Neidio i'r prif gynnwy

1. Cynulleidfa

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am gynlluniau addysg personol (CAP) o fewn eu hysgol neu eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys:

  • y person dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal o fewn ysgolion
  • penaethiaid
  • llywodraethwyr
  • swyddogion awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am blant sy’n derbyn gofal (gan gynnwys cydgysylltwyr addysg plant sy’n derbyn gofal a phenaethiaid ysgolion rhithwir)
  • staff gwasanaethau cymdeithasol
  • swyddogion adolygu annibynnol
  • unedau cyfeirio disgyblion

Mae’n bosibl y darllenir y canllawiau hyn hefyd gan staff sefydliadau’r trydydd sector y mae eu gwaith yn helpu i gefnogi plant sy’n derbyn gofal.

2. Diben

Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau arfer da i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu CAP. Yn y canllawiau, mae ‘rhaid’ yn dynodi rhwymedigaeth sy’n deillio o statud, ac mae ‘dylai’ neu ‘dylid’ yn awgrymu argymhelliad sy’n arfer da.

3. Cyflwyniad

Datblygu'r canllawiau hyn

Bu Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol i lywio'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau hyn. Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynlluniau Addysg Personol o blith unigolion o awdurdodau lleol sydd â rôl strategol i hyrwyddo addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Roedd y grŵp gorchwyl a gorffen yn un o is-grwpiau'r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer addysg dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Mae'r Grŵp Cyflawni Cenedlaethol yn cynnwys rhanddeiliaid allanol sy'n gweithio i hyrwyddo a chefnogi deilliannau addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

Bu i Lywodraeth Cymru hefyd ymgysylltu â dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal ynghylch:

  • beth sy'n bwysig iddynt yn eu haddysg
  • beth y dylid ei gynnwys yn y canllawiau hyn

Adlewyrchir eu safbwyntiau drwy'r canllawiau cyfan. Rydym yn ddiolchgar iawn i'r bobl ifanc am rannu eu safbwyntiau. 

4. Cefndir a chyd-destun

Ymrwymiad Llywodraeth Cymru

Mae ‘Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru: Addewid Cymru’ yn nodi'r egwyddorion cyffredin y dylai pob corff a'i arweinwyr eu dilyn wrth ddarparu gwasanaethau (gan gynnwys addysg) i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Mae hyn yn cynnwys yr egwyddorion canlynol:

Addysg dda: byddwn yn darparu cyfleoedd a chymorth dysgu a datblygu i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal, a byddwn yn ei helpu i fod yr hyn y mae am fod.

Er nad yw plant sy'n derbyn gofal yn grŵp unffurf:

  • maent yn fwy tebygol o fod wedi wynebu trawma yn ystod eu bywyd, gan gynnwys camdriniaeth, esgeulustod neu golled
  • efallai y bydd angen cymorth arnynt i oresgyn anawsterau ymlyniad a all effeithio ar y ffordd y maent yn cymryd rhan yn yr ysgol, gan gynnwys eu hymddygiad a'u gallu i ganolbwyntio

Bydd rhoi'r cymorth cywir i blant a phobl ifanc yn eu helpu i wireddu eu potensial a symud ymlaen i gamau nesaf eu bywyd. 

Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar y ddealltwriaeth ganlynol:

  • bod pob plentyn sy'n derbyn gofal yn unigryw gyda'i gryfderau a'i anghenion ei hun
  • y dylai llais pob plentyn sy'n derbyn gofal gael ei glywed
  • bod pob plentyn sy'n derbyn gofal wrth wraidd y cynlluniau a roddir ar waith ar ei gyfer
  • y dylai pob plentyn sy'n derbyn gofal gael y cyfle a'r cymorth i feithrin cydberthnasau cadarnhaol a diogel ag oedolion a'u cyfoedion a rhyngweithio'n gymdeithasol â nhw
  • bod gan bob plentyn sy'n derbyn gofal yr hawl i gael addysg mewn amgylchedd diogel a chynhwysol sy'n galluogi, lle mae diwylliant o ddyheadau addysgol uchel
  • bod pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gallu ffynnu gyda'r sgiliau a'r cymorth cywir

Dylai oedolion sy'n galluogi dysgu sy'n gweithio gyda phlant sy'n derbyn gofal gynnig cymorth sy'n briodol o ran datblygiad ac addysgeg. Dylent:

  • barchu a hyrwyddo hawliau'r plentyn a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)
  • dathlu a gwerthfawrogi amrywiaeth a dangos cynhwysiant
  • darparu amgylcheddau emosiynol ddiogel sy'n helpu dysgwyr i fynegi a rheoli eu teimladau a'u hymddygiadau mewn ffyrdd cadarnhaol
  • cynnig gofal cyson, gan ddangos tosturi a charedigrwydd
  • helpu dysgwyr i ymdopi ag ansicrwydd a newid, gan eu paratoi ar gyfer cyfnodau pontio a newidiadau mewn arferion dyddiol
  • rhoi cyfleoedd i ddysgwyr feithrin ymlyniadau a chydberthnasau diogel, er mwyn iddynt fagu hunanhyder a gallu cymryd rhan yn gadarnhaol mewn gweithgareddau pob dydd
  • ymgysylltu â'r system ehangach o amgylch y plentyn, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr, cymorth therapiwtig, gweithwyr ieuenctid neu oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt, er mwyn integreiddio gofal a chymorth 

Mae canllawiau Galluogi dysgu y Cwricwlwm i Gymru yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion sy'n allweddol i sicrhau bod pob dysgwr yn dysgu mewn ffordd gyfannol ac ystyrlon.

