Haen Opsiynol yr SFS: Grant Creu Coetir Bach: canllawiau cyffredinol
Yn esbonio'r cynllun a'r gofynion cymhwyster ar gyfer y Haen Opsiynol yr Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Grant Creu Coetir Bach.
Ar y dudalen hon
Darllenwch y ddogfen hon cyn Datgan eich Diddordeb. I gael help i lenwi'ch cais, gweler y canllaw Sut i lenwi.
Os ydych yn cael trafferth llenwi'ch cais, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid gan ddefnyddio’ch cyfrif RPW Ar-lein neu drwy ffonio 0300 062 5004.
Adran A: cyflwyniad
Mae'r nodiadau hyn yn esbonio yr SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach y cyfeirir ato fel 'y grant' yn y canllawiau hyn. Mae canllawiau technegol hefyd wedi’u paratoi sy’n disgrifio’r cymysgedd o rywogaethau coed cymwys, y dwyseddau plannu, y canlyniadau a’r meini prawf ym mhob Categori o Goetir a Grant. Darllenwch nhw’n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau fod yn gymwys o dan y categori hwn a'ch bod am wneud cais, darllenwch 'Sut i Wneud Cais' yn adran F a'r llyfryn sut i lenwi.
Bydd Ffenestr 1 yn agor ar 20 Gorffennaf 2026 ac yn cau ar 23 Hydref 2026.
Mae'r grant wedi ei anelu at ffermwyr a rheolwyr tir eraill i'w hannog i blannu coetiroedd bach ar dir sydd wedi'i wella'n amaethyddol neu dir isel ei werth yn amgylcheddol yng Nghymru.
Mae cyllid ar gael ar gyfer plannu coed a chodi ffensys a gatiau mewn amrywiaeth o fannau, gan gynnwys ar lannau cyrff dŵr, mewn corneli caeau, neu gaeau bach, i ddarparu cysgod i stoc, cynhyrchu coed tân a chreu cynefin i fywyd gwyllt. Yn ogystal â'r cymorth cyfalaf, mae'r grant yn cynnig taliad i gynnal 12 mlynedd o waith Cynnal a Chadw a thaliad premiwm ar gyfer y gwaith plannu newydd.
Fel rhan o'n hymdrechion i wella'n cynlluniau creu coetir, rydym yn ychwanegu rhai eitemau cyfalaf i helpu'r gwaith plannu coed ar lan afonydd, nentydd a phyllau. Mae'r grant bellach yn cynnwys grantiau ar gyfer cafnau dŵr, gatiau dŵr a phibellau dŵr. Mae hyn yn ychwanegol at y cymorth ar gyfer plannu'r coed, taliadau gofalu am y coed a thaliadau premiwm.
Yr uchelgais yw annog plannu mwy o goed ar y tiroedd hyn tra'n sicrhau nad yw'r coed yn rhwystro da byw rhag gallu mynd at ddŵr. Mae hynny weithiau'n cael ei weld yn rheswm dros beidio â phlannu coed. Gall plannu coed ddarparu nifer o fanteision fel gwella ansawdd dŵr, sefydlogi glannau afonydd, rheoli llifogydd yn naturiol, dal a storio carbon, a chynefinoedd iach ar gyfer bywyd gwyllt. Gall hefyd gynnig manteision amaethyddol o ran stoc a bioddiogelwch – mae cadw stoc allan o goetir ar lannau afon yn ei gwneud hi'n haws eu casglu a’u rheoli a gall rwystro clefydau.
Mae'r grant yn cynnwys hefyd taliad am gyngor ar greu coetiroedd. Sef cyngor penodol i’r fferm nad yw’n cael ei drafod yn y canllaw technegol. Caiff ei dalu gyda’r taliad sefydlu a bydd un taliad yr ymgeisydd y flwyddyn. Nid yw’n cael ei dalu’n awtomatig a dylid ei hawlio yn yr un ffordd ag ar gyfer eitemau cyfalaf eraill, ar ôl cwblhau’r gwaith.
Mae'r broses ymgeisio yn sicrhau bod cynigion yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) (ar gov.uk) heb i chi orfod anfon cynllun creu coetir i CNC ar gyfer ei ddilysu. Mae cyllid ar gael ar gyfer plannu lleiniau rhwng 0.1ha ac 1.99ha o faint. Gellid rhannu'r lleiniau'n flociau plannu heb fod yn llai na 0.01 ha.
Mae'r categori hwn yn cynnig cymorth ar gyfer plannu yn unig ar y tir cymwys sydd wedi'i nodi ar y map RPW Ar-lein. Nid yw cynefinoedd â blaenoriaeth na thir uwchlaw llinell derfyn tiroedd sydd wedi'u hamgáu a thir comin yn gymwys, oherwydd yr effaith bosibl ar y dirwedd a chymhlethdodau eraill. Os nad yw’r tir rydych am blannu arno yn yr ardal gymwys, neu os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth ar Fap RPW Ar-lein yn anghywir, dylech ofyn i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir am help Cynlluniwr Coetir Cofrestredig i ddatblygu Plan Creu Coetir.
Rhaid i'r rhai sy'n ymgeisio am gyllid yn 2026 gwblhau eu gwaith plannu a chyfalaf newydd a hawlio ar yr holl waith cyfalaf ym mlwyddyn ariannol 2026/27 h.y. erbyn 31 Mawrth 2027. Ni fydd estyniad ar ôl 31 Mawrth 2027.
Bydd angen i chi ystyried a oes yna goed ar gael ichi eu plannu wrth benderfynu a ddylech Ddatgan Diddordeb yn y ffenest hon.
Dim ond unwaith y cewch Ddatgan Diddordeb yn y grant mewn unrhyw gyfnod ymgeisio.
Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)
Mae yna reolau plannu ar dir cynefin sy'n cael ei reoli fel rhan o Haen Gyffredinol yr SFS. Dylech ddarllen yr wybodaeth yn y canllawiau technegol cyn bwrw ymlaen.
