Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn allweddol er mwyn mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Mae'r ddogfen hon yn rhoi arweiniad i benaethiaid a staff ysgolion a lleoliadau ar ymarfer sydd wedi'i lywio gan dystiolaeth ynghylch y defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion i blant a phobl ifanc 5 i 15 oed sydd o gartrefi incwm isel.

Cyflwyniad

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn elfen allweddol o'n polisi ar gyfer mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol er mwyn sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb.

Mae'r ddogfen hon yn rhoi arweiniad i benaethiaid a staff ysgolion a lleoliadau ar ymarfer sydd wedi'i lywio gan dystiolaeth ynghylch y defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion i blant a phobl ifanc 5 i 15 oed sydd o gartrefi incwm isel. Mae hefyd wedi'i anelu at gonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, lleoliadau gofal plant nas cynhelir a ariennir, sefydliadau ambarél cenedlaethol a phartïon eraill â diddordeb. Bydd diweddariadau i ganllawiau ar grantiau deilliannol gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar, y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal a'r defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion mewn lleoliadau Addysg Heblaw yn yr Ysgol yn dilyn yn 2023 a 2024.

I gael rhagor o wybodaeth am y canllawiau hyn neu i hysbysu am ddiwygiadau, cysylltwch ar: EquityinEducation@gov.wales

Rhagair gan y Gweinidog

Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad wrth wraidd cenhadaeth ein cenedl ar gyfer addysg. Nodais fy ngweledigaeth ar gyfer sut y byddwn yn gwneud hyn mewn araith i Sefydliad Bevan yn 2022. Yn yr araith hon amlinellais y prif feysydd y byddwn yn mynd i'r afael â nhw drwy ddull system gyfan parhaus sy'n cefnogi plant a phobl ifanc drwy bob cam o'u haddysg, o'r cyfnod cyn ysgol i ôl-16. Rwyf wedi esbonio bod yn rhaid inni ystyried pob polisi addysgol o safbwynt p'un a yw'n helpu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar ddeilliannau addysgol. Ail-bwysleisiais yr ymrwymiad hwn drwy lansio ein map trywydd ‘Safonau a Dyheadau Uchel i Bawb’. Tynnodd hyn sylw hefyd at yr angen i ganolbwyntio ar gamau gweithredu cadarnhaol sy'n helpu i gyflawni potensial ein holl bobl ifanc mewn ffordd sy'n meithrin ac yn adlewyrchu eu dyheadau.

Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn adnodd allweddol ar gyfer mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Rwy'n cydnabod bod ysgolion eisoes wedi datblygu ymarfer sydd wedi'i lywio gan dystiolaeth wrth ddefnyddio'r grant. Dangosir hyn yn yr astudiaethau achos gan Estyn sydd wedi'u cynnwys yn y canllawiau hyn. Rwyf am inni adeiladu ar yr ymarfer effeithiol hwn.

Er ei bod yn briodol i ni adael penderfyniadau terfynol ar y defnydd a wneir o'r grant i arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion, mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod ysgolion yn canolbwyntio'n gynyddol ar 3 pheth. I ddechrau, bod y Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ddefnyddio, drwy weithio yn y meysydd allweddol, i wella cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o gartrefi incwm isel. Yn ail, bod y defnydd o'r grant yn cael ei lywio gan dystiolaeth ar beth sy'n effeithiol o ran gwella cyrhaeddiad dysgwyr o gartrefi incwm isel. Yn drydydd, bod ysgolion yn monitro'r defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion ac yn gwerthuso'r effaith a gaiff ar gyrhaeddiad dysgwyr. Bydd hyn yn eu galluogi i hysbysu eu cyrff llywodraethu, eu hawdurdodau lleol ac Estyn ar y cynnydd a wnaed ganddynt wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Ynghyd â'r Grant Hanfodion Ysgol, sydd â'r nod o leihau'r effaith a gaiff tlodi ar brofiad plant a phobl ifanc o addysg, rhaid i'r Grant Datblygu Disgyblion chwarae rhan allweddol yn lleihau ac yn goresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o leihau anghydraddoldebau yn y gymdeithas yng Nghymru. Mae gan addysg ran hanfodol i'w chwarae yn cyflawni'r ymrwymiad hwn. Gan adeiladu ar y gwaith ardderchog sy'n mynd rhagddo eisoes yn ein hysgolion, a thrwy ffocws parhaus ar wella deilliannau i blant y mae tlodi yn effeithio arnynt drwy gefnogaeth y Grant Datblygu Disgyblion, byddwn yn ymdrechu i sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu tegwch a rhagoriaeth yn ei addysg a rhaid inni gyflawni'r ddau.

Jeremy Miles AS

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Llywodraeth Cymru

Mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad

Mae goresgyn anghydraddoldebau addysgol yn gymhleth. Fodd bynnag, mae'r trafodaethau a gynhaliwyd ag ymarferwyr a rhanddeiliaid allweddol yn y system addysg yng Nghymru, ynghyd â thystiolaeth o waith ymchwil addysgol, yn awgrymu y dylai canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol wella cyrhaeddiad plant a phobl ifanc o gartrefi incwm isel:

Image
1. Diagram cylchol yn dangos hierarchaeth ffocws ar gyfer gwariant GDD gyda theitl polisi yn y craidd, dau faes blaenoriaeth yn y cylch mewnol, chwech arall yn y cylch allanol.

Er bod yr holl feysydd allweddol hyn yn bwysig, mae Estyn wedi pwysleisio bod ysgolion sy'n effeithiol wrth leihau effaith tlodi yn sicrhau bod gan bob disgybl, yn enwedig y rheini sy'n wynebu heriau a ddaw yn sgil tlodi, fynediad i'r dysgu a'r addysgu gorau, ac y caiff cydberthnasau eu meithrin gyda'r ‘rhieni, y gymuned leol a gwasanaethau arbenigol i fodloni anghenion disgyblion a’u teuluoedd’ (Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, 2016 i 2017). Am y rheswm hwn, dylai ysgolion flaenoriaethu'r 2 faes hyn:

  • dysgu ac addysgu o ansawdd uchel
  • datblygu Ysgolion Bro

Dysgu ac addysgu o ansawdd uchel

Mae'r cysylltiad rhwng addysgu o ansawdd uchel a chynnydd dysgwyr yn hanfodol. Felly, dylai fod yn ffocws allweddol i'r defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion. Bwriad Cwricwlwm i Gymru yw hyrwyddo a galluogi dysgu ac addysgu o ansawdd uchel fel bod pob dysgwr yn cyflawni'r pedwar diben.

Yr agweddau ar addysgeg dysgu ac addysgu sydd wedi’u cynnwys fel rhan o sgiliau hanfodol a thrawsgwricwlaidd Cwricwlwm i Gymru, ac sy'n effeithio fwyaf ar ddysgwyr o gartrefi incwm isel yw:

  • datblygiad iaith
  • metawybyddiaeth
  • hunanreoleiddio

Ymysg yr elfennau eraill sy'n effeithio ar y dysgwyr hyn mae:

Mae pob ysgol yng Nghymru yn symud i addysgu Cwricwlwm i Gymru ac mae'r broses hon yn cael ei chefnogi gan ystod o gymorth dysgu ac addysgeg proffesiynol i wella'r dysgu a'r addysgu. Lluniwyd cyngor helaeth ar gyfer ysgolion ar roi strategaethau dysgu ac addysgu ar waith. Ymysg yr enghreifftiau o'r llenyddiaeth hon mae adroddiad canllaw'r EEF, ‘Putting Evidence to Work’ a gwaith yr Athro John Hattie: ‘Visible Learning’.

Anogir ysgolion i ymgysylltu â'r Prosiect Addysgeg Cenedlaethol, er mwyn cryfhau datblygiad addysgegol ar draws eu hysgol. Mae'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn disgrifio'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau sy'n nodweddu arferion rhagorol ac sy'n cefnogi twf proffesiynol. Maen nhw hefyd yn adlewyrchu ymarfer sy'n gyson â chyflawni'r cwricwlwm newydd.

