Gwneud gwahaniaeth: canllaw i’r person dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion
Sut y dylai’r unigolyn penodedig mewn ysgolion gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad gofal mewn ysgolion.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rôl y person dynodedig
Disgwylir i'r person dynodedig wneud y canlynol:
- deall y system gofal a'r effaith emosiynol y gall trawma a bod mewn gofal ei chael ar ddeilliannau addysgol plentyn
- ymgymryd â hyfforddiant priodol, a diweddaru ei wybodaeth a'i ddealltwriaeth er mwyn ymateb i anghenion dysgu penodol plant sy'n derbyn gofal
- hyrwyddo datblygiad addysgol plant sy'n derbyn gofal a datrys problemau pan fyddant yn codi
- dangos ymrwymiad i sicrhau deilliannau gwell ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal ynghyd â'r rhai sydd ar ffiniau gofal (yn aml, mae cefndir mewn gofal bugeiliol a phrosesau diogelu yn ofyniad allweddol)
Mae'r rôl yn galw am gyfathrebu effeithiol â:
- sefydliadau eraill fel yr awdurdod lleol (adrannau addysg a gwasanaethau cymdeithasol)
- y plentyn neu berson ifanc a'i ofalwyr
Mae'n bwysig:
- bod gan yr unigolyn y profiad i arwain, herio a chynghori eraill
- bod dulliau cyfathrebu amserol a chynhwysfawr rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a darparwyr addysg er mwyn osgoi oedi wrth roi cymorth effeithiol i blant sy'n derbyn gofal
Mewn ysgolion lle ceir niferoedd mawr o blant sy'n derbyn gofal, gall y corff llywodraethu neu'r pennaeth enwebu aelod o'r tîm arwain i fod yn berson dynodedig. Yna, gallai'r person dynodedig gydlynu trosolwg o'r plant sy'n derbyn gofal yn yr ysgol, gan gydgysylltu â'r canlynol:
- tiwtoriaid dosbarth
- penaethiaid blwyddyn
- swyddogion lles addysg
- gweithwyr ieuenctid
- arweinwyr dysgu
- swyddogion cynhwysiant
Dylai'r person dynodedig sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau tuag at y plant ar agweddau fel:
- monitro presenoldeb dyddiol
- gwiriadau cynnydd
- monitro llesiant emosiynol
- cwblhau cynlluniau addysg personol (CAPau)
Nid yw cael person dynodedig yn lleihau cyfrifoldeb penaethiaid. Y pennaeth yw'r prif weithiwr proffesiynol ac mae'n gyfrifol am ansawdd y dysgu a'r addysgu ac am gyflawniad pob dysgwr yn yr ysgol.
Dylai'r corff llywodraethu:
- ymgynghori â'r pennaeth wrth wneud y penderfyniad o ran pwy fydd y person dynodedig
- bod yn fodlon bod y person dynodedig yn blaenoriaethu addysg plant sy'n derbyn gofal
Dylai'r penderfyniad ynghylch pwy ddylai gyflawni rôl y person dynodedig fod yn seiliedig ar ffactorau fel:
- y strwythurau rheoli presennol yn yr ysgol
- maint yr ysgol
- nifer y plant sy'n derbyn gofal a'u hanghenion penodol, a all amrywio'n sylweddol
- a yw'r aelod o staff eisoes yn ymgymryd â rôl strategol, gynhwysol neu fugeiliol
Mae angen i'r person dynodedig weithio gyda chorff llywodraethu'r ysgol i sefydlu a goruchwylio polisi'r ysgol. Mae hyn yn golygu:
- hyrwyddo dyheadau uchel ar gyfer plant sy'n derbyn gofal
- monitro deilliannau dysgu
- grymuso staff yr ysgol i gyfrannu at y broses o addysgu plant sy'n derbyn gofal a rhoi profiadau dysgu ehangach iddynt
- cynnal sgyrsiau â phlant sy'n derbyn gofal er mwyn deall a diwallu eu hanghenion
- dangos empathi â phlant sy'n derbyn gofal a deall cymhlethdod eu bywydau
Llesiant a chymorth
Dylai'r person dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal sicrhau'r canlynol:
- y caiff llesiant plant sy'n derbyn gofal ei fonitro'n effeithiol ac y caiff ei anghenion lles eu diwallu
- bod plant sy'n derbyn gofal yn cael eu hailintegreiddio i'r ysgol i gael cymorth a bod cynllun pontio er mwyn sicrhau bod y broses yn llwyddiannus
- ei fod yn ymgymryd â hyfforddiant i gyflawni dyletswyddau llawn y rôl yn effeithiol
Cydweithio a rhannu gwybodaeth
Dylai'r person dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal sicrhau'r canlynol:
- bod yr ysgol yn rhannu ac yn cefnogi disgwyliadau uchel ar gyfer y plentyn sy'n derbyn gofal
- bod yr ysgol yn ystyried cynnal prosiectau sy'n gwella dyheadau, ynghyd â mentora cynlluniau (gan bobl sydd â phrofiad o ofal o bosibl) er mwyn cefnogi plant sy'n derbyn gofal
- bod yr wybodaeth ar gofrestr yr ysgol am blant sy'n derbyn gofal yn gyfredol (er enghraifft manylion gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr, ynghyd â manylion unrhyw unigolion na ddylai'r plentyn gael cysylltiad â nhw)
- bod diwylliant o gydweithio cadarnhaol yn cael ei feithrin a phan fydd anawsterau cyfathrebu yn codi â gweithwyr cymdeithasol neu ofalwyr, y cysylltir â'r cydlynydd Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal (neu'r unigolyn yn yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am addysg plant sy'n derbyn gofal
- y caiff gwybodaeth am addysg ei rhannu'n gyflym rhwng asiantaethau ac unigolion yn unol â'r gyfraith
- bod cyfnod pontio plentyn sy'n derbyn gofal o'r feithrinfa i'r ysgol, o addysg gynradd i addysg uwchradd ac o addysg orfodol mewn ysgol i addysg ôl-16 yn cael ei gydlynu'n esmwyth gyda phob partner dan sylw
- bod gwaith cynllunio ar gyfer cyfnodau pontio i addysg ôl-16 yn dechrau'n gynnar, yn ddelfrydol ar ddiwedd Blwyddyn 9 pan fydd dysgwyr yn gwneud eu dewisiadau TGAU
- bod pob plentyn yn cael cyngor diduedd annibynnol ar yr amrywiaeth lawn o opsiynau ôl-16 sydd ar gael iddynt, gan gynnwys dysgu galwedigaethol a dysgu seiliedig ar waith
- bod pob plentyn yn deall pa lwybrau datblygu sydd ar gael iddynt a'r cymwysterau y bydd eu hangen arnynt
- y cynhelir deialog reolaidd â'r plant er mwyn rhoi cymorth yn amgylchedd yr ysgol
- y caiff anghenion addysgol pob plentyn eu nodi a bod ymyriadau priodol yn cael eu rhoi ar waith
- y caiff plant sy'n derbyn gofal sydd ag anghenion dysgu ymddygiadol ychwanegol eu hatgyfeirio at yr awdurdod lleol, a fydd yn nodi a darparu ar gyfer eu hanghenion cymorth
- y caiff atgyfeiriadau eu gwneud at wasanaethau cymorth (er enghraifft gwasanaethau cwnsela yn yr ysgol) fel sy'n briodol
- drwy weithio gyda'r pennaeth, y caiff cynnydd addysgol plant sy'n derbyn gofal ei adrodd i'r corff llywodraethu bob tymor