Mae plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal wedi nodi bod athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion yn allweddol i'w cynnydd addysgol. Mae gan athrawon ac aelodau eraill o staff rôl hanfodol i'w chwarae fel ‘oedolion y gellir ymddiried ynddynt’ ac mae eu cefnogaeth yn sicrhau buddiannau fel:

  • mwy o hunan-hyder 
  • llai o bryderon 
  • mwy o ddiddordeb yn yr ysgol a chyflawniad gwell 

Dywedodd pobl ifanc wrthym sut yr hoffent gael eu cefnogi yn yr ysgol:

“Hoffwn gael mwy o le i ymlacio, neu i siarad yn breifat ag athrawon sy'n fy neall.” Person ifanc

“Mae angen i ysgolion gadw rhestr o blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, er mwyn i ni allu cael mwy o gymorth ac i'n helpu i wneud mwy o ffrindiau sydd â phrofiadau tebyg.” Person ifanc

“Mae angen i staff gael hyfforddiant ar sut i gefnogi pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Bydden nhw'n ein deall yn well a byddech chi'n gallu trafod sut rydych yn teimlo. Dylai fod person hŷn sydd wedi bod mewn gofal sy'n ein deall ac yn eirioli drosom.” Person ifanc

“I rai ohonom ni, yn enwedig pan fyddwn ni'n iau, yr ysgol yw ein man diogel. Ond os byddwch chi'n tynnu sylw at fân bethau drwy'r amser, pethau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni, er enghraifft os nad oes gennym ni'r wisg gywir neu'r holl lyfrau cywir, gall hynny wneud i ni deimlo'n anniogel mewn rhywle a ddylai fod yn fan diogel i ni. Ceisiwch ddangos dealltwriaeth. Gallai fod yn fwy anodd i ni gadw at y rheolau drwy'r amser.” Person ifanc

5. Dyletswyddau mewn perthynas ag addysg plant sy'n derbyn gofal

Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008

Mae Adran 20 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 yn nodi bod yn rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ddynodi aelod o staff (‘y person dynodedig’) yn gyfrifol am hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal yn yr ysgol. Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol p'un oes plant sy'n derbyn gofal ar gofrestr yr ysgol ai peidio. Mae angen i ysgolion fod yn barod i ymateb yn gyflym i anghenion plant sy'n derbyn gofal a all ymuno â'r ysgol ar fyr rybudd.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal. Mae Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi cyngor ar ddyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas â chynlluniau gofal a chymorth, gan gynnwys iechyd ac addysg.

Cynllun ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yw cynllun gofal a chymorth Rhan 6. Mae’n dwyn ynghyd yr holl wybodaeth allweddol o'r asesiad o anghenion datblygiadol y plentyn ac unrhyw asesiadau eraill o'r plentyn a'i deulu. Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol paratoi cynllun iechyd, CAP, a chynllun lleoli ar gyfer y plentyn. Dylai'r rhain fod yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn.

Mae'r darpariaethau o dan Ran 6 o'r Ddeddf hefyd yn gymwys i blant digwmni sy'n ceisio lloches. Mae ganddynt yr un hawliau a hawliadau â phlant sy'n derbyn gofal a anwyd yng Nghymru a'r DU.

Mae’r canllawiau hyn yn darparu cyngor pellach ar arferion da mewn perthynas â CAP, sy’n ategu’r dyletswyddau a amlygir yn y Cod. Nid gosod dyletswyddau ychwanegol ar awdurdodau lleol neu ysgolion yw bwriad y cyngor.

6. Diben cynllun addysg personol

Er mwyn cael effaith, dylai proses y CAP:

  • gefnogi a diwallu anghenion addysgol ac emosiynol y plentyn, gan ei alluogi i ffynnu yn ei leoliad addysg a gwireddu ei botensial yn llawn
  • bod yn gynllun effeithiol a phersonol o ansawdd uchel, y mae gan y plentyn berchnogaeth drosto
  • sefydlu ymhellach gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, fel y bo’n briodol, er enghraifft dylai’r CAP fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg (yn unol â Safonau’r Gymraeg) a dylai’r person ifanc allu cyfrannu ei safbwyntiau yn ei ddewis iaith (Cymraeg neu Saesneg)
  • bod yn ddogfen fyw (gyfredol) sy'n esblygu er mwyn pennu ac olrhain hynt targedau, monitro cynnydd a dangos sut mae gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio (ac yn bwriadu gweithio) gyda'r plentyn yn cefnogi ei addysg
  • cefnogi cyfathrebu a gwaith partneriaeth effeithiol rhwng pawb sy'n gyfrifol am y CAP (er enghraifft y darparwr addysg, swyddogion awdurdodau lleol, y plentyn a'i ofalwyr)

7. Gofynion sylfaenol cynllun addysg personol

Mae Cod Ymarfer Rhan 6 yn nodi’r canlynol:

  • yr wybodaeth y dylid ei chynnwys yn y CAP
  • amserlenni ar gyfer llunio’r CAP
  • trefniadau pontio
  • trefniadau trawsffiniol

Darllenwch y Cod ei hun i gael rhagor o wybodaeth.

