Bwriad prynwyr wrth wneud trafodiadau lle telir cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir, Gorffennaf 2025 i Fehefin 2026
Mae'r erthygl hon yn cyflwyno dadansoddiad newydd o fwriad prynwyr pan wnânt drafodiadau lle telir Treth Trafodiadau Tir ar y gyfradd uwch, gan gynnwys prynu ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dyma ein trydydd erthygl flynyddol i gynnwys data ar fwriad prynwyr mewn trafodiadau Treth Trafodiadau Tir cyfradd uwch. Fe gyhoeddom ein herthygl gyntaf am y data hwn ym mis Hydref 2024, a oedd yn cynnwys data ar gyfer un flwyddyn un unig ac ail erthygl yn haf 2025 yn dadansoddi tueddiadau dros ddwy flynedd. Yn yr erthygl hon, gallwn nawr edrych ar dueddiadau dros 3 blynedd. Cyn yr erthyglau hyn, byddem yn cyhoeddi erthyglau blynyddol i amcangyfrif sawl person a fyddai’n prynu tŷ na fyddai’n brif annedd iddynt.
Fe ddechreuom gasglu fwriad prynwyr mewn trafodiadau cyfradd uwch data yn ystod haf 2023, a hynny trwy gyflwyno cwestiwn newydd ar y ffurflen dreth Treth Trafodiadau Tir. Mae'r cwestiwn newydd yn berthnasol i bob trafodiad lle prynir eiddo preswyl sy’n gymwys i dalu’r cyfraddau uwch. Cyflwynwyd y cwestiwn hwn gyda chydymffurfiaeth treth, er mwyn llywio datblygiadau i bolisi Treth Trafodiadau Tir, ac er mwyn gwella’r wybodaeth sydd gennym ynghylch trafodiadau ar y gyfradd uwch. Darllenwch ein hadran ‘Dadansoddi’r data a sicrhau ansawdd’ am ragor o wybodaeth.
Prif bwyntiau
Ewch i’r adran 'Sut mae dehongli'r data hwn' i ddarllen am gyfyngiadau'r data a ddefnyddiwyd yn yr erthygl hon. Er enghraifft, rydym yn egluro fod yr wybodaeth sydd gennym ynghylch bwriad prynwyr mewn trafodiadau cyfradd uwch yn adlewyrchu’r hyn a nodwyd ar y ffurflen dreth pan wnaed y trafodiad yn unig ac y gallai hynny fod yn wahanol i ddefnydd y prynwr o’r eiddo yn y pen draw.
Mae’r dadansoddiad yn cwmpasu eiddo a brynwyd yn Ngorffennaf 2025 i Mehefin 2026 (blwyddyn ddiweddaraf), Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 (y flwyddyn flaenorol) a Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 (blwyddyn gynharaf).
Dadansoddiad Cymru
- Yn y flwyddyn ddiweddaraf, pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ oedd â’r gyfran fwyaf o drafodiadau cyfradd uwch o blith yr holl drafodiadau preswyl (9%), a phryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ yn ail (5%).
- Arhosodd pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ ar 9%, tra bod gostyngodd pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ o 7% (gostyngiad pwynt canran ym mhob blwyddyn).
- Cynyddodd nifer y pryniannau landlordiaid 'prynu-i-osod' bob blwyddyn gyda chynnydd o 25% yn gyffredinol. Roedd hyn yn fwy na'r cynnydd o 20% a welwyd ar gyfer pob trafodiad preswyl dros y cyfnod hwnnw.
- Er gwaethaf y cynnydd mawr mewn trafodiadau preswyl, ni ddilynodd niferoedd o bryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ yr un duedd, gan ostwng 4% o'r flwyddyn gynharaf i'r flwyddyn ddiweddaraf.
Dadansoddiad Awdurdodau Lleol
- Roedd pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ fel canran o’r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall, gyda Blaenau Gwent a Merthyr Tudful â'r canrannau uchaf (20% a 18% yn y drefn honno).
- Yn y flwyddyn ddiweddaraf, roedd y nifer o bryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ fel canran o’r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o un awdurdod i’r llall, o ganran o 2% yn Wrecsam i 11% yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
- Ar gyfer pryniannau 'ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau' fel cyfran o drafodiadau preswyl, gwelodd Ynys Môn a Gwynedd ostyngiadau llai yn y flwyddyn ddiwethaf nag yn y flwyddyn flaenorol, er bod gostyngiadau sylweddol yn y cyfanswm o hyd. Serch hynny, roedd y ffigurau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf yn parhau i fod yn uwch yn y ddau awdurdod hyn nag ar gyfer unrhyw awdurdod lleol arall.