- y caiff cofrestr y plant sy'n derbyn gofal yn yr ysgol ei chadw'n gyfredol
- y cedwir mewn cysylltiad rheolaidd â'r swyddog lles addysg i drafod materion, gan gynnwys presenoldeb gwael
Arferion cyfarfod
Dylai'r person dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal sicrhau'r canlynol:
- y caiff digon o amser ei neilltuo i'r ysgol gael ei chynrychioli yn yr adolygiad o'r plant sy'n derbyn gofal
- y caiff yr holl gyfarfodydd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal (am resymau sy'n gysylltiedig ag amgylchiadau eu gofal) eu cynnal y tu allan i amseroedd gwersi (os nad yw hyn yn bosibl, dylid darparu ystafell briodol er mwyn sicrhau preifatrwydd ar gyfer y cyfarfod)
- mai dim ond aelodau o staff yr ysgol sy'n hanfodol i'r cyfarfod hwnnw fydd yn bresennol ym mhob cyfarfod â phlant sy'n derbyn gofal
- y caiff CAP ei lunio mewn partneriaeth â'r plentyn, rhiant neu aelod perthnasol o'r teulu, gofalwr, gweithiwr cymdeithasol ac unrhyw berson perthnasol arall
- bod y CAP ar gael yn y cyfarfod adolygu plant sy'n derbyn gofal (dylid cynnal yr adolygiad CAP ar wahân i'r adolygiad cyffredinol o blant sy'n derbyn gofal)
- bod y CAP a'r canllawiau ar gael gan y cydlynydd Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal (neu'r person sy'n gyfrifol am addysg plant sy'n derbyn gofal)
- na chaiff plant sy'n derbyn gofal eu hamlygu i anghydfodau dros gyllid a chyfrifoldebau mewn cyfarfodydd
- yr eir i'r afael ag unrhyw faterion sy'n bygwth y lleoliad ysgol ar unwaith (dylid cymryd pob cam i atal achosion o wahardd, gan gynnwys rhoi cymorth bugeiliol ar waith, atgyfeirio at gymorth ymddygiad a chynnwys y Gwasanaeth Lles Addysg)
Ceir rhagor o wybodaeth am amserlenni rhan amser yn y canllawiau ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’.
Mae'n bwysig cofio y dylai rhaglenni ymyrraeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal fod yn seiliedig ar weithio mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Cymru sy'n Ystyriol o Drawma. Defnyddiwch raglenni cyffredinol sydd ar gael i bob plentyn a pherson ifanc yn hytrach na rhai sydd wedi'u cyfyngu i blant sy'n derbyn gofal. Gall rhaglenni o'r fath greu llai o stigma a bod o fudd i grŵp ehangach o blant.
Cynlluniau Addysg Personol (CAPau)
Mae'r CAP yn gofnod o addysg a hyfforddiant y plentyn. Dylai ddogfennu'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt i helpu plant sy'n derbyn gofal i gyflawni eu potensial llawn ac i adlewyrchu (ond nid dyblygu) unrhyw gynlluniau addysg presennol fel cynllun datblygu unigol (CDU).
Gweler Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) i gael rhagor o wybodaeth am CAPau.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i lunio canllawiau manwl ar y CAP a gaiff eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Pwysigrwydd rôl y person dynodedig
Dylai rôl y person dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal fod yr un mor amlwg yn yr ysgol â rolau allweddol eraill fel:
- y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (cydlynydd ADY)
- y person diogelu dynodedig
Cefndir i’r rôl
Drwy Cenhadaeth ein cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod pob plentyn:
- yn cymryd rhan ac yn mwynhau dysgu
- yn cael yr addysg orau bosibl i ddatblygu ac ehangu ei wybodaeth, ei sgiliau a'i brofiad
Bydd hyn yn eu helpu i fod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad ac amcan llesiant ein Rhaglen Lywodraethu i wneud y canlynol:
- parhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg
- sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi
Mae'r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn cynnwys 8 ymrwymiad ar gyfer trawsnewid gwasanaethau plant. Un o'r rhain yw cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel rhiant corfforaethol. Mae hyn er mwyn helpu i sicrhau bod plant sydd â phrofiad o ofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phob plentyn arall.
Mae'r person dynodedig yn allweddol wrth helpu i gyflawni'r ymrwymiadau hyn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
Mae’r ddyletswydd statudol i benodi ‘person dynodedig’ yn berthnasol yng nghyd-destun:
- plant sydd ar hyn o bryd yn derbyn gofal neu’n cael eu lletya gan yr awdurdod (gweler a.74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- pobl ifanc categori 2 neu 3 yn ystyr a.104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (i gael canllawiau pellach, gweler Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n cael eu Lletya), paragraff 399)
Fodd bynnag, byddem yn annog y person dynodedig i gefnogi plant eraill sydd â phrofiad o ofal hefyd, gan gynnwys y rheini a fabwysiadwyd, pan fo'n briodol. Mae hyn yn cydnabod, yn aml, bod plant sydd wedi cael eu mabwysiadu neu a adawodd ofal o dan Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig, fel plant mewn gofal, wedi profi trawma, camdriniaeth, esgeulustod a cholled a all effeithio ar eu gallu i ffynnu mewn amgylchedd ysgol.
Plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal:
- nid ydynt yn grŵp homogenaidd ond gallant fod wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod yn ystod eu bywydau (fel camdriniaeth, esgeulustod neu golled)
- gall fod angen cymorth arnynt i oresgyn anawsterau ymlyniad a all effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio a'u hymddygiad yn yr ysgol
- dylid rhoi'r cymorth cywir iddynt i'w helpu i gyflawni eu potensial a symud ymlaen i gamau nesaf eu bywyd
At ddibenion y canllawiau hyn, mae’r term ‘plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal’ yn cynnwys:
- plant sydd ar hyn o bryd yn derbyn gofal neu’n cael eu lletya gan yr awdurdod (gweler a.74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- pobl ifanc categori 1 i 6 yn ystyr a.104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- plant a fabwysiadwyd
Mae plant wedi dweud eu bod yn ffafrio'r term ‘Plant sy'n derbyn gofal’ felly dyma'r derminoleg a ddefnyddir yn y canllawiau hyn. Yng nghyd-destun y canllawiau hyn, mae ‘plant sy'n derbyn gofal’ yn cyfeirio at blant a phobl ifanc mewn gofal ar hyn o bryd.