8. Rhoi llais i'r plentyn

Ystyried safbwyntiau'r plentyn

Tynnodd pobl ifanc sylw at bwysigrwydd cael cyfleoedd i ddweud eu dweud a chael eu cymryd o ddifrif mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt:

“Gwrandewch arnom ni. Gofynnwch i ni beth fyddai'n ein helpu i ddysgu, gwrandewch ar yr hyn rydyn ni'n ei ddweud a gweithredwch arno. Ac os na allwch chi wneud yr hyn rydyn ni'n ei ofyn i chi, esboniwch pam.” Person ifanc

Y person pwysicaf ym mhroses y CAP yw'r plentyn. Mae gwrando ar ei lais yn hanfodol er mwyn deall ei anghenion a'u diwallu, a dylai hynny fod yn amlwg yn ei CAP. Yn ôl ei oedran a'i ddealltwriaeth, dylid ystyried ei safbwyntiau wrth nodi ei anghenion addysgol a phenderfynu ar gamau gweithredu ar lefel yr ysgol neu lefel unigol. Dylid rhoi adborth iddo ar sut y gweithredwyd ar ei safbwyntiau, a’r rhesymau dros unrhyw benderfyniadau a wnaed lle nad oedd hyn yn bosibl.

Gall y cyfranogiad hwn amrywio yn dibynnu ar y canlynol:

  • i ba raddau y mae'r plentyn neu’r person ifanc yn dymuno cymryd rhan neu'n cael ei gefnogi i wneud hynny
  • natur y materion a drafodir yn y cyfarfod CAP
  • yr hyn sydd orau i'r plentyn neu’r person ifanc ym marn y rhai sy'n ei adnabod 

Dylai aelod o staff yr ysgol neu oedolyn arall y gellir ymddiried ynddo, sydd â chydberthynas dda â'r dysgwr, ei gefnogi i fynegi ei safbwyntiau a nodi ei gryfderau, ei nodau a'i ddyheadau ei hun. Fel arall, gallai eiriolwr annibynnol gefnogi’r dysgwr i rannu ei safbwyntiau (er enghraifft drwy Tros Gynnal Plant neu’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol).

Mae'n bosibl y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn dymuno gwneud y canlynol:

  • aros am ran o'r cyfarfod CAP neu'r cyfarfod cyfan
  • rhannu ei safbwyntiau ei hun
  • peidio â mynd i’r cyfarfod, gan ddewis oedolyn i rannu ei safbwyntiau yn y cyfarfod 

Bydd cefnogi dysgwyr a'u gofalwyr i gymryd rhan ystyrlon ym mhroses y CAP yn eu helpu i wneud y canlynol:

  • teimlo'n hyderus y gwrandewir ar eu safbwyntiau ac y cânt eu gwerthfawrogi
  • bod yn ymwybodol o'u hawliau ac o'r cymorth sydd ar gael iddynt
  • meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb am eu dysgu a rheolaeth drosto

Mae'r dyfyniadau canlynol gan ddysgwyr sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn awgrymu nad yw pobl ifanc bob amser yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhroses y CAP:

“Dydw i erioed wedi gweld yr un o'r rhain, a ddylwn i fod wedi?”

“Os yw'r pethau hyn i fod i gael eu gwneud gyda ni, dydyn nhw ddim. Dydw i ddim yn siŵr a fyddai hyd yn oed yn ddefnyddiol gan fod y rhan fwyaf o'r problemau rwy'n eu hwynebu yn yr ysgol yn ymwneud â llesiant emosiynol neu leoliad. Rwy'n gallu gwneud y gwaith ysgol os oes gennyf y meddylfryd cywir. Dydw i ddim yn dwp, rwy'n glyfar iawn.”

“Rydw i wedi gweld y ddalen hon gyda'r bylchau arni o'r blaen, ac wedi ei llenwi. Ond doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd hi na beth roedd yn ei olygu.”

Ffyrdd o gasglu safbwyntiau plentyn neu berson ifanc

Dylid rhoi amser a gwybodaeth briodol i'r plentyn neu’r person ifanc er mwyn iddo:

  • ddeall proses y CAP 
  • gallu cymryd rhan ystyrlon ynddi yn ei ddewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) 

Gellid casglu ei safbwyntiau drwy:

  • sgwrs (yn achos plant iau, efallai y bydd hyn yn golygu siarad â’r plentyn tra bydd yn chwarae neu’n gwneud gweithgareddau creadigol)
  • holiadur
  • cynrychioliadau darluniadol

Mae'r ffordd y caiff safbwyntiau eu casglu yn dibynnu ar ei iaith, ei oedran, ei gam datblygu ac unrhyw anghenion ychwanegol a all fod ganddo. 

Adnoddau defnyddiol

Proffil Amdana i

Gall proffil Amdana I (proffil un dudalen) fod yn ddefnyddiol fel man cychwyn ar gyfer cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’n grynodeb syml o'r hyn sy'n bwysig i'r plentyn neu'r person ifanc a'r ffordd y mae am gael ei gefnogi. Mae’n helpu staff addysgu i gynllunio’n benodol ar gyfer ei anghenion.

Mae proffil Amdana i yn nodi gwybodaeth gadarnhaol am y plentyn ar un ddalen o bapur. Gallai gynnwys:

  • ‘beth mae pobl yn ei hoffi a'i edmygu amdanaf’
  • ‘beth sy'n bwysig i mi’
  • ‘y ffordd orau o fy nghefnogi’

Dylid cynnwys y plentyn neu'r person ifanc cymaint â phosibl wrth ddatblygu proffil Amdana i gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylid ei adolygu'n rheolaidd a chyn symud fel bod gan yr ysgol newydd ddarlun clir a chywir o'r plentyn neu'r person ifanc. Bydd hyn yn sicrhau bod y plentyn neu’r person ifanc yn cael ei gynnwys a’i gefnogi yn yr amgylchedd newydd.