- Ar gyfer pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ fel canran o’r holl drafodiadau preswyl, gwelwyd fod y gwahaniaeth rhwng awdurdodau lleol wedi culhau’n arw. Caewyd y bwlch o 14 pwynt canran yn y flwyddyn flaenorol i 9 pwynt canran yn y flwyddyn ddiweddaraf.
- Mae’r tueddiadau hyn yn parhau bod cyd-fynd â pholisïau tai gwyliau a gyflwynwyd yng Nghymru yn cael effaith ar ymddygiad prynwyr.
Y dreth sy’n ddyledus
- Yn y flwyddyn ddiweddaraf, roedd oddeutu 75% yn fwy o bryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ nag yr oedd o bryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’. Er hyn, roedd y cyfraniad refeniw treth o bryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ oddeutu 10% yn uwch na’r dreth o bryniannau ‘landlord prynu-i-osod’.
Newid ym mwriad prynwyr
Rydym yn adeiladu ar y dadansoddiad a gynhwyswyd yn ein herthygl flaenorol am y newid bwriad ar gyfer trafodiadau a ddaeth i rym rhwng Gorffennaf 2023 a Mehefin 2024, fel ag yr oeddent ym mis Gorffennaf 2024. Yn adran ‘Dadansoddiad o’r newid ym mwriad prynwyr’ yr erthygl hon, rydym yn dadansoddi’r data i weld a fu newid ym mwriad prynwyr y trafodiadau hyn yn ystod y 2 blynedd nawr.
Pan fyddwn yn ystyried diwygiadau a wnaed i ddata Gorffennaf 2023 hyd Fehefin 2024, gwelwyd gostyngiad annisgwyl o 11% yn y nifer o bryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’. Gellir priodoli hyn i hawliadau hwyrach am ad-daliadau o’r gyfradd uwch yn erbyn y trafodiadau dan sylw.
Mae’r newidiadau cyfatebol o ran pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ yn gymharol fychan. Credwn felly mai’r rheswm dros y gostyngiad mwy o ran pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ yw camddealltwriaeth gan y rhai a oedd yn llenwi’r ffurflenni Treth Trafodiadau Tir wrth ateb y cwestiwn. Neu, os nad oedd gwir fwriad y pryniant yn hysbys, efallai bod ‘ail dŷ’ wedi’i ddewis fel ateb amwys wrth brynu eiddo ychwanegol.
Y casgliad tebygol yw bod y categori ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ yn cynnwys achosion o ddosbarthiadau eraill (megis pontio), ac felly mae’r niferoedd ychydig yn uwch na’r gwirionedd.
Dadansoddi’r data a sicrhau ansawdd
A ninnau bellach â gwerth 3 blynedd o ddata ar gael, rydym wedi gallu sicrhau ansawdd hyn dros amser. Er enghraifft, er nad yw’r data yn caniatáu i ni wneud cymariaethau uniongyrchol, rydym wedi defnyddio data am yr eiddo sydd ar gofrestr Rhentu Doeth Cymru ar hyn o bryd er mwyn gwirio a yw’r wybodaeth yn ein categori ‘landlord prynu-i-osod’ yn synhwyrol. Mae hyn wedi helpu i adnabod cyfyngiadau’r data (gweler yr adran 'Sut mae dehongli'r data hwn').
Yn yr erthygl hwn, rydym yn dadansoddi data ar gyfer y ddau fath canlynol o ardaloedd lleol:
- awdurdodau lleol
- parciau nenedlaethol
Hefyd, rydym yn cynnwys data ar yr 16 etholaeth y Senedd yn y daenlen a gyhoeddwyd ar y cyd â’r erthygl hon.
Mae'r cwestiwn bwriad cyfraddau uwch yn cynnig y dewisiadau hyn o ran ymateb:
- pontio, neu heb werthu’r brif breswylfa flaenorol
- landlord prynu-i-osod
- prynu ail gartref / tŷ gwyliau
- prynu llety gwyliau
- defnydd masnachol neu fusnes (heb gynnwys prynu-i-osod)
- prynu ar gyfer rhywun arall (gan gynnwys plant)
- prynu mewn perthynas ag ymddiriedolaeth
- trosglwyddo ecwiti (gan gynnwys gyda morgais)
- arall (wrth ddewis yr opsiwn hwn, rhaid i’r defnyddiwr nodi pam eu bod yn gwneud y trafodiad cyfradd uwch)
Mae’r canllawiau ar gyfer Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir yn cynnig rhagor o wybodaeth ynghylch y dewisiadau hyn.
Rydym wedi grwpio'r 9 ymateb posibl i'r cwestiwn newydd i mewn i gategorïau llai. Gwnaethpwyd hyn gan fod nifer yr ymatebion a gafwyd mewn rhai categorïau mewn rhai ardaloedd lleol yn rhy isel i’w cyhoeddi. Mae'r erthygl hon yn defnyddio'r categorïau canlynol:
- landlord prynu-i-osod
- ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau
- ad-daliadau cyfradd uwch neu bontio (trafodiadau cyfradd uwch y disgwylir iddynt gael eu had-dalu)
- arall
Er mwyn gwella'r data, rydym hefyd wedi dadansoddi ymatebion y trethdalwyr neu'r asiantau a ddewisodd 'Arall' ar y ffurflen dreth. Os yw’r ymateb yn ei gwneud hi’n amlwg bod pryniant yn perthyn i un o’r categorïau eraill, megis tŷ gwyliau, rydym wedi symud yr ymateb i’r categori perthnasol. Roedd llawer o ymatebion nad oeddent yn perthyn yn amlwg i gategorïau eraill. Er enghraifft, cadwyd yr ymatebion 'prynu eiddo ychwanegol' yn y categori 'arall'.
Dim ond ychydig o ymatebion a symudwyd i wahanol gategori. O'r 11,070 o drafodiadau cyfraddau uwch a wnaed rhwng Gorffennaf 2025 a Mehefin 2026, tua 30 ohonynt (llai nag 1%) a symudwyd i’r categorïau 'prynu-i-osod', 'ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau,' ac 'ad-daliadau cyfradd uwch neu bontio' a ddefnyddir yn y datganiad hwn.
Sut mae dehongli'r data hwn
- Mae'r data a gyhoeddwyd yn adlewyrchu'r bwriad a nodwyd ar y ffurflen dreth pan wnaed y pryniant. Neu pan fo’r ymateb ymhlith yr ychydig rai a symudom i gategori arall, fel y disgrifir uchod. Gallai sut y defnyddir yr eiddo erbyn hyn fod yn wahanol i'r bwriad a nodwyd pan brynwyd ef.
- Ychydig wybodaeth sydd gennym am sut arferai’r gwerthwr ddefnyddio'r eiddo. O ganlyniad, nid oes modd i ni wybod a yw bwriad prynwr yn arwydd o newid yn y ffordd y defnyddir yr eiddo.
- Mae’r prif ganfyddiadau a gyflwynwn yma dan effaith y newidiadau yn niferoedd y trafodiadau cyfradd uwch ac yn niferoedd y trafodiadau prif gyfradd preswyl. Bu cynnydd arwyddocaol yn y nifer o drafodiadau prif gyfradd preswyl dros y cyfnod, ac mae hynny wedi achosi heriau wrth ddehongli’r data, byddwn yn trafod hynny mewn mwy o fanylder yn nes ymlaen.
- Mae’r data yn cynrychioli eiddo a brynwyd o fewn un flwyddyn benodol. O ganlyniad, nid yw o reidrwydd yn adlewyrchiad o holl stoc eiddo unrhyw ardal benodol.
- Gyda gwerth 3 blynedd o ddata bellach ar gael, gallwn gymharu’r flwyddyn diweddaraf gyda’r 2 blynedd blaenorol a gweld rhai newidiadau sylweddol yn rhai o ardaloedd Cymru. Ond ni allwn gymharu’r data dros gyfnod hirach.
- Gall y tueddiadau amrywio tipyn rhwng blynyddoedd. Mae hyn oherwydd y nifer fechan o drafodiadau a ddigwydda yn rhai o ardaloedd Cymru, felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r data hwn.
- Gan amlaf, cyfreithwyr neu drawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflen Dreth Drafodiadau Tir ar ran y trethdalwr. O ddadansoddi lleoliadau a gwybodaeth arall a roddir, rydym o’r farn bod asiantau yn dehongli’r categorïau bwriad yn wahanol ar brydiau neu hyd yn oed yn camddehongli bwriad y prynwr. Er enghraifft, credwn fod ‘ail gartref’ yn cael ei ddehongli mewn ffordd generig o bryd i’w gilydd, pan nad yw’r bwriad yn amlwg, ac yn sicr ag ystyr ehangach na chyd-destun ‘gwyliau’ yn unig. Bydd amrywioldeb yn bodoli yn yr ymatebion o fewn categorïau eraill hefyd, yn dibynnu ar yr unigolyn sy'n llenwi'r ffurflen dreth. Mae’n debygol y bydd hyn yn cael mwy o effaith mewn ardaloedd trefol, ac mae ein dadansoddiad yn dangos clystyrau o gwmpas canol dinasoedd neu drefi.
Cafodd y data ar gyfer Gorffennaf 2025 i Fehefin 2026 a ddefnyddiwyd yn yr erthygl hon ei dynnu o’n system ar 20 Gorffennaf 2026. At ddibenion cymharu, cafodd y data ar gyfer Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 ei dynnu ar 21 Gorffennaf 2025 a ch afodd y data ar gyfer Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 ei dynnu ar 15 Gorffennaf 2024. Defnyddiwyd yr un cyfnod tynnu data ar gyfer ystadegau chwarterol diweddaraf. O ganlyniad, mae cyfanswm y trafodiadau cyfradd uwch a geir yma yn cyd-fynd â’r ystadegau arferol ar gyfer y cyfnodau hyd at Mehefin 2025.
Ffigur 1: Trafodiadau ar y gyfradd uwch wedi’u rhannu yn ôl categori bwriad, fel canran o’r holl drafodiadau preswyl, Gorffennaf 2025 i Fehefin 2026
Disgrifiad o Ffigur 1: Trafodiadau cyfraddau uwch fel cyfran o'r holl drafodiadau preswyl, wedi’u rhannu yn ôl y bwriad a nodwyd ar ffurflen dreth y prynwr: prynu ‘landlordiaid prynu-i-osod’; prynu ‘ail gartrefi, tai gwyliau, neu lety gwyliau’; ad-daliadau cyfradd uwch neu bontio, a phrynu arall. Mae’r dadansoddiad o’r ddau gategori cyntaf (a’r rhai mwyaf) wedi’i gyflwyno yn Ffigurau 2, 3 a 4 canlynol.
Ffynhonnell: Bwriad prynwyr mewn trafodiadau lle talwyd y Dreth Trafodiadau Tir ar y gyfradd uwch [Taenlen Dogfen Agored, 19 Kb]
Ar lefel Cymru, pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ oedd yn gyfrifol am y gyfran fwyaf o drafodiadau cyfradd uwch o’r holl drafodiadau preswyl (9%), gyda phryniannau ‘ail gartrefi, tai gwyliau neu lety gwyliau’ yn ail (5%). Fodd bynnag, mae’r canrannau hyn dan effaith y newid yn nifer y trafodiadau cyfradd uwch yn ogystal â’r newid yng nghyfanswm y trafodiadau (a ddefnyddiwyd yn yr enwadur). O ganlyniad, mae Tabl 1 isod yn ystyried nifer gwirioneddol y trafodiadau ym mhob categori preswyl a’r newid dros amser.
| Math o drafodiad a bwriad cyfraddau uwch | Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024 | Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 | Gorffennaf 2025 i Fehefin 2026 | Newid canran 2023/4 i 2025/6 |
|---|---|---|---|---|
| Preswyl | 44,600 | 51,140 | 53,710 | 20% |
| O'r rhain: prif gyfraddau | 34,230 | 40,070 | 42,060 | 23% |
| Cyfraddau uwch [Nodyn 1] | 10,370 | 11,080 | 11,650 | 12% |
| O'r rhain: landlord prynu-i-osod | 4,000 | 4,490 | 5,000 | 25% |
| Ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau | 2,980 | 2,990 | 2,870 | -4% |
| Ad-daliadau cyfradd uwch neu bontio | 1,710 | 1,910 | 1,760 | 2% |
| Arall | 1,680 | 1,690 | 2,030 | 21% |
Nodyn 1: Er cysondeb â Ffigur 1 uchod, mae’r trafodiadau a arferai fod ar y gyfradd uwch ond sydd bellach wedi’u had-dalu wedi’u cynnwys yn y llinell ‘preswyl cyfradd uwch’.
O gymharu data ar gyfer Gorffennaf 2025 i Fehefin 2026 gyda Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024:
- bu cynnydd o 20% yn y nifer o drafodiadau preswyl
- roedd hwn yn cynnwys cynnydd o 23% yn nifer y trafodiadau prif gyfradd preswyl a chynnydd o 12% mewn trafodiadau cyfradd uwch
- ni fu cymaint o gynnydd yn y trafodiadau cyfradd uwch o gymharu â’r brif gyfradd, yn bennaf oherwydd i’r gyfradd pryniannau ‘ail gartrefi, tai gwyliau neu lety gwyliau’ yn gosod gan 4%. Roedd y cynnydd mewn pryniannau ‘landlord prynu-i-osod’ (25%) yn uchod y cyfartaledd preswyl
Er y bu sawl cynnydd mawr o ran trafodiadau preswyl a rhai o’r categorïau bwriad prynwyr trafodiadau cyfradd uwch, ni welwyd yr un cynnydd o ran pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau a llety gwyliau’ a gosod yn y blwyddyn diwethaf. Gallai hyn arwain at ddod i gasgliad bod polisïau ynghylch ail gartrefi yn Nghymru wedi lleihau’r nifer o bryniannau.
Er bod hynny’n debygol, nid yw’n data yn caniatáu i ni ddweud hynny’n bendant. Ni allwn ddweud o edrych ar y data bod tai a arferai fod y ail gartrefi bellach wedi’u prynu i fod yn brif anheddau, neu bod pryniannau posibl o ail gartrefi wedi cael eu rhwystro. Gallai un neu’r ddau o’r rhesymau hyn fod yn rhesymau posibl dros y tueddiadau hyn.
Ffigur 2: Trafodiadau ar y gyfradd uwch lle nodwyd ‘landlord prynu-i-osod’ fel bwriad fel canran o’r holl drafodiadau preswyl ar gyfer awdurdodau lleol penodol, yn ôl blwyddyn, Gorffennaf 2023 i Fehefin 2026 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 2: Ar gyfer pryniannau landlordiaid 'prynu-i-osod' fel canran o'r trafodiadau preswyl, mae Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf wedi aros ar frig dosbarthiad yr awdurdodau lleol am bob un o'r 3 blynedd o ddata sydd ar gael. Yn y flwyddyn ddiwethaf, cynyddodd y ganran ar gyfer Blaenau Gwent 4 pwynt canran i 20%, y ffigwr uchaf o unrhyw awdurdod lleol. Mae cyfartaledd Cymru wedi aros ar oddeutu 9% ym mhob un o'r 3 blynedd. Powys, Sir Fynwy a Cheredigion oedd â'r canrannau isaf yn y flwyddyn ddiwethaf (3%, 3% a 5% yn y drefn honno), er bod rhai awdurdodau eraill wedi ymddangos yn y 3 awdurdod isaf yn y ddwy flynedd flaenorol. Mae'r canrannau cyfatebol yn y flwyddyn ddiweddaraf ar gyfer Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro, Eryri a Bannau Brycheiniog yn is na chyfartaledd Cymru (6%, 5% a 4% yn y drefn honno) felly nid ydynt wedi'u nodi ar wahân.
Nodyn 1: Mae'r siart yn dangos y 3 awdurdod lleol uchaf a'r 3 awdurdod lleol isaf ar gyfer y mesur hwn yn y flwyddyn ddiweddaraf, gyda 'Chyfartaledd gweddill Cymru' wedi'i gyfrifo ar gyfer yr 16 awdurdod lleol arall (heb ei ddangos yn unigol ar y siart).
Ffynhonnell: Bwriad prynwyr mewn trafodiadau lle talwyd y Dreth Trafodiadau Tir ar y gyfradd uwch [Taenlen Dogfen Agored, 19 Kb]
Ffigur 3: Trafodiadau ar y gyfradd uwch lle nodwyd ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ fel bwriad, fel canran o’r holl drafodiadau preswyl ar gyfer awdurdodau lleol penodol, yn ôl blwyddyn,, Gorffennaf 2023 i Fehefin 2026 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 3: Ar frig y dosbarthiad, gwelodd Gwynedd, Ynys Môn a Sir Benfro ostyngiad yn y flwyddyn flaenorol a'r flwyddyn ddiweddaraf yn eu canrannau o bryniannau preswyl gyda'r bwriad datganedig o 'ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau'. Roedd y gostyngiadau’n llai ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn yn y flwyddyn ddiwethaf na'r gostyngiadau mawr yn y flwyddyn flaenorol. Er gwaethaf y gostyngiadau hynny, arhosodd y 3 awdurdod hynny ar frig dosbarthiad yr awdurdodau lleol. Gostyngodd cyfartaledd Cymru 1% yn y flwyddyn flaenorol a'r flwyddyn ddiweddaraf.
Nodyn 1: Mae'r siart yn dangos y 3 awdurdod lleol uchaf a'r 3 awdurdod lleol isaf ar gyfer y mesur hwn yn y flwyddyn ddiweddaraf, gyda 'Chyfartaledd gweddill Cymru' wedi'i gyfrifo ar gyfer yr 16 awdurdod lleol arall (heb ei ddangos yn unigol ar y siart).
Ffynhonnell: Bwriad prynwyr mewn trafodiadau lle talwyd y Dreth Trafodiadau Tir ar y gyfradd uwch [Taenlen Dogfen Agored, 19 Kb]
Er bod Ynys Môn a Gwynedd yn parhau i fod â chanrannau uwch na’r awdurdodau lleol eraill a ddangosir yn ffigwr 3, mae’r gwahaniaeth rhwng y brig a’r gwaelod wedi culhau o 14 pwynt canran yn y flwyddyn gynharaf i 9 pwynt canran yn y flwyddyn ddiweddaraf.
Y caran ar gyfer Cymru yn y flwyddyn ddiweddaraf oedd 5%, ychydig yn is na’r canran o 6% yn y flwyddyn flaenorol a 7% yn y flwyddyn gynharaf. Er y gostyngiad hwn, mae Tabl 1 yn dangos bod y nifer o ‘ail gartrefi, tai gwyliau neu lety gwyliau’ wedi aros yn eithaf cyson yn y flwyddyn flaenorol ac yna gostyngiad bach yn y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r newidiadau canran ar gyfer yr awdurdodau a ddisgrifir uchod yn cyd-fynd â chyflwyniad polisïau ynghylch ail gartrefi yng Nghymru yn effeithio ar ymddygiad prynwyr.
Ffigur 4: Trafodiadau ar y gyfradd uwch lle nodwyd ‘ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau’ fel bwriad, fel canran o’r holl drafodiadau preswyl, yn ôl Parc Cenedlaethol a blwyddyn, Gorffennaf 2023 i Fehefin 2026
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart hwn yn defnyddio graddfa o 0% i 40% (yn wahanol i Ffigur 3 ar gyfer awdurdodau lleol) ac mae'n dangos bod Arfordir Penfro wedi gweld gostyngiad o 5 pwynt canran yn ei chanran o drafodiadau preswyl gyda'r bwriad datganedig o 'ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau'. Daeth hyn ar ôl cwymp mwy o 10 pwynt canran y flwyddyn cyn hynny. Gostyngodd y ganran ar gyfer Eryri 2 bwynt canran yn y flwyddyn ddiwethaf ar ôl gostyngiad mwy o 7 pwynt canran y flwyddyn cyn hynny. Ar gyfer Bannau Brycheiniog, bu cynnydd i 10% yn y flwyddyn flaenorol cyn gostyngiad i 4% yn y flwyddyn ddiwethaf (bellach yn is na chyfartaledd Cymru). Gall fod newidiadau mawr yn y canrannau hyn ar gyfer Parciau Cenedlaethol oherwydd y niferoedd bach o drafodiadau yn yr ardaloedd hyn.
Ffynhonnell: Bwriad prynwyr mewn trafodiadau lle talwyd y Dreth Trafodiadau Tir ar y gyfradd uwch [Taenlen Dogfen Agored, 19 Kb]
Ffigur 5: Trafodiadau ar y gyfradd uwch wedi’u rhannu yn ôl categori bwriad a’r dreth sy’n ddyledus, fel canran o’r holl drafodiadau preswyl, Gorffennaf 2025 i Fehefin 2026 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 5: Ar gyfer Gorffennaf 2025 i Fehefin 2026, roedd 9% o'r holl drafodiadau preswyl yn rhai prynu-i-osod, ac yn gyfrifol am 14% o'r dreth breswyl oedd yn ddyledus (£43 miliwn). Roedd y canran a oedd yn ail gartrefi, tai gwyliau, neu lety gwyliau yn is (5%) na phrynu-i-osod, ond gyda chanran uwch o dreth yn ddyledus (15% neu £47 miliwn). Mae canran y dreth sy'n ddyledus ar gyfer 'ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau' wedi gostwng ym mhob un o'r 2 flynedd ddiwethaf (o 20% ym mis Gorffennaf 2023 i 2024), gan adlewyrchu gostyngiadau yn lefel y pryniannau ar gyfer y categori hwn. Mae pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau’ yn parhau i gyfrannu cyfran is o drafodiadau ond mae cyfran uwch o'r dreth sy'n ddyledus (nag ar gyfer pryniannau landlordiaid prynu-i-osod) yn adlewyrchu'r gwerthoedd eiddo cyfartalog uwch ar gyfer y categori.
Nodyn 1: Mae'r siart hwn yn eithrio trafodiadau sy'n gysylltiedig â phontio neu ad-daliadau cyfradd uwch. Ni chodir y gyfradd uwch ar drafodiadau lle gwneir ad-daliadau cyfradd uwch, felly nid ydynt yn berthnasol wrth ystyried treth sy'n ddyledus yn y siart hwn. Disgwylir i ad-daliadau cyfradd uwch gael eu hawlio maes o law ar gyfer y trafodiadau hynny lle nodwyd mai pontio oedd y bwriad. Ar 20 Gorffennaf 2026, roedd swm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer yr holl achosion hyn yn £38 miliwn.
Ffynhonnell: Bwriad prynwyr mewn trafodiadau lle talwyd y Dreth Trafodiadau Tir ar y gyfradd uwch [Taenlen Dogfen Agored, 19 Kb]
Dadansoddiad o’r newid ym mwriad prynwyr
Un o’r cafeatau a nodwn wrth drafod y data ar fwriad prynwyr yw mai cipolwg o’r sefyllfa ar un cyfnod yn unig ydyw, a gall newid yn ôl ymddygiad prynwyr. Gallwn bellach adnabod rhai newidiadau ym mwriad prynwyr, pan fo’r diwygiadau’n digwydd o ran math o drafodiad yn yr achosion a oedd yn rhan o ddadansoddiad y flwyddyn flaenorol. Gallai hyn ddigwydd oherwydd y canlynol:
- mae’r prynwr wedi dewis defnyddio’r eiddo fel eu prif annedd, ac felly’n hawlio ad-daliad o elfen cyfradd uwch y dreth
- mae’r prynwr wedi gwneud hawliad i Awdurdod Cyllid Cymru ddiwygio eu ffurflen dreth o fod yn un cyfradd uwch i fod yn drafodiad amhreswyl
- mae trafodiad na chafodd ei gyflwyno fel un cyfradd uwch wedi’i ddiwygio i fod yn un cyfradd uwch, o ganlyniad i ymchwiliad gan Awdurdod Cyllid Cymru er enghraifft
- mae trafodiadau cyfradd uwch na chafodd eu cynnwys yn nadansoddiad y flwyddyn flaenorol bellach wedi cael eu cyflwyno i Awdurdod Cyllid Cymru
Gan ddechrau gyda’r data ar gyfer Gorffennaf 2023 i Fehefin 2024, mae Tabl 2 yn dadansoddi’r diwygiadau a wnaed rhwng 15 Gorffennaf 2024 (sef pan gyhoeddwyd y data hyn gyntaf yn erthygl 2024) a 20 Gorffennaf 2026. Mae’r tabl yn cyfeirio at y ddau gategori cyntaf a restrir uchod dan yr enwau ‘ddim yn drafodiadau cyfradd uwch bellach’ a’r ddau gategori olaf fel ‘trafodiadau cyfradd uwch newydd’.
| Categori bwriad cyfraddau uwch | Data a gyhoeddwyd yn 2024 | Dim yn drafodiadau cyfradd uwch bellach [Nodyn 1] | Trafodiadau cyfradd uwch newydd [Nodyn 2] | Fel ar 2026 | Newid canran |
|---|---|---|---|---|---|
| Landlord prynu-i-osod | 4,000 | -50 | 70 | 4,030 | 1% |
| Ail gartref, tŷ gwyliau, neu lety gwyliau | 2,980 | -340 | 20 | 2,660 | -11% |
| Arall | 1,680 | -30 | 60 | 1,720 | 2% |
| Pontio [Nodyn 3] | 1,240 | -590 | 10 | 660 | |
| Ad-daliadau cyfradd uwch [Nodyn 3] | 470 | 1,000 | 10 | 1,470 | |
| Cyfanswm trafodiadau cyfraddau uwch a ad-daliadau cyfraddau uwch | 10,370 | -10 | 170 | 10,530 | 2% |
[k] Yn cynrychioli gwerth sy’n talgrynnu i 0, ond sydd heb fod yn 0.
Nodyn 1: Mae hyn yn cyfrif y nifer o drafodiadau cyfradd uwch sydd naill ai wedi’u diwygio i fod yn drafodiad prif gyfradd (yn bennaf oherwydd ad-daliad neu wall) neu’n un o’r nifer fechan sydd wedi’u diwygio i gyfradd amhreswyl o ganlyniad i weithgareddau cydymffurfio neu liniaru.
Nodyn 2: Mae hwn yn cyfrif y nifer o drafodiadau cyfradd uwch newydd a gyflwynir i Awdurdod Cyllid Cymru ar ôl y cyhoeddiad yn 2024 ynghyd â thrafodiadau a allai fod wedi cael eu diwygio o fod ar un gyfradd dreth i fod yn gyfradd uwch o ganlyniad i weithgareddau cydymffurfio.
Nodyn 3: Ar y cyfan, mae’r adolygiadau mawr a welir yn y categorïau hyn yn cyd-fynd â’r hawliadau am ad-daliad a ddisgwylir.
Mae’r tabl yn dangos bod y newidiadau data rhwng 15 Gorffennaf 2024 a 20 Gorffennaf 2026 yn tueddu i fod yn rhai bychain. Dyma’r materion difyrraf:
- o’r 1,000 ad-daliad cyfradd uwch a wnaed yn cyfnod 2 blynedd hynny, dim ond 590 oedd wedi nodi cyn hynny eu bod yn bwriadu pontio (oddeutu 60%)
- yr ail gategori mwyaf oedd y bwriad 'ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau' (340 o achosion, neu tua thraean o ad-daliadau cyfradd uwch)
- mae llai o ad-daliadau o lawer ar gyfer pryniannau â’r categorïau bwriad ‘landlord prynu-i-osod’ ac ‘arall’ (50 achos o’r cyntaf, ac 30 achos o’r ail)
O ran y 340 achos pan nodwyd mai ‘ail gartref, tai gwyliau neu lety gwyliau’ oedd y bwriad, mae tri achos tebygol dros hyn:
- efallai fod rhai wedi camddehongli’r cwestiwn wrth lenwi’r ffurflen Treth Trafodiadau Tir; neu, pan nad oedd gwir fwriad y pryniant yn hysbys, efallai fod y categori hwn wedi’i ddewis oherwydd ystyr generig ‘ail gartref’ fel eiddo ychwanegol
- bu newid gwirioneddol ym mwriad pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau a llety gwyliau’ a’u bod bellach yn cael eu defnyddio fel prif anheddau
- hawliwyd rhai ad-daliadau cyfradd uwch mewn camgymeriad
Yn ymarferol, mae’n debyg bod y tri rheswm yn wir. Gan mai niferoedd cymharol fychan o drafodiadau sydd yn y categorïau ‘landlord prynu-i-osod’ ac ‘arall’, tybir mai’r achos cyntaf yw’r prif reswm. Y casgliad tebygol yw bod y categori ‘ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau’ yn cynnwys rhai achosion a ddylai fod wedi’u cofnodi mewn categorïau eraill. Mae hyn yn cryfhau’r canfyddiad mai pryniannau ‘tir prynu-i-osod’ sydd fwyaf cyffredin yn y data, yn enwedig o edrych ar y cwymp yn nghanran y pryniannau ‘ail gartref, tŷ gwyliau a llety gwyliau’ a welir yn Ffigur 3.
Er bod 340 achos yn annisgwyl o uchel, bychan yw’r effaith gyffredinol ar yr ystadegau a gyflwynwyd yn gynharach yn yr erthygl. Rydym wedi edrych ar wasgariad yr achosion hyn dros ardaloedd lleol Cymru. Byddai effaith y data a ddangosir yn Ffigur 3 ar unrhyw ardal yn llai nag 1 pwynt canran, ac ni fyddai’n newid prif neges y data dan sylw.
Mewn ymateb i’r trydydd rheswm a restrwyd ar gyfer y 340 achos hwn, mae Awdurdod Cyllid Cymru eisoes wedi adolygu ac wedi newid rhai o’i brosesau gweithrediadol sy’n ymwneud â thrin hawliadau am ad-daliadau cyfradd uwch.
Rydym hefyd wedi dadansoddi'r data cyfatebol yn Nhabl 2 ar gyfer trafodion cyfraddau uwch sy'n effeithiol ym mis Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025 a newidiadau i'r bwriad rhwng 21 Gorffennaf 2025 a 20 Gorffennaf 2026. Mae'r dadansoddiad yn dangos negeseuon tebyg i'r rhai uchod (3 phrif bwynt diddordeb) ac felly nid yw'r data’n cael ei gyflwyno mewn tabl ychwanegol yma. O'r ad-daliadau cyfradd uwch sy'n digwydd yn y cyfnod hwnnw o 12 mis, roedd y mwyafrif wedi nodi bwriad pontio (tua 60%) gyda'r categori 'ail gartref, tŷ gwyliau neu lety gwyliau' y categori mwyaf nesaf (tua thraean o'r ad-daliadau). Byddwn yn parhau i ddadansoddi ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl categori bwriad blaenorol mewn erthyglau yn y dyfodol.
Rhagor o wybodaeth
Mae gwybodaeth am ansawdd ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn egluro sut rydym wedi datrys materion ansawdd gyda data ardaloedd lleol.
Yn Mehefin 2023, cyhoeddwyd Llywodraeth Cymru yr erthygl ystadegol 'Ail gartrefi: Beth mae'r data yn ei ddweud wrthym?’. Roedd hwn yn cynnwys rhannau o’n herthyglau blaenorol ar amcangyfrif dosraniad trafodiadau Treth Trafodiadau Tir cyfradd uwch. Mae’r dadansoddiad o Dreth Trafodiadau Tir yn erthygl Llywodraeth Cymru bellach wedi’i ddisodli gan yr erthygl hon sy'n dadansoddi bwriad cyfradd uwch.
Eich adborth
Rydym yn ystyried gwneud cynlluniau pellach ar gyfer y data hwn, a byddwn yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr ynghylch ei ddefnyddioldeb. Anfonwch eich adborth i data@acc.llyw.cymru.