Ceir amrywiaeth o ffactorau a all greu rhwystrau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth gael addysg. Mae'r rhain yn cynnwys materion sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
- y system gofal fel symud tŷ a lleoliadau ysgol yn aml sy'n tarfu ar gyfleoedd dysgu
- effeithiau economaidd gymdeithasol fel incwm isel, teulu'n chwalu a thrawma yn ystod plentyndod
- iechyd meddwl a llesiant gwael a all arwain at anawsterau pellach mewn addysg
- anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gan gynnwys:
- oedi gwybyddol ac oedi wrth ddatblygu iaith
- diffyg rheolaeth emosiynol
- anawsterau ymddygiadol
- anghenion niwroddatblygiadol
Mae'n bwysig deall y canlynol:
- sut y gall amgylchiadau plant a phobl ifanc effeithio ar eu dysgu
- bod pob plentyn yn unigryw
- bod angen rhoi cymorth i bob plentyn gan oedolion sydd ar gael yn emosiynol a all hwyluso dyheadau uchel a heriau priodol
Gall Pecyn Cymorth Sefydliadau Ystyriol o Drawma a Hyb ACE Cymru (TrACE) roi arweiniad ar hyn.
Ynglŷn â’r canllawiau hyn
Canllawiau statudol yw'r rhain sy'n ymwneud â'r person dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Cânt eu cyflwyno gan Weinidogion Cymru o dan adran 20(4) Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008’ (‘Deddf 2008’). Rhaid i gyrff llywodraethu roi ystyriaeth i'r canllawiau hyn wrth arfer eu swyddogaethau o dan adran 20 o Ddeddf 2008.
Prif ffocws y canllawiau hyn yw rôl y person dynodedig mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Mae hefyd yn cwmpasu cyfnod pontio i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal:
- o'r cyfnod cyn ysgol i addysg orfodol
- i addysg bellach ac uwch
Mae'r canllawiau hyn hefyd yn berthnasol i leoliadau addysg ôl-16 pan fydd person dynodedig ar gyfer:
- plant sy'n derbyn gofal
- pobl ifanc
- pobl sy'n gadael gofal
- plant neu bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
Nid oes unrhyw ddyletswydd ar unedau cyfeirio disgyblion i ddynodi aelod o staff ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Fodd bynnag, byddem yn annog unedau cyfeirio disgyblion i ddilyn yr arfer da a geir yn y canllawiau hyn.
Mae'r canllawiau hyn:
- yn nodi'r safonau gofynnol a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru
- yn egluro cyfrifoldebau'r person dynodedig er mwyn sicrhau ymarfer cyson mewn ysgolion a gynhelir
Dylai'r person dynodedig ymgymryd â'r rôl am flwyddyn academaidd lawn o leiaf.
Mae'r adrannau canlynol yn nodi'r dyletswyddau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r rôl. Mae'r dyletswyddau hyn yn berthnasol p'un a oes plant sy'n derbyn gofal ar gofrestr yr ysgol ai peidio. Mae angen i ysgolion fod yn barod i ymateb yn gyflym i anghenion plant sy'n derbyn gofal sy'n ymuno â'r ysgol ar fyr rybudd.
Adran 20 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008
Mae Adran 20(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 yn nodi bod yn rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ddynodi aelod o staff yn yr ysgol (“y person dynodedig”) yn gyfrifol am hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sydd wedi'u cofrestru yn yr ysgol sy'n:
(a) derbyn gofal ar hyn o bryd, ac
(b) sy'n cael eu cynnwys o fewn is-adran (6)
Mae Adran 20(5) yn diffinio person sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol at ddibenion is-adran (1)(a).
Mae Adran (20)(6)(ba) yn nodi bod gan y person dynodedig hefyd gyfrifoldeb dros bobl ifanc categori 2 a chategori 3 yn ystyr adran 104(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Yn ôl diffiniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (adran 74), mae cyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gyfeiriad at blentyn:
- sydd yn ei ofal, neu
- y mae llety wedi ei ddarparu iddo gan yr awdurdod lleol, yn rhinwedd ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, am gyfnod parhaus o fwy na 24 awr
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n Cael eu Lletya) yn amlinellu dyletswyddau awdurdodau lleol o ran cynllunio ‘gofal a chymorth’ ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ac sy’n cael eu lletya.
‘Cynllun gofal a chymorth’ Rhan 6 yr awdurdod lleol yw’r cynllun cyffredinol ar gyfer y plentyn sy’n derbyn gofal, ac mae’n tynnu ynghyd i un lle yr holl wybodaeth allweddol sy’n ymwneud ag anghenion datblygu’r plentyn, gan gynnwys:
- unrhyw asesiad arall o’r plentyn a’i deulu
- cynllun addysg personol, cynllun iechyd a chynllun lleoli’r plentyn
Mae Cod Rhan 6 hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sefydlogrwydd mewn addysg. Mae’n darparu:
- wrth benderfynu lle i leoli plentyn sy’n derbyn gofal, y dylai awdurdod lleol wneud popeth posibl i darfu cyn lleied â phosibl ar addysg y plentyn
- os yw plentyn yng Nghyfnod Allweddol 4 (Blwyddyn 10 ac 11), y dylid gwneud ymdrech arbennig i sicrhau na therfir ar ei addysg yn sgil newid lleoliad
Mae hyn yn cydnabod y gall symud plant yng nghanol cwrs TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) amharu'n ddifrifol ar eu cyfle i gael:
- y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu i addysg bellach neu uwch
- cyflogaeth
Mae Rhan 6 o'r Ddeddf hefyd yn gymwys i blant sy'n ceisio lloches, gan roi'r un hawliau a hawliadau iddynt ag i unrhyw blant eraill sy'n derbyn gofal.
Dylai’r awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth â’r plentyn, yr ysgol (gan gynnwys y person dynodedig), gofalwyr a theuluoedd, a gweithwyr proffesiynol eraill i ddatblygu ac adolygu cynllun gofal a chymorth Rhan 6, er mwyn iddo adlewyrchu’n llawn anghenion y plentyn, a sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn cael ei weithredu.
Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015
Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol paratoi:
- cynllun iechyd ar gyfer y plentyn
- CAP ar gyfer y plentyn
- cynllun lleoli
Dylai'r rhain fod yn rhan annatod o gynllun gofal a chymorth Rhan 6 cyffredinol y plentyn.