Adnoddau defnyddiol

Llesiant emosiynol a meddyliol

Mae gan lesiant emosiynol ddylanwad cryf ar sgiliau gwybyddol fel: 

  • talu sylw
  • cofio
  • gweithredu goruchwyliol
  • cymhelliant i ddysgu
  • datrys problemau
  • rheoleiddio

Fel y cyfryw, mae llesiant emosiynol a meddyliol yn chwarae rôl annatod wrth gefnogi dysgu ac addysgu. Felly, mae angen iddo fod wrth wraidd proses y CAP a chael ei ymgorffori yn y broses addysgu ac ym mhob agwedd arall ar fywyd ysgol. 

Yn ôl y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth diweddaraf, gwnaeth 50% o'r holl blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth yng Nghymru ar 31 Mawrth 2023 ddechrau gwneud hynny am eu bod yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu'n wynebu risg o hynny. Roedd y gyfran yn uwch ar gyfer plant a oedd yn derbyn gofal (65%) o gymharu â phlant nad oeddent yn derbyn gofal neu ar y gofrestr amddiffyn plant (33%). Mae'r profiadau niweidiol hyn yn ystod plentyndod yn cynyddu'r risg y bydd unigolyn yn wynebu heriau iechyd meddwl yn ystod ei blentyndod neu fel oedolyn. Gall problemau iechyd meddwl ddwysáu anawsterau ym maes addysg ymhellach.

Mae cefnogi llesiant emosiynol plentyn neu berson ifanc yn ei alluogi i ffynnu a gwireddu ei botensial yn llawn. Felly, mae'n hanfodol bod iechyd a llesiant y plentyn yn cael eu hystyried fel rhan o broses y CAP. Un ffordd o gefnogi’r rhai sydd wedi profi adfyd a thrawma yn ystod eu plentyndod yw mabwysiadu dull gweithredu ac arferion sy’n ystyriol o drawma. Fel sail i arferion da cyson, comisiynodd Llywodraeth Cymru Hyb ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru i ddatblygu fframwaith arferion sy’n ystyriol o drawma i Gymru. Mae’r ‘Pecyn Cymorth ar gyfer Sefydliadau sy’n Wybodus ynghylch Trawma ac ACE (TrACE)’ yn adnodd ymarferol i hwyluso gweithredu’r fframwaith.

Mae ‘Fframwaith Llywodraeth Cymru ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol’ yn rhoi arweiniad i ysgolion a lleoliadau addysg ar sut i gefnogi llesiant emosiynol a meddyliol da. Caiff hyn ei gyflawni drwy hyrwyddo amgylchedd diwylliannol cadarnhaol mewn ysgolion, lle:

  • mae plant a phobl ifanc yn meithrin cydberthnasau cadarnhaol â staff a dysgwyr eraill 
  • mae cydberthnasau yn cael eu hatgyfnerthu

Disgwylir i uwch-dimau arwain ysgolion ystyried eu dysgwyr sy'n fwy agored i niwed (gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal) wrth ddatblygu eu cynllun llesiant. Dylai hyn fod yn rhan o broses wella ehangach yr ysgol, er mwyn sicrhau ei bod yn diwallu anghenion dysgwyr. Mae'r fframwaith yn cynnwys canllawiau i ysgolion ar gasglu amrywiaeth o ddata a gwybodaeth y gellir eu defnyddio i lywio llesiant dysgwyr a staff yr ysgol a'i ddeall. 

Er mwyn cefnogi llesiant emosiynol a meddyliol plant sy'n derbyn gofal, mae'n fuddiol i ysgolion weithio gyda system gymorth ehangach y person ifanc. Mae hyn yn cynnwys:

  • gweithwyr cymdeithasol
  • gofalwyr
  • gweithwyr cymorth therapiwtig
  • gweithwyr ieuenctid
  • sefydliadau’r trydydd sector
  • oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt

Lle mae plant sy'n derbyn gofal yn cael cymorth iechyd meddwl, dylai staff addysg:

  • fod yn ymwybodol o'r ymyriad
  • deall y dull a ddefnyddir ac unrhyw ymddygiad afreolus neu newid ymddygiadol a all ddeillio ohono

Tynnodd pobl ifanc sylw at bwysigrwydd sicrhau bod staff ysgolion yn dilyn dull gweithredu sy'n ystyriol o drawma er mwyn cefnogi eu cynnydd yn yr ysgol:

“Mae'r hyn sydd wedi digwydd i ni yn llunio pwy ni ydyn a'r ffordd rydyn ni'n ymateb i sefyllfaoedd penodol. Mae pob plentyn sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi wynebu trawma. Mae cael eich derbyn i ofal yn drawma ynddo'i hun. Mae hynny'n golygu ei bod hi'n bosibl y byddwn ni'n ymateb i rai sefyllfaoedd mewn ffordd wahanol i rywun arall. Gwnewch yn siŵr bod pawb sy'n gweithio ym maes addysg yn deall hyn fel eu bod yn deall sut y gallwn ni ymateb i bethau a sut i'n helpu i deimlo'n ddiogel a'n bod yn cael ein cefnogi.” Person ifanc

“Rwy'n croesawu gair tawel gan yr athro i ofyn ydw i'n iawn os yw'n gwneud hynny heb dynnu sylw'r myfyrwyr eraill. Mae gennyf i ac un athro ein cod unigryw ein hunain. Bydd y ddau ohonon ni'n edrych ar ein gilydd a bydda i'n nodio fy mhen yn gyflym er mwyn dangos fy mod i'n iawn.” Person ifanc

