Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Pa fath o drafodiad trethadwy yw hwn?

Bydd angen i chi ddewis os yw'r trafodiad yn un:

  • preswyl (prif gyfraddau a chyfraddau uwch)
  • amhreswyl
  • defnydd cymysg

Rhagor o ganllawiau am drafodiad sy'n destun cyfraddau uwch

Efallai y byddwch am ddefnyddio ein hofferyn i wirio a yw trafodiad yn destun cyfraddau uwch TTT.

A: ‘Preswyl’ (prif gyfraddau a chyfraddau uwch)

Os yw'r trafodiad yn cynnwys:

  • adeilad a ddefnyddir fel un annedd neu ragor, neu sy’n addas i’w ddefnyddio felly, neu sydd yn y broses o gael ei godi neu ei addasu i’w ddefnyddio felly
  • tir sy’n ardd neu’n diroedd, neu’n ffurfio rhan o ardd neu diroedd adeilad a ddisgrifir uchod
  • buddiant mewn tir neu hawl dros dir sy’n bodoli er budd adeilad o’r fath neu ei diroedd (er enghraifft hawl tramwy i fynd i'r annedd)

Os dewisir ‘Preswyl (prif gyfraddau a chyfraddau uwch)’ a bod y prynwr yn unigolyn, dewiswch a yw hwn yn eiddo preswyl cyfraddau uwch (e.e. ail gartrefi / prynu i osod, ac ati) oherwydd bod:

  • y prynwr / un o’r prynwyr eisoes yn dal prif fuddiant mewn eiddo arall, neu fod
  • y prynwr yn gwmni cyfyngedig, neu fod
  • y trafodiad yn destun y cyfraddau uwch am ryw reswm arall

Os ydych wedi dewis na, byddwch yn gallu mynd ymlaen i’r adran nesaf a bydd ‘prif gyfraddau’ yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo.

Os ydych yn dewis ‘Ydy’, bydd ‘cyfraddau preswyl uwch’ yn cael eu defnyddio wrth gyfrifo. Nodwch a ydych yn rhagweld adhawlio’r gyfradd uwch o fewn y 3 blynedd nesaf ar y trafodiad hwn.

Os ydych yn dewis ‘Preswyl (prif gyfraddau a chyfraddau uwch)’ a bod y prynwr yn cynnwys sefydliad bydd angen i chi ddewis a yw'r eiddo’n cynnwys annedd.

Pan fydd sefydliad yn prynu annedd fel arfer bydd yn rhaid iddo dalu cyfraddau uwch, hyd yn oed os nad yw'n berchen ar unrhyw anheddau eraill.

B: ‘Amhreswyl’

Os nad yw’r eiddo cyfan yn cyfateb i'r diffiniad uchod o ‘breswyl’.

C: ‘Defnydd cymysg’

Os mai dim ond rhan o’r eiddo sy’n cyfateb i’r diffiniad uchod o ‘breswyl’.

Pam fod yr eiddo'n amhreswyl / pam fod rhan o'r eiddo’n amhreswyl (defnydd cymysg)?

Os ydych wedi dewis ‘Amhreswyl’ neu 'Ddefnydd cymysg' ar gyfer y cwestiwn blaenorol, rhaid i chi ateb ar gyfer y cwestiwn hwn pam fod yr eiddo cyfan neu ran ohono yn amhreswyl o'r rhestr a ddarparwyd.

Os ydych wedi dewis ‘Arall’, nodwch y math o eiddo amhreswyl.

A ydych yn rhagweld adhawlio’r gyfradd uwch o fewn 3 blynedd ar y trafodiad hwn?

Os ydych wedi dewis 'Preswyl cyfradd uwch' rhaid i chi ateb y cwestiwn hwn. O dan rai amgylchiadau, gallwch hawlio'n ôl elfen gyfradd uwch y dreth a dalwyd gennych ar y trafodiad hwn.

Rhagor o ganllawiau ar gyfraddau uwch ar gyfer prynu eiddo preswyl

Os yw'r prynwr yn disgwyl hawlio'r elfen cyfradd uwch o'r dreth rydych chi wedi'i thalu yn ôl rywbryd yn y dyfodol (yn ddarostyngedig i’r terfynau amser y cyfeirir atynt yn y canllawiau), dylech ateb ‘Ydw’.

