisiau neu apiau GPS
- Gweld y map llawn ar DataMapWales
- Gweld y llwybr o'r awyr
- Am ragor o wybodaeth: https://www.llyw.cymru/coedwig-genedlaethol
Eisiau gwybod mwy?
Mae Llwybr Coedwig Cymru yn cynnwys 4 adran wahanol.
Mae pob un ohonynt yn llwybrau hardd trwy safleoedd y Goedwig Genedlaethol.
