Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am newidiadau mewn cyrhaeddiad darllen a rhifedd dros amser, gan gynnwys dadansoddiad yn ôl rhyw, y bwlch rhwng dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion, ac ethnigrwydd. Cynhaliwyd y dadansoddiad gan ddefnyddio data dienw ar lefel genedlaethol o'r asesiadau personol, hyd at ddiwedd blwyddyn ysgol 2024 i 2025. Trwy gydol yr adroddiad hwn, mynegir cyfeiriadau at flynyddoedd academaidd ar ffurf '2024 i 2025' a fyddai'n golygu'r cyfnod rhwng Medi 2024 ac Awst 2025.

Asesiadau ar-lein sydd wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu sgiliau darllen a rhifedd yw'r asesiadau personol ar gyfer Darllen a Rhifedd. Fe'u defnyddir mewn ysgolion fel un o ystod o ddulliau i gefnogi cynnydd (Hwb) dysgwyr fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r asesiadau personol blynyddol yn orfodol i ddysgwyr Blynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir. Mae'r asesiadau'n cynnwys: 

  • Rhifedd sydd mewn dwy ran, sef Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu), Darllen (Cymraeg)
  • Darllen (Saesneg), (gweler y nodyn isod ar amserlen cyflwyno'r asesiadau personol, a cheir rhagor o wybodaeth am bob asesiad a'r gofynion mandadol ym mhrif adran yr adroddiad hwn) 

Mae'r asesiadau'n rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau darllen a rhifedd dysgwyr unigol a dealltwriaeth o'r cryfderau a'r meysydd i'w gwella o ran y sgiliau hyn. Ar ôl cwblhau'r asesiadau, mae gan ysgolion fynediad at adborth ar sgiliau, cynnydd ac ystod o adroddiadau i helpu i gynllunio'r addysgu a'r dysgu. Mae Llywodraeth Cymru yn glir mai diben yr asesiadau hyn yw helpu dysgwyr i wneud cynnydd,. Nid yw cyhoeddi'r adroddiad hwn yn golygu unrhyw newid i ysgolion; bydd asesiadau personol yn parhau i gael eu cynnal yn yr un ffordd a'u defnyddio ochr yn ochr â mathau eraill o ddulliau asesu a ddyluniwyd gan ysgolion yn unol â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Er mai diben asesiadau personol yw cefnogi cynnydd ar lefel unigol, gall data dienw o'r asesiadau personol hefyd ddarparu rhywfaint o wybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd ar lefel genedlaethol, gan ddangos newidiadau mewn cyrhaeddiad dros amser a gwahaniaethau rhwng grwpiau demograffig. 

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio'r adroddiad hwn i helpu i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser, ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data dienw o asesiadau personol a gymerwyd rhwng 2018 i 2019 (blwyddyn cyflwyno'r asesiad cyntaf) a 2023 i 2024. Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad hwn, cyhoeddir datganiadau a fydd yn y pen draw yn dangos tueddiadau ac yn darparu gwybodaeth bwysig am ddatblygiad dysgwyr o'r sgiliau hyn dros amser, ar lefel genedlaethol. 

Bydd y datganiadau yn rhan o ystod ehangach o wybodaeth feintiol ac ansoddol ar lefel genedlaethol am gyflawniad dysgwyr. Byddant yn ategu, er enghraifft, ein hastudiaethau rhyngwladol, PISA (y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr) ac (yn y dyfodol) PIRLS (yr Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol) a TIMSS (Astudiaeth o'r Tueddiadau Rhyngwladol mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth) ynghyd â’n deilliannau Cyfnod Allweddol 4 cenedlaethol.

Nodyn am amserlen yr asesiadau a'r data sydd ar gael

Cafodd asesiadau personol eu cyflwyno'n raddol dros gyfnod o bedair blynedd academaidd: 

  • Rhifedd (Gweithdrefnol) o 2018 i 2019
  • Darllen (Cymraeg) a Darllen (Saesneg) o 2019 i 2020
  • Rhifedd (Rhesymu) o 2021 i 2022

Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio data o 2018 i 2019 hyd at 2024 i 2025. Fodd bynnag, mae'r tarfu yn sgil COVID-19 wedi arwain at fwlch yn y data ar gyfer 2019 i 2020, sef y flwyddyn yr oedd y pandemig wedi amharu fwyaf ar weinyddu'r asesiadau. Er bod rhai asesiadau personol wedi'u gwneud yn ystod y cyfnod hwn, nid yw 2019 i 2020 wedi'i gynnwys yn y dadansoddiad hwn oherwydd nad oes digon o ddata ar gael. 

Yn yr adrannau canlynol, rhestrir yr asesiadau yn y drefn y cawsant eu cyflwyno mewn ysgolion yng Nghymru.

Patrymau cyrhaeddiad dros amser, yn ôl pwnc yr asesiad a grŵp blwyddyn

Mae'r adran hon o'r adroddiad yn cymharu cyrhaeddiad dysgwyr mewn grŵp blwyddyn penodol dros sawl blwyddyn academaidd. Er enghraifft, mae'n cymharu cyrhaeddiad dysgwyr Blwyddyn 3 yn yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) yn 2018 i 2019, 2020 i 2021, 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Felly, ar gyfer grŵp blwyddyn benodol, mae gwahanol garfannau o ddysgwyr yn cael eu cynnwys yn y set ddata ar adegau gwahanol. 

At ddibenion yr adroddiad hwn rydym yn cyfleu cyrhaeddiad cyfartalog uwch neu is yn ôl misoedd, er mwyn inni wneud cymariaethau ar lefel genedlaethol. Rydym yn gwneud hynny fel ei bod yn haws deall y patrymau, ac oherwydd natur yr asesiadau - gan nad oes gan yr asesiadau ddull graddio ar raddfa gyffredin sy'n debyg i'r math o ddull a ddefnyddir ar gyfer arholiadau, er enghraifft.  Sylwch ein bod yn crynhoi'r holl ddata i'r mis agosaf ac mewn rhai achosion bydd hyn yn golygu efallai na fydd cyfanswm a ddangosir yn cyfateb i swm y ffigurau sy'n ffurfio'r cyfanswm hwnnw. Wrth ddehongli’r ffigurau yn yr adroddiad hwn, mae’n bwysig cofio bod gan ddysgwyr iau gyfradd uwch o gynnydd o flwyddyn i flwyddyn, mewn termau absoliwt, na dysgwyr hŷn (ceir rhagor o wybodaeth yn yr atodiad technegol). 

Yn natganiadau Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: Medi 2018 i Awst 2023Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: Medi 2018 i Awst 2024 rydym yn defnyddio 2022 i 2023 fel blwyddyn gyfeirio gyson ar draws pob pwnc. Rhoddodd hyn bwynt cyfeirio cyffredin inni i gyfrifo cynnydd mis ac archwilio gwahaniaethau demograffig yn ôl pwnc, sy'n ffactor pwysig o ystyried cyflwyno'r asesiadau gwahanol cyn/ar ôl y pandemig. Yn yr adroddiad hwn rydym yn parhau â’r dull gweithredu hwn ac yn defnyddio 2022 i 2023 fel y flwyddyn gyfeirio ar gyfer cyfrifiadau cynnydd misoedd a hefyd fel meincnod o’r gwahaniaeth rhwng blynyddoedd. Gan y bydd siartiau yn ymddangos yn debyg i’r rhai yn adroddiad Mehefin 2024 a 2025, mae cadw’r flwyddyn gyfeirio yn gyson yn gwneud cymharu rhwng adroddiadau yn haws ac yn caniatáu inni weld newidiadau yn gliriach.

Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar raddfa anhawster wedi ei diweddaru ar gyfer cwestiynau asesu a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf yn natganiad Mehefin 2025. Cyflwynwyd y raddfa newydd hon yn 2023 i 2024 ar gyfer yr holl asesiadau i sicrhau bod amcan yr anhawster ar gyfer pob cwestiwn mor gyfredol â phosibl ac mor gynrychioliadol â phosibl o’r boblogaeth o ddysgwyr yng Nghymru. Yn flaenorol roedd lefel anhawster yn cael ei neilltuo i eitemau wedi ei chyfrifo neu ei graddnodi yn seiliedig ar ymatebion i’r eitem gan ddysgwyr ac ar adeg cyflwyno pob asesiad unigol, a oedd yn digwydd dros gyfnod o rai blynyddoedd. Roedd y diweddariad hwn yn hanfodol i sicrhau bod athrawon, dysgwyr a rhieni yn parhau i gael gwybodaeth o’r ansawdd uchaf o’r asesiadau hyn i lywio addysgu a dysgu.

Mae gweithredu’r newid hwn wedi effeithio ar y data yn natganiad Mehefin 2025. I ganiatáu cymhariaeth decach rhwng 2023 i 2024, sy'n defnyddio'r raddfa anhawster newydd, a blynyddoedd eraill, roedd rhaid cymhwyso'r raddfa newydd yn ôl-weithredol i'r holl flynyddoedd blaenorol. O ganlyniad, mae'r data cynnydd a ddangosir yn y datganiad hwn ac yn natganiad Mehefin 2025 o ansawdd uwch na'r data mewn datganiadau blaenorol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg isod.

Mae'r effaith ar ddysgu yn ystod ac ar ôl y pandemig wedi bod yn destun sawl astudiaeth yn y DU ac yn rhyngwladol – gweler adran dystiolaeth y ddogfen y rhoddir dolen gyswllt iddi yn yr adroddiad hwn. Mae'r patrymau a welir yng Nghymru yn debyg i ganfyddiadau'r ymchwil mewn gwledydd eraill. 

Mae nodyn ar ddehongli'r ffigurau yn yr adran hon i'w gweld yn yr atodiad technegol y rhoddir dolen gyswllt iddi yn yr adroddiad hwn. Mae'r ffigurau'n dangos patrymau mewn cyrhaeddiad cyfartalog ar gyfer Blynyddoedd 3, 6 a 9; mae data ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill ar gael yn y daenlen ategol.

Ym mhob un o'r siartiau isod, dangosir cyrhaeddiad cyfartalog fel nifer y misoedd sy'n uwch neu'n is na chyrhaeddiad yr un grŵp blwyddyn yn 2022 i 2023 (dynodir cyrhaeddiad 2022 i 2023 gan bwynt sero ar echel lorweddol y graff). Sylwch nad yw 2019 i 2020 wedi'i chynnwys oherwydd nad oes digon o ddata yn y flwyddyn yr effeithiwyd arni fwyaf gan bandemig COVID-19. 

Gall nifer is o asesiadau yn ystod 2020 i 2021, y flwyddyn a welodd tarfu parhaus yn ystod ac ar ôl y pandemig, effeithio ar y patrymau a welwyd yn y flwyddyn honno.

Crynodeb o gyrhaeddiad yn ôl pwnc

Bu cynnydd mewn cyrhaeddiad ar draws grwpiau blwyddyn ar gyfer Darllen Cymraeg a Darllen Saesneg yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 2023 i 2024. Gwelodd y rhan fwyaf o grwpiau blwyddyn hefyd lefelau cyrhaeddiad uwch mewn Darllen Cymraeg a Darllen Saesneg na'r rhai yn 2020 i 2021 (y flwyddyn gyntaf y mae data ar gael ar gyfer Darllen). Mae hyn yn adeiladu ar y gwelliant a welwyd ers 2023 i 2024, gyda chyrhaeddiad mewn Darllen Cymraeg a Darllen Saesneg yn dangos arwyddion clir o adferiad ar ôl y dirywiad yn sgil y pandemig.

Ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol) a (Rhesymu) mae lefelau cyrhaeddiad wedi cynyddu ar gyfer y grwpiau blwyddyn hŷn, o'u cymharu â 2023 i 2024. Ar gyfer y grwpiau blwyddyn iau mae lefelau cyrhaeddiad yn is nag yn 2023 i 2024, er i'r mwyafrif, mae lefelau cyrhaeddiad yn dal i ddangos gwelliant o'u gymharu â'r dirywiad a welwyd yn dilyn y pandemig. Mae Rhifedd (Gweithdrefnol) yn 2024 i 2025 yn parhau i fod yn is na'r lefelau a welwyd yn 2018 i 2019, cyn y pandemig. Dangosir manylion ar gyfer pob grŵp blwyddyn yn y set ddata gysylltiedig (Tablau 1 i 4).

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Mae'r asesiad Rhifedd yn cael ei gyflawni mewn dwy ran. Mae asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) yn canolbwyntio ar ffeithiau a gweithdrefnau rhifyddol – sef yr 'adnoddau' rhifyddol sydd eu hangen i gymhwyso rhifedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae'n cael ei gyflawni bob blwyddyn gan bob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9. Cyflwynwyd yr asesiad hwn ym mlwyddyn academaidd 2018 i 2019 a hwn yw'r unig asesiad y mae data ar gael ar ei gyfer cyn ac ar ôl y tarfu a achosir gan COVID-19.

Ffigur 1: Rhifedd (Gweithdrefnol) - y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl blwyddyn academaidd o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2018 i 2019, 2020 i 2021, 2021 i 2022, 2023 i 2024 a 2024 i 2025 o'i gymharu â 2022 i 2023.

Y prif bwyntiau

Yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 2023 i 2024, y newidiadau mewn cyrhaeddiad oedd:

  • Gostyngiad o 2 fis ym Mlwyddyn 3
  • Gostyngiad o 1 mis ym Mlwyddyn 6
  • Cynnydd o 3 mis ym Mlwyddyn 9

Crynodeb

Mae'r cyrhaeddiad ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol) yn 2024 i 2025 yn is ar gyfer y blynyddoedd iau (Blwyddyn 2 i Flwyddyn 6), ac yn uwch ar gyfer y blynyddoedd hŷn (Blwyddyn 7 i Flwyddyn 9), o'i gymharu â 2023 i 2024. Mae'r lefelau cyrhaeddiad yn 2024 i 2025 yn parhau i fod yn is na lefelau 2018 i 2019 ar gyfer pob grŵp blwyddyn, er bod cynnydd wedi bod o'u cymharu â 2022 i 2023.

