Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i awdurdodau lleol ac ysgolion ar feini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddysgwyr cymwys mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 

Yr awdurdod lleol lle mae'r dysgwr yn mynd i'r ysgol (nid lle mae'n byw) sy'n:

  • darparu'r pryd ysgol am ddim
  • asesu cymhwystra

Bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru nawr yn gallu cael mynediad at Brydau ysgol am ddim i holl bant ysgolion cynradd. Mae'r canllawiau hyn felly'n cyfeirio at y dysgwyr hynny sy'n gymwys i gael pryd ysgol am ddim drwy'r meini prawf sy'n gysylltiedig â budd-daliadau.

At ddibenion y canllawiau hyn, mae 'rhiant' yn unrhyw berson sy'n gofalu am y plentyn, gan gynnwys rhieni maeth. Nid oes rhaid i'r plentyn fod yn byw gyda'r rhiant neu'r gofalwr sy'n ei wneud yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

Pwy sy'n gymwys

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynd i'r ysgol yn llawnamser. Maen nhw'n cynnwys: 

  • plant iau sy'n gwneud diwrnodau llawn yn y meithrin
  • ‌disgyblion ysgol chweched dosbarth

Mae'n bosibl y bydd disgybl yn gallu cael prydau ysgol am ddim os yw ei riant yn derbyn un neu fwy o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm.
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm.
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm.
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
  • Elfen warantedig Credyd Pensiwn.
  • Credyd Cynhwysol (cyhyd â bod incwm blynyddol net yr aelwyd yn llai na £7,400, heb gynnwys budd-daliadau).

Gall dysgwyr sy'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau hyn yn eu rhinwedd eu hunain (nid trwy riant) hefyd gael prydau ysgol am ddim.

Plant nad oes gan eu rhieni neu ofalwyr hawl i gyllid cyhoeddus 

Rydym yn annog awdurdodau lleol i arfer eu disgresiwn i ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i unrhyw blentyn y mae statws mewnfudo’i rieni yn golygu nad oes ganddo hawl awtomatig iddynt. Gall awdurdodau lleol benderfynu peidio â defnyddio’u pŵer cyfreithiol i godi tâl am brydau ysgol ar blant o deuluoedd sydd 'Heb hawl i gyllid cyhoeddus'. 

Dysgwyr mewn ysgol breifat

Nid oes rhaid i awdurdodau lleol ddarparu prydau ysgol am ddim i ddysgwyr mewn ysgol breifat neu annibynnol. 

Fodd bynnag, pan fo'r awdurdod lleol yn gosod disgyblion mewn ysgol annibynnol i ddiwallu eu hanghenion o dan ddatganiad neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) ceir darpariaethau:

  • yn Neddf Addysg 1996
  • yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

mewn perthynas â darparu ac ariannu bwyd a llety gan yr awdurdod lleol. Os na ellir diwallu anghenion dysgwr mewn ysgol a gynhelir, ni fyddem yn disgwyl iddynt fod yn waeth eu byd os cânt eu rhoi mewn ysgol annibynnol.

Os oes gan ddysgwr ysgoloriaeth neu fwrsariaeth, dylai'r rhieni edrych i weld a yw'r cyllid hwn yn cynnwys dyraniad ar gyfer prydau ysgol am ddim. 

Gwneud cais am brydau ysgol am ddim

Dylai fod ffurflen gais ar-lein a chanllawiau i rieni ar wefannau'r awdurdodau lleol. Dylai ysgolion ymgyfarwyddo â'r wybodaeth hon hefyd. 

Amddiffyniad wrth bontio

Fe wnaeth yr hawl i amddiffyniad o dan y darpariaethau dros dro yn y Gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio ddod i ben naill ai:

  • ar 31 Rhagfyr 2023, neu
  • ar ddiwedd y cyfnod presennol o addysg y disgybl cymwys (cynradd neu uwchradd) os yn ddiweddarach

Mae'n bwysig nodi, er bod y polisi wedi dod i ben, na ddylai unrhyw amddiffyniadau fod wedi dod i ben ar unwaith ar 1 Ionawr 2024.

Dylai dysgwyr barhau i gael prydau ysgol am ddim tan ddiwedd eu cyfnod ysgol os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:

  • bod y dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar dderbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau etifeddol ar 31 Mawrth 2019
  • daeth y dysgwr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar dderbyn Credyd Cynhwysol neu fuddion etifeddol o 1 Ebrill 2019 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2023

Mae hyn yn wir hyd yn oed os yw eu hamgylchiadau'n newid, ac nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwystra mwyach. 

I ddysgwyr sy'n:

  • dod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o 1 Ionawr 2024, neu'n
  • parhau i fodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim wrth iddynt symud i'r ysgol uwchradd

ni fydd eu hawl i brydau ysgol am ddim yn cael ei diogelu mwyach os yw eu hamgylchiadau'n newid. 

 Ceir rhagor o wybodaeth gan yr awdurdodau lleol.

Cofnodi dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim

Y ffordd fwyaf cyffredin o nodi amddifadedd cymdeithasol mewn ysgolion yw drwy ddefnyddio cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim fel procsi. Statws cymhwystra yw'r data mwyaf dibynadwy o hyd ar lefel disgyblion i ddeall:

  • pa ddysgwyr sydd wedi'u heffeithio fwyaf gan dlodi
  • lle mae angen cefnogaeth

Felly, mae'n bwysig cofnodi pa ddysgwyr sy'n:

  • gymwys i gael prydau ysgol am ddim (eFSM)
  • destun amddiffyniad wrth bontio
  • cael prydau am ddim drwy'r cynllun prydau ysgol an ddim i holl blant ysgolion cynradd

Defnyddir y data am gymhwystra i gael prydau ysgol am ddim mewn sawl ffordd ymarferol bwysig: 

  • Cwblhau'r dyraniadau cyllid i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cynnal Refeniw.
  • Pennu lefel y cyllid grant a ddyrennir i gyflwyno'r cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd yng Nghymru.
  • Cyfrifo a dosbarthu dyraniadau cyllid ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion (cyllid ar gyfer ysgolion) a'r Grant Hanfodion Ysgol (cyllid ar gyfer teuluoedd).

Mae deunyddiau cyfathrebu wedi'u datblygu i'ch helpu i barhau i roi gwybod i deuluoedd am bwysigrwydd a gwerth cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Newidiadau i amgylchiadau teuluol

Gall newid mewn amgylchiadau effeithio ar daliadau budd-daliadau. Gallai hyn gynnwys newid yn y canlynol: 

  • statws perthynas
  • costau gofal plant
  • oriau gwaith
  • lefelau incwm
  • amgylchiadau’r plentyn neu’r person ifanc
  • a yw rhiant yn gadael y DU am fwy na 4 wythnos

Dylai awdurdodau lleol annog rhieni i roi gwybod iddynt am unrhyw newid yn eu hamgylchiadau a allai effeithio ar eu hawl i brydau ysgol am ddim. Dylid eu hannog hefyd i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu eu Canolfan Byd Gwaith leol (yn dibynnu ar y budd-dal).