Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw cyfnod y les (blynyddoedd)?

Rhowch nifer y blynyddoedd y mae’r les i fod yn weithredol, gan anwybyddu unrhyw derfynu cynnar posibl.

Os nad yw’r les i fod i redeg am nifer cyfan o flynyddoedd, talgrynnwch i lawr i’r flwyddyn gyfan agosaf.

Er enghraifft, os yw’r les i redeg am 10 mlynedd a 6 mis, rhowch ‘10’.

Blwyddyn rhent 1

Rhowch swm y rhent sy’n daladwy ar gyfer blwyddyn gyntaf y les. Dylech gynnwys unrhyw rent sy’n ddibynnol ar ddigwyddiadau ansicr.

Rhowch y swm mewn punnoedd sterling. Peidiwch â thalgrynnu i’r bunt agosaf; dangoswch y ceiniogau ar ôl y pwynt degol.

Os nad oes rhent yn daladwy i'r landlord am y flwyddyn gyntaf, rhowch ‘£0’.

Blwyddyn rhent 2

Rhowch swm y rhent sy’n daladwy ar gyfer ail flwyddyn y les. Dylech gynnwys unrhyw rent sy’n ddibynnol ar ddigwyddiadau ansicr.

Rhowch y swm mewn punnoedd sterling. Peidiwch â thalgrynnu i’r bunt agosaf; dangoswch y ceiniogau ar ôl y pwynt degol.

Os nad oes rhent yn daladwy i'r landlord am yr ail flwyddyn, rhowch ‘£0’.

Blwyddyn rhent 3

Rhowch swm y rhent sy’n daladwy ar gyfer trydedd flwyddyn y les. Dylech gynnwys unrhyw rent sy’n ddibynnol ar ddigwyddiadau ansicr.

Rhowch y swm mewn punnoedd sterling. Peidiwch â thalgrynnu i'r bunt agosaf, dangoswch y ceiniogau ar ôl y pwynt degol.

Os nad oes rhent yn daladwy i'r landlord am y drydedd flwyddyn, rhowch ‘£0’.

Blwyddyn rent 4

Rhowch swm y rhent sy’n daladwy ar gyfer pedwaredd flwyddyn y les. Dylech gynnwys unrhyw rent sy’n ddibynnol ar ddigwyddiadau ansicr.

Rhowch y swm mewn punnoedd sterling. Peidiwch â thalgrynnu i'r bunt agosaf, dangoswch y ceiniogau ar ôl y pwynt degol.

Os nad oes rhent yn daladwy i'r landlord am y bedwaredd flwyddyn, rhowch ‘£0’.

Blwyddyn rent 5

howch swm y rhent sy’n daladwy ar gyfer pumed flwyddyn y les. Dylech gynnwys unrhyw rent sy’n ddibynnol ar ddigwyddiadau ansicr.

Rhowch y swm mewn punnoedd sterling. Peidiwch â thalgrynnu i'r bunt agosaf, dangoswch y ceiniogau ar ôl y pwynt degol.

Os nad oes rhent yn daladwy i'r landlord am y bumed flwyddyn, rhowch ‘£0’.

Rhent perthnasol

Rhowch y ‘rhent perthnasol’.

Y rhent perthnasol yw'r rhent blynyddol cyfartalog sy’n daladwy ar draws cyfnod llawn y les.

Rhagor o ganllawiau ar rent perthnasol

Rhowch y swm mewn punnoedd sterling. Peidiwch â thalgrynnu i'r bunt agosaf, dangoswch y ceiniogau ar ôl y pwynt degol.

Rhent uchaf sy’n daladwy mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol yn y pum mlynedd gyntaf

Rhowch y swm uchaf o rent sy’n daladwy mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn olynol o fewn pum mlynedd gyntaf cytundeb y les.

Sylwch nad yw hwn o anghenraid y gwerth uchaf a roddwyd gennych ar gyfer y blynyddoedd rhent a ddarparwyd.

Enghraifft: cytundeb les sydd i redeg am 2 flynedd

 

Rhent

Blwyddyn 1: 6 mis cyntaf

£0

Blwyddyn 1: ail 6 mis

£10,000

Blwyddyn 2: 6 mis cyntaf

£10,000

Blwyddyn 2: 6 mis olaf

£0

Yn yr enghraifft hon, y rhent ar gyfer blwyddyn 1 yw £10,000 ac mae’r rhent ar gyfer blwyddyn 2 hefyd yn £10,000. Ond, y rhent uchaf sy’n daladwy mewn unrhyw gyfnod olynol o 12 mis yw £20,000.

Rhowch y swm mewn punnoedd sterling. Peidiwch â thalgrynnu i'r bunt agosaf, dangoswch y ceiniogau ar ôl y pwynt degol.

Beth yw'r gwerth presennol net?

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i’ch helpu i gyfrifo hyn.