Mwy o wybodaeth am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Adran B: pwy sy’n gymwys
Byddwch yn gymwys i wneud cais
- os ydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Gallwch gofrestru trwy RPW Ar-Lein: sut i gofrestru
- os ydych yn ddeiliad tir cyhoeddus neu breifat neu’n gyngor neu’n gymdeithas, gan gynnwys grwpiau cymunedol sy'n plannu ar dir cyhoeddus
- os yw’ch landlord wedi rhoi ei ganiatâd i chi wneud cais am grant os ydych chi'n gwneud cais fel tenant
- nid yw Adrannau’r Llywodraeth na’u hasiantau yn gymwys am daliad
Pa dir sy’n gymwys
- dim ond parseli tir yng Nghymru sy’n gymwys
- mae'ch tir wedi'i gofrestru'n llwyddiannus o fewn System Adnabod Parseli Tir (LPIS) Llywodraeth Cymru o leiaf 14 diwrnod cyn agor ffenestr. Darllenwch RPW Ar-lein: defnyddio 'rheoli fy nhir'
- bydd gennych reolaeth lwyr ar y tir gydol y contract a dros gyfnod llawn yr ymrwymiad
- rhaid plannu coetir ar o leiaf 0.1ha o dir er mwyn bod yn gymwys am y grant
- ni chewch blannu mwy na chyfanswm o 1.99ha fesul cais. Gellir rhannu’r cyfanswm yn flociau o goed, dim un ohonyn nhw’n llai na 0.01ha
Amodau plannu
- rhaid i chi gadarnhau bod pob cymydog ac unigolyn sydd ag eiddo sy’n ffinio â’r safle plannu newydd yn hapus â’ch cynigion plannu. Darllenwch Adran E – Annog y Cyhoedd i Gymryd Rhan
- rhaid plannu’r coed gan ddefnyddio dulliau plannu â llaw, creithio pridd neu dwmpathau wyneb i waered a thwmpathau colynnog, yn unol â meini prawf y Categori Coetir a ddewisir
- rhaid i'ch cynnig plannu fod o dan y trothwy ar gyfer Asesu’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) (EIA) fel na fydd angen barn EIA (Coedwigaeth). Gweler y canllawiau Asesu Effaith Amgylcheddol (EIA) yn yr Adran hon
Nid yw'r canlynol yn gymwys am y grant:
- tir y mae rheolwr tir neu fusnes fferm arall yn hawlio cymhorthdal (BPS) neu grant arno (hawlio ddwywaith ar yr un tir)
- tir o dan Drwydded Bori
- tir comin cofrestredig
- tir lle mae’r coed wedi’u cwympo a bod angen ailstocio
Nid yw tir sydd o dan gontract gyda’r cynlluniau canlynol yn gymwys:
- Creu Coetir Glastir
- Adfer Coetir Glastir
- Cynllun Adfer Coetir
- Cynllun Coetir Ffermydd/Cynllun Premiwm Coetir Ffermydd
- Premiwm Creu Coetir Glastir
- Grantiau Bach Glastir neu Grantiau Bach – Amgylchedd
- Grant Creu Coetir
- Grantiau Bach – Creu Coetir
Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (EIA)
Mae'r grant wedi ei lunio fel nad oes angen cynnal Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) o ran coedwigo fel arfer. Fodd bynnag bydd angen i chi ystyried hefyd a oes unrhyw goetir wedi'i blannu o fewn y 5 mlynedd diwethaf ar dir sy’n ffinio â’r safle rydych am blannu coed arno. Mae hyn yn cynnwys coed sydd wedi’u plannu ar dir eich cymydog. Mae tir sy’n ffinio yn cael ei ddiffinio fel tir sydd o fewn 10m i’ch grant.
Y trothwy ar gyfer cynnal EIA yw 2ha os oes unrhyw ran o’r tir mewn Parc Cenedlaethol neu Dirwedd Genedlaethol a 5ha ar gyfer unrhyw dir arall.
Os oes mwy na throthwy’r EIA wedi'i blannu dros y 5 mlynedd ddiwethaf gan gynnwys ar dir cyffiniol, ni chaiff y grant ei dalu i chi a dylech wneud cais i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir. Gallwch ofyn am help Cynlluniwr Coetiroedd cofrestredig fydd yn llunio plan creu coetir ar eich cyfer, a bydd yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn rhan o'r cynllun.
Adran C – cynlluniau a ffynonellau cyllid eraill
Consider the interaction with other schemes when applying for the grant.
Ystyriwch y berthynas â chynlluniau eraill wrth wneud cais am y grant.
Y Cynllun Troi’n Organig
Os oes gennych dir o dan gontract Cynllun Troi’n Organig, rhaid ichi ofyn i’r tir gael ei ddileu o’r contract hwnnw drwy eich cyfrif RPW Ar-lein os ydych am blannu coed arno. O gael caniatâd Llywodraeth Cymru, caiff y tir ei dynnu o’ch Contract Troi’n Organig, a dim ond ar ôl gwneud hynny y cewch ddechrau plannu’r coed.
Cymorth Organig / Ffermio Organig - Cymorth
Os oes gennych dir sydd wedi’i gynnwys mewn hawliad am Gymorth Organig / Ffermio Organig - Cymorth, rhaid gofyn trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein am ganiatâd i dynnu’r tir o’ch hawliad Cymorth Organig / Ffermio Organig - Cymorth os ydych am blannu coed arno. Cyn belled â bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo hynny, bydd y tir yn cael ei ddileu o’ch hawliad Cymorth Organig / Ffermio Organig - Cymorth. Ni chewch fwrw ymlaen â’r plannu nes bod y tir wedi cael ei ddileu.
Tyfu er mwyn yr Amgylchedd
Os oes gennych dir o dan gontract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, gallwch ei gynnwys yn eich contract Grant Creu Coetir Bach. Ond, rhaid gofyn trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein am ganiatâd i dynnu’r tir o'ch contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. O gael caniatâd Llywodraeth Cymru, caiff y tir ei dynnu o’ch contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, a dim ond ar ôl gwneud hynny y cewch ddechrau plannu’r coed.
Gwaith Cyfalaf a gafodd ei ariannu o’r blaen
Os yw'r Gwaith Cyfalaf plannu coed a ffensio wedi'i ariannu o’r blaen o dan unrhyw un o'r cynlluniau isod, nid yw'n gymwys am y grant
- Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- Holl gynlluniau Glastir
- Grantiau Bach – yr Amgylchedd
- Grantiau Bach – Creu Coetir
- Grant Creu Coetir
Cael eich talu ddwywaith
Rhaid i chi beidio â gwneud cais am y grant os ydych yn cael arian ar gyfer y gwaith dan sylw o unrhyw ffynhonnell arall, gan y byddai hynny'n golygu eich bod yn cael eich talu ddwywaith ac ni chaniateir hynny. Os gwelir eich bod yn cael neu wedi cael arian o ffynhonnell arall ar gyfer ymrwymiadau'r grant, gallech gael eich cosbi’n ariannol, gorfod ad-dalu taliadau gyda llog ac efallai dod â’ch contract i ben.
Adran D: y cyllid sydd ar gael
Gwaith cyfalaf
Mae'r taliadau Cyfalaf ac Arwynebedd canlynol i’ch helpu i sefydlu coetir a’i gynnal a’i gadw wedi hynny ar gael o dan y grant.