Ceir astudiaeth achos ar ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn yr adran Astudiaethau achos.

Ysgolion Bro

Rydym am i holl ysgolion Cymru fod yn Ysgolion Bro. Mae canllawiau Estyn ‘Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol’ a'n canllawiau ‘Ysgolion Bro’ yn tynnu sylw at y rôl y gall Ysgolion Bro ei chwarae yn goresgyn effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Mae'r dystiolaeth hon yn awgrymu y dylid canolbwyntio ar 3 maes gweithgarwch rhyng-gysylltiedig:

1. Ymgysylltu â theuluoedd

Mae ymgysylltu â theuluoedd yn cynnwys creu cyfleoedd ystyrlon i deuluoedd a gofalwyr i:

  • gymryd rhan yn nysgu'r plant
  • cymryd rhan ym mywyd yr ysgol ac yn y penderfyniadau a wneir (gan gynnwys datblygu'r amgylchedd dysgu yn y cartref)

Ceir rhagor o wybodaeth yn ‘Datblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd mewn Ysgolion Bro’.

2. Ymgysylltu â'r gymuned

Mae ymgysylltu â'r gymuned yn cynnwys annog ysgolion i ddefnyddio a manteisio ar gysylltiadau â grwpiau a sefydliadau cymunedol. Mae hefyd yn cynnwys cynnig cymorth a chyfleoedd i aelodau cymunedol.

3. Ymgysylltu amlasiantaethol

Mae ymgysylltu amlasiantaethol yn cynnwys meithrin:

  • partneriaethau â gwasanaethau ehangach
  • ymyriadau i ddileu unrhyw rwystrau i ddysgu

Mae Ysgol Fro yn gwneud cysylltiadau â'r gwasanaethau hyn ac yn cefnogi'r plentyn a'r teulu i gael y cymorth cywir ar yr adeg gywir ac yn y lleoliad cywir.

Sut mae Ysgolion Bro yn helpu cyrhaeddiad

Y farn gyffredinol yw y gellir gwella cyrhaeddiad drwy:

  • Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar o ansawdd uchel 
  • cefnogaeth ac anogaeth i ddysgu gan y rhieni
  • amgylchedd dysgu cadarnhaol ac ysgogol yn y cartref
  • disgwyliadau a dyheadau uchel

Felly, gall ysgolion:

  • fod yn rhagweithiol drwy ofyn i rieni a gofalwyr beth sydd ei angen neu ei eisiau arnynt a datblygu pethau gyda'i gilydd 
  • cyfathrebu'n effeithiol â rhieni a gofalwyr, gan annog trafodaethau am ddysgu 
  • cynnig cyfleoedd i deuluoedd ddysgu mwy am sut y gallant gefnogi dysgu eu plant gartref
  • targedu cymorth a chael cymorth dwysach pan fydd angen
  • sicrhau bod gan blant yr hyn sydd ei angen arnynt yn yr amgylchedd dysgu yn y cartref i ddatblygu eu dysgu, er enghraifft drwy fenthyca llyfrau i rieni a gofalwyr
  • adolygu'n rheolaidd pa mor dda y mae'r ysgol yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr, gan nodi meysydd i'w gwella

Ymysg yr enghreifftiau o ymyriadau a chymorth ar gamau gwahanol (gweler Boonk et al, ar dudalen 24) mae'r canlynol:

Cynradd
  • Darllen gartref.
  • Disgwyliadau a dyheadau uchel gan rieni.
  • Anogaeth a chefnogaeth academaidd.
  • Amgylchedd priodol.
  • Help cefnogol â gwaith cartref.
Uwchradd
  • Disgwyliadau a dyheadau uchel gan rieni.
  • Anogaeth a chefnogaeth academaidd.
  • Atgyfnerthu dysgu gartref.
  • Trafodaethau rhwng rhieni a gofalwyr a'u plant.

Rhaid i bob ysgol roi sylw dyledus i flaenoriaethau gwella cenedlaethol, gan gynnwys lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, wrth osod eu blaenoriaethau gwella. Ymhellach, mae’n rhaid i’r Cynllun Datblygu Ysgol gynnwys manylion ynghylch sut bydd y corff llywodraethu yn gweithio gyda chymuned ehangach yr ysgol, er enghraifft rhieni neu ofalwyr dysgwyr yr ysgol, trigolion lleol, ysgolion eraill, asiantaethau a busnesau. Gwyddom y dangoswyd bod mwy o ymgysylltu â theuluoedd yn mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad felly byddem yn disgwyl i ysgolion gael blaenoriaethau gwella sy’n cyd-fynd â chanllawiau Ysgolion Bro.

Ceir astudiaeth achos ar Ysgolion Bro yn yr adran Astudiaethau achos.

Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar

Mae gan Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar rôl hanfodol i'w chwarae yn mynd i'r afael ag effaith tlodi ar ddatblygiad plentyn, gan gynnwys ar ei gyrhaeddiad, ar gam cynnar.

Bydd y dogfennau canlynol yn ddefnyddiol i leoliadau'r blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd ac ymarferwyr i gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio cyllid y Grant Datblygu Disgyblion:

Ceir astudiaeth achos ar Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yn yr adran Astudiaethau achos.

Datblygu dyheadau uchel drwy gydberthnasau cryf

Mae cefnogi dyheadau dysgwyr sy'n byw mewn cartrefi incwm isel a'u teuluoedd yn hollbwysig wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. I'r perwyl hwn, mae'n bwysig y gwrandewir ar safbwyntiau'r dysgwyr hyn, y gweithredir arnynt a'u bod yn cael adborth.

Ceir rhagor o wybodaeth am y maes hwn yn y canlynol:

Dengys ‘A review of the relationship between parental involvement indicators and academic achievement’ a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Boonk, Gijselaers, Ritzen a Brand-Gruwel bod disgwyliadau a dyheadau rhieni ar gyfer eu plant yn chwarae rôl bwysig wrth bennu lefelau cyflawniad academaidd. Mae hefyd yn dangos y gall ymgysylltu â theuluoedd, sy'n elfen allweddol o Ysgolion Bro, helpu i atgyfnerthu hyn.

Mae hefyd yn bwysig bod dysgwyr sy'n tyfu i fyny mewn cartrefi incwm isel yn cael cyngor annibynnol o ansawdd uchel (‘Good Career Guidance’, Syr John Holman) ar lwybrau a gyrfaoedd addysgol yn y dyfodol. Mae hyn yn cefnogi'r canlynol:

  • codi dyheadau
  • gwneud penderfyniadau gwybodus
  • codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd nad yw pobl ifanc wedi'u hystyried o bosibl

Gall Gyrfa Cymru helpu ysgolion i wneud hyn. Mae ymchwil ar draws sawl gwlad a gynhaliwyd gan yr EEF hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth ar fuddiannau ymyriadau penodol ar ddeilliannau cymdeithasol, economaidd ac addysgol. Gallai'r ymyriadau hyn gynnwys:

  • mentora
  • profiad gwaith
  • gwybodaeth
  • cyngor
  • arweiniad
  • dysgu cysylltiedig â gwaith

Ceir astudiaeth achos ar feithrin dyheadau uchel a gefnogir gan gydberthnasau cryf yn yr adran Astudiaethau achos.