Darllen (Cymraeg)

Mae'r asesiadau personol ar gyfer Darllen Cymraeg yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae dysgwyr yn deall testun yn Gymraeg ac a ydynt yn gallu llunio barn am yr hyn y maent yn ei ddarllen. Mae asesiad Darllen Cymraeg yn cael ei gwblhau yn flynyddol gan ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion lle mae'r rhan fwyaf o'r dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd yr asesiad ei gyflwyno ym mlwyddyn academaidd 2019 i 2020, ond nid oedd digon o ddata ar gael ar gyfer y flwyddyn honno oherwydd y tarfu a achoswyd gan bandemig COVID-19.

Ffigur 2: Darllen (Cymraeg) - y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl blwyddyn academaidd, o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Darllen (Cymraeg) y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2020 i 2021, 2021 i 2022, 2023 i 2024 a 2024 i 2025 o'i gymharu â 2022 i 2023.

Y prif bwyntiau

  • Roedd lefelau cyrhaeddiad yn 2024/25 ym Mlwyddyn 3 a Blwyddyn 6 yn fwy na'r lefelau a welwyd yn 2020/21 o dri mis a phedwar mis yn y drefn honno. Roedd cyrhaeddiad ym Mlwyddyn 9 chwe mis yn is yn 2024/25 nag yn 2020/21. 
  • Yn 2024/25, o'i gymharu â 2023/24, y newidiadau mewn cyrhaeddiad oedd:
    • cynnydd o 7 mis ym Mlwyddyn 3 
    • cynnydd o 12 mis ym Mlwyddyn 6 
    • cynnydd o 16 mis ym Mlwyddyn 9

Crynodeb

Rydym yn parhau i weld adferiad o ran cyrhaeddiad yn 2024 i 2025 yn Darllen Cymraeg. Gwelodd Blynyddoedd 3 i 9 gynnydd mewn cyrhaeddiad o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (2023 i 2024). Bu cynnydd mewn cyrhaeddiad ym Mlynyddoedd 3 i 7 uwchlaw'r lefelau a welwyd yn y lle cyntaf yn 2020 i 2021.

Darllen (Saesneg)

Mae'r asesiadau personol ar gyfer Darllen Saesneg yn canolbwyntio ar ba mor dda y mae dysgwyr yn deall darn o destun yn Saesneg ac a ydynt yn gallu llunio barn am yr hyn y maent yn ei ddarllen. Mae asesiad Darllen Saesneg yn cael ei gwblhau yn flynyddol gan ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 lle mae'r rhan fwyaf o'r dysgu trwy gyfrwng y Saesneg. I ddysgwyr mewn ysgolion lle mae'r rhan fwyaf o'r dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'r asesiad personol Darllen Saesneg yn ddewisol ym Mlynyddoedd 2 a 3 ac yn orfodol ym Mlynyddoedd 4 i 9. Cafodd yr asesiad ei gyflwyno ym mlwyddyn academaidd 2019 i 2020, ond nid oedd digon o ddata ar gael i'r flwyddyn honno gael ei chynnwys oherwydd y tarfu a achoswyd gan bandemig COVID-19.

Ffigur 3: Darllen (Saesneg) - y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn yn ôl blwyddyn academaidd, o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Darllen (Saesneg) y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2020 i 2021, 2021 i 2022, 2023 i 2024 a 2024 i 2025, o'i gymharu â 2022 i 2023.

Y prif bwyntiau

  • Roedd lefelau cyrhaeddiad 2024 i 2025 yr uchaf y maent wedi bod ers i'r asesiad ddechrau ar gyfer Blynyddoedd 3 i 9.
  • Yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 2023 i 2024, y newidiadau mewn cyrhaeddiad oedd:
    • cynnydd o 4 mis ym Mlwyddyn 3
    • cynnydd o 10 mis ym Mlwyddyn 6 
    • cynnydd o 13 mis ym Mlwyddyn 9

Crynodeb

Yn 2024 i 2025, gwelwyd cynnydd mewn cyrhaeddiad yn Darllen Saesneg ar gyfer pob grŵp blwyddyn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (2023 i 2024), a'r grwpiau blwyddyn hŷn a oedd yn dangos y cynnydd mwy. Mae lefelau'r cyrhaeddiad a welwyd yn 2024 i 2025 ar gyfer Blwyddyn 3 i Flwyddyn 9 hefyd wedi rhagori ar y lefelau a welwyd yn 2020 i 2021, ac mae Blwyddyn 2 yn parhau i fod yn sefydlog. Rydym yn gweld adferiad parhaus o ran cyrhaeddiad yn 2024 i 2025 yn dilyn y gostyngiad mewn lefelau cyrhaeddiad a welwyd rhwng 2020 i 2021 a 2022 i 2023.

Rhifedd (Rhesymu)

Mae'r asesiad personol Rhifedd (Rhesymu) yn canolbwyntio ar ba mor dda y gall dysgwyr ddefnyddio a chymhwyso'r hyn y maent yn ei wybod i ddatrys problemau rhifyddol. Mae'n cael ei gyflawni yn flynyddol gan ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9. Hwn oedd yr asesiad olaf i'w roi ar waith fel rhan o'r dull fesul cam o gyflwyno'r asesiadau, ac mae'r data ar gael ar gyfer pedair blynedd academaidd yn unig: 2021 i 2022, 2022 i 2023, 2023 i 2024 a 2024 i 2025.

Ffigur 4: Rhifedd (Rhesymu) - y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl blwyddyn academaidd, o'i gymharu â 2022/23, mewn misoedd

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart far sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog asesiadau Rhifedd (Rhesymu) y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlynyddoedd 3, 6, neu 9 yn 2021 i 2022, 2023 i 2024, a 2024 i 2025, o'i gymharu â 2022 i 2023. 

Y prif bwyntiau

Yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 2023 i 2024, y newidiadau mewn cyrhaeddiad oedd:

  • gostyngiad o 3 mis ym Mlwyddyn 3
  • cymharol sefydlog ym Mlwyddyn 6
  • cynnydd o 5 mis ym Mlwyddyn 9

Crynodeb

Mae'r cyrhaeddiad ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) wedi bod yn gymharol sefydlog rhwng 2021i 2022 a 2024 i 2025, ac ni welwyd patrwm clir o ran gwella'r dirywiad rhwng grwpiau blwyddyn. O gymharu â 2023 i 2024, dangosodd y grwpiau blwyddyn hŷn gynnydd mewn cyrhaeddiad yn 2024 i 2025, tra bo'r blynyddoedd iau yn dangos gostyngiad.

Cyrhaeddiad yn ôl rhyw

Mae'r rhan hon o'r adroddiad yn dadansoddi'r cyrhaeddiad a ddangosir yn yr adran uchod yn ôl rhyw. Diffinnir rhyw yn y cyd-destun hwn fel rhyw biolegol adeg geni. Mae'n cymharu'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad, sy'n cael ei ddynodi mewn 'misoedd', a gyflawnir gan wrywod a benywod ym mhob blwyddyn academaidd, ar gyfer grwpiau blwyddyn penodol. Gallwch weld enghraifft o'r modd y mae cyrhaeddiad yn cael ei ddadansodd yn yr atodiad technegol.