| Cod yr Opsiwn | Categori'r coetir | Taliad fesul Hectar | Coed fesul Hectar | |
|---|---|---|---|---|
| SW01 | Bioamrywiaeth Frodorol 1100 | £3,594.00 | 1100 | |
| SW02 | Bioamrywiaeth Frodorol 1600 | £5,103.00 | 1600 | |
| SW03 | Coed Cysgodol Brodorol | £6,982.00 | 2500 | |
| SW04 | Y Wiwer Goch 1600 | £5,103.00 | 1600 | |
| SW05 | Y Wiwer Goch 2500 | £5,881.00 | 2500 | |
| SW10 | Coetir Gwlyb a Glan Nant 1100 | £3,594.00 | 1100 | |
| SW11 | Coetir Gwlyb a Glan Nant 1600 | £5,103.00 | 1600 | |
| SW14 | Cnau a Ffrwythau | £4,480.00 | 800 | |
| SW18 | Arfordirol | £4,480.00 | 800 | |
| SW19 | Coed Cynhyrchiol (tanwydd a choed cysgodi) | £5,881.00 | 2500 | |
| Gwaith Cyfalaf Ychwanegol | Taliad fesul Eitem | |||
| SW06 | Ffens postyn a weiren a netin stoc | £8.33 / m | ||
| SW13 | Ffens ceirw i’w cadw rhag eu bwyta | £13.32 / m | ||
| SW07 | Cilbyst a Gât Ceffyl o Bren | £301.39 | ||
| SW08 | Cilbyst a Gât Mochyn o Bren | £362.00 | ||
| SW15 | Gât safonol (metel) | £185.75 | ||
| SW16 | Gât safonol (pren caled) | £466.22 | ||
| SW17 | Gât safonol (pren meddal) | £225.92 | ||
| SW63 | Pibelli Cyflenwi Dŵr | £1.39 / m | ||
| SW21 | Gât Ddŵr | £337.81 | ||
| SW22 | Cafnau Dŵr | £224.00 | ||
| SW99 | Taliad am Gyngor | £300 | ||
Y taliad premiwm am 12 mlynedd (taliad yr hectar)
Y premiwm ar gyfer y taliad arwynebedd blynyddol o 12 mlynedd yw £387 yr hectar.
Cyfraddau cynnal a chadw am 12 mlynedd (taliad fesul hectar)
Y gyfradd cynnal a chadw fesul hectar ar gyfer blwyddyn 1 yw £422, blwyddyn 2 yw £316 a blwyddyn 3 yw £264. Y gyfradd flynyddol o flwyddyn 4 i flwyddyn 12 yw £74.
Categorïau coetir
Fe welwch ragor o fanylion am y Categorïau Coetir yn y canllawiau technegol gan gynnwys y cymysgedd rhywogaethau coed cymwys, dwysedd plannu, canlyniadau a meini prawf pob Categori Coetir.
Gwaith cyfalaf ychwanegol
Fe welwch fanylebau technegol y Gwaith Cyfalaf Ychwanegol yn y canllawiau technegol.
Mae grant ffensio ar gael ar gyfer cadw da byw allan o goetir sydd newydd ei blannu.
Mae grantiau ar gael ar gyfer gatiau ceffyl a gatiau mochyn o bren, ond dim ond os ydyn nhw’n caniatáu mynediad ar hawliau tramwy cyhoeddus fel llwybrau troed a llwybrau ceffylau. I fod yn gymwys, rhaid i gatiau caeau fod yn rhan o'r gwaith ffensio newydd ar gyfer cadw stoc allan o dir newydd ei blannu. Dim ond 5 giât cae a ganiateir fesul cais.
Ni chaiff unrhyw ffens y rhoddir grant i’w hadeiladu fod yn hirach na pherimedr y safle a blannir a rhaid ei chodi i sicrhau na all da byw fynd i’r darn o goetir gafodd ei blannu. Weithiau, bydd yn well gosod y ffens i amddiffyn y coetir newydd ei blannu mewn cae arall (e.e. i gynnwys perth/gwrych neu goetir cyffiniol). Rhaid bod gan y cwsmer reolaeth lwyr ar y cae hwnnw a rhaid ei fod yn bodloni holl amodau’r grant.
Plannu ar lannau afonydd
Fel rhan o'n hymdrechion i wella'n cynlluniau creu coetir, mae'r grant yn cynnwys rhai eitemau cyfalaf ar gyfer plannu coed ar lan afonydd, nentydd neu byllau. Gall hyn ddarparu nifer o fanteision fel gwella ansawdd dŵr, sefydlogi glannau afonydd, rheoli llifogydd yn naturiol, dal a storio carbon, a chreu cynefinoedd iach ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae grantiau ar gael ar gyfer cafnau dŵr, gatiau dŵr, a phibellau dŵr sydd eu hangen wrth osod ffens o gwmpas yr ardal y byddwch yn ei phlannu gan ddefnyddio cymysgedd rhywogaethau Coetir Gwlyb a Glan Nant 1100 a Choetir Gwlyb a Glan Nant 1600. Bydd y grantiau hyn yn helpu ffermwyr ac eraill sydd eisiau cynnwys coed yn eu busnes trwy greu stribedi ar lannau afon ger cwrs dŵr parhaol neu bwll. Yr uchelgais yw annog plannu mwy o goed ar lannau afonydd tra'n sicrhau nad yw'r coed yn rhwystro da byw rhag gallu mynd at ddŵr. Mae hynny weithiau'n cael ei weld yn rheswm dros beidio â phlannu coed.
Bydd terfyn ar y nifer o eitemau a ariennir fesul rhaglen:
- pibelli cyflenwi dŵr: dim mwy na 500m fesul cais
- gatiau dŵr: dim mwy na 5 fesul cais
- cafnau dŵr: dim mwy na 5 fesul cais
Taliad ychwanegol am blannu coed llydanddail brodorol i ddarparu gwasanaethau ecosystem
Tan 31 Mawrth 2029, ar gyfer gwaith plannu gafodd ei gwblhau ac yr hawliwyd arno, bydd taliad ychwanegol o £825 yr hectar ar gael ar gyfer coetir llydanddail brodorol lle plannwyd o leiaf 800 o goed unigol a dim llai na 80% ohonyn nhw'n goed llydanddail brodorol. Bydd y taliad ar gyfer y categorïau cymwys a nodir uchod. Mae'r taliad yn cydnabod y gwasanaethau ecosystem o ran bioamrywiaeth, carbon ac ansawdd aer sy'n gysylltiedig â phlannu coetir llydanddail brodorol.
Cadw stoc allan
Ni chaniateir unrhyw dda byw (gan gynnwys ceffylau, merlod a chamelidau) ar y safle plannu newydd am oes yr ymrwymiad i gontract eich grant.
Taliad cynnal a chadw
Bydd taliad Cynnal a Chadw blynyddol yn cael ei dalu gydol oes y contract ichi ar gyfer cynnal a chadw’r coetir newydd. Bydd taliad blynyddol ar gael am 12 mlynedd. Mae hyn yn dechrau’n ddwys i gydnabod y costau uwch yn y blynyddoedd cynnar ar ôl plannu – gan ddarparu'r cyllid pan fo’i angen. Er mwyn ei gael, rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Gais Sengl (SAF) bob blwyddyn erbyn 15 Mai trwy RPW Ar-lein a’i hawlio ar bob cae cymwys sydd wedi’i gynnwys yng nghontract eich grant. Gallwch hawlio’r taliad o’r flwyddyn galendr ar ôl cwblhau’r gwaith plannu a hawlio amdano.
Mae'r grant cynnal a chadw yn cael ei roi ar gyfer gwaith chwynnu cyfnodol ac i brynu coed newydd yn lle’r rhai sy’n marw. Pan fyddwn yn archwilio’ch coed, byddwn yn disgwyl iddyn nhw fod wedi cydio’n iawn. Disgwylir tyfiant rhesymol yn eu huchder bob blwyddyn fel eu bod yn 5 i 6 troedfedd (1.5 i 1.8m) o daldra neu uwch erbyn eu bod yn bum oed.