Fel arall, atebwch 'Nac oes’.

Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio orau pam eich bod yn talu'r tâl cyfradd uwch?

Bydd cyfraddau uwch yn daladwy ar y rhan fwyaf o bryniannau anheddau a wneir rai nad ydynt yn unigolion.

Dylid defnyddio'r diffiniadau canlynol i benderfynu pa reswm sy'n disgrifio orau pam fod y pryniant yn cael ei wneud.

A: Ar gyfer unigolion

Pontio neu ddim wedi gwerthu prif breswylfa flaenorol

Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r prynwr yn bwriadu i'r annedd a brynwyd fod yn brif breswylfa iddynt ond eu bod yn dal i fod yn berchen ar eu prif breswylfa gyfredol.

Byddant yn gallu gwneud cais am ad-daliad y dreth cyfradd uwch os:

  • ydynt yn gwaredu eu prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd, ac
  • mae'r holl amodau perthnasol yn cael eu bodloni yn unol â’r canllawiau o dan DTTT/8120

B Ar gyfer rhai nad ydynt yn unigolion

Defnydd masnach neu fusnes (heb gynnwys prynu-i-osod neu lety gwyliau)

Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r prynwr yn bwriadu defnyddio'r annedd mewn perthynas â busnes neu fasnach. Nid yw hyn yn cynnwys:

  • annedd prynu-i-osod, y dylid ei gofnodi o dan 'Landlord Prynu-i-Osod'
  • llety gwyliau, y dylid ei gofnodi o dan 'Prynu llety gwyliau'

C Ar gyfer pob prynwr

Landlord prynu-i-osod

Dewiswch yr opsiwn hwn os:

  • yw'r prynwr yn bwriadu gosod yr annedd hon ar sail cyfnod penodol neu gontract cyfnodol, a/neu
  • mae ganddynt forgais prynu-i-osod

Prynu ail gartref neu gartref gwyliau

Dewiswch yr opsiwn hwn os nad yw'r prynwr yn bwriadu defnyddio'r annedd hon fel ei brif breswylfa.

Gall:

  • y perchennog neu westeion, gan gynnwys teulu a ffrindiau, fod yn aros yno ar sail anfasnachol, a/neu
  • ei fod yn cael ei osod yn achlysurol am gydnabyddiaeth neu’n rhad ac am ddim

Prynu llety gwyliau

Dewiswch yr opsiwn hwn:

  • os yw'r prynwr yn bwriadu gosod yr annedd yn fasnachol fel llety gwyliau neu dymor byr, gan gynnwys fel llety gwyliau wedi'i ddodrefnu, a/neu
  • pan fo rhywun yn aros yno am gyfnodau cyfyngedig

Prynu ar gyfer rhywun arall (gan gynnwys plant dan oed)

Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r prynwr yn prynu ar ran rhywun arall, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • blentyn dan oed, a
  • bod y prynwr eisoes yn berchen ar fuddiant mawr mewn annedd arall

Prynu mewn perthynas ag ymddiriedolaeth

Dewiswch yr opsiwn hwn os:

  • byddai buddiolwr ymddiriedolaeth noeth neu ymddiriedolaeth setliad yn cael ei drin fel prynwr ar gyfer TTT ac yn atebol am y gyfradd uwch pe byddent yn caffael yr annedd yn uniongyrchol, neu
  • fod y prynwr (neu un ohonynt) yn ymddiriedolwr ar gyfer ymddiriedolaeth setliad lle nad oes gan y buddiolwr hawl i:
    • fyw yn yr annedd(anheddau) am oes
    • yr incwm a enillir o'r annedd(anheddau)

Canllawiau pellach o DTTT/8180 ymlaen Aneddiadau ac Ymddiriedolaethau Noeth

Trosglwyddo ecwiti (gan gynnwys morgais)

Dewiswch yr opsiwn hwn os oes trosglwyddiad ecwiti i'r prynwr a'u bod yn berchen ar fuddiant mawr mewn annedd arall.

Arall

Dewiswch yr opsiwn hwn os yw'r trafodiad yn denu cyfradd uwch ond nad yw o dan unrhyw un o'r opsiynau a ddiffiniwyd uchod.

Rydym wedi darparu blwch testun er mwyn deall unrhyw resymau nad ydynt wedi'u rhestru.

Pa fath o drafodiad yw hwn?