Mae'r ffigurau isod yn dangos patrymau ar gyfer Blwyddyn 6 mewn perthynas â phob un o'r pynciau; mae data ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill ar gael yn y daenlen ategol. Mae pob siart yn dangos y blynyddoedd yr oedd pob asesiad ar waith o’i gymharu â 2022 i 2023, ac eithrio blwyddyn 2019 i 2020 am nad oedd digon o ddata ar ei chyfer oherwydd y tarfu a achoswyd gan COVID-19. Cyflwynir cyrhaeddiad gan linell unigol ar gyfer benywod Blwyddyn 6 a gwrywod Blwyddyn 6, gyda'r bwlch rhwng y llinellau yn cynrychioli'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog. Sylwch fod y raddfa yn amrywio rhwng siartiau, ac felly gall newidiadau sy’n ymddangos yn debyg yn weledol gynrychioli gwahanol feintiau o ran gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad ar draws pynciau.

Crynodeb o gyrhaeddiad yn ôl rhyw

Roedd y gwahaniaethau nodweddiadol mewn deilliannau rhwng y rhywiau sydd wedi’u gweld yn eang ar draws llawer o astudiaethau ac asesiadau o fenywod yn perfformio'n well na gwrywod ar asesiadau darllen, a gwrywod yn perfformio'n well na benywod ar asesiadau rhifiadol, hefyd i’w gweld yma ar yr Asesiadau Personol Cenedlaethol yng Nghymru. Gwelwyd y gwahaniaethau hyn o Flwyddyn 2 ymlaen, gan gynyddu’n gyffredinol ar draws y grwpiau blwyddyn. Dangosir manylion ar gyfer pob grŵp blwyddyn yn y set ddata gysylltiedig.

Yn 2024 io 2025, mae’r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad rhwng gwrywod a benywod ar ei fwyaf ers cyflwyno holl asesiadau Blynyddoedd 3, 6 a 9 ar draws pob pwnc (ac eithrio Blwyddyn 9 mewn Rhifedd (Gweithdrefnol), lle cofnodwyd y gwahaniaeth mwyaf yn 2022 i 2023, a’r ail fwyaf yn 2024 i 2025). Mae gwrywod yn parhau i berfformio'n well na menywod mewn asesiadau rhifiadol ac mae'r gwahaniaeth yn cynyddu, tra bo menywod yn parhau i berfformio'n well na dynion mewn asesiadau darllen ac mae'r gwahaniaeth hwnnw hefyd yn cynyddu.

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Ffigur 5: Rhifedd (Gweithdrefnol) - cyrhaeddiad rhwng 2018/19 i 2024/25 yn ôl rhyw, mewn misoedd
Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart linell sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog benywod a gwrywod mewn Rhifedd (Gweithdrefnol), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlwyddyn 6 ym mhob blwyddyn academaidd.

Y prif bwyntiau
  • Yn gyffredinol, mae cyrhaeddiad cyfartalog gwrywod yn uwch na chyrhaeddiad benywod. 
  • Ym Mlwyddyn 6 (gweler Ffigur 5) roedd gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl rhyw o 10 mis a bu cynnydd yn y gwahaniaeth o un mis yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 2023 i 2024. Yn 2018 i 2019 y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd pedwar mis. Tyfodd y gwahaniaeth hwn yn raddol i naw9 mis erbyn 2022 i 2023 a 2023 i 2024, gyda chynnydd pellach i 10 mis yn 2024 i 2025.
  • Mae'r gwahaniaeth rhwng gwrywod a benywod yn cynyddu ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn (gweler tabl 5a yn y daenlen ategol). 
  • Yn 2024 i 2025, Blwyddyn 9 oedd â’r bwlch cyrhaeddiad mwyaf, sef 11 mis, tra bo Blwyddyn 2 â’r bwlch lleiaf, sef 3 mis.
Crynodeb

Ar gyfer Rhifedd (Gweithdrefnol) mae gwrywod yn parhau i berfformio'n well na benywod. Mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng gwrywod a benywod wedi cynyddu ychydig yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 2023 i 2024. Roedd y gwahaniaeth wedi cynyddu'n raddol rhwng 2020 i 2021 a 2022 i 2023, cyn lleihau yn 2023 i 2024.

Darllen (Cymraeg)

Ffigur 6: Darllen (Cymraeg) - cyrhaeddiad rhwng 2020/21 a 2024/25 yn ôl rhyw, mewn misoedd
Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart linell sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog benywod a gwrywod mewn Darllen Cymraeg, ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlwyddyn 6 ym mhob blwyddyn academaidd.

Y prif bwyntiau
  • Mae gwerthoedd cyrhaeddiad yn dangos yn gyson fod cyrhaeddiad cyfartalog benywod yn uwch na chyrhaeddiad gwrywod ar gyfer Darllen Cymraeg. 
  • Ym Mlwyddyn 6 (gweler Ffigur 6) y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd 14 mis, sef cynnydd o dri mis o'i gymharu â 2023/24. Yn 2020 i 2021 y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd 12 mis, gan ostwng i 11 mis erbyn 2022 i 2023, cyn cynyddu eto i 14 mis erbyn 2024 i 2025.
  • Yn 2024 i 2025, Blwyddyn 9 oedd â'r gwahaniaeth mwyaf mewn cyrhaeddiad, sef 28 mis, tra bo gan Flwyddyn 5 y gwahaniaeth lleiaf, sef 10 mis (gweler Tabl 6a yn y daenlen ategol).
  • Mae'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn cynyddu ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn.
Crynodeb

Ar gyfer Darllen Cymraeg, mae benywod yn parhau i gyflawni cyrhaeddiad uwch na gwrywod a bu cynnydd yn y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad i uchafswm newydd yn 2024 i 2025.

Mewn grwpiau blwyddyn iau, gostyngodd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn raddol rhwng 2020 i 2021 a 2022 i 2023, cyn cynyddu eto bob blwyddyn rhwng 2022 i 2023 a 2023 i 2024. Ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn gwelwyd y gostyngiad hwn yn 2023 i 2024, ond yna bu cynnydd mawr yn y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2024 i 2025 ar gyfer Blwyddyn 9.

Darllen (Saesneg)

Ffigur 7: Darllen Saesneg - cyrhaeddiad rhwng 2020/21 a 2024/25 yn ôl rhyw, mewn misoedd
Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart linell sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng benywod a gwrywod mewn Darllen Saesneg, ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlwyddyn 6 ym mhob blwyddyn academaidd.

Y prif bwyntiau
  • Yn gyffredinol mae gwerthoedd cyrhaeddiad benywod yn uwch na chyrhaeddiad gwrywod ar gyfer Darllen Saesneg.
  • Ym Mlwyddyn 6 (gweler Ffigur 7) roedd gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn ôl rhyw o 11 mis a bu cynnydd yn y gwahaniaeth o un mis yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 2023 i 2024. Yn 2020 i 2021 y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd 10 mis. Gostyngodd hyn i naw mis yn 2021 i 2022 cyn codi i 11 mis erbyn 2024 i 2025.
  • Mae'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn cynyddu ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn.
  • Yn 2024 i 2025, Blwyddyn 7 oedd â'r gwahaniaeth mwyaf mewn cyrhaeddiad, sef 19 mis, tra bo gan Flwyddyn 2 y gwahaniaeth lleiaf, sef pum mis (gweler Tabl 7a yn y daenlen ategol).
Crynodeb

Mae benywod yn parhau i berfformio'n well na gwrywod mewn Darllen Saesneg. Cynyddodd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad rhwng gwrywod a benywod yn 2024 i 2025 ar gyfer pob grŵp blwyddyn, o'i gymharu â'r holl flynyddoedd academaidd ers 2020 i 2021.