Iechyd a lles plant a phobl ifanc

Yn aml, ystyrir bod problemau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl yn effeithio mewn modd anghymesur ar ddysgwyr o gartrefi incwm isel. Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio canllawiau statudol ar y ‘Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol’ ar gyfer ysgolion. Mae'r canllawiau hyn hefyd yn cwmpasu hunanwerthuso. Mae a wnelo dull ysgol gyfan ag ymgorffori lles da drwy addysgu ac agweddau eraill ar fywyd ysgol. Mae'n ethos sydd:

  • yn rhoi gwerth i gynhwysiant
  • yn sicrhau bod pawb yn cydweithio; gan gyfrannu eu sgiliau a'u hadnoddau unigol er budd pawb
  • yn creu amgylchedd cefnogol lle caiff pobl ifanc eu hannog i gyflawni eu potensial personol ac academaidd
  • yn creu amgylchedd cefnogol lle mae pobl ifanc yn ffynnu, yn dysgu ac yn datblygu'n emosiynol, gyda chymorth oedolion dibynadwy mewn diwylliant sy'n rhoi'r un gwerth ar eu lles hwythau

Ceir astudiaeth achos ar iechyd a lles plant a phobl ifanc yn yr adran Astudiaethau achos.

Arweinyddiaeth

Mae gan arweinwyr rôl allweddol i'w chwarae yn mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad a chyfrifoldeb i gynllunio a gwerthuso'r ffordd y mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei wario. Gallant wneud hyn drwy:

  • ystyried bod mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad yn sgil tlodi yn rhan bwysig o'u gweledigaeth ar gyfer eu hysgolion
  • sicrhau bod dysgu ac addysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr o gartrefi incwm isel
  • cynnig amrywiaeth o lwybrau cymwysterau i ddysgwyr o gartrefi incwm isel sydd o ddiddordeb iddynt ac sy'n eu hysgogi i gyflawni eu dyheadau
  • sicrhau bod safbwyntiau dysgwyr o gartrefi incwm isel yn cael eu clywed
  • sicrhau bod eu hysgolion yn gweithio fel Ysgolion Bro
  • sicrhau bod eu hysgolion yn datblygu i fod yn ysgolion effeithiol fel sefydliadau sy’n dysgu

Mae arweiniad atodol Estyn ar leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad a lles yn pwysleisio bod arweiniad cryf yn gofyn am: 

  • sefydlu diben a gweledigaeth glir i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol (mae hyn yn cynnwys dull strategol a gweithredol effeithiol i fynd i'r afael â'r her hon)
  • sefydlu diwylliant cryf o ddisgwyliadau uchel i bawb a dealltwriaeth a rennir ym mhob rhan o'r ysgol na fydd tlodi yn esgus ar gyfer cyrhaeddiad isel
  • sicrhau bod pob aelod o'r staff yn deall ac yn dangos ei gyfrifoldeb yn lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad, gan reoli perfformiad staff i gefnogi a gwella, yn benodol mewn perthynas ag ansawdd addysgu
  • sicrhau bod yr holl benderfyniadau a wneir ar faterion strategol a gweithredol yn ystyried yr effaith a gaiff unrhyw benderfyniad ar ddysgwyr o gartrefi incwm isel, er enghraifft ar grwpio dysgwyr, y defnydd o gyllid neu leoli staff
  • sefydlu partneriaethau cryf â theuluoedd, y gymuned ac amrywiaeth o asiantaethau a gwasanaethau er mwyn helpu dysgwyr o gartrefi incwm isel i gyflawni eu potensial a'u dyheadau
  • cydweithio â phartneriaid i gefnogi cyfnodau pontio di-dor o addysg gynnar i'r coleg a gyrfa yn y dyfodol
  • rheoli adnoddau ariannol (gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion) er mwyn sicrhau y cânt eu defnyddio'n effeithiol i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad
  • sicrhau mynediad i ddysgu proffesiynol a gwaith ymchwil ar y ffordd orau o leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad a gwerthuso effaith y dysgu hwn
  • gwerthuso strategaethau, mentrau a darpariaeth graidd mewn modd systemataidd i ystyried eu heffeithiolrwydd a'u heffaith ar gyrhaeddiad addysgol dysgwyr o gartrefi incwm isel

Mae dogfen Llywodraeth Cymru ‘Canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd’ yn rhoi rhagor o wybodaeth ar yr hyn a ddisgwylir gan ysgolion mewn perthynas â:

  • gwerthuso
  • gwelliant
  • atebolrwydd
  • yr angen i olrhain cynnydd ar y bwlch cyrhaeddiad yn sgil tlodi fel rhan o hyn

Mae Estyn hefyd wedi cyhoeddi adnodd gweledol i gefnogi ysgolion ar eu taith i wella sy'n dangos rôl arweinyddiaeth yn hyn. Hefyd, mae deunydd briffio a luniwyd gan yr Adran Addysg yn Lloegr yn rhoi rhagor o wybodaeth am gefnogi cyrhaeddiad disgyblion dan anfantais.

Ceir astudiaeth achos ar Arweinyddiaeth yn yr adran Astudiaethau achos.

Cwricwlwm i Gymru a chymwysterau

Mae Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle unigryw i ddarparu dysgu ac addysgu o ansawdd uchel a all helpu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad drwy wella safonau a dyheadau. Mae canllawiau ar gynllunio, cyflwyno a gwerthuso Cwricwlwm i Gymru ar gael ar Hwb. Dylai datblygu a deall iaith (https://www.llyw.cymru/datganiad-llafar-llafaredd-darllen-plant), sgiliau meddwl a hunanreoleiddio (Metacognition and Self-regulated Learning | EEF (educationendowmentfoundation.org.uk) fod yn nodweddion allweddol ar gyfer dysgu ac addysgu i blant o gartrefi incwm isel.

Dylid cynnig amrywiaeth eang o gymwysterau a llwybrau academaidd a galwedigaethol i bob dysgwr, yn unol â'i ddoniau a'i ddiddordebau. Dylai'r cymwysterau a'r llwybrau hyn gael eu hategu gan sgiliau craidd llythrennedd, rhifedd a dysgu digidol (Cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru | Cymwysterau Cymru).

Ceir astudiaeth achos ar Gwricwlwm i Gymru a chymwysterau yn yr adran Astudiaethau achos.

Cefnogi cynnydd ôl-16

Er mwyn parhau â'r cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn ystod y blynyddoedd ysgol gorfodol, mae'n bwysig bod amrywiaeth o lwybrau ôl-16 ar gael i bobl ifanc o gartrefi incwm isel. Mae'r Warant i Bobl Ifanc, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi rhai o'r cyfleoedd sydd ar agor i bobl ifanc ar ôl iddynt droi'n 16 oed.

Ceir astudiaeth achos ar gefnogi cynnydd ôl-16 yn yr adran Astudiaethau achos.

Dilyn dull gweithredu sydd wedi'i lywio gan dystiolaeth: proses 4 cam

Drwy ddefnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi gwaith yn y meysydd allweddol hyn, dylai ysgolion ddefnyddio dull gweithredu 4 cam cylchol i sicrhau bod eu gwaith:

  • yn cael ei lywio'n gryf gan dystiolaeth
  • yn cefnogi cynnydd plant a phobl ifanc o gefndiroedd incwm isel

Mae hyn yn debyg i ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal hunanwerthusiad a chynllunio datblygiad ysgolion ac asesu cynnydd dysgwyr o fewn Cwricwlwm i Gymru. Mae hefyd yn adlewyrchu'r dulliau gweithredu at ymholi proffesiynol gan athrawon yn y ‘Prosiect ymholi proffesiynol cenedlaethol’.

Bydd yr adnoddau canlynol yn ddefnyddiol i ysgolion wrth iddynt ddatblygu'r dull gweithredu 4 cam ymhellach:

Mae'r 4 cam hyn fel a ganlyn:

Image
Diagram cylchol yn dangos y broses barhaus o ddeall, tystiolaeth, gweithredu, a monitro a gwerthuso

1. Deall

Y cam cyntaf yw bod ysgolion yn deall y bylchau dysgu sy'n gysylltiedig â thlodi y maent yn bwriadu mynd i'r afael â nhw. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ysgolion ddefnyddio data a thystiolaeth sydd ar gael ar gynnydd a lles dysgwyr. Fel rhan o'r asesiad diagnostig hwn o angen, mae'n bwysig bod ysgolion yn edrych ar dueddiadau yn y dystiolaeth, gan gynnwys mewn perthynas â chynnydd o'r ysgol gynradd.