Polisi ysgol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal (a phlant sydd â phrofiad o ofal)
Gyda'r pennaeth, dylai'r corff llywodraethu wneud y canlynol:
- llunio polisi ar gyfer plant sy'n derbyn gofal (gan gynnwys plant sydd â phrofiad o ofal)
- monitro'r polisi a'r broses o'i roi ar waith yn yr ysgol yn rheolaidd
Rhaid i'r polisi gydymffurfio â'r gofynion i wneud y canlynol:
- dynodi aelod o staff i fod â chyfrifoldeb am hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal (adran 20(1) o Ddeddf 2008)
- sicrhau bod y person dynodedig yn ymgymryd â hyfforddiant priodol (adran 20(2) o Ddeddf 2008)
Dylai'r polisi gynnwys y canlynol o leiaf:
- trefniadau'r ysgol ar gyfer derbyn plant sy'n derbyn gofal
- sut y bydd yr ysgol yn monitro data presenoldeb, asesu a chyflawniad plant sy'n derbyn gofal
- ‘trefniadau dal i fyny’ pan nodir bylchau yn addysg y plentyn
- sut y caiff y plentyn ei annog i ymgysylltu â chlybiau ar ôl ysgol, cyngor yr ysgol neu sesiynau adolygu ychwanegol
- trefniadau i sicrhau y caiff CDUau eu cwblhau a phresenoldeb mewn cyfarfodydd adolygu amlasiantaethol effeithiol
- camau gweithredu a gymerir i osgoi gwahardd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a sut y cefnogir y rhai sy'n wynebu risg o gael eu gwahardd (gweler y canllawiau Gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion)
- trefniadau pontio ar gyfer pan fydd plentyn yn gadael yr ysgol am ei fod yn symud lleoliad neu ar adeg gadael naturiol
- cyfeiriad ym mhrosbectws yr ysgol at y canllawiau a'r person dynodedig a enwir ar gyfer plant sy'n derbyn gofal
- cyfeiriad at blant sydd â phrofiad o ofal a'r cymorth a gânt o hyd
Siarter rhianta corfforaethol
Mae ‘Siarter Rhianta Corfforaethol: Addewid Cymru’ yn nodi'r egwyddorion cyffredin y dylai pob corff a'i arweinwyr eu dilyn wrth ddarparu gwasanaethau (gan gynnwys addysg) i blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal. Mae hyn yn cynnwys yr egwyddorion canlynol:
‘Addysg Dda: Byddwn yn darparu cyfleoedd a chymorth dysgu a datblygu i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal, a byddwn yn ei helpu i fod yr hyn mae am fod.’
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth rhianta corfforaethol:
- sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am yr egwyddorion
- sy'n rhoi enghreifftiau o sut y gellid datblygu rhianta corfforaethol mewn lleoliad addysg
- a gaiff ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu enghreifftiau o arfer da
Gall unrhyw un gofrestru ar gyfer y Siarter Rhianta Corfforaethol, gan gynnwys lleoliadau ysgol ac awdurdodau lleol. Rydym yn annog pawb i ddod yn rhiant corfforaethol i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Datganiad yr uwchgynhadledd diwygio radical
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad yn ei Rhaglen Lywodraethu i “ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal”. Fel rhan o'r gwaith hwn, a gaiff ei hwyluso gan Voices from Care Cymru, cafodd Datganiad ei lunio ar y cyd rhwng Gweinidogion a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Dyletswyddau eraill mewn perthynas ag addysg plant sy'n derbyn gofal
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn amlinellu hawliau sylfaenol pob plentyn, ni waeth beth fo'i hil, crefydd neu alluoedd). Ymhlith yr hawliau a gaiff eu cynnwys mae’r canlynol:
- mae gan bob plentyn hawliau, heb wahaniaethau o unrhyw fath (Erthygl 2)
- dylai lles pennaf y plentyn fod yn brif flaenoriaeth ym mhob penderfyniad a gweithred sy'n effeithio arnynt (Erthygl 3)
- mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i fynegi ei safbwyntiau, ei deimladau a'i ddymuniadau ym mhob mater sy'n effeithio arno, ac i'w safbwyntiau gael eu hystyried a'u cymryd o ddifrif (Erthygl 12)
- rhaid i blant na allant dderbyn gofal gan eu teulu eu hunain dderbyn gofal yn briodol gan bobl sy'n parchu eu crefydd, eu diwylliant a'u hiaith (Erthygl 20)
- pan gaiff plant eu mabwysiadu, rhaid i'r hyn sydd orau iddynt fod yn brif ystyriaeth (Erthygl 21)
- dylai plant sy’n dod i wlad fel ffoaduriaid gael yr un hawliau â phlant a anwyd yn y wlad honno (Erthygl 22)
- mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i addysg, ni waeth beth fo'u hil, rhywedd, anabledd, statws cadw, neu statws ffoadur (Erthygl 28)
- dylai addysg ddatblygu personoliaeth a doniau pob plentyn yn gyflawn (Erthygl 29)
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (‘y Ddeddf ADY’)
Mae'r Ddeddf ADY yn gwneud darpariaeth ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Gyda'i gilydd mae rheoliadau'r Ddeddf ADY a wnaed o dan y ddeddf a'r Cod ADY ar gyfer Cymru yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer ADY yng Nghymru. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol ac ysgolion mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal ag ADY.
O dan y system ADY, mae gan blant a phobl ifanc ag ADY hawl i gael cynllun statudol o'r enw cynllun datblygu unigol (CDU). Ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, mae'n ddyletswydd ar eu hawdurdod lleol i nodi ADY a pharatoi a chynnal CDUau ar eu cyfer. Ar gyfer plant eraill caiff y ddyletswydd honno ei rhannu rhwng yr ysgol a gynhelir y maent yn mynd iddi a'r awdurdod lleol.
Caiff dyletswyddau awdurdodau lleol ac ysgolion mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal sydd ag ADY eu hesbonio ymhellach ym Mhennod 14 o God ADY Cymru.
Llais plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
Mae ymgysylltu'n gadarnhaol â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn allweddol. Mae Llywodraeth Cymru am roi blaenoriaeth i leisiau dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal wrth ddatblygu neu adolygu polisi addysg. Rydym yn gwerthfawrogi eu barn ac rydym yn awyddus i wybod am eu profiad o addysg a beth allai helpu i'w wella. Bydd hyn yn ein helpu i roi canllawiau i athrawon ac awdurdodau lleol i gefnogi plant â phrofiad o ofal yn y ffyrdd gorau.