Dewiswch un opsiwn.

A yw cyfanswm y gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad yn cynnwys TAW?

Ar gyfer trafodiadau sy’n drafodiadau preswyl yn gyfan gwbl, ni ddylid codi TAW ar y prynwr.

Mae’n bosib y bydd y prynwr yn gorfod talu TAW ar drafodiadau amhreswyl. Os nad ydych yn siŵr a oes TAW yn cael ei chodi neu beidio, dylech gysylltu â’r gwerthwr neu eich asiant.

Os oes TAW yn cael ei chodi ar y prynwr, atebwch ‘Ydy’. Fel arall, atebwch 'Nac ydy’.

Beth yw'r buddiant sy'n cael ei drosglwyddo neu ei greu?

Dewiswch un opsiwn.

A oes unrhyw gyfyngiadau, cyfamodau neu amodau sy'n effeithio ar werth y buddiant sy’n cael ei drosglwyddo neu ei ganiatáu?

Os ‘Oes’, rhowch ddisgrifiad byr, er enghraifft:

  • mae’r gwerthwr yn cadw'r hawl i brynu'n ôl am lai na gwerth y farchnad
  • mae cyfamodau’r les yn cyfyngu ar ddefnydd y siop
  • mae amodau deiliadaeth amaethyddol yn berthnasol

A yw'r trafodiad yn unol â chytundeb opsiwn blaenorol?

Atebwch ‘Ydy’ os yw’r trafodiad hwn yn deillio o opsiwn sy’n cael ei arfer.

Mae opsiwn i brynu tir yn hawl rhwymol a roddir gan dirfeddiannwr. Mae’n rhoi hawl i ddarpar brynwr brynu’r tir hwnnw cyn dyddiad penodol. Ym mhob achos arall, atebwch ‘Nac ydy’.

Rhagor o ganllawiau ynglŷn ag opsiynau

Oes gennych chi opiniwn treth ACC ar gyfer y trafodiad hwn?

Atebwch ‘Oes’, os gwnaethoch ofyn i ACC am opiniwn treth, cyn i’r trafodiad ddigwydd, a’n bod ninnau wedi rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol i chi. 

Bydd cyfeirnod yr opiniwn treth i’w weld ar ein hymateb ysgrifenedig ffurfiol. Rhowch y cyfeirnod yn y blwch a ddarperir.

Os na wnaethoch ofyn am opiniwn treth, atebwch ‘Nac oes’.

Rhagor o wybodaeth am opiniynau treth ACC

A yw'r trafodiad hwn yn rhan o nifer o drafodiadau eraill mewn mannau eraill yn y DU, ond y tu allan i Gymru?

Atebwch 'Ydw' os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae mwy nag un trafodiad
  • mae’r trafodiadau rhwng yr un prynwr a gwerthwr, neu rhwng pobl sy’n gysylltiedig â’r naill neu'r llall ohonynt
  • mae’r trafodiadau’n rhan o gynllun neu drefniant sengl neu’n rhan o gyfres o drafodiadau
  • mae o leiaf un o’r trafodiadau yn cynnwys tir y tu allan i ffiniau Cymru

Fel arall, atebwch ‘Nac ydy’.

Rhagor o wybodaeth am drafodiadau cysylltiol

A yw’r trafodiad yn gysylltiedig ag unrhyw drafodiadau eraill?

Mae angen i chi ateb 'Ydy' os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • mae mwy nag un trafodiad
  • mae'r trafodiadau rhwng yr un prynwr a gwerthwr, neu rhwng pobl sy’n gysylltiedig â’r naill neu'r llall ohonynt
  • mae'r trafodiadau’n rhan o gynllun neu drefniant sengl neu’n rhan o gyfres o drafodiadau

Fel arall, atebwch ‘Nac ydy’.

Rhagor o ganllawiau ar drafodiadau cysylltiol

Beth yw cyfanswm y gydnabyddiaeth neu'r gwerth mewn arian neu gyfwerth ariannol, gan gynnwys y TAW a dalwyd ond heb gynnwys rhent, ar gyfer yr holl drafodiadau cysylltiol?

Rhowch swm y gydnabyddiaeth, sy’n drethadwy parthed yr holl drafodiadau cysylltiol, hyd yn oed os yw rhai o’r trafodiadau cysylltiol hynny eisoes wedi cael eu cofnodi ar Ffurflen TTT yn y gorffennol.