Yn gyffredinol, dylai ysgolion ystyried i ba raddau y mae dysgwyr o gartrefi incwm isel:

  • yn gwneud cynnydd drwy'r ysgol, ers dechrau yn yr ysgol, o un cyfnod i'r llall, ac yn ystod y flwyddyn ysgol
  • yn adalw'r hyn a ddysgwyd yn flaenorol, yn caffael gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau newydd, ac yn datblygu eu ffordd o feddwl a meithrin eu sgiliau datrys problemau
  • yn cymhwyso eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth i sefyllfaoedd newydd yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt
  • yn cael eu heffeithio gan ffactorau eraill a allai gael effaith ar eu dysgu a'u cynnydd (er enghraifft, anghenion dysgu ychwanegol, cael profiad o ofal neu fod yn blant sy'n derbyn gofal, LHDTC+, bod yn fwy abl a thalentog neu o grŵp ethnig lleiafrifol)

Wrth nodi angen, dylid hefyd ystyried gwybodaeth am y canlynol:

  • lles ac iechyd meddwl dysgwyr
  • presenoldeb
  • gwaharddiadau
  • adborth gan athrawon
  • llais y dysgwr

Wrth wneud hyn, dylai ysgolion nodi'r rhwystrau penodol at gynnydd a wynebir gan ddysgwyr o gartrefi incwm isel. Gallai'r rhain fod yn fod yn gysylltiedig â'r canlynol, er enghraifft:

  • addysgu
  • grwpio dysgwyr
  • mynediad i brofiadau dysgu priodol
  • presenoldeb
  • ffactorau eraill sy'n cael effaith negyddol ar gynnydd

Dylai ysgolion hefyd ystyried a yw rhaglenni, ymyriadau a strategaethau gwella presennol yn llwyddo drwy werthuso eu heffaith.

Mae'r Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol (NEIR) a Chanllawiau Atodol Estyn ar arolygu dulliau gweithredu er mwyn lleihau effaith tlodi yn rhoi enghreifftiau o gwestiynau a allai gefnogi hyn. Mae'n arbennig o bwysig y ceir safbwyntiau dysgwyr fel rhan o hyn. Drwy Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a gwaith ehangach Ysgolion Bro, dylid ceisio ac ystyried safbwyntiau rheini a gofalwyr hefyd.

Ers mis Medi 2022, mae dyletswydd ar benaethiaid ysgolion a gynhelir i wneud trefniadau i roi gwybodaeth i rieni am gynnydd dysgwr fel rhan o Gwricwlwm i Gymru. Mae'r gofyniad hwn sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth yn cydnabod y rôl bwysig y gall rhieni ei chwarae ar gyfer:

  • pontio'r bwlch rhwng y cartref a'r ysgol
  • cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd

Ceir rhagor o wybodaeth yn y ‘Pecyn Cymorth Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd ’ ac ‘Atodiad 3: Datblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd mewn Ysgolion Bro’.

2. Tystiolaeth

Pan fydd ysgolion wedi asesu a nodi heriau i gynnydd dysgwyr, dylent benderfynu pa gymorth, gan gynnwys ymyriadau wedi'u teilwra, y byddant yn eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â nhw. Dylent ddefnyddio dulliau gweithredu y ceir tystiolaeth gref i'w cefnogi fel y gallant ddangos bod y defnydd a wnânt o'r Grant Datblygu Disgyblion wedi'i lywio ar dystiolaeth.

Er enghraifft, os byddant wedi nodi bod dysgwyr yn wynebu anawsterau neu broblemau iaith penodol sy'n gysylltiedig ag iechyd a lles, gallant edrych am dystiolaeth ddiweddar a pherthnasol o ansawdd uchel fel yr hyn a geir ar wefan yr EEF neu enghreifftiau o astudiaethau achos o ymarfer effeithiol a gasglwyd gan Estyn.

Sut y gall ysgolion farnu a yw'r dystiolaeth sydd ar gael yn gryf ac yn ddibynadwy

Bydd dilyn y model hwn yn helpu ysgolion i benderfynu a yw'r dystiolaeth yn gryf ac yn ddibynadwy:

Image
Diagram cylchol gyda thestun tystiolaeth gadarn a dibynadwy yn y craidd a saethau o elfennau cywir, rhesymol, credadwy, hygyrch yn y cylch allanol.

(Wedi'i addasu o Coaching and Mentoring English (ioe.ac.uk), a'i gyfieithu)

Dylai'r ysgolion ystyried y canlynol mewn perthynas â phob elfen:

Hygyrch
  • Ansawdd cyffredinol y deunydd (p'un a yw o wefannau, erthyglau neu gyflwyniadau llafar).
  • Dylid cyflwyno tystiolaeth mewn arddull glir, sy'n hawdd ei dilyn, gan gyfleu dadleuon neu ganfyddiadau'n effeithiol.
Cywir
  • Dylai'r dystiolaeth ddangos cysondeb mewnol o fewn y data.
  • Mae angen i gyfeiriadau ategol fod yn glir, heb unrhyw fylchau amlwg.
  • Gall cywirdeb manylion fel dyddiadau, niferoedd a phobl fod yn agored i newid ac felly mae'n bwysig cadarnhau pryd y cyhoeddwyd ffynonellau a ph'un a yw'r manylion yn gyfredol.
  • Gall arolygon fod yn seiliedig ar samplau bach a chyfraddau ymateb isel a all olygu nad yw'r canlyniadau yn gynrychioliadol.
Rhesymol
  • Dylai dystiolaeth ddefnyddio gwybodaeth gadarn ac osgoi cyffredinoli gormodol (er enghraifft, ‘nid all bechgyn ganolbwyntio cystal â merched’, neu ‘mae plant o leiafrifoedd ethnig yn tangyflawni’).
  • A yw'r safbwyntiau yn unochrog, neu'n hyrwyddo achos penodol, ac os felly, sut mae hyn yn cymharu â safbwyntiau eraill?
Credadwy
  • Dylai'r dystiolaeth ddod o ffynhonnell awdurdodol.
  • Fel arfer, mae deunyddiau sydd wedi'u llunio gan gyhoeddwyr addysgol ag enw da, cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a ffynonellau swyddogol (er enghraifft adroddiadau gan y llywodraeth, gwefannau â diweddebau .llyw, .gov ac ac.uk) yn gredadwy am eu bod yn destun prosesau sicrhau ansawdd mewnol llym.
  • Mae'r rhan fwyaf o ffynonellau dibynadwy yn nodi cefndir, cylch gwaith a manylion yr awdur, ac mae'r rhan fwyaf o wefannau credadwy yn cynnwys adrannau ‘Amdanom ni’.

Mae'r Guide to the Pupil Premium gan yr EEF hefyd yn rhoi canllawiau defnyddiol ar gyrchu, arfarnu a dehongli tystiolaeth gref a dibynadwy.

3. Gweithredu

Ar ôl dod i ddeall anghenion y dysgwyr a gaiff eu targedu gan y Grant Datblygu Disgyblion ac ystyried pa dystiolaeth fydd yn llywio'r cymorth wedi'i deilwra neu'r ymyriadau a gaiff eu rhoi ar waith, dylai ysgolion benderfynu sut y caiff y rhain eu gweithredu. Wrth gwrs, bydd hon yn broses barhaus ac nid yn ddigwyddiad untro.

