Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw dyddiad y contract?

Rhaid defnyddio'r fformat dd/mm/bbbb ar gyfer y dyddiad, er enghraifft '31/01/2023' a rhaid iddo fod yn ddyddiad heddiw neu ddyddiad yn y gorffennol. Gallwch roi dyddiad yn y dyfodol neu ei adael yn wag i ddangos swm tebygol o dreth. Fodd bynnag, mae’n rhaid rhoi dyddiad cywir ar y cam cyflwyno.

Os nad oes dyddiad contract ar gyfer y trafodiad, defnyddiwch y dyddiad dod i rym. 

Beth yw dyddiad dod i rym y trafodiad?

Dyddiad dod i rym trafodiad tir fel arfer yw’r dyddiad y cwblheir y trafodiad; nid y dyddiad cyfnewid contractau. Ond, mae rheolau hefyd ynglŷn â ‘chyflawni’n sylweddol’ sy’n golygu y gallai TTT fod yn ddyledus yn gynt.

Rhagor o ganllawiau ar 'gyflawni’n sylweddol'

Rhaid i’r dyddiad fod yn y fformat dd/mm/bbbb, er enghraifft 01/04/2018. Gallwch roi dyddiad yn y dyfodol neu ei adael yn wag i ddangos y swm tebygol o dreth. Fodd bynnag, mae’n rhaid rhoi dyddiad cywir ar y cam cyflwyno.

Ydych chi'n hawlio rhyddhad treth?

Atebwch ‘Ydw’ os yw'r prynwr yn hawlio unrhyw ryddhad treth sydd ar gael o dan reolau TTT.

Os nad yw'r prynwr yn hawlio rhyddhad, atebwch 'Nac ydw' ac fe fydd yn mynd â chi ymlaen i'r adran nesaf 'Beth yw cyfanswm y gydnabyddiaeth mewn arian neu werth arian, gan gynnwys unrhyw TAW sy'n daladwy mewn gwirionedd, ar gyfer y trafodiad (gan gynnwys unrhyw bremiwm)?'

Nid oes rhyddhad i brynwyr tro cyntaf ar gael yng Nghymru.

Dylech gofio nad yw rhyddhad yr un fath ag esemptiad. Os yw trafodiad yn esempt rhag TTT, does dim angen ffeilio ffurflen dreth o gwbl.

Pa ryddhad treth ydych chi’n ei hawlio?

Dewiswch bob rhyddhad mae’r prynwr yn ei hawlio.

Codau rhyddhad ar gyfer Treth Trafodiadau Tir

Cod

Disgrifiad o’r rhyddhad

001

Caffael anheddau penodol

002

Rhyddhad i elusennau

003

Rhyddhad grŵp

004

Tai cymdeithasol

005

Cyn cwblhau - is–werthiant cymwys

006

Cyn cwblhau - aseinio hawliau

007

Rhyddhad gwerthu ac adlesu

008

APFR: ar les i berson

009

APFR: wed’i ail-werthu i berson

010

AFIBR: cyntaf ac ail

011

Gwasanaeth iechyd a chyrff cyhoeddus

021

Corffori LLP

022

Atgyfansoddi

023

Cymdeithasau adeiladu, cymdeithasau cyfeillgar

024

OEIC

025

Pryniant gorfodol

026

Rhwymedigaethau cynllunio

027

Masnachwr eiddo

028

Adleoli cyflogaeth

029

Cyd-berchnogaeth

031

Rhyddhad a gynhwysir yn atodlen 22 DTTT a rhyddhad diplomyddol

050

Rhannol - Anheddau lluosog

051

Rhannol - Caffael penodol o anheddau

052

Rhannol - Rhyddhad i elusennau

053

Rhannol - Cyn cwblhau

054

Rhannol - Rhyddhad caffael

055

Rhannol - Masnachwr eiddo

056

Rhannol - Adleoli cyflogaeth

057

Rhannol - Hawliau ar y cyd

058

Rhannol - Cydnabyddiaeth ddibynnol

059

Rhannol - Cyd-berchnogaeth

A yw rhyddhad yn cael ei hawlio ar ran o'r trafodiad yn unig?

Os nad yw'r rhyddhad yn lleihau swm y gydnabyddiaeth sy’n drethadwy dan y Dreth Trafodiadau Tir i £0, atebwch ‘Ydy’. Fel arall, atebwch 'Nac ydy’.

Rhowch y swm sy’n ar ôl yn drethadwy

Rhwch swm y gydnabyddiaeth (mewn arian neu gyfwerth ariannol, gan gynnwys TAW) sy’n dal yn drethadwy dan y Dreth Trafodiadau Tir ar ôl i bob rhyddhad perthnasol gael ei ystyried.

Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf.

Faint o anheddau sy’n cael eu prynu?

Nodwch gyfanswm yr anheddau a brynwyd fel rhan o'r pryniant hwn.

Beth yw’r gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd am yr anheddau a brynwyd?

Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i'r bunt agosaf.

Rhagor o ganllawiau ar gydnabyddiaeth drethadwy

A oes unrhyw un o’r anheddau a brynwyd yn is-anheddau?

Atebwch 'Ydy' os oes unrhyw is-anheddau. Fel arall, atebwch 'Nac ydy’.

Rhagor o ganllawiau ar is-anheddau

Faint o’r anheddau sy’n is-anheddau?

Rhowch nifer yr is-anheddau.

Beth yw’r gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd am yr is-annedd/is-anheddau?

Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i'r bunt agosaf.

Rhagor o ganllawiau ar gydnabyddiaeth drethadwy

 

A yw’r trafodiad yn cynnwys unrhyw dir arall, megis tir amhreswyl?

Atebwch 'Ydy' os oes unrhyw dir arall. Fel arall, atebwch 'Nac ydy’.

Beth yw'r gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd am y tir arall?

Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i'r bunt agosaf.

Rhagor o ganllawiau ar gydnabyddiaeth drethadwy

Beth yw cyfanswm y gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol, gan gynnwys unrhyw TAW sy'n daladwy mewn gwirionedd, ar gyfer y trafodiad (gan gynnwys unrhyw bremiwm)?

Rhowch gyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n cael ei rhoi ar gyfer y rhan o'r trafodiad y mae TTT yn daladwy arni (peidiwch â chynnwys unrhyw ran o'r trafodiad y mae SDLT yn daladwy arni yn Lloegr neu’r LBTT yn yr Alban.)

Dylai'r swm y byddwch yn ei nodi fel cydnabyddiaeth gynnwys y canlynol lle bo’n briodol:

  • cyfanswm y gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddwyd gan y prynwr ym mha ffurf bynnag, am y tir neu eiddo
  • cyfanswm y gydnabyddiaeth a roddwyd ar gyfer yr aseiniad
  • unrhyw bremiwm
  • os oes gofyniad cyfreithiol i dalu TTT ar y gwerth marchnadol, nodwch y gwerth marchnadol
  • unrhyw TAW sydd i'w thalu mewn gwirionedd

Os oes les yn gysylltiedig â'r trafodiad, ni ddylai gynnwys rhent.

Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf.

Rhagor o ganllawiau ar gydnabyddiaeth