“Mae'r cymorth rydw i wedi ei gael yn yr ysgol wedi bod yn wych. Mae gennyf gydberthynas arbennig â phob athro, p'un a yw wedi fy addysgu ai peidio.” Person ifanc

Adnoddau defnyddiol

9. Proses y cynllun addysg personol

Cylch o ymgynghori, cynllunio ac adolygu yw proses y CAP a ddylai sicrhau bod y plentyn neu’r person ifanc yn gallu gwireddu ei botensial yn llawn. Mae'n bwysig bod:

  • llais y person ifanc yn ganolog i’w CAP
  • y CAP yn cael ei drin fel ‘dogfen fyw’

Rhaid ei adolygu mewn partneriaeth â’r ysgol, y plentyn a gofalwyr y plentyn, fel rhan o’r adolygiad statudol o’r cynllun gofal a chymorth ehangach. Dylid adolygu’r CAP pan ddaw newid sylweddol i fywyd y plentyn neu’r person ifanc. Ystyrir mai’r arfer gorau yw cynnal yr adolygiad o’r CAP ar wahân i’r adolygiad trosfwaol o blant sy’n derbyn gofal.

Camau proses y CAP

Dylai fod gan yr awdurdod lleol broses sicrhau ansawdd mewn perthynas â CAP.

Y plentyn yn cyrraedd gofal

  • Llunio CAP fel rhan o gynllun gofal a chymorth Rhan 6.
  • Yn achos lleoli plentyn ar frys, rhaid llunio’r CAP o fewn 10 diwrnod gwaith.

Y cyfarfod CAP cyntaf

Awgrymir gwahodd y canlynol:

  • gweithiwr cymdeithasol
  • y plentyn sy’n derbyn gofal (os yw’n briodol)
  • athro dynodedig
  • uwch staff yr ysgol
  • gofalwr neu riant maeth
  • eiriolwr

Dylai’r cyfarfodydd gael eu harwain gan uwch staff yr ysgol neu’r athro dynodedig.

  • Rhaid i fersiwn o’r CAP fod ar gael ar gyfer cyfarfod adolygu statudol cyntaf cynllun gofal a chymorth Rhan 6.
  • Yr amserlen statudol yw 20 diwrnod ar ôl cyrraedd gofal neu lety.

Cyfarfodydd CAP dilynol

Tra bo’r plentyn mewn gofal, mae’r ysgol yn gyfrifol am gwblhau a diweddaru’r CAP.

Pan fydd plentyn yn troi’n 16 oed

Bydd yr awdurdod lleol yn paratoi cynllun llwybr i hwyluso’r broses o bontio i fod yn oedolyn a gadael gofal.

Cynllun datblygu unigol (CDU)

  • Lle bo’n berthnasol, dylid ymgorffori’r CDU yn y CAP.
  • Dylid adolygu CDU bob blwyddyn o leiaf.
  • Gellir paratoi, adolygu neu ddiwygio’r CDU ar yr un pryd â’r CAP.

10. Llunio, datblygu ac adolygu'r cynllun addysg personol (CAP)

Pwysleisiodd pobl ifanc bwysigrwydd aros yn yr un ysgol, fel eu bod yn teimlo'n fwy sefydlog a sicr:

“Pan fyddwn ni'n cael ein derbyn i ofal, gweithiwch gyda'n gweithwyr cymdeithasol a phwy bynnag arall er mwyn ein helpu i aros yn ein hysgol ein hunain, os yw'n ddiogel i ni wneud hynny. Llwyddais i aros yn fy ysgol, a gwnaeth hynny wahaniaeth gwirioneddol i mi. Roedd yr athrawon yn fy adnabod yn barod, roedden nhw'n fy nghefnogi yn barod.” Person ifanc

Cyfarfod CAP

Pwyntiau allweddol:

  • Mae pob plentyn a pherson ifanc yn unigryw. Bydd y rhai sy'n bresennol yn y cyfarfod yn dibynnu ar anghenion pob dysgwr a'r bobl sy'n ymwneud â'r broses o'i gefnogi. Dim ond gweithwyr proffesiynol neu oedolion cefnogol y mae angen iddynt fod yn rhan o'r cyfarfod ddylai fod yno, fel bod y plentyn neu’r person ifanc yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn cymryd rhan yn y cyfarfod. 
  • Ystyrir ei bod yn arfer dda cynnal yr adolygiad o'r CAP ar wahân i'r adolygiad o'r plentyn sy'n derbyn gofal fel bod modd cynnal adolygiad trylwyr. Pan fydd y cyfarfod CAP yn rhan o'r adolygiad ehangach o'r plentyn sy'n derbyn gofal, gall gynnwys trafod materion sy'n ysgogi ymateb emosiynol gan y person ifanc, gan liwio'r drafodaeth am y CAP. Dywedodd plant sy'n derbyn gofal y canlynol:

“Dim ond yn gyflym y mae ein haddysg yn cael ei thrafod yn yr adolygiad ehangach o ofal. Yr unig beth wnaethon nhw ei ofyn i ni oedd a oedden ni'n ‘gwneud yn dda’ yn yr ysgol. Ni ofynnodd neb i ni am ein barn ac ni chafodd y cynllun ar gyfer ein haddysg na'r camau nesaf eu trafod yn fanwl. Does dim digon o amser yn yr adolygiad o'r plentyn sy'n derbyn gofal i gael trafodaeth iawn am ein haddysg a dyw gwasanaethau cymdeithasol ddim yn rhoi digon o ffocws ar hynny. Ni ofynnodd neb i ni beth hoffem ni ei drafod.”