Ymysg y cwestiynau ymarferol y dylid eu hystyried mewn cynlluniau gweithredu mae:

  • a oes dulliau gweithredu dysgu ac addysgu presennol, cymorth wedi'i deilwra neu ymyriadau penodol ar waith yn y maes hwn (er enghraifft, gwella lles emosiynol a meddyliol dysgwyr)? Os felly, a yw'r cymorth neu'r ymyriad(au) newydd yn disodli'r rhain neu'n eu hategu? Os felly, sut y gwneir hyn?
  • os ydynt yn disodli dulliau gweithredu blaenorol sydd â'r nod o leihau effaith tlodi, a oedd hyn am nad oeddent yn cael llawer o effaith os o gwbl? Os felly, pam hynny, a sut y bydd hyn yn dylanwadu ar y broses o roi'r dulliau gweithredu newydd ar waith?
  • a fydd y broses o roi'r dulliau gweithredu newydd ar waith yn galw am ddysgu proffesiynol ar gyfer y staff (athrawon a staff cymorth) a fydd yn eu defnyddio? Os felly, a ddylid gwneud hyn cyn i'r ymyriadau gael eu defnyddio?
  • a fydd angen amser addysgu penodedig ar gyfer yr ymyriadau neu'r cymorth wedi'i deilwra, neu a ellir eu hymgorffori mewn dulliau gweithredu dysgu ac addysgu presennol? A oes goblygiadau eraill o ran staffio neu amserlennu?
  • a oes angen i'r ymyriadau neu'r cymorth wedi'i deilwra gyd-fynd â strategaethau a chynlluniau eraill sydd ar waith yn yr ysgol ar hyn o bryd? Gallai hyn gynnwys cynllun datblygu'r ysgol, y cynllun ar gyfer gwireddu'r Cwricwlwm i Gymru, strategaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol, a'r modd y mae'r Dull Gweithredu Ysgol Gyfan tuag ag Iechyd a Llesiant Emosiynol yn cael ei roi ar waith?

Gallai hyn ddilyn dull gweithredu fesul cam yn seiliedig ar y canlynol:

  1. paratoi
  2. cynllunio
  3. treialu
  4. gweithredu'n llawn

4. Monitro a gwerthuso

Bydd arweinwyr ysgol ac aelodau eraill o'r staff yn dangos prosesau effeithiol i fonitro a gwerthuso'r defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion:

  • drwy broses barhaus o fonitro a gwerthuso, sy'n cyd-fynd â phrosesau gwella ehangach yr ysgol
  • drwy ganolbwyntio ar gynnydd tuag at gyflawni nodau y cytunwyd arnynt ar gyfer dysgwyr
  • drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddangosyddion cynnydd gyda chyrhaeddiad yn cael ei nodi fel y pwysicaf ohonynt
  • drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth gan gynnwys llais y dysgwr
  • drwy sefydlu beth sydd wedi gweithio'n dda, beth nad yw wedi gweithio cystal, a beth sydd wedi arwain at y deilliannau hyn
  • drwy sefydlu beth y gellir ei ddysgu o'r broses hon i lywio gwaith yn y dyfodol

Yn aml, bydd athrawon yn ystyried mai dull gweithredu at ymholi proffesiynol y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol yw'r ffordd orau o wneud hyn. Dangosir y dull gweithredu hwn yn y diagram:

Image
Diagram cylchol yn dangos y broses o fonitro a gwerthuso i osod nodau, casglu a dadansoddi tystiolaeth, dod i gasgliadau a chymryd camau.

Bydd hefyd yn ddefnyddiol i ysgolion edrych ar y canlynol:

Rolau a chyfrifoldebau

Mae arian y Grant Datblygu Disgyblion a'r modd y caiff ei ddefnyddio gan ysgolion a lleoliadau yn ffordd allweddol o fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad. Mae ysgolion a lleoliadau, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol oll yn chwarae rôl yn y defnydd effeithiol o'r grant. 

Ysgolion a lleoliadau

Er mwyn sicrhau y caiff y Grant Datblygu Disgyblion ei ddefnyddio'n effeithiol, mae gan ysgolion a lleoliadau gyfrifoldebau i wneud y canlynol:

  • gwario'r Grant Datblygu Disgyblion yn unol â thelerau ac amodau'r grant
  • canolbwyntio ar y meysydd allweddol ar gyfer mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad a nodir uchod, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel ac Ysgolion Bro
  • canolbwyntio ar ddulliau gweithredu ysgol gyfan lle y bo'n briodol 
  • dynodi arweinydd ar gyfer dysgwyr sy'n gymwys i gael y Grant Datblygu Disgyblion yn eich ysgol neu leoliad. Gallai hwn fod yn arweinydd tegwch neu les neu'n rhywun sydd â rôl fugeiliol. Mae'n bwysig nodi na ddylid defnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion i ariannu'r rôl hon. Dylai'r arweinydd dynodedig fod yn aelod sefydledig o gymuned yr ysgol sy'n gyfarwydd â'i garfan
  • ymgysylltu'n gadarnhaol â Chynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion yn y consortia rhanbarthol perthnasol neu'r awdurdod lleol fel rhan o'i rôl i herio ysgolion mewn modd cadarn ac adeiladol, gan sicrhau eu bod yn defnyddio dulliau gweithredu sydd wedi'u llywio gan dystiolaeth
  • cael cymorth Cynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion wrth ddarparu cymorth wedi'i deilwra i alluogi penaethiaid a chyrff llywodraethu i wella'r canlyniadau i ddysgwyr sy'n byw mewn cartrefi incwm isel a phlant sydd â phrofiad o ofal
  • ymgysylltu a gweithio'n rhagweithiol â'r consortia rhanbarthol neu'r awdurdod lleol i nodi anghenion cymorth, i fesur cynnydd ac i werthuso effeithiolrwydd cymorth ac ymyriadau
  • ymgysylltu a gweithio'n rhagweithiol â'r consortia rhanbarthol neu'r awdurdod lleol i nodi a rhannu arferion gorau, a chydweithio ag ysgolion a lleoliadau eraill

cyhoeddi datganiadau ar strategaeth yr ysgol ar y Grant Datblygu Disgyblion ar eich gwefan ar y defnydd a wneir o'r Grant Datblygu Disgyblion a'i effaith (gweler Templed: Datganiad Ysgol y Grant Datblygu Disgyblion)

Consortia rhanbarthol (neu awdurdodau lleol nad ydynt yn rhan o'r consortia)

Er mwyn sicrhau y caiff y Grant Datblygu Disgyblion ei ddefnyddio'n effeithiol, mae gan gonsortia rhanbarthol (ac awdurdodau lleol nad ydynt yn rhan o'r consortia) gyfrifoldebau i wneud y canlynol:

  • penodi Cynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddefnyddio ymarfer sydd wedi'i lywio gan dystiolaeth wrth ddefnyddio arian y Grant Datblygu Disgyblion, gan adrodd yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru ar eu gweithgarwch ac effaith arian y Grant Datblygu Disgyblion
  • rhoi trosolwg strategol ar y defnydd a wneir o'r Grant Datblygu Disgyblion yn unol â'r meysydd allweddol
  • rhoi'r cymorth sydd ei angen ar ysgolion a lleoliadau i ddefnyddio'r grant yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel, ac Ysgolion Bro 
  • herio ysgolion mewn ffordd gadarn ac adeiladol gan sicrhau eu bod yn defnyddio dulliau gweithredu sydd wedi'u llywio gan dystiolaeth ar gyfer defnyddio arian y Grant Datblygu Disgyblion
  • rhoi cymorth o ansawdd uchel i alluogi penaethiaid a chyrff llywodraethu i wella'r canlyniadau i ddysgwyr o gartrefi incwm isel
  • cefnogi prosesau cydweithio rhwng ysgolion a rhwng ysgolion a lleoliadau
  • cefnogi'r broses o rannu ymarfer effeithiol
  • monitro'r datganiadau strategaeth y mae angen i ysgolion eu cyhoeddi ar eu defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion a'i effaith
  • sicrhau bod ‘Arweinydd Grant Datblygu Disgyblion’ dynodedig ar gyfer dysgwyr sy'n gymwys i gael y Grant Datblygu Disgyblion ym mhob ysgol a lleoliad sy'n cael arian y Grant Datblygu Disgyblion
  • adeiladu rhwydweithiau drwy nodi Arweinwyr Grant Datblygu Disgyblion allweddol ym mhob ysgol a sefydlu ‘rhwydweithiau o arweinwyr’ lleol a rhanbarthol