Dywedodd plant sy'n derbyn gofal:
- nad ydynt am gael eu labelu na'u stigmateiddio
- nad ydynt am gael eu trin yn wahanol
- eu bod am fod yn rhan o'r broses gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar weddill eu bywydau
Dylai'r person dynodedig sicrhau, drwy bob cam o'u haddysg, bod pob plentyn yn:
- cael pob cyfle i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed
- cael cyfrannu at y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt
Dylid casglu safbwyntiau drwy:
- sgwrsio
- holiadur
- sylwadau drwy luniau os yw'r plentyn yn ddieiriau neu'n ei chael hi'n anodd cyfathrebu ar lafar
Cyfrifoldeb y canlynol yw sicrhau bod safbwyntiau'r plentyn neu'r person ifanc yn cael eu clywed:
- y person dynodedig
- pennaeth ysgol rithwir
- cydlynydd Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal (lle y bo'n gymwys)
- gweithiwr cymdeithasol
- rhiant, gofalwr neu gynghorydd personol
- unrhyw sefydliad neu gorff cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb rhiant corfforaethol
Ceir rhagor o wybodaeth am y maes hwn yn nogfen Estyn Arweiniad atodol: gwrando ar ddysgwyr mewn arolygiad: Medi 2021’.
Mae angen i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal gael cyfleoedd rheolaidd i gwrdd ag eraill sydd wedi treulio amser mewn gofal. Mae rhai sefydliadau trydydd sector, fel Voices From Care Cymru, yn cynnig cyfleoedd o’r fath. Mae gan rai awdurdodau lleol hefyd fforymau lle gall plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Dylai'r person dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gyfeirio dysgwyr at y cyfleoedd hyn.
Cyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol allweddol sy'n gysylltiedig â'r person dynodedig
Yn aml, bydd plant sy'n dod yn rhan o'r system ofal, a phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn cael gofal a chymorth drwy system gymhleth o asiantaethau a gweithwyr proffesiynol. Mae gwaith amlasiantaethol effeithiol gyda'r person dynodedig yn hanfodol. Mae'r adran hon yn amlinellu rolau allweddol gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant sy'n derbyn gofal a'r modd y maent yn rhyng-gysylltu. Dylai trefniadau amlasiantaethol adeiladu ar y canlynol:
- enghreifftiau o weithio'n dda mewn partneriaeth
- y dyhead i wella cynnydd addysgol y dysgwyr hyn
Mae'n hanfodol bod cymorth digonol ar waith i greu amgylchedd sy'n cefnogi hyn.
Cyrff llywodraethu
Dylai'r awdurdod lleoli sicrhau bod ysgolion annibynnol neu ysgolion arbennig nas cynhelir yn gwneud trefniadau priodol i gefnogi anghenion plant sy'n derbyn gofal. Pan gaiff plant eu haddysgu mewn cartref plant nad yw'n gymwys i gofrestru fel ysgol, nid oes gofyniad i gael person dynodedig.
Pan fydd plentyn sy'n derbyn gofal ar gofrestr ysgol ond mae'n cael addysg heblaw yn yr ysgol, cyfrifoldeb yr ysgol yw hyrwyddo cyflawniad addysgol y plentyn hwnnw. Pan na fydd plentyn sy'n derbyn gofal ar gofrestr ysgol a'i fod yn cael addysg heblaw yn yr ysgol, yr awdurdod lleol (fel y rhiant corfforaethol) sy'n gyfrifol am hyrwyddo cyflawniad addysgol y plentyn hwnnw.
Ni fydd gan rai ysgolion unrhyw blant sy'n derbyn gofal ar eu cofrestr. Dylai pob corff llywodraethu wneud y canlynol:
- bod yn barod i letya plentyn sy'n derbyn gofal (a all ymuno â'r ysgol yng nghanol tymor a heb fawr ddim rhybudd)
- trefnu hyfforddiant ar gyfer person dynodedig sydd newydd ei benodi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol
Penaethiaid
Dylai'r pennaeth weithio gyda'r corff llywodraethu a'r person dynodedig i sicrhau bod y person dynodedig yn cael digon o amser i wneud y canlynol:
- ymgymryd â hyfforddiant angenrheidiol fel rhan o'i ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
- mynychu cyfarfodydd adolygu ar gyfer plant sy'n derbyn gofal y canlynol
Y pennaeth sy'n gyfrifol am sicrhau y caiff hyn ei adlewyrchu ym mholisi'r ysgol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY)
Mae gan lawer o blant sy'n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae gan Gydlynwyr ADY rôl strategol mewn ysgolion a gynhelir (heblaw ysgolion arbennig) a sefydliadau addysg bellach:
- cefnogi prosesau i gynllunio, rheoli a chyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau ar gyfer nodi a diwallu anghenion dysgwyr sydd ag ADY
- rhoi arweiniad proffesiynol cysylltiedig i gydweithwyr gyda'r nod o sicrhau addysg o ansawdd uchel i ddysgwyr sydd ag ADY
- cefnogi plant sy'n derbyn gofal sydd ag ADY
Person diogelu dynodedig (DSP)
Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gael un pwynt cyswllt er mwyn i bobl sy'n gweithio gyda phlant allu codi pryderon am blentyn sy'n wynebu risg. Dylai pawb sy'n gweithio mewn lleoliad addysg fod yn gyfarwydd â'r pwynt cyswllt yn yr awdurdod lleol a manylion y person diogelu dynodedig o fewn eu lleoliad addysg ar gyfer codi pryder o'r fath. Rhaid i bob ysgol neu goleg sicrhau bod polisi diogelu ar waith sy'n nodi manylion cyswllt pwynt cyswllt cyntaf yr awdurdod lleol yn glir. Dylai'r polisi hwn fod ar gael yn hawdd i bob aelod o staff. Mae hyn yn arfer effeithiol i bob lleoliad addysg. Ceir rhagor o wybodaeth yn y canllawiau statudol Cadw dysgwyr yn ddiogel: rôl awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a pherchnogion ysgolion annibynnol o dan Ddeddf Addysg 2002.
Mae llawer o blant yn dod yn rhan o'r system ofal am eu bod wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Gall y profiadau hyn adael plant ag anghenion emosiynol ac iechyd meddwl cymhleth, a all wneud y canlynol:
- eu gwneud yn fwy agored i gael eu cam-drin
- arwain at ymddygiadau peryglus weithiau
Dylai'r person dynodedig gael gysylltiad agos â'r DSP i sicrhau bod unrhyw risgiau diogelu yn cael eu deall a'u cydnabod ac y gweithredir arnynt.