Dylid clirio’r chwyn o amgylch bôn pob coeden am dair blynedd yn dilyn hawlio’r Gwaith Cyfalaf ar gyfer plannu. Rhaid i chi ddiogelu’r coed rydych chi wedi eu plannu rhag difrod a chystadleuaeth gan chwyn, pryfed, plâu ac anifeiliaid pori, fel cwningod, ysgyfarnogod a da byw. Ni ddylai fod unrhyw ddifrod gan anifeiliaid sy’n pori dail na thystiolaeth bod y llain wedi cael ei defnyddio gan dda byw. Dylid plannu coed yn lle'r rhai sy'n marw.
Taliad premiwm
Mae'r taliad Premiwm blynyddol yn daliad o £387/ha y flwyddyn am 12 mlynedd. I gael hawlio'r taliad Premiwm, rhaid i chi gyflwyno SAF bob blwyddyn erbyn 15 Mai trwy RPW Ar-lein a’i hawlio ar bob cae cymwys sydd wedi’i gynnwys yn eich contract. Gallwch hawlio’r taliad o’r flwyddyn galendr ar ôl cwblhau’r gwaith plannu a hawlio amdano.
Adran E: cyn Datgan Diddordeb
Asesu’r safle
Cyn llenwi’r ffurflen Datgan Diddordeb ar-lein, rydyn ni’n eich cynghori i asesu’r safle rydych yn bwriadu plannu’r coed arno. Bydd hynny’n eich helpu i weld pa un o'r Categorïau Coetir fydd yn gwireddu’ch nodau chi orau ac sydd fwyaf addas i’r lleoliad. Cewch gyngor ar hyn yn y canllawiau technegol.
Bydd yr asesiad yn eich helpu i gasglu gwybodaeth am eich cynigion plannu. Bydd angen hynny arnoch i gadarnhau ble rydych am blannu’r coed a gosod y ffens ac i ateb cwestiynau’ch Ffurflen Datgan Diddordeb. Bydd yr atebion rydych chi'n eu darparu wrth Ddatgan Diddordeb yn pennu amodau eich llythyr dyfarnu’r SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach i sicrhau'ch bod yn cydymffurfio ag UKFS a rheolau’r grant. Mae’n bwysig felly bod eich atebion yn disgrifio’ch cynigion plannu'n gywir
Cymysgedd rhywogaethau a dwysedd plannu
Ar ôl penderfynu pa Gategori Coetir sy’n addas, bydd angen i chi ddewis y cymysgedd gorau o rywogaethau. Darllenwch y cymysgeddau o rywogaethau cymwys yn y canllawiau technegol. Mae’n bwysig eich bod yn ystyried daearyddiaeth yr ardal rydych am blannu’r coed ynddi a’ch amcanion wrth greu’r coetir.
Dylech feddwl a fydd un Categori Coetir yn addas i’r safle cyfan neu a ddylech rannu’r safle’n is-ardaloedd gwahanol. Er enghraifft, os oes tir gwlyb wrth droed rhiw, byddai’r categori Coetir Gwlyb a Glan Nant (1100 neu 1600 o goed/ha) yn addas ond efallai y bydd y categori Coed Cysgodol Brodorol yn fwy addas ar y lan sychach, gyferbyn. Bydd angen ichi ddangos y categorïau gwahanol hyn ar fap fel rhan o’ch cais ar-lein.
Mannau agored
Gellid cynnwys tir gwasgaredig fel cnycau (brigiadau) creigiog a hawliau tramwy cyhoeddus na ellir plannu arno yn rhan o’r arwynebedd plannu ond nid os ydyn nhw ar gyrion y tir sydd wedi'i blannu neu'r tu allan iddo. Os oes angen i chi eu cynnwys, gofalwch eich bod yn plannu digon o goed yn holl rannau eraill y safle i sicrhau’r dwysedd plannu y mae’r Categori Coetir dan sylw yn gofyn amdano. Caniateir bwlch o 10 metr rhwng pob coeden os nad oes modd plannu coed ar rannau o'r man agored. Bydd angen plannu coed yn nes at ei gilydd yng ngweddill y safle i sicrhau’r dwysedd gofynnol, ond peidiwch â’u plannu lai nag 1 metr oddi wrth ei gilydd a pheidiwch â phlannu coed o fewn 1 metr i ffens (hen neu newydd). Os nad yw’n bosibl cadw at yr amodau hyn oherwydd maint y man agored a’r dwysedd plannu sydd ei angen, dylech rannu’ch safle plannu yn safleoedd ar wahân a thynnu unrhyw gnwc creigiog neu hawl tramwy cyhoeddus o’r arwynebedd. Nid yw nodweddion fel afonydd, nentydd, pyllau, adeiladau, safleoedd caled a ffyrdd yn cael eu cyfrif fel mannau agored a pheidiwch â’u cynnwys felly yn y safle plannu.
Annog y cyhoedd i gymryd rhan
Eich cyfrifoldeb chi yw cadarnhau bod pob cymydog ac unigolyn sydd ag eiddo’n ffinio â'r coetir rydych yn ei blannu yn hapus â’ch cynnig. Mae cysylltu â chymdogion fyddai â diddordeb, yn enwedig cymdogion agos, yn gyfle i roi gwybod am y cynnig ac osgoi gwrthdaro posib. Os nad oes modd datrys eu pryderon cyn cyflwyno’r ffurflen Datgan Diddordeb, ni fydd eich cynnig plannu yn gymwys.
Dylech holi'ch cymdogion cyn Datgan Diddordeb. Os oes gan y cymdogion bryderon na allwch eu datrys, bydd gofyn addasu’r cynllun a dod i gytundeb, neu os ydych o’r farn nad oes sail i’w gwrthwynebiad, gallwch wneud cais i’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.
Caniatâd
Eich cyfrifoldeb chi yw cael unrhyw ganiatâd neu gydsyniad sydd ei angen ar gyfer unrhyw waith yn agos at brif afon, neu ar gyfer ffens neu gât ar draws hawl tramwy cyhoeddus sy’n croesi’ch safle plannu. Cewch ragor o fanylion am y gofynion hyn yn y canllawiau technegol.
Heneb: Ymddiriedolaeth Archeolegol Cymru - ymgynghori
Bydd Llywodraeth Cymru’n holi Heneb ynghylch pob cais ar ôl i’r ffenest ymgeisio gau. Bydd Heneb yn cynghori a yw'r cynnig plannu yn briodol neu a oes angen ei addasu. Gallai hynny fod oherwydd Nodweddion Amgylchedd Hanesyddol, Tirwedd Hanesyddol neu Safle Treftadaeth y Byd lle mae pryderon y gallai plannu coed effeithio arnynt.