Awdurdodau lleol

Er mwyn sicrhau y caiff y Grant Datblygu Disgyblion ei ddefnyddio'n effeithiol, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud y canlynol:

  • cyflwyno arian y Grant Datblygu Disgyblion yn llawn i ysgolion a lleoliadau yn unol â'r telerau ac amodau
  • sicrhau y caiff ysgolion a lleoliadau eu hysbysu am delerau ac amodau'r Grant Datblygu Disgyblion, gan gynnwys yr angen i dargedu gwariant ar y meysydd allweddol a nodir uchod, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddysgu ac addysg o ansawdd uchel ac Ysgolion Bro
  • cefnogi ysgolion a lleoliadau i ymgysylltu â Chynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion wrth gynllunio a gwerthuso gwariant y Grant Datblygu Disgyblion

Astudiaethau achos

Mae'r astudiaethau achos yn dangos y modd y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn datblygu eu dulliau gweithredu er mwyn lleihau effaith tlodi ar bob un o'r meysydd allweddol. Fersiynau wedi'u golygu ydynt o adroddiadau ac astudiaethau achos a gyhoeddwyd gan Estyn ar ymarfer ysgolion ac awdurdodau lleol ac maent yn ddienw. Mae pob enghraifft yn cynnwys datganiad byr ar gyd-destun yr ysgol neu'r awdurdod lleol.

Dysgu ac addysgu

Cyd-destun

Mae cyfran y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn yr ysgol uwchradd hon ychydig yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer y sector. Mae'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu yn cynnwys amrywiaeth economaidd gymdeithasol ac mae wedi'i lleoli mewn tref fawr.

Astudiaeth achos

Mae bron pob athro yn adnabod ei ddisgyblion yn dda ac yn defnyddio'r wybodaeth i addasu ei addysgu yn dibynnu ar gyd-destun pob dosbarth. Maent yn meithrin cydberthnasau gwaith effeithiol â'r dysgwyr ac yn rheoli eu hystafelloedd dosbarth yn effeithiol.

Mae gan y rhan fwyaf o'r athrawon wybodaeth bynciol gref ac maent yn addysgu'n frwdfrydig. Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o'r hyn y gall y dysgwyr ei gyflawni ac maent yn rhoi cefnogaeth i'w annog i gyfrannu'n weithredol yn y dysgu. Mae'r athrawon hyn yn cynllunio gwersi'n effeithiol, yn trefnu gwybodaeth a sgiliau yn gamau dilyniannol sy'n adeiladu ar ei gilydd mewn modd rhesymegol. Mae ganddynt nodau dysgu clir a phriodol, y maent yn eu rhannu â'r dysgwyr ac mae'r rhan fwyaf o'r dysgwyr yn eu deall.

Mewn sawl achos, mae'r athrawon yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau holi effeithiol iawn i gadarnhau bod y dysgwyr yn deall ac i ddatblygu eu ffordd o feddwl. Maent yn creu diwylliant lle nad yw'r dysgwyr yn ofni gwneud camgymeriadau na mynegi barn. Maent yn dangos esiampl dda drwy'r ffordd y maent yn siarad ac yn defnyddio iaith wybodus i gyfathrebu â'r dysgwyr. Mae llawer ohonynt yn cefnogi eu dysgwyr yn dda drwy adnoddau sydd wedi'u cynllunio'n feddylgar a thrwy gymorth wedi'i dargedu'n unigol. Maent yn dangos yn glir yr hyn y mae'n ofynnol i ddysgwyr ei wneud er mwyn deall yr hyn a ddisgwylir ohonynt. Yn y gwersi hyn, mae'r athrawon yn tynnu'r lefel o gymorth yn ôl yn fedrus er mwyn datblygu annibyniaeth y dysgwyr.

Mae rhai athrawon yn sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd cyflym wrth ddysgu. Mae gan yr athrawon hyn ddisgwyliadau uchel iawn o bob dysgwr. Maent yn addysgu'n gyflym ac yn gadarn, gan egluro cysyniadau cymhleth mewn ffyrdd y mae'n hawdd i'r dysgwyr eu deall.

Ysgolion Bro

Cyd-destun

Mae cyfran y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'r ysgol yn cynnal lleoliad Dechrau'n Deg a chyfleusterau addysgu arbennig ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi'u tynnu o ysgolion eraill yn y clwstwr. Mae'r ysgol mewn cymuned lled wledig heb fawr ddim mynediad i wasanaethau ehangach gerllaw.

Astudiaeth achos

Mae'r ysgol wedi sefydlu partneriaeth gref iawn a llawn ymddiriedaeth â theuluoedd yn y gymuned. Mae'r dull gweithredu mynediad agored hwn yn chwalu rhwystrau drwy helpu rhieni a gofalwyr i deimlo bod croeso iddynt yn yr ysgol. Mae'r ysgol yn fwy na lleoliad i'r plant ddysgu ynddo. Mae hefyd yn gyfleuster sydd o fudd i'r teuluoedd a'r gymuned.

Yn ogystal â darparu amrywiaeth o gymorth a gweithgareddau i rieni a gofalwyr, mae'r ysgol yn cynnal darpariaeth arbenigol yn yr hwb gwasanaethau ar y cyd. Mae hyn yn cynnwys:

  • gwasanaeth cymorth trais domestig
  • ymwelydd iechyd
  • athro Cynghorol Cymunedol Dechrau'n Deg
  • rheolwr comisiynu a rhaglen strategol
  • tîm cymorth Blynyddoedd Cynnar y gwasanaethau cymdeithasol
  • gweithiwr cymorth o elusen Gweithredu dros Blant (Action for Children)

Mae'r darparwyr hyn yn cydweithio'n ddi-dor â staff yr ysgol i roi cymorth cyfannol i'r plant a'u teuluoedd. Mewn rhai achosion, mae'r rhyngweithio hwn wedi helpu rhieni a gofalwyr i wella eu sgiliau a meithrin eu hyder i fynd ar gyrsiau coleg. Cynhelir rhai o'r cyrsiau hyn yn yr ysgol a chânt eu rhedeg gan sefydliadau addysg bellach partner.

Mae darpariaeth Dechrau'n Deg wedi'i hintegreiddio'n llwyr ym mywyd yr ysgol o ddydd i ddydd. Mae'r modd y mae'r ystafelloedd dosbarth wedi'u trefnu yn golygu bod grwpiau Dechrau'n Deg yn dysgu ochr yn ochr â dysgwyr addysg feithrin. Mae hyn yn golygu'r canlynol:

  • bod y cyfnod pontio i'r ddarpariaeth ysgol gynradd yn effeithiol iawn i'r dysgwyr a'u rhieni neu ofalwyr
  • bod yr ysgol yn meithrin cydberthnasau â rhieni a gofalwyr ar gam cynnar

Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar

Cyd-destun

Mae'r darparwr gofal plant yn yr enghraifft hon wedi'i leoli'n agos at ganol dinas. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys gofal plant cofleidiol i blant yn y feithrinfa a'r grŵp chwarae a crèche sy'n darparu gofal plant brys neu dros dro.

Astudiaeth achos

Mae sesiynau ymgysylltu â rhieni yn rhoi'r cyfle i rieni a gofalwyr weld yr hyn y mae eu plant yn ei wneud yn y feithrinfa a'u helpu i fod yn fwy o ran o'u dysgu a'u datblygiad. Mae'r sesiynau yn rhoi hyder i'r rhieni a'r gofalwyr a gwell dealltwriaeth o'r pethau gwahanol y gallent eu gwneud i gefnogi dysgu eu plentyn gartref. Mae'r staff yn rhoi cyfleoedd da i rieni a gofalwyr ddod i'w hadnabod yn well, drwy drafod yr hyn a ddigwyddodd pan oeddent yn gwneud y tasgau gartref ac yn rhannu syniadau ar gyfer gweithgareddau eraill a'r camau dysgu nesaf. Mae'r sesiynau hyn yn helpu i hyrwyddo parhad ym mhrofiadau dysgu'r plant rhwng y cartref a'r lleoliad. Mae hyn yn ychwanegu at effaith y gweithgareddau y mae'r plant yn eu mwynhau yn y lleoliad ac yn atgyfnerthu eu dysgu. Ceir cyfle hefyd i'r plant ddangos i'w rhieni, eu gofalwyr neu'u teuluoedd beth maent wedi bod yn ei ddysgu drwy'r tymor.