Rhifedd (Rhesymu)

Ffigur 8: Rhifedd (Rhesymu) - cyrhaeddiad rhwng 2021/22 a 2024/25 yn ôl rhyw, mewn misoedd
Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart linell sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng benywod a gwrywod mewn Rhifedd (Rhesymu), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlwyddyn 6 ym mhob blwyddyn academaidd.

Y prif bwyntiau
  • Mae gwerthoedd cyrhaeddiad yn dangos yn gyson fod cyrhaeddiad cyfartalog gwrywod yn uwch na chyrhaeddiad benywod ar gyfer Rhifedd (Rhesymu).
  • Ym Mlwyddyn 6 (gweler Ffigur 8), y gwahaniaeth oedd saith mis. Bu cynnydd o un mis yn y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2024 i 2025 o'i gymharu â 2023 i 2024. Yn 2021 i 2022 y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd 6.5 mis. Gostyngodd hyn yn raddol i 6.3 mis erbyn 2023 i 2024 cyn cynyddu i 7.1 mis yn 2024 i 2025.
  • Mae'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn cynyddu ar gyfer grwpiau blwyddyn hŷn.
  • Yn 2024 i 2025, Blwyddyn 7 oedd â'r gwahaniaeth mwyaf mewn cyrhaeddiad, sef 11 mis, tra bo gan Flwyddyn 2 y gwahaniaeth lleiaf, sef tri mis (gweler Tabl 8a yn y daenlen ategol).
Crynodeb

Mae gwrywod yn parhau i berfformio'n well na benywod mewn Rhifedd (Rhesymu). Arhosodd y gwahaniaeth cyrhaeddiad rhwng gwrywod a benywod yn gymharol sefydlog ar y cyfan, er gweld cynnydd bach rhwng 2021 i 2022 a 2024 i 2025.

Cyrhaeddiad yn ôl bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim

Mae'r rhan hon yn dadansoddi'r cyrhaeddiad a ddangosir yn y rhan gyntaf yn ôl bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac yn adrodd ar ffurf 'misoedd' cyrhaeddiad dysgwyr sy'n gymwys (eFSM) a dysgwyr nad ydynt yn gymwys (nFSM) i gael prydau ysgol am ddim. Gallwch weld enghraifft o'r modd y mae cyrhaeddiad yn cael ei ddadansoddi yn yr atodiad technegol.

Ar hyn o bryd gall dysgwyr fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu eu gwarcheidwaid yn cael budd-daliadau neu daliadau cymorth penodol sy'n dibynnu ar brawf modd neu drwy gynllun gwarchodaeth drosiannol, neu'r polisi prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd.  Ar gyfer y datganiad hwn rydym yn cynnwys dim ond dysgwyr sy’n gymwys os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn taliadau cymorth neu fudd-daliadau penodol sy'n dibynnu ar brawf modd.

Mae'r ffigurau isod yn dangos cyrhaeddiad dysgwyr eFSM ac nFSM ar gyfer Blwyddyn 6 ym mhob pwnc; mae data ar gyfer grwpiau blwyddyn eraill ar gael yn y set ddata ategol. Mae pob siart yn dangos y blynyddoedd yr oedd pob asesiad ar waith ar eu cyfer, ac eithrio 2019 i 2020, pan nad oedd digon o ddata ar gael oherwydd y tarfu a achoswyd gan COVID-19. Sylwer bod graddfa’r siartiau’n amrywio rhwng pynciau; felly, gall newidiadau tebyg yn y llinellau gynrychioli gwahanol wahaniaethau mewn cyrhaeddiad rhwng pynciau.

Crynodeb o gyrhaeddiad yn 2018 i 2019 hyd at 2024 i 2025 yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim

Mae'r gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol nodweddiadol o ran y bwlch mantais sydd wedi'u gweld yn eang ar draws llawer o astudiaethau ac sy'n cael eu hadlewyrchu yma, sef bod cyrhaeddiad dysgwyr eFSM yn sylweddol is na dysgwyr nFSM. Mae'r gwahaniaethau hyn yn amlwg yn y grwpiau blwyddyn iau ac wedi tyfu ar draws yr holl asesiadau yn y blynyddoedd hyd at Flwyddyn 9. 

O ran tueddiadau ers i'r asesiadau fod ar waith, ar gyfer yr asesiad Rhifedd (Gweithdrefnol) mae'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn parhau i fod yn gymharol sefydlog ar draws blynyddoedd academaidd ar y cyfan, er gweld cynnydd bach yn 2024 i 2025. Roedd Rhifedd (Rhesymu) hefyd yn gymharol sefydlog, gyda chynnydd neu ostyngiad bach o'i gymharu â 2024 i 2025. 

Cynyddodd y gwahaniaeth ar gyfer Darllen Cymraeg a Darllen Saesneg yn 2024 i 2025 o'i gymharu â 2023 i 2024 (ac eithrio Blwyddyn 9 ar gyfer Darllen Cymraeg a Blwyddyn 8 ar gyfer Darllen Saesneg, ac arhosodd y ddau yn gymharol sefydlog).  O ran Darllen Saesneg a Darllen Cymraeg, roedd y tueddiadau cyffredinol ar gyfer y gwahanol grwpiau blwyddyn o ddysgwyr dros amser naill ai’n dangos gostyngiad yn y gwahaniaeth ar gyfer dysgwyr eFSM yn 2021 i 2022 o gymharu â 2020 i 2021, ac yna gynnydd wedyn, neu fod y gwahaniaeth yn aros yn gymharol sefydlog dros amser.

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Ffigur 9: Rhifedd (Gweithdrefnol) - cyrhaeddiad rhwng 2018/19 a 2024/25 yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim, mewn misoedd
Image

Disgrifiad o ffigur 9: siart linell sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (eFSM) a dysgwyr nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim (nFSM) mewn Rhifedd (Gweithdrefnol), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlwyddyn 6 ym mhob blwyddyn academaidd.

Y prif bwyntiau
  • Mae gwerthoedd cyrhaeddiad yn dangos yn gyson bod cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr nFSM yn uwch na chyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr eFSM. 
  • Ym Mlwyddyn 6 (gweler Ffigur 9) y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd 23 mis, gan aros yn gymharol sefydlog rhwng 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Yn 2018 i 2019 y gwahaniaeth oedd 22 mis, gan gynyddu i 25 mis yn 2021 i 2022, cyn mynd yn ôl i 22 mis yn 2022 i 2023.
  • Yn 2024 i 2025, Blwyddyn 7 sydd â'r gwahaniaeth mwyaf mewn cyrhaeddiad, sef 30 mis, tra bo gan Flwyddyn 3 y gwahaniaeth lleiaf, sef 13 mis (gweler Tabl 9a yn y daenlen ategol).
Crynodeb

Yn gyffredinol yn asesiadau Rhiofedd (Gweithdrefnol) yn 2024 i 2025, mae'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad eFSM wedi aros yn gymharol gyson rhwng 2018 i 2019 a 2024 i 2025, gan amrywio ychydig o flwyddyn i flwyddyn, gyda chyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr nFSM yn uwch na chyrhaeddiad dysgwyr eFSM.