Os bydd Heneb yn codi pryderon, caiff eich Datganiad o Ddiddordeb ei wrthod. Bydd angen ichi naill ai newid dyluniad eich cynnig plannu ac ailymgeisio yn ystod ffenest Datgan Diddordeb arall, neu wneud cais i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir. Rydyn ni’n eich cynghori i gysylltu â Heneb cyn Datgan Diddordeb os ydych yn gwybod bod nodwedd hanesyddol ar neu wrth y tir yr ydych am blannu coetir arno. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi addasu’ch cynnig a’i wneud yn dderbyniol i Heneb cyn Datgan Diddordeb. Fe welwch fanylion cyswllt Heneb ar ddiwedd y canllaw hwn.
Adran F: gwneud cais am SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach
Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb
Er mwyn Datgan Diddordeb yn y grant, rhaid defnyddio dangosfwrdd Haen Opsiynol yr SFS trwy Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Dydd Llun i dydd Gwener 9am i 4pm) a rhoi eich CRN i’r cysylltydd. Bydd Cod Defnyddio newydd yn cael ei anfon atoch.
I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Os oes angen newid manylion eich busnes, gallwch newid y rhan fwyaf ohonyn nhw ar-lein. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cysylltu â Llywodraeth Cymru i ddweud am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.
Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW. Os nad yw wedi gwneud hyn eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Ar ôl i’r ffurflen ein cyrraedd, byddwn yn anfon CRN Asiant atoch a Chod Defnyddio RPW Ar-lein. Hefyd, bydd angen i chi lenwi Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Darllenwch ein canllawiau sut i gofrestru.
Bydd angen i chi dynnu amlinell y darn tir rydych am blannu’r coed arno a’i ffensio ar eich ffurflen Datgan Diddordeb ac ateb nifer o gwestiynau am eich cynnig a'i leoliad. Diben hyn yw asesu a yw’ch cais yn gymwys a’ch cynnig yn addas. Defnyddir eich atebion i ffurfio'r plan rheoli cywir ar gyfer y coetir gan fodloni amodau'r cynllun a rhai UKFS. Mae’n bwysig bod yn ofalus wrth ddewis eich Categorïau Coetir a gofalu’ch bod yn dewis gwaith cyfalaf sy’n addas i’r lleoliad. Ni fydd modd eu symud i le arall ar ôl cau'r ffenest oherwydd yr amserlen dynn ar gyfer rhoi contractau ac ar gyfer hawlio. Fe welwch ragor o wybodaeth yn y canllawiau technegol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich datganiad o ddiddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble i fynd am help digidol.
Cewch fwy o fanylion am RPW Ar-lein ar ein wefan.
Atebwch yn brydlon unrhyw gwestiynau y bydd Llywodraeth Cymru am eu gofyn i chi am eich Datganiad o Ddiddordeb yn yr SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach. Gallai peidio â gwneud o fewn yr amser a roddir olygu gwrthod cynnig contract SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach i chi.
Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa i Ddatgan Diddordeb trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.
Tynnu’ch Datganiad o Ddiddordeb yn ôl
Unwaith y bydd Datganiad o Ddiddordeb wedi'i gyflwyno ar gyfer yr SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach, a fydd modd ei dynnu'n ôl?
- Bydd, os bydd y ffenest datgan diddordeb ar agor
Cewch dynnu’ch cais yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-Lein; byddwch yn gallu ailgyflwyno cais cyn i'r ffenest gau
- Bydd - wedi i’r ffenest Datgan Diddordeb gau ond cyn i'r busnes gael y contract.
Gallwch dynnu’ch cais yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Daw’ch cyfle nesaf i Ddatgan Diddordeb yn y ffenest ymgeisio nesaf.
Cofiwch fod y broses yn un gystadleuol ac nad oes gwarant y bydd eich cais yn llwyddiannus yn y rownd nesaf.
- Bydd – ar ôl i’ch Datganiad o Diddordeb gael ei ddewis a chynnig contract i chi.
Gallwch dynnu’ch cais yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Daw’ch cyfle nesaf i Ddatgan Diddordeb yn y ffenest ymgeisio nesaf.
Cofiwch fod y broses yn un gystadleuol ac nad oes gwarant y bydd eich cais yn llwyddiannus yn y rownd nesaf.
Y broses ddethol
Mae proses ddewis y grant yn asesu pob cynnig plannu newydd sy'n cael ei gyflwyno drwy Ddatganiad o Ddiddordeb. Bydd pob Datganiad o Ddiddordeb yn cael sgôr ar sail ei allu i roi canlyniad sy’n cefnogi amcanion y grant i ddod â manteision i'r cyhoedd, fel dal carbon, atal llifogydd a gwella ansawdd aer.
Mae Datganiadau o Ddiddordeb yn cael eu gwneud gan gwsmeriaid y tu allan i Haen Gyffredinol yr SFS a chwsmeriaid sy'n cymryd rhan ynddi. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ymgeiswyr SFS o fewn y broses ddethol.
Os bydd gwerth y ceisiadau’n fwy na gwerth y gyllideb, y prosiectau cyfalaf sy'n sgorio uchaf fydd yn cael eu dewis. Cewch fwy o fanylion y system sgorio yn: SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach.
Cynnig Llythyr Dyfarnu Grant
Bydd Llythyron Dyfarnu Grant yn cael eu rhoi pan fydd y ceisiadau wedi’u dilysu'n llwyddiannus a'u dewis. Bydd gennych 30 diwrnod i naill ai 'dderbyn' neu 'wrthod' y cynnig, hynny ar RPW Ar-lein. Os na fyddwch wedi cadarnhau'ch bod am dderbyn y cynnig o fewn 30 diwrnod, caiff y cynnig ei dynnu'n ôl.
Mae’ch llythyr dyfarnu grant yn sicrhau bod eich cynnig ar gyfer plannu coetir yn cyd-fynd ag amodau'r cynllun ac UKFS a bydd yn cadarnhau’ch Categori Coetir, lleoliad y gwaith cyfalaf ac unrhyw amodau sy'n benodol i'ch gwaith plannu y bydd angen i chi gadw atyn nhw i fod yn gymwys am grant.
Rhaid i chi beidio â dechrau unrhyw waith nes bod llythyr dyfarnu grant wedi’i roi i chi, h.y. peidiwch â dechrau paratoi’r tir, plannu coed na ffensio rydych am hawlio grant ar ei gyfer.
Adran G: amodau’r grant
Rhaid sicrhau nad yw unrhyw waith a wneir fel rhan o’r prosiect yn torri rhwymedigaethau amgylcheddol o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol arall, gan gynnwys rheoliadau ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop (EPS), nac yn niweidio unrhyw nodweddion amgylcheddol hanesyddol.
Amodau'r grant
Daw’r grant o dan nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth (gweler Adran N). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r deddfau hynny.
Mae contract y grant yn cael ei gynnig yn unol â’r telerau ac amodau a fydd yn cael eu nodi’n llawn yn eich llythyr dyfarnu grant, gan gynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod.
Gallai peidio â chadw at amodau a thelerau’r llythyr dyfarnu grant arwain at ei ganslo a/neu ofyn am yr arian sydd eisoes wedi’i dalu i chi yn ôl, neu leihau’r grant sy’n daladwy.
Amodau
Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y Datganiad o Ddiddordeb a'r ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny.
Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.