  • Dywedodd plant sy'n derbyn gofal nad ydynt am orfod gadael eu gwersi ar gyfer cyfarfod CAP neu gyfarfod adolygu gofal. Felly, lle bo modd, dylid cynnal cyfarfodydd y tu allan i amseroedd gwersi. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid darparu ystafell briodol er mwyn sicrhau preifatrwydd ar gyfer y cyfarfod, lle bydd y plentyn neu’r person ifanc yn teimlo’n gyfforddus.
  • Dylid rhoi digon o rybudd i'r plentyn neu’r person ifanc er mwyn paratoi ar gyfer y cyfarfod (er enghraifft, ystyried yr hyn y mae am ei ddweud neu a yw am i rywun fod yn bresennol yn y cyfarfod gydag ef).
  • Dylid defnyddio iaith sensitif ac empathetig i gofnodi gwybodaeth am y person ifanc yn y CAP. Dylid cofio y gall y person ifanc ddarllen yr hyn a ysgrifennir amdano. Gall y ffeithlun hwn (sy'n defnyddio canfyddiadau o Brosiect Innovate a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol) fod yn ddefnyddiol.
  • Mae Templed Monitro ac Adolygu CAP Ysgol Rithwir PDG Caerdydd yn darparu enghraifft o sut y gellir cofnodi gwybodaeth cyfarfod CAP.

Dylid gwneud pob ymdrech i ystyried a bodloni dewisiadau'r person ifanc o ran y canlynol:

  • p'un a ddylid cynnal y cyfarfod wyneb yn wyneb neu'n rhithwir (gallai cyfarfod rhithwir fod o gymorth i blant sy’n siarad Cymraeg a addysgir mewn sir arall, yn enwedig lle maent mewn lleoliadau heb staff sy’n siarad Cymraeg)
  • p'un a yw am fod yn bresennol yn y cyfarfod neu a fyddai'n well ganddo i oedolyn y gellir ymddiried ynddo rannu ei safbwyntiau
  • pwy yr hoffai ei gefnogi yn y cyfarfod
  • pa amser o'r dydd y dylid cynnal y cyfarfod 

Rhoddodd pobl ifanc yr adborth canlynol am eu cyfarfod CAP:

  • “Os byddaf yn teimlo y byddaf yn cael fy meirniadu, ni fyddaf yn dweud dim.”
  • “Os mai dim ond newydd gyfarfod â ni ydych chi, rhowch amser i ni ymgyfarwyddo.”
  • “Gofynnir i mi a wyf am fod yn rhan o'r cyfarfod.”
  • “Nid wyf yn hoffi mynd i gyfarfodydd. Mae syr yn dweud yr hyn rwyf am ei ddweud ar fy rhan yn y cyfarfod.”
  • “Rwy'n hoffi mynd i gyfarfodydd a dweud yr hyn rwy'n ei hoffi ac nad wyf yn ei hoffi.”
  • “Mae'n well gennyf (gyfarfodydd CAP) ar-lein gan fod hyn yn llai lletchwith. Weithiau gall fod 5 person o amgylch y bwrdd, felly gall fod yn frawychus.”

Sicrhau ansawdd y CAP

Mae'r awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn neu’r person ifanc a'r ysgol neu’r lleoliad addysg yn gyfrifol ar y cyd am ansawdd y CAP. 

Ni ddylid trin y CAP fel ymarfer ‘blwch ticio’

Wrth weithio gydag ysgolion neu leoliadau addysg, dylai fod gan yr awdurdod lleol broses sicrhau ansawdd ar waith sy’n sicrhau’r canlynol:

  • bod safbwyntiau a dyheadau'r plentyn neu’r person ifanc wedi'u cofnodi, gan gynnwys ei ddewis iaith (Cymraeg neu Saesneg)
  • bod yr holl wybodaeth statudol a nodir yng Nghod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi'i chasglu (gweler adran 4)
  • bod rhwystrau'r plentyn neu’r person ifanc i wneud cynnydd neu gyflawni wedi'u dadansoddi a bod cynllun priodol i ymdrin â'r rhain
  • bod cynlluniau i gefnogi'r plentyn neu’r person ifanc wrth symud:
    • rhwng dosbarthiadau yn yr ysgol
    • rhwng lleoliadau, ysgolion a darparwyr addysg bellach neu hyfforddiant
    • i ysgol arall o ganlyniad i newid mewn lleoliad
  • bod y camau sy'n cael eu rhoi ar waith i gefnogi'r plentyn neu’r person ifanc yn ymarferol a bod cysylltiad clir rhyngddynt â'r dadansoddiad o anghenion a chryfderau
  • bod pawb yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am gefnogi'r plentyn neu’r person ifanc mewn perthynas â rhoi'r CAP ar waith 
  • bod llwybr cynnydd clir o ran y deilliannau perthnasol (er enghraifft, deilliannau lles neu academaidd), gwelliannau mewn lefelau presenoldeb neu leihad yn yr ymddygiad sy’n arwain at eithrio dysgwr
  • bod llwybr clir ar gyfer sicrhau darpariaeth addysg o ansawdd uchel lle nad yw plentyn neu berson ifanc mewn ysgol neu leoliad addysg arall (dylid nodi sut y caiff y plentyn neu’r person ifanc a'i ofalwyr eu cefnogi fel bod modd iddo gael ei ailintegreiddio i leoliad addysgol priodol)

Adolygu'r CAP

Dylid trin y CAP fel ‘dogfen fyw’ (sy’n weithredol ac yn esblygu) sy'n helpu i feithrin dealltwriaeth a rennir o ran sut y gall pawb gefnogi'r plentyn neu’r person ifanc i lwyddo.

