Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir - Ynglŷn â'r cyfrifiad (lle mae les yn gysylltiedig)
Canllawiau ar sut i lenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT) gan ddefnyddio gwasanaethau Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw dyddiad cychwyn y les?
Rhowch y dyddiad cychwyn sy’n cael ei ddangos yn y les. Os yw'r les yn dangos bod y dyddiad cychwyn yn y dyfodol, rhowch y dyddiad yn y dyfodol.
Beth yw dyddiad terfynu’r les?
Rhowch y dyddiad terfynu sy’n cael ei ddangos yn y les. Peidiwch â rhoi'r dyddiad adolygu neu ddyddiad pwyntiau terfynu (‘break point date’).
Os yw’r trafodiad oherwydd rhoi les gymysg/amhreswyl newydd, lle mae dyddiad cychwyn y les cyn y dyddiad dod i rym, cadarnhewch pa ddyddiad sydd i’w ddefnyddio at ddibenion cyfrifo gwerth presennol net, naill ai ddyddiad dechrau'r les neu’r dyddiad dod i rym.
Y senarios mwyaf cyffredin lle dylid dewis dyddiad cychwyn y les yw:
- lesoedd dal drosodd (gweler DTTT/4060), a
- lle mae les yn parhau ar ôl cyfnod penodol, a rhoddir les newydd (cyfeiriwch at DTTT/4030).
Ar gyfer y rhan fwyaf o drafodiadau eraill, y 'Cyfrifo o'r dyddiad y daw'r trafodiad i rym' fyddai'r opsiwn priodol