Darllen (Cymraeg)

Ffigur 10: Darllen (Cymraeg) - cyrhaeddiad rhwng 2020/21 a 2024/25 yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim, mewn misoedd
Image

Disgrifiad o ffigur 10: siart linell sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr eFSM a dysgwyr nFSM mewn Darllen Cymraeg, ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlwyddyn 6 ym mhob blwyddyn academaidd.

Y prif bwyntiau
  • Mae gwerthoedd gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn gyson yn dangos bod cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr nFSM ar gyfer Darllen Cymraeg yn uwch na chyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr eFSM.
  • Ym Mlwyddyn 6 (gweler Ffigur 10) roedd gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad o 31 mis yn 2024 i 2025, cynnydd o ddau fis o'i gymharu â 2023 i 2024. Yn 2020 i 2021 y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd 29 mis, gan ostwng i 23 mis yn 2021 i 2022, cyn cynyddu i 28 mis yn 2022 i 2023.
  • Yn 2024 i 2025, Blwyddyn 8 oedd â'r gwahaniaeth mwyaf mewn cyrhaeddiad, sef 45 mis, a Blwyddyn 2 oedd â'r gwahaniaeth lleiaf, sef 26 mis (gweler Tabl 10a yn y daenlen ategol).
Crynodeb

Yn 2024 i 2025, roedd y gwahaniaeth cyrhaeddiad ar gyfer dysgwyr eFSM yn Darllen Cymraeg yn fwy nag yn y blynyddoedd blaenorol ar gyfer y blynyddoedd iau, ar ôl cynyddu'n flynyddol ers 2021 i 2022, ac arhosodd yn sefydlog ar gyfer Blwyddyn 9.

Darllen (Saesneg)

Ffigur 11: Darllen (Saesneg) - cyrhaeddiad rhwng 2020/21 a 2024/25 yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim, mewn misoedd
Image

Disgrifiad o ffigur 11: siart linell sy'n dangos y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad cyfartalog rhwng dysgwyr eFSM a dysgwyr nFSM mewn Darllen Saesneg, ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlwyddyn 6 ym mhob blwyddyn academaidd.

Y prif bwyntiau
  • Mae gwerthoedd cyrhaeddiad yn gyson yn dangos bod cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr nFSM yn Darllen Saesneg yn uwch na chyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr eFSM.
  • Ar gyfer Blwyddyn 6 (gweler Ffigur 11)y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd 26 mis yn 2024i 2025, cynnydd o ddau fis ers 2023 i 2024. Yn 2020 i 2021, y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd 26 mis, gan ostwng i 25 mis yn 2022 i 2023.
  • Yn 2024 i 2025, Blwyddyn 7 sydd â'r gwahaniaeth mwyaf mewn cyrhaeddiad, sef 43 mis, ac roedd gan Flwyddyn 3 y gwahaniaeth lleiaf, sef 15 mis (gweler Tabl 11a yn y daenlen ategol).
Crynodeb

Ar gyfer Darllen Saesneg, cynyddodd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad FSM o'i gymharu â 2023 i 24 ar gyfer pob grŵp blwyddyn, gan gyrraedd y lefel uchaf a gofnodwyd hyd yma ar gyfer y mwyafrif o’r grwpiau blwyddyn.

Rhifedd (Rhesymu)

Ffigur 12: Rhifedd (Rhesymu) - cyrhaeddiad rhwng 2021/22 a 2024/25 yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim, mewn misoedd
Image

Disgrifiad o ffigur 12: siart linell sy'n dangos cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr eFSM a dysgwyr nFSM mewn Rhifedd (Rhesymu), ar gyfer y garfan o ddysgwyr a oedd ym Mlwyddyn 6 ym mhob blwyddyn academaidd.

Y prif bwyntiau
  • Mae gwerthoedd gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn dangos yn gyson fod cyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr nFSM mewn Rhifedd (Rhesymu) yn uwch na chyrhaeddiad cyfartalog dysgwyr eFSM.
  • Ar gyfer Blwyddyn 6 (gweler Ffigur 12)y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd 28 mis yn 2024 i 2025, cynnydd o 1 mis ers 2023 i 2024. Yn 2021 i 2022 y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad oedd 28 mis, a 27 mis yn 2022 i 2023.
  • Yn 2024 i 2025, Blwyddyn 9 oedd â'r gwahaniaeth mwyaf mewn cyrhaeddiad. sef 30 mis, a Blwyddyn 3 oedd â'r gwahaniaeth lleiaf, sef 14 mis.
Crynodeb

Yn 2024 i 2025 mae'r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad ar gyfer eFSM yn Rhifedd (Rhesymu) wedi cynyddu ychydig ar gyfer y mwyafrif o'r grwpiau blwyddyn, ond y patrwm cyffredinol dros amser yw bod y gwahaniaeth dros wahanol flynyddoedd academaidd yn parhau i fod yn gymharol sefydlog.

Cyrhaeddiad yn ôl ethnigrwydd

Er mwyn archwilio effeithiau ethnigrwydd ar gyrhaeddiad, mabwysiadwyd dull tebyg i'r dadansoddiadau eraill o newidynnau demograffig mewn adrannau blaenorol o'r adroddiad hwn drwy gymharu grwpiau ethnig unigol yn erbyn grŵp ethnig cyfeirio. Ar gyfer dadansoddiad o ethnigrwydd, dewiswyd Gwyn Prydeinig 2022 i 2023 fel y grŵp cyfeirio a'r flwyddyn. Roedd hyn oherwydd mai Gwyn Prydeinig yw'r grŵp ethnig mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu llinell sylfaen sefydlog i gymharu grwpiau eraill. Dewiswyd blwyddyn academaidd 2022 i 2023 gan mai hon oedd yr un a ddewiswyd ar gyfer dadansoddiadau eraill. Oherwydd y niferoedd bach o ddysgwyr mewn rhai grwpiau ethnig, caiff data yng Nghymru eu crynhoi i 19 o brif grwpiau ethnig. Yn yr adran hon, rydym yn canolbwyntio ar y grwpiau hynny a ddangosodd wahaniaeth ystadegol arwyddocaol o’u cymharu â dysgwyr Gwyn Prydeinig. Mae pwynt 0 ar yr echelin fertigol yn cynrychioli dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022 i 2023, ac rydym hefyd yn dangos cyrhaeddiad Gwyn Prydeinig mewn blynyddoedd academaidd eraill mewn perthynas â hyn. Gellir dod o hyd i'r set gyflawn o ddeilliannau yn ôl ethnigrwydd yn y tablau data sy'n cyd-fynd â'r adroddiad hwn.