Mae ymarferwyr wedi sylwi bod rhieni a gofalwyr yn cymryd mwy o ran yn y sesiynau wrth iddynt fagu hyder, ac maent yn defnyddio eu hyder newydd i barhau i ymarfer y sgiliau hyn gyda'u plant gartref. Ar ddiwedd pob sesiwn, mae'r staff yn gofyn i'r holl rieni a gofalwyr gwblhau ffurflen adborth, yn nodi beth y gwnaethant ei fwynhau, beth y gellid ei wella, a syniadau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol. Mae'r ymarferwyr yn gwrando'n dda ar awgrymiadau gan rieni a gofalwyr ac yn ystyried eu harsylwadau o ddiddordebau'r plant yn ofalus. Maent yn gwneud y gorau o sgiliau'r rheini a'r gofalwyr ac o arbenigedd y staff ar bob cyfle posibl.

Iechyd a lles plant a phobl ifanc

Cyd-destun

Mae cyfran y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn yr ysgol uwchradd ddinesig hon i ddisgyblion 11 i 16 oed yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae gan yr ysgol gyfleuster addysgu arbenigol ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Astudiaeth achos

Mae'r ysgol wedi datblygu system olrhain sy'n cynnwys:

  • rhagfynegiadau
  • targedau ar gyfer pob dysgwr i godi dyheadau
  • canlyniadau arolwg lles ar-lein i roi trosolwg o les
  • safonau gan gynnwys oedrannau darllen a chyfraddau presenoldeb dysgwyr

Mae'r athrawon yn cyfrannu at y system yn rheolaidd drwy rannu gwybodaeth am gynnydd academaidd ac agwedd pob dysgwr at ddysgu ar raddfa 4 pwynt. Mae'r staff yn defnyddio'r wybodaeth o'r system hon yn rhagweithiol i roi cymorth ac her wedi'u teilwra. Er enghraifft, mae'r system yn galluogi'r ysgol i gynnal cyfarfodydd lle fydd 15 i 20 o gydweithwyr, gan gynnwys staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu, yn trafod dim mwy na 4 dysgwr o Flwyddyn 9, 10 ac 11.

Ynghyd â gwybodaeth am les, mae'r dull gweithredu hwn yn galluogi'r staff i gytuno ar ymyriadau penodol ar gyfer dysgwyr penodol sy'n cynnwys:

  • cymorth llythrennedd a rhifedd unigol neu mewn grwpiau bach
  • ymyriadau lles wedi'u teilwra, gan gynnwys grwpiau mentora
  • cynnwys asiantaethau allanol pan fo angen

Datblygu dyheadau uchel drwy gydberthnasau cryf

Cyd-destun

Mae'r gwasanaeth ieuenctid yn yr enghraifft hon yn awdurdod lleol lle mae cyfran y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru. Mae cyfran y dysgwyr o leiafrifoedd ethnig yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru. Mae cyfran y plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Astudiaeth achos

Mae'r gweithwyr ieuenctid yn gweithio’n bennaf, ond nid o reidrwydd, gyda phobl ifanc sydd dan anfantais gymdeithasol ac sydd wedi'u hymyleiddio. Eu nod yw gwella hunanhyder y bobl ifanc a datblygu eu dyheadau. Maent yn defnyddio gweithgareddau ar-lein i gadw mewn cysylltiad â llawer o bobl ifanc. Mae gwneud hyn yn helpu i ymgysylltu â nifer gynyddol o bobl ifanc nad ydynt yn gyfforddus efallai â dulliau mwy traddodiadol ond sy'n fwy hyderus mewn amgylchedd ar-lein.

Mae gweithgareddau ar-lein yn amrywio o grefft a choginio i glybiau gemau. Mae'r gweithwyr ieuenctid yn ymgysylltu â'r bobl ifanc ac yn meithrin eu hyder drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau penodol. Mae prosiect gwaith ieuenctid digidol yn enghraifft dda o hyn. Mae grŵp o arbenigwyr yn y byd digidol, nad oeddent yn ymwneud â gwaith ieuenctid yn flaenorol, bellach yn datblygu cynnwys a gwasanaethau ar-lein sy'n hygyrch ac yn berthnasol i bob person ifanc. Mae hyn yn cynnwys:

  • blogiau
  • flogiau
  • podlediadau
  • ymgyrchoedd i gyrraedd pob person ifanc

Arweinir y gwaith hwn gan y bobl ifanc sydd hefyd yn gweithio gyda gweithwyr ieuenctid a datblygwyr gwefannau i greu gwefan wedi'i theilwra ar gyfer pobl ifanc ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid. Buont yn gweithio gyda phartneriaid a gwnaethant ddewis y cynnwys ac yn bwysig, y platfform digidol mwyaf priodol ar gyfer gweithgareddau ar-lein. Dywedodd y bobl ifanc fod eu cyswllt ar-lein ac wyneb yn wynebu wedi gwella:

  • eu sgiliau
  • eu hyder
  • eu hunanhyder
  • yr amrywiaeth o bosibiliadau bywyd sydd ar gael iddynt

Cwricwlwm i Gymru a chymwysterau

Cyd-destun

Mae cyfran y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ychydig yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'n cynnwys disgyblion o rannau o dref gerllaw ac o nifer o'r pentrefi cyfagos.

Astudiaeth achos

Er mwyn annog dysgwyr i fod yn gyfrifol am eu dysgu eu hunain ac i allu asesu eu gwaith eu hunain, cyflwynodd yr ysgol gyfres o strategaethau. Roedd y rhain yn cynnwys galluogi dysgwyr i gymryd perchenogaeth o'u dysgu a'u sgiliau eu hunain. Mae hyn yn eu galluogi i nodi'r hyn sydd angen iddynt ei wneud pan fyddant yn dod ar draws rhywbeth nad ydynt yn gyfarwydd ag ef a chael y strategaethau cywir i wneud cynnydd yn y eu dysgu.

Cafodd y dysgwyr hefyd eu hannog i geisio adborth gan eu hathrawon ac ymateb iddo'n effeithiol. Yn bwysicaf oll, cawsant eu hannog i roi adborth i'r staff am eu haddysgu. Roedd hyn yn golygu eu bod yn weithredol yn eu dysgu eu hunain.

Gall y dysgwyr ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau metawybyddol a ddatblygwyd drwy iaith ddysgu a rennir. Cânt eu hannog i ystyried dysgu fel gwaith heriol, gyda meddylfryd twf a dyhead i lwyddo. Cânt eu cefnogi hefyd i ddeall beth yw nodau'r dysgu a phwysigrwydd cael eu herio gan y meini prawf llwyddiant. Gallant ddefnyddio dulliau hunanasesu effeithiol a herio eu hunain yn dda i wella, gan ddefnyddio sgiliau asesu effeithiol ar gyfer dysgu ac o ddysgu.