Pennaeth yr ysgol rithwir, cydlynydd addysg plant sy'n derbyn gofal neu rôl gyfatebol
I hyrwyddo addysg plant sydd â phrofiad o ofal, fel arfer mae awdurdodau lleol yn cyflogi pennaeth ysgol rithwir neu gydlynydd addysg plant sy'n derbyn gofal (neu rôl gyfatebol). Gall y rolau hyn amrywio ledled Cymru ond fel arfer byddant yn cynnwys:
- olrhain a monitro cynnydd addysgol plant sy'n derbyn gofal
- sicrhau bod gan blant sy'n derbyn gofal CAP effeithiol, o ansawdd uchel, ynghyd ag ymyriadau priodol pan fo angen
- hyrwyddo anghenion addysgol plant sy'n derbyn gofal ledled yr awdurdod lleol a gydag awdurdodau lleol eraill pan fyddant wedi cael lleoliad y tu allan i'r sir neu'r wlad
- hyrwyddo'r defnydd o gyllid sydd ar gael i blant sy'n derbyn gofal
- monitro cyfraddau gwahardd a digwyddiadau plant sy'n derbyn gofal sy'n cael eu gwahardd neu sydd ar amserlenni â llai o oriau
Staff allweddol eraill y tu allan i'r ysgol
Mae'r adran hon yn amlinellu'r gweithwyr proffesiynol o sectorau y tu allan i'r ysgol a ddylai gydweithio â'r person dynodedig i gefnogi plant sy'n derbyn gofal.
Cydgysylltydd ymgysylltu a chynnydd a chydgysylltydd digartrefedd ymysg pobl ifanc
Datblygwyd Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid i gefnogi pobl ifanc:
- rhwng 11 a 18 oed sy'n wynebu risg o beidio â chael cyfnod pontio cadarnhaol pan fyddant yn gadael yr ysgol
- sy'n wynebu risg o fod yn ddigartref
Mae'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn dwyn ynghyd elfennau allweddol o arferion effeithiol i helpu i gynnig deilliannau cadarnhaol i bobl ifanc. Mae'n cynnig dull systematig i awdurdodau lleol:
- nodi'r sawl y mae angen cymorth arnynt
- sefydlu'r cymorth sydd ar gael
- olrhain cynnydd pobl ifanc wrth iddynt bontio o addysg orfodol i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth
Mae gan awdurdodau lleol staff dynodedig i gyflawni rôl y cydgysylltydd ymgysylltiad a chynnydd a'r cydgysylltydd digartrefedd ymysg pobl ifanc, ac mae'r rhain yn chwarae rôl hanfodol wrth roi'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid ar waith. Dylai’r cydgysylltydd ymgysylltiad a chynnydd:
- atal pobl ifanc rhag ymddieithrio o ddysgu
- cefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET)
Mae'r cydgysylltydd digartrefedd ymysg pobl ifanc yn canolbwyntio ar atal pobl ifanc rhag mynd yn ddigartref. Mae rolau'r cydgysylltydd ymgysylltiad a chynnydd a'r cydgysylltydd digartrefedd ymysg pobl ifanc yn darparu'r canlynol:
- yr arweinyddiaeth weithredol sydd ei hangen i nodi lefel y risg y bydd pobl ifanc yn mynd yn ddigartref
- y cymorth penodol sydd ei angen i helpu pobl ifanc i wneud cynnydd cadarnhaol
Mae'n debygol y bydd system adnabod yn gynnar yr awdurdod lleol yn nodi plentyn sy'n derbyn gofal sy'n wynebu risg o ymddieithrio a mynd yn ddigartref. Yna, bydd angen rhoi cymorth priodol ar waith, ar y cyd â phartneriaid allweddol eraill.
Dylai fod gan y bobl ganlynol berthynas waith gref hefyd gyda’r person dynodedig i sicrhau dull cydlynol o gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
- Gofalwyr maeth, gofalwyr a staff preswyl: Mae'r Rhwydwaith Maethu yn cydweithio gyda gofalwyr a gwasanaethau maethu i sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.
- Gweithwyr cymdeithasol.
- Swyddogion adolygu annibynnol.
- Ymwelwyr annibynnol: Caiff y rhain eu penodi gan awdurdod lleol ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal pan fydd yn ymddangos bod hynny er budd pennaf y plentyn. Rôl yr ymwelydd annibynnol yw ymweld â'r plentyn, dod yn ffrind iddo a'i gynghori.
Mae rhagor o wybodaeth am y rolau hyn i’w gweld yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n cael eu Lletya).
Cynghorwyr personol
Unwaith y bydd person ifanc mewn sefyllfa lle nad yw bellach yn derbyn gofal ac wedi gadael gofal (p’un a fydd hyn yn digwydd cyn iddo gael ei ben-blwydd yn 18 oed, neu pan fydd yn oedolyn yn gyfreithiol ar ôl cyrraedd 18 oed), ni fydd yn ofynnol i'r awdurdod lleol ddarparu gweithiwr cymdeithasol iddo mwyach a rhaid iddo benodi cynghorydd personol i'w gefnogi.
Y cynghorydd personol fydd y gweithiwr proffesiynol allweddol sy'n gyfrifol am gydlynu cymorth y sawl sydd wedi gadael gofal a bydd yn cyfrannu'n allweddol at y broses o baratoi cynllun llwybr y person ifanc.
Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n cael eu Lletya).
Eiriolwyr
O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gan bob plentyn sy'n derbyn gofal hawl statudol i gael eiriolwr. Mae rhagor o wybodaeth am y rôl hon i’w gweld yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 10 (Eiriolaeth).
Ceir gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i gefnogi plant sy'n derbyn gofal, fel y gwasanaethau a ddarperir gan Tros Gynnal Plant a'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol.
Aelodau etholedig
Mae gan aelodau etholedig rôl sylweddol i'w chwarae fel rhieni corfforaethol yn goruchwylio'r gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, gan sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gwella canlyniadau'r plant a phobl ifanc hyn.
Darparwyr addysg ôl-16
Mae darparwyr addysg ôl-16 yn gyfrifol am gefnogi cyfnod pontio effeithiol i addysg ôl-16 neu hyfforddiant drwy nodi anghenion unigol yn gynnar a chynllunio'n ofalus.
Dylai'r person dynodedig weithio gyda'r darparwyr addysg ôl-16 lle y bo modd i gefnogi'r person ifanc wrth iddo drosglwyddo i addysg ôl-16 neu hyfforddiant.
Gall amgylcheddau addysgol cyn ac ar ôl 16 sy'n sefydlog ac yn gefnogol effeithio'n sylweddol ar hyder, cymhelliant a lefelau ymgysylltu pobl ifanc. Amgylcheddau yw'r rhain lle:
- caiff cynnydd ei fonitro
- caiff llwyddiannau eu dathlu
- caiff ymyriadau eu rhoi ar waith, os bydd angen
Mae arweiniad gyrfaoedd yn hanfodol er mwyn helpu pobl ifanc i archwilio'r llwybrau sydd fwyaf addas i'w cryfderau a'u diddordebau, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau hyddysg am eu dyfodol. Gall mynediad i gyfleoedd hyfforddiant amrywiol roi sgiliau ymarferol a chymwysterau iddynt sy'n gwella eu cyflogadwyedd. Mae'r elfennau hyn:
- yn mynd i'r afael ag angen addysgol uniongyrchol
- yn cefnogi dysgu a hyfforddiant parhaus ar ôl troi'n oedolyn a'r buddiannau cysylltiedig o ran iechyd, llesiant a chymdeithasol
Efallai na fydd gan blant sy'n derbyn gofal yr un cyfalaf cymdeithasol â'u cyfoedion a gall fod angen cymorth ac anogaeth ychwanegol arnynt.
