Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (“y Ddeddf”) yn gwireddu’r rhan fwyaf o argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor: Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru ym mis Mai 2022 ac roedd yn cynnwys argymhellion i ddiwygio’r Senedd cyn etholiadau’r Senedd yn 2026. 

Dyma mae’r Ddeddf yn ei wneud: 

  • cynyddu maint y Senedd o 60 i 96 o Aelodau drwy addasu nifer yr etholaethau a newid sawl sedd sydd ym mhob etholaeth
  • diwygiadau eraill cysylltiedig, gan gynnwys caniatáu i Lywodraeth Cymru gael mwy o Weinidogion a chaniatáu i’r Senedd ethol mwy o Ddirprwy Lywyddion
  • newid system etholiadol y Senedd fel bod pob Aelod yn cael ei ethol gan ddefnyddio rhestr gyfrannol gaeedig, a’r pleidleisiau yn cael eu trosi’n seddi gan ddefnyddio fformwla d’Hondt (gweler isod)
  • ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, a’i addasu at ddibenion gwahanol drwy roi iddo’r swyddogaethau angenrheidiol i sefydlu a chynnal diwygiadau rheolaidd o ffiniau etholaethau’r Senedd
  • rhoi cyfarwyddiadau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru eu dilyn wrth adolygu ffiniau. Yn ôl y cyfarwyddiadau hyn rhaid i’r adolygiad syml cychwynnol baru’r 32 o etholaethau Senedd y DU i ffurfio 16 o etholaethau newydd y Senedd, a hynny cyn etholiadau’r Senedd yn 2026
  • rhoi cyfarwyddiadau pellach ar gynnal adolygiad llawn o ffiniau cyn yr etholiad nesaf ar ôl 2026 a chynnal adolygiadau pellach o dro i dro
  • gostwng y cyfnod rhwng etholiadau cyffredinol arferol y Senedd o 5 mlynedd i 4 blynedd
  • datgan bod rhaid i ddarpar Aelodau o’r Senedd ac Aelodau’r Senedd fod wedi eu cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru (sy’n golygu bod rhaid iddynt breswylio yng Nghymru)
  • caniatáu i’r Senedd sefydlu pwyllgor i adolygu’r modd y mae’r darpariaethau deddfwriaethol newydd yn gweithredu ar ôl etholiadau 2026
  • caniatáu i’r Senedd sefydlu pwyllgor i adolygu hawl darpar Aelodau o’r Senedd ac Aelodau’r Senedd sy’n dal swyddi penodol i rannu swyddi, yn ogystal â dal swyddi penodol dros dro os yw rhywun i ffwrdd am gyfnod

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daw’r Ddeddf i rym fel a ganlyn, yn unol ag adran 25:

  • daw Rhan 3, adran 17, Rhan 5 (ar wahân i adran 20) ac Atodlen 2 i rym ar y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol (sef 25 Mehefin 2024);
  • daw adrannau 1, 2, 6, 7, 18, 19, 21, Rhan 2 ac Atodlen 3 i rym ddau fis ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf yn cael y Cydsyniad Brenhinol (sef 24 Awst 2024);
  • daw adran 3 i rym y diwrnod ar ôl y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf ar ôl 7 Tachwedd 2025;
  • daw adrannau 4 a 5 i rym y diwrnod ar ôl y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf ar ôl 6 Ebrill 2026.

Darllenwch adran 25 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 ar legislation.gov.uk.

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 18 Medi 2023 gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar y pryd. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 8 Mai 2024 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mehefin 2024.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru i gyd-fynd â’r Bil wedi ei ddiweddaru ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol:

Erthyglau a gwybodaeth gysylltiedig

Fformiwla fathemategol yw dull d’Hondt sy’n cael ei ddefnyddio mewn gwahanol systemau etholiadol drwy’r byd, gan gynnwys ar gyfer seddi etholiadol yn y Senedd bresennol. Cafodd ei enwi ar ôl Victor d’Hondt, cyfreithiwr a mathemategydd o Wlad Belg, a ddatblygodd y system yn y 1880au mewn ymgais i roi gwell cynrychiolaeth i wahanol grwpiau ieithyddol a thraddodiadau gwleidyddol yn senedd Gwlad Belg. 

Mae’r dull yn neilltuo seddi neu swyddi ar sail cyfran y pleidleisiau y mae pob plaid yn eu cael mewn etholiad. Mae’n gwneud hynny drwy gyfrifo cyniferydd ar gyfer pob plaid drosodd a throsodd a rhoi’r sedd neu’r swydd nesaf i’r blaid sydd â’r cyniferydd uchaf. Golyga hyn fod grym yn cael ei ddosbarthu ymysg y pleidiau yn ôl eu maint.

Yn ôl y fformiwla, caiff nifer y pleidleisiau ar gyfer pob plaid ei rannu â nifer y seddi y mae’r blaid eisoes wedi eu hennill, ac ychwanegu 1. Er enghraifft, os yw plaid wedi ennill 2 sedd, caiff nifer y pleidleisiau a gafwyd ei rannu â 3.  Y blaid sydd â’r mwyaf o bleidleisiau ym mhob rownd sy’n ennill y sedd, a chaiff hyn ei ailadrodd nes bod pob sedd wedi ei llenwi.