Mae gwahaniaethau sy’n seiliedig ar 10 neu lai o achosion wedi'u hatal i ddiogelu cyfrinachedd data am ddysgwyr unigol. Yn y siartiau isod, nodir gwerthoedd sydd wedi’u hatal gyda’r symbol [c]. Mae’r graffiau isod yn cynnwys dim ond y grwpiau ethnig hynny lle mae gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol mewn deilliannau o’u cymharu â’r grŵp Gwyn Prydeinig. Felly, mae’n bosibl y bydd grwpiau ethnig gwahanol yn cael eu dangos ym mhob siart. Pan na chaiff grŵp ethnig ei ddangos, nid yw ei ddeilliannau’n ystadegol wahanol i ddeilliannau dysgwyr Gwyn Prydeinig. Mae gwahaniaethau cadarnhaol uwchlaw'r pwynt 0 ar yr echelin fertigol yn dangos bod gan y grŵp ethnig gyrhaeddiad uwch o'i gymharu â dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022 i 2023, tra bo gwahaniaethau negyddol yn dangos bod cyrhaeddiad y grŵp o ddysgwyr yn is na lefel y grŵp cyfeirio hwn.

Crynodeb o gyrhaeddiad yn ôl ethnigrwydd

Mae gwahaniaeth yn y cyrhaeddiad o blaid dysgwyr Tsieineaidd neu Brydeinig Tsieineaidd, Gwyn ac Asiaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall, ac unrhyw gefndir cymysg arall yn yr asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) a (Rhesymu) a Darllen Saesneg. Ar gyfer Darllen Cymraeg roedd y gwahaniaeth o ran cyrhaeddiad yn fwyaf amlwg o blaid Gwyn ac Asiaidd ac unrhyw gefndir Gwyn arall. 

Roedd gan ddysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr lefelau is o gyrhaeddiad ar draws pob asesiad, ym mhob blwyddyn academaidd y mae data asesu ar gael ar eu cyfer.

Cynyddodd y gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad ar gyfer grwpiau ethnig uwchlaw lefel dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022 i 2023 ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau ar draws pob pwnc yn 2024 i 2025, o'i gymharu â 2023 i 2024.

Rhifedd (Gweithdrefnol)

Ffigur 13: Rhifedd (Gweithdrefnol) - gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2018/19, 2022/23 a 2024/25 yn ôl ethnigrwydd, mewn misoedd, o'i gymharu â dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022/23
Image

Disgrifiad o ffigur 13: siart far sy'n dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad ar gyfer asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) rhwng gwahanol grwpiau ethnig o'i gymharu â dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022 i 2023.

Y prif bwyntiau
  • Yn 2024 i 2025 canfuwyd bod cyrhaeddiad dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn sylweddol is na lefel carfan 2022 i 2023 o ddysgwyr Gwyn Prydeinig.
  • Yn 2024 i 2025, roedd gan yr holl ddysgwyr eraill a ddangosir yn y siart gyrhaeddiad sylweddol uwch na lefel carfan 2022 i 2023 o ddysgwyr Gwyn Prydeinig, ac roedd gan y dysgwyr Tsieineaidd neu Brydeinig Tsieineaidd y cyrhaeddiad uchaf.

Darllen Cymraeg

Ffigur 14: Darllen (Cymraeg) - gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21, 2022/23 a 2024/25 yn ôl ethnigrwydd, mewn misoedd, o'i gymharu â dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022/23 [Nodyn 1]
Image

Disgrifiad o ffigur 14: siart far yn dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad ar gyfer asesiadau Darllen Cymraeg rhwng gwahanol grwpiau ethnig a dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022 i 2023. 

[Nodyn 1] mae'r [c] yn Ffigur 14 yn dynodi bod yr eitem o ddata yn datgelu gwybodaeth bersonol neu nad yw'r eitem yn ddigon cadarn i'w chyhoeddi.

Prif bwyntiau
  • Yn 2024 i 2025, roedd cyrhaeddiad dysgwyr Du Affricanaidd, Du Caribïaidd a Sipsi yn is na lefel carfan 2022 i 2023 o ddysgwyr Gwyn Prydeinig.
  • Yn 2024 i 2025, roedd cyrhaeddiad ar gyfer yr holl ddysgwyr eraill a ddangosir yn y siart yn uwch na lefel carfan 2022 i 2023 o ddysgwyr Gwyn Prydeinig.

Darllen Saesneg

Ffigur 15: Darllen (Saesneg) - gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2020/21, 2022/23 a 2024/25 yn ôl ethnigrwydd, mewn misoedd, o'i gymharu â dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022/23
Image

Disgrifiad o ffigur 15: siart far yn dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad ar gyfer asesiadau Darllen Saesneg rhwng gwahanol grwpiau ethnig o'i gymharu â dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022 i 2023.

Y prif bwyntiau
  • Yn 2024 i 2025 roedd cyrhaeddiad dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn is na lefel carfan 2022 i 2023 o ddysgwyr Gwyn Prydeinig.
  • Yn 2024 i 2025, roedd cyrhaeddiad yr holl ddysgwyr eraill a ddangosir yn y siart yn uwch na charfan 2022 i 2023 o ddysgwyr Gwyn Prydeinig.

Rhifedd (Rhesymu)

Ffigur 16: Rhifedd (Rhesymu) - gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad yn 2021/22, 2022/23 a 2024/25 yn ôl ethnigrwydd, mewn misoedd, o'i gymharu â dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022/23
Image

Disgrifiad o ffigur 16: siart far yn dangos y gwahaniaeth cyfartalog mewn cyrhaeddiad ar gyfer Rhifedd (Rhesymu) rhwng gwahanol grwpiau ethnig a dysgwyr Gwyn Prydeinig yn 2022 i 2023.

Y prif bwyntiau
  • Yn 2024i 2025 roedd cyrhaeddiad grwpiau Du Affricanaidd, Sipsi, Roma, Teithiwyr a Gwyn a Du Caribïaidd yn is na lefel carfan 2022 i 2023 o ddysgwyr Gwyn Prydeinig.
  • Yn 2024 i 2025, roedd cyrhaeddiad yr holl ddysgwyr eraill a ddangosir yn y siart yn uwch na lefel carfan 2022 i 2023 o ddysgwyr Gwyn Prydeinig.

Rhagor o wybodaeth

Dyma'r pedwerydd datganiad ar batrymau mewn Darllen a Rhifedd sy'n seiliedig ar ddata dienw ar lefel genedlaethol o asesiadau personol. Y bwriad yw y bydd datganiadau pellach yn defnyddio data asesiadau personol yn cael eu gwneud.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Graddfeydd wedi’u diweddaru ar gyfer anhawster cwestiynau

Mae graddfeydd anhawster cwestiynau yn cael eu diweddaru'n rheolaidd i roi'r wybodaeth fwyaf cywir sydd ar gael i athrawon a dysgwyr. Wrth inni gasglu mwy o wybodaeth o'r asesiadau personol, bydd ein dealltwriaeth o allu grwpiau blwyddyn yn tyfu a gellir diweddaru anhawster eitemau i adlewyrchu'r wybodaeth newydd hon. Cyflwynwyd graddfa anhawster newydd yn 2023/24 i sicrhau bod yr amcangyfrifon anhawster ar gyfer pob cwestiwn asesu mor gyfredol ac mor gynrychioliadol â phosibl o'r boblogaeth o ddysgwyr yng Nghymru. ac fe'u cyhoeddwyd gyntaf ym  mis Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: Medi 2018 i Awst 2024 yn y gyfres hon. Mae'r datganiad hwn yn parhau i ddefnyddio'r raddfa anodd newydd hon ond bydd cyhoeddiadau yn y gyfres hon cyn Mehefin 2025 yn defnyddio'r raddfa anhawster flaenorol am flynyddoedd hyd at a chan gynnwys 2022 i 2023 ac ni fyddant yn cyfateb i'r data yn y datganiad hwn ar gyfer yr un blynyddoedd academaidd hynny.  Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol yn yr adran Diweddaru'r raddfa anhawster eitemau yn yr atodiad technegol o’r cyhoeddiad ym mis Patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd: Medi 2018 i Awst 2024.

Datganiad am gymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn wirfoddol

Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu hystyried yn ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau cyn belled ag y bo modd yn ystod y gwaith o'u llunio.

Mae'r ystadegau hyn wedi'u datblygu'n gyflym ac wedi’u cyhoeddi cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd ein dysgwyr iau, ac effaith bosibl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw wedi bod yn bosibl bodloni'r gofynion canlynol ar gyfer ystadegau swyddogol eto:

  • Ni fu cyfle eto i ymgysylltu â defnyddwyr nag ydynt yn gweithio yn y sector addysg i ddeall yr hyn sydd ei angen arnynt o'r ystadegau hyn.

Rydym felly wedi cymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig) yn wirfoddol fel a ganlyn.

Hygrededd

Mae'r data wedi cael eu tynnu o systemau gweithredol a'u rhoi mewn tablau gan gontractwyr allanol sydd â phrofiad helaeth o ddadansoddi a chyflwyno gwybodaeth o'r fath, ac maent yn cynnwys ystadegwyr proffesiynol. Cafodd y datganiad ei gynhyrchu ar sail cyngor gan ystadegwyr sy'n gweithio dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol.

Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018. Rydym wedi sefydlu proses lywodraethu drylwyr gyda'r contractwr i sicrhau bod y data'n cael eu rheoli a'u hadolygu'n ddiogel cyn eu rhyddhau.

Ansawdd

Mae'r data yn y datganiad hwn yn deillio o'r asesiadau personol addasol ar lein a gyflawnir yn flynyddol gan bob dysgwr ym Mlynyddoedd 2 i 9. Mae hyn wedi'i baru â data demograffig am ddysgwyr o'n cyfrifiad ysgolion blynyddol. Mae'r ddwy ffynhonnell yn deillio o ysgolion, ac yn cael eu dilysu'n helaeth yn yr ysgolion unigol a phan fyddwn yn derbyn y data. Ystyrir bod y ffynonellau data hyn o ansawdd digonol i gefnogi'r dadansoddiad hwn. Cefnogir pob cam wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn gan ystadegwyr proffesiynol sy'n gweithio i'r contractwr a'r ystadegwyr o Grŵp Ystadegwyr y Llywodraeth.

Mae ein hoffer a'n prosesau casglu data wedi'u teilwra a'u mireinio i ddiwallu gofynion yr asesiadau hyn. Defnyddiwyd technegau a phecynnau ystadegol sefydledig a phrofedig i sicrhau bod y dadansoddiad yn un cadarn.

Sicrhawyd ansawdd yr holl ddata cyn eu cyhoeddi. Mae'r dadansoddiad wedi'i wirio gan ddadansoddwyr annibynnol, ac mae'r holl allbynnau wedi mynd trwy sawl cam adolygu.

Gwerth

Erbyn haf 2025 aseswyd dysgwyr yng Nghymru am y bedwaredd blwyddyn mewn Rhifedd (Rhesymu), gan nodi'r pwynt lle roedd o leiaf tair blynedd o ddata ar gyfer pob un o'r pedwar maes sy'n cael eu hasesu. Roedd hyn yn darparu digon o ddata i allu cyflwyno darlun cenedlaethol cadarn. Rydym wedi cyhoeddi'r datganiad hwn cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser, ac effaith bosibl pandemig COVID-19, yn enwedig ymhlith ein dysgwyr ieuengaf.

Mae'r ffigurau wedi'u cyhoeddi mewn fformat "Open Document Spreadsheet" hygyrch y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni. Mae’r data'n cael eu cyflwyno'n glir ym mhob tabl, ac mae’r daenlen hefyd yn cynnwys dalen eglurhaol sy’n rhestru pob tabl. Cafodd yr esboniad a'r nodiadau yn y datganiad eu datblygu fel bod yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr.

Mae'r data yn y datganiad hwn yn cael eu tynnu'n uniongyrchol o wybodaeth sydd ar gael i ysgolion, dysgwyr ac athrawon ar ôl cwblhau'r asesiadau ar-lein. Nid yw hyn yn rhoi unrhyw faich ychwanegol ar ddysgwyr, athrawon, ysgolion nac awdurdodau lleol.

Dyma'r pedwerydd datganiad o gyfres o ddatganiadau blynyddol ar ystadegau swyddogol sydd ar y gweill. Yn dilyn y datganiad hwn, byddwn yn ymgynghori â prif ddefnyddwyr ar gynnwys, amseriad a hygyrchedd y datganiad hwn. Byddwn yn defnyddio'r adborth hwnnw i wella datganiadau dilynol.

Perthnasedd

Pwrpas asesiadau personol yw cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd mewn darllen a rhifedd trwy roi adborth i ddysgwyr, ysgolion, rhieni a gofalwyr ar sgiliau a chynnydd. Ar lefel genedlaethol, gall data dienw o asesiadau personol hefyd ddarparu gwybodaeth am batrymau cyrhaeddiad a gwahaniaethau demograffig a allai helpu i gefnogi dealltwriaeth o dueddiadau addysgol yng Nghymru dros amser.

Cywirdeb

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r cyflenwr a benodwyd i gyflwyno'r asesiadau personol ar-lein er mwyn sicrhau bod yr holl ddata'n cael eu dilysu cyn cyhoeddi tablau. Mae'r broses yn cynnwys sawl cam awtomatig lle caiff y data eu dilysu a'u gwirio i sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr, er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel. 

Mae rhagor o wybodaeth am natur a gweinyddiaeth yr asesiadau personol i'w gweld ar dudalennau asesiadau personol Cymru (Hwb) gwefan Llywodraeth Cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r canlyniadau hyn yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl i helpu defnyddwyr i ddeall patrymau cyrhaeddiad mewn darllen a rhifedd dros amser ac effaith bosibl pandemig COVID-19. Cafodd yr asesiadau a drafodir yn y datganiad hwn eu gwneud hyd at ddiwedd tymor haf 2025.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff gwybodaeth am y Datganiad Ystadegol hwn ei rhyddhau cyn i’r datganiad gael ei gyhoeddi ar adran Ystadegau gwefan Llywodraeth Cymru. Mae Taenlen Open Document yn cyd-fynd ag ef.

Cymaroldeb

Mae'r asesiadau personol wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr ac athrawon yng Nghymru ac ni ellir eu cymharu â data asesu ar gyfer gwledydd eraill e.e. Tasgau Asesu Safonol (TASau) yn Lloegr.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni nodau Llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegau Ysgolion
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
 
Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR: 50/2026