Gellid erlyn person sy’n gwneud datganiad ffug neu na fydd wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y cais hwn. Gallai rhoi datganiad ffug, anghywir neu anghyflawn neu beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd wrth Ddatgan Diddordeb arwain at ddod â’r llythyr dyfarnu grant i ben a/neu adennill unrhyw daliadau ynghyd â’r llog.
Peidiwch â chreu amodau artiffisial er mwyn cael taliad.
Rhaid i’r ymgeisydd ddarllen a deall rheolau a chanllawiau'r grant.
Rhaid ichi sicrhau bod y manylion rydych wedi’u rhoi yn eich cais ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn. Rhaid ichi gydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn atebol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r cais, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am bob penderfyniad busnes a wneir.
Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.
Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru’r rheolau a’r amodau os bydd newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.
Rhaid ichi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau neu reoliadau domestig neu ryngwladol neu gyfarwyddebau swyddogol cymwys.
Rhaid ichi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r manylion yn adran Manylion yr Ymgeisydd ar y ffurflen.
Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu hasiant awdurdodedig priodol, fynd ar eich tir ac archwilio’r tir ac unrhyw offer, cyfleusterau a'r holl gofnodion a gwybodaeth berthnasol sydd eu hangen i gadarnhau’ch bod yn gymwys a bod y wybodaeth a roddwyd ar gyfer Datgan Ddiddordeb yn gywir.
Rhaid i chi beidio ag ymgymryd â gwaith cyn ymuno â’r SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach sy'n niweidio'r amgylchedd a dylech ddeall y gallai gwneud hynny olygu gwrthod eich Datganiad o Ddiddordeb.
Ni fyddwch wedi cynnwys tir sydd o dan gytundebau rheoli eraill neu sy’n destun grant neu gais am grant arall, a allai olygu'ch bod yn cael eich talu ddwywaith.
Rhaid bod gennych yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd yr ymgymerir ag ef wrth gyflawni’r Dibenion. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant.
Mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru rannu gwybodaeth am eich Datganiad o Ddiddordeb yn Haen Opsiynol SFS: Grant Creu Coetir Bach â sefydliadau eraill ac rydych chi'n cytuno bod unrhyw wybodaeth angenrheidiol yn cael ei datgelu neu ei rhannu.
Gallai Llywodraeth Cymru ofyn hefyd i sefydliadau eraill am wybodaeth amdanoch chi, neu roi gwybodaeth amdanoch chi iddyn nhw er mwyn cadarnhau cywirdeb yr wybodaeth, er mwyn atal neu ganfod troseddau, ac er mwyn diogelu arian cyhoeddus. Mae'r sefydliadau eraill hynny'n cynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff eraill, yn ôl y gofyn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r ymrwymiadau a’r dyletswyddau sydd arni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Caiff gwybodaeth arall a roddir ei datgelu hefyd os caniateir hynny o dan y gyfraith.
Adran H: taliadau
Hawlio gwaith cyfalaf
Er mwyn cael y grant, rhaid ei hawlio ar dudalen Sut i gyflwyno hawliad contract ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Caiff taliadau am waith cyfalaf eu talu ar ôl dilysu'ch hawliad yn llwyddiannus. Bydd taliadau’n cael eu talu i chi drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.
Er mwyn cael taliad grant, byddwch wedi:
- cadarnhau'ch bod yn derbyn contract y grant a gynigir i chi o fewn 30 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a byddwch yn cadw at yr holl ofynion.
- cwblhau’r gwaith plannu coed a ffensio a bod tystiolaeth bod y gwaith wedi’i gwblhau
- cyflwyno'r hawliad ar dudalen Sut i gyflwyno hawliad contract eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
- cyflwyno’r anfonebau ar gyfer pob eitem a hawlir trwy eu sganio a’u hanfon trwy “Fy negeseuon” ar eich cyfrif RPW Ar-lein.
- cyflwyno ffotograffau â geo-dag gyda'r hawliad, yn dangos y gwaith cyfalaf gorffenedig (gweler 'cadw cofnodion' – Adran K)
Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy dudalen Sut i gyflwyno hawliad contract ar RPW Ar-lein.
Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw bryd ar ôl i’r gwaith cyfalaf gael ei gwblhau. Ond ni chewch hawlio ar brosiect sydd ag ond rhan ohono wedi'i gwblhau ac ni fyddwch yn cael hawlio ar unrhyw waith ychwanegol y byddwch yn ei wneud ar ôl i'r hawliad gael ei gyflwyno.
Rhaid i ymgeiswyr sy’n ymgeisio am gyllid yn ffenestri 2026 gwblhau eu gwaith plannu a chyfalaf newydd a hawlio ar yr holl waith cyfalaf erbyn 31 Mawrth 2027.
Ni fydd estyniad ar ôl 31 Mawrth 2027.
Cam-hawlio a chosbau
Er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sy'n rheoli’r grant a sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n gywir, mae'r grant yn cynnwys cosbau pan gaiff rheolau’r grant eu torri'n ddifrifol.
Dim ond am y gwaith cymwys rydych chi wedi ei gwblhau y dylech hawlio arno, hyd yn oed os yw hyn yn llai na'r hyn sydd wedi’i nodi yn y llythyr dyfarnu grant.
Os gwelwn nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau yn unol â manylebau technegol y prosiect, bydd y taliad yn cael ei leihau i werth yr hyn sydd wedi’i gwblhau yn unol â’r fanyleb. Gellir gwella mân ddiffygion a nodir mewn ymweliad neu archwiliad os cytunir ar hynny gyda Llywodraeth Cymru.
Os bydd Llywodraeth Cymru yn cael hyd i ddiffygion mawr a'u bod yn cael eu cywiro wedi hynny, byddan nhw'n cael eu ystyried fel rhai anghymwys a chaiff eich taliad ei leihau a gallech gael eich cosbi am orddatgan.
Os bydd y gostyngiad hwn yn fwy na 10% o werth yr hawliad, byddwn yn eich cosbi am orddatgan. Os caiff hawliad ffug ei wneud, neu os na fydd perchennog y tir yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i ni, caiff y taliad yn y flwyddyn pan gafodd y tramgwydd ei ganfod ei atal a rhaid i unrhyw arian sydd eisoes wedi’i dalu y flwyddyn honno gael ei dalu’n ôl.
Hawlio taliadau cynnal a chadw a’r premiwm
Byddwch yn cael hawlio'ch taliad cynnal a chadw a’ch taliad premiwm cyntaf yn y flwyddyn galendr lawn gyntaf ar ôl ichi hawlio am y gwaith plannu newydd. Y dyddiad cau bob blwyddyn ar gyfer cyflwyno SAF yw 15 Mai.
Er enghraifft, os gwnaethoch chi gwblhau a hawlio ar waith cyfalaf SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach ar 31 Rhagfyr 2026 rydych yn gymwys i hawlio'ch taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm cyntaf ar SAF 2027.
Er mwyn cael taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach, mae'n rhaid i chi:
- fod wedi llofnodi contract SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach a chadw at yr holl ofynion.
- cyflwyno hawliad dilys ar y SAF erbyn 15 Mai
Codau cnydau SAF
I hawlio’r taliadau Cynnal a Chadw a’r Premiwm rhaid defnyddio'r codau cnydau canlynol (gallai’r codau hyn newid a dylech eu cadarnhau yn Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl cyn hawlio)
- WS1/BW1 – Coetir llydanddail (di- stoc)
Atodlen 6: Datganiad Sicrwydd
Os nad Unig Fasnachwr yw statws cyfreithiol eich busnes, bydd angen ichi gwblhau Atodlen 6: Datganiad Sicrwydd – Llywodraethu ac Atal Twyll ar y SAF i gadarnhau bod gan fusnesau sy’n cael eu hariannu drefniadau llywodraethu ac atal twyll rhesymol a digonol.
Taliadau cynnal a chadw a’r premiwm
Bydd taliadau'n cael eu cyfrif ar sail y tir y byddwch yn hawlio taliad arno ar y SAF ac sy’n rhan o’r llythyr dyfarnu grant ac wedi’i restru yn Atodlen y llythyr dyfarnu grant sy’n ddilys ar 15 Mai ac unrhyw hysbysiadau a wnaed mewn perthynas â'r tir hwnnw.
Rhaid ichi hawlio’r taliadau cynnal a chadw a’r premiwm erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r SAF, fel a nodir yn Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl.
Os byddwch yn hawlio taliadau cynnal a chadw a’r premiwm ar dir y gwelir nad yw’n gymwys am daliad, efallai y cewch eich cosbi am orddatgan fel a ddisgrifir yn Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl.
Rhaid i’ch hawliadau am daliad cynnal a chadw a’r premiwm fodloni’r gofynion Trawsgydymffurfio. Eich cyfrifoldeb chi yw bodloni'r gofynion hyn dros y flwyddyn galendr gyfan yr ydych yn hawlio taliad ar ei chyfer a gall peidio â bodloni'r gofynion hyn arwain at gosbi’ch taliadau.
Rhaid i chi ddarllen a deall Llyfryn Rheolau’r Cais Sengl cyn hawlio Taliadau Cynnal a Chadw a Phremiwm.
Torri contract
Bydd archwiliadau gweinyddol ac archwiliadau fferm yn cael eu cynnal i weld a ydych wedi torri’r llythyr dyfarnu grant ac os gwelir eich bod, rhoddir gwybod ichi trwy’ch cyfrif RPW ar-lein. Lle gwelir eich bod wedi torri’r llythyr dyfarnu grant, byddwn yn lleihau a/neu’n atal eich taliadau gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol, mawr, parhaol ac ailadroddus oedd y tramgwydd a gellid cosbi taliadau blynyddoedd cynt hefyd. Fe welwch fanylion y cosbau hyn yn y safonau dilysadwy.
Os byddwn yn ystyried bod tramgwydd mor ddifrifol nad oes modd ei gywiro, mae'n bosib y byddwn am ddod â'r llythyr dyfarnu grant i ben.
Rydym yn asesu tramgwyddau yn ôl safonau dilysadwy sy’n ymwneud ag ymrwymiadau’r grant. Mae matrics cosbau wedi’i lunio i benderfynu ar lefel y gosb i’w rhoi. Mae’r matrics cosbi a’r safonau dilysadwy i’w gweld ar ein wefan.
Troseddau
Mae Rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae'r Rheoliad hwnnw a'r troseddau hynny’n berthnasol i'r grant. Mae troseddau'n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig; rhwystro archwilydd neu swyddog; a gwrthod darparu gwybodaeth pan ofynnir amdani.
Ymddygiad annerbyniol
Ni ddylai swyddogion Llywodraeth Cymru, unigolion na sefydliadau sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru (e.e. CNC) oddef ymddygiad ymosodol, sarhaus na difrïol na gofynion afresymol a pharhaus gan ymgeiswyr/hawlwyr na'u cynrychiolwyr. Ni ddylai aelodau’r Panel Apelio Annibynnol ddioddef ymddygiad o'r fath chwaith.
Mae dogfen rheoli ymddygiad annerbyniol cwsmeriaid Llywodraeth Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru sy'n esbonio'r hyn yr ydym yn ei ystyried yn ymddygiad annerbyniol.
Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais neu hawliad.
Adran I: trosglwyddo neu werthu tir sydd o dan gontract
Rhaid i chi roi gwybod i Lywodraeth Cymru am newidiadau i’ch caeau o fewn 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys y canlynol:
- cofrestru caeau nad ydynt wedi’u cofrestru gydag RPW o’r blaen (h.y. caeau heb eu cofnodi ar y SAF)
- rhannu caeau yn barhaol
- uno caeau yn barhaol
- newid ffiniau caeau
- newid nodweddion parhaol caeau.
Hefyd, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o fewn y terfyn o 30 diwrnod ar ôl iddo ddigwydd os ydy perchennog neu denant y tir yn newid.
Rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y newidiadau hyn drwy ddefnyddio’r dudalen Rheoli Fy Nhir (MML) ar eich cyfrif RPW Ar-lein cyn pen 30 diwrnod ar ôl i’r newid ddigwydd.
Ar ôl ichi arwyddo’ch dyfarniad grant, os byddwch yn penderfynu gwerthu neu drosglwyddo’ch tir neu ran ohono yn ystod cyfnod yr ymrwymiad, efallai y cewch gosb ariannol a / neu y bydd yn rhaid ichi ad-dalu’r arian rydych chi eisoes wedi'i gael.
Os ydych am drosglwyddo'r llythyr dyfarnu grant i feddiannydd newydd, rhaid cael caniatâd Llywodraeth Cymru. Os ydy’r meddiannydd newydd yn dewis cymryd eich ymrwymiad oddi arnoch a bod y tir yn dal yn gymwys, rhaid i’r meddiannydd newydd gadw at yr ymrwymiad ar y tir hwnnw am weddill cyfnod y contract. Dylid gofalu fod y meddiannydd newydd yn gwybod am yr ymrwymiad cyn cytuno i gymryd y tir dan sylw.
Nid yw rheoliadau’r grant yn caniatáu trosglwyddo contract gwaith cyfalaf. Y sawl a gafodd y llythyr dyfarnu grant fydd yr unig fusnes a fydd yn gallu hawlio ar waith cyfalaf Grant Creu Coetir. Ni ellir prosesu trosglwyddiad nes bod yr hawliad ar y gwaith cyfalaf wedi’i ddilysu a’r taliad wedi ei awdurdodi.
Ar ôl trosglwyddo neu werthu rhan o’r tir, rhaid i unrhyw dir rydych wedi’i gadw ac sy’n dal yn rhan o’ch contract gwreiddiol barhau i fodloni’r amodau’r contract. Os nad yw, bydd gofyn ichi ad-dalu pob taliad a wnaed ar y tir hwnnw, ynghyd â’r llog. Os ydych yn trosglwyddo neu’n gwerthu unrhyw dir sy’n rhan o’ch llythyr dyfarnu grant, yna rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru trwy lythyr o fewn 30 diwrnod ar ôl i hynny ddigwydd. O beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, byddwch yn debygol o gael eich cosbi.
Os byddwch yn trosglwyddo ac yn gwerthu unrhyw dir sy'n rhan o'r llythyr dyfarnu grant ac mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod amcanion SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach wedi'u tanseilio o ganlyniad, gellir terfynu'r grant ac adennill yr holl daliadau a wnaed gyda llog.
Adran J: newidiadau i reolau’r grant
Newidiadau mewn deddfwriaeth (gan gynnwys newid dehongliad)
Gall deddfwriaeth newid o dro i dro a bydd yn ofynnol ichi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i reolau'r grant ar ôl cael gwybod amdanynt gan Lywodraeth Cymru.
Newidiadau i reolau neu gontract y grant
Mae’n bosibl y bydd angen i ni newid rheolau’r grant a/neu eich llythyr dyfarnu grant am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu newid rheolau’r grant oherwydd newidiadau i'r ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar ein wefan ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.
Adran K: mesurau rheoli, monitro a chadw cofnodion
Mesurau rheoli
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr eich bod yn cadw at reolau’r grant.
Gallem ddewis ymweld â chi yn sgil eich hawliad i gadarnhau bod y gwaith cyfalaf wedi’i gwblhau, hynny cyn talu’r grant ichi neu ar ôl talu’r grant i chi.
Bydd yr holl fanylion yn eich Datganiad o Ddiddordeb, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch yn eich Datganiad o Ddiddordeb a’ch hawliad yn cael eu harchwilio.
Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.
Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n peidio â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau a gallwch gael eich erlyn.
Monitro
Mae'n ofyniad bod yr holl lythyron dyfarnu grant yn cael eu monitro a bod eu heffaith ar y busnes yn cael ei mesur.
Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r gwaith sydd wedi’i orffen ar unrhyw adeg resymol.
Cadw cofnodion
Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.
Bydd gofyn ichi hefyd:
- ddarparu i Lywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth am eich contract SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach a rhoi'r wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru
- darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch llythyr dyfarnu SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantiaid. Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono
- rhaid cymryd tystiolaeth ffotograffig, gan gynnwys pwynt cyfeirio map â geo-dag, sy'n dangos y gwaith cyfalaf gorffenedig a'i gyflwyno gyda'r hawliad. Bydd angen y rhain ar Lywodraeth Cymru i ddilysu a sicrhau bod y gwaith plannu a'r gwaith cyfalaf cysylltiedig wedi'i gwblhau yn y lleoliad cywir ac yn unol â’r fanyleb dan sylw. Mae help digidol ar gael os oes angen
Adran L: y drefn apelio a chwyno
Y drefn apelio
Nid oes sail dros apelio yn y cam Datgan Diddordeb.
Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd ichi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r grant.
Mae dwy ran i’r broses apelio:
- cam 1: adolygiad gan RPW
- cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng ngham 1)
Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.
Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 - £220 am wrandawiad ysgrifenedig neu £290 am wrandawiad llafar. Mae’r taliadau hyn yn cael eu had-dalu’n llawn os bydd yr apêl Cam 2 yn llwyddiannus.
Rhaid i apêl, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.
Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.
Rhaid i apelwyr a’u cynrychiolwyr beidio â chysylltu’n uniongyrchol ag aelodau’r Panel Apelio Annibynnol. Efallai y gallwn ystyried bod hyn yn Ymddygiad Annerbyniol yn ôl y canllawiau ar reoli ymddygiad annerbyniol cwsmeriaid Llywodraeth Cymru.
Gall ymddygiad annerbyniol arwain at dynnu taliadau yn ôl a/neu wrthod cais, hawliad neu apêl.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: canllawiau.
Y drefn gwyno
Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan:
Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
03000 251378
E-bost: complaints@gov.wales
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Gwefan: Cwyn am Lywodraeth Cymru
Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
0300 790 0203
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Gwefan: www.ombwdsmon.cymru
Adran M: hysbysiad preifatrwydd Grantiau Llywodraeth Cymru
Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi yng nghyswllt eich cais am grant neu’ch cais am gyllid grant
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth eang o grantiau i helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach a mwy llewyrchus.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Cyn rhoi grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll eraill.
Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r grant presennol ichi.
Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu waith ichi.
Er mwyn asesu cymhwysedd, mae’n bosibl hefyd y bydd angen inni rannu gwybodaeth bersonol mewn perthynas â’ch cais ag awdurdodau rheoleiddio, fel Cyllid a Thollau EF, awdurdodau lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a’r heddlu.
Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o’r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, gall fod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i'r rheini sy'n elwa ar Gymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau a’r grantiau sydd wedi'u talu. Ond, ni ddatgelir enwau’r bobl sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cafodd ei gyhoeddi.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw data. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 10 mlynedd ar ôl blwyddyn eich taliad olaf. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
- i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hwnnw
- i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol
- i ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni 'ddileu' eich data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a sut mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
0330 414 6421
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Gwefan: ico.org.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.
Adran N: gofynion cyfreithiol
Mae SFS Opsiynol: Grant Creu Coetir Bach yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (neu’r ‘gyfraith a gymathwyd’ fel rydym bellach yn ei alw) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliadau Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliadau Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd).
Mae’r Gyfraith a gymhathwyd yn cael ei gweithredu yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):
- Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (W.327)
- Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)
Bydd y cymorth a ddarperir yn cael ei gofrestru ar gronfa ddata Tryloywder cymhorthdaliadau'r DU (ar gov.uk), yn unol ag ymrwymiadau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Rheoli Cymhorthdaliadau 2022.
Adran O: cysylltiadau
Ymholiadau i’r RPW
Am bob ymholiad i RPW, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW. Gallwch ofyn cwestiwn drwy RPW Ar-lein ar unrhyw bryd.
Cyngor technegol a mentora
Ceir mwy o wybodaeth dechnegol ac am fentora oddi wrth Cyswllt Ffermio a cheir mwy o wybodaeth ar Hyb Creu Coetiroedd CNC.
Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig
Os oes gennych anghenion arbennig a’ch bod yn teimlo nad yw ein cyfleusterau yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru'n gwneud eu gorau i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.
Gwefan Llywodraeth Cymru
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i'n wefan. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch e-bost.
Gwlad
Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth hawdd eu ffeindio a'u deall. I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. Gallwch wneud hyn naill ai ar Hysbysiadau neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth choedwigaeth.
Cysylltiadau defnyddiol eraill
Cyfoeth Naturiol Cymru (ar gyfer SoDdGa, GNC, AGA ac ACA)
d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ymholiadau Cyffredinol am CNC
0300 065 3000 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm)
ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
Cadw (ar gyfer Henebion Rhestredig a pharciau a gerddi cofrestredig)
Llywodraeth Cymru
Plas Carew
Uned 5/7 Cefn Coed Parc
Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QQ
01443 33 6000
Ffacs: 01443 33 6001
E-bost: Cadw@Wales.gsi.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
HenebHeneb (ar gyfer henebion sydd heb eu rhestru a nodweddion hanesyddol)
Y Tŷ Cornel
6 Stryd Caerfyrddin
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 6AE
01558 823121
E-bost: info@Heneb.org.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