Cyfnodau pontio
Bydd pob plentyn sy'n dechrau addysg orfodol neu mewn ysgol newydd yn wynebu:
- cwricwlwm gwahanol
- lleoliad gwahanol
- pobl wahanol
Yn achos plant sy'n derbyn gofal, gall y newid hwn yn eu bywydau fod yn fwy heriol oherwydd profiadau problemus o newid yn y gorffennol.
Gall plant gael cyfnod pontio cadarnhaol a theimlo'n ddiogel a setlo'n haws pan fydd:
- cynllunio rhagweithiol gofalus
- gwybodaeth yn cael ei rhannu
- ymweliadau ar y cyd rhwng y plentyn, y rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol
Rhaid i'r person dynodedig gefnogi'r cyfnod pontio hwn, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu pan fo angen (er enghraifft y CAP).
Addysg ôl-16
Dylai'r person dynodedig gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod pob aelod o staff mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach yn deall eu rôl yn cefnogi cynnydd plant sy'n derbyn gofal.
Dylid gwahodd darparwyr addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith i'r ysgol ar adegau priodol yn ystod addysg y person ifanc i sôn am:
- y cyrsiau a'r hyfforddiant a ddarperir ganddynt
- sut brofiad yw astudio mewn coleg neu ymgymryd â phrentisiaeth
Dylai'r person dynodedig gefnogi'r person ifanc i fynd i ddiwrnodau agored a diwrnodau blasu, er enghraifft drwy wneud y canlynol:
- trefnu trafnidiaeth
- mynd gyda'r person ifanc ei hun neu drefnu i rywun fynd gydag ef
Dylid nodi dyheadau gyrfa a llwybrau cynnydd dysgwyr yn eu CAP a'u cynllun llwybr a'u hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu nodau ac uchelgeisiau'r person ifanc.
Dylai'r person dynodedig, gofalwyr a gweithwyr cymdeithasol helpu'r person ifanc i nodi darpariaeth ôl-16 realistig a phriodol.
Cyfleoedd dysgu
Dylai'r person dynodedig sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd dysgu cyn mynd am gyfnod i baratoi ar gyfer arholiadau neu i astudio, a chadw golwg ar y rhai na chawsant gyfleoedd. Dylid copïo'r llythyr cyfle gan y darparwr ôl-16 i'r person dynodedig. Dylai nodi beth y dylai'r dysgwr ei wneud os na fydd yn cael y graddau angenrheidiol. Os na chaiff yr wybodaeth hon ei chynnwys, dylai'r person dynodedig gael y wybodaeth hon gan y darparwr ôl-16.
Bydd y Cydgysylltydd Ymgysylltu a Chynnydd hefyd yn cefnogi cyfnod pontio esmwyth o'r ysgol i addysg ôl-16.
Cyfarfod Cynllun Addysg Personol a chyfarfod ar ôl cyfnod pontio
Bydd y person dynodedig yn trefnu cyfarfod CAP neu gyfarfod ar ôl cyfnod pontio ac yn gwahodd:
- y person ifanc a'i ofalwyr
- gweithiwr cymdeithasol
- cynrychiolaeth o'r darparwr ôl-16
- cydgysylltydd ymgysylltu a chynnydd
- cynghorydd personol os yw'n briodol
Bydd y cyfarfod hwn yn rhoi'r cyfle i'r person ifanc a'i ofalwr wneud y canlynol:
- cwrdd â'i bwynt cyswllt allweddol yn y darparwr ôl-16
- trafod unrhyw gymorth y gall fod ei angen ar y dysgwr i bontio'n llwyddiannus
Bydd hefyd yn galluogi'r cynrychiolydd ôl-16 i gwrdd â chynghorydd personol a gweithiwr cymdeithasol y person ifanc yn rheolaidd. Bydd y cynghorydd personol a'r gweithiwr cymdeithasol yn chwarae rôl hollbwysig yn cefnogi'r person ifanc i gymryd rhan a pharhau mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16.
Cynllun llwybr
Pan fydd plentyn sy'n derbyn gofal ar fin troi'n 16 oed, rhaid i'r awdurdod lleol baratoi cynllun llwybr i helpu'r person ifanc hwnnw i bontio i fywyd oedolyn a gadael gofal. Gall y person dynodedig gynorthwyo yn y broses hon. Bydd y cynllun llwybr yn adeiladu ar gynllun gofal a chymorth Rhan 6 presennol y plentyn, a fydd yn cael ei ymgorffori yn y cynllun llwybr.
Er mwyn helpu'r person ifanc i bontio'n llwyddiannus o ofal, bydd y cynllun llwybr yn nodi'r camau gweithredu sy'n angenrheidiol gan:
- y person ifanc
- gofalwr y person ifanc
- y rhiant
- yr awdurdod lleol, gan gynnwys tîm gadael gofal yr awdurdod lleol
- partïon neu asiantaethau eraill a nodwyd sy'n ymwneud â'r person ifanc
Bydd dyletswyddau'r awdurdod lleol mewn perthynas â chynllunio llwybr yn parhau ar ôl i’r person ifanc droi'n 18 oed. Dylai'r asesiad o’r llwybr a'r broses gynllunio hefyd bennu a chofnodi pa wybodaeth, cyngor a chymorth y dylid eu darparu ar gyfer y person ifanc wrth iddo baratoi ar gyfer bod yn oedolyn a byw'n annibynnol. Mae Adran 5 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n cael eu Lletya) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gadael gofal, gan gynnwys cynlluniau llwybr ac asesiadau.
Canllawiau a chymorth presennol ar gyfer plant â phrofiad o ofal
Y Grant Datblygu Disgyblion (PDG)
Mae'r canllaw i'r Grant Datblygu Disgyblion ar wefan Llywodraeth Cymru yn esbonio sut y caiff y PDG ei weinyddu a sut mae'r meini prawf cymhwystra yn gweithredu.
Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG-CLA)
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid blynyddol i awdurdodau lleol yn seiliedig ar y nifer o blant cymwys rhwng 3 a 15 oed sydd mewn gofal o'r cyfrifiad o blant sy'n derbyn gofal a gynhaliwyd y flwyddyn flaenorol.
