Neidio i'r prif gynnwy

Gallwch ychwanegu parseli ychwanegol o dir drwy ddychwelyd i'r sgrin grynodeb ar gyfer pob ffurflen ddrafft.

Cyfeiriad y tir sy'n cael ei brynu

Defnyddiwch ‘chwilio cyfeiriad’ i ddod o hyd i’ch eiddo  fel bod gennym ddata cywir. Os na allwch chi ddod o hyd i’r cyfeiriad drwy ‘chwilio cyfeiriad’, gallwch ei roi i mewn eich hun.

Disgrifiad o leoliad y tir

Os nad oes gan y tir gyfeiriad post, dylech roi disgrifiad o ble mae'r tir wedi'i leoli mewn perthynas â nodweddion amlwg cyfagos.

Os nad oes cyfeiriad post, rhaid i chi roi cynllun o'r tir i'r Swyddfa Brisio. Rhaid i'r cynllun gynnwys y dimensiynau a disgrifiad llawn o'r ffiniau, a Chyfeirnod Unigryw y Trafodiad (CUT/UTRN) byddwn yn ei roi i chi. Gallwch anfon yr wybodaeth hon yn electronig at Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn sdlt@voa.gov.uk

Awdurdod lleol

Rhowch enw’r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am yr ardal lle mae'r tir wedi’i leoli. Rhaid i chi roi'r awdurdod lleol priodol o’r rhestr.

Cyfeirnod unigryw’r eiddo

Bydd hwn yn cael ei lenwi’n awtomatig pan fyddwch yn dewis cyfeiriad gan ddefnyddio’r chwiliwr cod post. Os byddwch wedi rhoi’r cyfeiriad i mewn eich hun, bydd angen i chi wneud yr un peth wrth roi Cyfeirnod Unigryw yr Eiddo.

Rhif y teitl

Os yw'r eiddo wedi'i gofrestru, rhowch rif y teitl.

Os oes mwy nag un teitl yn berthnasol i wahanol rannau o'r eiddo, rhowch bob un o’r teitlau yma.

A yw hwn yn drafodiad croes-deitl Cymru-Lloegr?

Os yw'r darn tir i gyd a’i ffiniau wedi’u lleoli’n gyfan gwbl yng Nghymru, atebwch ‘Nac ydy’. Os oes rhan o'r tir a’i ffiniau yng Nghymru a rhan ohono yn Lloegr (ni waeth pa mor fach yw’r rhan honno), atebwch ‘Ydy’.

Efallai y byddwch am ddefnyddio ein gwiriwr i weld a yw cod post wedi ei leoli yng Nghymru ar gyfer TTT.

Rhagor o ganllawiau ynglŷn â thrafodiadau traws deitl

Cyfanswm y gydnabyddiaeth am y teitl yn ei gyfanrwydd

Os yw hwn yn drafodiad croes-deitl, rhowch gyfanswm y gydnabyddiaeth sy’n cael ei wneud am gyfanswm y teitlau, gan gynnwys y rhannau yng Nghymru ac yn Lloegr.

Dylai'r swm y byddwch yn ei nodi fel cydnabyddiaeth gynnwys y canlynol lle bo’n briodol:

  • cyfanswm y gydnabyddiaeth mewn arian neu gyfwerth ariannol a roddwyd gan y prynwr ym mha ffurf bynnag am y tir neu’r eiddo
  • cyfanswm y gydnabyddiaeth a roddwyd am yr aseiniad
  • unrhyw bremiwm
  • os oes gofyniad cyfreithiol i dalu TTT ar y gwerth marchnadol, rhowch y gwerth marchnadol
  • unrhyw TAW sydd i'w thalu

Os oes les yn gysylltiedig â'r trafodiad, ni ddylai’r gydnabyddiaeth gynnwys rhent.

Rhowch y swm wedi’i dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf.

A yw hwn yn dir amaethyddol neu ddatblygu?

Tir amaethyddol yw tir a ddefnyddir yn bennaf at ddibenion amaethyddol; er enghraifft, magu da byw, tyfu cnydau, neu debyg.

Tir datblygu yw tir mae’r prynwr yn ei brynu i’w ddatblygu at ddibenion preswyl, masnachol neu beirianneg sifil. Does dim angen cael caniatâd cynllunio.

Os yw'r tir yn cyfateb i'r naill ddiffiniad neu'r llall, atebwch ‘Ydy’.

Ym mhob achos arall, atebwch ‘Nac ydy’.

Beth yw arwynebedd y tir?

Os yw'r trafodiad yn ymwneud â thir amaethyddol neu dir datblygu, rhaid i chi nodi’r arwynebedd. Dewiswch naill ai fetrau sgwâr neu hectarau. Peidiwch â defnyddio unrhyw uned fesur arall.

  • Os ydych yn rhoi metrau sgwâr, rhowch rif cyfan wedi’i dalgrynnu i lawr i'r metr sgwâr agosaf.
  • Os ydych yn rhoi hectarau, talgrynnwch i lawr i’r 2 le degol agosaf.

A oes unrhyw fwynau neu hawliau mwynau wedi'u cadw yn ôl yng ngweithredoedd y teitl?

Os oes unrhyw fwynau neu hawliau mwynau wedi’u cadw yn ôl, bydd yn cael ei ddangos ar weithredoedd y teitl. Os oes hawliau o'r fath yn bodoli, atebwch ‘Oes’, ni waeth pwy sy’n dal yr hawliau hynny.

Fel arall, atebwch ‘Nac oes’.

A oes unrhyw dir yn cael ei gyfnewid neu ei ran-gyfnewid?

Os oes tir yn rhan o’r gydnabyddiaeth rhwng y prynwr a’r gwerthwr, atebwch ‘Oes’.  Fel arall, atebwch ‘Nac oes’.

Cyfeiriad rhan tir sydd wedi'i ran-gyfnewid

Os yw'r tir yn cael ei gyfnewid, rhowch gyfeiriad post y tir a gafodd ei ran-gyfnewid.