Argymhellir ei bod yn arfer dda adolygu’r CAP:

  • o leiaf bob 6 mis er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yng nghyfarfod adolygu'r plentyn sy'n derbyn gofal
  • pan fydd y plentyn yn wynebu unrhyw newid sylweddol yn ei fywyd (er enghraifft newid lleoliad, newid ysgol, troi'n 16 oed)

Dylai'r adolygiad o'r CAP fod yn gyfle i sicrhau:

  • bod y targedau presennol yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ddigon heriol
  • bod y dulliau a roddwyd ar waith i gefnogi cynnydd y plentyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau'r plentyn, yn ôl y bwriad

Dylai’r prosesau CAP a sefydlir gan yr awdurdod lleol:

  • gydnabod yr heriau i athrawon o ran llwyth gwaith
  • sicrhau bod y prosesau yn syml ac yn hawdd eu dilyn

Trefniadau pontio

Mae Cod Ymarfer Rhan 6 yn nodi’r trefniadau y dylid eu gwneud pan fo plentyn yn newid ysgol o ganlyniad i newid mewn lleoliad.

Pontio i addysg ôl-16

Trafododd pobl ifanc eu cynlluniau ar ôl gadael yr ysgol a'r gefnogaeth y byddai ei hangen arnynt:

“Rydw i am fod yn farbwr, Rwy'n credu bod angen talent naturiol arnoch chi a llygad at fanylder er mwyn gwneud hyn. Dydw i ddim am weithio i rywun arall, bydd gennyf fy stiwdio fy hun. Dydw i erioed wedi dysgu sut i sefydlu busnes fel hyn yn yr ysgol.” Person ifanc

“Mae gennyf anabledd, dyslecsia a dyspracsia. Oherwydd fy anawsterau cydsymud, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd eistedd a gwrando mewn gwersi, ond hefyd ymdopi â'r agwedd ymarferol ar fywyd pob dydd. Doeddwn i ddim yn gallu ennill yn yr ysgol, a nawr rwyf wedi gadael yr ysgol a does gen i ddim swydd. Rwy'n mynd i Inspire ond bydd hynny'n dod i ben yn fuan, a dydw i ddim yn gwybod beth fydda i'n ei wneud.” Person ifanc

Mae Cod Ymarfer Rhan 6 yn nodi gofynion mewn perthynas â phroses bontio'r plentyn i addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth. Dylid ystyried hyn ar y cyfle cyntaf posibl.

Nodyn: Dywedodd pobl ifanc a oedd yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd Profiad o Ofal ym mis Mawrth 2024 fod angen i drafodaethau am lwybrau yn y dyfodol ac addysg ôl-16 ddechrau'n gynt ar gyfer dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Roeddent yn teimlo bod llawer o newidiadau'n cael eu gwneud pan fydd plentyn yn 16 oed a bod hynny'n rhy hwyr i ddechrau trafodaethau am opsiynau addysg uwch.

Dylai staff awdurdodau lleol weithio'n agos gyda'r cydgysylltydd ymgysylltiad a chynnydd a'r cydgysylltydd digartrefedd ymysg pobl ifanc i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal sy'n wynebu risg o ymddieithrio neu o ddigartrefedd yn cael eu cefnogi a bod ganddynt gynllun pontio i leoliad ôl-16 priodol.

Mae’r cydgysylltydd ymgysylltiad a chynnydd a'r cydgysylltydd digartrefedd ymysg pobl ifanc yn chwarae rôl hanfodol wrth roi'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid ar waith. Mae rôl y cydgysylltydd ymgysylltiad a chynnydd yn ymwneud ag:

  • atal pobl ifanc rhag ymddieithrio o ddysgu
  • cefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant

Mae rôl y cydgysylltydd digartrefedd ymysg pobl ifanc yn canolbwyntio ar atal pobl ifanc rhag dod yn ddigartref.

11. Rolau a chyfrifoldebau

Mae canllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer y person dynodedig i weithio gyda phlant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion yn nodi rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol allweddol mewn perthynas ag addysg plant sy’n derbyn gofal.

12. Plant ag anghenion dysgu ychwanegol

O dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY), fel rheol, gosodir dyletswyddau ar yr awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn i nodi ADY a pharatoi a chynnal CDU ar gyfer y plentyn sy'n derbyn gofal.

Mae'r Cod ADY gorfodol yn nodi bod yn rhaid i CDU ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal gael ei ymgorffori yn CAP y plentyn. Diben hyn yw cefnogi dull cyfannol a sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal a'r ddarpariaeth addysgol ehangach a wneir ar ei gyfer yn ategu ei gilydd.

Caiff cynlluniau datblygu unigol eu hadolygu bob blwyddyn o leiaf. Lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol, gall y CDU gael ei baratoi, ei ddiwygio a'i adolygu ar yr un pryd â'r CAP.

Mae Pennod 14 o'r Cod ADY a’r canllawiau atodol ar anghenion dysgu ychwanegol a phlant sy’n derbyn gofal yn darparu gwybodaeth ar:

  • benderfyniadau am ADY
  • paratoi a chynnal CDU
  • sicrhau bod y DDdY sydd wedi’i chynnwys mewn CDU yn cael ei gweithredu

Gallai astudiaeth achos arfer effeithiol Estyn ar ddull ysgol gyfan o gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol fod yn adnodd buddiol.