Nod y PDG-CLA yw cefnogi anghenion cymdeithasol, academaidd ac emosiynol:
- plant sy'n derbyn gofal (CLA)
- plant sydd wedi cael eu mabwysiadu
- plant sydd â phrofiad o ofal sy'n destun gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig (SGO)
Er bod cyllid PDG-CLA yn cael ei ddyrannu ar sail nifer y plant sy'n derbyn gofal, ei nod yw bod o fudd i bob plentyn sydd â phrofiad o ofal. Mae hyn yn cydnabod fel plant sydd mewn gofal ar hyn o bryd, bod plant sydd â phrofiad o ofal:
- yn aml wedi wynebu trawma, camdriniaeth, esgeulustod a cholled
- mewn sefyllfa lle gall fod angen iddynt gael cymorth ychwanegol i ffynnu mewn ysgol neu amgylchedd addysgol arall
Yn aml, bydd gofalwyr maeth a rhieni sy'n mabwysiadu yn gwneud ymholiadau ag ysgol eu plentyn am y grant. Yn yr achosion hyn, dylai'r person dynodedig gyfeirio'r ymholiad at y cydgysylltydd addysg plant sy'n derbyn gofal, pennaeth yr ysgol rithwir neu ddeiliad y rôl gyfatebol yn yr awdurdod lleol. Bydd yr unigolyn hwnnw yn rhoi cyngor ac arweiniad am y grant.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu canllawiau penodol ar PDG-CLA a gaiff eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Grant Hanfodion Ysgolion
Gall pob plentyn dan ofal yr awdurdod lleol gymhwyso i gael y Grant Hanfodion Ysgol ac nid yw cymhwystra yn seiliedig ar incwm y teulu na chymhwystra i gael prydau ysgol am ddim sy'n seiliedig ar brawf modd. Mae'r grant yn rhoi help ariannol ar gyfer:
- eitemau ysgol hanfodol fel gwisg ysgol, deunydd ysgrifennu a chit chwaraeon yr ysgol
- gwisgoedd ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi fel sgowtiaid, geidiaid, cadetiaid, crefft ymladd, chwaraeon a'r celfyddydau perfformio
Gall teuluoedd â phlant:
- yn y dosbarth derbyn i Flwyddyn 11 wneud cais am £125 fesul dysgwr a chyllid ychwanegol ar gyfer eu hysgol
- sy'n dechrau ym Mlwyddyn 7 wneud cais am £200 fesul dysgwr (er mwyn helpu gyda'r costau cynyddol sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd) a chyllid ychwanegol ar gyfer eu hysgol
Gall rhieni a gofalwyr hawlio unwaith fesul plentyn ym mhob blwyddyn ysgol.
Derbyniadau ysgolion
Mae'r Cod derbyn i ysgolion yn rhoi crynodeb o'r Cod Derbyniadau Ysgol statudol, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer derbyn plant sy'n derbyn gofal a phlant a arferai dderbyn gofal. Yn unol â'r Cod a Rheoliadau Addysg (Derbyn Plant sy'n Derbyn Gofal) (Cymru) 2009, rhaid i awdurdodau derbyn roi blaenoriaeth uchaf i blant sy'n derbyn gofal a phlant a arferai dderbyn gofal yn eu meini prawf pan fydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Pan fydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd a gyhoeddwyd, rhaid rhoi blaenoriaeth i'r plant hyn.
Mae eithriadau ar gyfer ysgolion sydd â chymeriad crefyddol dynodedig. Rhaid i ysgolion ffydd roi blaenoriaeth yn gyntaf i blant sy'n derbyn gofal a phlant a arferai dderbyn gofal sy'n dilyn ffydd yr ysgol. Gallant hefyd ddewis rhoi blaenoriaeth yn gyntaf i bob plentyn sy'n derbyn gofal, hyd yn oed os na fyddant o'r ffydd. Os byddant yn gwneud hyn, rhaid iddynt sicrhau o hyd bod plant sy'n derbyn gofal nad ydynt o'r ffydd yn cael blaenoriaeth uwch na phlant eraill nad ydynt o'r ffydd.
Canllawiau ar drosglwyddo cofnodion addysgol y plentyn
Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor ac arweiniad ar gadw, gwaredu, datgelu a throsglwyddo cofnodion addysgol.
Canllawiau atgyfeirio i'r gwasanaeth seicoleg addysg
Mae gan bob awdurdod lleol wasanaeth seicoleg addysg, er bod amrywiaeth o ran y gwasanaeth a ddarperir i ddiwallu anghenion lleol. Bydd seicolegwyr addysg yn y gwasanaeth hwn yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i gefnogi eu:
- datblygiad
- llesiant
- gwydnwch
- dysgu
- cyflawniad
Mae'r canllawiau ar rôl seicolegwyr addysg yng Nghymru wedi'i anelu at weithwyr addysg proffesiynol, rhieni a gofalwyr. Mae'n rhoi trosolwg o gyfrifoldebau seicolegwyr addysg a'r gwasanaethau y gallant eu darparu.
Problemau ymddygiad
Mae'r adnoddau canlynol ar gael i gefnogi prosesau rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth.
- Pecyn cymorth ymddygiad: Mae'r adnodd hwn yn rhoi cymorth ymarferol i leoliadau addysg yng Nghymru, gan helpu ymarferwyr i feithrin ymddygiadau dysgu cadarnhaol drwy roi mynediad i ymchwil, canllawiau ac adnoddau, i gyd yn yr un lle. Caiff ei adolygu'n rheolaidd yn seiliedig ar adborth ymarferwyr.
- Dulliau ymarferol o reoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth: Llawlyfr i athrawon dosbarth mewn ysgolion cynradd
- Dulliau ymarferol o reoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth: Llawlyfr i athrawon dosbarth mewn ysgolion uwchradd
Mae'r dogfennau canllaw uchod yn canolbwyntio ar ddulliau rheoli ymddygiad cyffredinol. Caiff y dogfennau hyn eu hadolygu yn 2026.
Gwella presenoldeb yn yr ysgol
Mae'r canllawiau Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi yn nodi dulliau ar gyfer sut y gall ysgolion, rhieni, gofalwyr ac awdurdodau lleol gydweithio i geisio gwella presenoldeb yn yr ysgol.
Eithrio
Mae'r canllawiau Gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn rhoi cyngor ar:
- osgoi achosion o wahardd
- y broses y mae'n rhaid ei dilyn wrth wahardd dysgwyr o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion
- y gweithdrefnau ar gyfer apelio yn erbyn achosion o wahardd
- sut i gynnal addysg dysgwyr sydd wedi cael eu gwahardd
Cysylltiadau defnyddiol
Rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid allweddol i lywio gwelliannau yng nghyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal.