Mae'r cwricwlwm hyblyg iawn yn galluogi dysgwyr i ddewis llwybr sy'n addas i'w hanghenion. Wrth ddechrau ar eu llwybr dewisol ym Mlwyddyn 9, caiff dysgwyr gyfle i dreialu eu dewisiadau er mwyn sicrhau eu bod yn addas. Yng Nghyfnod Allweddol 4, gall dysgwyr ddewis dilyn 3 llwybr gwahanol:

  • Estyniad
  • Gwella
  • Cyfoethogi

Mae'r cydbwysedd amser a'r dewis o opsiynau yn amrywio yn dibynnu ar y llwybr y bydd dysgwr yn ei ddilyn. Caiff y broses opsiynau ei harwain gan y dysgwr i raddau helaeth. Gall dysgwyr ddewis y pynciau yr hoffent eu hastudio, gyda'r opsiynau yn adlewyrchu profiadau academaidd a galwedigaethol. Nid yw'r dewisiadau wedi'u cyfyngu i un llwybr ac mae'r ysgol yn rhoi gwerth cyfartal i'r ddau. Mae rhwydwaith cymorth gofalus ar waith i roi'r arweiniad priodol i ddysgwyr i sicrhau deilliannau llwyddiannus. Caiff amrywiaeth eang o bynciau eu cynnig a'u cefnogi drwy bartneriaeth lwyddiannus iawn â darparwyr ôl-16 sy'n cyfrannu at ddarparu amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol wedi'u dewis yn ofalus.

Arweinyddiaeth

Cyd-destun

Mae cyfran y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae gan yr ysgol gyfran uchel o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd. Mae'r ysgol yn cynnal canolfan asesu cynhwysiant disgyblion i ddysgwyr o bob rhan o'r awdurdod lleol sydd ag anawsterau ymddygiad.

Astudiaeth achos

Mae arweinyddiaeth hynod effeithiol y pennaeth wedi trawsnewid bywyd a gwaith yr ysgol. Mae ei arddull arwain sy'n galluogi yn hwyluso gwelliant parhaus effeithiol ac yn cefnogi'r broses o ddatblygu diwylliant tîm cryf.

Ymysg cryfderau sylweddol yr arweinyddiaeth yn yr ysgol mae:

  • pwyslais cyson ar feithrin a chynnal cydberthnasau cadarnhaol ledled y gymuned gyfan
  • y gallu i gael y gorau allan o bobl

Mae'r ysgol wedi datblygu gweledigaeth glir sy'n diwallu anghenion dysgwyr, teuluoedd a'r gymuned leol yn arbennig o dda ac wedi'i rhoi ar waith. Mae hyn yn sicrhau bod y staff yn gwneud y canlynol:

  • gweithio gydag ymdeimlad o ddiben a rennir er mwyn hyrwyddo disgwyliadau uchel ar gyfer cynnydd a llesiant dysgwyr
  • sicrhau eu bod yn meithrin ymdeimlad o berthyn i'r ysgol a'r gymuned leol

Mae mentrau, fel datblygu'r dull gweithredu at ddysgu sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn dangos y modd y mae'r ysgol yn troi ei gweledigaeth yn weithredoedd drwy arweinyddiaeth strategol effeithiol. Mae'r ysgol yn gweithio'n effeithiol i godi dyheadau dysgwyr, er enghraifft drwy wahodd ffigurau proffil uchel o fyd chwaraeon, gwyddoniaeth a gwleidyddiaeth Cymru i'r ysgol. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i'r dysgwyr nodi'r nodweddion y gall fod angen iddynt eu datblygu er mwyn cyflawni eu nodau eu hunain mewn bywyd. Mae'r ysgol yn effeithiol o ran:

  • dosbarthu rolau a chyfrifoldebau
  • datblygu gallu i arwain

Mae'r uwch-arweinwyr yn defnyddio profiadau a sgiliau'r staff yn effeithiol i wella darpariaeth, cynnydd a deilliannau i'r dysgwyr. Er enghraifft, mae'r ffordd y mae'r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn arwain darpariaeth cymorth teuluol yr ysgol yn eithriadol o dda.

Mae'r gwaith hwn yn fuddiol iawn i fywydau dysgwyr a theuluoedd yn yr ardal mewn sawl ffordd. Er enghraifft:

  • mae'n rhoi cymorth cyn-ysgol i rieni a gofalwyr
  • mae'n ei gwneud yn haws i ymgysylltu â rhwydwaith o wasanaethau cymorth hanfodol

Mae ymrwymiad yr ysgol i fynd i'r afael â thlodi ac anfantais gymdeithasol wrth wraidd yr holl waith a wna.

Mae'r arweinwyr yn ymgysylltu'n bwrpasol â gwaith ymchwil ac â lleoliadau addysgol o'r DU a'r Unol Daleithiau i lywio penderfyniadau am ddarpariaeth, er enghraifft i lywio'r strategaeth cymorth teuluol. Maent yn defnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion yn dda i ariannu staff medrus i roi dull gweithredu ysgol gyfan cynaliadwy ar waith tuag at les, i gefnogi'r gwaith o feithrin sgiliau'r dysgwyr ac i gynnig profiadau.

Cefnogi cynnydd ôl-16

Cyd-destun

Darperir y ddarpariaeth hon gan awdurdod lleol lle mae cyfran y dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru. Mae cyfran y dysgwyr o leiafrifoedd ethnig yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru. Mae cyfran y plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn uwch na chyfartaledd Cymru ac mae cyfran y dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn is na'r cyfartaledd.

Astudiaeth achos

Er mwyn mynd i'r afael ag anfanteision economaidd yn y gymuned, mae gwaith yn mynd rhagddo mewn partneriaeth â sefydliadau lleol i fynd i'r afael ag anghenion addysgol a hyfforddiant pobl ifanc o gefndir Somalïaidd a grwpiau eraill i gynyddu eu cymwysterau addysgol ac i wella eu siawns o gael cyflogaeth. Fel rhan o'r prosiect, gall cyfranogwyr ddatblygu fel arweinwyr chwaraeon, neu gymryd rhan yn chwalu rhwystrau i brentisiaethau i gymheiriaid.

Lle bynnag y bo modd, mae'r prosiect yn defnyddio hwyluswyr a hyfforddwyr sy'n gymheiriaid i ddatblygu ei weithdai. Mae'r gwaith hwn yn helpu pobl ifanc lleol i fagu hyder ac i wneud cynnydd mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

O ganlyniad uniongyrchol i'r gwaith hwn, ymunodd un cyn aelod o'r grŵp ag academi ieuenctid pêl-droed, lle llwyddodd i gwblhau treial, a chafodd gynnig contract i chwarae i'r clwb. Mae un arall, a fu'n cynrychioli Cymru yn rowndiau terfynol athletau Prydain, bellach wedi dechrau ar ysgoloriaeth pêl-droed ac addysg dros ddwy flynedd. Gan adeiladu ar y llwyddiant a gafwyd fel aelod o'r grŵp, llwyddodd dysgwr arall i ddefnyddio arian y prosiect i ymuno â chwrs mynediad i addysg uwch gwaith ieuenctid a chymunedol ac mae bellach yn astudio ar gyfer BA (Anrh) mewn nyrsio.

Bydd Cam 2 y prosiect yn mynd i'r afael â sefyllfa pobl ifanc o gefndir Somalïaidd drwy fynd i'r afael â rhai o achosion sylfaenol tlodi ac anfantais yn y gymuned. Bydd yn edrych yn benodol ar y diffyg cymwysterau galwedigaethol ac ynysigrwydd cymdeithasol o’r gymdeithas ehangach yng Nghymru. Y nod yw gweithio gyda cholegau addysg bellach lleol a darparwyr dysgu seiliedig ar waith i fanteisio ar gymwysterau a phrentisiaethau galwedigaethol.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol

Cydnabyddiaethau

Hoffai Llywodraeth Cymru gydnabod cefnogaeth Estyn ar gyfer yr astudiaethau achos sydd wedi'u cynnwys yn y canllawiau hyn; y Sefydliad Gwaddol Addysg y mae ei ganllaw ar ddefnyddio'r Premiwm Disgybl yn Lloegr wedi dylanwadu ar fformat y ddogfen hon; a'r Athro David Egan o Grŵp Ymchwil Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a luniodd y canllawiau hyn ar gyfer Llywodraeth Cymru.