Dylai'r swm y byddwch yn ei nodi fel cydnabyddiaeth gynnwys y canlynol lle bo’n briodol:

  • cyfanswm y gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddwyd gan y prynwr ym mha ffurf bynnag am y tir neu eiddo
  • cyfanswm y gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer yr aseiniadau
  • unrhyw bremiwm
  • os oes gofyniad cyfreithiol i dalu TTT ar y gwerth marchnadol, nodwch y gwerth marchnadol
  • unrhyw TAW sydd i'w thalu

Os oes les yn gysylltiedig â'r trafodiad, ni ddylai gynnwys rhent.

Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i'r bunt gyfan agosaf.

Rhagor o wybodaeth am y gydnabyddiaeth

Beth yw Cyfeirnod Unigryw Trafodiad (CUT/UTRN) y trafodiadau cysylltiol?

Rhowch Gyfeirnod Unigryw Trafodiad (CUT) unrhyw drafodiadau cysylltiol yr ydych eisoes wedi rhoi gwybod i ACC amdanynt yn y gorffennol. Bydd y CUT ar y Dystysgrif TTT.

Os oes mwy nag un trafodiad cysylltiol yn y gorffennol, dylech gynnwys pob CUT.

Os ydych chi’n rhoi gwybod i ni am drafodiadau cysylltiol sydd â'r un dyddiad dod i rym, dylech chi lenwi un ffurflen ar gyfer yr holl drafodiadau. Gallwch ychwanegu tir ychwanegol ar dudalen grynodeb eich ffurflen ddrafft.

Rhagor o ganllawiau ar drafodiadau cysylltiol

Beth yw cyfanswm gwerth presennol net (NPV) y rhent taladwy dros gyfnodau’r holl lesoedd cysylltiol i’r bunt agosaf?

Os nad oes yr un o’r trafodiadau cysylltiol yn cynnwys rhent mewn perthynas â thir amhreswyl neu dir defnydd cymysg, rhowch ‘£0’ yn ateb.

Os oes unrhyw rai o'r trafodiadau cysylltiol yn cynnwys rhent mewn perthynas â thir amhreswyl neu dir defnydd cymysg, rhaid i chi roi cyfanswm gwerth presennol net (NPV) y rhent taladwy dros gyfnodau'r holl lesoedd cysylltiol i'r bunt agosaf. I gyfrifo’r gwerth hwn, bydd angen i chi bennu gwerth presennol net bob trafodiad perthnasol, fel petaent heb fod yn gysylltiedig â’i gilydd, a nodi swm yr holl werthoedd presennol net.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i gyfrifo’r gwerth presennol net.

A oes unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth, heblaw rhent, yn dibynnu ar ddigwyddiadau annisgwyl yn y dyfodol, neu’n amodol arnynt?

Atebwch ‘Oes’ os oes unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth sydd i’w thalu yn ddibynnol neu'n ansicr. Fel arall, atebwch 'Nac oes’.

Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau dibynnol yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i’r rhain:

  • swm ychwanegol o £x i’w dalu os ceir caniatâd cynllunio o fewn x blynedd
  • swm ychwanegol o £x i’w dalu, os bydd yr elw yn fwy na x

Rhagor o wybodaeth am gydnabyddiaeth ddibynnol

Ydych chi wedi cytuno ag ACC y byddwch yn talu ar sail ohiriedig?

Atebwch ‘Ydw’ os yw ACC wedi rhoi caniatâd ffurfiol i chi ohirio’r dreth trafodiadau tir sy’n daladwy ar gydnabyddiaeth ddibynnol.

Fel arall, atebwch 'Nac ydw’.

Rhagor o wybodaeth am daliadau sydd wedi cael eu gohirio

A yw’r ffurflen hon yn ffurflen ychwanegol at drafodiad blaenorol?

Atebwch ‘Ydy’ os ydych chi eisoes wedi cyflwyno ffurflen mewn perthynas â’r trafodiad hwn, a bod y ffurflen hon yn ‘ffurflen arall’ y mae’n rhaid i'r prynwr ei ffeilio dan reolau TTT.

Enghreifftiau:

Nid dyma’r unig enghreifftiau o’r rhesymau dros orfod cyflwyno ffurflen arall.