13. Trefniadau trawsffiniol

Mae Cod Ymarfer Rhan 6 yn nodi’r trefniadau y dylid eu gwneud ar gyfer addysg neu hyfforddiant plentyn neu berson ifanc cyn i unrhyw leoliad gael ei wneud. Dylai’r rhain fod yn gyson â'r CAP.

Rhaid i unrhyw benderfyniadau am dderbyniadau hefyd fod yn gyson â Chod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

14. Templedi CAP

Mae Cod Ymarfer Rhan 6 yn nodi’r wybodaeth y dylid ei chynnwys yn y CAP. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru ddefnyddio templed cyffredin. Dylai’r ysgol gwblhau’r CAP sy’n berthnasol i awdurdod lleol cartref y plentyn neu’r person ifanc (ei riant corfforaethol), ni waeth ym mha awdurdod lleol y caiff ei addysgu. Gallai’r templedi CAP a ddefnyddir gan Ysgol Rithwir CLA CaerdyddRhondda Cynon Taf ddarparu syniadau i awdurdodau lleol eraill.

15. Rhagor o wybodaeth a ffynonellau cymorth

Ffynonellau cymorth

  • Mae Adoption UK Cymru yn darparu cymorth a gwasanaethau ledled Cymru ac yn cydweithio â'i bartneriaid yn y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. 
    e-bost: wales@adoptionuk.org.uk
    Llinell gymorth: 0300 666 0006 (dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 2.30pm)
  • Mae Rhwydwaith Maethu Cymru yn cefnogi gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eraill drwy ddarparu gwasanaethau dysgu a datblygu, ymchwil a gwybodaeth. 
    e-bost: wales@fostering.net
    Ffôn: 029 20 440940
  • Mae Voices From Care Cymru yn ymrwymedig i gynnal hawliau a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
    e-bost: info@vfcc.org.uk
    Ffôn: 029 2045 1431
  • Mae Tros Gynnal Plant Cymru yn gweithio gyda rhai o'r plant, pobl ifanc a theuluoedd mwyaf agored i niwed ac sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf yng Nghymru.
    e-bost: admin@tgpcymru.org.uk
    Ffôn: 029 2039 6974
  • Mae'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion mewn sefyllfaoedd bregus yng Nghymru a Lloegr. Mae'n cynnig eiriolaeth, cymorth eiriolaeth iechyd meddwl, monitro, diogelu, a gwasanaethau cyfreithiol.
    e-bost: help@nyas.net
    Llinell gymorth: 0808 808 1001 (dydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 8pm. dydd Sadwrn: 10am i 4pm.).
  • Mae Comisiynydd Plant Cymru yn cynnig llinell gyngor gyfrinachol yn rhad ac am ddim i helpu plant a phobl ifanc sy’n teimlo na anrhydeddwyd eu hawliau.
    e-bost: post@complantcymru.org.uk
    Ffôn: 0808 801 1000
  • Plant yng Nghymru yw'r corff ambarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Mae wedi creu adnoddau i gefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal.
    e-bost: info@childreninwales.org.uk
    Ffôn: 029 2034 2434
  • Mae Gyrfa Cymru yn helpu pobl ifanc i gynllunio eu gyrfa, paratoi i gael swydd, a dod o hyd i'r prentisiaethau, y cyrsiau a'r hyfforddiant cywir a gwneud cais amdanynt.
    Manylion cyswllt: Cysylltu â Ni Gyrfa Cymru
    Ffôn: 0800 028 4844 (dydd Llun i ddydd Iau: 9am i 5pm. dydd Gwener: 9am i 4.30pm.) 
  • Mae Gweithgareddau i Bobl sy'n Gadael Gofal a Chymorth i Fyfyrwyr (CLASS Cymru) yn cynnig cynghorion i bobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal (neu’r rhai sy'n eu cefnogi) ac yn darparu dolenni at adnoddau defnyddiol i'w helpu i fanteisio ar addysg bellach ac addysg uwch. 
  • Meic yw’r llinell gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
    Ffôn: 080880 23456
  • Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth annibynnol yn rhad ac am ddim er mwyn cael yr addysg iawn i blant a phobl ifanc ag ADY ac anableddau.
    e-bost: enquiries@snapcymru.org
    Ffôn: 0808 8010608
  • Mae’r Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru ar gael i bob plentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol. Gall rhieni a gofalwyr sydd â phlant mewn unrhyw flwyddyn o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 11 wneud cais am £125 fesul dysgwr a chyllid ychwanegol ar gyfer ysgol eu plant. Gall teuluoedd â phlant sy’n dechrau ym Mlwyddyn 7 wneud cais am £200 er mwyn helpu gyda chostau uwch dechrau yn yr ysgol uwchradd. Gellir hawlio unwaith fesul plentyn ym mhob blwyddyn ysgol.

Rhagor o wybodaeth

Adnoddau ar-lein

Llyfrau

  • Inside I’m hurting: Practical strategies for supporting children with attachment difficulties in schools gan Louise Michelle Bombèr (Worth Publishing, 2007).
  • Know Me To Teach Me: Differentiated discipline for those recovering from adverse childhood experiences gan Louise Michelle Bombèr (Worth Publishing, 2020).
  • The Trauma and Attachment Aware Classroom gan Rebecca Brooks (Jessica Kingsley Publishers, 2019).
  • The A to Z of Trauma-Informed Teaching gan Sarah Naish, Anne Oakley, Hannah O'Brien, Sair Penna a Daniel Thrower (Jessica Kingsley Publishers, 2023).
  • When the Adults Change, Everything Changes: Seismic shifts in school behaviour gan Paul Dix (Independent Thinking Press, 2017).