Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych chi'n anghytuno â’r cyfrifiad TTT a gynhyrchwyd gan y system neu’n dymuno dewis ac yn penderfynu nodi swm gwahanol, gofynnir rhagor o gwestiynau i chi.

Yn yr achos hwn, dewiswch y rheswm priodol:

  • Trafodiad partneriaeth pan fo’’r dreth yn cael ei chyfrifo drwy ddefnyddio swm y cyfrannau is
  • Wedi'i addasu ar gyfer rhyddhad gorgyffwrdd ar drafodiad les
  • Rheolau trosiannol yn berthnasol
  • Arall

Defnyddiwch ‘reolau trosiannol yn berthnasol’ os ydych yn ffeilio ffurflen dreth lle’r ydych yn dewis i’r trefniadau trosiannol fod yn berthnasol oherwydd y newidiadau i’r prif gyfraddau a bandiau preswyl TTT a wnaed ar 10 Hydref 2022.

Efallai y byddwch yn gallu gwneud y dewis hwn pan:

  • fydd contractau wedi'u cyfnewid cyn 10 Hydref 2022 ond heb eu cwblhau, ac
  • nad oes unrhyw newidiadau sylweddol i'r trafodiad rhwng cyfnewid a chwblhau

Defnyddiwch 'reolau trosiannol yn berthnasol' os ydych yn ffeilio ffurflen dreth lle mae'r eithriad i'r newidiadau i gyfraddau a bandiau TTT a wnaed ym mis Rhagfyr 2020 yn berthnasol. Mae hyn pan mae contractau wedi'u cyfnewid cyn 22 Rhagfyr ond heb eu cwblhau a gellir defnyddio'r cyfraddau treth blaenorol os nad oes unrhyw newidiadau sylweddol i'r trafodiad rhwng cyfnewid a chwblhau.

Rhagor o ganllawiau ar drafodiadau partneriaeth

Rhagor o ganllawiau ar ryddhad gorgyffwrdd ar drafodiad les

Canllawiau pellach ar reolau trosiannol ar gyfer newidiadau prif gyfraddau Hydref 2022

Eglurhad o’r cyfrifiad

Rhowch fanylion sut y gwnaethoch gyfrifo'r dreth ar y ffigwr newydd.