Os nad yw hon yn ffurflen ychwanegol, atebwch ‘Nac ydy’.

Os ydych chi wedi llenwi ffurflen flaenorol ar gyfer y trafodiad, rhowch CUT y ffurflenni hynny

Rhowch Gyfeirnod Unigryw Trafodiad (CUT) unrhyw drafodiadau cysylltiol rydych chi eisoes wedi rhoi gwybod i ACC amdanynt yn y gorffennol. Mae’r CUT ar y Dystysgrif TTT.

Nodwch pam bod angen ffurflen arall

Nodwch yn fyr pam eich bod wedi anfon ffurflen arall atom ni. 

Er enghraifft, ‘Wedi talu'r brif gyfradd ar eiddo Prynu i Osod; mae prynu prif breswylfa'n golygu bod y gyfradd uwch nawr yn ôl-ddyledus’.

Rhagor o ganllawiau ar drafodiadau cysylltiol

Cyfanswm y TAW sydd wedi’i thalu

Os oes TAW yn cael ei thalu, nodwch faint sydd wedi cael ei thalu, wedi’i dalgrynnu i lawr i'r bunt agosaf.

Dylai cyfanswm y TAW fod yn gyfanswm o’r canlynol:

  1. TAW dyledus ar gydnabyddiaethau heblaw rhent ac
  2. (NPV / (100 + Cyfradd TAW Bresennol)) X Cyfradd TAW Bresennol (elfen TAW yr NPV)

I ddangos sut ddylai pwynt 2 gael ei gyfrifo: pe bai’r gyfradd TAW bresennol yn 20% a’r NPV yn £100,000, byddai’r elfen TAW yn £16,666, wedi’i gyfrifo fel a ganlyn: (£100,000 / (100+20)) X 20 = £16,666.

Beth yw ffurf y gydnabyddiaeth?

Mae mathau eraill o gydnabyddiaeth (‘tâl’) heblaw arian (‘arian parod’). Bydd y rhan fwyaf o drafodiadau’n cael eu cyflawni’n llwyr drwy daliad mewn arian. Ond, os oes mathau eraill o gydnabyddiaeth yn berthnasol i’r trafodiad hwn, rhaid i chi ddangos yr holl fathau o gydnabyddiaeth drwy ddewis pob opsiwn priodol.

Mae treth i'w thalu ar gyfanswm yr holl fathau o gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol. Rhaid i gydnabyddiaeth heblaw am gydnabyddiaeth mewn arian gael ei phrisio ar ei werth marchnadol llawn ar y dyddiad y daw'r trafodiad i rym.

Rhagor o ganllawiau ar gydnabyddiaeth drethadwy

A yw’r trafodiad hwn yn rhan o werthiant busnes?

Os yw’r tir sy’n cael ei brynu gan y prynwr yn rhan o gytundeb i brynu busnes, rhaid i chi ateb ‘Ydy’. Fel arall, atebwch 'Nac ydy’.

A yw’r trafodiad hwn yn cynnwys materion nad ydynt yn drethadwy dan y Dreth Trafodiadau Tir?

Os yw’r prynwr yn prynu busnes gan gynnwys tir, gall fod cydnabyddiaeth wedi’i rhoi mewn perthynas â materion heblaw’r tir (er enghraifft, ewyllys da, stoc).

Os oes cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi ar gyfer unrhyw beth heblaw’r tir, rhaid i chi ateb ‘Ydy’.

Fel arall, atebwch ‘Nac ydy’.

Nodwch unrhyw fater nad yw’n drethadwy dan y Dreth Trafodiadau Tir

Dewiswch yr hyn y mae’r prynwr wedi rhoi cydnabyddiaeth amdano, mewn perthynas â materion heblaw'r tir. Nid yw’r gydnabyddiaeth a roddir i'r cyfryw faterion yn drethadwy dan y Dreth Trafodiadau Tir.

Swm y gydnabyddiaeth a roddwyd yr ydych wedi’i neilltuo i faterion heblaw am y trafodiad tir

Rhowch swm y gydnabyddiaeth (mewn arian neu gyfwerth ariannol, gan gynnwys TAW) a roddwyd mewn perthynas â’r materion a nodwyd gennych nad oeddynt yn drethadwy o dan y Dreth Trafodiadau Tir.

Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf.