Trosolwg o Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 (‘y Ddeddf’) yn cyflwyno amrywiaeth o ddiwygiadau i’r system ardrethu annomestig a system y dreth gyngor yng Nghymru.
O ran ardrethi annomestig, mae’r Ddeddf yn:
- cynyddu pa mor aml mae ailbrisio yn digwydd i bob tair blynedd, ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r flwyddyn ailbrisio a’r cyfnod rhwng blynyddoedd ailbrisio drwy reoliadau
- rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn rhoi neu amrywio rhyddhadau, neu eu tynnu’n ôl
- cryfhau’r amodau y mae elusennau yn gymwys am ryddhad ar gyfer hereditament heb ei feddiannu
- ehangu’r diffiniad o adeilad newydd at ddiben cyflwyno hysbysiadau cwblhau gan awdurdodau bilio
- dileu cyfyngiad amser ar gyfer dyfarnu ac amrywio rhyddhad dewisol gan awdurdodau bilio
- rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i roi neu amrywio esemptiadau neu eu tynnu’n ôl
- rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu lluosyddion gwahaniaethol yn seiliedig ar y disgrifiad o hereditament ar y rhestr leol, ei werth ardrethol neu ei leoliad, neu werth ardrethol hereditament ar y rhestr ganolog
- rhoi dyletswydd ar drethdalwyr i ddarparu mathau penodol o wybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer y drefn cydymffurfio gysylltiedig
- gwneud darpariaeth ar gyfer gwrthweithio manteision sy’n deillio o drefniadau osgoi artiffisial
O ran y dreth gyngor, mae’r Ddeddf yn:
- darparu hyblygrwydd i newid y pwynt cyfeirio o 100% yn y strwythur bandio i fand gwahanol neu i ddisgrifiad gwahanol o fand
- rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â gostyngiadau a phersonau sydd i’w diystyru rhag cyfrifo atebolrwydd
- gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor unigol drwy reoliadau ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau i awdurdodau bilio ar y ffordd y caiff y cynllun ei gymhwyso
- sefydlu cylch pum mlynedd o ailbrisiadau o 1 Ebrill 2028, ac yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio’r flwyddyn ailbrisio a’r cyfnod rhwng ailbrisiadau, yn ogystal â diwygio dyddiad cyhoeddi rhestr ddrafft drwy orchymyn
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Mae’r Ddeddf yn dod i rym fel a ganlyn yn unol ag adran 23:
- daeth adrannau 1, 16, 21, 22, 23 a 24 a pharagraff 13(3)(b) o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 13(3)(b)) i rym ar y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol (sef 17 Medi 2024)
- daw adrannau 2, 3, 4, 5, 7, 8, 9, 13, 14, 17 ac 20 a Rhannau 1, 2, 3, 6 a 7 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhannau hynny o’r Atodlen) i rym ddeufis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol (sef 16 Tachwedd 2024)
- daw adrannau 6, 10 ac 11 a Rhan 4 o’r Atodlen (ac adran 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno o’r Atodlen) i rym ar 1 Ebrill 2025
- daeth adran 18(2)(c) a (5), at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adrannau 6 ac 11E o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i rym ar y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol (sef 17 Medi 2024). At bob diben arall, daw adran 18(2)(c) a (5) i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn
- daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn
Darllenwch yr adran gyfan:
Mae’r Gorchymyn a ganlyn wedi ei wneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 20 Tachwedd 2023 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 16 Gorffennaf 2024 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 16 Medi 2024.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru i gyd-fynd â’r Bil wedi ei ddiweddaru ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol:
